Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

105.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiada chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

106.

Cofnodion pdf icon PDF 360 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 16 Chwefror 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2021 eu cyflwyno a'u cadarnhau fel rhai cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

107.

Tlodi Bwyd pdf icon PDF 158 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar ddull ac ymateb y Cyngor i dlodi bwyd a mentrau i sicrhau fod cynnydd yn dal i ddigwydd ac yn gynaliadwy.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor wedi bod yn mynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd o ran bwyd yn Sir y Fflint ers haf 2018.  Roedd y strategaeth tlodi bwyd wedi’i mabwysiadu gan Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus, a Chyngor Sir y Fflint oedd yr arweinydd rhanbarthol. 

 

Roedd heriau sylweddol wedi codi dros y flwyddyn ddiwethaf, fodd bynnag, yn hytrach na llesteirio’r cynnydd, roedd cyfleoedd wedi cael eu creu ac roedd hynny wedi golygu bod modd rhoi rhai o uchelgeisiau’r dyfodol o ran cyflenwi a thrawsnewid busnes ar waith yn gynt.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bod manylion llawn y gwaith a wnaed wedi’u cynnwys yn yr adroddiad:

 

·         Cefnogaeth yn ystod Gwyliau’r Ysgol;

·         Rhaglen Crochan Araf;

·         Prydau Ysgol Am Ddim - Cyflenwi Amgen;

·         Cefnogaeth Bwyd i Breswylwyr Diamddiffyn a’r rhai oedd yn Gwarchod eu hunain - 14 Ebrill 2020 - 16 Awst 2020;

·         Cefnogaeth Bwyd i Breswylwyr Diamddiffyn a’r rhai oedd yn Gwarchod eu hunain - 17 Awst 2020 - 22 Medi 2020;

·         Bocs Bwyd Bwyta’n Dda am Bris Llai - 23 Medi 2020 - 3 Tachwedd 2020;

·         Bocsys Bwyd Nadolig;

·         Preswylwyr oedd yn Hunan-ynysu ac yn Gwarchod eu hunain;

·         Cynllun Gwaith – Ymchwil;

·         Bwyta’n Dda o Adref Cynllun Bocs Prydau - Ailfeddwl ‘Pryd ar Glud’;

·         Canolfannau Bwyd Da - Cefnogaeth Bwyd mewn Argyfwng;

·         Adre o'r Ysbyty - Bocs Diogelwch Bwyta’n Dda;

 

Cafwyd manylion am y prosiectau a ganlyn hyn i’r dyfodol hefyd:

 

·         Agor siop;

·         Ailedrych ar y Cynllun Peilot Crochan Araf;

·         Ffrwythau am ddim i Ysgolion Uwchradd;

·         Cynhadledd;

·         Meithrin Gallu Cymunedol; a

·         “Hawl i Fwyd Da”;

 

Mewn perthynas â “Hawl i Fwyd Da”, eglurodd y Prif Swyddog bod yr ymchwil a gynhaliwyd wedi ystyried sut y gellid diogelu cymunedau orau a sut y gellid cefnogi diet a lles preswylwyr yn y tymor hwy.  Ychwanegodd nad oedd yr hawl i fwyd da yn ymwneud ag elusen, ond am sicrhau bod gan bobl y gallu i fwydo eu hunain yn urddasol. 

 

Soniodd am y gefnogaeth wych a roddwyd gan grwpiau gwirfoddol lleol a oedd wedi cael effaith fawr ar gymunedau lleol ac yn ei dro roedd hyn wedi dod â phobl at ei gilydd.

 

            Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad a’r gwaith a oedd yn cael ei wneud i fynd i’r afael â thlodi bwyd a oedd yn dangos bod Cyngor Sir y Fflint yn Gyngor sy’n gofalu.   Roeddent hefyd yn croesawu’r canolbwynt ar goginio cartref a bwyd maethlon wedi’i goginio’n ffres.  Fe wnaethant ddiolch i’r grwpiau o wirfoddolwyr ledled y Sir sydd wedi darparu cefnogaeth i’w cymunedau lleol hefyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Croesawu a nodi’r cynnydd a wnaethpwyd wrth fynd i’r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd yn Sir y Fflint;

 

(b)       Cefnogi’r gwaith parhaus a’r cynllun cyflenwi am y 12 mis nesaf; a

 

(c)        Chefnogi’r gwaith o ddatblygu polisi “Hawl i Fwyd” ar gyfer Sir y Fflint.

108.

Cyflawni agweddau ar y Rhaglen Gyfalaf drwy Gontract Tymor Penodol pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Nodi’r llwybr caffael arfaethedig ar gyfer agweddau ar waith adeiladu sy’n berthnasol i raglen gyfalaf y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn cynnig proses gaffael a fyddai’n cyflawni rhaglen o brosiectau (tua £1m y flwyddyn) e.e. gwaith Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, gwaith Asesiad Risgiau Tân, gwaith ar adeiladau ysgolion, gwaith ar eiddo corfforaethol, yn brydlon, o fewn y gyllideb ac o safon uchel.

 

            Y bwriad oedd cychwyn Contract Tymor Penodol (MTC) y Tribiwnlys Contractau ar y Cyd (JCT) ym mis Medi 2021 a bydd yn dod i ben ym mis Medi 2025 a rhagwelir gwariant o £4m yn ystod y cyfnod hwnnw.  Byddai’r gwaith unigol yn amrywio o £10k i £300k.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bod y Tîm Ymgynghori ar Waith Cynnal a Chadw a Dylunio Eiddo wedi defnyddio contract MTS JCT wedi’i dendro ar sail pris / ansawdd gydag ethos partneriaeth / cydweithio er mwyn cyflawni’r gwaith ers 2010.  Roedd rhan o’r cais ansawdd yn cynnwys Buddion Cymunedol e.e. busnesau bach a chanolig, cymalau cyflenwi lleol a gwariant lleol.  Hyd yn hyn, roedd prosesau caffael wedi darparu tua £14m o brosiectau’n brydlon, o fewn y gyllideb ac o ansawdd uchel.

 

            Roedd MTC yn Gontract o Safon Diwydiant, yn benodol ar gyfer ei ddefnyddio wrth ddarparu nifer o brosiectau’n effeithlon, gan sicrhau bod cyfyngiadau amser a chostau’n cael eu cyflawni.  Petai’n cael ei gymeradwyo, byddai’n cael ei dendro ar GwerthwchiGymru yn unol â Rheolau’r Weithdrefn Gontractau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi a chymeradwyo’r dull caffael, gan nodi bod y gofyniad yn cydymffurfio â Rheolau'r Weithdrefn Gontractau ac y byddai’n cefnogi cyflawni elfennau o’r Rhaglen Gyfalaf 2021/22 i 2023/24.

109.

Atal Taliadau Parcio Ceir pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn atal taliadau parcio ceir tan 30 Mehefin 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am y cais i atal taliadau parcio ceir unwaith yn rhagor nes 30 Mehefin 2021, a darparodd fanylion am effaith ariannol y cais.  Byddai’r estyniad yn cefnogi ailagor canol trefi, ar ôl codi cyfyngiadau’r cyfnod clo, ac yn cefnogi ymdrechion i adfywio canol trefi fel a wnaed ym mis Mehefin 2020.

 

            Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cefnogaeth i ymchwilio i ddulliau amgen digyffwrdd i dalu am gostau parcio ceir unwaith y byddai taliadau’n ailgychwyn.

 

Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad ac roedden nhw’n credu y byddai’n helpu cefnogi adferiad busnesau lleol. 

 

Eglurodd y Prif Swyddog y rhesymeg y tu ôl i’r ail argymhelliad am y posibilrwydd o estyn y cyfnod, gan nad oedd yn hysbys ar hyn o bryd pa bryd y bydd y cyfnod clo yn dod i ben. Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) wedi cadarnhau y gallai’r Cyngor wneud cais am golli incwm ar gyfer Chwarter 1-2 o 2021/22 ond nid oedd arian wedi’i gadarnhau ar gyfer hyn ar gyfer Chwarter 3-4. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo atal taliadau parcio ceir ym meysydd parcio canol tref Sir y Fflint tan 30 Mehefin 2021;

 

(b)       Rhoi awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Prif Weithredwr, ar ôl trafod gyda’r Dirprwy Arweinydd a’r deilydd portffolio i ymestyn y cyfnod atal taliadau parcio ceir nes 30 Medi 2021, petai’r amgylchiadau ar y pryd yn cefnogi penderfyniad o’r fath; a

 

(c)        Chefnogi adolygiad o ddulliau talu amgen am daliadau parcio megis taliadau digyffwrdd neu dalu dros y ffôn.

110.

Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 10) pdf icon PDF 134 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2020/21 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 10 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol, a’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol erbyn Mis 10.  Roedd yr adroddiad yn darogan beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yn eithaf tebyg.  Roedd hefyd yn ystyried y sefyllfa ddiweddaraf o ran cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru (LlC) ar Gyllid Grant Argyfwng.

 

            Y sefyllfa a ragwelid ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw drwy gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

·         Gwarged gweithredol o £0.924 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei dalu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.552 miliwn ers ffigwr y gwarged a adroddwyd ym Mis 9, sef £0.372 miliwn.

·         Roedd gwarged gweithredu o £0.924 miliwn oedd yn gyfystyr â 0.3% o’r Gyllideb wedi’i Chymeradwyo a oedd yn unol â tharged Dangosydd Perfformiad Allweddol y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) ar gyfer amrywiaeth yn erbyn y gyllideb o 0.5%.

·         Rhagwelid y byddai balans y gronfa wrth gefn ar 31 Mawrth 2021 yn £2.339 miliwn.

 

Mae’r sefyllfa well hon wedi codi’n bennaf oherwydd adolygiad manwl o’r risgiau ym mhortffolio’r Gwasanaethau Stryd a Chludiant o ganlyniad i’r pandemig, ynghyd â chadarnhad o gyllid ychwanegol o Gronfa Caledi Llywodraeth Cymru.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelid y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £1.642 miliwn yn is na’r gyllideb.

·         Rhagwelid mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2021 fydd £3.815 miliwn.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol fanylion am y sefyllfa a ragwelid, y sefyllfa a ragwelid yn ôl portffolio, newidiadau sylweddol ers Mis 9, risgiau agored, risgiau newydd a oedd yn dod i’r amlwg, cyflawni arbedion effeithlonrwydd yn ystod y flwyddyn, ceisiadau i ddwyn arian ymlaen a chronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Roedd adran 1.05 o’r adroddiad yn rhoi manylion am y prif gyhoeddiadau o ran grantiau wrth ysgrifennu’r adroddiad hwn.  Ar gyfer yr arbedion nas cyflawnwyd a’r Trawsnewid Digidol, roedd £1.181 wedi’i roi bellach ar gyfer y dyraniadau hynny.  Gan nad oedd yr arian hwn wedi’i neilltuo, byddai’n atgyfnerthu cronfeydd wrth gefn y Cyngor o £2.362 a oedd yn newyddion cadarnhaol a byddai’n diogelu ymhellach yn erbyn y risgiau a fydd yn cael eu wynebu yn 2021/22.

 

Roedd yr adroddiad wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn ystod yr wythnos flaenorol lle holwyd am wybodaeth bellach am y cyfraniad a ddisgwylir gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar gyfer pecynnau gofal a ariennir ar y cyd sy’n is na’r hyn a ddisgwylid.

 

            PENDERFYNWYD:

           

(a)        Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2021; a

 

            (b)        Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragwelid ar y Cyfrif Refeniw Tai; a

 

            (c)         Chymeradwyo’r ceisiadau i ddwyn arian ymlaen.

111.

Cychwyn y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Diweddaru’r Cadeirydd ar ein parodrwydd ar gyfer cychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol ar 31 Mawrth 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd y byddai’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol yn dod i rym ar 31 Mawrth 2021 yng Nghymru.  Roedd y ddyletswydd yn rhoi cyfrifoldeb cyfreithiol ar gyrff cyhoeddus, wrth wneud penderfyniadau strategol, i roi sylw dyledus i’r angen i leihau anghydraddoldebau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol. 

 

Byddai’r rhestr derfynol o gyrff cyhoeddus perthnasol yn cael ei chyhoeddi yn y Rheoliadau a’r canllawiau statudol.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod yr adroddiad yn amlinellu’r camau gweithredu sy’n cael eu gweithredu i baratoi ar gyfer y ddyletswydd newydd, a fyddai’n ddull o gefnogi’r bobl mwyaf diamddiffyn mewn cymdeithas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi gofynion y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol;

 

(b)       Bod gan y Cyngor sicrwydd o fod yn barod ar gyfer bodloni’r ddyletswydd newydd; a

 

(c)        Bod yr adroddiad yn cael ei rannu gyda phob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol am ofynion y ddeddfwriaeth.

112.

Perfformiad Rhaglen Gyfalaf Safon Ansawdd Tai Cymru – Adroddiad Sicrwydd pdf icon PDF 152 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad ar berfformiad Safon Ansawdd Tai Cymru a’r gwaith a wnaed hyd yma.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad am gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru.  Roedd y Cyngor yn ei gyflawni drwy ei Raglen Buddsoddi Cyfalaf ac yn canolbwyntio ar y cyflawniadau a wnaethpwyd hyd yn hyn.

 

Roedd y gwaith a wnaed drwy Safon Ansawdd Tai Cymru wedi trawsnewid stoc tai’r Cyngor ac wedi cyflawni gwelliannau sylweddol i ansawdd tu mewn a thu allan i dai’r tenantiaid.

 

Roedd buddsoddiad ariannol sylweddol wedi cael ei wneud bob blwyddyn ers cychwyn y rhaglen, ac o Ebrill 2021, byddai buddsoddiad ychwanegol o £21m yn cael ei wneud, gyda £14 ychwanegol yn cael ei roi tuag at y rhaglen adeiladu tai newydd.  Dros gyfnod y rhaglen, byddai’r contractwyr sydd ynghlwm wrth Safon Ansawdd Tai Cymru wedi creu hyfforddiant neu gyfleoedd swyddi i 57 prentis a oedd yn gyflawniad sylweddol.

 

Drwy gydol rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru, roedd lefelau bodlonrwydd cwsmeriaid wedi bod yn gyson uchel.  96% oedd y lefel bodlonrwydd mwyaf diweddar.  Roedd hyn yn adlewyrchu ar waith caled y tîm.

 

Er bod heriau ac amhariadau penodol yn ystod y flwyddyn ariannol hon oherwydd y pandemig, roedd y Cyngor wedi parhau i gyflawni’r gwaith.  Roedd LlC wedi nodi’r heriau penodol hyn ac wedi cadarnhau eu bod yn cytuno i ymestyn y rhaglen am flwyddyn arall, a fyddai’n galluogi canolbwyntio ar feysydd allanol a gwaith a meithrin gwaith.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) mai’r her nesaf fyddai datgarboneiddio’r stoc tai, gan eu gwneud cyn effeithlon o ran ynni ac yn rhyddhau lefelau isaf posib o garbon.

 

Diolchodd yr Aelodau i’r tîm oedd ynghlwm â’r gwaith, gan gynnwys LlC, a oedd wedi stopio gwerthiant tai’r Cyngor a oedd yn golygu bod y Cyngor yn cael cadw eu stoc a rheoli materion sy’n ymwneud â thai yn effeithiol. 

 

Roedd yr Aelodau hefyd o’r farn bod y wybodaeth gadarnhaol yn yr adroddiad yn dangos bod y tenantiaid wedi gwneud y penderfyniad cywir wrth bleidleisio i gadw’r stoc tai yn 2012.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r cynnydd a wnaed i gyflawni rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru, a chefnogi’r Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf yn ei blwyddyn derfynol.

113.

Moderneiddio Ysgolion pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth i gomisiynu contractwyr a ffurfio Contract Dylunio ac Adeiladu dau gam ar gyfer prosiectau arfaethedig yn Ysgol Croes Atti, Y Fflint ac ysgol gynradd Drury.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf Ysgolion yr 21ain ganrif Llywodraeth Cymru (LlC), Band B.

 

Er mwyn gweld cynnydd gyda’r rhaglen, roedd yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gaffael contractwr (neu gontractwyr) drwy Bartneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru i barhau gyda’r prosiectau arfaethedig yn Ysgol Croes Atti, Y Fflint ac Ysgol Gynradd Drury. Nodwyd y ddau brosiect yng Nghynllun Amlinellol Strategol (CAS) y Cyngor, a chafodd ei gyflwyno i LlC ar gyfer y Rhaglen Fuddsoddi Band B.

 

Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad a oedd yn gam sylweddol ymlaen i’r Cyngor gan eu bod yn adeiladu ysgol gynradd Gymreig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo comisiynu contractwr neu gontractwyr a ffurfio contract dylunio ac adeiladu dau gam ar gyfer prosiectau arfaethedig yn Ysgol Croes Atti, Y Fflint ac Ysgol Gynradd Drury.

114.

Trefniadau Derbyn i’r Ysgol 2022/23 pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        Cynghori ar ganlyniad yr ymgynghoriad statudol ar y trefniadau derbyn ar gyfer mis Medi 2022 ac argymell cymeradwyaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn darparu manylion am ganlyniadau’r ymarfer ymgynghori statudol am drefniadau derbyn ar gyfer mis Medi 2022.

 

            Cynhaliwyd y broses ymgynghori rhwng 11 Rhagfyr 2020 a 29 Ionawr 2021 ac ni chafwyd unrhyw sylwadau.  Nid oedd unrhyw newidiadau i’r trefniadau derbyn arfaethedig.  Roedd yr amserlen derbyn arfaethedig wedi’i llunio wrth ymgynghori gyda’r awdurdodau cyfagos ac roedd yn ystyried ffactorau fel rhoi digon o amser i rieni ymweld ag ysgolion a nodi eu dewisiadau a’r amser oedd ei angen i brosesu ceisiadau. Roedd yr amserlen hefyd yn ymgorffori’r “dyddiad cynnig cyffredin” a nodwyd gan y Cod Derbyn i Ysgolion.

 

            Fel rhan o’r ymgynghoriad, gofynnwyd i Benaethiaid a fu unrhyw newidiadau i’w hadeiladau a allai olygu bod angen adolygu eu Niferoedd Derbyn.  Ni chafwyd unrhyw geisiadau i wneud hynny felly nid oedd unrhyw newidiadau yn cael eu cynnig mewn perthynas â’r Niferoedd Derbyn ar gyfer 2022/23.

 

            Roedd y Cynghorydd Roberts yn erfyn ar rieni a gofalwyr i sicrhau eu bod yn llenwi eu ffurflenni cais erbyn y dyddiad cau, gan ychwanegu bod 96% o blant ysgol yn cael lle yn eu dewis ysgol cyntaf.  Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod ysgolion yn cynorthwyo rhieni a gofalwyr gyda’r broses honno drwy ddarparu manylion am y dyddiadau cau iddynt.  Roedd cefnogaeth yn cael ei gynnig i helpu unrhyw un lenwi’r ffurflenni petai angen hefyd.  Wrth ateb cwestiwn, eglurodd y Prif Swyddog bod y polisi derbyn yn egluro meini prawf y polisi cludiant i'r ysgol ac roedd rhaid i’r rhieni a’r gofalwyr gydnabod hyn cyn cyflwyno’r ffurflen.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2022/23.

115.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 200 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.  Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Tai ac Asedau

 

  • Rhent y Cyngor – Cais i Ddileu Ôl-ddyledion Tenantiaeth

Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion drwg a rhai na ellir eu hadennill sydd werth dros £5,000 yn cael eu hystyried i gael eu dileu ar y cyd â'r Aelodau Cabinet perthnasol.

 

Roedd y penderfyniad hwn yn ymwneud â dileu ôl-ddyledion un tenant oedd yn destun Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled. Mae ôl-ddyledion rhent o £6,500 wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled na fydd modd eu hadennill bellach o ganlyniad i roi'r Gorchymyn.

 

  • Trosglwyddo Asedau Cymunedol – Cae Chwarae Pentre Helygain, Cae Pêl-droed Pentre Helygain ac Eiddo yn Uwch y Môr, Pentre Helygain, Sir y Fflint

Trosglwyddo Cae Chwarae Pentre Helygain, Cae Pêl-droed Pentre Helygain a’r eiddo.

 

Addysg ac Ieuenctid

 

  • Llywodraethwyr Ysgolion a benodir gan Awdurdodau Lleol

Penodi cynrychiolwyr Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion yn unol â Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.

 

Gwasanaethau Stryd a Chludiant

 

  • Cynyddu Pris Prydau Ysgolion

Cynyddu pris prydau ysgol i barhau i ddarparu gwasanaeth o safon a’u hunioni gyda darparwyr prydau ysgolion eraill ledled Cymru.

 

  • Ffordd Llewelyn, Ffordd Glyndwr, Maes Alaw, Albert Avenue, Coed Onn Road a Glan Gors, Y Fflint

Rhoi gwybod i’r Aelodau am wrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbyseb am Wahardd Aros arfaethedig, Gwahardd Aros Ar Unrhyw Adeg a Chyfyngu ar Aros ar Ffordd Llewelyn, Ffordd Glyndwr, Maes Alaw, Albert Avenue, Coed Onn Road a Glan Gors, Y Fflint.

116.

Tendrau Cludiant

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn tendrau cludiant i'r ysgol presennol am gyfnod o flwyddyn.

Cofnodion:

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD I WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

                       

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

116.    TENDRAU CLUDIANT

                                        

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ac eglurodd bod tua 200 o dendrau cludiant ysgolion i fod i gael eu hadnewyddu ym mis Gorffennaf 2021. 

 

            Am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad, argymhellwyd y dylid ymestyn y contractau cludiant i'r ysgol am flwyddyn fel y byddai’r contractwyr mewn sefyllfa well i dendro am y gwaith.

           

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr amserlen ddiwygiedig i ymestyn tendrau cludiant i’r ysgol presennol am flwyddyn yn cael ei chymeradwyo.

117.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.