Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I derbyn datganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a 16 Ionawr 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ionawr eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir. |
|
Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2024/25 - Y Cam Cau Olaf PDF 178 KB Pwrpas: I gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2024/25 ar argymhelliad y Cabinet. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd fod y gwaith sydd wedi digwydd ers mis Gorffennaf 2023, yn darparu adroddiadau diweddaru rheolaidd ar sefyllfa cyllideb heriol y Cyngor ar gyfer 2024/25, wedi dod i ben. Manylwyd ar ganlyniad y gwaith hwnnw yn yr adroddiad.
Roedd yr adroddiad yn nodi cynnig gan y Cabinet i'r Cyngor allu cyrraedd sefyllfa gyllidebol gyfreithiol a chytbwys ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys opsiwn arall yn dilyn derbyn cynnig gan y Gr?p Annibynnol.
Roedd yr adroddiad yn nodi argymhellion Treth y Cyngor ar gyfer pennu lefelau trethiant lleol ar gyfer 2024/25 a fyddai’n cael eu cynnig yn ffurfiol yn y Cyngor yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw yn dilyn hysbysiad o braeseptau’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a’r holl Gynghorau Tref a Chymuned yn Sir y Fflint.
Gwahoddwyd y Cabinet i wneud argymhellion terfynol i'r Cyngor i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys yn seiliedig ar y manylion a nodir yn yr adroddiad hwn. Byddai cyflwyniad llawn yn cael ei wneud yn y Cyngor Sir.
Roedd yr yn cynnwys y tablau canlynol: · Tabl 1: Gofyniad Cyllidebol Ychwanegol Gweddilliol 2024/25 · Tabl 2: Datrysiadau Arfaethedig Cyllideb Terfynol 2023/24 · Tabl 3: Cyllideb arfaethedig ar gyfer 2024/25 · Tabl 4: Addasiadau Cyllideb Ysgolion · Tabl 5: Addasiadau Cyllideb Gofal Cymdeithasol · Tabl 6: Rhagolygon Tymor Canolig 2025/26 – 2026/27
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y gofyniad cyllideb ychwanegol ddiwygiedig ar gyfer 2024/25 yn cael ei nodi a’i gymeradwyo;
(b) Bod y cynigion terfynol ar gyfer y gostyngiadau yn y costau a fydd yn cyfrannu at y gyllideb yn cael eu cymeradwyo;
(c) Bod cyllideb gyfreithiol a chytbwys yn seiliedig ar y cyfrifiadau a’r ddau ddewis sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad yn cael ei hargymell i'r Cyngor;
(d) Bod y risgiau agored sylweddol sy’n parhau i gael eu rheoli yn ystod y flwyddyn ariannol 2024/25 yn cael eu nodi;
(e) Bod cynnydd blynyddol cyffredinol yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2024/25 wedi ei seilio ar y ddau ddewis a ddarperir yn cael ei argymell;
(f) Bod y Cyngor yn cael ei wahodd i gymeradwyo Treth y Cyngor ffurfiol gan ein bod ni bellach wedi cael gwybod am braeseptau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a phob Cyngor Tref a Chymuned yn Sir y Fflint; a
(g) Bod y rhagolygon tymor canolig yn sail ar gyfer yr adolygiad nesaf o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn cael eu nodi. |
|
Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2024/25 PDF 199 KB Pwpras: Cyflwyno i’r Aelodau Strategaeth Rheoli’r Trysorlys Drafft 2024/25 i'w argymell i'r Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn cyflwyno Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ddrafft 2024/25 i'w hargymell i'r Cyngor.
Roedd yr adroddiad wedi'i ystyried yn fanwl gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 24 Ionawr 2024 ac nid oedd unrhyw faterion penodol i'w dwyn i sylw'r Cabinet.
Roedd Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2024/25 wedi'i hatodi i'r adroddiad i'w hadolygu ac roedd crynodeb o'r pwyntiau allweddol wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.
Ategwyd yr adroddiad gan hyfforddiant rheoli’r trysorlys a ddarparwyd i Aelodau’r Cyngor ar 8 Rhagfyr 2023.
PENDERFYNWYD:
Argymell Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2024/25 i'r Cyngor Sir i'w chymeradwyo. |
|
Isafswm Darpariaeth Refeniw - Polisi 2024/25 PDF 193 KB Pwrpas: Mae gofyn i Awdurdodau Lleol bob blwyddyn roi rhywfaint o’u hadnoddau refeniw o’r neilltu fel darpariaeth i ad-dalu dyledion. Mae’r adroddiad yn cyflwyno polisi drafft y Cyngor ar Isafswm Darpariaeth Refeniw. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac esboniodd fod rhaid i awdurdodau lleol osod polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mhob blwyddyn ariannol.
Bob blwyddyn, roedd yn ofynnol i awdurdodau lleol neilltuo rhywfaint o adnoddau refeniw fel darpariaeth ar gyfer ad-dalu dyled.
Mae rheoliadau yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau wneud darpariaeth isafswm refeniw pob blwyddyn y mae’n ei hystyried yn ddoeth. Nid oedd y rheoliadau eu hunain yn diffinio darpariaeth ‘darbodus’. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau sy'n cynnig argymhellion i awdurdodau lleol ar ddehongli'r telerau a gofynnir i awdurdodau baratoi datganiad blynyddol o'u polisi ar wneud isafswm darpariaeth.
Roedd y Cyngor, fel rhan o strategaeth y gyllideb, wedi cynnal adolygiadau manwl o’i bolisi MRP yn 2016/17 a 2017/18 ac wedi diwygio’r polisi o ganlyniad.
Nid oedd angen gwneud newidiadau i’r polisi ar gyfer 2024/25.
Cyflwynwyd y Polisi i Aelodau ar y cyd ag adroddiad gosod cyllideb 2024/25.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir ar gyfer dyled heb ei thalu’r Gronfa'r Cyngor (CF): · Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mlwyddyn ariannol 2024/25 ar gyfer cydbwyso gwariant cyfalaf sy’n ddyledus ac sydd wedi’i ariannu gan fenthyca â chymorth wedi’i osod ar 31 Mawrth 2017. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 49 mlynedd. · Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2024/25 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sydd wedi’i ariannu gan fenthyca â chymorth o 1 Ebrill 2016. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion. · Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2024/25 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sydd wedi’i ariannu gan fenthyca (darbodus) heb gymorth neu drefniadau credyd, gan gynnwys y Model Buddsoddi Cydfuddiannol. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.
(b) Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir ar gyfer dyled heb ei thalu’r Cyfrif Refeniw Tai: · Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrifo Isafswm Darpariaeth Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai yn 2024/25 ar gyfer cydbwyso gwariant cyfalaf sy’n ddyledus ac sydd wedi’i ariannu gan ddyled wedi’i osod ar 31 Mawrth 2021. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 50 mlynedd. · Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrifo Isafswm Darpariaeth Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai yn 2024/25 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sydd wedi’i ariannu gan ddyled o 1 Ebrill 2021. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.
(c) Bod yr Aelodau yn cymeradwyo ac yn argymell ... view the full Cofnodion text for item 121. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 9) PDF 187 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2023/24 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 9 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg manwl i Aelodau am sefyllfa monitro cyllideb Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, a chyflwynodd y sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 9.
Roedd y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn fel a ganlyn:
Cronfa’r Cyngor · Roedd y diffyg gweithredol o £2.502m a oedd yn symudiad ffafriol o £0.440m o’r ffigwr diffyg a adroddwyd ym Mis 8 · Balans wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2024 o £5.108 miliwn (ar ôl union effaith dyfarniadau cyflog a chan ystyried dyraniadau a gymeradwywyd yn flaenorol)
Y Cyfrif Refeniw Tai · Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.049 miliwn yn uwch na’r gyllideb a oedd yn symudiad cadarnhaol o £0.031 miliwn o’r ffigwr a adroddwyd ym Mis 8 · Rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2024 yn £3.148 miliwn.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y rhagolygon economaidd yn parhau'n heriol gan fod lefelau chwyddiant yn parhau i fod yn uchel. Roedd effeithiau hynny, ynghyd â'r cynnydd parhaus yn y galw am wasanaethau, yn dod yn fwyfwy anodd ymdrin â nhw wrth i gyllid y Cyngor fethu â chadw i fyny â maint y pwysau hynny.
I gynorthwyo i reoli’r risgiau hynny a lliniaru’r gorwariant amcanol cyffredinol, roedd moratoriwm ar wariant heb ei ymrwymo’n gytundebol wedi’i roi mewn lle gyda phroses rheoli swyddi gwag oedd yn parhau.
Hyd at Fis 9, roedd £1.548m o wariant gohiriedig a/neu hwyr wedi’i nodi ac roedd wedi’i ddadansoddi gan y gwasanaeth o fewn Atodiad 2. Byddai her gadarn llinellau ac ymrwymiadau’r gyllideb yn parhau, a byddai diweddariadau pellach yn cael eu darparu mewn adroddiadau yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2023/24; a
(b) Cymeradwyo’r ceisiadau i ddwyn arian ymlaen. |
|
Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 9) PDF 185 KB Pwrpas: Darparu gwybodaeth am Raglen Gyfalaf Mis 9 ar gyfer 2023/24. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf 2023/24 ers ei gosod ym mis Ionawr 2023 hyd at ddiwedd Mis 9 (Rhagfyr 2023), ynghyd â’r gwariant hyd yma a’r sefyllfa derfynol a ragwelir.
Bu gostyngiad net o £1.803 miliwn i’r Rhaglen Gyfalaf yn ystod y cyfnod, a oedd yn cynnwys:
· Lleihad yng nghyllideb net y rhaglen o (£0.477m) (Gweler Tabl 2 - Cronfa’r Cyngor); · Swm i’w ddwyn ymlaen i 2024/25 wedi’i gymeradwyo ym Mis 6 o (£1.151 miliwn) · Arbedion a nodwyd ym Mis 9 (£0.175 miliwn – Cronfa’r Cyngor)
Y gwariant gwirioneddol oedd £43.441 miliwn (Gweler Tabl 3).
Roedd derbyniadau cyfalaf a dderbyniwyd yn nhrydydd chwarter 2023/24 ynghyd ag arbedion a nodwyd yn gyfanswm o £0.316 miliwn. Roedd hynny’n rhoi gwarged diwygiedig a ragwelir yn y Rhaglen Gyfalaf ym Mis 9 o £2.312 miliwn (o warged cyllido Mis 6 o £1.996 miliwn) ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2023/24 - 2025/26, cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffynonellau cyllid eraill.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r adroddiad cyffredinol; a
(b) Chymeradwyo'r addasiadau cario ymlaen. |
|
YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG PDF 116 KB Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r Gwaith sy’n mynd rhagddo i’w lliniaru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig ei chyflwyno. Roedd y camau gweithredu wedi eu nodi isod:-
Llywodraethu
Mae'r Cyngor yn rheoli'r Gwasanaeth Cofrestru sydd â nifer o swyddogaethau statudol gan gynnwys cofrestru genedigaethau, marwolaethau, priodasau sifil a phartneriaethau sifil. Mae'r gwasanaeth wedi'i leoli yn Neuadd Llwynegrin, yr Wyddgrug ac mae'n cadw cofnodion archifol y rhoddir copïau o dystysgrifau ohonynt. Mae'r gwasanaeth hefyd yn trwyddedu lleoliadau ar gyfer seremonïau sifil ar draws y Sir ac yn cynnal amrywiaeth o wasanaethau dathlu anstatudol.
Mae'r ffïoedd sy'n ymwneud â gwasanaethau statudol wedi'u pennu gan statud ac ni allant fod yn fwy na chost darparu'r gwasanaeth. Fodd bynnag, mae gan y Cyngor gwmpas i osod ffïoedd ar gyfer gwasanaethau anstatudol.
Mae natur y Gwasanaeth Cofrestru yn golygu bod rhai gwasanaethau megis priodas yn cael eu harchebu hyd at 24 mis ymlaen llaw ac o ganlyniad mae angen gosod ffïoedd anstatudol ymlaen llaw er mwyn caniatáu i barau gynllunio. Diweddarwyd y ffioedd ddiwethaf ar 1 Ebrill 2022 gan ddefnyddio Templed Adennill Costau Ffioedd a Thaliadau’r Cyngor, ac fe’u gosodwyd am dair blynedd. Roedd yr adroddiad:
|
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 14 ac 15 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Dogfennau ychwanegol: |
|
Cynigion Cydnerthedd Gwasanaeth Pwrpas: Cynigion Cydnerthedd Gwasanaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a oedd yn nodi cynnydd o ran sefydlogi gwytnwch y Gwasanaethau Plant a gyflawnwyd drwy ddefnyddio staff asiantaeth.
Roedd yr adroddiad yn argymell bod yr awdurdod lleol yn parhau â'i waith i ddenu gweithwyr cymdeithasol profiadol.
PENDERFYNWYD:
Bod y tîm asiantaeth a reolir yn cael ei ymestyn tan 31 Rhagfyr 2024 i sicrhau y gellir cynnal darpariaeth gwasanaeth effeithiol. |
|
Cymunedau am Waith Pwrpas: Ceisio cefnogaeth i'r cynigion ar gyfer Cymunedau am Waith. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad a oedd yn rhoi manylion y rhaglen Cymunedau am Waith a’r gostyngiad yn y gyllideb ar gyfer 2024/25.
Roedd yr adroddiad yn argymell strwythur newydd ar gyfer y gwasanaeth a oedd yn fforddiadwy o fewn y gyllideb lai.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo'r strwythur newydd arfaethedig ar gyfer y gwasanaeth; a
(b) Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) gwblhau’r broses ailstrwythuro, gan ddiwygio’r strwythur yn ôl yr angen ar ôl ymgynghori â’r Undebau Llafur a’r gweithwyr, neu, yn dibynnu ar raddfa’r costau ymadael, bydd yn destun ystyriaeth y Cyngor Llawn yn dilyn y cyfnod ymgynghori. |
|
CYNLLUN BUSNES CARTREFI GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU 2023/2052 Pwrpas: Aelod Cabinet Tai ac Adfywio. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad a oedd yn cyflwyno Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru (NEW). Roedd y Cynllun Busnes yn nodi elfennau allweddol o strategaeth ddatblygu arfaethedig y cwmni a gynyddodd nifer yr eiddo rhent fforddiadwy i’w darparu dros y ddwy flynedd nesaf.
Roedd rhwymedigaeth ar Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru i geisio cymeradwyaeth y Cabinet o ran unrhyw Gynllun Busnes oedd yn darparu amcanion strategol y cwmni.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2024-2053. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |