Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

126.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

127.

Cofnodion pdf icon PDF 354 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 15 Chwefror 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2022 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gofnodion cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

                                          

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

128.

Trefniadau Cydweithio Cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau Mabwysiadu a Maethu (awdurdodau lleol) pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        Cyflwynocynigion ar gyfer datblygu’r llywodraethu ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i Gymru wrth iddo gymryd cyfrifoldeb dros Faethu Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), bod cynigion wedi cael eu datblygu i ehangu’r strwythur llywodraethu’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i gynnwys dull cenedlaethol i wasanaethau maethu penodol drwy Maethu Cymru (FW). 

 

Roedd cyfreithwyr CLlLC wedi drafftio Cytundeb Cyfreithiol Cyd-bwyllgor sydd i’w lofnodi gan 22 o’r awdurdod lleol gyda’r Cytundeb yn cynnwys Cynllun dirprwyo ffurfiol gyda Cydbwyllgor, yn darparu mecanwaith ar gyfer holl awdurdod lleol Cymru i ryddhau a gweithredu rôl oruchwylio ar gyfer NAS a FW.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod yr adroddiad yn ceisio cytundeb i lofnodi Cytundeb Cydbwyllgor ar gyfer y Cydbwyllgor arfaethedig.  Byddai cytuno i’r cynigion, a llofnodi’r Cytundeb Cydbwyllgor, yn rhoi cydweithrediad Cyngor Sir y Fflint yn y trefniadau cydweithio ar sail ffurfiol.  Roedd y Cytundeb yn cadarnhau rolau a chyfrifoldebau ar gyfer gwesteio, a darparu cyfrifoldebau mabwysiadu a maethu.

 

Gofynnwyd i awdurdodau lleol i lofnodi a dychwelyd y Cytundeb ar y cyd i CLlLC erbyn 31 Mawrth 2022.  Byddai rhaid i bob awdurdod lleol enwebu Aelod o’r Pwyllgor Gweithredol/ Cabinet i fod yn Aelod sy’n pleidleisio ar y Cydbwyllgor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod cyllid ar gyfer hwn drwy grant a fydd yn dod i ben ym mis Mawrth 2023.  Codwyd yr angen am strategaeth ymadael cyllid gyda Llywodraeth Cymru i alluogi gwasanaeth cynaliadwy ar ôl cyfnod y grant.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Banks, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) mai Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol dylai fod yn gynrychiolydd ar y Cydbwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a) Bod y cynigion i ddarparu trefniadau llywodraethu ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru, gan ei fod yn honni cyfrifoldeb i Maethu Cymru, yn cael eu mabwysiadu.

 

(b) Bod y Cabinet yn cefnogi llofnodi’r Cytundeb Cydbwyllgor ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Maethu Cymru;

 

(c)        Bod cynrychiolydd ar y Cydbwyllgor yn Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol; a

 

(d)       Bod datblygiad y dull cenedlaethol, dirprwyaeth cysylltiedig o lywodraethu, trefniadau craffu lleol yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal a’r Cyngor Llawn.

129.

Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 10) pdf icon PDF 196 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2021/22 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 10 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl ddiweddaraf am sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw yn 2021/22 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol, a chyflwynodd y sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol, ar Mis 10. 

 

Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio effeithlonrwydd a rheoli costau, sef:

 

 

Cronfa’r Cyngor

  • Roedd y diffyg gweithredol o (£4.604m)  a oedd yn symudiad ffafriol o (£3.067m) o’r ffigwr diffyg (£1.537m) a adroddwyd ym Mis 9.
  • Roedd balans y gronfa wrth gefn a rhagwelwyd ar 31 Mawrth 2022 yn £5.973m (ar ôl ystyried dyfarniad tâl NJC 2021/22 a’r cyfraniad cynyddol y Cronfa Wrth Gefn mewn Argyfwng a gytunwyd fel rhan o Gyllideb 2022/23).

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.382m yn uwch na’r gyllideb.

·         Rhagwelir mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2022 fydd £4.035 miliwn.

 

Roedd y symudiad sylweddol ym Mis 10 o ganlyniad i gyllid Gofal Cymdeithasol ychwanegol ar gyfer pwysau’r Gaeaf, a gadarnhawyd yn hwyr yn y flwyddyn ariannol gan Lywodraeth Cymru o £2.167m, ynghyd â meini prawf cyllid grant ychwanegol yn cael ei ddiweddaru gan Lywodraeth Cymru o fewn Gwasanaethau Plant o £0.292m.

 

Roedd adroddiad hefyd yn rhoi manylion am sefyllfa pob portffolio; amrywiadau arwyddocaol y mis hwnnw; faint o’r arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn a gafodd eu cyflawni; cyllid mewn argyfwng; cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi a chronfeydd wrth gefn wedi eu clustnodi.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bithell a oedd unrhyw gostau yn gysylltiedig gyda difrod a gwaith clirio dilynol ar ôl y stormydd diweddar yn hysbys.  Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd y difrod wedi bod mor sylweddol a ofnwyd, a chadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) eu bod dal i edrych ar y costau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn arall gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Weithredwr bod ynni wedi’i brynu ymlaen llaw gyda chytundeb nwy yn rhedeg allan ym mis Ebrill 2023, a chytundeb trydan yn rhedeg allan ym mis Hydref 2022.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2021/22; a

 

(b)       Chymeradwyo’r ceisiadau i ddwyn arian ymlaen.

130.

Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2023/24 pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        Cynghori ar ganlyniad ymarfer ymgynghori statudol ar drefniadau derbyn ar gyfer 2023/24, ac i argymell cymeradwyaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn cynghori ar ganlyniad yr ymarfer ymgynghori statudol ar drefniadau derbyn ar gyfer 2023/24 i’w cymeradwyo.

 

Yn unol â Chod Derbyniadau Ysgol, roedd gofyn i’r awdurdod lleol gyflawni ymarfer ymgynghori statudol ar ei drefniadau derbyn ar gyfer y flwyddyn ganlynol.  Mae’n rhaid cwblhau’r ymgynghoriad erbyn 1 Mawrth a rhaid i drefniadau derbyn gael eu bennu erbyn 15 Ebrill bob blwyddyn.  Roedd ymgynghorai statudol yn cynnwys pob ysgol yn yr ardal, yr awdurdodau esgobaethol a’r awdurdodau cyfagos.

 

Roedd y trefniadau derbyn cyfredol wedi bod mewn lle ers 2003 a roedd y mwyafrif o ddewisiadau rhieni yn parhau i gael eu bodloni.  Amlinellwyd y nifer o apeliadau derbyn yn y blynyddoedd diweddar yn yr adroddiad.

 

Cynhaliwyd y broses ymgynghori rhwng 05.01.22 a 04.02.22 ac ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau.  Nid oedd unrhyw newid arfaethedig i drefniadau derbyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2023/24.

131.

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth gan Aelodau i sefydlu cynllun priodol o awdurdod dirprwyedig ar gyfer Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ac eglurodd bod Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n ymwneud ag anifeiliaid) (Cymru) 2021 yn gofyn, yn amodol ar feini prawf cymhwyso, bod unrhyw unigolyn sydd yn dymuno gwerthu anifeiliaid mewn busnes i gael trwydded gan eu hawdurdod lleol dan y rheoliadau hynny.

 

            Y prif newidiadau a gyflwynwyd gan y rheoliadau oedd:

 

·         Gofyn am drwydded gweithredwyr a oedd yn gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes yn ystod rhedeg busnes, gan gynnwys cadw anifeiliaid yn ystod busnes gyda’r bwriad o gael eu gwerthu neu ailwerthu.

·         Cyflwyno safonau lles llymach i’r rheiny sydd yn gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes.

·         Cyflwyno amodau trwyddedu gorfodol i’r rheiny sydd â thrwydded i werthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes.

·         Cyflwyno gwaharddiad ar werthiant trydydd parti masnachol o g?n a chathod bach.

 

Er mwyn ymdrin â cheisiadau a materion lles anifeiliaid, cynigiwyd bod pwerau o fewn y ddeddfwriaeth yn cael eu dirprwyo i’r Rheolwr Tîm- Trwyddedu a Rheoli Plâu a’r Rheolwr Gwasanaeth Diogelu Busnes a’r Gymuned.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod pwerau dirprwyedig yn cael eu rhoi i’r Rheolwr Tîm - Trwyddedu a Rheoli Plâu a’r Rheolwr Gwasanaeth Diogelu Busnes a’r Gymuned ar gyfer y pwerau canlynol o fewn Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n ymwneud ag Anifeiliaid).

·         P?er i roi trwydded

·         P?er i wrthod trwydded

·         P?er i adnewyddu trwydded

·         P?er i amrywio trwydded

·         P?er i amrywio trwydded ar unwaith

·         P?er i weithredu amodau

·         P?er i atal trwydded

·         P?er i atal trwydded ar unwaith

·         P?er i adfer trwydded wedi’i gwahardd

·         P?er i ddiddymu trwydded

·         P?er i benodi arolygwyr

 

(b)       Bod Cyfansoddiad Cyngor Sir y Fflint yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu’r newid; a

 

(c)        Bod unrhyw newidiadau i’r ddirprwyo pwerau o ran y rheoliadau hynny yn cael eu dirprwyo i’r Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) mewn trafodaeth gyda’r Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd.

132.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 197 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.  Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Addysg ac Ieuenctid

 

  • Llywodraethwyr Ysgol a Benodir gan Awdurdodau Lleol

Penodi cynrychiolwyr Llywodraethwr/ Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion yn unol â Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.

 

Refeniw

 

  • Ardrethi Busnes - Mabwysiadu Cynllun Rhyddhad, Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch (RLHRR) ar gyfer 2022/23

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi busnes sydd wedi anelu at gefnogi busnes yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch.  Bydd talwr ardrethi cymwys yn cael rhyddhad ardrethi o 50%  Mae’r cynllun yn fesur dros dro i gefnogi busnesau ac yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru.  Yn ogystal mae gofyniad i awdurdodau lleol unigol fabwysiadu’r cynlluniau a phenderfynu pa fusnesau fydd yn cael eu dyfarnu a rhyddhad gan ddefnyddio’r canllaw y cynllun a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Gwasanaethau Stryd a Chludiant

 

  • Cyngor Sir y Fflint - B5127 Lôn y Felin, Elfed Drive, Elfed Drive, Potters Way, Beechtree Road, Tabernacle Street, Orchard Close, Padeswood Road North, Mold Road, Brunswick Road a Hawkesbury Road, Bwcle  - Gwaharddiad Arfaethedig i Aros ar Unrhyw Adeg

Cynghori Aelodau o’r ohebiaeth a dderbyniwyd yn dilyn hysbyseb o’r Gwaharddiad Arfaethedig i Aros ar Unrhyw Adeg ar y ffyrdd a restrwyd uchod.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

                       

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraff(au) 15 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Dogfennau ychwanegol:

133.

Cynllun Busnes NEWydd 2022/23

Pwrpas:        Cyflwyno Cynllun Busnes NEWydd Arlwyo a Glanhau Cyf 2022/23 i'w gymeradwyo.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad a amlinellodd y Cynllun Busnes NEWydd ar gyfer 2022/23.

 

            Ym mis Hydref 2021, cytunodd y Cabinet ar Gytundeb Consesiwn Gwasanaethau estynedig gyda NEWydd o 1 Ebrill tan 31 Mawrth 2024.  Yn unol â’r trefniadau, roedd gofyn i NEWydd gynhyrchu Cynllun Busnes Blynyddol i gynnwys cyllido a rhagolygon ariannol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Bod y risgiau strategol yr oedd y busnes yn wynebu yn cael ei nodi, a bod y Cynllun Busnes 2022/23 gan gynnwys lliniaru’r risgiau a nodwyd, yn cael ei ardystio, a

 

(b)       Bod y Cabinet yn parhau i gefnogi a chymeradwyo’r dull gyfredol ynghylch pwerau dirprwyedig mewn perthynas â gosod pris prydau ysgol gynradd (dirprwywyd i’r Aelod Cabinet a Chyfarwyddwr Rheoli).

134.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.