Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

105.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r aelodau yn un hynny.

Cofnodion:

            Dim.

106.

Cofnodion pdf icon PDF 115 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 7 Tachwedd, 2019.

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019 fel rhai cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

107.

Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro

Pwrpas:        Adrodd ar ganlyniad y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro a gyhoeddwyd ar 16eg Rhagfyr a'r goblygiadau i Gyngor Sir Sir y Fflint.

Cofnodion:

            Darllenodd y Cynghorydd Roberts y datganiad canlynol ar ei ran ei hun fel Arweinydd y Cyngor, y Prif Weithredwr, Aelod Cabinet Cyllid a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol:

 

“Mae Cyngor Sir y Fflint yn croesawu’r Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro ar gyfer 2020/21 a gyhoeddwyd ddoe. Tra bod Sir y Fflint yn parhau i wynebu risgiau ariannol, a rhaid i ni barhau gyda stiwardiaeth ariannol gadarn yr Awdurdod, mae’r Setliad hwn yn gam cyntaf pwysig i roi diwedd ar ddegawd o setliadau ariannol cosbol i lywodraeth leol.

 

Mae Sir y Fflint yn croesawu’r berthynas rhwng llywodraeth ganolog a llywodraeth leol yng Nghymru – perthynas sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch tuag at y naill a’r llall. Mae llais llywodraeth leol - a’r cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli - i’w glywed unwaith eto. Mae’r achos dros fwy o gyllid ar gyfer ysgolion, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus lleol hanfodol eraill wedi’i ennill.

 

O dan y Setliad hwn bydd Sir y Fflint yn derbyn swm ychwanegol o £10.406M o Gyllid Allanol Cyfun (AEF) yn 2020/21. Mae hyn yn gynnydd o 3.7% ar Setliad y flwyddyn flaenorol. Ar ôl caniatáu ar gyfer costau ychwanegol sylweddol tâl athrawon a chyfraniadau cyflogwr at bensiynau athrawon - sy’n dod i gyfanswm o £3.76M - bydd gennym £6.54M o arian newydd i helpu tuag at gydbwyso ein cyllideb ar gyfer 2020/21. Byddwn hefyd yn gweld cynnydd mewn rhai o’r grantiau penodol yr ydym yn eu derbyn ar gyfer gwasanaethau allweddol fel gofal cymdeithasol ac addysg.

 

Roedd y bwlch cyllidebol i’w gau ar gyfer 2020/21 – fel yr adroddwyd yn ein cyfarfod o’r Cyngor yr wythnos ddiwethaf – tua £15.630M. Roeddem eisoes wedi derbyn £8.164M o arbedion effeithlonrwydd ac incwm newydd i gyfrannu at y blwch yng ngham cyntaf y gwaith cynllunio cyllideb. Unwaith y byddwn yn cymryd i ystyriaeth yr arian newydd o £6.54M, ac yn cwblhau ein gwaith yn yr ail gam ar yr opsiynau arbedion effeithlonrwydd terfynol, rydym yn hyderus y byddwn mewn sefyllfa i osod cyllideb gytbwys a chyfreithiol. Fel rhan o’r gwaith cydbwyso ceisiwn neilltuo peth arian i’n diogelu rhag rhai o’r pwysau parhaus o ran costau a allai amharu ar ein cyllideb yn ystod y flwyddyn.

 

Mae hyn o bwys sylweddol o ystyried y risg a’r sefyllfa y mae’r Cyngor  wedi bod ynddi am gyhyd.  Rydym wedi dal ein tir i ddiogelu gwasanaethau lleol a swyddi lleol, ac rydym wedi bod yn un o’r cynghorau mwyaf amlwg i ddadlau’r achos dros ddod â llymder i ben.

 

Rydym wedi bod yn arbennig o bryderus yngl?n â chynaliadwyedd ariannol ein hysgolion lleol. Tra ein bod wedi osgoi gwneud y toriadau i gyllidebau wedi’u dirprwyo i ysgolion y gorfodwyd rhai cynghorau eraill i’w gwneud, rydym wedi bod yn ymwybodol iawn pe byddai’n rhaid i ysgolion rannu costau’r cynnydd yn nhâl athrawon a chyfraniadau cyflogwr at bensiynau athrawon, yna efallai byddai rhai’n cyrraedd pen eu tennyn. Mae’n rhyddhad gallu cadarnhau y bydd ysgolion yn cael eu gwarchod rhag y pwysau yma o ran costau, a bydd  ...  view the full Cofnodion text for item 107.

108.

Ymateb y Cyngor i'r her o newid hinsawdd a chyflawniad o fod yn garbon niwtral erbyn 2030 pdf icon PDF 138 KB

Pwrpas:        I amlinellu'r gwaith sydd wedi'i gyflawni yn barod i fynd i'r afael â heriau lleihau hinsawdd a charbon, a chytuno ar raglen fel gall y Cyngor fod mewn sefyllfa i gyflawni gofyniad Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector cyhoeddus i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ar Ymateb y Cyngor i’r Her o Newid Hinsawdd a Llwyddo i fod yn Garbon Niwtral erbyn 2030  a dywedodd fod gan y Cyngor ymrwymiad tymor hir i ddiogelu’r amgylchedd. Roedd cynlluniau gweithredu yn eu lle ers rhai blynyddoedd i leihau ‘ôl troed carbon’ y Cyngor fel rhan o’r ymrwymiad hwnnw.

 

            Fel rhan o’r ymgyrch rhyngwladol i wneud mwy, ac i gefnogi her Llywodraeth Cymru i’r sector cyhoeddus fod yn garbon niwtral erbyn 2030, roedd y Cyngor yn adolygu ei gynllun gyda pheth brys. Dyma sydd wedi’i gynllunio ar gyfer 2020:

 

·         Datblygu’r trydydd a’r pedwerydd parc solar;

·         Ystyried adeiladu gorsaf trosglwyddo gwastraff newydd ym Mwcle wedi’i phweru gan ynni adnewyddadwy i gynyddu cyfraddau ailgylchu ymhellach ac osgoi anfon gwastraff i safle tirlenwi;

·         Parhau i sicrhau bod fflyd cerbydau’r Cyngor yn ‘wyrdd’;

·         Parhau i osod rhwydwaith o bwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan drwy’r Sir;

·         Parhau i fuddsoddi mewn mesur effeithlonrwydd ynni ar draws holl adeiladau’r Cyngor;

·         Cyfrifo cyfanswm ôl troed carbon y Cyngor i allu blaenoriaethu camau tymor byr, canolig a hir i’w leihau ymhellach;

·         Gan weithio gyda LlC a Thrafnidiaeth Cymru, bydd y Cyngor yn datblygu atebion cludiant aml fodel ar gyfer rheilffyrdd, llwybrau bysiau a beicio, ynghyd â chyfleusterau Parcio a Theithio; a

·         Bydd yn gweithredu strategaeth Coed a Choetiroedd Trefol 15 mlynedd i gynyddu nifer y coed drwy’r Sir o 4% erbyn 2033.

 

Roedd Sir y Fflint mewn sefyllfa dda i sicrhau ei bod yn garbon niwtral erbyn 2030 a gofynnodd am gefnogaeth y cyhoedd i helpu i gyflawni’r nodau a amlinellwyd.

 

Cyfeiriodd Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) at bwysigrwydd y 12 maes, a amlinellwyd yn yr adroddiad, a fyddai’n helpu i lunio ymateb y Cyngor i her LlC. Roedd y Cyngor yn gwneud cynnydd yn y rhan fwyaf o’r meysydd hyn.

 

Croesawodd bob aelod yr adroddiad a chyfeiriwyd at bwysigrwydd gweithio gyda chyrff y sector cyhoeddus a’r angen i fonitro lefelau gostwng carbon. Diolchwyd i bob swyddog dan sylw am y gwaith a wnaed hyd yma.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cefnogi’r cam o sefydlu Bwrdd Strategaeth Ymateb i Newid Hinsawdd;

 

(b)       Cefnogi bod Rheolwr Rhaglen yn cael ei recriwtio i gydlynu ymateb y Cyngor i Newid Hinsawdd;

 

(c)        Cefnogi’r cynnydd a wnaed hyd yma i leihau ôl troed y Cyngor; a

 

(d)       Bod y datganiad cyhoeddus o ymrwymiad a bwriad o ran safiad y Cyngor, y gweithgareddau hyd yma a’r camau y bwriedir eu cymryd, e.e. lleihau carbon, lleihau plastigau, ynni adnewyddadwy, bod yn wyrdd yn cael ei gyhoeddi.

109.

Canlyniad Ymgynghoriad y Strategaeth Wastraff pdf icon PDF 126 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y newidiadau i drefniadau casglu gwastraff yn dilyn ymarfer ymgynghori diweddar.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ar Ganlyniad Proses Ymgynghoriad y Strategaeth Wastraff oedd yn darparu adborth o ymarferiad ymgynghori ac yn gwneud argymhellion ar y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu yn y dyfodol yn y Sir. 

 

            Roedd y perfformiad ailgylchu presennol o 69.16% i’w ddathlu ond heb newid gweithredol a pholisi, roedd yn debygol y byddai perfformiad yn sefydlogi ac y byddai unrhyw welliannau o ran perfformiad yn dod yn anodd eu cyflawni. 

 

Er nad oedd y strategaeth wastraff bresennol yn dod i ben tan 2025, y targed ynni oedd 70% ac roedd hwnnw eisoes bron wedi’i gyflawni. Roedd yn bwysig bod y Cyngor yn cynllunio ar gyfer y dyfodol, gan ystyried beth mwy y gellid ei wneud i gynyddu cyfraddau ailgylchu fwy fyth. 

 

            Cafwyd 8,770 o ymatebion i’r ymgynghoriad. Rhoi tic yn y bocs i gwestiynau penodol oedd y rhan fwyaf o’r atebion, ond derbyniwyd 3,036 o sylwadau unigol hefyd. Atodwyd crynodeb o’r ymatebion i bob un o’r cwestiynau penodol. Casglwyd sylwadau ychwanegol o dan y categorïau canlynol:

 

  • Adborth ar y ddarpariaeth gwasanaeth presennol;
  • Dryswch ynghylch beth ellir/na ellir ei ailgylchu;
  • Awgrymiadau ar gyfer un bin ar gyfer ailgylchu popeth;
  • Pryder ynghylch tipio anghyfreithlon yn sgil chasgliadau llai aml;
  • Byddai teuluoedd mawr yn cael trafferth gyda chasgliadau llai aml; a
  • Thalu mwy o Dreth y Cyngor am lai o wasanaethau

 

Yn sgil yr ymgynghoriad, yr argymhellion oedd:

 

1.    Peidio â chasglu biniau du’n llai aml ar hyn o bryd – i’w adolygu mewn 12 mis;

2.    Cynyddu gorfodaeth i’r rhai nad ydynt yn ailgylchu eu gwastraff;

3.    Gwella addysg a gwybodaeth;

4.    Casgliadau Cynnyrch Hylendid Amsugnol – Cewynnau;

5.    Cynnal adolygiad llawn o gasgliadau gwastraff; a

6.    Chasglu cardfwrdd a phapur ar wahân ar ymyl y ffordd.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r cyhoedd am eu helpu i gyrraedd y cyfraddau ailgylchu presennol; Sir y Fflint oedd y 3ydd gorau yng Nghymru, a Chymru oedd y 3ydd gorau yn y byd.

 

Dywedodd Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd lle’r oeddent yn adolygu’’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn fanwl, ac yn argymell y cynigion a amlinellir uchod i’r Cabinet.  Hefyd gofynnwyd am baratoi dogfen yn y Flwyddyn Newydd i’w chyhoeddi ar wefan y Cyngor i fynd i’r afael â phob un o’r sylwadau unigol a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar Strategaeth Wastraff y Cyngor; a

 

(b)       Chymeradwyo’r argymhellion ar ddyfodol y gwasanaethau ailgylchu a chasglu gwastraff.

110.

Cyflwyniad Cychwynnol o Bwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan yn Sir y Fflint pdf icon PDF 185 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer gosod y gyfres gyntaf o bwyntiau gwefru cerbydau trydan yn Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                         Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ar y Cyflwyniad Cychwynnol o Bwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan yn Sir y Fflint oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i ariannu wyth o safleoedd blaenoriaeth Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan (ECPs) a nodwyd yn sgil astudiaeth ddichonoldeb ddiweddar.

 

                        Ar ôl llwyddo i gael grant yn 2018, gwnaed astudiaeth i ganfod:

 

  • Y lleoliadau mwyaf addas ar gyfer gosod pwyntiau ECP;
  • Y costau cysylltiedig a’r opsiynau ar gyfer darpariaeth barhaus ym mhob lleoliad; a
  • Rheoli pwyntiau ECP, a’r galw amdanynt, mewn ardaloedd gwledig

 

O ganlyniad i’r broses asesu, nodwyd yr 8 safle sydd yn yr adroddiad fel blaenoriaethau. Byddai’r math o bwynt gwefru a osodir ym mhob lleoliad yn ystyried natur unigol y defnydd tebygol.

 

Byddai’r Cyngor yn gwneud cais am arian drwy’r Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel (OLEV) oedd yn caniatáu i awdurdodau lleol dderbyn arian tuag at gostau gosod pwyntiau gwefru preswyl ar y stryd ar gyfer cerbydau trydan. Byddai’r cynllun grant yn cynnwys hyd at 75% o gost cyfalaf caffael a gosod y pwynt gwefru gyda’r 25% oedd yn weddill yn cael ei ariannu drwy gynghorau unigol.

 

            PENDERFYNWYD:

           

            Cymeradwyo cais am arian cyfalaf gan Lywodraeth Cymru i osod Pwyntiau Gwefru Trydan mewn 8 lleoliad blaenoriaeth o ganlyniad i astudiaeth ddichonoldeb drwy’r Sir.

111.

Cynigion ar gyfer Gwelliannau Seilwaith yng Ngorsaf Trosglwyddo Gwastraff Iard Safonol pdf icon PDF 125 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer uwchraddio’r Depo ailgylchu presennol yn Ystâd Ddiwydiannol Safonol, Bwcle.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yCynghorydd Thomas yr adroddiad ar Gynigion ar gyfer Gwelliannau Seilwaith yng Ngorsaf Trosglwyddo Gwastraff Iard Safonol (WTF) oedd yn amlinellu’r cynigion ar gyfer cyllid i ddatblygu’r WTF. Gofynnodd am gymeradwyaeth i ddatblygu’r prosiect.

 

            Roedd cyfle wedi codi i ymestyn y safle er mwyn i’r WTS weithredu dan do ar un safle a chynyddu maint y safle. Byddai hyn yn hwyluso twf a chapasiti yn y dyfodol, yn ogystal â gwella effeithlonrwydd a chydymffurfio amgylcheddol ar y safle. Yn ei dro byddai’r cyfleuster newydd yn galluogi’r Cyngor i gynyddu cyfraddau ailgylchu, lleihau halogi deunyddiau a chynyddu ansawdd deunyddiau a ailgylchir, a thrwy hynny sicrhau cymaint o incwm â phosibl ar gyfer deunyddiau a ailgylchir i’r Cyngor.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynigion ar gyfer datblygu’r Orsaf Trosglwyddo Gwastraff; a

 

(b)       Chymeradwyo’r ceisiadau arfaethedig am gyllid oedd eu hangen ar gyfer y gwelliannau i’r Orsaf Trosglwyddo Gwastraff Safonol.

112.

Polisi Gorfodaeth Amgylcheddol Diwygiedig pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        Ceisio Cymeradwyaeth y Cabinet o Bolisi Gorfodaeth Amgylcheddol y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ar Adolygu Polisi Gorfodaeth Amgylcheddol, oedd yn darparu polisi a adolygwyd i adlewyrchu’r gwahanol newidiadau, i ddeddfwriaeth a threfniadau gweithredu’r portffolio, ers i’r polisi gael ei gymeradwyo yn 2013.

 

            Roedd prif feysydd ffocws y polisi’n cynnwys:

 

·         Gollwng sbwriel;

·         Rheoli gwastraff – yn cynnwys gorfodaeth  gwastraff ochr ffordd a defnyddio cynwysyddion casglu gwastraff yn briodol a dychwelyd biniau ar ôl i’r lorïau casglu sbwriel alw;

·         Gwaredu gwastraff masnachol;

·         Tipio anghyfreithlon;

·         Graffiti;

·         Gosod posteri heb ganiatâd;

·         Gorchmynion rheoli c?n;

·         C?n crwydr;

·         Safleoedd sy’n niweidiol i amwynder lleol ardal;

·         Hysbysiadau iechyd cyhoeddus statudol;

·         Ardaloedd rheoli yfed;

·         Cerbydau wedi’u gadael;

·         Trolis archfarchnadoedd wedi’u gadael;

·         Rhwystr ar y briffordd gyhoeddus a rhwydwaith hawl tramwy;

·         Mwd neu rwystr arall ar y briffordd gyhoeddus;

·         Troseddau parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r newidiadau i Bolisi Gorfodaeth Amgylchedd y Cyngor.

113.

Polisi Goleuadau Stryd Diwygiedig pdf icon PDF 111 KB

Pwrpas:        Ceisio Cymeradwyaeth y Cabinet o Bolisi Goleuadau Stryd y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ar Adolygu Polisi Goleuadau Stryd oedd yn pwysleisio’r angen am adolygiad pellach mewn ymateb i nifer o ddatblygiadau sylweddol yn y gwasanaeth, yn arbennig yn nhermau opsiynau arbed ynni a’r gwelliannau yn sgil hynny i effeithlonrwydd cyfarpar trydanol a ddefnyddir ar y rhwydwaith.

 

Eglurodd Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod a wnelo’r prif newidiadau ag archwiliadau gyda’r nos; archwiliadau wedi’u trefnu, a phrofion trydanol. Roedd gwybodaeth lawn am hyn yn yr adroddiad.

 

 

PENDERFYNWYD:

           

            Cymeradwyo’r Polisi Goleuadau Stryd diwygiedig.

114.

Cynllun Gweithredu Ôl Arolwg Estyn pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Hysbysu'r Aelodau o’r Cynllun Gweithredu Ôl Arolwg Estyn yn dilyn yr Arolwg diweddar gan Estyn o Wasanaethau Addysg Cyngor Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad Cynllun Gweithredu Ôl Arolwg Estyn oedd yn argymell cymeradwyo’r cynllun gweithredu drafft.

 

                        Roedd yr argymhellion wedi’u casglu ynghyd a byddent yn rhan o Gynllun y Cyngor a Chynllun Busnes Addysg ac Ieuenctid. Byddai cynnydd ar yr argymhellion hynny’n cael eu monitro bob mis a’u hadrodd yn rheolaidd i’r Cabinet a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid.

                       

PENDERFYNWYD:

           

            Derbyn y cynllun gweithredu ôl arolwg drafft fel yr un terfynol.

115.

Diweddariad Digartrefedd ar y Strategaeth Ddigartrefedd Ranbarthol a'r Cynllun Gweithredu Lleol pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Cefnogi’r wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Gweithredu Lleol ar gyfer Digartrefedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ar Ddiweddariad Digartrefedd ar y Strategaeth Ddigartrefedd Ranbarthol a'r Cynllun Gweithredu Lleol oedd yn egluro mai amcanion y Strategaeth Ddigartrefedd oedd atal digartrefedd a sicrhau llety addas, a bod cymorth boddhaol ar gael i’r rhai oedd yn ddigartref.

 

                        Roedd rhanbarth Gogledd Cymru wedi cytuno â’r themâu cyffredin Pobl, Cartrefi a Gwasanaethau. Roedd bob Cyngor wedi datblygu ei gynllun gweithredu ei hun yn seiliedig ar y themâu o fewn y strategaeth ranbarthol ond gan adlewyrchu blaenoriaethau lleol. Roedd y cynllun lleol yn Sir y Fflint wedi nodi camau blaenoriaeth i atal a mynd i’r afael â digartrefedd yn y Sir. Rhannwyd hyn yn dair brif thema:

 

  1. Pobl - digartrefedd  ymysg pobl ifanc, rhai sy’n cysgu allan, anghenion cymhleth a rhai sy’n gadael carchar;
  2. Cartrefi – tai’n gyntaf, gwella mynediad i’r cyflenwad llety a llety dros dro; a
  3. Gwasanaethau – atal/ymyrraeth, diwygio lles ac iechyd.

 

Roedd adolygiad llawn o lety dros dro a ddefnyddir gan y Tîm Datrysiadau Tai ar gyfer pobl ddigartref wrthi’n cael ei baratoi a bydd y canfyddiadau ar gael erbyn diwedd Rhagfyr 2019.

 

Dogfen allweddol, oedd wedi’i hatodi i’r adroddiad, oedd Darpariaeth Protocol Brys Tywydd Difrifol (SWEP) yn Sir y Fflint. Roedd yn egluro, er mwyn lleihau’r risg i rai sy’n cysgu allan, os yw’n bosibl, y bydd llety’n cael ei ddarparu yn ystod cyfnodau o dywydd mawr neu amgylchiadau eithafol eraill. Defnyddiwyd SWEP yn ddiweddar a byddai’n cael ei ddefnyddio eto'r noson honno, gyda Phrif Swyddog (Tai ac Asedau) a’i swyddogion yn gweithredu’r ddarpariaeth. Roedd y llety oedd yn cael ei ddefnyddio gan yr awdurdod yn llety dros dro ond roedd bwriad i’w wneud yn barhaol. Diolchodd aelodau i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu holl waith ar hyn.

 

Cyfeiriodd y Prif Wethredwr at y lloches barhaol flaenorol a symudwyd gan landlord, oedd wedi arwain at ymrraeth gan y Cyngor. Roedd y Cyngor wedi ymateb i’r sefyllfa’n gyflym ac yn ystyried rheoli’r sefyllfa. Hefyd diolchodd i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu help gyda’r ymrraeth a’r ddarpariaeth barhaus.

 

Cyfeiriodd aelodau at y ffaith pe bai cymorth yn cael ei wrthod, na ellid gorfodi’r digartref i ddefnyddio’r gwasanaethau a gynigir iddynt.

                                                                       

PENDERFYNWYD:

           

            Cefnogi’r diweddariadau i’r Cynllun Gweithredu Lleol ar gyfer Digartrefedd.

116.

Y Wybodaeth Ddiweddaraf gan Fwrdd NEW Homes pdf icon PDF 126 KB

Pwrpas:        Nodi a gwneud sylwadau ar y cynnydd a wnaed ar ddarparu Cynllun Busnes NEW Homes 2019/2048.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes adroddiad ar Gynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2019/2048 oedd yn cynnwys elfennau allweddol o Strategaeth Ddatblygu arfaethedig y cwmni i gynyddu nifer y Tai Rhent Fforddiadwy yn ystod y tair blynedd nesaf, o 207 uned. Byddai hyn yn cynyddu cyfanswm yr eiddo a reolir gan Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru i 309.

 

                        Roedd ymrwymiad ar Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru i gael cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer unrhyw Gynllun Busnes sy’n darparu amcanion strategol y cwmni.

 

                        Darparwyd manylion am gynnydd cyffredinol da y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP), gydag Aelodau’n croesawu’r amrywiaeth o ran daliadaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

            Nodi’r cynnydd a wnaed o ran darparu Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2019/2048.

117.

Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 7) pdf icon PDF 164 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2019/20 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 7 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad ar Fonitro Cyllideb

Refeniw 2019/20 (Mis 7), a oedd yn nodi’r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r

gyllidebrefeniw yn 2019/20 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 7. Roedd yr adroddiad yn rhoi rhagamcaniad o sut y byddai’r gyllideb yn sefyll ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe na bai unrhyw newid.

 

                        Y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

            Cronfa’r Cyngor

 

  • Gwarged gweithredol o £2.193m oedd yn symudiad ffafriol o £0.505m o’r diffyg o £2.698m a adroddwyd ym Mis 6; a
  • Balans disgwyliedig yn y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2020 o £2.676m.

 

Cyfrif Refeniw Tai

 

  • Rhagwelwyd y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn yn £0.022m yn uwch na’r gyllideb. Roedd hyn yn symudiad negyddol o £0.012m o’r diffyg o £0.010m a adroddwyd ym Mis 6; a
  • Rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2020 yn £1.301m.

 

Fel yr adroddwyd yn flaenorol, ac i helpu i liniaru’r gorwariant cyffredinol a ragwelid, cyflwynwyd y mesur canlynol o Fis 6:

 

1.    Bob gwariant nad oedd yn hanfodol i’w adolygu a’i herio er mwyn peidio/gohirio os oedd yn bosibl; a

2.    Her bellach i’r tîm rheoli portffolio i recriwtio i swyddi gwag h.y. peidio gorau/gohirio.

 

Ym Mis 6, mae hyn wedi arwain at ganfod bod modd gohirio gwariant untro o -£0.530 sydd wedi helpu i leihau’r gorwariant ariannol cyffredinol. Llwyddwyd i sicrhau gostyngiad pellach yn y sefyllfa ariannol gyffredinol ym Mis 7 trwy herio ymrwymiadau a gohirio recriwtio. Mae’r ymgysylltu â deiliaid cyllideb a thimau cyllid wedi bod yn gadarnhaol hyd yma, a bydd gwaith yn parhau i Fis 8 a thu hwnt gyda’r un tryloywder a her mewn ymgais i wella ymhellach y sefyllfa gyffredinol.

 

Hefyd mae’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol wedi darparu manylion am y sefyllfa a ragamcanir yn ôl portffolio; olrhain risgiau o fewn y flwyddyn a materion yn codi; sicrhau arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd o fewn y flwyddyn; effaith MTFS a risgiau; cronfeydd wrth gefn a balansau a chronfeydd a neilltuwyd.

 

Roedd yr adroddiad wedi’i ystyried ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ac ni chodwyd unrhyw faterion penodol.

 

Dywedodd Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai diweddariad ar gael y mis canlynol am y cyfraniadau posibl i’r gyllideb yn dilyn adolygiad o’r gostyngiad person sengl mewn perthynas â Threth y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer

          Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2020; a      

 

(b)       Nodi lefel balansau terfynol a ragamcanir ar y Cyfrif Refeniw Tai.

118.

Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor I Ofalwyr Maeth pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        Gofyn bod y Cabinet yn cymeradwyo fframwaith polisi’r Cynllun Gostyngiad i Ofalwyr Maeth yn dilyn cymeradwyo’r cynllun mewn egwyddor yng nghyfarfod y Cabinet ym mis Mehefin.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ar y Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor i Ofalwyr Maeth oedd yn cynnwys dull y Cyngor ar gyfer dyfarnu Gostyngiad Treth y Cyngor Dewisol i Ofalwyr Maeth Lleol.

 

Roedd cyflwyno’r cynllun yn rhan o Gynllun y Cyngor 2019/2023 a strategaeth i wella modelau gwasanaeth maethu trwy wella taliadau lleol ar gyfer plant nad yw eu teuluoedd yn gallu gofalu amdanynt.

 

                        Un o’r prif amcanion oedd sicrhau bod darpariaeth ddigonol a chadarn o Ofalwyr Maeth mewnol i ddarparu gofal ar gyfer plant lleol a chynnig Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor Dewisol, o Ebrill 2020, a fyddai’n rhan allweddol o becyn cymorth ehangach i Ofalwyr Maeth mewnol.

 

Eglurodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai’r gost gychwynnol o gynnig gostyngiad o 50% i Ofalwyr Maeth yr Awdurdod Lleol yn gyfystyr â £92k y flwyddyn, ond y byddai modd adennill y swm hwnnw pe bai dim ond tri o blant yn cael eu lleoli gyda gofalwyr mewnol ar gyfer cyfnod o 12 mis yn hytrach na gydag asiantaethau maethu allanol.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Bithell, fel Cadeirydd Fforwm Gwasanaethau Plant, bwysigrwydd y gwaith a wneir gan Ofalwyr Maeth a chroesawodd y cynllun.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r cam o gyflwyno Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor Dewisol i Ofalwyr Maeth yr Awdurdod Lleol, i ddod i rym o Ebrill 2020; a

 

(b)       Chymeradwyo’r Fframwaith Polisi, fel y mae wedi’i gynnwys yn yr atodiad i’r adroddiad, sy’n amlinellu dull y Cyngor o ddyfarnu Gostyngiad Treth y Cyngor dewisol i Ofalwyr Maeth yr Awdurdod Lleol.

119.

Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2019/20 pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Cyflwyno drafft Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2019/20 i'r Aelodau i'w argymell i'r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad ar Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2019/20 oedd yn cyflwyno gwybodaeth ar gyfer ei chymeradwyo a’i hargymell i’r Cyngor. 

 

Roedd yr adroddiad wedi’i ystyried gan y Pwyllgor Archwilio ar 18 Tachwedd lle cafodd ei gefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

            Bod Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2019/20 yn cael ei gymeradwyo a’i argymell i’r Cyngor.

120.

Maes Parcio Arhosiad Byr ym Mwcle pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn y cynnig parcio am ddim ym Maes Parcio Brunswick, Bwcle i un awr.

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ar y Maes Parcio Arhosiad Byr ym Mwcle oedd yn gofyn i Aelodau ystyried cynyddu’r amser parcio am ddim am hanner awr ym Maes Parcio Ffordd Brunswick i awr, er mwyn i siopwyr gael mwy o amser i ddefnyddio cyfleusterau canol y dref a chefnogi busnesau lleol, gyda’r Cyngor Tref yn sybsideiddio cost y cyfnod ychwanegol am ddim.

                       

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r penderfyniad i gynyddu’r amser parcio am ddim o hanner awr i awr ym Maes Parcio Ffordd Brunswick, Bwcle, gyda chymorth ariannol gan y Cyngor Tref ar gyfer y refeniw a gollir.

121.

Moderneiddio Ysgolion – Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2018 – Ail-ddynodi Ysgol Licswm pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Cabinet am yr ymatebion yn dilyn y cyfnod ymgynghori statudol ar gyfer Ysgol Gynradd Licswm.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ar Foderneiddio Ysgolion – Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2018 – Ail-ddynodi Ysgol Licswm oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i Ysgol Licswm ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir.

 

                        Ers penderfyniad y Cabinet i beidio â bwrw ymlaen i uno Ysgol Gynradd Brynffordd ac Ysgol Gynradd Licswm ym Mehefin 2018, roedd Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Licswm a swyddogion addysg o Esgobaeth Anglicanaidd yr Eglwys yng Nghymru wedi bod yn cynnal trafodaethau rhagweithiol i gryfhau’r berthynas bresennol rhwng yr ysgol â’r Eglwys Anglicanaidd, gydag uchelgais hirdymor i geisio ffederaleiddio ag ysgol leol â’r un dynodiad. Fodd bynnag, roedd yn rhaid dilyn proses statudol a chynnal ymgynghoriad o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2018.

 

                        Eglurodd Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod y cyfnod ymgynghori ffurfiol wedi’i gynnal rhwng 26 Medi 2019 a 11 Tachwedd 2019. Roedd copïau o’r ymatebion i’r ymgynghoriad wedi’u hatodi i’r adroddiad gyda 25 o ymatebwyr (97%) o blaid y cynnig, ac 1 (3%) yn erbyn y cynnig. Roedd Esgobaeth Llanelwy, yr Aelod lleol a Chadeiryddion Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Licswm a Chaerwys oll wedi ymateb yn gadarnhaol i’r cynigion, ac roedd eu hymateb hwythau wedi’i atodi i’r adroddiad.

 

                        Diolchodd y Cynghorydd Roberts a’r Prif Swyddog i’r Llywodraethwyr a’r Pennaeth am weithio gyda’r Cyngor a dymunodd bob llwyddiant iddynt.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol, a’r dystiolaeth a’r dadansoddiad a ddarparwyd gan swyddogion yn yr ymgynghoriad, yn cael ei ystyried, a

 

(b)       Bod y cam nesaf o’r cynigion statudol i ail-ddynodi Ysgol Gynradd Sirol Licswm yn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yn cael ei gymeradwyo.

122.

Adroddiad Cynnydd Cynllun Peilot Micro-ofal Sir y Fflint pdf icon PDF 151 KB

Pwrpas:        Nodi’r cynnydd ar y Peilot Micro-Ofal Sir y Fflint.

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr Adroddiad Cynnydd ar Gynllun Peilot Micro-Ofal Sir y Fflint, ac eglurodd, yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb, fod y Cyngor wedi sefydlu prosiect cynllun Micro-Ofal i fynd i’r afael mewn ffordd arloesol â phroblem cyflenwi gofal.  Roedd cais y Cyngor i gael arian gan Cadwyn Clwyd a Llywodraeth Cymru tuag at weithredu’r prosiect wedi bod yn llwyddiannus.

 

                        Y diffiniad o gynlluniau micro-ofal yw cwmnïau bach gyda 5 aelod o staff, nifer ohonynt yn unig fasnachwyr, sy’n darparu gwasanaethau’n ymwneud â gofal i ddinasyddion Sir y Fflint. Byddai’r cynllun peilot yn mynd tan Fehefin 2021 ac ynghyd â Chwmnïau Cymdeithasol Cymru, Canolfan Gydweithredol Cymru a budd-ddeiliaid eraill, byddai’n helpu i ddatblygu cynlluniau Micro-Ofal yn Sir y Fflint. 

 

Dywedodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) mai hwn oedd un o’r cynlluniau peilot cyntaf o’i fath yng Nghymru a bod arloesi a chymryd risg gadarnhaol yn hanfodol i’r cynllun peilot allu llwyddo. 

 

Gallai twf Micro-ofal atal yr argyfwng yn y sector gofal fel mesur ataliol, gan ddarparu gofal oedd yn effeithiol, effeithlon ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Byddai’r prosiect yn cynnig cyfleoedd i adeiladu gwytnwch mewn cymunedau trwy ddatblygu atebion lleol, pwrpasol i anghenion gofal pobl.

 

PENDERFYNWYD:

 

            Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma.

123.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 202 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem wybodaeth ar y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Nodir y camau isod:-

 

Tai ac Asedau

  • Trosglwyddo 4 Eiddo yn Mayfield Park, Saltney CH4 8FA

Cyfamod Edwards Homes i drosglwyddo’r eiddo am £1.00 yr un i’r Cyngor neu i gwmni ym mherchnogaeth lwyr y Cyngor, gydag unrhyw gwmni o’r fath wedi cytuno gyda’r Cyngor i ddefnyddio’r Anheddau Fforddiadwy fel Tai Fforddiadwy.

 

  • Rhent y Cyngor – Cais i Ddileu Ôl-ddyledion Tenantiaeth

Mae Rheolau Gweithdrefn Ariannol (adran 25.2) yn datgan bod drwg ddyledion unigol a dyledion na ellir eu hadennill sy’n fwy na £5,000 yn cael eu hystyried ar gyfer eu dileu ar y cyd â’r Aelod Cabinet perthnasol.

 

Mae’r penderfyniad i ddileu mewn perthynas ag un tenant sy’n destun Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled (DRO). Mae ôl-ddyledion rhent o £6,034.74 wedi’u cynnwys yn y DRO na ellir eu hadennill bellach o ganlyniad i ddyfarnu’r DRO.

 

  • Rhent Tai’r Cyngor – Dileu Ôl-ddyledion Tenantiaeth

Mae Rheolau Gweithdrefn Ariannol (adran 25.2) yn datgan bod drwg ddyledion unigol a dyledion na ellir eu hadennill sy’n fwy na £5,000 yn cael eu hystyried ar gyfer eu dileu ar y cyd â’r Aelod Cabinet perthnasol.

 

Mae’r penderfyniad i ddileu mewn perthynas ag ôl-ddyledion tair tenantiaeth flaenorol a gafodd eu troi allan am beidio â thalu. Mae’r ôl-ddyledion rhent ar y cyd a gaiff eu dileu’n £22,873.35.

 

  • Rhent Tai’r Cyngor – Dileu Ôl-ddyledion Tenantiaeth

Mae Rheolau Gweithdrefn Ariannol (adran 25.2) yn datgan bod drwg ddyledion unigol a dyledion na ellir eu hadennill sy’n fwy na £5,000 yn cael eu hystyried ar gyfer eu dileu ar y cyd â’r Aelod Cabinet perthnasol.

 

Mae’r penderfyniad i ddileu mewn perthynas ag ôl-ddyledion un denantiaeth o £8,173.60 am beidio â thalu. Rheolir y denantiaeth fel eiddo mewn perchnogaeth a rennir.

 

  • Rhent Tai’r Cyngor – Dileu Ôl-ddyledion Tenantiaeth

Mae Rheolau Gweithdrefn Ariannol (adran 25.2) yn datgan bod drwg ddyledion unigol a dyledion na ellir eu hadennill sy’n fwy na £5,000 yn cael eu hystyried ar gyfer eu dileu ar y cyd â’r Aelod Cabinet perthnasol.

 

Mae’r penderfyniad i ddileu mewn perthynas ag un tenant sy’n destun Gorchymyn  Rhyddhau o Ddyled (DRO). Mae ôl-ddyledion rhent o £5,543.71 wedi’u cynnwys yn y DRO na ellir eu hadennill bellach o ganlyniad i ddyfarnu’r DRO.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Bod y wasg a’r cyhoedd yn cael eu gwahardd ar gyfer gweddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol drwy rinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraff(au) 14 a 15 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

124.

Adroddiad Diweddaru Fesul Cam Trawsnewid Model Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd

Pwrpas:        Derbyn adroddiad fesul cam ar gynnydd hyd yma yn trosglwyddo Theatr Clwyd i fodel llywodraethu newydd o dan Fodel Cyflawni Amgen (MCA) y Cyngor erbyn Ebrill 2021.

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Wethredwr Adroddiad Diweddaru Fesul Cam Trawsnewid Model Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd oedd yn darparu manylion am y cynnydd hyd yma. 

 

Bydd angen gwneud penderfyniad terfynol yngl?n â throsglwyddo erbyn canol 2020 i ganiatau digon o amser ar gyfer cynllunio i drawsnewid.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cabinet yn cael ei sicrhau o gynnydd tuag at drawsnewid diogel i fodel ymddiriedolaeth annibynnol ar gyfer Theatr Clwyd, ar ffurf cwmni a gyfyngir drwy warant gyda statws elusennol, ar gyfer 1 Ebrill 2021; a

 

(b)       Bod penderfyniad terfynol i drosglwyddo’n cael ei wneud yn 2020 - yn seiliedig ar adroddiad diwydrwydd dyladwy terfynol llawn.

125.

Achos Busnes Terfynol ar gyfer datblygiadau Solar PV yn safle Tirlenwi Sir y Fflint a Iard Crumps

Pwrpas:        Rhoi’r achosion busnes terfynol i’r Aelodau ar gyfer datblygiadau ynni Solar PV yn safle Tirlenwi y Fflint a Iard Crumps yn dilyn caniatâd cynllunio ac ymarfer tendro i bennu’r costau cyfalaf.  Yr Aelodau i adolygu’r achos busnes terfynol a chymeradwyo’r prosiectau os yn berthnasol er mwyn i’r gwaith fynd yn ei flaen.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ar yr Achos Busnes Terfynol ar gyfer Cynlluniau Solar PV yn Safle Tirlenwi Sir y Fflint ac Iard Crumps oedd yn nodi aliniad strategol y prosiect yn ogystal â manylu ynghylch manteision ariannol ac anariananol y cynllun.

 

                        Hefyd rhoddwyd diweddariad ar ganlyniad caffael contractwr adeiladu a’r strategaeth arfaethedig ar gyfer gwerthu a defnyddio’r trydan a gynhyrchir.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod yr Achos Busnes Terfynol ar gyfer Cynlluniau Solar PV yn Safle Tirlenwi Sir y Fflint ac Iard Crumps yn cael ei gymeradwyo;

 

(b)       Cymeradwyo penodi contractwr adeiladu; a

 

(c)        Bod y defnydd o gyfalaf heb ei wario o Brosiect Brookfield a Solar PV Safonol yn cael ei gymeradwy i’w ddefnyddio ar Brosiect Safle Tirlenwi Sir y Fflint ac Iard Crumps.

126.

DIWEDDARIAD BWRDD CARTREFI GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU (CYFRINACHOL) EITEM RHIF 13 AR Y RHAGLEN)

Cofnodion:

Nodwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r atodiad.

127.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd 1 aelod o’r wasg yn bresennol a dim un aelod o’r cyhoedd.