Cofnodion
Lleoliad bwriedig: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i’r Cynghorwyr Banks, Butler, Jones a Mullin ddatgan cysylltiad personol gydag eitem rhif 3 - Rhaglen Foderneiddio NEWydd gan eu bod yn llywodraethwyr ysgol. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 15 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhaglen Foderneiddio NEWydd
Cofnodion: Cyflwynodd Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn nodi manylion y cynllun pontio gweithredol arfaethedig ar gyfer Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf ac amlinellodd gamau’r gweithrediad a oedd eu hangen i gyflawni’r targedau ar gyfer Rhaglen Foderneiddio NEWydd.
Diolchodd y Prif Weithredwr i Gadeirydd y Cyngor, a oedd yn arsylwi’r cyfarfod, am gytuno i’r cyfarfod arbennig gan fod y penderfyniad yn un brys ac er buddioldeb. Eglurodd y rhesymau dros hynny, sef er mwy amddiffyn taliadau gadael.
Gofynnwyd nifer o gwestiynau, a’u hateb, ar ansawdd y bwyd, darpariaeth prydau dros dro, cynnyrch na ellir eu hailgylchu a’r fwydlen newydd a fyddai ar gael o Ionawr 2021.
Diolchodd yr aelodau i bob swyddog am y gwaith a wnaed i alluogi caniatáu ceisiadau gweithwyr.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo gweithrediad arfaethedig Rhaglen Foderneiddio NEWydd, a'r newidiadau i’r gwasanaeth arlwyo ysgol, fel nodir yn y cynllun pontio gweithredol; a
(b) Cefnogi rhyddhau gweithwyr a oedd wedi gwneud cais am ddiswyddiad gwirfoddol erbyn 31 Medi 2020 i helpu i hwyluso gweithrediad y model gweithredu newydd. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |