Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

128.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r aelodau yn un hynny.

Cofnodion:

Dim.

129.

Cofnodion pdf icon PDF 285 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 17eg Rhagfyr, 2019.

Cofnodion:

Cafodd cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr eu cyflwyno a’u cadarnhau fel cofnod cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

130.

Gwerth Cymdeithasol pdf icon PDF 115 KB

Pwrpas:        Diweddaru'r Cabinet ar y cynnydd a wnaed wrth gyflwyno uchelgeisiau gwerth cymdeithasol y Cyngor a thrafod y polisi drafft ar gyfer gwerth cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad Gwerth Cymdeithasol a oedd yn ceisio Polisi Caffael Gwerth Cymdeithasol drafft a fyddai’n creu fframwaith galluogi i gryfhau’r dull i gynhyrchu gwerth cymdeithasol drwy wariant caffael y Cyngor.

 

            Roedd gan y Cyngor ymrwymiad strategol i ddarparu gwerth cymdeithasol gwell drwy’r gwaith yr oedd yn ei wneud, a oedd yn golygu cael buddion gwell i gymunedau Sir y Fflint o ganlyniad i’w wariant a darpariaeth gwasanaeth.

 

            Roedd y strategaeth ddiwygiedig yn herio partneriaid, gwasanaethau a chyflenwyr i ystyried sut y gallent gynhyrchu gwerth ychwanegol i gymunedau Sir y Fflint a sut y gellid mesur hynny. Roedd yr amcanion hirdymor wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad, ochr yn ochr â manylion cyfleoedd mawr lle gellid ychwanegu gwerth cymdeithasol sylweddol yn y rhaglen, sef:

·         Caffael yn y dyfodol o adeiladu cartrefi Cyngor;

·         Ailddatblygu Theatr Clwyd;

·         Rhaglen ysgolion yr 21ain Ganrif.

·         Ymestyniad Marleyfield House; a

·         Buddsoddiad gan Aura yn y dyfodol.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai’r prif meysydd o ddarpariaeth gwerth cymdeithasol yn y 12 mis nesaf yn cynnwys:

 

·         Cefnogi rhaglen tlodi bwyd Sir y Fflint;

·         Lleihau tlodi tanwydd;

·         Cefnogaeth i leihau defnydd ynni a gwastraff;

·         Gwella bioamrywiaeth;

·         Cefnogi Cyfamod Y Lluoedd Arfog;

·         Hyrwyddo cael cyfle cyfartal;

·         Darparu cyfleoedd prentisiaeth a phrofiad gwaith;

·         Cynyddu’r defnydd o gwmnïau lleol yn y gadwyn gyflenwi;

·         Lleihau digartrefedd;

·         Teithio llesol a chludiant cymunedol;

·         Cynhwysiant digidol a chysylltiad;

·         Cefnogi mentrau sy’n gyfeillgar i Ddementia; a

·         Cefnogi rhaglen "WeMindTheGap”.

 

Byddai’r Cyngor yn gweithio’n agos gyda chyflenwyr a chontractwyr i sicrhau bod buddion pendant yn cael eu darparu tuag at y themâu hynny.

 

Rhoddwyd manylion dwy astudiaeth achos, datblygiad y Ganolfan Gofal Dydd Oedolion newydd yn Shotton a darpariaeth gwelliannau arbed ynni domestig ar gyfer aelwydydd sydd yn dlawd ar danwydd yn yr adroddiad.

 

Croesawodd Bithell yr adroddiad, yn arbennig y meysydd ar gyfer darpariaeth yn y 12 mis nesaf, a gwelwyd cysylltiadau â blaenoriaethau’r Cyngor, megis yr ymateb i’r her o newid hinsawdd a chyflawniadau o fod yn garbon niwtral erbyn 2030.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y trefniadau caffael rhanbarthol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      I nodi'r cynnydd a wnaethpwyd hyd yma i ddarparu gwerth cymdeithasol yn Sir y Fflint, a bod y camau arfaethedig nesaf yn cael eu cadarnhau; a

 

 (b)      Cadarnhau’r Polisi Caffael Gwerth Cymdeithasol drafft.

131.

Cynllun Busnes Ariannol 30 Blynedd y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) pdf icon PDF 151 KB

Pwrpas:        Pwrpas yr adroddiad hwn yw cyflwyno, er argymhelliad y Cyngor, Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2020/21, Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai a chrynodeb o’r Cynllun Busnes Ariannol 30 blynedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr Adroddiad Cynllun Busnes Ariannol 30 Blynedd y Cyfrif Refeniw Tai (HRA).

 

            Ar 18 Rhagfyr 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru penderfyniad y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y Polisi Rhent Llywodraeth Cymru i ddechrau yn 2020/21. Roedd y Polisi Rhent wedi’i osod am gyfnod o bum mlynedd a gwnaethpwyd yn glir bod y setliad polisi rhent yn uchafswm a ellir godi ffi, a dylai landlordiaid ystyried gwerth am arian ochr yn ochr â fforddiadwyedd i denantiaid, fel rhan o’u sail resymegol ar gyfer gosod rhent.

 

            Nododd y Polisi Rhenti ar gyfer Rhent Tai Cymdeithasol 2020/21 y canlynol:

 

·         Ymgodiad blynyddol hyd at CPI+1% am bum mlynedd tan 2024/25 gan ddefnyddio lefel CPI o’r mis Medi blaenorol i bob blwyddyn. 1.7% ym mis Medi 2019.

·         Gallai lefel rhenti ar gyfer tenantiaid unigol gael eu lleihau, eu rhewi neu eu codi hyd at £2 yn ychwanegol yn ogystal â CPI +1%, ar amod bod cyfanswm incwm rhent a gesglir gan y landlord cymdeithasol ddim yn cynyddu mwy na CPI+1% (2.7%).

 

Roedd y cyfartaledd newydd i rent a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru wedi’i amlinellu yn yr adroddiad. Byddai uchafswm codiad o 2.7% (CPI+1%) yn cymryd y cyfartaledd rhent a delir yn 2020/21 hyd at £96.57 a oedd yn uwch na rhan isaf o’r targed band rhent.

 

Yr opsiwn a argymhellwyd oedd rhoi codiad cyffredinol o 1.7% i bob tenant, ac yn ychwanegol, rhoi codiad pontio o £2 i denantiaid sydd o dan y targed rhent. Byddai hyn yn sicrhau na fyddai unrhyw denant unigol yn talu mwy na’r uchafswm a ganiateir dan y polisi, ac yn ailgyfeirio’r gwahaniaeth rhwng y rhenti hynny o dan ac ar rhent darged, ac yn ceisio gwneud newidiadau rhent i bob tenant yn fwy teg.

 

Roedd y cynnydd mewn rhent garej ar gyfer 2020/21 yn £1.22 yr wythnos gyda chynnydd plot garet yn £0.20 yr wythnos. Amlinellwyd tâl gwasanaeth yn yr adroddiad. Yn 2019/20, roedd y Cyngor yn adfer 70% tâl gwasanaeth i weithredu ffioedd, ac argymhellwyd y byddai’r cynnydd mewn tâl gwasanaeth i wneud y Cyfrif Refeniw Tai adfer cost llawn yn cael ei wneud dros y ddwy flynedd i ddod yn 2020/21 a 2021/22.

 

Yn ogystal, amlinellodd yr adroddiad fuddsoddiad parhaus y Cyngor yn ei stoc dai drwy Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) a rhaglen adeiladu newydd, gyda chyfanswm lefel y buddsoddiad yn 2020/21 yn £30.464M.  

 

Croesawodd Aelodau’r adroddiad a rhoddwyd sylw ar ansawdd stoc dai'r Cyngor sydd yn rhywbeth mae angen ymfalchïo ynddo.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      I nodi cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2020/21.

 

 (b)      I gymeradwyo’r cynnydd arfaethedig mewn rhent hyd at 1.7% (yn ogystal â hyd at £2);

 

 (c)       Cymeradwyo’r cynnydd arfaethedig mewn rhent garej ar gyfer 2020/21 yn £1.22 yr wythnos gyda chynnydd plot garej yn £0.20 yr wythnos.

 

 (d)      Cymeradwyo’r cynnydd fesul cam mewn adfer Tâl Gwasanaeth.

 

 (e)      I nodi sail resymegol tu ôl i’r lefel gynyddol o arian wrth gefn yn 4%,a

 

 (f)       Cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf HRA 2020/21 arfaethedig.

132.

Diweddariad am gynnydd y Llwybr Beiciau o’r Wyddgrug i Frychdyn pdf icon PDF 115 KB

Pwrpas:        Diweddau’r Cabinet am gais Teithio Llesol y Cyngor ar gyfer 2020/21 a rhoi gwybod iddynt am y broses ymgynghori a fydd yn cael ei gynnal mewn cysylltiad â’r cynllun a fydd yn dechrau ym mis Chwefror 2020.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas ddiweddariad ar yr adroddiad Cynnydd y Llwybr Beiciau o’r Wyddgrug i Frychdyn, a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ddechrau proses ymgynghori cyhoeddus eang a manwl a fydd yn dechrau ym mis Chwefror 2020, i helpu gwblhau’r llwybr a fyddai'n destun cynnig cyllid Llywodraeth Cymru yn 2020/21.

 

            Yn dilyn gwerthusiad ar y llwybr a gyflawnwyd, cynigiwyd y bydd y llwybr beicio o’r Wyddgrug i Frychdyn yn cysylltu yn y diwedd â chymunedau Wyddgrug, Bwcle, Penyffordd, Brychdyn, Saltney a Sandycroft, gan ddapraru cysylltiadau i orsafoedd drenau cyfredol ym Mwcle a Phenyffordd a chanolfannau cyflogaeth.

 

            Bydd y broses ymgynghori hon yn rhoi cyfle i rhanddeiliaid weld y llwybr a ffefrir a chyfle i roi sylwadau, a fyddai hefyd yn cael eu cynnwys o fewn y cynllun cyffredinol lle bo'n ymarferol i wneud. Byddai’r ymgynghoriad yn cynnwys gweithdy i Aelodau, sesiynau galw heibio i'r cyhoedd, ymweliadau i Gynghorau Tref a Chymuned, ymweliadau i fusnesau lleol, ffurflenni adborth papur a phorth ymgynghori cymunedol ar-lein.  Roedd strategaeth gyfathrebu yn cael ei datblygu i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a’r wasg lleol.

 

            Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad, bydd y Cynllun Beicio o’r Wyddgrug i Frychdyn yn cael ei gyflwyno fel cais Strategol y Cyngor dan Cyllid Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21.

 

            Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad a rhoi sylw ar yr effaith gadarnhaol y bydd y llwybr beicio yn ei gael ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, gan y byddai'n cael gwared ar rwystrau i rai bobl sydd eisiau mynediad at gyflogaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      I nodi cynnydd y cynllun Llwybr Beiciau o’r Wyddgrug i Frychdyn; a

 

 (b)      I gymeradwyo dechrau’r broses ymgynghori ar y Llwybr Beiciau o’r Wyddgrug i Frychdyn gydag Aelodau lleol, Cynghorau Tref a Chymuned, aelodau’r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb.

133.

Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 8) pdf icon PDF 619 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2019/20 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 8 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                         Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 8) a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl gyntaf am fonitro cyllideb refeniw 2019/20 ar gyfer y Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd a chyflwyno’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 8 o’r flwyddyn ariannol. Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros heb ei newid.

 

                        Y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw wrth gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

            Cronfa’r Cyngor

 

  • Roedd y diffyg gweithredol o £1.892m a oedd yn symudiad ffafriol o £0.301M o’r ffigwr diffyg £2.193M a adroddwyd ym Mis 7; a
  • Rhagamcanwyd y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2020 yn £2.977m.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

 

  • Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn yn £0.131M sydd yn uwch na’r gyllideb a oedd yn symudiad negyddol o £0.109M o’r ffigur diffyg o £0.022M a adroddwyd ym Mis 7; a
  • Rhagwelwyd mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2020 fydd £1.192m.

 

Fel y nodwyd yn flaenorol, ac i gynorthwyo â lliniaru’r gorwariant cyffredinol a ragamcanwyd, cyflwynwyd y mesurau canlynol o Fis 6 ymlaen:

 

1.    Pob gwariant dianghenraid i’w adolygu a’u herio gyda’r bwriad i derfynu/ oedi lle y gellir; a

2.    Her pellach i dîm rheoli portffolio i recriwtio ar gyfer swyddi gwag h.y. terfynu/ oedi.

 

Ym Mis 6, mae hyn wedi arwain at adnabod oedi unwaith yn unig mewn gwariant o £0.530M sydd wedi helpu i leihau'r sefyllfa o orwariant cyffredinol yn sylweddol. Mae gostyngiadau pellach mewn gorwariant ym Mis 7 a Mis 8 wedi cyflawni'n bennaf wrth barhau â’r mesurau hyn. Bydd gwaith yn parhau i Fis 9 a thu hwnt gyda’r un manylder a her mewn ymdrech i wella’r sefyllfa cyffredinol ymhellach.

 

Mae Tîm y Prif Swyddog wedi gosod targed i leihau'r sefyllfa gorwariant o fewn ystod o £1.500M - £1.750M erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, er byddai hynny yn parhau i fod yn fwy na tharged dangosydd perfformiad a osodir o fewn y MTFS o £1.350M, sef 0.5% o'r Gyllideb Refeniw Net.

 

Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion yngl?n â sefyllfa ragamcanol yn ôl portffolio; olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn a materion sy'n dod i'r amlwg; cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn; materion eraill yn ystod y flwyddyn; effaith a risgiau MTFS; cronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod trafodaeth wedi bod yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar yr opsiynau tactegol i leihau'r diffyg a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno yn y mis canlynol.

 

            PENDERFYNWYD:

           

 (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2020; a

 

 (b)      Nodi'r lefel derfynol o falensau a ragamcanwyd y Cyfrif Refeniw Tai.

134.

Dileu Ardrethi Busnes pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo argymhelliad i ddileu dyledion unigol sy'n fwy na £ 25,000 yn unol â'r Rheolau Gweithdrefn Gyllid a cheisio awdurdodiad i ddileu dyledion Cyfradd Busnes na ellir eu hadennill.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad Dileu Ardrethi Busnes

 

            Roedd dyledion dau Ardreth Busnes wedi cael eu hystyried yn anadferadwy gan bod y trethdalwyr cyfradd wedi eu diddymu neu ddim yn masnachu mwyach. O ganlyniad, nid oedd asedau na phosib adfer dyledion yn llwyddiannus a bod angen diddymu, i gyfanswm o £60,260. Y sefydliadau oedd Richmond Investment Properties Ltd (£25,882) a Mr Ryan Corbett, yn masnachu 'Jump 2 It’ (£34,378).

 

            Roedd drwgddyledion unigol dros £25,000 angen cymeradwyaeth y Cabinet i’w diddymu, yn unol â’r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol y Cyngor.

           

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo dileu’r dyledion ardrethi busnes a nodir yn yr adroddiad.

135.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 190 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Tai ac Asedau

  • Rhent y Cyngor – Cais i Ddileu Ôl-ddyledion Tenantiaeth

Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion drwg a rhai na ellir eu hadennill sydd werth dros £5,000 yn cael eu hystyried i’w dileu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol.

 

Roedd y penderfyniad hwn yn ymwneud â dileu ôl-ddyledion tenant oedd yn destun Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled. Roedd y Gorchymyn yn cynnwys ôl-ddyledion rhent o £5,075.55 na fyddai modd eu hadennill bellach o ganlyniad i roi'r Gorchymyn.

           

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD I WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

           

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

136.

Aura - Adnewyddu Contract Gwasanaeth

Pwrpas:        Ceisio estyniad o'r contract gwasanaeth gydag Aura.

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad Aura – Adnewyddu’r Contract Gwasanaeth a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ymestyn y contract Gwasanaeth am gyfnod ychwanegol o ddwy flynedd drwy gytundeb ar y cyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      I gymeradwyo estyniad o’r contract gwasanaeth gydag Aura am gyfnod o ddwy flynedd ychwanegol (1 Medi 2020 tan 31 Awst 2022).

 

 (b)      Bod yr awdurdod yn rhoi hawl i’r Prif Weithredwr wneud amrywiadau i delerau’r cytundeb cyfredol ar lefel o daliad gwasanaeth, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid; a

 

 (c)       I wahodd Aura i gyflwyno iteriad nesaf o’u cynllun busnes i’r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar ddechrau blwyddyn ariannol 2020/21 a chynnwys datganiad penodol o amcanion gwerth cymdeithasol i gadw gyda Strategaeth gwerth Cymdeithasol newydd a fabwysiadwyd gan y Cyngor.

137.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.