Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

47.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Banks gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn eitem rhif 13 ar y rhaglen: Fframwaith Caffael Contractwr Unedau Gwag.

48.

Cofnodion pdf icon PDF 296 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 21ain Medi 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2021 eu cyflwyno a’u cadarnhau fel cofnod cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

                                          

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

49.

Cyllideb 2022/23 pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        Derbyn adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar Gam 2 y broses o osod cyllideb ar gyfer 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac esboniodd fod y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, yn ystod mis Medi a Hydref, wedi adolygu’r pwysau o ran costau, a’r cyfleoedd i reoli costau a sicrhau effeithlonrwydd, yn unol â’u cylchoedd gorchwyl perthnasol.

 

Amlinellwyd trefn y cyfarfodydd a’r penderfyniadau a wnaed ymhob un ohonyn nhw yn yr adroddiad, ac roedd pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cefnogi’r pwysau ariannol ar bob portffolio, ac ni edrychir ymhellach am ragor o feysydd i arbed costau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr holl Aelodau wedi mynegi hyder yn y broses a gynhaliwyd. Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi datblygu eu sylfaen dystiolaeth o’r angen, a chafodd ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru yr wythnos flaenorol.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr Aelodau wedi cael eu hatgoffa yn ystod pob un o’r ymgynghoriadau o’r cyhoeddiad a wnaed ar 7 Medi 2021, sef y bydd treth iechyd a gofal cymdeithasol newydd yn cael ei chyflwyno dros y DU o Ebrill 2022 ymlaen, i ariannu diwygiadau i’r sector gofal, a chyllid y GIG yn Lloegr. Byddai’r dreth yn dechrau fel cynnydd o 1.25% yn yr Yswiriant Gwladol a gaiff ei dalu gan weithwyr, pobl hunangyflogedig a chyflogwyr. Byddai taliadau ‘canlyniadol’ yn cael eu gwneud i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i’r penderfyniad hwnnw. Er hyn, fel cyflogwr mawr ei faint, byddai hefyd yn cael effaith sylweddol ar gyllideb y cyngor.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r holl Aelodau a gymerodd ran ym mhroses y gyllideb a ddangosodd nad oedd mwy o arbedion effeithlonrwydd i’w canfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y dylid derbyn canlyniad yr ymgynghoriad ar y cynigion ar gyfer cyllideb 2022/2023 ynghylch swyddogaeth y pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.           

50.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2020/21 pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        I rannu Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2020/21 drafft sy’n amlinellu cynnydd yn erbyn ein blaenoriaethau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn adolygu cynnydd yn erbyn Blaenoriaethau’r Cyngor fel y’i hamlinellwyd ym Mesurau Adrodd Cyngor Sir y Fflint 2020/21.

 

Bu 2020/21 yn flwyddyn eithriadol i bob sefydliad, wrth iddyn nhw ymdopi â bygythiadau a heriau pandemig byd-eang. Ar y cyfan roedd y perfformiad yn erbyn mesurau Cynllun y Cyngor yn gadarnhaol, gyda thargedau 67% o'r dangosyddion perfformiad wedi'u cyrraedd neu rhagorwyd arnyn nhw am y flwyddyn, gyda 48% arall wedi dangos gwelliant neu wedi aros yn sefydlog.

 

Esboniodd y Prif Weithredwr y byddai’n rhaid i’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol gael ei gyhoeddi erbyn 31 Hydref ac y byddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor i gael ei gymeradwyo’n ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

Argymell i’r Cyngor y dylid mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2020/2021.

51.

Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 5) pdf icon PDF 169 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2021/22 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 5 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl ddiweddaraf am sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw yn 2021/22 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol, a chyflwynodd y sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol, erbyn Mis 5. 

 

Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio effeithlonrwydd a rheoli costau, sef:

 

Cronfa’r Cyngor

  • Gwarged gweithredol o (£0.182m) (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei dalu o’r cronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.921 miliwn ers ffigwr y diffyg o £0.739m a adroddwyd ym Mis 4.
  • Rhagwelid y byddai balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2022 yn £5.875 miliwn.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

  • Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.633m yn uwch na’r gyllideb.
  • Rhagwelir mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2022 fydd £3.839m.

 

Esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr adroddiad hefyd yn rhoi manylion am sefyllfa pob portffolio; amrywiadau arwyddocaol y mis hwnnw; faint o’r arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn a gafodd eu cyflawni; cyllid mewn argyfwng; cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi a chronfeydd wrth gefn wedi eu clustnodi.

 

O ran cyllid mewn argyfwng, esboniodd fod £206.6m wedi ei neilltuo’n wreiddiol ar gyfer y Gronfa Galedi i gefnogi llywodraeth leol ar gyfer chwe mis cyntaf 2021-22 yng Nghyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru 2021-22. Yn ogystal â hyn, neilltuwyd £23.3m i helpu gyda phrydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol. Cafodd £97.5m arall ei neilltuo wedi hynny hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol yn seiliedig ar batrymau gwario hyd yma, unrhyw newidiadau i ddulliau polisi a’r lefel rhybudd bresennol.

 

Cafodd Egwyddorion a Chanllawiau’r Gronfa Galedi eu diwygio o 1 Hydref, gyda’r newidiadau’n effeithio ar gymhwystra ar gyfer sawl maes gwasanaeth yn cynnwys costau ysgolion, tunelledd gwastraff ychwanegol (50% yn is) a chostau cerbydau gan nad oes rhaid cadw pellter cymdeithasol mwyach. Roedd costau i gyflogi staff ychwanegol gan fod staff yn sâl o’u gwaith oherwydd COVID-19 neu’n hunanynysu yn gymwys tan fis Hydref, hyd nes y cynhelir adolygiad pellach. Byddai effeithiau arwyddocaol posibl hynny’n cael eu hadlewyrchu mewn adroddiadau yn y dyfodol, er y byddai camau gweithredu lliniarol yn cael eu rhoi ar waith lle bo hynny’n bosibl.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2021/22;

 

 (b)      Cymeradwyo newid defnydd ar gyfer balans gwasanaeth Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi; a

 

 (c)       Cymeradwyo rhyddhau £0.585m o falansau a chronfeydd wrth gefn sydd heb gael eu defnyddio yn ôl i’r gronfa wrth gefn gyffredinol.

52.

Ymgynghoriad ar gael gwared ar rwymedigaeth pobl gymwys sy’n gadael gofal i dalu Treth y Cyngor pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â’r cynnig i gael gwared ar y risg y gallai pobl sy’n gadael gofal fod yn gyfrifol am dalu Treth y Cyngor pan mae unigolyn arall (nad yw wedi'i eithrio) ar yr aelwyd yn peidio â thalu Treth y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac esboniodd fod pobl 24 oed ac iau sy’n gadael gofal ac yn byw yng Nghymru fel arfer wedi’u heithrio rhag talu Treth y Cyngor ers i Lywodraeth Cymru gyflwyno’r rheoliadau am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2019.

 

            Roedd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynghylch cynigion i gael gwared ar y perygl y byddai pobl sy'n gadael gofal yn gorfod talu Treth y Cyngor mewn achosion o atebolrwydd cyd ac unigol mewn amgylchiadau posibl lle bydd person arall yn yr aelwyd, nad yw wedi’i eithrio rhag talu Treth y Cyngor, wedi methu â thalu eu rhan nhw o Dreth y Cyngor.

 

            Er nad yw achosion o’r fath yn gyffredin, er mwyn lliniaru’r perygl y bydd pobl sy'n gadael gofal yn atebol ar y cyd ac yn unigol am fil Treth y Cyngor ar eu cartref, cynigiwyd y dylid addasu’r rheoliadau er mwyn sicrhau y bydd pobl sy'n gadael gofal wedi eu heithrio o fis Ebrill 2022 ymlaen.

 

            Byddai’r darpariaethau ychwanegol, fel y’u hamlinellir yn yr ymgynghoriad, yn sicrhau nad yw pobl sy'n gadael gofal yn atebol yn bersonol am Dreth y Cyngor mewn amgylchiadau lle byddai’r person sy’n gadael gofal yn atebol ar y cyd neu’n unigol am Dreth y Cyngor o ganlyniad i fyw gyda phriod neu bartner, neu mewn aelwydydd sydd â mwy nag un oedolyn.

 

            Croesawodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y cynigion a oedd yn cryfhau’r cymorth mae’r awdurdod yn ei roi i bobl sy’n gadael gofal.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi bwriadau’r polisi fel y’u hamlinellir yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch sicrhau nad yw pobl 24 oed neu iau sy’n gadael gofal yn rhwym i atebolrwydd cyd ac unigol o ran Treth y Cyngor.

53.

Credyd Cynhwysol – Disodli’r Cynnydd pdf icon PDF 197 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad ar yr effeithiau ar drigolion Sir y Fflint pan fydd cynnydd mewn Credyd Cynhwysol yn dod i ben.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac esboniodd fod Llywodraeth y DU, ar 20 Mawrth 2020, wedi cyhoeddi cynnydd cyfwerth â £20 yr wythnos i elfen sylfaenol lwfans safonol Credyd Cynhwysol gwerth hyd at £1,040 am flwyddyn i’r rhai a oedd yn wynebu'r ymyrraeth ariannol fwyaf o ganlyniad i bandemig COVID-19.  Roedd yn berthnasol i hawlwyr newydd a hawlwyr cyfredol y Credyd Cynhwysol.

 

            Daeth y cynnydd i ben yn swyddogol ar 6 Hydref 2021 a chafwyd llawer o wybodaeth berthnasol yn yr adroddiad mewn perthynas â thrigolion Sir y Fflint y byddai’r newid yn effeithio arnyn nhw, ac amlygodd y cymorth mae’r Cyngor yn ei ddarparu.

 

Esboniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y gallai unrhyw un sydd mewn trafferthion ariannol gysylltu â Thîm Lles y Cyngor a fyddai’n helpu i’w cefnogi a’u cyfeirio at asiantaethau eraill a all gynnig cymorth.

 

Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod y Rhybudd o Gynnig ar raglen y Cyngor yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw yngl?n â chael gwared ar y cynnydd i’r Credyd Cynhwysol wedi cael ei dynnu oddi ar y rhaglen yn dilyn y digwyddiad erchyll dros y penwythnos a marwolaeth drist Syr David Amess.

           

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad a’r effeithiau negyddol ar drigolion cymunedau Sir y Fflint.

54.

Incwm Rhent Tai – Archwilio Cymru pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Cydnabod Adroddiad Archwilio Cymru a nodi’r argymhellion ar y casgliad o ddata ychwanegol ac adroddiad perfformiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth weithredol ddiweddaraf yn dilyn cyhoeddi adroddiad diweddar gan Archwilio Cymru ynghylch Incwm Rhent Tai.  Roedd adolygiad Archwilio Cymru wedi cydnabod y mesurau rhagweithiol mae’r Cyngor eisoes wedi eu cymryd i gefnogi tenantiaid a sefydlogi casgliadau rhent yn ystod cyfnod o newid nas gwelwyd ei debyg o’r blaen, yn enwedig wrth gyflwyno’r Credyd Cynhwysol ac effeithiau diweddar pandemig COVID-19.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod yr adolygiad wedi dod i’r casgliad fod y Cyngor wedi, erbyn Mawrth 2020, llwyddo i atal y cynnydd mewn ôl-ddyledion rhent gan denantiaid y Cyngor. I grynhoi, amlinellwyd dau argymhelliad yn adroddiad Archwilio Cymru i gasglu mesuryddion perfformiad ychwanegol er mwyn cael dealltwriaeth well am berfformiad ôl-ddyledion incwm a rhent cyffredinol ac adeiladu ar y gwelliannau a wnaed eisoes.  Dyma’r ddau ddangosydd ychwanegol sy’n cael eu cynnig:

 

·         Cyfanswm y rhent sy’n cael ei gasglu yn ystod y flwyddyn gan y tenantiaid blaenorol a’r tenantiaid presennol; a’r swm a ddiddymwyd yn ystod y flwyddyn ariannol o ran rhent na chafodd ei dalu; a

·         Chasglu setiau data mwy cynhwysfawr yn cynnwys cryfhau trefniadau integredig i ymgysylltu â thenantiaid er mwyn deall anghenion a phrofiadau tenantiaid yn well a llywio’r modd y caiff gwasanaethau tai eu darparu yn y dyfodol

 

Parhaodd y Gwasanaeth Tai i ddatblygu strategaethau i gynyddu casgliadau ac o ran casglu ôl-ddyledion tenantiaid blaenorol, roedd y gwasanaeth wedi defnyddio modiwl meddalwedd ychwanegol yn ddiweddar, wedi’i dargedu’n benodol at ôl-ddyledion tenantiaid blaenorol. Roedd y meddalwedd yn defnyddio technolegau dadansoddol a rhagfynegol sydd eisoes yn bodoli gan ddefnyddio datrysiad Mobysoft ‘Rent Sense’ er mwyn gallu dod o hyd yn gyflym i denantiaid blaenorol sydd mewn perygl o beidio â gwneud ad-daliadau’n brydlon. Byddai defnyddio’r meddalwedd newydd, ynghyd â dulliau adrodd gwell, yn galluogi swyddogion i wneud rhagor o welliannau i’r broses gasglu yn ogystal â darparu gwybodaeth adrodd ychwanegol i’r Cabinet ac i’r Pwyllgor Craffu ynghylch ôl-ddyledion tenantiaid blaenorol, yn ogystal â gwybodaeth weledol well am lefelau diddymu.

 

Yn ogystal â hynny, ac mewn perthynas â chasglu data i gael adborth gan denantiaid ac i ddeall anghenion tenantiaid yn well, roedd y gwasanaeth tai’n bwriadu anfon holiadur manwl i ofyn am adborth gan gwsmeriaid a fyddai’n helpu ac yn cefnogi modelau darparu gwasanaethau yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Mabwysiadu’r cynigion er mwyn gwella.

55.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 233 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Tai ac Asedau

 

  • Lawnt Fowlio Bagillt, Highfield Road, Bagillt CH6 6BW

Trosglwyddo Ased Gymunedol yr eiddo a elwir yn Lawnt Fowlio Bagillt, Highfield Road, Bagillt; mae’r ardal a fydd yn cael ei throsglwyddo wedi ei hamgylchynu â llinell goch ar y cynllun.

 

Refeniw

 

  • Diddymu Trethi Busnes

Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau ddiddymu dyledion rhwng £5,000 a £25,000. Mae gan Fentrau Cymunedol Gorllewin Sir y Fflint ddyled gwerth £13,419.34 o Drethi Busnes, sydd wedi cronni rhwng 2018/19 a 2020/21, ar gyfer eiddo gwag yn 49-51 Stryd Fawr, Treffynnon. Credir nawr na fydd modd adfer y ddyled ac y dylid ei diddymu gan nad yw’r cwmni’n masnachu bellach.

 

  • Diddymu Trethi Busnes

Mae’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau wedi eu hawdurdodi i ddiddymu dyledion rhwng £5,000 a £25,000. Credir na ellir adfer dyledion Trethi Busnes gwerth £21,474.96 ac y byddan nhw’n cael eu diddymu:

  • Nid yw Mr A D Evans a oedd yn masnachu fel Ultra Tiles Ltd, gynt o 4-6 Chester Street, Y Fflint bellach yn masnachu ac roedd ganddo ddyled o £15,230.46
  • Nid yw Ginger Monkey Play Café a Boutique Ltd, gynt o 16 Marley Way, Saltney, bellach yn masnachu gan fod y cwmni wedi cael ei ddiddymu ar 20/08/20 ac roedd ganddo ddyled o £6,244.50.

 

Dyled Gorfforaethol

 

  • Diddymu Dyledion Corfforaethol

Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau ddiddymu dyledion rhwng £5,000 a £25,000.  Mae’r ddyled o £5,513.82 sy’n cael ei diddymu’n deillio o rent masnachol sy’n ddyledus i’r Cyngor ond heb gael ei dalu. Bu farw perchennog KWT Business Accounting Services ym mis Mawrth 2021. Gan nad oedd arian ar ôl yn ystâd y sawl a fu farw, nid oes modd adfer y rhent masnachol mwyach.

 

Addysg ac Ieuenctid

 

  • Llywodraethwyr Ysgol a Benodir gan Awdurdodau Lleol

Penodi cynrychiolwyr Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion yn unol â Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

                       

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraffau 14 ac 15 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Dogfennau ychwanegol:

56.

Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyfyngedig: Estyniad i’r Cytundeb Consesiwn Gwasanaethau

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth i ymestyn y Cytundeb Consesiwn Gwasanaethau gydag Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a’i ddiben oedd cynnig Cytundeb Consesiwn Gwasanaethau newydd/estynedig o 1 Ebrill 2022 tan 31 Mawrth 2024.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Y bydd y Cabinet yn cytuno i ymrwymo i Gytundeb Consesiwn Gwasanaethau newydd/estynedig gydag Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyfyngedig rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2024; a

 

 (b)      Bod y Prif Weithredwr yn cael awdurdod i wneud amrywiadau i delerau'r cytundeb presennol a lefel y ffi rheoli fel y nodir yn yr adroddiad, mewn ymgynghoriad ag Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau.

57.

Gweithlu Gwasanaethau Cymdeithasol - Gweithwyr Cymdeithasol Gofal Plant

Pwrpas:        Trafod opsiynau i gefnogi recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol gofal plant lefel 3 profiadol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a oedd yn amlygu’r angen brys i ystyried datrysiadau cyflogaeth amgen er mwyn sicrhau bod gan y Cyngor ddigon o gapasiti a gwytnwch i gefnogi plant a theuluoedd yn effeithiol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Dylid cymeradwyo tâl atodol ar sail y farchnad am amser cyfyngedig ar gyfer gweithwyr cymdeithasol gofal plant lefel 3 o 1 Tachwedd 2021.

58.

Fframwaith Caffael Contractwr Unedau Gwag

Pwrpas:        Cymeradwyo caffael contractwyr drwy gytundeb fframwaith er mwyn cwblhau unedau gwag yn ei eiddo tai.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gaffael nifer o gontractwyr drwy gytundeb fframwaith er mwyn cyflawni gwaith mawr ar unedau gwag ac felly sicrhau y gallai’r gwasanaethau gwrdd â’u targedau ar gyfer rheoli eiddo gwag a sicrhau bod eiddo gwag yn cael eu hailosod mor effeithlon ac effeithiol â phosibl.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r gwaith i gaffael nifer dethol o gontractwyr drwy gytundeb fframwaith er mwyn cwblhau gwaith mawr ar unedau gwag mor effeithlon ac effeithiol â phosibl.

59.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.