Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

170.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

171.

Cofnodion pdf icon PDF 357 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 18 Chwefror a 17 Mawrth 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Chwefror ac 17 Mawrth eu cyflwyno a’u cadarnhau fel cofnod cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

172.

Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint – ymateb i’r materion a godwyd yn dilyn ymgynghoriad ar y Cynllun i’w Archwilio gan y Cyhoedd pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        Rhoi trosolwg o’r prif faterion a godwyd gan ymatebwyr i’r ymarfer ymgynghori cyhoeddus diweddar mewn perthynas â CDLl Sir y Fflint i’w Archwilio gan y Cyhoedd, a chytuno at ymateb y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell Gynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint – Y wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd a’r sefyllfa gydag adroddiad Amserlen y Cynllun.

 

            Roedd gwaith ar Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) y Cyngor wedi’i arwain gan Gytundeb Darparu oedd yn rhaid i Weinidog perthnasol o Lywodraeth Cymru ei gymeradwyo. Rhan o’r cytundeb hwnnw oedd amserlen oedd yn ymrwymo’r Cyngor i gyrraedd cerrig milltir allweddol wrth baratoi cynllun erbyn dyddiadau penodol. 

 

Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ddaeth i ben ym mis Tachwedd, roedd y Cynllun wedi aros ‘ar y trywydd iawn’. Fodd bynnag, roedd sefyllfa’r argyfwng presennol a diffyg mynediad i’r cyhoedd i adeiladau cyhoeddus allweddol fel swyddfeydd y Cyngor, Canolfannau Cyswllt a llyfrgelloedd yn atal rhestr lawn o’r holl sylwadau a dderbyniwyd rhag bod ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd, fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Yn ogystal, anallu’r Cyngor i gyfarfod i gytuno ar yr ymatebion a chyflwyno’r Cynllun i’w archwilio wedi golygu bod angen adolygu amserlen y Cynllun a chynnig newidiadau.

 

Roedd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) wedi egluro bod yr adroddiad wedi amlygu’r cynnydd da a wnaed gyda’r Cynllun; y rhesymau am yr angen i adolygu’r amserlen; sut y trafodwyd hynny gyda Llywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio; a’r oblygiadau o ran amserlen ddiwygiedig ar gyfer y cynllun, gan gynnwys ystyriaeth a phenderfyniadau’r Cyngor angen eu cymryd a phryd. Roedd prif bwyntiau oedd yn codi o drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Ni fyddai’n ymarferol cyhoeddi sylwadau tan fis Gorffennaf ar y cynharaf. Byddai hyn yn golygu cyfarfod o’r Cyngor Sir ym mis Medi ac roedd dyddiad dros dro sef 29ain wedi’i drefnu. Byddai’r Cynllun yn cael ei gyflwyno ar gyfer ei archwilio felly yn mis Hydref ac yn cynnwys penodiad ffurfiol Arolygydd a pharatoi ar gyfer Archwiliad ar ddiwedd Ionawr 2021.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas ar lyfrgelloedd a sylwadau ar gael i’r cyhoedd, eglurodd y Prif Weithredwr na fu cytundeb cenedlaethol i lyfrgelloedd agor.  Ychwanegodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru wedi gwahodd y Cyngor i ddatblygu strategaeth ar gyfer sylwadau i fod ar gael, gyda’r wefan yn rhan o hynny. 

 

Roedd y Cynghorydd Heesom, fel Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd wedi mynegi barn ar effaith llifogydd a pherygl llifogydd. Dywedodd y Prif Swyddog bod yr adroddiad gerbron Aelodau’r Cabinet yngl?n â newidiadau i’r dyddiadau darparu, nid i edrych ar fanylder y CDLl.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cabinet yn nodi cynnydd cadarnhaol parhaus a wneir gyda’r Cynllun Datblygu Lleol; a

 

(b)      Bod yr amserlen ddiwygiedig a ddangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad ar gyfer y camau allweddol sy’n weddill cyn cymeradwyo’r cynllun, a chais ffurfiol i Lywodraeth Cymru i gytuno ar adolygu’r amserlen i gytuno ar gyflawni’r Cynllun Datblygu Lleol.

173.

Monitro'r Gyllideb Refeniw – Y Sefyllfa Derfynol 2019/20 pdf icon PDF 154 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod am Sefyllfa Derfynol Refeniw ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw – y Sefyllfa Derfynol 2019/20 oedd yn darparu’r sefyllfa ar gyfer Cronfa Gyngor a Chyfrif Refeniw Tai

 

            Bydd y Datganiad o Gyfrifon yn destun archwiliad dros yr haf a bydd y cyfrifon terfynol wedi’u harchwilio’n cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio ym mis Medi i gael cymeradwyaeth ffurfiol.

 

            Fel yr adroddwyd yn flaenorol, roedd meysydd penodol yn cael eu hadolygu’n dactegol i leihau’r sefyllfa gorwariant ymhellach, gyda chanlyniad y rhai nad ydynt yn gwbl hysbys nes yn hwyr yn rhaglen cau’r cyfrifon.    Y prif feysydd oedd yn destun adolygiad oedd sefyllfa derfynol Cynllun Disgownt Person Sengl ac adolygiad parhaus o Fenthyciadau Canolog a Chyfrif Buddsoddiadau cymhleth.

 

            Cyflwynwyd mesurau i adolygu a herio gwariant dianghenraid a recriwtio i swyddi gwag gyda’r nod o leihau gwariant yn y flwyddyn er mwyn lleddfu rhywfaint ar y gorwariant a gafodd ei ddarogan ar y pryd. Mae’r gwaith hwnnw wedi arwain at effaith gadarnhaol ar y sefyllfa derfynol.

 

            Roedd yr ymateb i sefyllfa’r argyfwng gyda Covid-19 yn uniongyrchol ac yn effeithio ar wasanaethau’r Cyngor.    Gostyngiadau mewn gwariant rhagamcanol ddim yn ofynnol mwyach yng nghanol Mawrth, gan fod rhai gwasanaethau wedi eu haddasu mewn ymateb, hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar y sefyllfa derfynol.

 

            Ychwanegodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, fel mewn blynyddoedd blaenorol, roedd yna grant hwyr gan Lywodraeth Cymru, y Bwrdd Iechyd a sefydliadau trydydd parti eraill.    Roedd y symudiadau cadarnhaol ar gyfer eitemau i’w hadolygu a chyllid grant ychwanegol yn gyfanswm o £1.108miliwn. Roedd effaith cronnus symudiadau eraill yn effaith gadarnhaol pellach o £0.855miliwn ar y sefyllfa derfynol.

 

            Y sefyllfa derfynol ar ddiwedd y flwyddyn:

 

            Cronfa’r Cyngor

 

·         Arian dros ben gweithredol o £0.439 miliwn (£1.524 miliwn o ddiffyg ym Mis 11)

·         Balans cronfa hapddigwyddiad arfaethedig o £2.370 miliwn ar 31 Mawrth 2020.

 

Cyfrif Refeniw Tai (CRT)

 

·         Roedd gwariant net yn ystod y flwyddyn £0.686 miliwn yn is na’r gyllideb;

·         Roedd balans terfynol heb ei neilltuo o £2.008 miliwn ar 31 Mawrth 2020.

 

Wrth ystyried sefyllfa derfynol ar ddiwedd y flwyddyn, cydnabuwyd y bu newid sylweddol ers Mis 10.  Fodd bynnag, fel cyfran, roedd symudiad cadarnhaol £1.963miliwn o Fis 10 i ddiwedd y flwyddyn ond yn 0.72% o’r Gyllideb Flynyddol o £271.350miliwn.Roedd yna nifer o ffactorau yn dylanwadu ar y symudiad a manylwyd hyn yn yr adroddiad. 

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr ei bod yn bwysig nodi bod y mwyafrif o’r symudiadau cadarnhaol yn y gyllideb ond yn cynnwys budd unwaith yn unig ac ni fyddai wedi bod yn berthnasol i’r broses gosod cyllideb ar gyfer 2020/21.  Pe bai’r symudiadau hyn yn hysbys adeg gosod y gyllideb byddai’r Cyngor wedi’i gynghori i gynyddu’r Arian Wrth Gefn i ddiogelu yn erbyn y peryglon agored sylweddol yr adroddwyd arnynt ar y pryd.

 

Roedd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn amlygu rhannau o’r adroddiad: y sefyllfa gyffredinol; symudiadau sylweddol; cyflawni arbedion effeithlonrwydd yn ystod y flwyddyn; cronfeydd a balansau; a chronfeydd a glustnodwyd o gronfa gyngor 2019/20.

 

Roedd y Cynghorydd Carver, fel Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn gwneud  ...  view the full Cofnodion text for item 173.

174.

Rhaglen Gyfalaf – Y Sefyllfa Derfynol 2019/20 pdf icon PDF 139 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod am Sefyllfa Derfynol Cyfalaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks y Rhaglen Gyfalaf – adroddiad Canlyniad Terfynol 2019/20 oedd yn crynhoi’r sefyllfa derfynol ynghyd â newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf yn ystod y chwarter diwethaf. 

 

            Roedd y Rhaglen Gyfalaf wedi gweld gostyngiad net o £6.348M yn ystod y chwarter diwethaf oedd yn cynnwys:

 

·         Gostyngiad cyllideb net yn y rhaglen o £0.494m - Cronfa Gyngor o £0.948m, Cyfrif Refeniw Tai £0.454 miliwn; a

·         Cario Ymlaen i 2020/21 - £4.034miliwn, Grant Cynhaliaeth Ysgol ychwanegol £2.185miliwn wedi’i osod yn erbyn yn rhannol drwy wrthdroad Cario Ymlaen o £0.365miliwn.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y gwariant gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn yn £63.014miliwn. Roedd gweddill arian terfynol o 2019/20 – 2021/22 Rhaglen Gyfalaf yn £1.145miliwn.

 

Cafodd Rhaglen Gyfalaf 2020/21 – 2022/23 ei chymeradwyo ar 28 Ionawr 2020, gyda diffyg mewn cyllid o £2.264miliwn. Byddai’r gweddill fyddai’n cael ei gario ymlaen yn arwain at ddiffyg sefyllfa ariannol agoriadol o £1.119miliwn, cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol ac/neu ffynonellau cyllid eraill.

 

Roedd y Cynghorydd Carver, fel Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn gwneud y sylwadau canlynol: 

 

 “Yn ystod y cyfnod anodd a heriol hwn, mae staff y Cyngor i’w llongyfarch am eu cyflawniadau ariannol wrth gadw uwchben heriau COVID-19 na ddisgwyliwyd chwe mis yn ôl.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r adroddiad cyffredinol;

 

 (b)      Bod yr addasiadau dwyn ymlaen yn cael eu cymeradwyo; a

 

 (c)       Bod ariannu cynlluniau o’r ‘hyblygrwydd’ presennol yn cael ei gymeradwyo.

175.

Dangosyddion Darbodus – Gwirioneddol 2019/20 pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion ynghylch gwir Ddangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2019/20 o’i gymharu â’r amcangyfrifon a bennwyd o ran Darbodusrwydd a Fforddiadwyedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad Dangosyddion Darbodus – Gwirioneddol 2019/20 ac eglurodd o dan y Cod Materion Ariannol ar gyfer Arian Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol, roedd Cynghorau angen gosod ystod o Ddangosyddion Darbodus. 

 

                        Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion ynghylch gwir Ddangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2019/20 o’i gymharu â’r amcangyfrifon a bennwyd o ran:

 

·         Dangosyddion Darbodus ar gyfer Pwyll; a

·         Dangosyddion Darbodus ar gyfer Fforddiadwyedd.

 

Roedd y Cynghorydd Carver, fel Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn gwneud y sylwadau canlynol: 

 

 “Rwy’n fodlon gyda’r adroddiad ac rwy’n llongyfarch staff y Cyngor am eu cyflawniadau ariannol wrth gadw uwchben heriau COVID-19 na ddisgwyliwyd chwe mis yn ôl.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r adroddiad.

176.

Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2019/20 pdf icon PDF 110 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Adroddiad Blynyddol 2019/20 ar yr Iaith Gymraeg, a oedd yn rhoi braslun o’r cynnydd a wnaethpwyd wrth gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, ac yn nodi meysydd ar gyfer gwella.   

 

Eglurodd y Swyddog Datblygu Polisi fod gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gyhoeddi adroddiad blynyddol yn nodi sut y mae wedi bodloni Safonau'r Iaith Gymraeg. Mae’r Safonau y mae’r Cyngor yn cydymffurfio â nhw yn cael eu nodi mewn Hysbysiad Cydymffurfio. Mae’r rhain yn unigryw i bob sefydliad ac maent yn nodi’n glir yr hyn a ddisgwylir i bob sefydliad ei wneud a’i gyflawni yn Gymraeg ac erbyn pryd y mae'n ofynnol iddynt gydymffurfio.

 

Roedd yna feysydd cyflawni rhagorol yn hybu’r Gymraeg a amlinellwyd yn yr adroddiad.  Roedd yna hefyd dri maes a amlinellwyd yn yr adroddiad oedd yn faterion oedd yn weddill fel meysydd ar gyfer gwneud cynnydd a gwella. 

 

Roedd yna ddwy wyn am y Gymraeg yn ystod 2019/20, o’i gymharu â chwech yn 2018/19.  Penderfynodd Comisiynydd y Gymraeg i beidio ymchwilio’r un o’r ddwy gwyn gan fod y Cyngor eisoes wedi cymryd camau i gywiro’r gwall. 

 

Cafodd y camau nesaf eu nodi fel:

 

·         Adroddiad canol blwyddyn ar feysydd ar gyfer gwneud cynnydd a gwella i’w gyflwyno i’r Cabinet;

·         Byddai gohebiaeth gweithlu yn cael ei chyhoeddi i gynyddu’r nifer o weithwyr oedd wedi cwblhau’r modiwl e-ddysgu ymwybyddiaeth o’r Gymraeg.

·         Byddai gohebiaeth reolaidd yngl?n â chydymffurfio gyda dathliad Safonau’r Iaith Gymraeg yn cael ei rhannu gyda’r gweithlu; a

·         Gwaith gyda’r Rhwydwaith Iaith Gymraeg i leihau’r nifer o weithwyr oedd yn dweud nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau Cymraeg. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bithell ym mha ieithoedd oedd y ddogfen wedi’i chyhoeddi a dywedwyd mai yn y Gymraeg a’r Saesneg. Os byddai yna gais iddo fod ar gael mewn iaith arall yna byddai yn cael ei ddarparu ar gais.    Dywedodd ei bod yn bwysig fod Cynghorwyr Sir hefyd yn mynychu modiwlau e-ddysgu. 

 

Roedd y Cynghorydd Carver, fel Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn gwneud y sylwadau canlynol: 

 

 “Fy marn i yw y dylai adroddiad blynyddol 2019/20 gael ei gymeradwyo. Fodd bynnag, mae yna hepgoriad bach o fewn adroddiad blynyddol 2018/19, cyfeiriwyd at dair cwyn a gyfeiriwyd at Gomisiynydd y Gymraeg a dwy ohonynt wedi derbyn sylw. Adeg yr adroddiad, roedd y trydydd cwyn yn parhau i gael ei hymchwilio gan Gomisiynydd y Gymraeg.  Fodd bynnag, nid yw adroddiad 2019/20 yn cyfeirio at ganlyniad y trydydd cwyn 2018/19”. Roedd y Swyddog Datblygu Polisi – Cydraddoldeb yn egluro y cyrhaeddwyd dyfarniad ac roedd y methiant yn ymwneud â chontractwr.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y meysydd ar gyfer cynnydd a gwelliant yn cael eu nodi a bod adroddiad canol blwyddyn ar gynnydd yn cael ei gynnwys yn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

 (b)      Rhoi cymeradwyaeth i gyhoeddi’r adroddiad ar wefan y Cyngor; a

 

 (c)       Cynnwys yr Adroddiad Blynyddol ar yr Iaith Gymraeg ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

177.

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        Derbyn Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2019/2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Christine Jones yr Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol ac eglurodd ei bod yn ofynnol i’r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol lunio’r adroddiad, crynhoi eu barn ar swyddogaethau gofal cymdeithasol yr awdurdod lleol a blaenoriaethau ar gyfer gwella, fel sy’n ofynnol yn gyfreithiol yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 a’r Ddeddf Rheoliadau ac Arolygiadau (Cymru) 2015. 

 

            Diben yr Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol oedd gosod hunanwerthusiad gyda blaenoriaethau ar gyfer gwella.    Bydd yr adroddiad yn ffurfio rhan annatod o werthusiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd y gwerthusiad hefyd yn hysbysu asesiad Swyddfa Archwilio Cymru o’r Cyngor fel rhan o’r adroddiad gwella blynyddol.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod arddull yr adroddiad yr un fath ag adroddiadau blaenorol a byddai’n cael ei gynhyrchu mewn arddull electronig gan Double Click. Byddai’r adroddiad hefyd yn cael ei gyfieithu ac ar gael mewn fformat dwyieithog ar wefan y Cyngor ar ôl ei gymeradwyo. 

 

            Roedd yr adroddiad blynyddol yn amlinellu’r blaenoriaethau gwella a nodwyd ar gyfer 2020/22 ac roeddent wedi eu manylu yn yr adroddiad, gan gynnwys ymestyn Marleyfield a gweithredu ‘Model Mockingbird’ o Faethu.

 

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, gofynnodd y Cynghorydd McGuill nifer o gwestiynau a ymatebwyd yn uniongyrchol iddynt drwy e-bost, fel y manylwyd isod:

 

C – Sawl uned gofal micro sy’n weithredol a faint o gleientiaid sydd yna (llawer o arian yn mynd i mewn i hyn ac amseriad perffaith gyda’r cyfnod clo i ddatblygu’r busnesau hyn)

A – fel y disgrifir o fewn yr adroddiad roedd hwn yn beilot gyda chyllid drwy grantiau Her Economaidd a Chymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, roedd llawer o waith wedi’i wneud cyn y Coronafeirws, ac roeddem wedi cyrraedd pwynt o gael nifer o ofal Micro yn dangos diddordeb ac yn barod i ddechrau. Fodd bynnag, roedd hyn wedi’i atal oherwydd canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru rheoliadau C19. Rydym yn parhau i ddatblygu a hysbysebu’r gwaith rydym yn ei wneud a byddwn yn barod i symud ymlaen gydag o leiaf dau ofal micro unwaith y bydd cyfyngiadau’r cyfnod clo wedi eu llacio.

 

C – Mae’r defnydd o dechnoleg wedi ymestyn yn sylweddol ar draws pob oed a gallu, beth ydym yn ei wneud i gasglu hyn ac eto datblygu’r math hwn o gyswllt gyda phobl? Mae hyfforddiant yn un maes ond mae yna lawer o feysydd ac nawr yw’r amser i “fynd amdani.”

A – fel rhan o’r prosiectau trawsnewid rhanbarthol, a arweinir gan Sir y Fflint, rydym wedi lansio’r wefan ‘cael eich gwirio’ i bobl ag anabledd dysgu, mae’r wefan yn fyw a bydd yn datblygu wrth i bobl ei defnyddio, byddwn yn gwybod faint o drawiadau a gafwyd ar y wefan.  Mae yna ddefnydd gwych o dechnoleg o fewn gwasanaethau plant ac mae hwn wedi profi’n gyfrwng poblogaidd iawn yn ystod y cyfnod clo, mae staff yn dweud fod pobl ifanc yn cyfrannu felly’n dda i ddysgu ar gyfer y defnydd o dechnoleg yn y maes hwn yn y dyfodol.  Ynghyd â  ...  view the full Cofnodion text for item 177.

178.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 73 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Strydwedd a Chludiant

 

  • Cyngor Sir y Fflint. Adran 23 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Croesfan arfaethedig i gerddwyr ar B5129 Chester Road a Leaches Lane, Mancot

 

Rhoi gwybod i'r Aelodau am y gwrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu'r groesfan i gerddwyr (Sebra) arfaethedig ar Leaches Lane, Mancot.

 

  • Cyngor Sir y Fflint. Mancot Lane, Willow Lane, Field View, Mancot Way, Crossways, Hawarden Way, Leaches Lane, Foxes Close, Cottage Lane, Colliery Lane, The Paddock, Wilton Road, Clos Coed, Mancot Royal Close ac Earle’s Crescent, Mancot.  Cynnig i Gyfyngu ar Aros a Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg

 

Rhoi gwybod i’r Aelodau am y gwrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu’r cyfyngiadau aros arfaethedig ar Mancot Lane, Willow Lane, Field View, Mancot Way, Crossways, Hawarden Way, Leaches Lane, Foxes Close, Cottage Lane, Colliery Lane, The Paddock, Wilton Road, Clos Coed, Mancot Royal Close ac Earle’s Crescent, Mancot.

 

  • Cyngor Sir y Fflint. Leaches Lane, Hawarden Way, Foxes Close, Earle’s Crescent, Field View, Cottage Lane, The Paddock, Colliery Lane, Wilton Road, Willow Lane, Hampton Avenue, Clos Coed, Marnel Drive, Mancot Royal Close, Crossways, Mancot Way, Ashfield Crescent, Maxwell Avenue, Wenlock Crescent, Sunnyside, Deiniol’s Road, Oakley Road, Leaches Close, Oak Court, Orchard Close, Westway a Mancot Lane, Mancot.

 

Rhoi gwybod i’r Aelodau am y gwrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu'r Terfyn Cyflymder 20mya arfaethedig a'r Parth Terfyn Cyflymder 20mya ar Leaches Lane, Hawarden Way, Foxes Close, Earle’s Crescent, Field View, Cottage Lane, The Paddock, Colliery Lane, Wilton Road, Willow Lane, Hampton Avenue, Clos Coed, Marnel Drive, Mancot Royal Close, Crossways, Mancot Way, Ashfield Crescent, Maxwell Avenue, Wenlock Crescent, Sunnyside, Ffordd Deiniol, Oakley Road, Leaches Close, Oak Court, Orchard Close, Westway a Mancot Lane, Mancot.

 

  • Deddf Priffyrdd 1980 Cyngor Sir y Fflint Adran 90C. Rhybudd o Gynnig i Osod Twmpathau Ffyrdd Fflat ar Stryd Yr Eglwys, y Fflint, Sir y Fflint

 

I hysbysu Aelodau am wrthwynebiad a dderbyniwyd ar ôl hysbysebu’r Twmpathau Ffyrdd Fflat ar Stryd Yr Eglwys, y Fflint.

 

  • Cyngor Sir y Fflint. A548 Chester Street, A548 Chester Road, A548 Holywell Street, A548 Trelawnyd Square, Evans Street,  Duke Street, Park Avenue, Castle Dyke Street, Marsh Lane, St Mary’s Walk, Barons Close Borough Grove, Trelawny Avenue, Lower Sydney Street, Church Street,  Earl Street, Lower Mumforth Street, Corporation Street, Salusbury Street, Castle Street, Syndey Street, Feather Street, Queen Street and Market Square / Y Farchnad Fflint. Cynnig i Gyfyngu ar Aros a Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg a Chyfyngiad ar Aros.

 

I hysbysu Aelodau am y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ar ôl hysbysebu’r Cyfyngu ar Aros ar Unrhyw Adeg a Chyfyngiad ar Aros ar yr A548 Chester Street, A548 Chester Road, A548 Holywell Street, A548 Trelawny Square, Evans Street, Duke Street, Park Avenue, Castle Dyke Street, Marsh Lane, St Mary’s Walk, Barons Close, Borough Grove, Trelawny Avenue, Lower Sydney Street, Church Street, Earl Street, Lower Mumforth Street, Corporation Street, Salusbusy Street, Castle Street, Sydney  ...  view the full Cofnodion text for item 178.

179.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol ac nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.