Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Healey gysylltiad personol.

2.

Archwilio Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint – Diweddariad ar y Sefyllfa Bresennol ac Ymgynghoriad ar y Newidiadau i’r Materion Sy’n Codi pdf icon PDF 128 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i’r Cabinet ar y sefyllfa bresennol o ran Archwilio Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir y Fflint (CDLl) a gofyniad yr Arolygwr bod Newidiadau i’r Materion sy’n Codi (NMC) yn cael eu cyhoeddi er ymgynghoriad cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn cyflwyno’r adroddiad, mynegodd y Cynghorydd Roberts ei ddiolch i’r Cynghorydd Bithell, Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), y Rheolwr Gwasanaeth – Strategaeth a’u timau, am eu gwaith ar y Cynllun Datblygu Lleol a fyddai’n darparu sicrwydd i’r Cyngor yn y blynyddoedd i ddod.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad gan egluro, ar ôl cyflwyno’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) i’w archwilio’n gyhoeddus gan y Cyngor ym mis Hydref 2020, cynhaliwyd sesiynau gwrandawiadau ffurfiol yr Archwiliad rhwng 13 Ebrill a 20 Mai 2021.

 

Ar ôl y sesiwn archwilio, roedd dau fater angen eu datrys:

 

·         Pryderon yr arolygydd o ran cynaliadwyedd agweddau ar Safle Datblygu Defnydd Cymysg Strategol Warren Hall; a

·         Thargedau newydd a gyhoeddwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ym mis Ionawr 2021 i reoli lefelau ffosffad yn afonydd dynodedig Afon Dyfrdwy ac Ardal Cadwraeth Arbennig Llyn Tegid.

 

Yn dilyn sesiwn gwrandawiad pellach ar gais yr Arolygydd, er mwyn rhoi ystyriaeth i’w phryderon o ran Warren Hall a lle rhoddodd y Cyngor a phartïon â diddordeb dystiolaeth bellach, dywedodd yr Arolygydd fod angen gwneud newid i’r CDLl, i ddileu elfen tai y datblygiad defnydd cymysg ar sail cynaliadwyedd.  Yn hanfodol, nid oedd y newid hwnnw’n effeithio ar pa mor gadarn oedd y CDLl nac yn arwain at angen darparu safleoedd amgen yn rhywle arall, o ystyried lefel yr hyblygrwydd o ran tai sydd wedi’i chynnwys yn y cynllun.

 

Roedd mater ffosffadau o natur fwy technegol neu weithdrefnol yng nghyd-destun cynnal pa mor gadarn oedd y CDLl, a oedd yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r Cyngor ddangos bod y cynllun yn dal i gydymffurfio â’r Rheoliadau Cynefinoedd ac na fyddai’r datblygiad ynddo yn cael effaith andwyol ar afonydd a warchodir mewn ACA.  Roedd y Cyngor wedi gwneud hyn trwy gryfhau polisïau allweddol a oedd yn diogelu amgylchedd y d?r ac adnoddau, yn ogystal â chynhyrchu strategaeth liniaru ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a oedd ar gam tebyg o ran Archwilio eu CDLl.  Roedd Strategaeth Lleihau Ffosfforws yn Nalgylch Afon Dyfrdwy yn cynnig bod lefelau lliniaru yn cael eu hystyried a’u gweithredu ar ôl mabwysiadu’r cynllun. Roedd rhai o’r rhain yn gyfrifoldeb i’r Cyngor ond roedd rhai eraill yn gyfrifoldeb i fudd-ddeiliaid allweddol eraill fel Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), D?r Cymru, y Sector Amaeth a datblygwyr i fwrw ymlaen â nhw.

 

Roedd y Strategaeth yn cynnig cydweithio i gyflawni gostyngiadau o ran lefelau ffosffad, a byddai Bwrdd Rheoli Maethynnau yn cael ei sefydlu.  Roedd Cyngor Wrecsam yn arwain o ran sefydlu’r Bwrdd, a byddai Sir y Fflint yn cynorthwyo a chyfranogi.  Er mwyn dangos bod y Strategaeth yn cael ei gweithredu, roedd rhagor o waith eisoes wedi’i gomisiynu i asesu dichonoldeb datblygu gwlyptiroedd ger y gwaith trin d?r gwastraff.  Atodwyd y Strategaeth i’r adroddiad.

 

Ar ôl datrys pob mater oedd yn weddill, roedd y Cyngor wedi paratoi rhestr o newidiadau i’r Cynllun, a oedd wedi deillio o’r Archwiliad, ac roedd yr Arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn cynnal pa mor gadarn oedd y  ...  view the full Cofnodion text for item 2.

3.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

There were __ members of the press and __ members of the public in attendance.