Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny. Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 18fed Mehefin, 2019. Cofnodion: Cyflwynwyd a chymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18fed Mehefin 2019 fel cofnod cywir.
PENDERFYNWYD:
I gymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
Strategaeth ariannol tymor canolig (MTFS) a'r gyllideb 2020/21 Derbyn adroddiad ar lafar. Cofnodion: Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ddiweddariad ar y sefyllfa genedlaethol ac achos y Cyngor dros fwy o gyllid ar gyfer llywodraeth leol. Roedd y pwysau a ragwelwyd ar gyfer 2020/21 yn parhau ar £13.3 miliwn ac roedd gan y Cyngor strategaeth gyllideb pedair rhan ar gyfer yr atebion, sef:
1. Cynlluniau Busnes Portffolio a Chyllid Corfforaethol; 2. Cyllid Cenedlaethol; 3. Trethi ac Incwm Lleol; 4. Newid Sefydliadol.
Gwnaed cyflwyniad yng nghyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ar ganlyniad gwaith y Gweithgor Trawsbleidiol. Roedd y cyflwyniad yn disgrifio’r gwaith hyd yma a’r achos dros flaenoriaethu llywodraeth leol, sef mynegeio ar gyfer chwyddiant, cyllid ar gyfer pwysau gwasanaethau sydd â galw mawr amdanynt a darpariaeth cost lawn ar gyfer deddfwriaeth newydd.
Roedd gweithdy yn cael ei drefnu ar gyfer pob Aelod, i’w gynnal yn yr wythnosau nesaf i ddarparu mwy o fanylion i’r Aelodau.
Oherwydd y diffyg sicrwydd yngl?n ag Adolygiad o Wariant y DU, roedd risg y gallai Llywodraeth Cymru oedi cyhoeddiad y setliad ariannol blynyddol a fyddai’n creu problemau cynllunio arwyddocaol.
PENDERFYNWYD:
Y byddai’r wybodaeth yn cael ei derbyn a’i nodi. |
|
Cynllun y Cyngor, Rhan 2 PDF 166 KB Pwrpas: Cymeradwyo ail ran o Gynllun y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Gynllun y Cyngor 2019/20 – Rhan 2 a oedd yn darparu’r dull i fesur cynnydd a chyflawniad blaenoriaethau’r Cyngor yn Rhan 1 y Cynllun.
Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod Rhan 1 y Cynllun wedi’i gymeradwyo gan y Cyngor Sir ym mis Mehefin 2019 ac y byddai dwy ran y Cynllun ar gael ar wefan y Cyngor erbyn diwedd Gorffennaf fel dogfen a fyddai’n fwy hygyrch yn ddigidol a graffigol.
Cyflwynwyd Rhan 2 y Cynllun hefyd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol, fel y ddogfen derfynol i’w defnyddio gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i adolygu cynnydd yn ystod y flwyddyn ar sail chwarterol. Roedd yr adborth a dderbyniwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Dynol ar sut y gellir mesur llwyddiant a chynnydd fel a ganlyn:
· Darparu esboniadau ar ddangosyddion sydd wedi’u lleihau; · Cynnwys rhestr lawn o fesurau atebolrwydd cenedlaethol; · Trefnu gweithdy ar werth cymdeithasol; · Cynnwys i’w ddarparu ar gyllid a grantiau hyblyg; · Mae angen mwy o eglurder ar hawliadau budd-daliadau a’r hyn yr oedd y Cyngor yn ceisio ei gyflawni; · Esboniad o Micro-ofal (Microcare); · Gwybodaeth am dechnoleg ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd; · Gwybodaeth fwy penodol ar ofal ychwanegol ac a fyddai’r galw yn cael ei gyflawni.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas ei bod yn bwysig sefydlu gwerth cymdeithasol y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan y Cyngor.
PENDERFYNWYD:
I gymeradwyo Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2019/20 i gefnogi monitro ac asesu’r cynnydd yn erbyn blaenoriaethau Rhan 1 Cynllun y Cyngor, gan gynnwys y diwygiadau a awgrymwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. |
|
Adroddiad Gwella Blynyddol 2018/19 PDF 138 KB Pwrpas: I gael sicrwydd o Adroddiad Gwella Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2018/19. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn cyflwyno crynodeb o’r gwaith archwilio a rheoleiddio a gynhaliwyd yn y Cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru ers cyhoeddi’r adroddiad diwethaf ym mis Tachwedd 2018.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyflwyno casgliad cadarnhaol ar y cyfan bod “Y Cyngor yn cyflawni ei ofynion statudol mewn cysylltiad â gwella parhaus ond, fel yn achos pob cyngor yng Nghymru, mae’n wynebu heriau wrth symud ymlaen”.
Ni wnaed unrhyw argymhellion ffurfiol, fodd bynnag, cafwyd amlinelliad o nifer o gynigion gwella gwirfoddol yn yr adroddiad. Cyflwynwyd ymateb y Cyngor i’r cynigion yn Atodiad 2 yr adroddiad.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, esboniodd y Prif Swyddog bod gwybodaeth am y nifer o Dai Amlfeddiannaeth wedi’i dosbarthu i’r Aelodau.
PENDERFYNWYD:
Bod Cynllun Gwella Blynyddol ar gyfer 2018/19 Archwilydd Cyffredinol Cymru yn darparu sicrwydd i’r Cabinet. |
|
Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint i’w Archwilio gan y Cyhoedd (2015-2030) PDF 195 KB Pwrpas: I argymell cymeradwyo'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) i'w Archwilio gan y Cyhoedd i’r Cyngor Sir ar 23 Gorffennaf 2019. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ar y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Adneuo sef cynllun defnydd tir arfaethedig y Cyngor ar gyfer y cyfnod 2015-2030.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion y cerrig milltir a gwblhawyd hyd yma, a oedd yn cyd-fynd â Chytundeb Cyflenwi Diwygiedig 2019.
Roedd y Cynllun Adneuo a’r mapiau ategol o’r cynigion wedi’u cynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad. Roedd y gwaith o baratoi’r Cynllun wedi’i esbonio yng nghyfarfodydd misol y Gr?p Strategaeth Cynllunio yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf, ac yn dilyn gwaith caled a thrafodaethau sylweddol, roedd y Gr?p Strategaeth Cynllunio wedi cymeradwyo’r CDLl Adneuo. Manteisiodd y Cynghorydd Bithell ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl Aelodau a swyddogion a fu’n rhan o’r Gr?p Strategaeth Cynllunio.
Pe byddai’r CDLl yn cael ei gymeradwyo gan y Cabinet, byddai’n cael ei gyflwyno i gyfarfod arbennig y Cyngor Sir ar 23ain Gorffennaf, cyn ymgynghoriad cyhoeddus a fyddai’n cael ei gynnal am gyfnod o chwe wythnos o ddydd Llun 30ain Medi 2019 hyd at ddydd Llun 11eg Tachwedd 2019. Diben yr ymgynghoriad oedd sefydlu a oedd y CDLl Adneuo yn bodloni’r profion Cadernid. Byddai’n ofynnol i’r rhai a oedd yn ymateb i’r ymgynghoriad nodi pa brawf/brofion na chyflawnwyd a pham, yn ogystal â nodi pa newidiadau y dylid eu gwneud i’r Cynllun. Byddai’r wybodaeth honno yn hysbysu ystyriaeth yr Arolygydd o gadernid y CDLl yn ystod yr Archwiliad Cyhoeddus.
Roedd y Cytundeb Cyflenwi ar gyfer y CDLl gyda Llywodraeth Cymru yn golygu nad oedd yn bosibl oedi’r gwaith o’i greu ac y byddai’n rhaid glynu at y dyddiadau ar gyfer yr ymgynghoriad ddiwedd mis Medi, yn arbennig gan fod y Cyngor bedair blynedd i mewn i gyfnod y Cynllun eisoes. Un agwedd gadarnhaol o fod pedair blynedd i mewn i’r Cynllun oedd bod datblygiadau tybiannol wedi’u cyflwyno eisoes gan y datblygwyr.
Bydd sesiynau ffurfiol yn cael eu cynnal gyda phob Cyngor Treth a Chymuned cyn yr ymgynghoriad ffurfiol.
Darparodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fanylion yr amserlen eang ar gyfer y Cynllun, amserlen a oedd wedi’i hamlinellu yn yr adroddiad.
Ailadroddodd y Rheolwr Strategaeth Gynllunio sylwadau’r Cynghorydd Bithell bod gwaith y Gr?p Strategaeth Gynllunio wedi canolbwyntio ar sicrhau bod y Cynllun yn gywir er mwyn arddangos ei gadernid neu ei addasrwydd i’w bwrpas, ac i ddysgu’r gwersi a brofwyd gan awdurdodau cynllunio lleol eraill. Roedd y swyddogion o’r farn, barn a oedd wedi’i chymeradwyo gan y Gr?p Strategaeth Gynllunio, bod y CDLl Adneuo yn gadarn a chyflawnadwy a’i fod yn cynrychioli dull synhwyrol a phragmatig o gyflawni twf a datblygiad, gan gefnogi’r weledigaeth ehangach ar gyfer twf isranbarthol, gan leihau’r effeithiau ar gymunedau Sir y Fflint yr un pryd.
PENDERFYNWYD:
(a) I gymeradwyo cynnwys Cynllun Datblygu Lleol Adneuo Drafft Sir y Fflint 2015-2030 ac argymell i’r Cyngor Sir ei gymeradwyo ar 23ain Gorffennaf 2019, i’w gyflwyno ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus; a
(b) I roi’r awdurdod i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i ... view the full Cofnodion text for item 33. |
|
Modelau Darparu Amgen Cam 2 PDF 129 KB Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer ail gam y Modelau Darparu Amgen. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn ceisio sicrhau cefnogaeth ar gyfer ail gam y rhaglen ar gyfer Modelau Cyflenwi Amgen (ADM).
Roedd y Cyngor wedi mabwysiadu rhaglen i drosglwyddo gwasanaethau dethol o fodelau cyflenwi uniongyrchol i ADM yn 2014. Roedd y rhaglen hon yn rhan o strategaeth newydd ar gyfer newid sefydliadol a chafodd ei chynllunio i wneud arbedion refeniw blynyddol sylweddol fel cyfrannwr at y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, gan sicrhau’r un pryd y bydd y gwasanaethau hynny’n cael eu diogelu yn y dyfodol. Roedd y rhaglen gychwynnol wedi’i chwblhau yn llwyddiannus.
Esboniodd y Prif Swyddog (Strydlun a Thrafnidiaeth) bod rhan 2 y rhaglen yn fwy eang, gydag ystod helaeth o gysyniadau ar gyfer modelau cyflenwi gwasanaethau amgen ar gyfer gwasanaethau presennol a modelau newydd ar gyfer arloesedd gwasanaethau newydd.
Gan gysylltu i’r adroddiad cynharach ar Ran 2 Cynllun y Cyngor, esboniodd y Cynghorydd Jones bod yr adroddiad yn darparu eglurder ar Micro-ofal (Microcare). Roedd yn ddull arloesol o ddatblygu modelau cymorth gofal yn lleol drwy gwmnïau cydweithredol neu fentrau cymdeithasol, fel ffordd o atgyfnerthu’r ddarpariaeth ehangach o ofal cartref oherwydd prinder yn y ddarpariaeth annibynnol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas at yr opsiynau lefel uchel a oedd wedi’u hamlinellu ar gyfer y Gwasanaethau Masnachu Strydlun a Thrafnidiaeth. Esboniodd nad oedd unrhyw gymeradwyaeth wedi’i sicrhau hyd yma ond y gellir archwilio’r posibilrwydd o fasnachu mewn meysydd gwasanaeth penodol, yr oedd gan y Cyngor yr arbenigedd estynedig, e.e. MOT cerbydau preifat a goleuadau stryd.
Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod pedwar cam yn natblygiad a gweithrediad modelau cyflenwi amgen neu newydd, sef:
Cam 1: Prawf o gysyniad; Cam 2: Cynllunio, diwydrwydd dyladwy a chymeradwyaeth; Cam 3: Trosglwyddo i’r model newydd; Cam 4: Cyfnod sefydlu ar gyfer y model newydd.
PENDERFYNWYD:
(a) I gymeradwyo ail gam y rhaglen Model Cyflenwi Amgen a chyfeirio’r adroddiad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol ym mis Medi i’w adolygu a rhoi sylwadau arni; a
(b) Cyflwyno adroddiadau pellach i’r Cabinet, sy’n gwerthuso pob un o’r modelau gwasanaeth arfaethedig i’w hystyried cyn unrhyw benderfyniad ffurfiol ar eu dyfodol, gan nodi bod nifer o’r modelau mewn camau datblygedig a’u bod wedi (y Gwasanaeth Monitro Teledu Cylch Cyfyng) derbyn cymeradwyaeth ar wahân ymlaen llaw. |
|
Diweddariad am Gynllun Gweithredu Lleol ar gyfer Digartrefedd PDF 233 KB Pwrpas: Cefnogi’r wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Gweithredu Lleol ar gyfer Digartrefedd. Cofnodion: Rhoddodd y Cynghorydd Hughes gyflwyniad i’r adroddiad a oedd yn darparu diweddariad digartrefedd ar y Cynllun Gweithredu Lleol.
Roedd y Cynllun Gweithredu Lleol ar gyfer Sir y Fflint yn dilyn y Strategaeth Ddigartrefedd Ranbarthol gyda’r tri phrif nod canlynol:
· Pobl: Digartrefedd ieuenctid, pobl sy’n cysgu ar y stryd, anghenion cymhleth a phobl sy’n gadael y carchar; · Cartrefi: Tai yn gyntaf, mynediad gwell at y cyflenwad o lety a llety dros dro; · Gwasanaethau: Atal/ymyrraeth, diwygio lles ac iechyd.
Roedd swm sylweddol o waith wedi’i wneud i ddarparu cymorth, cyngor a chyfeirio at rai o’r bobl mwyaf agored i niwed yn y Sir. Roedd yn faes gwaith heriol a diolchodd i’r swyddogion am y gwaith a wnaethant.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell ar bobl sy’n gadael y carchar, esboniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y byddai’r Cyngor yn gweithio gyda’r rhai a oedd yn breswylwyr yn Sir y Fflint neu’r rhai â chysylltiadau lleol cryf gyda’r ardal. Gofynnodd y Cynghorydd Bithell hefyd a oedd cynllun yn parhau i fodoli lle byddai cartrefi gwag yn cael eu hailddefnyddio’r o’r newydd ac atebodd y Prif Swyddog y byddai’n gwneud ymholiadau.
PENDERFYNWYD:
I gefnogi’r diweddariadau a ddarparwyd yn erbyn y Cynllun Gweithredu Lleol ar gyfer Digartrefedd. |
|
Diweddariad am y Diwygiad Lles PDF 381 KB Pwrpas: Cefnogi’r adroddiad a’r gwaith parhaus i reoli’r effaith y mae’r Diwygiad Lles yn ei gael ac yn parhau i’w gael ar gartrefi mwyaf diamddiffyn Sir Y Fflint. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn darparu diweddariad ar yr effeithiau yr oedd ‘Gwasanaeth Llawn’ y Credyd Cynhwysol a diwygiadau lles eraill yn eu cael ar breswylwyr Sir y Fflint a bod gwaith yn parhau i leddfu a chynorthwyo’r aelwydydd hynny.
Darparwyd manylion ar y diwygiadau lles presennol o: cael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr, y cap budd-daliadau, y credyd cynhwysol ac effaith y diwygiadau lles yn Sir y Fflint.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas bod y Credyd Cynhwysol yn costio mwy nac unrhyw fudd-dal blaenorol arall i Lywodraeth y DU ond bod pobl yn derbyn llai o fudd-daliadau. Soniodd hefyd am yr amrywiaeth i’r lefel o Gredyd Cynhwysol a dderbyniwyd, nad oedd yn helpu a dywedodd ei bod o’r farn y dylid ei ddiddymu. Roedd yr aelodau’n cytuno â safbwyntiau’r Cynghorydd Thomas.
Holodd y Cynghorydd Bithell sut y gallai’r 546 o denantiaid Tai Cyngor Sir y Fflint sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ac sydd ag ôl-ddyledion rhent (tua £567,000) ddianc y sefyllfa honno. Holodd hefyd beth y gellir ei wneud i sicrhau bod pensiynwyr cymwys yn derbyn y Credyd Pensiwn pan fyddai hynny’n berthnasol. Dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau bod y gwasanaeth yn ymwybodol o’r holl faterion, gan gynnwys ôl-ddyledion rhent, ac esboniodd bod Sir y Fflint yn ardal beilot ar gyfer y Credyd Cynhwysol, a bod yr effeithiau wedi bod yn fwy amlwg ar gam cynnar, o gymharu ag ardaloedd eraill. Byddai’r Tîm Ymateb Llesiant yn parhau i ddarparu cefnogaeth cyllidebu personol i gynorthwyo preswylwyr. O ran pensiynwyr, roedd y tîm yn parhau i fod yn rhagweithiol ac roedd mwy o bensiynwyr cymwys yn hawlio Credyd Pensiwn yn awr.
Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Thomas, cytunwyd y gallai’r Cyngor ysgrifennu at y Gweinidog yn pwysleisio’r hyn a ddysgwyd, a’r problemau a brofwyd fel lleoliad peilot ar gyfer y Credyd Cynhwysol.
PENDERFYNWYD:
(a) I gefnogi’r adroddiad a’r gwaith parhaus i reoli effeithiau y mae, ac y bydd y Diwygiadau Lles yn parhau i’w cael ar aelwydydd mwyaf agored i niwed Sir y Fflint; a
(b) Bydd y Cyngor yn ysgrifennu at y Gweinidog yn pwysleisio’r hyn a ddysgwyd a’r problemau a brofwyd fel lleoliad peilot ar gyfer y Credyd Cynhwysol. |
|
Gwasanaeth Caffael ar y Cyd PDF 120 KB Pwrpas: Adroddiad ar gynnydd perfformiad y Gwasanaeth Caffael ar y Cyd gyda Chyngor Sir Ddinbych. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Caffael ar y Cyd ar gyfer 2018/29 a oedd yn adrodd ar y gweithgareddau a’r perfformiad yn erbyn y targedau a oedd yn deillio o’r Strategaeth Gaffael.
Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod Cytundeb Lefel Gwasanaeth a oedd yn llywodraethu’r ffordd yr oedd y gwasanaeth yn cael ei gyflenwi. Roedd yr adroddiad hefyd yn cwmpasu holl agweddau’r gwasanaeth, gan gynnwys y gyllideb a strwythur, yn ogystal â pherfformiad yn erbyn ei Ddangosyddion Perfformiad Allweddol.
PENDERFYNWYD:
Y dylid cymeradwyo’r adroddiad blynyddol ar berfformiad a’r camau gweithredu arfaethedig i wella perfformiad, lle byddai angen. |
|
Ffioedd a Thaliadau PDF 260 KB Pwrpas: Argymell adolygiad o ffioedd a thaliadau a rhoi amlinelliad o gynllun prosiectau incwm tair blynedd a fydd yn cefnogi strategaeth ariannol tymor canolig y sefydliad. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn cynnig fframwaith polisi a oedd yn cynnwys strwythur codi taliadau cyson ar draws pob maes gwasanaeth.
Esboniodd y Rheolwr Cynhyrchu Incwm a Marchnata bod canlyniad yr adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau wedi’i gyflwyno yn Atodiad A yr adroddiad. Amlinellwyd y graddau yr oedd costau llawn yn cael ei adfer ar gyfer pob tâl. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnig dull o fynegeio’r holl ffioedd a thaliadau yn flynyddol.
Dywedodd y Prif Swyddog (Strydlun a Thrafnidiaeth) ei bod wedi bod yn uchelgais ers tro i grynhoi’r holl ffioedd a thaliadau mewn un lle ac i’w hadolygu’n flynyddol. Roedd y llifoedd incwm newydd a nodwyd yn yr adroddiad yn rhan o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
Cynigiwyd i gynyddu’r tâl am y gwasanaeth casglu gwastraff gardd o rhwng £2 i £5 y tymor, yn ddibynnol ar y dull talu a ddewiswyd a’r dyddiad y derbyniwyd y taliad gan y Cyngor. Roedd hyn yn adlewyrchu’r gost gynyddol o ddarparu’r gwasanaeth a byddai’n cynyddu’r lefelau incwm arfaethedig o rhwng £70,000 a £130,000 y flwyddyn.
Roedd tâl arfaethedig ar gyfer y Pecynnau Seremonïau Bwyd/Diod newydd o dan y Gwasanaethau Cofrestru. Amcangyfrifwyd y byddai hyn yn cynhyrchu incwm ychwanegol o tua £580 yn 2019/20 a £850 yn 2020/21.
Byddai’r tâl newydd ar gyfer ar gyfer trosglwyddo gweinyddiaeth perchnogaeth beddau yn cael ei gadarnhau. Fodd bynnag, roedd taliadau cymharol mewn Cynghorau eraill yn amrywio o £30 i £55 ar gyfer y gwasanaeth. Yn seiliedig ar y galw presennol, byddai cyflwyno tâl o £30 yn cynhyrchu tua £15,600 y flwyddyn a byddai tâl o £55 yn codi £28,600 y flwyddyn.
Dywedodd y Cynghorydd Bithell y dylai’r gwasanaethau disgresiynol gael eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru am nad oedd awdurdodau lleol yn derbyn cyllid digonol mwyach i ariannu materion o’r fath. Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod taliadau o’r fath yn cael eu gorfodi ar y Cyngor oherwydd y cyni parhaus ac roedd y Cyngor yn cydnabod yr effaith ar y cyhoedd. Pwysleisiodd bod y gwasanaethau yn cael eu cynnig er mwyn adennill costau ac nid er mwyn creu elw, gyda mynegeio synhwyrol.
PENDERFYNWYD:
(a) I gymeradwyo’r ffioedd a’r taliadau a amlinellwyd yn Atodiad A;
(b) I gymeradwyo’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr, gan gynnwys costau tai perchen-feddianwyr, fel y mynegai chwyddiant blynyddol i’w defnyddio ar gyfer cynyddu ffioedd a thaliadau pan fydd yn briodol gwneud hynny (neu gyfradd y farchnad/cymharol/dewis pan fydd yn berthnasol) ynghyd â’r cyfnod gweithredu chwyddiant arfaethedig a nodir yn Atodiad A;
(c) Bod angen gwaith pellach i sefydlu a fyddai’n bosibl adennill y costau llawn (adfer costau uniongyrchol ac anuniongyrchol) ar gyfer yr holl wasanaethau i’w cefnogi, pan ganiateir iddynt wneud hynny;
(d) I gymeradwyo adolygiad pellach o’r Polisi Cynhyrchu Incwm presennol, gyda’r bwriad i ddatblygu fframwaith polisi ar gyfer cynhyrchu incwm, i gynnwys strwythur codi taliadau ac adennill costau cyson;
(e) I gymeradwyo adolygiad blynyddol o’r ffioedd a’r taliadau, gan gynnwys adroddiad blynyddol ym mis Gorffennaf bob blwyddyn, gan nodi’r ffioedd a’r taliadau arfaethedig ar ... view the full Cofnodion text for item 38. |
|
Monitro'r gyllideb refeniw-2018/19 (Alldro) PDF 389 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad hwn yn nodi sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer 2018/19 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (Alldro) a oedd yn darparu’r sefyllfa ar gyfer 2018/19 o ran y Cyfrif Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.
Roedd y sefyllfa derfynol ar ddiwedd y flwyddyn fel a ganlyn:
Cronfa’r Cyngor · Gwarged gweithredol o £0.608 miliwn (£0.931 miliwn ym Mis 11); a · Balans Cronfa Wrth Gefn ar 31ain Mawrth 2019 o £8.252 miliwn sydd, wrth ystyried y cyfraniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer 2019/20 yn lleihau’r gyllideb i £6.031 miliwn.
Y Cyfrif Refeniw Tai
· Y gwariant net yn ystod y flwyddyn oedd £0.067 miliwn yn is na’r gyllideb; a · Balans terfynol heb ei glustnodi ar 31ain Mawrth 2019 o £1.165 miliwn.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion: cyflawni arbedion arfaethedig yn ystod y flwyddyn; trosolwg o’r flwyddyn; cronfeydd wrth gefn a balansau; cronfa wrth gefn y cyngor sydd wedi’i neilltuo 2018/19 a cheisiadau i gario cyllid ymlaen.
PENDERFYNWYD:
(a) Y dylid nodi’r adroddiad cyffredinol a swm wrth gefn Cronfa’r Cyngor ar 31ain Mawrth 2019;
(b) Y dylid nodi lefel derfynol y balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai ar 31ain Mawrth 2019; a
(c) I gymeradwyo’r ceisiadau i gario cyllid ymlaen. |
|
Monitro Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Sefyllfa Derfynol) PDF 169 KB Pwrpas: Darparu gwybodaeth am sefyllfa derfynol rhaglen gyfalaf 2018/19 i’r Aelodau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro’r Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Alldro) a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf yn ystod chwarter olaf 2018/19.
Roedd y Rhaglen Gyfalaf wedi gweld cynnydd net o £1.024 miliwn yn ystod y cyfnod, a oedd yn cynnwys:
· Cynnydd net o £4.857 miliwn yn y rhaglen (Cronfa’r Cyngor £4.792 miliwn a HRA £0.065 miliwn); a · Swm Net o £3.833 miliwn i’w Gario Ymlaen i 2019/20, sy’n cynnwys £1.815 miliwn (Grant ychwanegol Cynnal a Chadw Ysgolion) (£2.043 miliwn) wedi’i wrthbwyso’n rhannol gan wrthdroad Cario Ymlaen o £0.025 miliwn.
Y gwariant gwirioneddol oedd £66.423 miliwn.
Yr alldro terfynol ar gyfer 2017/18 oedd diffyg cyllid bychan o £0.068 miliwn. Bu nifer o dderbynebau cyfalaf yn ystod y flwyddyn a chynnydd bychan mewn cyllid cyfalaf, a gyhoeddwyd yn y Setliad Terfynol. Yn ogystal, ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £100 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol wedi’i ledaenu o 2018/19 i 2020/21. O’u hystyried gyda’i gilydd, gyda diffyg gwreiddiol amcangyfrifedig o £8.216 miliwn yn rhaglen gyfalaf 2018/29 i 2020/21 y diffyg ariannol presennol ar gyfer y cyfnod tair blynedd yw £1.187 miliwn.
PENDERFYNWYD:
(a) Y byddai’r adroddiad cyffredinol yn cael ei gymeradwyo;
(b) Y gellir cymeradwyo’r addasiadau cario ymlaen. |
|
Dangosyddion Darbodus – Gwirioneddol 2018/19 PDF 192 KB Pwrpas: I ddarparu ffigurau gwirioneddol Dangosydd Darbodus 2018/19 i aelodau fel sy’n ofynnol o dan y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus). Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad a oedd yn darparu manylion am Ddangosyddion Darbodus gwirioneddol y Cyngor ar gyfer 2018/19 o gymharu â’r amcangyfrifon a bennwyd ar gyfer Darbodusrwydd a Fforddiadwyedd.
PENDERFYNWYD:
I nodi a chymeradwyo’r adroddiad. |
|
2019/20 monitro cyllideb refeniw (Interim) PDF 140 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r risgiau allweddol a’r problemau sy’n hysbys o ran sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer 2019/20 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Interim) sef adroddiad monitro cyntaf 2019/20. Roedd yr adroddiad yn nodi, trwy eithriad, yr amrywiannau sylweddol a allai effeithio ar y sefyllfa ariannol yn 2019/20 a chynnydd y gwaith o gyflawni’r arbedion arfaethedig yn erbyn y targedau a bennwyd ar gyfer y flwyddyn.
Amcangyfrifwyd y byddai effaith net y risgiau a’r amrywiannau a oedd yn datblygu, fel y’u nodwyd yn yr adroddiad, yn £3.101 miliwn yn ystod cyfnod y gyllideb arfaethedig. Roedd y ffigur yn seiliedig ar amrywiannau sylweddol hysbys o fwy na £0.100 miliwn a byddai’n destun newid yn ystod y flwyddyn.
Byddai adroddiad ar fis 4 yn cael ei ddarparu ym mis Medi a byddai’n cynnwys manylion pellach.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas bod yr adroddiad wedi’i drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Dynol lle gwnaed cais am adroddiadau ar y gorwariant ar Strydlun a Thrafnidiaeth a Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir yn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ymatebodd Aelodau i’r sylwadau a wnaed yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir a dweud bod angen i Lywodraeth Cymru gydnabod cost ac anwadalrwydd y gwasanaeth. Esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod yr awdurdod yn edrych ar fentrau i sicrhau bod y ddarpariaeth Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir mor gynaliadwy â phosibl a byddai manylion yn cael eu darparu yn yr adroddiad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.
PENDERFYNWYD:
(a) I nodi’r adroddiad ac y byddai adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cael ei dderbyn; a
(b) I gymeradwyo trosglwyddiad cyllid o £0.471 miliwn yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi cyfleusterau gofal ychwanegol newydd. |
|
Cynllun Disgownt Treth y Cyngor ar gyfer Gofalwyr Maeth Sir y Fflint PDF 220 KB Pwrpas: Ceisio cefnogaeth, ar y posibilrwydd o gyflwyno cynllun wedi'i gostio'n llawn gyda'r nod o ddarparu disgownt treth y cyngor i ofalwyr maeth awdurdodau lleol o Ebrill 2020. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Cynllun Disgownt Treth Gyngor ar gyfer Gofalwyr Maeth yr Awdurdod Lleol, a allai ddarparu pecyn mwy cystadleuol yn nhermau lwfansau a buddion a fyddai’n creu arbedion i’r Cyngor yn y pen draw.
Roedd Gofalwyr Maeth yn hollbwysig ar gyfer cefnogi anghenion pobl ifanc mewn gofal ac roeddent yn darparu gofal addas gyda theulu mewn amgylchedd cynnes, diogel, sylwgar a meithringar.
Roedd o leiaf 9 awdurdod lleol yn Lloegr eisoes yn gweithredu Cynlluniau Disgownt Treth Gyngor, gan gynnwys awdurdodau lleol cyfagos megis Dwyrain Swydd Gaer.
Byddai’r gost o gynnig disgownt o 50% i Ofalwyr Maeth yn Sir Fflint yn tua £92,000 a gellir ei adennill pe byddai dim ond tri phlentyn yn cael eu lleoli gyda gofalwyr mewnol am gyfnod o 12 mis, yn hytrach na gydag asiantaethau maethu allanol.
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) pe byddai’n derbyn cefnogaeth, y gallai’r cynllun ddod i rym o fis Ebrill 2020 gan ddefnyddio pwerau disgresiwn, fel y’u nodir yn Adran 13a (1) (c) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Esboniodd Swyddog Marchnata a Recriwtio’r Gwasanaethau Cymdeithasol bod her sylweddol yn bodoli eisoes i geisio canfod preswylwyr lleol oedd â dwy ystafell wely sbâr i ddarparu llety i frodyr a chwiorydd a oedd o oedran lle na fyddai’n briodol iddynt rannu ystafell wely. Gallai Cynllun Disgownt Treth Gyngor annog preswyliwr lleol i ystyried maethu yn hytrach na symud i eiddo llai o faint.
Esboniodd y Rheolwr Refeniw y gallai tua 122 o Ofalwyr Maeth Sir y Fflint fod yn gymwys ar gyfer y cynllun. O’r rhain, roedd 89 yn byw yn y Sir – roedd 33 yn byw y tu allan i’r sir ond er mwyn sicrhau cysondeb, byddai’r cynllun yn cynnwys darpariaeth i wneud dyfarniad ariannol anuniongyrchol ar ffurf cynllun cymorth ariannol yn lle’r disgownt Treth Gyngor.
Diolchodd y Cynghorydd Jones i Swyddog Marchnata a Recriwtio’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’i thîm am y gwaith yr oeddent yn ei wneud yn Recriwtio Gofalwyr Maeth.
PENDERFYNWYD:
(a) I gymeradwyo cyflwyno, mewn egwyddor, Cynllun Disgownt Disgresiwn Treth Gyngor i Ofalwyr Maeth, a fyddai’n dod i rym o fis Ebrill 2020; a
(b) Mai disgownt o 50% fyddai’r opsiwn gorau er mwyn alinio’r Cynlluniau Disgownt Treth Gyngor ar gyfer Gofalwyr Maeth sy’n weithredol mewn awdurdodau lleol eraill yn y rhanbarth. |
|
Adroddiad monitro blynyddol yr iaith Gymraeg 2018/19 PDF 166 KB Pwrpas: Derbyn adroddiad monitro blynyddol yr iaith Gymraeg 2018/19 a rhoi trosolwg o hynt y gwaith o gydymffurfio â safonau'r Gymraeg. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o’r cynnydd a wnaed i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, ac a oedd yn nodi meysydd i’w gwella.
Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod Adroddiad Blynyddol y Gymraeg yn darparu cyfle i nodi’r hyn yr oedd y Cyngor wedi’i wneud i gyflawni’r Safonau ac i arddangos enghreifftiau o arfer da, gyda rhai meysydd o gyflawniadau rhagorol yn cael eu disgrifio yn yr adroddiad.
Er bod meysydd cynnydd cadarnhaol, roedd materion yn parhau fel meysydd i’w gwella a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad hefyd.
PENDERFYNWYD:
(a) Y gallai’r Cabinet fod wedi’u sicrhau bod cynnydd wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn i gyflawni dyletswyddau statudol y Cyngor;
(b) I nodi meysydd i’w gwella ac i gynnwys adroddiad canol blwyddyn ar gynnydd yn y Blaenraglen Waith;
(c) I gymeradwyo cyhoeddi’r adroddiad ar wefan y Cyngor; a
(d) Bod Adroddiad Blynyddol y Gymraeg yn cael ei gynnwys ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. |
|
Adolygu Safonau Strydwedd PDF 95 KB Pwrpas: Gofyn i’r Cabinet gymeradwyo safonau gweithredol Strydwedd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr Adolygiad o Safonau Strydlun ac esboniodd nad oedd y safonau wedi’u hadolygu ers 2012.
Roedd y safonau a gymeradwywyd gan y Cabinet yn 2012 yn ffurfio sail adroddiad perfformiad chwarterol y portffolio, a oedd yn destun gwaith craffu gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Cabinet.
Roedd Cynllun diweddaredig y Cyngor 2019 yn cynnwys mesur perfformiad newydd o safonau Strydlun fel rhan o’r Cyngor Diogel a Glân ac, o ganlyniad, byddai allbwn uniongyrchol y portffolio yn cael ei adrodd drwy’r broses Trosolwg a Chraffu.
Cynhaliwyd adolygiad o’r safonau hefyd oherwydd, er gwaethaf newidiadau sylweddol i gwmpas y portffolio, nid oedd y safonau wedi newid ers saith mlynedd. Nid oedd rhai o’r safonau yn berthnasol mwyach ac nid oedd rhai meysydd gwasanaeth newydd Strydlun a Thrafnidiaeth wedi’u cynrychioli.
Esboniodd y Prif Swyddog (Strydlun a Thrafnidiaeth) bod y safonau arfaethedig wedi’u cyflwyno yng nghyfarfod diweddar Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd ac roeddent wedi’u cefnogi.
PENDERFYNWYD:
Y byddai’r safonau gwasanaeth Strydlun a nodwyd yn Atodiad yn cael eu mabwysiadu, gan gynnwys yr ychwanegiadau arfaethedig i’r rhestr ddiwygiedig o ganlyniad i’r newidiadau i’r portffolio. |
|
Cytundeb Cyllideb Gyfun ar gyfer Llety Cartrefi Gofal i Bobl Hyn 2019-2020 PDF 132 KB Pwrpas: Rhoi diweddariad i'r Cabinet ar waith Gr?p Cyllidebau Cyfun Gogledd Cymru a'r camau a gymerwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones y Cytundeb Cyllideb Gyfun ar gyfer Llety Cartref Gofal i Bobl H?n 2019/2020 a oedd yn cynghori ar y dull rhanbarthol arfaethedig o gyflawni gofynion cyfreithiol yr awdurdod o ran sefydlu a chynnal cronfa gyfun ranbarthol. Roedd hyn yn cydymffurfio â’r dyletswyddau a osodwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) a Rheoliadau Cytundebau Partneriaeth (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2015).
Esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod angen penderfyniad i gymeradwyo’r dull gweithredu rhanbarthol ar gyfer sefydlu cronfa gyfun a rennir, heb risgiau, i’w chynnal gan Gyngor Sir Ddinbych ar ran y chwe Chyngor yng Ngogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, o ran y gwariant rhanbarthol ar swyddogaethau llety cartrefi gofal ar gyfer pobl h?n.
Ni fyddai unrhyw swyddogaethau yn cael eu dirprwyo a oedd yn golygu y byddai pob partner yn cynnal cyfrifoldeb unigol llwyr ar gyfer cyflawni eu dyletswyddau statudol o ran comisiynu a darparu gwasanaethau llety cartref gofal. Byddai pob partner yn parhau i fod yn llwyr gyfrifol am eu cyllidebau a’u gwariant eu hunain.
PENDERFYNWYD:
(a) I nodi’r cynnydd a wnaed yn rhanbarthol i gyflawni gofynion Rhan 9 Deddf 2014, sy’n cynnwys gofyniad cyfreithiol i sefydlu cronfa gyfun ranbarthol ar gyfer llety cartref gofal i bobl h?n;
(b) Y dylid cymeradwyo sefydlu cronfa gyfun a rennir, heb risgiau, ar gyfer llety gofal cartref i bobl h?n, fel y’u nodir yn yr adroddiad, gyda Chyngor Sir Ddinbych yn gweithredu fel yr Awdurdod Cynnal, gyda’r trefniadau yn dod i rym ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/20; a
(c) Y dylid rhoi cymeradwyaeth i’r Cyngor ymrwymo i gytundeb cyfreithiol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r chwe awdurdod lleol ar draws Gogledd Cymru, gan reoleiddio sefydliad, gweithrediad a’r trefniadau llywodraethu ar gyfer y gronfa gyfun am gyfnod o 3 blynedd. |
|
Cynllun Gwasanaeth Bwyd Cyngor Sir y Fflint ar Gyfer 2019-20 PDF 112 KB Pwrpas: Bydd gofyn i aelodau gytuno ar y Cymeradwyo’r Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2019-20 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell Gynllun Gwasanaeth Bwyd 2019/20 ar gyfer adroddiad Cyngor Sir y Fflint, a oedd yn darparu trosolwg o’r Gwasanaeth Bwyd.
Roedd yn nodi’r nodau a’r amcanion ar gyfer y flwyddyn i ddod a sut y byddent yn cael eu cyflawni. Roedd y Cynllun hefyd yn cynnwys adolygiad o berfformiad y gwasanaeth yn erbyn Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2018/19, a nodwyd yn yr adroddiad.
Pwysleisiodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y targed newydd ar gyfer 2019/20 sef i gynnal archwiliadau wedi’u targedu ar gyfer Rheoli Alergenau mewn lleoliadau tecawê Risg Ganolig, a groesawyd gan yr Aelodau.
PENDERFYNWYD:
Y Byddai Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2019/20 yn cael ei gymeradwyo. |
|
YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG PDF 133 KB Pwrpas: Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bwerau. Cofnodion: Cyflwynwyd eitem wybodaeth ar y camau gweithredu a gymeradwywyd o dan y pwerau dirprwyedig. Nodir y camau gweithredu isod:-
Tai ac Asedau
Mae rheolau Gweithdrefnau Ariannol (adran 5.2) yn nodi y dylid ystyried dileu dyledion gwael unigol a dyledion anadferadwy o fwy na £5,000 mewn cydweithrediad â’r Aelod Cabinet perthnasol. Mae’r penderfyniad i ddileu yn gysylltiedig â 5 achos o rent heb ei dalu lle’r oedd y Cyngor eisoes wedi cymryd camau i droi allan y tenantiaid o ganlyniad i ddiffyg talu rhent. Yn dilyn y camau i droi allan, ystyrir bod ôl-ddyledion y denantiaeth flaenorol yn anadferadwy ac nad oes unrhyw obaith o sicrhau taliad. Cyfanswm y rhent heb ei dalu sy’n gysylltiedig â’r 5 achos yw £31,277.12.
Ni ellir adennill y gordaliad hwn oherwydd gorchymyn methdaliad.
Nid yw er budd y cyhoedd i geisio adennill y gordaliad hwn.
Ni ellir adennill y gordaliad hwn oherwydd gorchymyn rhyddhau o ddyled.
Nid yw er budd y cyhoedd i geisio adennill y gordaliad hwn.
Strydlun a Thrafnidiaeth
|
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD:
Y byddai’r wasg a’r cyhoedd yn cael eu heithrio o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). |
|
Menter Bwyd Sir y Fflint ac Ymateb i’r Tlodi Bwyd Pwrpas: Cael cymeradwyaeth mewn egwyddor gan y Cabinet i fuddsoddi yn y Fenter. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes adroddiad Mentrau Bwyd a Thlodi Bwyd Sir y Fflint, a oedd yn darparu manylion model busnes arfaethedig ar gyfer busnes menter gymdeithasol newydd lle byddai gan bob partner hawliau cyfartal ar gyfer rheoli a chyflenwi’r gweithrediad.
Croesawodd yr Aelodau yr adroddiad a’r cynigion ac y byddent yn croesawu adroddiad diweddaru ar gam diweddarach.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn cytuno mewn egwyddor i barhau â’r model Menter Gymdeithasol newydd a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol i leihau tlodi bwyd yn y Sir. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd 1 aelod o’r wasg yn bresennol ac nid oedd unrhyw aelodau’r cyhoedd yn bresennol. |