Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I derbyn datganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau. |
|
Pwrpas: Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a 18 Mehefin 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mehefin.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd fel cofnod cywir.
|
|
Newid Trefn Y Rhaglen Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai newid yn nhrefn yr eitemau ar y rhaglen, fel bod modd i’r Cynghorydd Linda Thomas gyflwyno ei hadroddiadau cyn gorfod gadael y cyfarfod. Dogfennau ychwanegol: |
|
Crynodeb Archwilio Blynyddol Sir y Fflint 2023 PDF 86 KB Pwrpas: Mae’r Crynodeb Archwilio Blynyddol yn nodi’r gwaith archwilio a rheoleiddio sydd wedi’i wneud gan Archwilio Cymru mewn perthynas â Chyngor Sir y Fflint ers yr adroddiad blynyddol diwethaf a gyhoeddwyd fis Mawrth 2023. Mae'r crynodeb archwilio yn rhan o ddyletswyddau Archwilydd Cyffredinol Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Linda Thomas yr adroddiad a oedd yn nodi’r gwaith archwilio a rheoleiddio a gwblhawyd gan Archwilio Cymru, ers yr adroddiad blynyddol diwethaf, agyhoeddwyd ym mis Mawrth 2023.
Ni wnaed unrhyw argymhellion ffurfiol yn ystod y flwyddyn gan Archwilio Cymru. Daeth cynigion ar gyfer gwella i’r amlwg yn yr adolygiadau lleol a chenedlaethol a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru a chafodd y rhain eu hadrodd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, y Cabinet a’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol fel y bo’n briodol yn ystod y flwyddyn, a chafodd canfyddiadau’r adolygiadau lleol a chenedlaethol eu rheoli o ran risg, fel rhan o waith monitro rheolaidd.
Rhoes yr Archwilydd Cyffredinol farn ddiamwys, gwir a theg ar ddatganiadau ariannol y Cyngor ar 12 Ebrill 2024, ar ôl y dyddiad cau y cytunwyd arno gyda Llywodraeth Cymru, sef 30 Tachwedd 2023. Darparwyd yr archwiliad yn hwyrach na’r blynyddoedd blaenorol, yn bennaf yn sgil effaith y gofynion safonau archwilio newydd. Rhoddwyd sylw i’r rhain yng nghynllun archwilio, Archwilio Cymru a chawsant eu hystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 27 Medi 2023. Committee on 27 September 2023.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod Digartrefedd, Llamu Ymlaen a’r Strategaeth Ddigidol ymysg y meysydd a oedd yn destun adolygiad. Roedd y rhaglen waith arfaethedig wedi'i nodi yn adroddiad Archwilio Cymru, ac roedd yr asesiadau sicrwydd a’r asesiadau risg wedi’u cwblhau. Roedd yna ddau adolygiad thematig ac un adolygiad lleol a fyddai’n cael eu hadrodd i’r Cyngor wedi iddynt gael eu cwblhau gan Archwilio Cymru.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet wedi’i sicrhau gan gynnwys a sylwadau Adroddiad Archwilio Cryno Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2023. |
|
Pwrpas: Cyflwyno canlyniad yr archwiliad ar Strategaeth Ddigidol y Cyngor, er mwyn cael cymeradwyaeth i’r cynllun gweithredu arfaethedig mewn ymateb i argymhellion gan Archwilio Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn nodi’r canlyniad yn dilyn yr adolygiad a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru ar strategaeth ddigidol y Cyngor drwy gydol haf 2023, lle bu i’r archwilwyr adolygu’r holl ddogfennau perthnasol a chyfweld â swyddogion allweddol ac Aelodau Cabinet. Prif ffocws yr archwiliad oedd i ba raddau y cafodd y Strategaeth Ddigidol ei datblygu yn gyson â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, a thrwy hynny wneud yn si?r y byddai’n helpu i sicrhau gwerth am arian wrth ddefnyddio adnoddau’r Cyngor.
Roedd yr Adroddiad Terfynol wedi’i ailgyflwyno i’r Cyngor gyda phedwar argymhelliad allweddol, er mwyn helpu i sicrhau gwerth am arian. Roedd y swyddogion wedi adolygu’r argymhellion ac wedi pennu camau gweithredu arfaethedig i’w cymeradwyo gan y Cabinet, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.
Nododd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y strategaeth ddigidol bresennol (Sir y Fflint Ddigidol 2021-2026) yn cynnwys profiadau, twf, uchelgais a’r hyn y mae’r Cyngor wedi’i ddysgu ers ei chyhoeddi gyntaf yn 2016 a bod y Cyngor wedi gwneud cynnydd da o ran cyflawni’r nodau a amlinellir, a oedd, ar adeg cyflwyno’r strategaeth, yn canolbwyntio ar wneud gwelliannau i ddarpariaeth ac argaeledd gwasanaethau’r Cyngor i breswylwyr, gyda ffocws yn y lle cyntaf ar gynyddu lefel y cyfleoedd hunanwasanaeth ar gyfer preswylwyr.
Cyflwynwyd y Cynllun Gweithredu i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 19 Gorffennaf, ac nid oedd unrhyw adborth i’w rannu â’r Cabinet. Mewn perthynas â'r Cynllun Gweithredu, defnyddiwyd dull pragmataidd i nodi pa argymhellion fyddai’n gallu ychwanegu gwerth i’r Cyngor fel sefydliad.
Adroddodd y Prif Swyddog ar ganfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad terfynol gan Archwilio Cymru a'r ymateb gan y Cyngor, fel y nodir yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cynllun gweithredu. |
|
Arolwg Preswylwyr Cymru Gyfan PDF 132 KB Pwrpas: I geisio cymeradwyaeth gan Aelodau Cyngor Sir y Fflint i fod yn rhan o Arolwg Preswylwyr Cymru gyfan. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth Sir y Fflint i dderbyn y cynnig i gymryd rhan ym modiwlau craidd rhad ac am ddim yr Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol a gweithredu’r Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol cyn diwedd haf 2024.
Roedd Rhaglen Wella Data Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi creu arolwg modwlar i breswylwyr, a oedd yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim i bob Cyngor lleol yng Nghymru ers mis Gorffennaf 2024. Byddai’r arolwg yn casglu gwybodaeth leol o lefel uchel, gan nodi canfyddiadau pobl o Sir y Fflint a’r Cyngor (y ‘beth’).Yn ei dro, byddai’r data a gesglir yn cael ei ddefnyddio i lywio meysydd lle bod angen i’r Cyngor o bosibl ymchwilio iddynt ymhellach ac mewn mwy o fanylder, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r canfyddiadau hynny (y ‘pam’).
Roedd cynghorau ar draws y DU gyfan yn parhau i wynebu heriau ariannol digynsail ac roedd yn profi’n fwy anodd nag erioed i fantoli cyllidebau gyda disgwyliadau’r cyhoedd. Gyda’r angen cynyddol i wneud penderfyniadau anodd, ac yn aml rhai annymunol, roedd hi’n bwysig deall barn a safbwyntiau preswylwyr a rhoi’r cyfle i bobl ddweud eu dweud o ran helpu i wneud gwelliannau lle bynnag y bo modd.
Nododd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod yr adroddiad yn gysylltiedig â’r adroddiad Strategaeth Ddigidol blaenorol, ac yn benodol yr argymhelliad gan Archwilio Cymru ynghylch ymgynghori â phreswylwyr. CLlLC fyddai’n noddi’r arolwg, gan sicrhau dull cyson ar draws Cymru, y byddai modd ei feincnodi. O 2025, byddai modd i gynghorau unigol gomisiynu rhagor o fodiwlau cwestiynau pwrpasol, sy’n berthnasol i’w hanghenion busnes eu hunain am gost fechan.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Chris Bithell, rhoddwyd sicrwydd gan y Prif Swyddog y gallai preswylwyr nad oedd yn gallu cael mynediad at yr arolwg ar-lein wneud hynny drwy Lyfrgelloedd Aura neu swyddogion Sir y Fflint yn Cysylltu, lle y byddai’r Sgwad Ddigidol ar gael i gynnig cymorth. Fel arall, byddai modd i breswylwyr ofyn am gopïau papur o’r arolwg.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn cymeradwyo bod Sir y Fflint yn derbyn y cynnig i gymryd rhan ym modiwlau craidd rhad ac am ddim yr Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol;
(b) Bod y Cabinet yn cefnogi Sir y Fflint i weithredu’r Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol cyn diwedd yr haf 2024; a
(c) Bod y Cabinet yn cefnogi gweithgarwch ymgynghori ac ymgysylltu atodol, yn seiliedig ar ganfyddiadau’r Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r ‘pam’ sy’n sail i’r data a gasglwyd. |
|
Dileu Ardrethi Busnes PDF 101 KB Pwrpas: Ceisio awdurdod i ddileu dyledion Ardrethi Busnes na ellir eu hadennill o fwy na £25,000. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ac eglurodd, ar gyfer drwgddyledion unigol o fwy na £25,000, bod y Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (adran 5.2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cabinet gymeradwyo’r argymhellion i ddiddymu dyledion.
Ystyriwyd nad oedd modd adennill tair dyled Ardrethi Busnes, yn ymwneud â chwmnïau a oedd wedi dirwyn i ben, a chyfanswm o £99,085.39, ac roedd diddymu’r dyledion bellach yn gam angenrheidiol. Mae’r dyledion yn ymwneud â:
Nid oedd unrhyw oblygiadau ariannol uniongyrchol i’r Cyngor na threthdalwyr lleol drwy ddiddymu’r tair dyled hon.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo diddymu dyledion ardrethi busnes, a oedd yn gyfanswm o £40,986.72 ar gyfer Ace Rotomould Ltd, £33,062 ar gyfer Premier English Manufacturing Ltd, a £25,036.87 ar gyfer Premier Grip Trading Ltd. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyllid Grant y Trydydd Sector Pwrpas: Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid y trydydd sector; Cist Gymunedol a Chyllid Strategol. Bydd hyn yn cynnwys diweddariad cynnydd ar weithredu’r camau sy’n deillio o’r adolygiad diwethaf ar gyllid ac argymhellion ar gyfer camau nesaf. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed wrth gyflwyno’r argymhellion a’r camau nesaf oedd yn ofynnol o hyd. Gwnaed yr argymhellion mewn perthynas ag adolygiad a gwaith pellach.
Rhannodd Rheolwr Corfforaethol y Rhaglen Gyfalaf ac Asedau yr adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, a fu’n ystyried yr adroddiad ar 19 Gorffennaf, 2024.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn nodi'r wybodaeth a ddarparwyd ar gyllid y trydydd sector, ynghyd â'r cynnydd a wnaed wrth weithredu adolygiad blaenorol;
(b) Bod y Cabinet yn cefnogi adolygiad pellach o Gyllid Strategol er mwyn mynd i’r afael â’r materion a nodwyd, gan gynnwys y rhai y tynnwyd sylw atynt yn yr Archwiliad Mewnol diweddar. Gan nodi y dylid dewis ymestyn y cytundebau cyllid grant presennol tan 31 Mawrth 2027 fel bod digon o amser i gynnal a gweithredu’r adolygiad hwn; a
(c) Bod y Cabinet yn cymeradwyo parhad cynllun cyllid y grant Cist Gymunedol, yn amodol ar adolygiad sydd i’w gynnal yn 2024/25, i gynnwys y cylch gorchwyl. |
|
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig Cyllideb 2025/26 PDF 135 KB Pwrpas: Cyflwyno’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer y gofyniad ychwanegol cyllideb 2025/26 a’r strategaeth ac amserlen y gyllideb sy’n datblygu. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Paul Johnson yr adroddiad a oedd yn nodi’r pwysau a ragwelir o ran costauar gyfer 2025/26 mewn manylder.
Fel rhan o’r broses o osod y gyllideb ar gyfer 2024/25,roedd gofyniad cyllidebol ychwanegol cychwynnol o £28.251 miliwn yn cael ei ragweld ar gyfer 2025/26, a oedd yn seiliedig ar ragdybiaethau bras o ran cyflogau, comisiynu gofal cymdeithasol a phwysau hysbys arall ar y pryd. Roedd y rhagolwg ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26 wedi’i ddiweddaru er mwyn ystyried y sefyllfa genedlaethol ddiweddaraf o ran cyflogau’r sector cyhoeddus, amcangyfrif o effaith y newidiadau i’r galw mewn gwasanaeth ac effeithiau chwyddiannol parhaus. Yn ystod y cyfnod cynnar hwn, roedd y rhagolwg diwygiedig yn dangos bod y Cyngor yn debygol o gael gofyniad cyllidebol ychwanegol o £37.778 miliwn ar gyfer 2025/26.
Roedd Atodiad A yn yr adroddiad yn nodi manylion yr holl bwysau o ran costau ar gyfer 2025/26, yn ogystal ag arwyddion cynnar o bwysau ar gyfer 2026/27 a 2027/28.
Cynhaliwyd dau gyfarfod briffio’r gyllideb ar 9 Gorffennaf, er mwyn rhoi gwell dealltwriaeth i’r Aelodau o’r sefyllfa ariannol a byddai cyfarfod briffio arall yn cael ei gynnal ym mis Medi, fel cyfle i gyfrannu at strategaeth gyllideb sy’n datblygu.
Dywedodd y Cynghorydd Johnson hefyd nad oedd unrhyw adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, a fu’n ystyried yr adroddiad ar 19 Gorffennaf 2024.
Amlinellodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol grynodeb o’r pwysau o ran costau ar gyfer 2025/26, gan dynnu sylw at y Gofynion Cyllido Cenedlaethol (Dyfarniadau Cyflog) a’r pwysau costau portffolio ar gyfer Gofal Cymdeithasol, Tai a Chymunedau. Nid oedd unrhyw effaith amcangyfrifedig o'r cynnig cyflog presennol wedi'i gynnwys yn y rhagolwg ar hyn o bryd a byddai'n cael ei fireinio unwaith y byddai'r canlyniad terfynol yn hysbys, boed yn un cadarnhaol neu negyddol. Gan fod lefelau chwyddiant yn llawer mwy sefydlog erbyn hyn, roedd y tybiaethau ar gyfer dyfarniad cyflog 2025/26 wedi'u gostwng i 4% o'r 5% a ddefnyddiwyd yn flaenorol yn y rhagolwg. Roedd twf sylweddol i’w weld o hyd yn y niferoedd sy’n datgan eu bod yn ddigartref ac angen llety dros dro. Oherwydd y cynnydd parhaus yn y galw, rhagwelwyd gorwariant o £2.9 miliwn ar gyfer 2024/25 a gofyniad cyllidebol ychwanegol posibl o tua £7.5 miliwn ar gyfer 2025/26, ac mae hynny wedi’i gynnwys yn y rhagolwg.
Hyd yma, ni ddarparwyd unrhyw ffigyrau dangosol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y brif ffrwd gyllido - Cyllid Allanol Cyfun ar gyfer 2025/26. Fodd bynnag, roedd dadansoddiad annibynnol o gyllideb Llywodraeth Cymru yn rhybuddio, ar y gorau, mai dim ond cynnydd ymylol y gellid ei ddisgwyl. Felly, ar y cam hwn, fe ystyriwyd ei bod yn ddoeth cynllunio ar gyfer setliad arian gwastad. O ran cyd-destun, byddai pob cynnydd o 1% i’r AEF yn cynhyrchu £2.585 miliwn o gyllid ar gyfer cyllideb y Cyngor.
Gwnaeth y Cynghorydd Dave Healey sylw ar y dyfarniadau cyflog a drafodwyd yn genedlaethol heb unrhyw gyfeiriad at allu Llywodraeth Leol i’w hariannu. Roedd yn gobeithio y byddai cyllid ar gael er ... view the full Cofnodion text for item 32. |
|
Llywodraethu ar gyfer y Rhaglen Drawsnewid PDF 110 KB Pwrpas: Cymeradwyo’r penderfyniad ar ddulliau trosolwg ar gyfer y rhaglen arfaethedig o adolygiadau trawsnewid. Nod y rhaglen drawsnewid yw adolygu’r ffordd rydym yn gweithio er mwyn gwneud arbedion i helpu i gau’r bwlch cyllido yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth o ran i) y meini prawf ar gyfer dewis prosiectau trawsnewid; ii) y strwythur llywodraethu democrataidd ar gyfer y rhaglen drawsnewid; ac iii) cymeradwyo dyraniad y cronfeydd wrth gefn i ariannu'r capasiti ychwanegol sydd ei angen i gefnogi'r rhaglen.
Mae’n ddyletswydd ar y Cyngor i osod cyllideb gytbwys a chyfreithiol bob blwyddyn. Golyga’r cylch blynyddol hwnnw fod y Cyngor yn tueddu i ganolbwyntio ar wneud arbedion y gellir eu cyflawni o fewn cyfnod byr. Roedd arbedion posibl y gallai'r Cyngor eu hystyried, na fyddent yn cael eu gwneud o fewn y cylch cyllideb blynyddol arferol. Byddai arbedion o’r fath fel arfer yn ymwneud â naill ai ystyried prosiectau ar raddfa fwy, megis trefniant rhannu gwasanaeth/ cydweithio â Chyngor arall, neu ailgynllunio prosesau gwaith mewnol (ochr yn ochr â newid meddalwedd, yn ôl pob tebyg). Cyfeirir at newidiadau o’r fath fel rhai trawsnewidiol fel arfer.
Mae angen i’r Cyngor sefydlu rhaglen ar gyfer archwilio newidiadau trawsnewidiol o’r fath, os yw’n dymuno lleihau costau heb leihau/ atal gwasanaethau. Gellid cynnwys trefniadau llywodraethu rhaglen o’r fath o fewn strwythurau adrodd presennol y Cyngor. Nid oedd modd i’r Cyngor archwilio a rheoli rhaglen arbedion gyfochrog ar hyn o bryd, a byddai angen iddo recriwtio ar sail buddsoddi i arbed, dros dro yn ôl pob tebyg.
Amlinellodd y Cynghorydd Johnson yr adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, a oedd yn cefnogi'r angen am raglen drawsnewid, ond roedd yn bryderus ynghylch y costau o ran staffio. Roedd y Pwyllgor yn cytuno ar gostau’r flwyddyn gyntaf, ond byddai’n adolygu ac yn craffu ar y cynnydd cyn cytuno ar unrhyw wariant pellach.
Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) amlinelliad o’r strwythur llywodraethu, fel sydd i’w weld yn Atodiad 1 yn yr adroddiad a rôl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, gyda'r Pwyllgor yn cyflawni’r gwaith o gasglu canlyniadau argymhellion o’r fath a wneir gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu/ penderfyniadau gan y Cabinet, er mwyn asesu eu heffaith ar allu’r Cyngor i gyflawni ei Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Ni fyddai'n fforwm ar gyfer ailedrych ar fanylion cynigion a oedd yn rhan o gylch gwaith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu arall, ond yn hytrach byddai’n canolbwyntio ar effaith neu ddylanwad y gwaith ar y rhaglen gyffredinol.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog hefyd at sylwadau/ pryderon y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ynghylch adnoddau ariannol.
Diolchodd yr Arweinydd i'r Cynghorydd Richard Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol am ei gyfraniad at ddatblygiad y Rhaglen Drawsnewid.
Gofynnodd y Cynghorydd Bithell sut y cafodd y ffigyrau bylchau yn y gyllideb a amlinellir yn yr adroddiad ar gyfer 2026/27 a 2027/28 eu cyfrifo. Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai rhagdybiaethau cychwynnol oedd y rhain, yn seiliedig ar y pwysau o ran costau sy’n hysbys i’r Cyngor ar hyn o bryd, pe bai setliad ‘arian gwastad’ yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r:-
|
|
Strategaeth Ymgysylltiad Cwsmeriaid PDF 167 KB Pwrpas: To consider the Customer Involvement Strategy. / I ystyried y Strategaeth Ymgysylltiad Cwsmeriaid. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Sean Bibby yr adroddiad, a oedd yn pennu’r Strategaeth Ymgysylltu â Thenantiaid.
Roedd Gwasanaeth Tai Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am fwy na 7,300 o gartrefi ledled y sir, gan gynnwys llety anghenion cyffredinol a llety gwarchod. Er mwyn cefnogi’r gwaith o reoli’r cartrefi hynny, roedd yn bwysig rhoi cyfle i gwsmeriaid rannu eu profiadau o ran y gwasanaethau hynny.
Daeth yr hen Strategaeth Ymgysylltu â Thenantiaid i ben yn 2021 ac roedd y Cyngor wedi gweithredu strategaeth dros dro tra bo’r strategaeth ddrafft newydd yn cael ei datblygu a’r Arolwg Tenantiaid a Phreswylwyr yn cael ei gwblhau. Mae’r strategaeth ddrafft newydd yn nodi’r ymrwymiad i ymgysylltu â thenantiaid ac yn amlygu’r gwaith sydd ei angen i wella ein sefyllfa bresennol.
Roedd rhagor o waith wedi’i wneud er mwyn datblygu a chwblhau’r strategaeth lawn ac roedd yr adroddiad yn nodi’r prif fanylion.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn cefnogi ac yn cymeradwyo’r Strategaeth Ymgysylltu â Thenantiaid. |
|
Trosglwyddo’r Cyngor i Fodel Casglu Gwastraff Gweddilliol Cyfyngedig PDF 160 KB Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am ganlyniad y gwaith modelu gwastraff ac ailgylchu gan WRAP Cymru gyda’r bwriad o wneud y mwyaf o berfformiad ailgylchu. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Dave Hughes yr adroddiad a oedd yn amlinellu'r gwaith modelu a wnaed ac yn cyflwyno'r model casglu arfaethedig i'w fabwysiadu gan y Cyngor er mwyn cyrraedd y targed statudol o 70%.
O 2024/2025, roedd y targed statudol ar gyfer faint o wastraff sy’n cael ei baratoi i’w ailddefnyddio, ei ailgylchu a’i gompostio wedi cynyddu i 70%, ar ôl gosod targed o 64% yn y blynyddoedd blaenorol fel rhan o Strategaeth “Mwy nag Ailgylchu” Llywodraeth Cymru (LlC). Fodd bynnag, fel Cyngor, ni lwyddodd Sir y Fflint i gyrraedd y targed statudol blaenorol o 64% yn unrhyw un o’r pedair blynedd cynt a, heb newid sylweddol yn y gwasanaeth, ni fyddai’n cyrraedd y targed o 70% sy’n ofynnol erbyn 2025. Gallai hyn arwain at ragor o gosbau ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru, yr oedd disgwyl iddynt eisoes fod yn uwch nag £1 miliwn ar gyfer 2021/22 a 2022/23.
Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ddechrau 2024, ac ar ôl i’r Cyngor fabwysiadu’r Strategaeth Adnoddau a Gwastraff ym mis Mawrth 2024, bu i’r Cabinet gymeradwyo argymhelliad i ystyried adroddiad pellach ym mis Mehefin 2024 i amlinellu gwaith y Cyngor i drosglwyddo i fodel casglu gwastraff gweddilliol cyfyngedig, yr ymrwymwyd iddo ym Mlaenoriaeth Dau yn y Strategaeth a chafodd ei gydnabod fel dull effeithiol o leihau gwastraff gweddilliol a chasglu cymaint â phosibl o ddeunyddiau ailgylchu.
Er mwyn cefnogi hyn, bu i’r Cyngor ymgysylltu â WRAP Cymru, Partneriaethau Lleol a’u hymgynghorwyr, WPS a CRS, i gynnal ymarfer modelu i efelychu gwahanol ddulliau o gasglu gwastraff gweddilliol at ddibenion pennu’r model gorau posibl ar gyfer:
Nododd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) ganlyniadau’r gwaith modelu a dywedodd fod yr ymarfer modelu wedi dangos mai Dewis 2a (bin du 180 litr ar olwynion a gesglir bob 4 wythnos - wythnos waith 5 diwrnod (capasiti o 45 litr bob wythnos)) a gyflawnodd y cynnydd mwyaf o ran perfformiad, sef 5.9 pwynt canran, yn erbyn y Llinell Sylfaen Uwch. Arweiniodd y cyfyngiad mwyaf ar y capasiti gweddilliol wythnosol oedd ar gael at y dargyfeiriad uchaf o ran ailgylchu bwyd a deunyddiau sych o’r ffrwd weddilliol, ac roedd amlder y casgliadau bob 4 wythnos yn sicrhau casglu’r swm mwyaf posibl o ddeunyddiau ailgylchu.
Dywedodd y Prif Swyddog hefyd nad oedd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi yn cefnogi’r cynigion a nodwyd i’w cymeradwyo gan y Cabinet.
Cynigiodd yr Arweinydd ddiwygio’r argymhelliad y dylid casglu gwastraff gweddilliol yn llai aml, unwaith bob tair wythnos, a chadw’r bin du 180 litr ar olwynion. Ategwyd hyn gan y Cynghorydd Hughes.
Dywedodd y Cynghorydd Healey, er bod y model bob pedair wythnos yn darparu’r arbedion mwyaf, yn lleihau allyriadau ac yn cynnig y cyfle gorau i gyrraedd y targedau statudol cynyddol a osodwyd gan LlC, roedd yn cefnogi’r cynigion i newid i gasgliad bob tair wythnos a dywedodd fod y canfyddiadau a nodwyd yn yr adroddiad, ... view the full Cofnodion text for item 35. |
|
Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2023/24 (Terfynol) PDF 114 KB Pwrpas: Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Aelodau, sy’n cynnwys y datblygiadau allweddol dros y flwyddyn ddiwethaf a’n blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Christine Jones Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2023/24.
Roedd rhaid i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol lunio adroddiad blynyddol yn crynhoi ei farn am swyddogaethau gofal cymdeithasol a blaenoriaethau’r awdurdod lleol ar gyfer gwella, fel sydd wedi’i ddeddfu yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Mae’n rhaid i’r adroddiad blynyddol werthuso perfformiad yr awdurdod lleol mewn perthynas â chyflawni ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn adrodd. Dylai hefyd nodi amcanion mewn perthynas â hyrwyddo lles pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth, ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Roedd adroddiad 2023/24 yn dangos arferion a datblygiadau cadarnhaol, fel y nodir yn yr adroddiad.
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd wedi ystyried yr adroddiad a'r blaenoriaethau ar gyfer 2024/25, sydd wedi llywio ei raglen waith.
Lluniwyd cynllun a dyluniad yr adroddiad gan Double Click, sefydliad ar gyfer pobl ag anghenion iechyd meddwl.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2023/24 a’r blaenoriaethau a nodwyd ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. |
|
Monitro'r Gyllideb Refeniw 2023/24 (Canlyniadau) PDF 183 KB Pwrpas: Cyflwyno gwybodaeth fonitro canlyniad y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2023/24. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn cynnwys sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai am flwyddyn ariannol 2023/24 (yn amodol ar archwiliad).
Roedd y Cyfrifon ar gyfer 2023/24 bellach wedi cael eu cau i bob pwrpas, a chafodd y Datganiad Cyfrifon ffurfiol a nodiadau ategol eu cyflwyno i Archwilio Cymru ar 25 Mehefin, a oedd o fewn yr amserlen a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Fel yr adroddwyd yn flaenorol, cyflwynwyd moratoriwm ar wariant heb ei ymrwymo dan gontract ochr yn ochr â phroses rheoli swyddi gwag, er mwyn ceisio lleihau gwariant yn ystod y flwyddyn a ‘lleddfu’r’ gorwariant a ragwelwyd bryd hynny. Cafodd y gwaith hwn effaith gadarnhaol ar y sefyllfa derfynol.
Roedd y sefyllfa derfynol ddiwedd y flwyddyn fel a ganlyn:
Cronfa’r Cyngor
Y Cyfrif Refeniw Tai
Yn ystod y flwyddyn ariannol, nodwyd £2.144 miliwn o wariant gohiriedig ac fe’i dadansoddwyd fesul gwasanaeth yn Atodiad 2. Byddai her gadarn ar gyfer y llinellau a’r ymrwymiadau cyllidebol yn parhau i’r flwyddyn ariannol nesaf yn 2024/25, gyda’r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei chyflwyno mewn adroddiadau yn y dyfodol.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, ar ôl ystyried y sefyllfa derfynol a’r dyraniadau a gymeradwywyd yn flaenorol, fod y lefel derfynol o Gronfa Wrth Gefn At Raid y Cyngor yn £2.972 miliwn ar 31 Mawrth 2024, gan gynnwys y rhai a gymeradwywyd fel rhan o gyllideb 2024/25, ac roeddent i’w gweld yn Atodiad 4. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, bydd yr holl gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn cael eu hadolygu a’u herio dros yr haf, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau’n berthnasol a’u hangen ar yr un lefel.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn yng Nghronfa’r Cyngor sydd ar gael ar 31 Mawrth 2024 (yn amodol ar archwiliad);
(b) Bod y Cabinet yn nodi lefel derfynol y balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai (yn amodol ar archwiliad); a
(c) Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r ceisiadau dwyn ymlaen, fel yr amlinellir ym mharagraff 1.13. |
|
2024/25 monitro cyllideb refeniw (Dros Dro) PDF 123 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r risgiau allweddol a’r problemau sy’n hysbys o ran sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer 2024/25 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi’r trosolwg cyntaf o sefyllfa fonitro’r gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. Yn ystod y cyfnod cynnar hwn, dim ond y risgiau ariannol oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Byddai'r gallu i liniaru risgiau yn ystod y flwyddyn ariannol unwaith eto yn canolbwyntio ar adolygu a herio gwariant gohiriedig, gan wneud y mwyaf o ffrydiau incwm a chyllid grant. Fel yr adroddwyd yn flaenorol, cyflwynwyd moratoriwm ar wariant heb ei ymrwymo dan gontract yn 2023/24, ochr yn ochr â phroses rheoli swyddi gwag, er mwyn ceisio lleihau gwariant yn ystod y flwyddyn a ‘lleddfu’r’ gorwariant a ragwelwyd, a byddai hynny’n parhau yn 2024/25.
Cafodd y Cronfeydd Wrth Gefn Sylfaenol eu cynyddu i £8.985 miliwn, gan ddefnyddio’r balans o £3.216 miliwn oedd yn weddill o Gronfa Wrth Gefn Caledi COVID-19 2023/24. Yn ogystal, roedd swm o £3 miliwn ar gael, a gymeradwywyd fel Cronfa Wrth Gefn “Risg i’r Gyllideb”.
Byddai adroddiad monitro manwl a chyflawn yn cael ei ddarparu ym mis Medi, a fyddai’n cynnwys rhagamcan o’r sefyllfa ariannol gyffredinol ar gyfer 2024/25.
Dywedodd y Cynghorydd Johnson nad oedd unrhyw adborth i’w rannu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, a fu’n ystyried yr adroddiad ar 19 Gorffennaf 2024.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn nodi’r adroddiad a’r risgiau ariannol posibl o ran cyllideb 2024/25; a
(b) Bod y Cabinet yn nodi’r dyraniadau o £0.200 miliwn o’r Gronfa Wrth Gefn At Raid ar gyfer Cambrian Aquatics a £0.277 miliwn ar gyfer darpariaeth Prydau Ysgol am Ddim yn ystod y gwyliau – cyfeirir at hyn ym mharagraff 1.14. |
|
Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Sefyllfa Derfynol) PDF 193 KB Pwrpas: Cyflwyno’r wybodaeth am Sefyllfa Derfynol Rhaglen Gyfalaf 2023/24. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r sefyllfa derfynol ar gyfer 2023/24 ynghyd â’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf yn ystod y chwarter diwethaf.
Drwy’r Rhaglen Gyfalaf, gwelwyd gostyngiad net o (£16.834 miliwn) yn y gyllideb yn ystod y chwarter diwethaf, a oedd yn cynnwys:
Roedd y gwariant gwirioneddol am y flwyddyn yn £69.807 miliwn (Gweler Tabl 3).
Yr arian dros ben terfynol o’r Rhaglen Gyfalaf 2023/24 – 2025/26 oedd £2.815 miliwn, a oedd £0.819 miliwn yn uwch na’r £1.996 miliwn a ragwelwyd wrth gymeradwyo Rhaglen Gyfalaf 2024/25 – 2026/27 ar 6 Rhagfyr 2023.
Ar ôl derbyn y setliad llywodraeth leol terfynol, byddai'r Cyngor yn derbyn dyraniad is o £0.017 miliwn y flwyddyn, o gymharu â’r cyllid a amcangyfrifwyd pan gafodd y gyllideb ei gosod.
Felly, effaith y sefyllfa derfynol ar gyfer 2023/24 yw sefyllfa ariannol ddiwygiedig o arian dros ben o £0.820 miliwn (o gymharu â £0.052 pan gafodd y gyllideb ei gosod), cyn ystyried y derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffrydiau cyllido eraill.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r adroddiad cyffredinol;
(b) Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r addasiadau dwyn ymlaen, fel y nodir ym mharagraff 1.15; a
(c) Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r dyraniad ychwanegol, fel y nodir ym mharagraff 1.19.
|
|
Dangosyddion Darbodus – Gwirioneddol 2023/24 PDF 168 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion ynghylch gwir Ddangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2023/24 o’i gymharu â’r amcangyfrifon a bennwyd o ran Darbodusrwydd a Fforddiadwyedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi manylion gwir ddangosyddion darbodus y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, o gymharu â'r amcangyfrifon a bennwyd ar gyfer:-
Tynnodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol sylw at gymhareb y costau ariannol i’r ffrwd refeniw net, sydd i’w gweld yn Nhabl 6, a dywedodd fod y cymarebau gwirioneddol yn is na’r rhai yn y flwyddyn flaenorol, gan fod lefelau benthyca disgwyliedig y Cyngor ar gyfer y tymor byr a’r tymor hir yn is nag a ragwelir yn ystod y flwyddyn.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r dangosyddion darbodus yn yr adroddiad. |
|
Adolygiad Blynyddol o Ffioedd a Thaliadau 2024 PDF 102 KB Pwrpas: Cymeradwyo canlyniadau’r adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau ar gyfer 2024. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn amlinellu canlyniad adolygiad o ffioedd a thaliadau 2024, a gwblhawyd yn unol â Pholisi Cynhyrchu Incwm y Cyngor, sy’n nodi’r rhesymeg a’r broses ar gyfer adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau. Roedd canlyniad yr adolygiad hwn wedi’i nodi yn Atodiad A a byddai’n berthnasol o 1 Hydref 2024.
Roedd cymhwyso’r egwyddorion sydd wedi’u cynnwys ym Mholisi Cynhyrchu Incwm y Cyngor wedi sicrhau bod unrhyw newidiadau i daliadau wedi cael eu rheoli mewn modd priodol ac roedd y fersiwn ddiweddaraf o’r polisi hwn ynghlwm yn Atodiad B.
Hefyd, roedd yr adroddiad yn amlinellu gofynion parhaus yr adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau ar gyfer 2024, ac yn benodol y ffioedd a thaliadau nad oedd eto wedi dangos eu bod yn adennill y gost yn llawn.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr amcangyfrifon o incwm a gynhyrchir drwy godi ffioedd a thaliadau, ac unrhyw gynnydd iddynt, yn cael ei fonitro a’i gynnwys yn y broses o osod y gyllideb. Amcangyfrifwyd y byddai adolygiad 2024 yn cynhyrchu £0.085 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn, ac roedd £0.050 miliwn o’r ffigwr hwnnw wedi’i gynnwys eisoes yng nghyllidebau 2024/25, felly roedd hwn yn gyfraniad ychwanegol o £0.035 miliwn i gyllideb 2025/26.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r rhestr o ffioedd a thaliadau sydd i’w gweld yn Atodiad A, i’w rhoi ar waith ar 1 Hydref 2024.
(b) Bod y Cabinet yn cytuno i fersiwn i gwsmeriaid o’r rhestr o ffioedd a thaliadau, sydd i’w gweld yn Atodiad A, gael ei llunio a’i chyhoeddi. |
|
Diweddariad ar yr Adolygiad o Dai Gwarchod PDF 101 KB Pwrpas: Diweddariad ar yr Adolygiad o Dai Gwarchod. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby’r adroddiad a oedd yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr adolygiad o dai gwarchod, a oedd yn mabwysiadu dull cyfannol o ran cynaliadwyedd y stoc o dai gwarchod ac roedd wedi’i ddylunio i adolygu pob cynllun o:-
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Tai, Lles a Chymunedau) y byddai'r cynllun yn cael ei asesu yn erbyn matrics cynaladwyedd cymeradwy a fyddai'n arwain at ddyfarnu un argymhelliad o bedwar argymhelliad posibl, fel y nodir yn yr adroddiad.
Roedd yna 142 o gynlluniau yn Sir y Fflint, a oedd yn darparu cyfanswm o 2,641 uned o lety. Cynhaliwyd adolygiad bwrdd gwaith ac ymyl palmant trwyadl dros y misoedd diwethaf, a roddodd fwy o wybodaeth fanwl mewn perthynas â lleoliad a threfn y cynlluniau. O’r wybodaeth hon, cafodd llawer o ffrydiau gwaith eu datblygu a byddai pob ffrwd waith yn cael eu hasesu gan ddefnyddio’r matrics rheoli tai ac asedau, a byddai’r broses adolygu yn dilyn y cynllun cyfathrebu y cytunwyd arno.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn nodi cynnydd yr Adolygiad o Dai Gwarchod. |
|
Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar 2022-25 PDF 119 KB Pwrpas: Diweddaru’r Aelodau ar raglen gyfalaf y blynyddoedd cynnar a derbyn cymeradwyaeth i:
· symud ymlaen i’r cam dylunio ac adeiladu (i gwrdd â Llywodraeth Cymru a Llinell Amser y Prosiect) · penodi contractwr gan ddefnyddio Dyfarniad Uniongyrchol (fel y cytunwyd gyda’r tîm Dylunio) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r ddau brosiect arfaethedig ar gyfer cam 2 Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar 2022-25 a’r lleoliadau adeiladu posibl a nodwyd. Roedd y prosiectau o fewn y rhaglen wedi cael eu dewis gan ddefnyddio Asesiadau o Ddigonolrwydd Gofal Plant, a meini prawf cyllid Llywodraeth Cymru.
Byddai’r prosiectau, pe baent yn cael eu cymeradwyo, yn darparu cyfleusterau Gofal Plant newydd, ac yn cynyddu’r ddarpariaeth gofal plant ar draws Sir y Fflint mewn lleoliadau amrywiol. Roedd y ffocws ar y blynyddoedd cynnar, fodd bynnag, gellid defnyddio’r adeiladau ar gyfer gofal plant estynedig, darpariaeth ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau.
Y prosiect cyntaf oedd Parc Cornist, y Fflint ac, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, roedd Tîm Cyfalaf Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar Sir y Fflint yn dymuno symud y prosiect hwn ymlaen i’r cam nesaf, sef cyflwyno cais ‘dylunio ac adeiladu’ i Lywodraeth Cymru (LlC). Roedd yr ail brosiect yn Ysgol Terrig/ Ysgol Parc y Llan, Treuddyn. Roedd dewisiadau dichonoldeb wedi’u pennu ar gyfer y safle hwn ac roedd angen gwneud gwaith pellach gyda phartneriaid i gwblhau’r cynllun a ffefrir cyn ceisio cymeradwyaeth i fwrw ymlaen â chyflwyno’r cais ‘dylunio ac adeiladu’ i LlC.
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y cynhaliwyd cam 1 y Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar rhwng 2019-2022. Codwyd naw adeilad modwlar newydd a chafodd yr adeilad presennol ei adnewyddu. Cafodd prosiectau cam 1 eu cwblhau o fewn y gyllideb a ddyrannwyd, a cheir rhestr o’r safleoedd yn yr adroddiad.
Mae'r astudiaethau dichonoldeb wedi'u cwblhau a bu iddynt lywio dewisiadau ar gyfer y ddau safle. Dewis 2 yw’r un a ffefrir ar gyfer y safle yn y Fflint. Roedd angen gwneud gwaith pellach gyda phartneriaid ar safle Treuddyn, er mwyn sicrhau bod y dewis mwyaf priodol yn cael ei bennu, i gydbwyso ystod o anghenion a ffactorau mewn perthynas â’r safle.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn cymeradwyo cyflwyno cais i Raglen Gyfalaf Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar 2022-2025 ar gyfer Parc Cornist, y Fflint, cynllun i symud ymlaen o’r cam ‘dechrau prosiect’ ac i ofyn am gytundeb i gam ‘dylunio ac adeiladu’ y rhaglen gan Lywodraeth Cymru;
(b) Bod y Cabinet yn cymeradwyo proses Dyfarniad Uniongyrchol i benodi contractwr profiadol i gwrdd â therfyn amser Llywodraeth Cymru, sef 31 Mawrth 2025. Bydd y dyfarniad drwy fframwaith presennol Pagoba; a
(c) Bod y Cabinet yn nodi Ysgol Terrig/ Ysgol Parc y Llan, Treuddyn fel ail brosiect posibl, yn amodol ar waith pellach gyda phartneriaid. Os bydd y dewisiadau'n rhai ymarferol o fewn yr amserlenni a ragnodwyd gan Lywodraeth Cymru, ceisir cymeradwyaeth y Cabinet i fwrw ymlaen, yn seiliedig ar yr amserlenni, y costau a’r cytundeb partneriaeth. |
|
Pwrpas: Rhoi pwerau i’r Cyngor gyflwyno Hysbysiadau a Gorchmynion Cau dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad a oedd yn gofyn am ddirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi i arfer pwerau’r Cyngor mewn perthynas â Hysbysiadau a Gorchmynion Cau, o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.
Byddai modd cyflwyno Hysbysiad Cau am hyd at 48 awr, pe bai’r Cyngor neu’r Heddlu yn fodlon ar sail resymol:-
Dywedodd y Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnes fod y p?er i gyflwyno Hysbysiadau Cau a Gorchmynion Cau ar gyfer eiddo lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn arf gorfodi amgen ac effeithiol, y gall yr awdurdod ei ddefnyddio i fynd i’r afael ag ymddygiad o’r fath. Gellid ei ddefnyddio mewn perthynas â siopau sy'n gwerthu nwyddau anghyfreithlon fel tybaco, fêps neu alcohol, safleoedd trwyddedig sy'n methu â mynd i'r afael ag ymddygiad gwael gan eu cwsmeriaid ac unrhyw safle arall lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus.
Cafodd yr argymhelliad ei ystyried a’i gymeradwyo gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi ar 16 Gorffennaf 2024. Yn y Pwyllgor, gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau a rhoddwyd sylw iddynt yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi ar ran Cyngor Sir y Fflint i gyflwyno Hysbysiadau Cau o dan adran 76 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, a rhoi awdurdod i swyddogion i orfodi hysbysiadau cau, yn unol â Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. |
|
Cytundeb Mynediad Agored gyda Freshwave PDF 116 KB Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth i lofnodi Cytundeb Mynediad Agored nad yw’n gyfyngol gyda Freshwave Facilities Limited. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad a oedd yn cynnig datblygu Cytundebau Mynediad Agored yn Sir y Fflint. Byddai’r cytundeb cyntaf yn cael ei arwyddo gyda Freshwave Facilities Limited ac yna byddai rhai eraill i ddilyn.
Mae Cynllun y Cyngor a’r Strategaeth Ddigidol yn amlygu pwysigrwydd gwella cysylltedd digidol yn Sir y Fflint ar gyfer preswylwyr a busnesau. Roedd pwysigrwydd cysylltedd wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn galluogi rhyngweithio cymdeithasol, mynediad at wybodaeth a gwasanaethau, addysg a chyflogaeth, boed hynny o gartref neu mewn lleoliadau eraill. Er hyn, roedd cysylltedd ffonau symudol yn parhau’n wael mewn sawl ardal yn y Sir.
Roedd Llywodraeth y DU yn annog llywodraeth leol i ddefnyddio Cytundebau Mynediad Agored, er mwyn ei gwneud yn haws i Weithredwyr Rhwydwaith Symudol fuddsoddi mewn gwell cysylltedd drwy ddefnyddio asedau celfi stryd y Cyngor.
Cafodd yr argymhellion eu hystyried a’u cymeradwyo gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi ar 16 Gorffennaf 2024.
Cyfeiriodd y Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnes at adran 1.09 yn yr adroddiad, a oedd yn egluro beth yw’r Cytundebau Mynediad Agored, gan nodi’n benodol y byddent yn niwtral o ran cost i’r Cyngor.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn cefnogi datblygiad arfaethedig Cytundebau Mynediad Agored fel ffordd o wella cysylltedd ffonau symudol yn Sir y Fflint;
(b) Dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i arwyddo Cytundeb Mynediad Agored gyda Freshwave Facilities Limited a diwygio’r cytundeb yn ôl yr angen yn y dyfodol; a
(c) Dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i lywio a diwygio rhagor o Gytundebau Mynediad Agored gyda chwmnïau eraill. |
|
Parth Buddsoddi ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam PDF 124 KB Pwrpas: Rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf ag Aelodau ynghylch datblygiad Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam hyd yma a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer y camau nesaf sydd eu hangen i fynd â’r rhaglen drwy broses Porth ar y cyd y DU / LlC. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor yr adroddiad, a oedd yn darparu crynodeb o’r rhaglen Parth Buddsoddi a’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran ei datblygiad yn Sir y Fflint a Wrecsam. Er bod y cyhoeddiad am Etholiad Cyffredinol wedi peri rhywfaint o ansicrwydd yn ystod y broses, mae gwaith datblygu ar y Parth Buddsoddi wedi parhau, yn barod ar gyfer trafodaeth bellach gyda’r ddwy lywodraeth ar ôl yr etholiad.
Byddai’r Parth Buddsoddi yn canolbwyntio ar y clwstwr o fusnesau gweithgynhyrchu uwch sydd o bwys cenedlaethol yn Sir y Fflint a Wrecsam, fel bod modd i’r sector ffynnu, ehangu, cynyddu sgiliau a chyflogau a chyfrannu mwy at economi’r rhanbarth.
Dewiswyd Gweithgynhyrchu Uwch fel y sector y byddai Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn ei gefnogi, yn seiliedig ar y data sydd ar gael a dadansoddiad gan y ddwy lywodraeth yn dangos graddfa a phwysigrwydd y clwstwr presennol hwn.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dau Barth Buddsoddi ar gyfer Cymru yng Nghyllideb Gwanwyn 2023. Yn dilyn hyn, cadarnhaodd Datganiad yr Hydref ym mis Tachwedd 2023 y byddai Sir y Fflint a Wrecsam yn ymuno â Rhanbarth Dinas Caerdydd fel yr ail Barth Buddsoddi. Roedd hyn yn dilyn cyfnod o waith sylweddol, dan arweiniad arweinwyr busnes lleol, er mwyn amlygu sut roedd potensial ardal economaidd weithredol Sir y Fflint a Wrecsam yn cyd-fynd ag asesiad y ddwy lywodraeth o addasrwydd strategol gyda’r ymyrraeth polisi. Ar yr amod bod y cynnig Parth Buddsoddi yn bodloni gofynion penodol, roedd amlen gyllid o hyd at £160 miliwn ar gael i’r Parth Buddsoddi hwnnw am gyfnod o 10 mlynedd.
Roedd peth risg ynghlwm â’r dull a oedd yn cael ei fabwysiadu, ond credwyd bod modd ei liniaru, fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Dywedodd y Cynghorydd Healey fod y Parth Buddsoddi arfaethedig wedi cael ei drafod ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi ar 16 Gorffennaf 2024. Er eu bod yn cefnogi’r argymhellion, cododd nifer o’r Aelodau bryderon, a rhoddir sylw iddynt yn yr adroddiad. Rhoddodd y Cynghorydd Healey ymateb manwl i’r pryderon a godwyd.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn cydnabod cynnydd y gwaith ar y Parth Buddsoddi ac yn cefnogi’r Cyngor i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r Cyd-bwyllgor Corfforedig i weithio mewn perygl drwy’r Pyrth gofynnol a amlinellir dros y chwe mis nesaf, er mwyn sicrhau cyllid o £160 miliwn dros y 10 mlynedd nesaf. |
|
Gofal yn Nes at Adref: Strategaeth Comisiynu Lleoliadau ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal PDF 155 KB Pwrpas: Amlinellu canlyniad yr adolygiad ac effaith Polisi Lleol CsyFf. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a oedd yn cadarnhau’r cynnydd a wnaed o ran cyflawni cam cyntaf ein strategaeth ‘Gofal yn Nes at y Cartref’ a chynhigiodd ddull ar gyfer diweddaru’r Strategaeth ‘Gofal yn Nes at y Cartref’ yng nghyd-destun Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), a gyflwynwyd gerbron Senedd Cymru ar 20 Mai 2024.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnig gweithdy ar gyfer yr Aelodau Etholedig, i amlinellu’r ddeddfwriaeth newydd, cyd-destun comisiynu lleoliadau presennol (cyfeirir atynt yn aml fel Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir) ac archwilio dewisiadau ar gyfer datblygu’r dull strategol o ran comisiynu lleoliadau a datblygu darpariaeth lleoliadau mewnol ymhellach. Byddai’r canlyniad yn llywio’r gwaith o ddatblygu ail gamStrategaeth ‘Gofal yn Nes at y Cartref’ wedi’i diweddaru.
Roedd gan Gyngor Sir y Fflint weledigaeth strategol i ddarparu digon o lety lleol o ansawdd da er mwyn diwallu anghenion plant sy’n derbyn gofal. Mae’r ‘Strategaeth Comisiynu Lleoliadau: Gofal yn Nes at y Cartref’ yn nodi’r bwriad i fuddsoddi yn y gwaith o ddatblygu maethu mewnol, gofal preswyl a chreu partneriaethau effeithiol gyda darparwyr o ansawdd uchel sy’n gweithredu egwyddorion nid er elw.
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn cyfyngu ar allu’r Cyngor i gomisiynu’n rhydd â darparwyr rhai modelau busnes y tu allan i Gymru yn ogystal ag o fewn y wlad ac yn lleol. Byddai’r polisi hwn, fel yr oedd eisoes yn gwneud hynny, yn newid y dirwedd o ran dewisiadau lleoliadau ar gyfer plant a phobl ifanc. Felly, mae’n rhaid i awdurdodau lleol fynd ati’n rhagweithiol i adnabod cyfleoedd am newid a rheoli’r risgiau sy’n dod i’r amlwg. Roedd y Cyngor wedi ymrwymo i’r bwriad polisi cenedlaethol. Fodd bynnag, roedd yr amserlen weithredu yn un heriol iawn a byddai angen gwaith cynllunio sylweddol er mwyn sicrhau trosglwyddiad diogel i’r plant a’r bobl ifanc.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn cymeradwyo symud ymlaen i gyflawni cam cyntaf ein strategaeth ‘Gofal yn Nes at y Cartref’; a
(b) Bod y Cabinet yn cefnogi gweithdy ar gyfer Aelodau Etholedig ym mis Medi/ Hydref 2024, i amlinellu’r ddeddfwriaeth newydd, cyd-destun comisiynu lleoliadau presennol (cyfeirir atynt yn aml fel Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir) ac archwilio dewisiadau ar gyfer datblygu ein dull strategol i gomisiynu lleoliadau a datblygu darpariaeth lleoliadau mewnol ymhellach. |
|
Cyflwyno Ffioedd Ar Gyfer Gwasanaethau Penodeiaeth PDF 173 KB To provide details of the proposals to charge a management fee to individuals for whom the Council are Corporate Appointees. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth i weithredu strwythur cyflwyno ffioedd ar gyfer achosion Penodeiaeth a reolir gan awdurdodau lleol.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnig gwasanaethau drwy ei Dîm Dirprwyaeth, er mwyn helpu unigolion diamddiffyn i reoli eu materion ariannol. Cynigiwyd cefnogaeth trwy ymgymryd â rôl naill ai fel Penodai’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) neu fel Dirprwy’r Llys Gwarchod (COP). Mae Penodai’r DWP yn derbyn taliadau budd-dal DWP unigolyn ac roedd yn fodd i’w cefnogi i gyllidebu a thalu eu rhent a’u biliau cyfleustodau.
Hyd yma, roedd y gwaith hwn wedi’i gwblhau yn rhad ac am ddim. Cynhigiwyd bod y Cyngor yn codi ffi reoli ar raddfa lithr ar unigolion y mae’n gweithredu fel Penodai Corfforaethol ar eu cyfer.
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) nad oedd y Gwasanaeth Penodeiaeth yn un statudol, gan olygu nad oedd rhwymedigaeth gyfreithiol ar yr awdurdod i’w ddarparu. Fodd bynnag, o ystyried nifer yr unigolion sy’n cael eu cefnogi ar hyn o bryd a’r nifer uchel o atgyfeiriadau sydd wedi’u derbyn, mae’n amlwg fod yna angen amdano. Rhoddwyd cryn sylw i’r pwysau cyllidebol ar awdurdodau lleol ac oherwydd hyn, roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r ffioedd sy’n cael eu codi ar gyfer gwasanaethau, er mwyn sicrhau bod modd iddynt barhau yn y dyfodol.
Roedd tystiolaeth ledled y DU bod nifer gynyddol o awdurdodau lleol wedi cyflwyno ffioedd am eu gwasanaethau Penodeiaeth. Ymatebodd sawl awdurdod lleol yng Nghymru, wrth ymgynghori â nhw, gan ddweud eu bod wrthi’n ystyried cyflwyno ffioedd ar gyfer Gwasanaethau Penodeiaeth yn y dyfodol agos a dywedodd 3 ohonynt eu bod wedi cyflwyno ffioedd eisoes.
Dywedodd y Prif Swyddog fod yr adroddiad wedi cael ei drafod yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 18 Gorffennaf, 2024. Cynhigiwyd argymhelliad arall gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, a chafodd ei drafod gan y Pwyllgor. Roedd y dewis ychwanegol hwn a gynhigiwyd gan y Cynghorydd Ibbotson yn awgrymu nad oedd unrhyw wahaniaeth rhwng y ffioedd ar gyfer unigolion yn y gymuned a’r unigolion sy’n byw mewn cartrefi preswyl. Ni fu'n bosibl amcangyfrif yr incwm posibl drwy’r dewis hwn ar sail yr unigolion sy’n cael eu cefnogi gan y Tîm Dirprwyaeth, gan nad oes llawer o amser rhwng Pwyllgorau. Awgrymwyd y dylai’r Tîm Dirprwyaeth wneud rhagor o gyfrifiadau, er mwyn cynnig amcangyfrif, a oedd wedi cael ei gyfrifo gan ddefnyddio’r un wybodaeth graidd a ddefnyddiwyd ar gyfer Dewis 1 a 2, fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cychwynnol â’r holl unigolion sy’n derbyn gwasanaeth Penodeiaeth a’u gofalwyr, yn ogystal â gwasanaethau eiriolaeth ac asiantaethau cynrychiadol. Cyn ei weithredu’n gyfan gwbl, byddai ymgynghoriad llawn yn cael ei gynnal ynghylch y strwythur a chyflwyno’r ffioedd arfaethedig.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r gwaith o weithredu strwythur codi tâl ar gyfer achosion Penodeiaeth a reolir gan awdurdodau lleol. |
|
YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG PDF 93 KB Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r Gwaith sy’n mynd rhagddo i’w lliniaru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:-
Addysg ac Ieuenctid
Darparu taliadau yn ystod gwyliau haf yr ysgolion i rieni plant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim 2024. Byddai’r taliad yn £50.00 y dysgwr.
Amcangyfrifir bod y gost ar gyfer y taliadau yn ystod gwyliau’r haf 2024 yn £276,000. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitemau canlynol wedi’u heithrio yn rhinwedd paragraff(au) 14 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Dogfennau ychwanegol: |
|
Ailgomisiynu Gwasanaethau Gofalwyr Di-dâl Pwrpas: Ymgynghori ar yr adolygiad o wasanaethau gofalwyr a chynigion ar gyfer comisiynu. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a oedd yn nodi’r cynigion ar gyfer ailgomisiynu gwasanaethau gofalwyr am gyfnod o bum mlynedd, gan ddechrau o fis Ebrill 2025, yn unol â Rheolau Gweithdrefn Gontractau’r Cyngor.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn cydnabod yr adborth a gafwyd yn lleol mewn perthynas â gwasanaethau gofalwyr fel rhan o’r adroddiad; a
(b) Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r cynigion a wnaed i gomisiynu gwasanaethau gofalwyr am gyfnod o bum mlynedd, gan ddechrau o fis Ebrill 2025, yn unol â Rheolau’r Weithdrefn Gontractau. |
|
Cynllun Busnes Theatr Clwyd - diweddariad blynyddol Pwrpas: Rhoi cyfle i Aelodau weld Cynllun Busnes terfynol Theatr Clwyd 2023-29, a chael diweddariad blynyddol ar gyflawniad yn erbyn y Cynllun. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mared Eastwood yr adroddiad a oedd yn cyflwyno Cynllun Busnes Theatr Clwyd 2023-2029 wedi’i ddiweddaru, ynghyd ag Adroddiad Effaith yn amlygu cyflawniadau, a chyfrifon ariannol Theatr Clwyd ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2023.
Er bod y Cynllun Busnes a'r Adroddiad Effaith yn cynnwys holl weithgareddau Theatr Clwyd, nid oedd yr adroddiad yn cynnwys y cyfrifon archwiliedig ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth, a oedd yn cyd-fynd â'r flwyddyn academaidd ac a oedd ar hyn o bryd yn cael eu cymeradwyo gan archwilwyr allanol.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn nodi cynnwys Cynllun Busnes Theatr Clwyd, yr hyn a gyflawnwyd fel y nodwyd yn yr Adroddiad Effaith, a’r sefyllfa ariannol fel y manylir yn y cyfrifon a ddarparwyd. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |