Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

11.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny.

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorwyr Banks, Jones a Thomas ddatgan cysylltiadau personol ag eitem rhif 5 ar y rhaglen - Adolygiad Polisi Trafnidiaeth Dewisol – Canlyniad yr Ymgynghoriad.

 

                        Datganodd y Cynghorydd Mullin gysylltiad personol ag eitem rhif 13 ar yr agenda - NEWydd Catering and Cleaning Ltd – Adolygiad Cynnydd a Chynllun Busnes Diwygiedig ar gyfer 2019-2022.

 

                        Datganodd y Cynghorydd Banks gysylltiad personol a chysylltiad sy'n rhagfarnu yn eitem rhif 16 ar y rhaglen – Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2019/2048.

 

Bu i’r Cynghorwyr Banks a Butler ddatgan cysylltiadau personol o ran eitem 17 ar yr agenda – Model Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd.

12.

Cofnodion pdf icon PDF 173 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 14eg Mai, 2019.

Cofnodion:

Cafodd cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mai 2019 eu cyflwyno a’u cadarnhau fel cofnod cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

13.

Cynllyun y Cyngor 2019/20 pdf icon PDF 133 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Rhan 1 o Gynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20 cyn i'r Cyngor Sir ei fabywsiadu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts Gynllun y Cyngor – Rhan 1 sef egwyddorion arweiniol gweddill cyfnod y Cyngor. Diolchodd i’r holl swyddogion fu’n ymwneud â chynhyrchu'r Cynllun.

 

            Eglurodd y Prif Weithredwr bod y Cynllun yn cael ei adrodd i’r Cyngor Sir bob mis Mehefin er mwyn ei fabwysiadu – mae’n gynllun pum mlynedd y mae'n rhaid ei adolygu'n flynyddol.

 

            Roedd Gweithdai wedi eu cynnal i Aelodau ac roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi rhoi adborth ar strwythur, fformat a chynnwys y Cynllun drafft.  Roedd y prif ganlyniadau o weithdai’r Aelodau wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad. Roedd awgrymiadau eraill mwy penodol wedi eu gwneud er mwyn hysbysu cynnwys y Cynllun ac o gytuno arnynt mewn gweithdai neu drafodaethau, roeddynt wedi eu cynnwys yn y Cynllun.

 

            Eglurodd y Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu bod seithfed thema newydd wedi ei ychwanegu at y Cynllun - 'Cyngor Diogel a Glân’.   

 

Cyhoeddwyd Cynllun y Cyngor mewn dwy ddogfen. Mae rhan un yn gosod y bwriad. Byddai rhan dau yn gosod y mesuryddion perfformiad, y targedau a’r cerrig milltir y byddai cyflawniadau yn cael eu mesur a’u gwerthuso'n eu herbyn. Byddai rhan dau yn cael ei gyflwyno fis Gorffennaf.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Thomas amseru'r gweithdai oedd wedi eu cynnal yn gynharach yn y broses a fformat y ddogfen gan ei bod yn teimlo y byddai’r cyhoedd yn ei chael yn haws ei deall.

 

            Soniodd y Cynghorwyr Banks a Bithell am bwysigrwydd y seithfed thema newydd, a groesawyd. Ar ‘Cyngor Sy’n Gwasanaethu', roedd y Cynghorydd Jones yn falch o weld bod ‘Mesurau i gefnogi a chynnal amgylchedd gweithio diogel a iach’.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Rhan 1 Cynllun y Cyngor 2019/20 yn cael ei argymell i’r Cyngor ei fabwysiadu.

14.

Adolygiad Polisi Cludiant Dewisol – Canlyniad yr Ymgynghoriad pdf icon PDF 225 KB

Pwrpas:        Cynnig adborth ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar yr adolygiad o’r polisi cludiant ysgol a choleg dewisol ac ystyried y dewisiadau sydd ar gael.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad oedd yn crynhoi canlyniad yr ymgynghoriad ar feysydd hawl buddion a darpariaeth ôl 16 polisi cludiant coleg ac ysgol dewisol, a gynhaliwyd fis Rhagfyr 2018.  

 

Amlinellwyd manylion llawn yn yr adroddiad; roedd yr adroddiad hefyd wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid ac roedd yr adborth o’r cyfarfod hwnnw hefyd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad.  Darllenodd y Cynghorydd Roberts y datganiad canlynol:

 

             “Aelodau, rwy’n credu bod y penderfyniad sy’n ein hwynebu yn hynod o heriol. Fel Cyngor, rydyn ni yn falch iawn ein bod wedi sicrhau bod addysg ôl-16 ar gael i bawb ac o gael y niferoedd isaf o bobl sydd ‘Ddim mewn Addysg, Gwaith neu Hyfforddiant’ yng Nghymru. Er hynny, rydyn ni’n gwybod, fel awdurdod lleol ac yn dilyn 10 mlynedd o doriadau, fod ein gwariant net ni ar gludiant yn llawer uwch nag awdurdodau lleol eraill, yn cynnwys cludiant i ysgolion a cholegau.  Mae’n rhaid i ni gydnabod mai canlyniadau’r ymgynghoriad oedd galwad am beidio â newid y polisi sydd gennym ar hyn o bryd gan fod pobl yn amlwg yn amharod i dalu mwy am wasanaethau lleol os oes posib’ osgoi hynny.

 

            Yn anffodus, nid yw’r ffasiwn beth yn â chludiant am ddim i ysgol neu goleg yn bod – mae am ddim i’r defnyddiwr yn golygu fod yn rhaid i’r trethdalwr cyffredin dalu amdano.  Rydyn ni’n deall bod cludiant ysgol y mae angen i ni dalu amdano a’r gwahanol eithriadau o ran polisi cludiant yn ymarferol sydd wedi dod i’r amlwg dros y blynyddoedd. Yn anffodus, mae cludiant ôl-16 ymysg y gwasanaethau am ddim hynny, sydd wedi eu gwaredu o sawl awdurdod lleol arall, nad ydynt yn gynaliadwy bellach. Ar hyn o bryd mae’n costio oddeutu £750,000 fesul blwyddyn academaidd i’w gynnal.

 

            Rydyn ni’n ddiolchgar i’r Penaethiaid a chynrychiolwyr y Colegau a siaradodd ar ran Ffederasiwn y Penaethiaid Uwchradd, a’r colegau am gydnabod yr heriau ariannol rydyn ni’n eu hwynebu fel Cyngor, ac am gefnogi cyflwyno tâl, er yn anfodlon, gyda rhai mesurau i leihau’r effaith. Rydyn ni hefyd yn diolchgar i aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid am y drafodaeth a gawsant a’r penderfyniadau a wnaethant a oedd, eto, yn gweld y byddai’n rhaid cyflwyno tâl gyda mesurau i leihau’r effaith.  Mae hyn yn golygu bod angen i ni wneud penderfyniad heddiw. Hoffwn gynnig y canlynol felly:

 

  • O fis Medi 2020 ymlaen, dylid gosod y tâl bob tymor am gludiant ôl-16 ar uchafswm o £150 y tymor;
  • Dylai’r holl ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim dderbyn cludiant am ddim i’r ysgol neu’r coleg. Dylid talu am y mesur hwn o gronfeydd y Cyngor – nid o’r tâl am gludiant – fel budd dewisol;
  • Yn ystod y flwyddyn rhwng r?an a chyflwyno’r tâl, dylai’r Cyngor archwilio’r posibilrwydd o weithredu cronfa galedi i gefnogi teuluoedd lle mae’r tâl yn rhwystro myfyriwr rhag derbyn addysg oherwydd amgylchiadau, gan nodi hawl parhad i gludiant am ddim o dan y maen prawf  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Archwilio’r dewisiadau ar gyfer Gwasanaeth Teledu Cylch Caeëdig y Cyngor pdf icon PDF 110 KB

Pwrpas:        Ystyried y cynigion ar gyfer cydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam mewn perthynas â chyfuno gwasanaeth monitro Teledu Cylch Caeëdig y Cynghorau Sir â'r gwasanaeth yn Wrecsam.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd y gallai problemau yngl?n â theledu cylch caeedig fod yn emosiynol.  Yn gyffredinol roedd y cyhoedd yn cael cysur o’r camerâu, fodd bynnag roedd cynni ariannol wedi gorfodi rhai awdurdodau lleol i ystyried rôl a chyllido systemau cylch cyfyng o ddifrif.

 

                        Roedd yr adroddiad yn nodi nifer o opsiynau o ran gosod teledu cylch caeedig .  Roedd y posibilrwydd o ail-leoli’r gwasanaeth i Wrecsam wedi cael ei harchwilio ers peth amser.  Byddai’r dewis hwn yn darparu gwasanaeth teledu cylch caeedig ar y cyd fyddai’n cael ei reoli gan Wrecsam, gyda Sir y Fflint yn dal yn gyfrifol am gostau ffibr a chynnal a thrwsio camerâu.

 

Mae’r Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yn credu y bydd y dewis i uno gwasanaethau’n rhoi'r gwytnwch angenrheidiol i'r partneriaid ac yn cynorthwyo'r ddwy ochr i reoli costau'n fwy effeithiol.

 

                        Heddlu Gogledd Cymru sydd wedi cael y mwyaf o fudd o’r gwasanaeth er mai nhw sydd wedi cyfrannu leiaf yn ariannol. Rhaid mynd i’r afael â hyn.

 

                        Roedd Aelodau’n croesawu'r cynigion oedd yn arddangos enghraifft dda o gydweithio gydag awdurdod cyfagos ac yn cyd-fynd â’r thema ‘Cymunedau Mwy Diogel’ yng Nghynllun y Cyngor.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi’r broses o uno swyddogaeth monitro teledu cylch caeedig gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

16.

Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant pdf icon PDF 299 KB

Pwrpas:        Nodi canfyddiadau Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant Cymru Gyfan.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad oedd yn rhoi trosolwg o Adroddiad Cynnydd Blynyddol sydd wedi’i lunio i asesu cynnydd ochr yn ochr â'r camau gweithredu, y blaenoriaethau a'r cerrig milltir sydd yn yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant.

 

            Roedd yr Adroddiad Cynnydd Blynyddol yn nodi’r camau gweithredu / cerrig milltir oedd wedi eu cyflawni yn ystod 2018/19 er mwyn ymateb i’r bylchau a'r meysydd i’w datblygu, y manylir yn llawn amdanynt yn yr adroddiad. Roedd hefyd yn nodi cryfderau craidd gan gynnwys asesiad bod:

 

·         Gofal plant mewn lleoliad da ac yn diwallu anghenion y rhan fwyaf o rieni;

·         Mae gofal plant yn ddibynadwy yn gyffredinol; ac

·         Mae’r rhan fwyaf o ymatebwyr yn credu bod gofal plant o ansawdd da.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant nesaf i'w gynnal cyn 2022 a bod gwaith eisoes yn cael ei wneud i wella cyfranogiad darparwyr a rheini ac adborth yn yr asesiad er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth o’r materion i wella'r asesiad o ran galw, digonolrwydd, a meysydd i’w datblygu.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Jones i’r tîm am eu gwaith yn y maes hwn, lle'r oedd plant yn derbyn gofal o'u geni hyd at pan fyddent yn mynd i'r ysgol gynradd.  Fe wnaeth hefyd gydnabod datblygiad y gronfa ddata a ddefnyddir oedd wedi ei chynllunio gan y tîm yr oedd awdurdodau lleol eraill bellach yn ei cheisio.  Roedd Aelodau’n cytuno gyda sylwadau’r Aelod Cabinet a dywedwyd bod Sir y Fflint yn cydnabod pwysigrwydd gofal o’r fath ac wedi dod yn arweinydd marchnad yn y maes.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi effeithiolrwydd ymateb strategol y Cyngor i sicrhau gofal plant digonol a chynaliadwy o safon uchel o fewn y sir sy'n ymateb i anghenion plant a'u teuluoedd; a

 

 (b)      Bydd y gwaith parhaus a'r ymrwymiad i gwblhau’r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant pob pum mlynedd a’r Adroddiad Cynnydd blynyddol yn cael ei gefnogi.

17.

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 176 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo’r adroddiad drafft cyn ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn nodi’r daith tuag at welliant ac yn gwerthuso perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o ran darparu gwasanaethau i bobl oedd yn hyrwyddo eu lles ac yn eu helpu i gyflawni eu canlyniadau personol.

 

            Roedd y fformat yn agos at y Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol ac yn arddangos perfformiad y Cyngor wrth fodloni canlyniadau lles pobl Sir y Fflint. Roedd pob blaenoriaeth gwella yn dod o dan un o’r chwe Safon Ansawdd Cenedlaethol y manylir amdanynt yn yr adroddiad.

 

            Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai’r Adroddiad yn ffurfio rhan bwysig o werthusiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) o berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint. Roedd y gwerthusiad hefyd yn hysbysu asesiad Swyddfa Archwilio Cymru o Gyngor Sir y Fflint fel rhan o’r adroddiad gwella blynyddol.

 

            Diolchodd y Prif Swyddog i’r Cabinet am y gefnogaeth a dderbyniwyd ar gyfer prosiectau cyfalaf sylweddol yn y sector gofal y gallai’r Cyngor fod yn falch ohonynt.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Yn dilyn adolygiad, y byddai’r Adroddiad Blynyddol yn cael ei gymeradwyo cyn belled ei fod yn darparu cofnod cywir a chlir o'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant yn Sir y Fflint.

18.

Adolygu’r Polisi Adennill Dyled Corfforaethol pdf icon PDF 190 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo newidiadau i’r polisi presennol ar gyfer Adennill Dyled Corfforaethol i gymryd i ystyriaeth yr arferion gwaith diweddaraf a diwygiadau i'r gyfraith.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad oedd yn ceisio cymeradwyaeth i Bolisi Adennill Dyled Corfforaethol wedi’i adnewyddu, sef dogfen bolisi unigol gyda gweithdrefnau a rheoliadau sefydledig ar gyfer casglu Trethi Cyngor, Trethi Busnes, Mân Ddyledion, Rhenti Tai a gordaliadau Budd-Dal Tai.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bod y polisi diwygiedig yn ystyried newidiadau sy’n ymwneud yn bennaf â:

 

·         Diwygio trefniadau beilïau a chyflwyno Rheoliadau newydd;

·         Tynnu traddodeb fel sancsiwn am beidio â thalu Treth y Cyngor;

·         Arferion gwaith mewnol diwygiedig i gasglu mân ddyledion yn cynnwys datblygu proses uwchgyfeirio fwy cadarn ar gyfer anfonebau y mae dadlau yn eu cylch;

·         Newidiadau i isafswm y trothwy ariannol wrth gymryd camau Methdaliad; ac

·         Arferion gweithio diwygiedig ar gyfer adfer rhenti tai heb eu talu.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y gallai penderfyniad Llywodraeth Cymru i waredu camau traddodi arwain at golli mwy o Dreth Cyngor yn y dyfodol. Fel cyfiawnhad dros waredu traddodeb, cyfeiriodd Llywodraeth Cymru at  y ffaith bod Llywodraeth yr Alban wedi gwaredu traddodeb ac er hynny, bod cyfraddau casglu yn yr Alban yn dal yn debyg i'r cyfraddau yng Nghymru. Y gyfradd casglu Treth Cyngor cyfartalog yn yr Alban ar gyfer 2017/18 oedd 96.0% o’i gymharu â chyfartaledd o 97.4% ar gyfer Cymru a 98.2% ar gyfer Sir y Fflint.

 

PENDERFYNWYD:

           

            Bod Polisi Adennill Dyled Corfforaethol, yn cynnwys y diwygiadau, yn cael ei ail gymeradwyo ar gyfer casglu Mân Ddyledion, Treth y Cyngor, Ardrethi Busnes, Rhenti Tai a gordaliadau Budd-dal Tai.

19.

Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2019/20 pdf icon PDF 219 KB

Pwrpas:        Amlinellu a cheisio cytundeb ar gyfer y ffioedd gwresogi arfaethedig mewn eiddo’r cyngor gyda systemau gwresogi ardaloedd cymunedol ar gyfer 2019/20.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad oedd yn cynnig ffioedd newydd diwygiedig ar gyfer gwresogi ardaloedd cymunedol er mwyn osgoi adeiladu diffyg ar y cyfrif gwresogi wrth gefn.  Roedd hyn oherwydd bod prisiau wedi codi yn uwch na'r disgwyl pan gytunodd y Cabinet ar y ffioedd ym mis Mehefin 2018.

 

                        Mae’r tabl yn yr adroddiad yn nodi’r ffioedd gwresogi a argymhellwyd yn seiliedig ar wir ddefnydd yn 2017/18 a 2018/19, y rhagdybiad y byddai costau yn codi o 18% yn 2019/20, ac y byddai defnydd yn aros ar lefelau tebyg am y 12 mis nesaf.  Byddai’r ffioedd newydd yn dod i rym ym mis Awst 2019 fel bod y cynnydd yng nghostau’r tenantiaid yn digwydd dros gyfnod hwy o amser.

 

PENDERFYNWYD:

           

            Bod y newidiadau i’r ffioedd gwresogi cyfredol yn adeiladau'r Cyngor sydd â systemau gwresogi cymunedol fel yr amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo – bydd yr holl newidiadau yn dod i rym o 1 Awst 2019.

20.

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy 2018 - 2028 pdf icon PDF 220 KB

Pwrpas:        Bydd gofyn i aelodau gytuno ar y cynllun terfynol yn dilyn yr ymgynghoriad 3 mis statudol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Thomas yr adroddiad oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Cynllun Gwella Hawliau Tramwy a llyfryn polisïau a gweithdrefnau.

 

                        Roedd y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy yn gynllun er mwyn i'r awdurdod lleol allu rheoli a gwella ei rwydwaith hawliau tramwy dros gyfnod 10 mlynedd. Mae’r ail Gynllun Gwella Hawliau Tramwy yn asesu rhwydwaith 2018 ac mae’n gwerthuso cynnydd a wnaed ers 2008.  Mae’r cyd-destun polisi cyfredol yn cael ei archwilio, ardaloedd blaenoriaeth yn cael eu nodi ac mae Datganiad Gweithredu newydd yn cael ei gynnig.

 

                        Rhan o’r cynllun oedd llyfryn yn cynnwys cyfres o bolisïau a gweithdrefnau’n ymwneud â Hawliau Tramwy.

 

PENDERFYNWYD:

           

            Cymeradwyo’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy a’r llyfryn polisïau a gweithdrefnau.

21.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 130 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirpwyedig.

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Strydwedd a Chludiant

  • Gorchymyn Cyngor Sir Y Fflint – A5104 Ffordd Corwen, Ffordd Y Rhos Treuddyn) (Terfyn Cyflymder 40mya a 50mya) 201x

Rhoi gwybod i Aelodau am wrthwynebiad a dderbyniwyd ar gyfer y terfyn cyflymder 40mya a 50mya arfaethedig ar A5104 Ffordd Corwen, Ffordd Y Rhos, Treuddyn.

 

Tai ac Asedau

  • Canolfan Gymunedol Ieuenctid Bistre, Trosglwyddiad Ased Cymunedol Bwcle o’r Adeilad a’r Ardal a Lesiwyd

Trosglwyddo Ased Cymunedol yr adeilad a’r tir cyfagos a adnabyddir fel Canolfan Gymunedol ac ieuenctid Bistre i’w ddatblygu i ddarparu adnoddau hyfforddi chwaraeon a hyfforddi dan do i’w defnyddio drwy gydol y flwyddyn, a chaffi.  Bydd dosbarthiadau ffitrwydd penodol yn cael eu hychwanegu at ardaloedd cyfredol y neuadd pan na fydd partïon cyfredol yn eu defnyddio. Byddai hen ystafelloedd dosbarth yn cael eu troi i ystafelloedd cyfarfod ac ystafelloedd addysg / briffio.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 ac 15 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

22.

NEWydd Catering and Cleaning Ltd – Adolygiad o’r Cynnydd a Chynllun Busnes Diwygiedig ar gyfer 2019-2022

Pwrpas:        Darparu adolygiad i’r Cabinet o berfformiad yn erbyn Cynllun Busnes 2018/19 a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer Cynllun Busnes 2019/20 i 2021/22.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin y cyflwyniad oedd yn rhoi manylion cynnydd NEWydd Catering and Cleaning Ltd hyd yma.

 

                        Roedd yr adroddiad yn rhoi’r cyfle i’r Cabinet adolygu sut roedd y trosglwyddiad i fusnes hyd braich wedi datblygu a chyfeiriad bwriedig y busnes dros y ddwy flynedd nesaf yn ystod cam nesaf y prosiect.

 

PENDERFYNWYD:

           

             (a)      Nodi cynnydd NEWydd Catering and Cleaning Limited yn ystod y flwyddyn

gyntaf o fasnachu; a

 

             (b)      Bod y Cynllun Busnes ar gyfer dyfodol y gwasanaeth yn cael ei gefnogi a’i

gymeradwyo.

23.

Adolygiad Cynnydd Hamdden a Llyfrgelloedd Aura

Pwrpas:        Adolygu cynnydd Aura ers iddo sefydlu yn 2017.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad oedd yn cyflwyno adroddiad blynyddol Aura ac ymateb y Cyngor. Yn gyffredinol roedd amcanion a thargedau'r Cynllun Busnes wedi wynebu nifer o heriau cydfuddiannol er mwyn cynnal perfformiad dros y blynyddoedd sydd i ddod.

 

                        Ystyriodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol y Cynllun yn eu cyfarfod diweddar, a chafodd ei dderbyn yn gadarnhaol a chefnogwyd ymateb y Cyngor fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

           

            Bod y Cynllun Busnes gydag Aura yn cael ei gefnogi a’i gymeradwyo gan nodi sylwadau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol.

24.

Adolygu Model Cyflogau’r Gweithlu

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn darparu trosolwg o effaith gweithredu ail flwyddyn (2019) cytundeb cyflog dwy flynedd (2018/19-2019/20) y Cydgyngor Cenedlaethol (NJC) gan ddefnyddio’r model cenedlaethol a’r newidiadau a wnaed fel rhan o waith cynnal y cytundeb Statws Sengl a weithredwyd yn 2014.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ar gynnydd a wnaed ar waith adolygu modelu tâl ar gyfer cyflwyno ail flwyddyn o gytundeb tâl y Cyd Bwyllgor Cenedlaethol (NJC) )(2018/19 – 2019/20), a’r newidiadau a wnaed fel rhan o gynnal y Cytundeb Statws Sengl (2014).

 

PENDERFYNWYD:

           

            Bod y cynnydd a wnaed o ran mabwysiadu Model Polisi newydd yn cael ei groesawu, gan nodi'r camau gweithredu a gymerwyd wrth ddefnyddio'r awdurdod dirprwyedig i gytuno gyda'r Undebau Llafur, a rhoi’r Model newydd ar waith.

25.

Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2019/2048

Pwrpas:        Cymeradwyo Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2019/2048.

Cofnodion:

Ar ôl datgan cysylltiad personol a chysylltiad sy'n rhagfarnu yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd Banks yr ystafell cyn y drafodaeth.

 

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad, gan egluro bod y Cynllun Busnes yn nodi elfennau allweddol Strategaeth Ddatblygu arfaethedig y cwmni i gynyddu’r nifer o Eiddo Rhent Fforddiadwy i'w cyflawni dros y tair blynedd nesaf i 207 o unedau.

 

                        Roedd rhwymedigaeth ar Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru i geisio cymeradwyaeth y Cabinet o ran unrhyw Gynllun Busnes oedd yn darparu amcanion strategol y cwmni. Ar gyfer pob blwyddyn rhaid i’r cwmni gydymffurfio gyda, a gweithredu Cynllun Busnes gyda chymeradwyaeth o flaen llaw gan y Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

           

             (a)      Cymeradwyo Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2019/2048; a

 

 (b)      Cymeradwyo bod y cynnydd mewn Benthyca Darbodus yn y dyfodol drwy’r Cyngor (hyd at uchafswm o £20 miliwn) ar gyfer benthyca ymlaen i Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru at bwrpas datblygu neu brynu tai fforddiadwy yn ddibynnol ar Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru yn bodloni paramedrau benthyca y cytunwyd arnynt.

26.

Model Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd

Pwrpas:        I dderbyn argymhelliad Bwrdd Llywodraethwyr Theatr Clwyd ar ei fodel arfaethedig o lywodraethu yn y dyfodol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Butler yr adroddiad oedd yn ystyried adolygiad amserol o’r opsiynau ar gyfer llywodraethu yn Theatr Clwyd. 

           

Eglurodd y Prif Weithredwr bod Bwrdd Llywodraethwyr Theatr Clwyd wedi cwrdd ar 4 Mehefin 2019 ac argymhellwyd model llywodraethu a ffefrir gyda throsglwyddiad yn barod ar gyfer cychwyn blwyddyn ariannol 2021/22. Cefnogwyd hyn gan yr Aelodau Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)     Bod argymhellion Bwrdd Llywodraethwyr Theatr Clwyd ar gyfer y model llywodraethu a ffefrir ar gyfer y dyfodol yn cael ei gefnogi; a

 

(b)      Bod adroddiad llawn a therfynol ar ddiwydrwydd dyladwy ar gyfer y model a ffefrir yn dod yn ôl i’r Cabinet., er mwyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud heb fod yn hwyrach na mis Rhagfyr 2019.          

27.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol a dim un aelod o’r cyhoedd.