Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

31.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

32.

Cofnodion pdf icon PDF 269 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 13eg Gorffennaf 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2021 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir. 

 

Nodwyd y dylai cofnod rhif 27 fod yn Gynghorydd Hughes ac nid Cynghorydd Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

                                          

Yn amodol ar y diwygiad, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

33.

Capasiti Sefydliadol pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo achosion brys ar gyfer ymestyn capasiti mewn meysydd allweddol o ran y gweithlu o ganlyniad i gyfuniad o (a) alw o ran y gwasanaeth (b) gofynion parhaus rheoli'r pandemig/endemig a’r (c) disgwyliadau o fodloni amcanion Cynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad oedd yn cyflwyno cynigion brys i wella capasiti sefydliadol mewn chwe maes o’r gweithlu, a chydgrynhoi capasiti mewn un maes pellach oherwydd cyfuniad o (1) galw mawr ar y gwasanaeth (2) y galw parhaus ar reoli sefyllfa’r pandemig/endemig a (3) disgwyliadau i gwrdd â nodau ac amcanion y Cynllun newydd a fabwysiadwyd gan y Cyngor.

 

Nid oedd y cynigion angen unrhyw newidiadau strwythurol ac nid oeddent yn rhoi unrhyw weithwyr presennol mewn perygl.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod pob cynnig a amlinellwyd yn yr adroddiad wedi’i gefnogi gan achos busnes a grynhowyd yn yr adroddiad ac roeddent ar gyfer meysydd canlynol y gweithlu/swyddogaethau:

 

1.    Iechyd yr Amgylchedd

2.    Gorfodaeth

3.    Adfywio Canol Trefi

4.    Atal Llifogydd ac Ymateb

5.    Iechyd Galwedigaethol

6.    Cyfreithiol

7.    Gwerth Cymdeithasol (roedd hon yn swydd bresennol gyda chyllid am amser cyfyngedig am dair blynedd a argymhellwyd i’w gwneud yn barhaol).

 

  Byddai cynigion eraill ar gyfer capasiti sefydliadol gyda llai o frys yn cael eu hystyried fel rhan o’r gyllideb flynyddol ddrafft ar gyfer 2022/23. 

 

Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Hughes, dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor yn ystyried ymestyn y nifer o brentisiaethau a byddai’n edrych ar ffyrdd creadigol i recriwtio.  

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y cynigion ar gyfer capasiti sefydliadol fel y nodwyd yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo; a

 

 (b)      Bod y Prif Weithredwr a’r Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol yn derbyn awdurdod dirprwyedig i fwrw ymlaen i ddylunio swydd a recriwtio/cynnal yn y meysydd capasiti a nodwyd.

34.

Targed 70 – Adolygiad o Strategaeth Wastraff Cyngor Sir y Fflint pdf icon PDF 142 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y Strategaeth Wastraff ddiwygiedig a fydd yn galluogi’r Cyngor i gyflawni targed ailgylchu Llywodraeth Cymru 2024/25.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad ac eglurodd mai targed statudol perfformiad ailgylchu presennol oedd 64%. Roedd y Cyngor yn parhau i berfformio’n dda gyda’r perfformiad ailgylchu ar gyfer 2019/20 yn 65.58%. Fodd bynnag, roedd effaith y pandemig wedi arwain at newidiadau sylweddol ym maint gwastraff ac ailgylchu a gasglwyd o eiddo preswyl a’i adael yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref oedd wedi arwain at ostyngiad mewn perfformiad i 64.4% ar gyfer 2020/21.  Roedd y newid hwnnw o ganlyniad i fwy yn gweithio gartref, cyfyngiadau ar symud a chau lleoliadau lletygarwch, ynghyd â chau Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn gyson.

 

Er nad oedd y strategaeth wastraff bresennol yn dod i ben tan ddiwedd 2025, y targed cenedlaethol nesaf i’w gyflawni oedd 70% erbyn 2024/25, felly mae’n bwysig bod y Cyngor yn dechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys asesu effaith ar grynswth y gwastraff ar ôl y pandemig ac ystyried pa ymdrechion ychwanegol y gellid eu gwneud i hybu’r cyfraddau ailgylchu er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni’r targedau cenedlaethol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) ym mis Gorffennaf 2021, yn dilyn adroddiad i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi, roedd dau weithdy i’r Aelodau i gyd wedi eu cynnal i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y sefyllfa bresennol a thrafod pa newidiadau fyddai’r Cyngor yn gallu eu gweithredu i gyflawni’r targed ailgylchu cenedlaethol sef 70%.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion llawn yr adborth o’r seminarau ac argymhellion ar ailgylchu a darpariaethau gwasanaeth gwastraff yn y dyfodol.

 

Roedd y Cynghorydd Jones a Mullin yn croesawu cyflwyno’r gwasanaeth casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol a fyddai’n cael ei groesawu gan lawer o drigolion.

                       

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod yr adborth o’r seminarau Aelodau yn cael ei groesawu a’r gwaith a wnaed hyd yma i gynyddu cyfraddau ailgylchu yn cael ei gefnogi; a

 

 (b)      Bod yr argymhellion ar ddarpariaethau gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y dyfodol yn cael ei gymeradwyo.

35.

Adroddiad Terfynol Asesiad Cynaliadwyedd Ariannol Sir y Fflint pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Rhannu adroddiad asesu cynaliadwyedd ariannol gan Archwilio Cymru gydag aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd fod Asesiad Cynaliadwyedd Ariannol ar draws holl Gynghorau Cymru wedi’i gynnal gan Archwilio Cymru ac roedd adroddiad ar gyfer Sir y Fflint ynghlwm â’r adroddiad.

 

Roedd y crynodeb a’r canfyddiadau yn yr adroddiad yn amlinellu adlewyrchiad teg o sefyllfa ariannol y Cyngor ac nid oedd yna unrhyw faterion newydd i adrodd arnynt. Felly, nid oedd ymateb ffurfiol wedi’i baratoi fel y byddai’n arferol. 

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr bod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ble derbyniodd ymateb da.  Roedd yr adroddiad yn galonogol ac yn canmol. 

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y tablau o fewn yr adroddiad yn dangos bod y Cyngor yn gwario o fewn y gyllideb.    Yn ogystal, nid oedd unrhyw gynigion gan Archwilio Cymru yng Ngogledd Cymru. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod Sir y Fflint yn 21 allan o 23 ar y tabl wrth gefn oedd yn dangos y ddibyniaeth ar gyllid Llywodraeth Cymru.

 

Roedd Aelodau yn croesawu’r adroddiad ac nid oedd angen cynllun gweithredu gan na wnaed unrhyw gynigion. Roedd yr adroddiad yn grynodeb da o’r sefyllfa yn Sir y Fflint.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr adroddiad gan Archwilio Cymru yn cael ei nodi.

36.

Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 4) pdf icon PDF 134 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2021/22 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 4 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd mai dyma’r diweddariad manwl cyntaf ac roedd yn cymryd i ystyriaeth arian grant a hawliwyd drwy Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru.

 

Y sefyllfa a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw trwy gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

  • Diffyg gweithredu o £0.739miliwn (gan eithrio effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei fodloni gan gronfeydd wrth gefn)
  • Rhagwelir y byddai balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2022 yn £5.057 miliwn.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.495m yn uwch na’r gyllideb;

·         Rhagwelir mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2022 fydd £3.978 miliwn.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr adroddiad hefyd yn manylu’r sefyllfa fesul portffolio; amrywiadau sylweddol y mis hwnnw; cyflawni arbedion effeithlonrwydd o fewn blwyddyn; arian wrth gefn heb ei glustnodi ac arian wrth gefn wedi ei glustnodi.    Parheir i wneud hawliadau i Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru.

 

            Ychwanegodd y Prif Weithredwr ei bod yn bosibl y derbynnir grantiau penodol yn ystod y flwyddyn a byddai’r Cyngor yn ystyried rhoi hwb i arian wrth gefn ble bynnag bo’n bosibl. Ar dâl, roedd trafodaethau NJC yn parhau felly gallai gynyddu.    Ar dâl i athrawon, roedd trafodaethau cenedlaethol yn parhau a byddai sylwadau parhaus yn cael eu gwneud ar gyfer cyllid ychwanegol i gwrdd â chostau ychwanegol, er os byddai’n aflwyddiannus ac yn seiliedig ar gynnydd o 1.7%, byddai 0.7% yn cael ei ariannu drwy grant gyda’r 1% yn weddill yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng y Cyngor ac ysgolion.  

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai’r cyfleuster yn Yr Wyddgrug i helpu gyda lleoliadau y Tu Allan i’r Sir ar gael erbyn yr haf 2022.    

 

Gofynnodd yr Aelodau i adroddiad gael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Cabinet ar yr effaith ar breswylwyr yn sgil dileu’r £20 ychwanegol o dâl Credyd Cynhwysol. 

 

 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod yr adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2021/22 yn cael ei nodi a

 

 (b)      Bod adroddiad yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Cabinet ar yr effaith ar breswylwyr yn sgil dileu’r £20 ychwanegol o dâl Credyd Cynhwysol. 

37.

Monitro Rhaglen Gyfalaf 2021/22 (Mis 4) pdf icon PDF 291 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth am Raglen Gyfalaf Mis 4 ar gyfer 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf 2021/22 ers ei gosod ym mis Rhagfyr 2020 hyd at ddiwedd Mis 4 (Gorffennaf 2021), ynghyd â’r gwariant hyd yma a’r canlyniadau amcanol.

 

Gwelodd y Rhaglen Gyfalaf gynnydd net o £29.595 miliwn yn ystod y cyfnod a oedd yn cynnwys:

 

  • Cynnydd net o £14.360 miliwn yng nghyllideb y rhaglen (Cronfa’r Cyngor £21.975 miliwn, y Cyfrif Refeniw Tai £7.615 miliwn);
  • Cyflwyno Dygwyl Ymlaen £15.635miliwn o 2020/21 (Cronfa’r Cyngor £15.635miliwn, Cyfrif Refeniw Tai £0.000miliwn)
  • Arbedion a nodwyd ym Mis 4 o (£0.400miliwn) (Cronfa’r Cyngor)

 

Y gwariant gwirioneddol oedd £25.355miliwn.

 

Roedd derbyniadau cyfalaf a dderbyniwyd yn chwarter cyntaf 2021/22 ynghyd ag arbedion a nodwyd yn gyfanswm o £0.683miliwn. Roedd hynny’n rhoi gweddill rhagamcanol diwygiedig yn y Rhaglen Gyfalaf ym Mis 4 o £2.795m (o weddill sefyllfa gyllid agoriadol o £2.112m) ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2021/22 – 2023/24, cyn gwireddu derbynebau cyfalaf ychwanegol ac/neu ffynonellau cyllid eraill.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r adroddiad;

 

 (b)      Cymeradwyo'r addasiadau dwyn ymlaen; a

 

 (c)       Bod y dyraniadau ychwanegol yn cael eu cymeradwyo.

38.

Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2020/21 pdf icon PDF 116 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2020/21 drafft i'r Aelodau i'w argymell i'r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Johnson wedi cyflwyno’r adroddiad oedd yn cynnwys Adroddiad Blynyddol Rheoli Trysorlys drafft 2020/21 a oedd ynghlwm â’r adroddiad.

 

            Fel sy’n ofynnol gan Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor, roedd yr Adroddiad Blynyddol wedi’i adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 28 Gorffennaf 2021 ble roedd swyddogion yn ymateb i gwestiynau i foddhad y Pwyllgor ac nid oedd unrhyw faterion penodol i’w dwyn i sylw’r Cabinet.

 

            Mewn newid i’r argymhelliad a argraffwyd, argymhellwyd bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ar 7 Rhagfyr 2021 ar gyfer cymeradwyaeth derfynol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr Adroddiad Blynyddol Rheoli Trysorlys drafft 2020/21 yn cael ei argymell i’r Cyngor ar 7 Rhagfyr 2021 ar gyfer cymeradwyaeth derfynol.

39.

Dileu Ardrethi Busnes pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        Cabinet i gymeradwyo dileu drwgddyledion unigol ar gyfer Ardrethi Busnes dros £25,000.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod Rheolau Gweithdrefn Ariannol (adran 5.2) angen i’r Cabinet gymeradwyo unrhyw argymhellion i ddileu  dyledion dros £25,000.

 

            Roedd dyled Ardrethi Busnes £103,150 yn cael ei ystyried yn anadferadwy i Arcadia Group Plc. Roedd y cwmni wedi’i roi yn nwylo’r gweinyddwyr ym mis Rhagfyr 2020 gyda dyledion dros £800miliwn yn ddyledus i gredydwyr a gyda £510miliwn o ddiffyg yng nghronfa bensiynau’r cwmni.

 

            Roedd y cwmni wedi’i Ddiddymu o fis Gorffennaf 2021.  O ganlyniad, byddai yna lai neu ddim asedau ar gael ar gyfer credydwyr na ffefrir. Nid oedd yn bosibl bellach adfer y dyledion ardrethi busnes yn llwyddiannus ac roedd angen diddymu’r dyledion.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd unrhyw oblygiadau ariannol uniongyrchol i’r Cyngor na’r trethdalwyr lleol drwy ddileu’r ddyled hon gan fod colledion ardrethi busnes yn mynd i’r Gronfa Genedlaethol yng Nghymru.  Gan mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am y Gronfa honno, roedd diffyg talu ardrethi yn golygu effaith ehangach ar drethdalwyr yng Nghymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod diddymu’r ddyled o £103,150 o ardrethi busnes ar gyfer Arcadia Group Plc yn cael ei gymeradwyo.

40.

Dull Buddsoddi Cydfuddiannol – Partneriaeth Addysg Cymru Ysgolion yr 21ain Ganrif – Gweithred Ymlyniad pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Esbonio’r cefndir a’r broses ar gyferGweithred Ymlyniadarfaethedig ynghlwm wrth y Cytundeb Partneriaeth Strategol sydd eisoes wedi’i gytuno a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i sefydlu’r Weithred Ymlyniad ar gyfer y Cytundeb, sy’n hwyluso darpariaeth cyfleusterau addysgol a chymunedol drwy’r Dull Buddsoddi Cydfuddiannol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad oedd yn rhoi manylion ar y cefndir a phroses newid arfaethedig, “Gweithred Ymlyniad” i’r Cytundeb Partneriaeth Strategol presennol y cytunwyd arno.  Roedd y Cytundeb Partneriaeth Strategol yn hwyluso darparu cyfleusterau addysg a chymuned drwy Ddull Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru a cheisio cymeradwyaeth i ymuno â’r Weithred Ymlyniad.

 

            Yn ddarostyngedig i gytundeb priodol gan Gyfranogwyr Parhaus (Cynghorau Cymru a Sefydliadau Addysg Bellach) byddai’r Weithred Ymlyniad yn cael ei chwblhau gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd 2021.

 

PENDERFYNWYD:

 

Wrth nodi’r argymhellion isod mae’n cael ei eirio yn eithaf penodol gan Bevan Brittain, yr ymgynghorwyr cyfreithiol i Lywodraeth Cymru a WEPCo i sicrhau bod gan holl bartneriaid i’r cytundeb hwnnw set o eiriau a reoleiddir ac y cytunwyd arnynt yn ffurfiol. Mae hyn er mwyn sicrhau cysondeb ar draws y bartneriaeth, a fydd yn cyflwyno adroddiadau cymharol debyg i’w sefydliadau priodol ar neu o gwmpas yr un amser:

Bod gweithredu, darparu a pherfformio cytundeb atodol i Gytundeb Partneriaeth Strategol Partneriaeth Addysg Cymru dyddiedig 30 Medi 2020 (y “Weithred Ymlyniad”) yn cael ei gymeradwyo, fel bod y Cydbartneriaethau o ddyddiad gweithredu’r Weithred Ymlyniad i’r Cydbartneriaethau yn gallu bod ynghlwm i delerau Cytundeb Partneriaeth Strategol Partneriaeth Addysg Cymru dyddiedig 30 Medi 2020 fel parti iddo, i hwyluso darparu ystod o wasanaethau isadeiledd a darparu cyfleusterau addysg a chymuned. 

41.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Adolygiad Thematig Estyn pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Rhoi sicrwydd i’r Cabinet o ran ymateb y Portffolio Addysg i gefnogi dysgu ac addysgu yn ystod pandemig Covid-19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ac eglurodd yn ystod tymor yr hydref 2020, bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Estyn gynnal adolygiad thematig o’r gwaith a wnaed gan adrannau addysg ym mhob cyngor yng Nghymru i gefnogi eu cymunedau sy'n dysgu mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion yn ystod y cyfnod o fis Mawrth i fis Hydref 2020.  Roedd Estyn wedi gwneud pump prif argymhelliad i Lywodraeth Cymru a chynghorau i roi sylw iddynt.

 

            Roedd llythyr adolygiad cyntaf Sir y Fflint yn gadarnhaol iawn ac wedi’i gynnwys fel rhan o’r ddogfennaeth yn ymwneud â phroses hunanwerthuso blynyddol y Portffolio Addysg. Yn ystod tymor yr haf 2021, roedd Estyn wedi cynnal adolygiadau dilynol i ystyried y cynnydd a wnaed yn erbyn eu hargymhellion cychwynnol yn yr adolygiad thematig cenedlaethol.    Roedd yr adolygiad wedi arwain at ail lythyr at y Prif Weithredwr oedd yn rhoi lefel uchel o sicrwydd bod y Portffolio yn parhau i weithio’n effeithiol drwy ei adnoddau ei hun a thrwy ei gefnogaeth i ysgolion mewn partneriaeth â GwE, i sicrhau darpariaeth addysg o ansawdd i ddysgwyr, yn arbennig y rhai oedd yn cael eu hystyried y mwyaf diamddiffyn.

 

            Nid oedd yr ymateb gan Estyn angen ymateb swyddogol gan y Cyngor gan fod y gwaith a wnaed yn adolygiad thematig, nid arolwg o dan y fframweithiau rheoleiddio arferol.

 

Dywedodd yr Uwch-Reolwr, Gwella Ysgolion am y llythyr cadarnhaol oedd yn rhoi llawer o sicrwydd bod y Portffolio wedi parhau i weithio’n effeithio i ddarparu cefnogaeth i ysgolion a dysgwyr agored i niwed, i sicrhau bod darpariaeth addysg o ansawdd yn cael ei darparu drwy ail gam y pandemig.    Hefyd, soniodd am y gwaith a wnaed i wella darpariaeth ddigidol mewn ysgolion a groesawyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod gwaith effeithiol y Portffolio Addysg, ar y cyd â’r gwasanaeth rhanbarthol gwella ysgolion GwE, i sicrhau fod dysgwyr Sir y Fflint wedi parhau i gael darpariaeth addysgol effeithiol trwy’r pandemig Covid-19 yn cael ei gydnabod;

 

 (b)      Bod y cynnydd cadarnhaol a wnaed yn erbyn pob un o’r pump argymhelliad gan Estyn yn yr adolygiad thematig cenedlaethol gan y Portffolio Addysg ac ysgolion yn cael ei nodi; a

 

 (c)       Bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn rhoi ystyriaeth i’r llythyr sicrwydd.

42.

Cynllun Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor pdf icon PDF 134 KB

Pwrpas:        Darparu cyfle i'r Cabinet adolygu lefel premiwm Treth y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod Adran 12 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn rhoi pwerau disgresiwn i Awdurdodau Lleol yng Nghymru godi neu amrywio premiwm Treth y Cyngor hyd at 100% uwchlaw cyfradd safonol Treth y Cyngor ar gategorïau penodol o ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor. Roedd y Cyngor wedi penderfynu ym mis Mawrth 2016 i gyflwyno cynllun ym mis Ebrill 2017 a chodi Premiwm o 50% ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.

 

            Ers hynny, roedd y Cyngor wedi penderfynu parhau gyda’r cynllun pob blwyddyn ond heb unrhyw newid i’r lefelau premiwm. Roedd yr adroddiad yn cynnwys y prif ystyriaethau os oedd y Cabinet yn ei ystyried yn briodol i amrywio’r lefelau o’r premiwm o 2022/23. 

 

Roedd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wedi tynnu sylw’r Aelodau at y tablau yn yr adroddiad oedd yn dangos y nifer o eiddo gwag ac ail gartrefi hirdymor, a’r dadansoddiad o’r lefelau premiwm a godwyd ar draws Cymru ar gyfer ail gartrefi ac/neu eiddo gwag hirdymor.  

 

Ychwanegodd drwy ddefnyddio’r system Treth y Cyngor i gymell perchnogion i wneud defnydd parhaol o eiddo gwag yn parhau i gynnig gallu cyfyngedig i fynd i’r afael â’r galw lleol am dai.

 

Byddai ymarfer ymgynghori cyhoeddus llawn yn cael ei gynnal i gael adborth, gan gynnwys adborth gan drethdalwyr yr effeithir arnynt yn barhaol gan y newidiadau.    Yna, byddai adborth yn cael ei ystyried gan y Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol cyn unrhyw argymhelliad terfynol a mabwysiadu yng nghyfarfod y Cabinet a’r Cyngor Sir.

 

Roedd y Cynghorydd Bithell yn cefnogi’r premiwm ar y sail ei fod yn helpu i wneud ailddefnydd o dai i bobl leol a fyddai’n cynorthwyo gyda’r rhestr aros am dai.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Banks, eglurodd y Prif Swyddog y byddai manylion yr ymgynghoriad ar gael ar wefan y Cyngor a chysylltir â pherchnogion yr eiddo dan sylw yn uniongyrchol i’w hysbysu am yr ymgynghoriad. 

 

Roedd y Cynghorydd Hughes yn awgrymu y gellir defnyddio cynnydd cynyddol, a dywedodd y Prif Swyddog y gellir cymryd hyn i ystyriaeth. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod adolygiad pellach yn cael ei gynnal i benderfynu pa un a ddylid newid lefel premiwm Treth y Cyngor ar gyfer ail dai ac eiddo gwag hirdymor, ac os felly, ar ba lefel; a

 

 (b)      Bod ymarfer ymgynghori cyhoeddus llawn yn cael ei gynnal cyn argymell unrhyw newidiadau i’r Cyngor llawn.

43.

Mabwysiadu diffiniadau ar gyfer gwrth-Semitiaeth ac Islamoffobia pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Gwahodd y Cabinet i fabwysiadu diffiniadau ar gyfer gwrth-Semitiaeth ac Islamoffobia.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad ac eglurodd bod llawer o lywodraethau ac awdurdodau lleol y DU wedi mabwysiadu diffiniad gwaith Cynghrair Ryngwladol Cofio’r Holocost o wrth-semitiaeth.

 

            Roedd diffiniad Gr?p Seneddol Pob Plaid ar Fwslimiaid Prydeinig o Islamoffobia yn cael ei fabwysiadu’n ffurfiol gan nifer o gynghorau a sefydliadau cyhoeddus eraill, fel prifysgolion.

 

            Argymhellwyd bod y Cabinet, ar ran y Cyngor yn mabwysiadu’r diffiniad o wrth-semitiaeth ac Islamoffobia, i gael ei ddefnyddio fel rhan o’r diwylliant gwaith a mabwysiadu mwy o Amrywiaeth mewn Democratiaeth – gan gydnabod pwysigrwydd cymdeithas oddefgar a chynhwysol o fewn Sir y Fflint. 

 

Roedd y Cynghorydd Johnson yn croesawu’r adroddiad ac yn mynegi pwysigrwydd cefnogi’r diffiniadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y canlynol yn cael ei fabwysiadu ar ran y Cyngor:

 

 (i) Diffiniad gwrth-semitiaeth Cynghrair Ryngwladol Cofio’r Holocost (IHRA) a;

 

 (ii) Diffiniad Gr?p Seneddol Holl Bleidiau ar Fwslimiaid Prydeinig o Islamoffobia.

44.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 245 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Tai ac Asedau

 

  • Rhent Tai Cyngor – Diddymu Hen Ôl-Ddyledion Tenantiaeth yn Dilyn Achos o Droi Allan

Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion drwg a rhai na ellir eu hadennill sydd werth dros £5,000 yn cael eu hystyried i gael eu dileu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol. Mae’r penderfyniad i ddiddymu mewn perthynas â dau achos o rent heb ei dalu mewn amgylchiadau ble roedd y tenant wedi gadael yr eiddo yn ystod achosion cyfreithiol. Yn dilyn camau a gymerwyd, ystyrir hen ôl-ddyledion tenantiaeth ymhob achos fel rhai nad ellir eu hadennill ac nid oes unrhyw obaith o ddiogelu taliad. Cyfanswm y rhent heb ei dalu mewn perthynas â’r ddau achos yw £15,586.85.

 

  • Darparu Gwelyau Brys

Ymestyn y contract gwasanaethau cefnogi digartrefedd yn y ganolfan ddigartrefedd. Mae’r ganolfan digartrefedd wedi bod yn wasanaeth hanfodol yn ystod y pandemig COVID, gan gartrefu rhai pobl heriol iawn sy’n dod drwy’r llwybr digartrefedd ac angen llety a chefnogaeth. Yn ystod y pandemig, roedd Llywodraeth Cymru wedi dileu’r angen blaenoriaethol ac roedd yn rhaid rhoi llety i’r holl bobl. Oherwydd natur estynedig y pandemig a dim lleoliad amgen uniongyrchol neu fodel darparu gwasanaeth ar gael, mae angen parhau â’r ddarpariaeth bresennol i sicrhau cynaliadwyedd tai a gwasanaethau cefnogi i’n preswylwyr mwyaf diamddiffyn.

 

  • Rhent y Cyngor – Cais i Ddileu Ôl-ddyledion Tenantiaeth

Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion drwg a rhai na ellir eu hadennill sydd werth dros £5,000 yn cael eu hystyried i gael eu dileu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol. Roedd y penderfyniad hwn yn ymwneud â dileu ôl-ddyledion tenant oedd yn destun Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled. Mae ôl-ddyledion rhent o £5,758.79 wedi eu cynnwys yn y gorchymyn na fyddai modd eu hadennill bellach o ganlyniad i roi'r gorchymyn.

 

  • Budd-dal Tai

Cais i ddiddymu Gordaliad Budd-dal Tai £11,222.41.

 

  • Budd-dal Tai

Cais i ddiddymu Gordaliad Budd-dal Tai £16,484.59 am y cyfnod 11.11.13 - 11.07.21.

 

  • Budd-dal Tai

Cais i ddiddymu Gordaliad Budd-dal Tai £6,394.69 a Gordaliad DHP £987.85.

 

Cyllid Corfforaethol

 

  • Dileu Treth y Cyngor

Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (adran 9.6 - Incwm a Gwariant) yn amodi y dylid rhoi gwybod i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol/Swyddog Adran 151 am unrhyw ddyled unigol sydd werth rhwng £5,000 a £25,000, er mwyn ystyried ei dileu, ar y cyd â'r Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ac Asedau. Mae’r rhestr, sydd wedi’i chrynhoi gan y categori diddymu yn cynnwys 3 chyfrif Treth y Cyngor sy’n gyfanswm o £18,607.97 ble mae’r ddyled gyffredinol i bob unigolyn yn fwy na £5,000 a phob dewis adferiad ar gael i ni wedi eu cymryd.  Ystyriwyd y dyledion yn anadferadwy ac felly argymhellir bod y dyledion hyn yn cael eu dileu.

 

 

 

  • Dileu Trethi Busnes

Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (adran 9.6 - Incwm a Gwariant) yn amodi y dylid rhoi gwybod i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol/Swyddog Adran 151 am unrhyw ddyled unigol sydd werth rhwng  ...  view the full Cofnodion text for item 44.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

                       

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Dogfennau ychwanegol:

45.

Caffael Nwyddau a Gwasanaethau Ynni Cartref

Pwrpas:        Er mwyn gwneud cais i gymeradwyo caffel cytundeb cyfnewid ar gyfer darparu nwyddau a gwasanaethau ynni cartref yn Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gaffael darpariaeth gwasanaethau atal a chymorth wedi’u hariannu Teuluoedd yn Gyntaf am hyd at flwyddyn, yn ddibynnol ar Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo mwy o gyllid.

           

PENDERFYNWYD:

 

Bod angen ail-gaffael y Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf (ariennir gan Lywodraeth Cymru) am gyfnod o ddwy flynedd (Ebrill 2022 - Mawrth 2024) gyda’r dewis i ymestyn am flwyddyn arall os bydd angen. 

46.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.