Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad To receive any Declarations and advise Members accordingly. Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Attridge, Jones, Mullin a Shotton gysylltiad personol ag eitem rhif 8 ar yr agenda - Trefniadaeth Ysgolion. |
|
To confirm as a correct record the minutes of the last meeting. Cofnodion: Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2017 wedi eu cylchredeg gyda’r agenda.
Dywedodd y Cynghorydd Bithell mai ef ac nid y Cynghorydd Mullin oedd wedi cyflwyno’r eitem ar y Cynllun Gwasanaeth Bwyd i Gyngor Sir y Fflint 2017/18.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir yn amodol ar y newid uchod.
Dywedodd y Cynghorydd Shotton y byddai eitem rhif 8 - Trefniadaeth Ysgolion, yn cael ei hystyried fel yr eitem gyntaf ar yr agenda. |
|
Trefniadaeth Ysgolion PDF 105 KB Pwrpas: Yr wybodaeth ddiweddaraf ar Ffederasiwn a chynigion trefniadaeth ysgol eraill. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad am Drefniadaeth Ysgolion a oedd yn amlinellu amodau a oedd ynghlwm wrth fenter ariannu a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru (LlC) i hyrwyddo arloesi a chodi safonau mewn ysgolion bach a gwledig. Amlygwyd manylion cais y Cyngor am gyllid ar gyfer ysgolion bach a gwledig yn Sir y Fflint yn yr adroddiad.
Yn yr adroddiad hefyd cafwyd manylion y datblygiadau positif yn y gwaith o greu ffederasiynau ysgol newydd yn rhwydwaith ysgolion y Cyngor.
Byddai’r cyllid ar gyfer ysgolion bach a gwledig yn cael ei ddefnyddio i hwyluso ac annog arloesi a newid a fyddai o fudd i’r ysgolion hynny, eu disgyblion a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Prif ddibenion y cyllid grant oedd:
· Annog arloesi; · Cefnogi mwy o waith ysgol i ysgol; · Darparu cymorth gweinyddol ychwanegol mewn ysgolion ble roedd gan y pennaeth ymrwymiad addysgu arwyddocaol o 10% o'r amserlen o leiaf; a · Chynyddu defnydd y gymuned o adeiladau’r ysgol boed hynny at ddibenion addysgol neu anaddysgol.
Wrth sôn am gynnydd ffederasiynau ysgol, esboniodd y Cynghorydd Roberts fod gan Lywodraethwyr Ysgolion y grym i ddewis ffedereiddio o dan ddarpariaethau a gyflwynwyd yn 2010. Tan yn ddiweddar, dim ond un enghraifft oedd wedi bod o Lywodraethwyr Sir y Fflint yn defnyddio eu grymoedd i ffedereiddio gyda ffederasiwn ffurfiol. Cytunwyd ar ffederasiwn ffurfiol rhwng Ysgol Mornant ac Ysgol Maes Garmon yn ystod y broses cynigion statudol i gau Ysgol Mornant. Byddai’r Cyngor yn ymdrechu i gefnogi ffederasiwn mewn achosion ble mae cyrff llywodraethu ysgolion yn cyd-gytuno.
Cytunodd Cyrff Llywodraethu Ysgol Gronant ac Ysgol Trelogan ac Ysgol y Waun ac Ysgol Gynradd Gwernymynydd i gynnal ymgynghoriad ynghylch cynnig i sefydlu ffederasiwn yn eu hysgolion/ardaloedd perthnasol. I Ysgol Gronant ac Ysgol Trelogan, byddai ffederasiwn yn cael ei weithredu’n swyddogol ar 8 Ionawr 2018. I Ysgol y Waun ac Ysgol Gwernymynydd byddai ffederasiwn yn cael ei weithredu’n swyddogol ar 8 Chwefror 2018. Byddai pob ffederasiwn yn cael ei reoli gan un Pennaeth Gweithredol.
Ym mis Rhagfyr 2016, comisiynodd y Cabinet ymgynghoriad ar gynigion statudol ar ddau safle, un ohonynt oedd cyfuno Ysgolion Brynffordd a Licswm i ffurfio un ysgol ar ail safle. Yn dilyn trafodaethau gyda'r ddwy ysgol, argymhellwyd y dylid cael egwyl fer er mwyn caniatáu i swyddogion weithio gyda Chyrff Llywodraethu’r ddwy ysgol cyn i argymhelliad gael ei roi gerbron y Cabinet, a chefnogwyd yr argymhelliad hwnnw.
O ran Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Nercwys, roedd yr Awdurdod Esgobaethol wedi cynnal trafodaethau positif gyda'r Llywodraethwyr yngl?n â'r posibilrwydd o ffurfio ffederasiwn ffurfiol gyda phartner addas ac roedd trafodaethau cynnar wedi dechrau gydag ysgol arall. Roedd y Llywodraethwyr wedi cytuno, mewn egwyddor, cydweithio’n fwy agos ag ysgol arall a sefydlu Is-bwyllgor ar y cyd a fyddai’n cael ei gynnal yn yr hydref ble byddai ffederasiwn yn cael ei drafod. Cefnogwyd hyn ac argymhellwyd fod mwy o amser yn cael ei roi ar gyfer trafodaethau.
Soniodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) am y camau positif a gymerwyd gan rai ysgolion i wneud ymdrech frwd i ... view the full Cofnodion text for item 43. |
|
Cynllun y Cyngor 2017-23 PDF 83 KB Pwrpas: Cymeradwyo Cynllun y Cyngor 2017-23 cyn i’r Cyngor Sir ei gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Shotton Gynllun y Cyngor 2017-23 a oedd wedi’i adolygu a’i ddiweddaru i adlewyrchu prif flaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer tymor 5 mlynedd y weinyddiaeth newydd.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod pob un o’r Pwyllgorau Arolygu a Chraffu wedi trafod Cynllun y Cyngor ac roedd atodiad wedi’i gynhyrchu a oedd yn rhoi manylion y newidiadau arfaethedig o’r Pwyllgorau Arolygu a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a Newid Sefydliadol, a theimlwyd fod y rhain yn ychwanegu gwerth i’r Cynllun.
Diolchodd y Cynghorydd Mullin i’r Pwyllgorau Arolygu a Chraffu am eu hymgysylltiad â'r Cynllun a’u sylwadau a oedd yn cael eu croesawu.
Soniodd y Cynghorydd Attridge am rai o’r pethau yn y Cynllun a oedd yn dibynnu ar gyllid Llywodraeth Cymru (LlC), megis Cefnogi Pobl i atal digartrefedd, er mwyn sicrhau fod targedau yn y Cynllun yn cael eu cyrraedd. Cytunodd y Cynghorydd Jones a soniodd am y ddibyniaeth ar y Gronfa Gofal Integredig i helpu pobl i aros yn eu cartrefi.
Roedd y Cynghorydd Thomas yn falch fod Twristiaeth yn cael ei gynnwys yn y Cynllun a fyddai’n cael ei gryfhau oherwydd ailstrwythuro a oedd yn digwydd ar hyn o bryd.
Ar dudalen 58, gofynnodd y Cynghorydd Bithell a oedd y Strategaeth Dreftadaeth wedi’i hanelu at y sir gyfan a chadarnhawyd ei bod. Yn dilyn trafodaeth cytunwyd y dylid gwneud hynny’n glir yn y Cynllun.
Canmolodd y Cynghorydd Roberts y gwaith a oedd wedi’i wneud yng Nghanol Tref y Fflint o ganlyniad i gyllid grant y loteri.
PENDERFYNWYD:
Ardystio Cynllun y Cyngor 2017-23 manwl cyn iddo gael ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir i'w gyhoeddi'n derfynol ar ôl ei ddiwygio yng ngoleuni sylwadau a wnaethpwyd yn ystod y broses Arolygu a Chraffu. |
|
Adroddiad Cynnydd y Fargen Twf Economaidd Gogledd Cymru PDF 153 KB Pwrpas: Rhannu’r sefyllfa gyfredol ar ddatblygu bargen twf gan alw am benderfyniadau ac amserlenni allweddol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar Gais Cytundeb Twf Economaidd Gogledd Cymru a oedd, ar ôl i'r Cabinet fabwysiadu Gweledigaeth Twf i Economi Gogledd Cymru, yn darparu manylion am y gwaith rhanbarthol a oedd yn cyd-ddigwydd â’r cytundeb datblygu ar gyfer ceisiadau twf mewn rhanbarthau dethol yn Lloegr a de Cymru.
Symudwyd gwaith ar y Strategaeth ymlaen er mwyn ei chynnwys mewn cais ffurfiol o dan y pedwar thema rhyng-gysylltiedig sef safleoedd strategol cyflogaeth a thai; twf busnes ac arloesi; seilwaith trafnidiaeth a gwasanaethau; a sgiliau, bod heb waith a diwygio cymdeithasol.
Cafodd y model llywodraethu rhanbarthol dewisedig ei nodi yn yr adroddiad sef cydbwyllgor statudol. Roedd angen trefniadau pontio ar gyfer rheoli gwleidyddol yn y cam cyntaf wrth aros i’r cydbwyllgor gael ei ffurfio. Gan hynny, cynigwyd cael cydbwyllgor ‘cysgodol’ heb unrhyw bwerau i wneud penderfyniadau.
Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a soniodd am y momentwm cynyddol yng nghynghorau gogledd Cymru i wneud y Cais Cytundeb Twf yn llwyddiant. Ar ôl i’r holl awdurdodau partner gymeradwyo adroddiadau tebyg am gynnwys y Cais Cytundeb Twf, byddai cyfarfodydd yn dechrau o fis Hydref ymlaen.
Cytunodd y Cynghorydd Attridge a dywedodd fod hyn yn enghraifft dda arall o weithio ar y cyd.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Pwyllgor Arolygu a Chraffu Cymuned a Menter wedi cael cyfarfod briffio preifat am y pwnc hwn a’i fod wedi cael croeso mawr.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod cynnydd yn natblygiad y Cais Cytundeb Twf cystadleuol ar gyfer y rhanbarth yn cael ei nodi a’i gefnogi;
(b) Bod y model llywodraethu dewisedig sef Cydbwyllgor statudol i ddatblygu ymhellach yn cael ei gefnogi mewn egwyddor gydag adroddiad llawn am gyfansoddiad a chylch gorchwyl a agymhellir, wedi’i ategu gan Gytundeb Rhwng Awdurdodau, yn dilyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn;
(c) Bod Arweinydd y Cyngor yn cael awdurdod i weithredu fel aelod o Gydbwyllgor 'cysgodol' am gyfnod dros dro;
(d) Bod Arweinydd y Cyngor, fel un o Arweinwyr y chwe Chyngor partner a gynrychiolir ar y Cydbwyllgor Cysgodol, yn cael awdurdod i ddechrau trafodaethau cam cyntaf ar y cyd â Llywodraethau yngl?n â maint ac amlinelliad o gynnwys y Cais Cytundeb Twf, gan nodi na fydd unrhyw ymrwymiadau ariannol nac eraill yn cael eu dechrau yn y cyfnod trafod dechreuol hwn; a
(e) Bod y Prif Weithredwr yn cael awdurdod dirprwyedig i ganiatáu cyfraniad refeniw dechreuol o wariant 2017/18 ar gyfer datblygiad manwl y Cais Cytundeb Twf hyd at uchafswm o £50,000. |
|
Strategaeth Ffafriedig y Cynllun Datblygu Lleol er mwyn ymgynghori arni PDF 90 KB Pwrpas: Cymeradwyo Strategaeth Ffafriedig y Cynllun Datblygu Lleol i’w chyhoeddi i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol arni. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad am Strategaeth Ddewisedig ar gyfer Ymgynghori ar y Cynllun Datblygu Lleol.
Roedd gwaith wedi’i wneud yn derfynol ar y CDLl a oedd bellach yn arwain at Strategaeth Ddewisedig. Roedd yr holl waith ar y Cynllun wedi’i arolygu gan Gr?p Strategaeth Cynllunio’r Cyngor (GSC) a oedd wedi ystyried a chytuno ar bob cam a hefyd wedi ystyried adborth a dderbyniwyd o’r ymarferion ymgynghori ac ymgysylltu amrywiol. Roedd y consensws o'r adborth wedi cynorthwyo'r GSC i gytuno ar gynnwys y Strategaeth Ddewisedig i’w hargymell i’r Cyngor i’w chymeradwyo a chynnal ymgynghoriad ffurfiol yn ei chylch.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) fod cyfarfodydd briffio am y Strategaeth wedi’u cynnal yn ystod mis Gorffennaf ar gyfer Aelodau a Chynghorau Tref a Chymuned cyn i'r ymgynghoriad arni ddechrau. Roedd llawer wedi mynychu’r sesiynau ac roedd yr adborth cyffredinol yn bositif. Esboniodd nad oedd y Strategaeth yn seiliedig ar y dull gwaith traddodiadol; roedd yn cael ei arwain gan gyflogaeth. Dyma’r dull a fabwysiadwyd gan Gynghorau Môn a Gwynedd hefyd a oedd wedi paratoi CDLl ar y cyd a oedd yn 'gadarn' yn gynharach yn y flwyddyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Strategaeth Ddewisedig y Cynllun Datblygu Lleol sydd ynghlwm wrth yr adroddiad yn cael ei baratoi a’i gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol;
(b) Bod swyddogion yn cael awdurdod dirprwyedig i barhau i goethi a chwblhau’r ddogfen Strategaeth Ddewisedig a gwybodaeth gefnogol yn barod ar gyfer ymgynghoriad; a
(c) Bod Strategaeth Ddewisedig y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei chyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol yn ystod mis Hydref 2017. |
|
Cynllun Gweithredu Strategaeth Gaffael PDF 102 KB Pwrpas: I gymeradwyo cynllun gweithredu. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Gynllun Gweithredu’r Strategaeth Gaffael a oedd wedi’i baratoi i ddangos sut y byddai canlyniadau’r Strategaeth yn cael eu cyflawni. Roedd y cynllun gweithredu hefyd yn cynnwys mesurau a fyddai’n cael eu defnyddio i olrhain cynnydd.
Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cynllun Gweithredu wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Arolygu a Chraffu Adnoddau Corfforaethol diweddar a’i fod wedi derbyn cefnogaeth. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Attridge, esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod posibilrwydd o gydweithio â mwy o Gynghorau. Roedd y Strategaeth wedi bod yn waith ar y cyd â Chyngor Sir Ddinbych gan eu bod wedi cynnal y Tîm Caffael ar gyfer y ddau awdurdod.
Croesawodd y Cynghorydd Shotton y categorïau ar gyfer y camau gweithredu a gynlluniwyd, yn arbennig y rheiny ar fuddion cymunedol. Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar y trefniadau ar gyfer buddion cymunedol a fyddai’n dangos llawlyfr a fyddai ar gael i gontractwyr, yn esbonio beth oedd buddion cymunedol priodol ar gyfer gwahanol fathau o gontractau.
PENDERFYNWYD:
Bod y cynllun gweithredu a'r mesur a fydd yn cael ei adrodd yn gyhoeddus yn cael ei gymeradwyo. |
|
Cynnig Gofal Plant Am Ddim PDF 839 KB Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y rhaglen cynnig gofal plant am ddim sy’n datblygu. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad Cynnig Gofal Plant Am Ddim ac esboniodd mai nod y cynnig yw lliniaru effeithiau tlodi ar ganlyniadau i blant a lleihau anghydraddoldeb.
Erbyn diwedd Cynulliad presennol Cymru yn 2021, bydd y Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar i blant 3 a 4 oed am 48 wythnos y flwyddyn i rieni sy’n gweithio a byddai’n cael ei ariannu gan y llywodraeth. Hyd yma, roedd 152 o geisiadau wedi cael eu derbyn trwy broses ymgeisio awtomataidd a oedd yn galluogi rhieni i gofrestru ar-lein a dethol darparwyr gofal plant cofrestredig eu hunain o’r 122 o ddarparwyr cofrestredig, er mwyn gwneud y mwyaf o'r grant i deuluoedd Sir y Fflint.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y broses wedi bod yn un heriol ond boddhaol gyda chynnydd sylweddol yn cael ei wneud. Amlinellodd yr adroddiad risgiau’r prosiect, megis dim digon o leoedd gofal plant i 748 o blant; dim digon o rieni yn cofrestru i gyflawni’r targed; a darpariaeth yn ystod gwyliau.
Canmolodd y Prif Swyddog (Addysg) y Tîm Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd a'r Tîm Hawliau Cynnar a oedd wedi cyflawni’r gwaith gofynnol ar y prosiect hwn. Roedd adborth Llywodraeth Cymru (LlC) wedi bod yn bositif, gan nodi fod Sir y Fflint wedi goresgyn rhai o’r heriau yr oedd awdurdodau eraill wedi methu â’i wneud. Adleisiwyd y sylwadau gan y Cynghorydd Jones.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Attridge, esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) nad oedd unrhyw ymrwymiad ariannol yn ofynnol gan y Cyngor a bod y cynllun yn niwtral o ran cost.
PENDERFYNWYD:
Derbyn adroddiad cyfredol y Cyngor yngl?n â gweithrediad cynnar y Cynnig Gofal Plant a chydnabod y cynnydd a wnaethpwyd. |
|
Adolygu’r Polisi Cynnal yn y Gaeaf PDF 114 KB Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y Polisi Cynnal yn y Gaeaf diwygiedig sy’n cynnwys manylion ymateb y Cyngor yn ystod argyfyngau eraill pan fo tywydd anffafriol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad Polisi Cynnal yn y Gaeaf a oedd yn ddiweddariad o'r Polisi Cynnal yn y Gaeaf presennol. Roedd hefyd yn cadarnhau y gofynion deddfwriaethol i ddarparu gwasanaeth tebyg, dyraniad cyllidebol a gwir wariant y Cyngor wrth gydymffurfio â’r polisi presennol a darparu’r gwasanaeth yn ystod y 4 blynedd ddiwethaf.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) mai arfer da oedd adolygu’r Polisi yn rheolaidd a bod yr adroddiad yn amlinellu’r newidiadau a gynhwysir yn y fersiwn mwyaf diweddar o’r Polisi Cynnal yn y Gaeaf. Hefyd, amlinellodd yr adroddiad ymateb y Sir i achosion eraill o dywydd gwael, fel llifogydd a gwyntoedd cryfion, a gofynnwyd am gymeradwyaeth i’r Polisi Dosbarthu Bagiau Tywod rhanbarthol a fyddai’n cael ei weithredu yn ystod cyfnodau o law trwm neu achosion eraill o lifogydd.
Croesawodd y Cynghorydd Roberts y meini prawf ar gyfer cyfyngiadau traffig ar gyfer A548 Pont Sir y Fflint a gofynnodd pa arwyddion a fyddai’n cael eu defnyddio. Esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) bod adolygiad yn cael ei gynnal o holl arwyddion Sir y Fflint ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i Aelodau'r Cabinet faes o law.
Roedd y Cynghorydd Shotton yn falch o nodi manylion y cerbydau graeanu newydd ar gyfer 2017/18 a oedd yn cynnwys meddalwedd Schmidt Autologic. Byddai hyn yn cynorthwyo’r gyrwyr i weithredu gan sicrhau fod y swm cywir o halen yn cael ei wasgaru ar y rhwydwaith. Roedd hefyd yn croesawu’r Polisi Dosbarthu Bagiau Tywod newydd.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Polisi Cynnal yn y Gaeaf diwygiedig (2017-19) a’r gweithdrefnau a gynhwysir ar gyfer darparu'r gwasanaeth cynnal yn y gaeaf; a
(b) Cymeradwyo manylion ymateb y Sir i achosion o dywydd anffafriol a'r Polisi Dosbarthu Bagiau Tywod newydd. |
|
Polisi Parcio Preswylwyr PDF 85 KB Pwrpas: Adolygu Polisi Parcio Preswylwyr cyfredol y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad am Adolygiad o Bolisi Parcio Preswylwyr y Cyngor. Os oes angen i breswylwyr barcio ar y stryd gan nad oes lleoedd ar gael i barcio oddi ar y stryd, esboniodd y gellid gweithredu Cynllun Parcio i Breswylwyr er mwyn caniatáu i breswylwyr barcio mewn lleoedd wedi'u marcio y tu allan i'w cartrefi trwy arddangos hawlen ddilys.
Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor Arolygu a Chraffu'r Amgylchedd ym mis Mehefin ac argymhellwyd y dylid cynyddu lefel y gefnogaeth leol sy’n ofynnol i ddod â chynllun i rym o 50% i 75%. Nid oedd y ffigwr uwch wedi’i gynnwys yn y polisi diwygiedig oherwydd credwyd y byddai'n eithriadol o annhebygol y byddai unrhyw gynnig yn derbyn y lefel honno o ymateb a byddai hynny'n arwain at rwystro unrhyw gynlluniau rhag symud ymlaen yn y dyfodol. Mewn Cynghorau eraill, 50% oedd y lefel gymeradwyo ble roedd opsiynau Parcio i Breswylwyr yn cael eu cynnig i’r gymuned.
Esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) bod Matrics Asesu Cynllun Parcio i Breswylwyr yn cael ei gynnig ac y byddai’n blaenoriaethu cynlluniau a geisiwyd ar gyfer ystyriaeth. Byddai hwn yn sgorio agweddau perthnasol o’r polisi yn erbyn yr angen am y cynllun ac roedd yn gydnaws â Matrics Asesu’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar gyfer blaenoriaethu cyfyngiadau traffig. Oherwydd y cynnydd mewn ceisiadau am Gynlluniau Parcio i Breswylwyr a chostau adnoddau staff, argymhellwyd y dylid dilyn y matrics ac y dylai'r tri Cynllun Parcio i Breswylwyr sy'n cael y sgoriau uchaf gael eu gweithredu ym mhob blwyddyn ariannol. Roedd hynny’n fforddiadwy o fewn y gyllideb bresennol.
Gofynnodd y Cynghorydd Attridge a fyddai cynlluniau ond yn cael eu gweithredu os ydynt yn cael cefnogaeth y Cyngor Tref neu Gymuned. Esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) y byddai angen cefnogaeth y Cyngor Tref neu Gymuned ar unrhyw gynllun ac na fyddai cynlluniau yn cael eu gweithredu heb y gefnogaeth honno.
Dywedodd y Cynghorwyr Bithell a Roberts eu bod yn cefnogi'r syniad o gadw canran o 50% gan y byddai ei chodi i 75% yn anghyraeddadwy.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r newidiadau i’r Polisi Parcio i Breswylwyr presennol; a
(b) Cymeradwyo Matrics Asesu’r Cynllun Parcio i Breswylwyr a ddefnyddir i flaenoriaethu ceisiadau yn y dyfodol am gymeradwyo cynlluniau Parcio i Breswylwyr. |
|
Adroddiad Gwella Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru PDF 86 KB Pwrpas: Derbyn ac ymateb i Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2016/17. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y Cynghorydd Shotton Mr. Paul Goodlad o Swyddfa Archwilio Cymru i’r cyfarfod.
Esboniodd Mr Goodlad fod yr Adroddiad Gwella Blynyddol (AGB) yn crynhoi’r archwiliad a’r gwaith rheoleiddio a oedd wedi’i gwblhau yn y Cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) ers i'r adroddiad diwethaf gael ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2016. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn yn y fformat newydd.
Yn gyffredinol roedd Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi dod i gasgliad positif sef “Mae’r Cyngor yn cyflawni ei ofynion statudol o ran gwelliant parhaus” ac nid oedd unrhyw argymhellion ffurfiol wedi’u gwneud yn ystod y flwyddyn.
Yr Ymateb Gweithredol, a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad, oedd ymateb y Cyngor a statws cynnydd presennol ar y meysydd a nodwyd fel cynigion gwirfoddol ar gyfer gwelliant.
Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Arolygu a Chraffu Adnoddau Corfforaethol diweddar ac esboniwyd nad oedd unrhyw argymhellion ffurfiol ond roedd y Cyngor am ymateb ar y cynigion gwirfoddol am welliant. Soniodd am yr arsylwadau positif yn yr adroddiad, yn arbennig yngl?n â’r trefniadau llywodraethu da.
Yn y Pwyllgor Arolygu a Chraffu Adnoddau Corfforaethol trafodwyd cael mwy o fewnbwn gan Bwyllgorau Craffu mewn rhai meysydd. Eglurodd y Prif Weithredwr, ar eitemau cyllideb, bod y Pwyllgorau Arolygu a Chraffu yn gallu olrhain cynnydd y cafodd Cadeiryddion y Pwyllgorau hynny eu hannog i nodi meysydd o ddiddordeb iddynt olrhain. Soniodd y Cynghorydd Attridge am y diffyg galwadau gan Bwyllgorau Arolygu a Chraffu ynghylch penderfyniadau’r Cabinet a oedd yn arwydd o effeithiolrwydd y broses cyn craffu a ddilynir gan y Cyngor, gan gynnwys adrodd unrhyw sylwadau penodol i’r Cabinet.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell yngl?n â methu gwarantu nifer y ceisiadau cynllunio a gyflwynwyd, esboniodd Mr. Goodlad nad canran Sir y Fflint o 85% o dargedau wedi’u cyrraedd oedd yr isaf yng Nghymru ond bod rhai Cynghorau wedi cyrraedd canran uwch. Dywedodd fod ganddynt rywfaint o le i 'gyfrifo creadigol' a hefyd sicrhau bod arbedion yn cael eu gweithredu cyn gynted ag y cytunwyd arnynt i helpu i gyflawni arbedion uwch.
PENDERFYNWYD:
Derbyn Adroddiad Gwella Blynyddol 2016/17 a chyflwyno’r Ymateb Gweithredol i’r Adroddiad Gwella Blynyddol i’r Cyngor Sir i’w ardystio. |
|
Adroddiadau astudiaeth Swyddfa Archwilio Cymru PDF 96 KB Pwrpas: Derbyn adroddiadau lleol amrywiol (Llywodraethu Da, Buddsoddi i Arbed, adroddiad dilynol Asesu Corfforaethol) gan Swyddfa Archwilio Cymru a chymeradwyo ymatebion y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Mr. Paul Goodlad yr eitem ac esboniodd fod Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) wedi cwblhau tri adolygiad i’r Cyngor yn ddiweddar fel rhan o’u gwaith archwilio perfformiad. Sef:
· Asesiad Corfforaethol dilynol; · Llywodraethu da wrth benderfynu ar newidiadau i wasanaethau; ac · Effeithiolrwydd rhaglen arbedion y Cyngor.
Soniodd yn arbennig am Effeithiolrwydd rhaglen arbedion y Cyngor a oedd heb ei ymchwilio’n fanwl yn y gorffennol ac roedd yn falch o ddweud fod y gwaith cynllunio a monitro ar gyfer arbedion yn effeithiol a chadarn. Roedd rhai meysydd lle gallai’r Cyngor barhau i gryfhau ei ddull gwaith ond nid oeddent yn feysydd a oedd yn peri pryder.
Croesawodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad a sylwadau Mr. Goodlad. Roedd yn falch o’r sylwadau a wnaethpwyd mewn meysydd yn y Cyngor a oedd wedi derbyn beirniadaeth yn y gorffennol. Diolchodd i’r tîm cyllid a’r Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gyllid am eu gwaith i sicrhau adroddiad positif.
PENDERFYNWYD:
Bod yr Ymateb Gweithredol i adolygiadau Swyddfa Archwilio Cymru yn cael eu hardystio. |
|
MONITRO CYLLIDEB REFENIW 2017/18 (MIS 4) PDF 125 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2017/18 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 4 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 4) a oedd yn darparu'r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw yn 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Hwn oedd yr adroddiad monitro llawn cyntaf ar gyfer y flwyddyn ac roedd yn cyflwyno’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol. Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yn gyfartal.
Y rhagamcan o'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn, heb wneud unrhyw beth i ostwng pwysau costau a gwella'r arenillion ar gynllunio arbedion, oedd:
Cronfa’r Cyngor
· Rhagwelid y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn £1.256 miliwn yn uwch na’r gyllideb; a · Rhagamcanir y bydd balans y gronfa hapddigwyddiad ar 31 Mawrth 2018 yn £3.87miliwn.
Cyfrif Refeniw Tai
· Rhagwelid y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn £0.026 miliwn yn uwch na’r gyllideb; a · Rhagamcenir y bydd y balans terfynol ar 31 Mawrth 2018 yn £1.090m.
Roedd yr adroddiad yn cwmpasu’r rhagamcanion diweddaraf yn ystod y flwyddyn fesul portffolio; olrhain risgiau a materion sy'n dod i'r amlwg yn ystod y flwyddyn; risgiau eraill sy’n cael eu holrhain; risgiau newydd sy’n dod i’r amlwg yn 2017/18; chwyddiant; a chronfeydd wrth gefn a balansau.
Ar y Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth, esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y gorwariant rhagamcanol o £1.910m wedi cynnwys yn rhannol materoli rhywfaint o’r risgiau arwyddocaol a oedd yn hysbys pan osodwyd cyllideb 2017/18 gan y Cyngor gan gynnwys costau ychwanegol o £0.675m ar ôl ail-gaffael er mwyn cwmpasu amryw o wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a gostyngiad o £0.111m a gadarnhawyd yn Grant Sengl yr Amgylchedd. Rhestrwyd amrywiadau pellach yn yr adroddiad ac roedd y sefyllfa net ar y gorwariant rhagamcanol yn ddiffyg gweithredol net o £0.569m. Roedd amrywiadau mawr yn effeithio ar y diffyg gweithredol hwnnw hefyd yn cael eu nodi yn yr adroddiad ac roedd gwaith ar y gweill i asesu unrhyw effaith posibl ar yr amrywiadau hynny yn y flwyddyn ar y rhagolwg Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2018/19.
Yn dilyn adolygiad o wasanaethau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, credwyd y byddai’n briodol ceisio cymeradwyaeth ar gyfer adlinio’r gyllideb rhwng rhai meysydd Pobl H?n, a oedd yn adlewyrchu tanwariant ar hyn o bryd, a Dysgu ac Anableddau, lle roedd y galw yn uchel.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2018;
(b) Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragwelwyd yn y Cyfrif Refeniw Tai (CRT);
(c) Cytuno ar drosglwyddiad cyllideb yn y Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn adlinio’r gyllideb i ddiwallu anghenion y gwasanaeth; a
(d) Cymeradwyo dyraniad o £0.052m o’r gronfa hapddigwyddiad er mwyn darparu cefnogaeth ariannol i gwmpasu pwysau disgwyliedig ar y gyllideb yn ystod blwyddyn 2017-18 o ran strwythurau datblygu economaidd rhanbarthol a chefnogaeth i ddigwyddiadau. |
|
Rhaglen Gyfalaf 2017/18 (Mis 4) PDF 114 KB Pwrpas: Darparu gwybodaeth diwedd Mis 4 (diwedd Gorffennaf) rhaglen gyfalaf 2017/18 i Aelodau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2017/18 (Mis 4)
Dangosodd Tabl 1 yn yr adroddiad sut oedd y rhaglen wedi newid yn ystod 2017/18 ac roedd mwy o wybodaeth fanwl yn ymwneud â phob Portffolio ynghlwm wrth yr adroddiad.
Nodwyd ceisiadau i ddwyn ymlaen yn yr adroddiad yn ogystal â dyraniad ychwanegol oherwydd tirlithriad ar y B5101 yn Ffrith.
Yr alldro dros ben terfynol o 2016/17 oedd £4.688 a dyranwyd £3.567 o hwnnw i gynlluniau yn 2017/18. Dangosodd cynlluniau a gyflwynwyd ar gyfer blynyddoedd 2017/18 - 2019/20 ddiffyg posibl o £3.187m mewn cyllid. Roedd cyfanswm derbynebau gwirioneddol yn ystod y flwyddyn ym Mis 4 yn £1.499m.
Er bod pob cyllid mewn lle ar gyfer cynlluniau 2017/18, yn gyffredinol roedd diffyg o £0.566m yn y rhaglen gyfan (2017/18 - 2019/20) o hyd. Roedd yr opsiynau ar gyfer ariannu hyn yn cael eu cadw’n hyblyg ac yn cynnwys cyfuniad o dderbynebau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau amgen, benthyca darbodus neu gyflwyno cynlluniau yn raddol dros sawl blwyddyn. Byddai hyn yn cael ei fonitro yn agos a byddai diweddariadau yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau monitro yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr adroddiad cyffredinol yn cael ei gymeradwyo;
(b) Bod yr addasiadau dwyn ymlaen yn cael eu cymeradwyo; a
(c) Bod y dyraniad ychwanegol yn cael ei gymeradwyo. |
|
Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Drysorlys 2016/17 PDF 108 KB Pwrpas: I gyflwyno i’r Aelodau yr Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol drafft ar gyfer 2016/17 i'w argymell i'r Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr Adroddiad Blynyddol Rheoli Trysorlys 2016/17 a fyddai’n cael ei argymell i’r Cyngor Sir i’w fabwysiadu yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol Rheoli Trysorlys ar gyfer 2016/17 a'i argymell i’r Cyngor Sir i’w fabwysiadu. |
|
Dileu Ardrethi Busnes PDF 97 KB Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth i ddileu dwy ddyled cyfraddau busnes. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad Dileu Ardrethi Busnes a oedd yn darparu manylion dwy ddyled ardrethi busnes a ystyriwyd yn anadferadwy i Gwmnïau Atebolrwydd Cyfyngedig a oedd wedi rhoi’r gorau i fasnachu ac a oedd naill ai wedi mynd i ddwylo gweinyddwyr neu wedi'u diddymu.
Nid oedd unrhyw asedau ac nid oedd yn bosibl bellach adfer y dyledion ardrethi busnes yn llwyddiannus ac roedd angen diddymu’r dyledion:
· Lancashire Fuels 4U Limited (wedi’i ddiddymu) - £73,932.05; a · Novo Drinks Limited (yn nwylo gweinyddwyr) - £39,415.39.
Canmolodd y Cynghorydd Bithell y swyddogion am eu hymdrechion i adfer y dyledion.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo diddymu dyledion ardrethi busnes sy’n gyfanswm o £73,932.05 ar gyfer Lancashire Fuels 4U a £39,415.39 ar gyfer Novo Drinks Ltd. |
|
Trefniadau Gorfodaeth Amgylcheddol a Pharcio Ceir Diwygiedig PDF 115 KB Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfeiriad y Gwasanaeth Gorfodaeth Amgylcheddol a Pharcio Ceir yn y dyfodol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad Trefniadau Gorfodi Amgylcheddol a Meysydd Parcio Diwygiedig a adolygodd yr opsiwn orau ar gyfer symud y gwasanaeth ymlaen, gan gymryd i ystyriaeth yr amrywiaeth o weithgareddau gorfodi a oedd yn ofynnol.
Argymhellwyd y dylid ymgysylltu â Phartner Busnes i ymgymryd â gorfodi troseddau amgylcheddol lefel isel, rheoli c?n a throseddau parcio ceir ar ran y Cyngor. Byddai gorfodi tipio anghyfreithlon a cherbydau wedi eu gadael yn aros gyda’r Cyngor ynghyd â gorfodi gwastraff ychwanegol biniau du ar olwynion.”
Soniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) am y broses apeliadau ble mae’r Cyngor yn penodi uwch swyddog i adolygu unrhyw apeliadau mewn perthynas â dosbarthu Rhybuddion Cosb Benodedig / Rhybuddion Talu Cosb i sicrhau eu bod yn cael eu dosbarthu’n briodol. Byddai ymddygiad y swyddogion a gyflogir gan y contractwr yn cael ei ymchwilio’n drylwyr gan swyddog penodedig y Cyngor.
Ym mis Gorffennaf 2017 cymeradwyodd y Cabinet adroddiad a oedd yn cyflwyno newidiadau i wasanaeth casglu gwastraff a deunyddiau ailgylchu gan gynnwys ymrwymiad i orfodi’r broblem o osod gwastraff wrth ochr biniau du ar olwynion sy’n aros i gael eu casglu. Dim ond lleiafrif o breswylwyr sy’n gosod gwastraff ochrol ac yn aml nid oedd y rheiny a oedd yn gwneud yn ailgylchu. Rhoddwyd manylion y weithdrefn orfodi ar gyfer gwastraff ochrol ynghlwm wrth yr adroddiad, ac argymhellwyd Opsiwn 1 yn rhif (1).
Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Attridge, dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) yr eid i'r afael ag unrhyw broblemau pan fyddai'r contract yn cael ei roi at ei gilydd. Esboniodd y byddai cynlluniau gorfodi wythnosol yn cael eu cytuno o flaen llaw a byddent yn targedu ardaloedd a amlygwyd gan Aelodau lleol. Roedd dull talu staff y partner busnes allan o reolaeth y Cyngor ond roedd y darparwr presennol wedi datgan nad oedd unrhyw gyswllt uniongyrchol rhwng perfformiad a thâl.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo caffael un Partner Busnes ar gytundeb tymor byr o 2 flynedd (gyda dewis i ymestyn ar sail perfformiad) i gyflawni gorfodaeth troseddau amgylcheddol lefel isel, rheoli c?n a throseddau parcio ceir ar ran y Cyngor; a
(b) Bod Opsiwn 1 yn cael ei argymell fel y dull dewisedig o reoli gorfodi gwastraff ochrol. |
|
Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth a Pholisi Cynaliadwyedd PDF 82 KB Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet am Gynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth a Pholisi Cynaliadwyedd y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas y Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth a’r Polisi Cynaliadwyedd a oedd wedi’u cynhyrchu mewn ymateb i’r dyletswydd gwella bioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau o dan Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Roedd y Ddeddf yn mynnu fod rhaid i Awdurdodau Lleol geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth cyn belled a’i fod yn cyd-fynd ag ymarfer eu swyddogaethau yn briodol ac wrth wneud hynny, rhaid hyrwyddo gwytnwch ecosystemau.
Roedd gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i weithredu cynaliadwyedd ac arwain drwy esiampl o ran diogelu a gwella ein hamgylchedd naturiol. Byddai Polisi’r Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn gosod allan dull gwaith Sir y Fflint i gyflawni’r her.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) fod hyn yn gysylltiedig â blaenoriaeth yng Nghynllun ‘Cyngor Gwyrdd’ y Cyngor.
PENDERFYNWYD:
(a) Cytuno ar y weledigaeth, yr amcanion a’r camau gweithredu a osodir allan yn y Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth; ac
(b) Ardystio Polisi’r Amgylchedd a Chynaliadwyedd. |
|
Pwrpas: Adrodd ar ganfyddiadau’r ymgynghoriad diweddar a cheisio penderfyniad gan y Cabinet ar amodau’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli C?n. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn cynnig dau opsiwn ar gyfer mabwysiadu Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli C?n. Nodwyd yr opsiynau yn yr adroddiad yn ogystal â'r ymatebion yn yr ymgynghoriad.
O ran gwahardd c?n ar gaeau chwaraeon wedi’u marcio, gwnaeth 21 o’r atebwyr sylwadau cefnogol, gwnaeth 24 o atebwyr sylwadau’n cwestiynau’r gwaharddiad a holodd 31 o atebwyr a fyddai darpariaethau eraill yn cael eu gwneud er mwyn ymarfer c?n yn sgîl y bwriad i wneud rhai ardaloedd yn waharddedig. Roedd yr RSPCA a’r Kennel Club yn credu y dylid gadael i g?n fynd ar gaeau chwaraeon wedi’u marcio.
Yn y Pwyllgor Arolygu a Chraffu’r Amgylchedd ar 19 Medi, pleidleisiodd Aelodau o blaid Opsiwn 2 a fyddai’n gweld cyfnod ymgynghori pellach yngl?n â gwahardd c?n ar gaeau chwaraeon wedi’u marcio. Roedd argymhelliad arall wedi’i gyflwyno sef y gellid ymarfer c?n ar dennyn o amgylch perimedr y caeau chwaraeon wedi’u marcio. Roedd yr Aelod Cabinet yn cefnogi Opsiwn 2 ond byddai angen i Gynghorau Tref a Chymuned gynnal unrhyw ymgynghoriad pellach.
Siaradodd y Cynghorydd Attridge o blaid gwahardd c?n o gaeau chwaraeon wedi’u marcio, gan roi enghreifftiau o gemau chwaraeon yn gorfod cael eu gohirio er mwyn glanhau baw c?n. Dywedodd nad oedd caniatáu i g?n fynd ar gaeau chwaraeon wedi’u marcio yn dderbyniol i iechyd a lles preswylwyr Sir y Fflint. Cytunodd y Cynghorydd Mullin â barn y Cynghorydd Attridge a soniodd fod problemau tebyg yn codi ar y cae chwaraeon wedi’i farcio ym Mrychdyn.
Roedd y Cynghorydd Shotton hefyd yn cefnogi barn Cynghorwyr Attridge a Mullin a chefnogodd Opsiwn 1 yr argymhelliad. Fodd bynnag, dywedodd fod angen i’r Cyngor fod yn ystyriol o rai safbwyntiau gan gymunedau yn dilyn yr ymgynghoriad. Yn dilyn cwestiwn, esboniodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) y byddai’r Gorchymyn yn diffinio’r ardaloedd gwaharddedig. Os nad oes unrhyw leoliad arall i ymarfer c?n yn yr ardal, byddai dewisiadau amgen yn cael eu ceisio. Yn dilyn trafodaeth cytunwyd y byddai swyddogion yn gweithio gyda’r cymunedau hynny a nododd mai caeau chwaraeon wedi’u marcio oedd yr unig leoliadau i gerdded c?n er mwyn chwilio am fannau amwynder ychwanegol.
PENDERFYNWYD:
(a) Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bod Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored yn cael ei wneud i gwmpasu rheoli c?n a baw c?n yn Sir y Fflint, gyda'r amodau canlynol:
i. Cael gwared ar wastraff eu ci o’r holl fannau cyhoeddus yn Sir y Fflint; ii. Peidio â mynd â ch?n neu adael i g?n fynd neu aros ar y tiroedd canlynol: a. Pob rhan o diroedd ysgolion; b. Ardaloedd chwarae mewn ardaloedd hamdden ffurfiol gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i lawntiau bowlio a chyrtiau tennis; c. Ardaloedd chwarae plant caeedig â ffens.
iii. Cadw eu c?n ar dennyn mewn Mynwentydd; iv. Sicrhau bod ganddynt fodd priodol o godi gwastraff eu ci o bob man cyhoeddus yn Sir y Fflint; v. Rhoi eu ci ar dennyn, pan fydd ... view the full Cofnodion text for item 59. |
|
YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG PDF 64 KB Adroddiad y Prif Weithredwr amgaeedig.
Pwrpas: Darpau manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Cofnodion: Cyflwynwyd eitem gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-
Newid Sefydliadol
Gwerthu daliad amaethyddol gwag sy’n cael budd o ganiatâd cynllunio i newid yr annedd bresennol yn uned fwy.
Mae’r tir yn cynnwys ardal o dir a gedwir yn y Cyfrif Refeniw Tai. Bydd gwerthu yn tynnu cyfrifoldeb atgyweirio sylweddol oddi ar y Cyngor.
Pan brynodd y perchennog yr eiddo drwy’r cynllun Hawl i Brynu, roedd yr ardd ochr wedi'i heithrio.
Roedd Grantec wedi llechfeddiannu’r tir uchod ac mae bellach wedi cytuno ei brynu.
Mae’r darn bach hwn o dir (oddeutu 25 metr sgwâr) yn ffurfio rhan o Ysgol Treffynnon ar hyn o bryd ac mae’n cael ei werthu er mwyn caniatáu mynediad i berchnogion adeilad gerllaw i’w galluogi i gynnal a chadw cefn yr adeilad.
Codi prisiau prydau mewn ysgolion fel eu bod yn gydnaws â phrisiau darparwyr prydau ysgol eraill ledled Cymru.
Mae hyn yn cwmpasu'r gwaith a gwblhawyd i’n galluogi i gadarnhau amodau (a gytunwyd yn y Cabinet ar 13 Rhagfyr 2016) er mwyn galluogi trosglwyddiad gwasanaethau i, ac arwyddo lesoedd gydag, Aura Leisure and Libraries Ltd., sef y Gymdeithas Mantais Gymunedol newydd o 1 Medi 2017.
Cymuned a Menter
Mae Adran 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn rhoi hawl i’r Cyngor ddefnyddio ei ddoethineb i ostwng neu ddileu ardrethi busnes os yw’n fodlon y byddai’r talwr ardrethi yn wynebu caledi pe na bai’n gwneud hynny ac os yw’n rhesymol iddo wneud hynny o ystyried buddiannau trethdalwyr y cyngor.
Mae cais a dderbyniwyd gan Gymdeithas Gymunedol Bagillt wedi’i wrthod ar y sail fod gan y ganolfan gymuned incwm a chyfalaf digonol i dalu eu hardrethi busnes o 20%.
Mae Adran 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn rhoi hawl i’r Cyngor ddefnyddio ei ddoethineb i ostwng neu ddileu ardrethi busnes os yw’n fodlon y byddai’r talwr ardrethi yn wynebu caledi pe na bai’n gwneud hynny ac os yw’n rhesymol iddo wneud hynny o ystyried buddiannau trethdalwyr y cyngor.
Mae cais a dderbyniwyd gan Glwb Bocsio Bwcle wedi’i wrthod ar y sail fod gan y clwb incwm a chyfalaf digonol i dalu eu hardrethi busnes o 20%.
Mae Adran 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn rhoi hawl i’r Cyngor ddefnyddio ei ddoethineb i ostwng neu ddileu ardrethi busnes os yw’n fodlon y byddai’r talwr ardrethi yn wynebu caledi pe na bai’n gwneud hynny ac ... view the full Cofnodion text for item 60. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd dau aelod o’r cyhoedd ac un aelod o’r wasg yn bresennol. |