Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

92.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd dim.

93.

Cofnodion pdf icon PDF 246 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 14 Rhagfyr 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2021 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir. 

 

PENDERFYNWYD:

                                          

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

94.

Cyllideb 2022/23 a Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru pdf icon PDF 130 KB

Pwrpas:        I roi’r wybodaeth ddiweddaraf ac amcangyfrif o’r gyllideb ar gyfer 2022/23 a goblygiadau Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a gafwyd ar 21 Rhagfyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac esboniodd bod y Cabinet wedi cael diweddariad ar 14 Rhagfyr yn dweud bod angen £20.696 miliwn yn ychwanegol yn y gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23.  Cafwyd y diweddariad hwnnw cyn derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru ar 21 Rhagfyr.

 

Rhoddodd adroddiad y Cabinet ddiweddariad am brif benawdau ac effeithiau ariannol y Setliad cyn cam olaf y broses o osod cyllideb ffurfiol ym mis Chwefror.

 

Byddai angen i’r gofyniad ychwanegol gynyddu’n sylweddol i gymryd i ystyriaeth yr angen i ddiwallu effeithiau’r holl faterion a nodwyd yn yr adroddiad, gan gynnwys Dyfarniadau Cyflog / Cyflog Byw Cenedlaethol a pharhad mewn costau ychwanegol a cholli incwm o ganlyniad i’r pandemig ar ôl i Gronfa Caledi Llywodraeth Cymru ddod i ben ar ddiwedd mis Mawrth 2022.

 

Byddai angen i gyllideb gyfreithiol a chytbwys gael ei hargymell i’r Cyngor gan y Cabinet ar gyfer 2022/23 unwaith y byddai’r holl waith ar y materion a amlinellwyd yn yr adroddiad wedi’u cwblhau.

 

Roedd y dyraniad Cyllid Allanol Cyfun (AEF) yn darparu swm o £1,476 y pen o’i gymharu â £1,611 y pen ar gyfartaledd yng Nghymru, sy’n gosod y Sir yn safle 20 allan o 22 o gynghorau Cymru.

 

Am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn, roedd setliad dros dro 2022/23 yn darparu dyraniadau dangosol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.   Er bod hynny’n cael ei groesawu, roedd yr ymgodiadau dangosol yn yr AEF o 3.5% a 2.4% ar gyfer 2023/24 a 2024/25 yn y drefn honno, yn llawer is na 2022/23 a byddai’n her sylweddol ceisio goresgyn effeithiau anochel yn gysylltiedig â chwyddiant a chynnydd yn y galw am Wasanaethau’r Cyngor.  Gan hynny byddai’n hanfodol bod penderfyniadau a wneir fel rhan o gyllideb 2022/23 yn cael eu hystyried yng nghyd-destun y sefyllfa tymor canolig, er mwyn datblygu gwytnwch i ateb yr heriau sy’n gysylltiedig â phwysau anochel costau a fyddai’n codi yn y blynyddoedd dilynol.

 

Er mai Sir y Fflint oedd y chweched Cyngor mwyaf yng Nghymru yn ôl nifer y boblogaeth, roedd yn cyrraedd safle 20 allan o 22 yn seiliedig ar gyllid y pen.  Pe bai Sir y Fflint yn derbyn yr un swm o gyllid y pen â’r cyfartaledd yng ngogledd Cymru, byddai’n derbyn £21 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol.

 

Barn Aelodau’r Cabinet oedd, os yw pethau fel Dyfarniadau Cyflog yn cael eu cyhoeddi’n genedlaethol, yna dylent gael eu hariannu yn genedlaethol.

 

Esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol eu bod yn gweithio drwy effeithiau’r dyfarniadau cyflog, yn ogystal â’r cyllid grant unigol.  Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Chwefror cyn cyfarfod y Cyngor Sir yn y prynhawn.

 

            Holodd y Cynghorydd Roberts a fyddai modd i lythyr gael ei anfon at Aelodau’r Senedd o ogledd Cymru i ofyn iddynt lobïo dros adfer y Grant Cynnal a Chadw Priffyrdd o £950,000, ar ôl cael cadarnhad ei fod wedi dod i ben.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi goblygiadau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a’r gwaith sydd ar ôl i’w gwblhau cyn cytuno ar gyfres o  ...  view the full Cofnodion text for item 94.

95.

Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru pdf icon PDF 115 KB

Pwrpas:        Darparu trosolwg o Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022 sydd wedi’i gynhyrchu fel gofyniad y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a ddarparodd drosolwg o Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022 a oedd wedi’i gynnal yn unol â gofyniad y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Roedd yr adroddiad yn asesiad o anghenion gofal a chymorth y boblogaeth ac anghenion cymorth gofalwyr, a oedd yn cwmpasu ôl-troed gogledd Cymru.  Datblygwyd y ddogfen dan arweiniad Cydweithredfa Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru, gyda gwybodaeth gan chwe chyngor gogledd Cymru a’r bwrdd iechyd, gyda chefnogaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Ym mis Mehefin 2022, mae’n rhaid i Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad gael ei gyhoeddi hefyd.  Gyda’i gilydd, dylai’r ddwy ddogfen ddarparu darlun cynhwysfawr o’r galw a’r cyflenwad presennol a rhagamcanol i’r rheiny sy’n comisiynu gofal a chymorth ar lefel ranbarthol a lleol.

 

Pwysleisiodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) pa mor bwysig yw’r ddogfen a fyddai’n helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.  O’r ymatebion i’r arolwg, roedd 39% yn dod gan bobl o Sir y Fflint felly roedd lleisiau lleol yn cael eu clywed.  Byddai ymgysylltu â’r cyhoedd yn parhau yn ystod y gwaith o ddatblygu’r Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad.

 

Rhoddodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu enghraifft o ble fyddai’r data yn helpu i gynllunio a pharatoi ar gyfer y dyfodol, sef atal dementia.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Jones yr ystod eang o feysydd a fyddai’n cael eu cwmpasu yn yr asesiad, gan gynnwys anghydraddoldeb a digartrefedd. Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod yr Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru yn cael ei gefnogi cyn ei gyflwyno i’r Cyngor ym mis Chwefror 2022; a

 

(b)       Bod y broses ar gyfer cymeradwyo’r Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad Ranbarthol yn cael ei chytuno.

96.

Meini Prawf Pás Cerbyd i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Ty pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        I dderbyn cymeradwyaeth y Cabinet i adolygu’r meini prawf i wneud cais am bás cerbyd i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff T?.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad ac esboniodd fod nifer o argymhellion wedi cael eu cyflwyno i’r Cabinet, yn dilyn dau seminar i’r holl Aelodau ym mis Medi 2021, ar newidiadau i’w gwneud i’r strategaeth wastraff bresennol fel bod y Cyngor yn gallu cyflawni cyfradd ailgylchu o 70% erbyn 2025.

 

Un argymhelliad oedd adolygu’r meini prawf ar gyfer cael pàs cerbyd i ganolfannau ailgylchu gwastraff t?, er mwyn egluro’n well i ddefnyddwyr pa fathau a meintiau o gerbydau a ganiateir a sicrhau nad yw masnachwyr yn cymryd mantais o’r system.  Ail argymhelliad oedd y dylid cyflwyno system archebu ar gyfer ffrydiau gwastraff peryglus neu anodd er mwyn medru eu rheoli’n well wrth iddyn nhw gyrraedd y safle.

 

Cafodd y ddau argymhelliad eu cymeradwyo gan y Cabinet ym mis Medi 2021, ond gofynnwyd am adroddiad arall er mwyn cael eglurhad pellach yngl?n â sut y byddai’r newidiadau yn cael eu gweithredu.  Roedd yr adroddiad hwn yn gosod allan y Polisi Pàs Cerbydau diwygiedig ac yn cynnig meini prawf archebu ar gyfer gwaredu asbestos a matresi.

 

Esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) bod y pwyntiau allweddol yn y Polisi arfaethedig ar gyfer Meini Prawf Pàs Cerbydau wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.  Ychwanegodd hi fod y system ganiatâd bresennol yn caniatáu, yn anfwriadol, i fasnachwyr a busnesau masnachol gamddefnyddio’r system a dod â ffrydiau gwastraff masnachol i mewn.  Wrth i staff eu cwestiynu neu eu herio, roedd rhai o’r cwsmeriaid hynny yn troi’n ymosodol gan arwain at amgylcheddau gwaith amhleserus.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Polisi Pàs Cerbydau diwygiedig ar gyfer Canolfannau Ailgylchu Gwastraff T?; a

 

(b)       Chymeradwyo’r meini prawf system archebu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff T?.

97.

Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 8) pdf icon PDF 171 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2021/22 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 8 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl ddiweddaraf am sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw yn 2021/22 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol.  Cyflwynodd y sefyllfa o ran incwm a gwariant gwirioneddol, fel ag yr oedd ym Mis 8. 

 

Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio effeithlonrwydd a rheoli costau, sef:

 

Cronfa’r Cyngor

  • Gwarged gweithredol o £0.716 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog NJC a fyddai’n cael ei dalu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.061 miliwn ers ffigur y gwarged (0.655 miliwn) a adroddwyd ym Mis 7.
  • Rhagwelid y byddai balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2022 yn £6.586 miliwn.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelid y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.548 miliwn yn uwch na’r gyllideb.

·         Rhagwelid y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2022 yn £3.924 miliwn.

 

Amlinellwyd manylion effaith Storm Christoph ar y gyllideb yn yr adroddiad a oedd yn gyfanswm o ryw £0.200 miliwn.

 

Esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr adroddiad hefyd yn rhoi manylion am sefyllfa pob portffolio; amrywiadau arwyddocaol y mis hwnnw; faint o’r arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn a gafodd eu cyflawni; cyllid mewn argyfwng; cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi a chronfeydd wrth gefn wedi eu clustnodi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2021/22.

98.

Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2021/22 pdf icon PDF 350 KB

Pwrpas:        Cyflwyno drafft Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2021/22 i'r Aelodau i'w argymell i'r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn cyflwyno’r Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys drafft ar gyfer 2021/22 i’w gymeradwyo a’i argymell i’r Cyngor.

 

            Fel sy’n ofynnol gan Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor, roedd yr adolygiad hwn wedi cael ei adrodd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 17 Tachwedd a byddai’n cael ei adrodd i’r Cyngor ar 25 Ionawr 2022.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2021/22 yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor.

99.

Ail Rownd Cronfa Codi’r Gwastad pdf icon PDF 131 KB

Pwrpas:        Derbyn cymeradwyaeth gan y Cabinet i gyflwyno cynigion ar gyfer Ail Rownd o Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth Y DU.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Butler yr adroddiad.  Esboniodd fod y Gronfa Codi’r Gwastad yn cyfrannu at agenda codi’r gwastad Llywodraeth y DU trwy fuddsoddi mewn seilwaith a fyddai’n gwella bywyd bob dydd ledled y DU, gan gynnwys adfywio canol trefi a strydoedd mawr, uwchraddio cludiant lleol, a buddsoddi mewn asedau diwylliannol a threftadaeth.  Bwriad y gronfa gwerth £4.8 biliwn oedd creu effaith weledol a diriaethol ar bobl a lleoedd a chefnogi adferiad economaidd.

 

            Roedd yr adroddiad yn cynnig datblygu dau gynnig i’w cyflwyno i Lywodraeth y DU fel rhan o ail rownd y rhaglen a ddisgwylir ar ddechrau 2022.  Cynigiwyd bod y cynigion yn canolbwyntio ar gymunedau arfordirol Sir y Fflint er mwyn: gwella amodau i fusnesau, lleihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol; dod ag asedau treftadaeth yn ôl i ddefnydd; ac annog pobl leol ac ymwelwyr i ddefnyddio’r ardal arfordirol.

 

            Er bod modd i bob awdurdod lleol wneud cais am gyllid Codi’r Gwastad, diben penodol y gronfa yw cefnogi buddsoddiad mewn lleoedd a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau pob dydd, gan gynnwys hen ardaloedd diwydiannol, trefi difreintiedig a chymunedau arfordirol.   Roedd Llywodraeth y DU wedi gosod awdurdodau lleol mewn categorïau 1, 2 neu 3 yn dibynnu ar lefel yr angen a nodwyd, gyda chategori 1 yn cynrychioli lleoedd yn yr angen mwyaf am fuddsoddiad.  Roedd Cyngor Sir y Fflint wedi cael ei nodi fel awdurdod lleol ‘categori 2’.

 

            Roedd y Gronfa Codi’r Gwastad yn galluogi awdurdodau lleol i wneud cais am hyd at £20 miliwn i bob etholaeth seneddol.  Byddai cynigion uwch na £20 miliwn ac is na £50 miliwn yn cael eu derbyn ar gyfer prosiectau trafnidiaeth yn unig.  Roedd disgwyl i’r ail rownd ddechrau yng ngwanwyn 2022.  Roedd disgwyl i’r rhaglen ddod i ben ym mis Mawrth 2024 a oedd yn golygu fod y cyfnod  i ddarparu prosiectau cyfalaf yn gyfyngedig iawn.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) mai’r bwriad oedd cyflwyno dau gynnig, un ar gyfer pob etholaeth seneddol.  Byddai’r cynigion yn canolbwyntio ar gynnwys adfywio, diwylliant a threftadaeth.  Roedd y Cyngor wedi penodi ‘Mutual Ventures’ i weithredu fel rheolwr prosiect y broses a chyfrannu at baratoi cynigion.

 

Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad ac roeddent yn dymuno pob llwyddiant i’r cynigion.

 

 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       bod y bwriad i ddatblygu a chyflwyno cynigion ar gyfer Ail Rownd Cronfa Codi'r Gwastad yn cael ei gymeradwyo yn unol â’r cynigion a osodwyd yn yr adroddiad a

 

(b)       Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) ac Aelod Cabinet Datblygu Economaidd i newid a chyflwyno’r cynigion terfynol yn unol â’r cyfeiriad strategol a osodir yn yr adroddiad, datblygu ymyraethau penodol i adlewyrchu’r angen i gyflwyno cynigion cystadleuol a chyraeddadwy.

100.

Parc Arfordir Sir y Fflint pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        Ceisio barn y Cabinet am sefydlu a dynodi Parc Rhanbarthol ar hyd blaendraeth Aber Afon Dyfrdwy.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Butler yr adroddiad ac esboniodd fod fframwaith strategol o gyfleoedd ar hyd blaendraeth aber Afon Dyfrdwy wedi’i gynhyrchu yn 2014.  Roedd y cynnig ar gyfer parc arfordir yn ceisio nodi blaendraeth yr aber fel endid unigol tebyg i Barc Rhanbarthol.

 

            Dylai’r cysyniad o Barc Arfordir Sir y Fflint gael ei archwilio eto yng ngoleuni’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig ag argaeledd Cronfa Codi’r Gwastad.

 

            Byddai gwaith i ddatblygu Parc Arfordir Rhanbarthol i Sir y Fflint yn rhoi ysgogiad a ffocws newydd i’r arfordir, gan godi proffil y blaendraeth a galluogi cymunedau a busnesau i weithio’n gynaliadwy ac yn arloesol i helpu i ddarparu ffyniant amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a dywedodd mai un mater allweddol yr oedd angen mynd i’r afael ag ef oedd y cyswllt coll yn llwybr yr arfordir rhwng Cei Connah a’r Fflint.  Ar hyd ochr yr A548 roedd y rhannau mwyaf cul.  Roedd cynigion wedi bod yn y gorffennol i ddatrys y broblem ond cawsant eu gwrthod ar y pryd gan RSPB a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, a oedd yn poeni y byddai’n tarfu ar y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.  Teimlai ef y dylai gwella’r llwybr rhwng Cei Connah a’r Fflint ffurfio rhan allweddol o’r cynigion.  Roedd angen canfod datrysiad gydag RSPB a Chyfoeth Naturiol Cymru oherwydd bod gan yr ardal botensial i gael ei defnyddio ar gyfer cerdded, beicio a gweithgareddau hamdden. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’n trefnu cyfarfod gyda’r cyrff cyhoeddus perthnasol i drafod y mater.

 

            Roedd holl Aelodau eraill y Cabinet yn croesawu’r adroddiad, gan dynnu sylw at y dreftadaeth, gan gynnwys treftadaeth ddiwydiannol a chefn gwlad brydferth.  Holodd y Cynghorydd Jones a fyddai “Porth y Gogledd” yn gallu cael ei newid i ddarllen “Porth y Gogledd Sealand”.  Teimlai’r Cynghorydd Hughes nad oedd Castell y Fflint yn cael ei hysbysebu’n ddigon da ac y dylai llwybr yr arfordir gysylltu â Dyffryn Maes Glas.  Mewn ymateb i’r sylw hwn am y Castell, esboniodd Y Cynghorydd Roberts mai nod Llywodraeth Cymru oedd cael canolfan ymwelwyr a chaffi yn y Castell.

                       

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cyfeiriad strategol a osodwyd ym Mhrosbectws Parc yr Arfordir a chefnogi’r gwaith i ddatblygu Parc Arfordir Rhanbarthol Sir y Fflint, a

 

(b)       Bod y Cabinet yn croesawu barn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi ac yn rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), (mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Datblygu Economaidd) i wneud newidiadau bach i’r cynigion er mwyn adlewyrchu’r farn honno.

101.

Newyddion diweddaraf ar Economi Sir y Fflint pdf icon PDF 148 KB

Pwrpas:        Darparu aelodau gyda’r newyddion diweddaraf ar economi Sir y Fflint, ac ar raglenni gwaith i helpu gydag adferiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Butler yr adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb o amodau economaidd presennol y rhanbarth a’r Sir, gan ddefnyddio gwybodaeth o nifer o ffynonellau.  Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion y strwythurau llywodraethu a oedd mewn lle i ymateb i adferiad economaidd a’r rhaglenni gwaith a oedd ar y gweill ar hyn o bryd.

 

            Nid oedd effeithiau pandemig Covid-19 ac ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd yn amlwg eto, ac roeddent yn dal i esblygu.

 

            Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth fanwl am Brexit; Covid-19; diweddariad economaidd; ystadau masnachol; ardrethi busnes; canol trefi ac ymatebion rhanbarthol a lleol.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod hwn yn adroddiad yn seiliedig ar dystiolaeth yr oedd  y Pwyllgor Adfer wedi gofyn amdano ac wedi’i groesawu.  Ychwanegodd nad oedd cymaint o swyddi wedi’u dileu ar raddfa fawr ag y disgwylid yn dilyn Covid.  Roedd lefel uchel o swyddi gwag ym meysydd nyrsio, gofal personol, gweithwyr gofal, cynorthwywyr cegin ac arlwyo, glanhawyr a gyrwyr faniau a oedd yn anodd eu llenwi.

 

            Roedd y Prif Weithredwr yn croesawu’r adroddiad a oedd yn darparu asesiad cryf o’r economi.  Diolchodd i’r swyddogion am yr adroddiad.

 

            Croesawodd y Cynghorwyr Bithell a Johnson yr adroddiad gan ddweud fod Sir y Fflint wedi cael ei chrybwyll ym mhapur y Sunday Times.  Dywedodd yr adroddiad fod Sir y Fflint yn mynd yn groes i’r duedd o ran adferiad a bod y ffigyrau wedi gwella ar y Mynegai Cystadleurwydd. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, dywedodd y Prif Weithredwr fod trafodaeth wedi’i chynnal yn y Pwyllgor Adfer yngl?n â sgiliau a chreu cyswllt gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC).  Gofynnodd y Pwyllgor i gynrychiolydd o BUEGC fynychu cyfarfod yn y dyfodol i esbonio sut yr oeddent yn creu cyswllt â Sir y Fflint i yrru’r economi leol ymlaen.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod cynnwys a chasgliadau’r adroddiad yn cael eu nodi a’u cefnogi.

102.

Cronfa Mantais Gymunedol Parc Adfer pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        Rhannu manylion y Gronfa Mantais Gymunedol, gan gynnwys meini prawf cymhwyso a’r broses.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad ac esboniodd, fel rhan o gaffaeliad y contract Parc Adfer a Phartneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru, cytunwyd ariannu a rheoli Cronfa Mantais Gymunedol a fyddai’n cael ei rhedeg am hyd y contract.

 

            Roedd y Gronfa Mantais Gymunedol yn ymrwymiad trwy gontract rhwng yr Awdurdod ac Enfinium (Wheelabrator Technologies Inc gynt), ac roedd hefyd yn ymrwymiad trwy gontract i bob awdurdod partner unigol o fewn yr Ail Gytundeb Rhwng Awdurdodau.

 

            Hyd yma roedd y Gronfa Mantais Gymunedol wedi cael ei defnyddio i ariannu Cronfa Adferiad Cymunedol Parc Adfer i ddechrau, a oedd bellach ar gau i geisiadau.  Mae wedi dyfarnu grantiau i dros 10 o brosiectau sydd wedi bod yn werth cyfanswm o dros £60,000.  Amlinellwyd manylion y brif Gronfa Mantais Gymunedol, gan gynnwys prosiectau a meini prawf cymhwyso, yn yr adroddiad gan geisio cymeradwyaeth i lansio ar ddechrau 2022.

 

            Byddai’r panel a’r trefniadau llywodraethu presennol, a sefydlwyd ar gyfer y Gronfa Adferiad Cymunedol, yn aros yr un fath yn bennaf ar gyfer y brif Gronfa Mantais Gymunedol pan fyddai’n cael ei lansio, yn ogystal â nifer o’r meini prawf cymhwyso cyffredinol.  Fodd bynnag, byddai’r math o brosiectau a ariennir yn wahanol er mwyn adlewyrchu bwriad gwreiddiol y gronfa, sef ariannu prosiectau cymunedol a fyddai o fudd amgylcheddol i’r ardal leol.

 

Diolchodd y Cynghorydd i’r Rheolwr Prosiect, Steffan Owen, am ei holl waith ar y prosiect hwn.

 

Ar feini prawf y prosiect, esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod 5 maen prawf, nid 6 fel y nodwyd yn yr adroddiad.  Ar ôl cael cymeradwyaeth y Cabinet, byddai Cyd-bwyllgor Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru yn cael briffiad yngl?n â’r canlyniad a’r meini prawf cymhwyso diwygiedig ar gyfer y Gronfa Mantais Gymunedol.  Unwaith y byddai’r briffiad hwnnw wedi digwydd, byddai modd lansio’r Gronfa Mantais Gymunedol yn gyhoeddus trwy ddosbarthu datganiad i’r wasg, rhoi diweddariad ar wefan y Cyngor a anfon llythyr at randdeiliaid i’w hysbysu.  Roedd disgwyl i hyn ddigwydd ar ddiwedd mis Chwefror / dechrau mis Mawrth 2022.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y prif feini prawf cymhwyso arfaethedig ar gyfer Cronfa Mantais Gymunedol y Parc Adfer yn cael eu cymeradwyo a bod lansiad arfaethedig y gronfa ar ddechrau 2022 yn cael ei gefnogi; a

 

(b)       Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd, i wneud newidiadau i’r dogfennau angenrheidiol (e.e. nodiadau cyfarwyddyd) sy’n gynwysedig o fewn bwriadau a chanlyniadau dymunol y gronfa, a gwneud newidiadau bach i’r trefniadau llywodraethu (e.e. aelodaeth panel, cymorth swyddogion ac ati).

103.

Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2021-22 ar gyfer Cyngor Sir Y Fflint pdf icon PDF 95 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2021-22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ac esboniodd fod y Cynllun Gwasanaeth Bwyd yn darparu trosolwg o’r Gwasanaeth Bwyd yn unol â’r Cytundeb Fframwaith ar Reolau Bwyd a Phorthiant Swyddogol gan Awdurdodau Lleol Ebrill 2010.  Roedd y cynllun yn nodi nodau ac amcanion y Gwasanaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod, a sut y byddai’r rhain yn cael eu cyflawni.

 

            Roedd Cynllun 2021-22 wedi cael ei oedi oherwydd y pwysau ar y gwasanaeth o ganlyniad i’r pandemig byd-eang, a hefyd oherwydd bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi bod yn hwyr yn cyhoeddi’r Cynllun Adfer.

 

            Amlinellodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y prif gyflawniadau ar gyfer 2020-21, a’r targedau ar gyfer 2021-22.

 

            Diolchodd yr Aelodau i’r tîm am y gwaith yr oeddent wedi’i wneud.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Cynllun y Gwasanaeth Bwyd ar gyfer 2021-22.

104.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 236 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.  Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Addysg ac Ieuenctid

 

  • Llywodraethwyr Ysgol a Benodir gan Awdurdodau Lleol

Penodi cynrychiolwyr Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion yn unol â Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.

 

Tai ac Asedau

 

  • Rhent y Cyngor – Cais i Ddileu Ôl-ddyledion Tenantiaeth

Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion drwg a rhai na ellir eu hadfer sydd werth dros £5,000 yn cael eu hystyried i gael eu dileu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol.  Roedd y penderfyniad hwn yn ymwneud â dau achos ar wahân o ddileu ôl-ddyledion tenantiaid sy’n destun Gorchmynion Rhyddhau o Ddyled.  Yn yr achos cyntaf, mae ôl-ddyledion rhent o £6,356.86 yn gynwysedig yn y Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled.  Yn yr ail achos, mae ôl-ddyledion rhent o £9,361.53 yn gynwysedig yn y Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled.  Nid yw’r ôl-ddyledion bellach yn adferadwy yn y naill achos na’r llall.

 

  • Gordaliadau budd-dal tai

Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion unigol drwg a rhai na ellir eu hadfer sydd werth dros £5,000 yn cael eu hystyried i gael eu dileu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol.  Mae’r penderfyniad hwn yn ymwneud â dileu ôl-ddyledion un cwsmer sy’n destun Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled.  Mae’r Gordaliad Budd-dal Tai o £6,397.83 wedi’i gynnwys yn y Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled na fyddai modd eu hadennill bellach o ganlyniad i roi'r Gorchymyn.

 

  • Gordaliadau budd-dal tai

Mae gennym ordaliad o £14,713.92 am y cyfnod rhwng 06.04.15 a 29.09.19.  Mae’r gordaliad wedi’i gyfeirio at y gwasanaeth twyll ond maen nhw wedi’i anfon i’r gwasanaeth cydymffurfiaeth felly ni ellir ei drin fel twyll.  Mae’r Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled bellach wedi’i dderbyn ac mae’n cynnwys ein dyled felly ni allwn adfer y gordaliad.

 

Swyddog Gweithredol

 

  • Diwygio Cynllun Grant Cist Gymunedol y Cyngor i Leihau’r Cyfyngiadau Amser a osodir ar Awdurdodau Lleol sydd am ail-ymgeisio am gyllid

Mae Grant Cist Gymunedol y Cyngor yn darparu grantiau hyd at £1,000 i sefydliadau cymunedol lleol sy’n bodloni meini prawf y grant.  Ni all sefydliadau llwyddiannus ail-ymgeisio am grant newydd o fewn cyfnod o dair blynedd ariannol ar ôl derbyn grant o £1,000 gan y gronfa hon.   Mae hyn wedi golygu bod rhai ceisiadau, a fyddai fel arall wedi bod yn llwyddiannus, yn cael eu gwrthod ar y sail hon er bod arian dros ben ar gael sydd heb ei ddyfarnu bob blwyddyn ariannol.  Trwy leihau’r cyfyngiad amser i ddwy flynedd (dreigl) lle gall sefydliadau ail-ymgeisio am gyllid, bydd modd sicrhau bod cymorth ariannol amserol ar gael i sefydliadau a bod y gronfa yn cael ei dyrannu’n llawn bob blwyddyn ariannol.

 

Refeniw

 

  • Dileu Ardrethi Busnes

Mae’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau wedi eu hawdurdodi i ddileu dyledion rhwng £5,000 a £25,000.  Mae’r ddyled Ardrethi Busnes sy’n gyfanswm o £17.428 ar gyfer Nite Stop Ltd, sy’n masnachu fel A55 Holiday Inn, yn anadferadwy ac mae wedi’i dileu gan fod  ...  view the full Cofnodion text for item 104.

105.

Seibiannau Preswyl, Byr a Gwasanaethau Therapiwtig i Blant a Phobl Ifanc yn Sir y Fflint

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth i dendro ar gyfer y gwasanaethau a enwir yn yr adroddiad.

Cofnodion:

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

                       

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

105.    GWASANAETHAU PRESWYL, SEIBIANT BYR A THERAPIWTIG I

            BLANT A PHOBL IFANC YN SIR Y FFLINT

                                        

            Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac esboniodd bod disgwyl i’r contractau presennol ddod i ben ym mis Mawrth 2022 ac fel y cyfryw, byddai gofyn i’r gwasanaethau fynd allan i dendr cystadleuol er mwyn cydymffurfio â’r Rheolau Gweithdrefn Contractau a’r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r cynnig i ailgomisiynu’r Gwasanaethau Preswyl, Seibiant Byr a Therapiwtig i Blant a Phobl Ifanc yn Sir y Fflint yn unol â Rheolau'r Weithdrefn Gontractau; a

 

(b)       Bod pwerau dirprwyedig yn cael eu rhoi i’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i arwyddo contract gyda’r darparwr llwyddiannus yn dilyn y broses gaffael.

106.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.