Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny.

Cofnodion:

            Roedd gan y Cynghorydd Bithell gysylltiad personol ag eitem 6 ar yr agenda – Trefniadaeth Ysgol – Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm - Ymgynghoriad ar y Newid Arfaethedig i Ddynodiad o Ysgol Gymunedol i Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir.  Cafwyd datganiad cysylltiad personol gan y Cynghorwyr Banks a Jones ag eitem rhif 7 ar yr agenda – Cael Gwared ar Anghysonderau o ran Cludiant i’r Ysgol.

2.

Cofnodion pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 16eg Ebrill 2019

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ebrill ac fe’’u cymeradwywyd fel cofnod cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

3.

Adfywio Canol y Dref pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        Amlinellu dull y dyfodol ar gyfer adfywio canol trefi yn y Sir.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Butler adroddiad Adfywio Canol y Dref a baratowyd mewn ymateb i’r tri ffactor sbarduno allweddol canlynol:

 

1.    Amodau economaidd heriol parhaus y mae canol trefi yn y DU yn eu hwynebu;

2.    Ymrwymiad yng Nghynllun y Cyngor 2018/19 i ddatblygu ymateb; a’r

3.    Pryderon a fynegwyd gan Aelodau Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd ynghylch hyfywedd canol trefi Sir y Fflint a’r angen i’r Cyngor gynnig ymateb rhagweithiol.

 

Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r heriau economaidd sy’n wynebu canol trefi ac sy’n effeithio ar eu cynaliadwyedd. Amlinellwyd cyfres o ymatebion cadarnhaol i gynyddu amrywiaeth o ran defnyddiau mewn trefi, i gryfhau rôl grwpiau budd-ddeiliaid lleol a chefnogi busnesau i addasu a chystadlu’n fwy effeithlon.

 

Roedd y Cyngor wedi buddsoddi adnoddau sylweddol i gryfhau arweinyddiaeth gymunedol leol, a dyfynnwyd yr enghreifftiau canlynol:

 

·         Gweithio gyda budd-ddeiliaid Treffynnon ar ddatblygu trefn lywodraethu newydd ar gyfer y ganolfan hamdden ac ar gynllun treialu i ailagor y Stryd Fawr i draffig;

·         Cefnogi Cyngor Tref Bwcle i ddatblygu cynllun gweithredu tymor hir ar gyfer y dref;

·         Dod â budd-ddeiliaid Fflint ynghyd i lywio’r broses o adfywio a gweddnewid y dref a datblygu eu dyheadau ar gyfer yr ardal ger y d?r;

·         Gweithio gyda budd-ddeiliaid Glannau Dyfrdwy i ddatblygu strategaeth uchelgeisiol ar gyfer yr ardal a sicrhau buddsoddiad mawr gan Lywodraeth Cymru (LlC) tuag at ei darparu; a

·         Chefnogi budd-ddeiliaid yn yr Wyddgrug i ddatblygu cynllun tref tymor hir a sefydlu model llywodraethu ar gyfer rheoli man gwyrdd cymunedol.

 

Croesawodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad a’r cynigion sylweddol i helpu’r heriau a wynebir gan ganol trefi. Cyfeiriodd at nifer yr unedau o fewn trefi nad oedd yn eiddo i fusnesau lleol a’r anawsterau a wynebir wrth geisio cysylltu â landlordiaid absennol, a gofynnodd beth ellid ei wneud i’w hannog i gydweithio â’r Cyngor. Cyfeiriodd hefyd at stafelloedd uchaf unedau gwag y gellid eu defnyddio i fynd i’r afael â phrinder tai. Dywedodd y Cynghorydd Bithell fod y Cyngor wedi ceisio cysylltu â nhw droeon yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a hynny’n ofer, ond y byddai’n dal i ymdrechu.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas at ddatblygiad Ardaloedd Gwella Busnes, sef cwmnïau a sefydlwyd gan y gymuned fusnes leol i fuddsoddi yn eu hardal oedd yn gwella amodau masnachu busnesau, yn denu cwsmeriaid ac yn lleihau costau gweithredu. Roedd dros 300 ohonynt yn y DU ac roeddent yn ymchwilio i’r posibilrwydd o ddatblygu Ardal Gwella Busnes yng nghanol tref yr Wyddgrug. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r dull arfaethedig o helpu i adfywio canol trefi yn Sir y Fflint; a

 

(b)       Rhoi awdurdod dirprwyedig i Brif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) mewn ymgynghoriad ag Aelod Cabinet Datblygu Economaidd i wneud cais am gyllid allanol fel y daw ar gael i gefnogi’r dulliau o adfywio canol y dref.

4.

Strategaeth Toiledau Lleol pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Strategaeth Toiledau Lleol y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad Strategaeth Toiledau Lleol oedd yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am y broses ymgynghori cyhoeddus statudol a gwblhawyd. I helpu’r Cyngor i ddatblygu ei strategaeth, ymgysylltwyd â nifer o unigolion, rhwydweithiau budd-ddeiliaid a sefydliadau i gasglu gwybodaeth oedd yn helpu i ddatblygu asesiad anghenion a chyfrannu at y strategaeth ddrafft.

 

            Tra bod dyletswydd ar y Cyngor i baratoi Strategaeth Toiledau Lleol, pwysleisiwyd nad oedd yn rhaid iddo ddarparu a chynnal toiledau cyhoeddus yn uniongyrchol na gorfod darparu cyfleusterau penodol ychwanegol.

 

            Dechreuwyd yr ymgynghoriad statudol ar 4 Chwefror 2019 ac roedd yn para tan 26 Chwefror – derbyniwyd 201 o ymatebion. Dadansoddwyd yr ymatebion hynny a chafodd y rhai priodol ac angenrheidiol eu cynnwys yn y Strategaeth Toiledau Lleol Derfynol.

 

            Roed dy strategaeth arfaethedig yn cynnwys Cynllun Gweithredu 12 pwynt am y ddwy flynedd oedd dan sylw yn y strategaeth. Roedd y rhain wedi’u hatodi i’r adroddiad. 

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y gofynnwyd yn Ebrill 2019  i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd ganolbwyntio ar bum maes penodol oedd yn sail i’r strategaeth a’r pum cwestiwn a ofynnwyd, a manylwyd ynghylch yr ymatebion yn yr adroddiad. Roedd y Pwyllgor wedi cefnogi’r Strategaeth Toiledau Lleol a’r dull a gymerwyd gan swyddogion i’w pharatoi. 

 

Gwnaed nifer o sylwadau ynghylch cynllun arall ar gyfer awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru (LlC) nad oedd unrhyw arian i’w gefnogi. Trafodwyd y posibilrwydd o ddyfarnu Rhyddhad Ardrethi Annomestig Cenedlaethol i fusnesau lleol am gynnig toiledau i’r cyhoedd lle cymeradwywyd hynny fel rhan o’r strategaeth leol. Cytunwyd i fynd ar drywydd hyn gyda LlC.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r manylion yn yr adroddiad a chanlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus statudol ar y Strategaeth Toiledau Lleol;

 

(b)       Cymeradwyo’r Strategaeth Toiledau Lleol ar gyfer Cyngor Sir y Fflint; a

 

(c)        Gofyn i Lywodraeth Cymru dyfarnu gostyngiadau NNDE i fusnesau am gynnig toiledau i’r cyhoedd lle cymeradwywyd hynny fel rhan o’r Strategaeth Toiledau Lleol.

5.

Trefniadaeth Ysgol - Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm - Ymgynghoriad ar y newid arfaethedig i ddynodiad o Ysgol Gymunedol i Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        I wneud cais bod y Cabinet yn cytuno i ymgynghoriad o dan Ddeddf Safonau a Sefydliadau Ysgolion (Cymru) 2018 ar gynnig i newid dynodiad Ysgol Gynradd Licswm i Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad oedd yn cynnwys gwybodaeth am y newid arfaethedig  i ddynodiad o ysgol gymunedol i ysgol wirfoddol a gynorthwyir.

 

                        Roedd Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm wedi bod yn ystyried atebion cynaliadwy i gynnal eu hysgol yn ei chymunedol leol gydag ysgolion eraill, yr Awdurdod Esgobaethol a’r Cyngor. Roedd hyn yn dilyn penderfyniad gan y Cabinet i beidio â chyfuno Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm ag Ysgol Gynradd Gymunedol Brynford.

 

                        Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod y gwaith hwn wedi arwain at gytundeb rhwng Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm a Llywodraethwyr Ysgol Yr Esgob wirfoddol a gynorthwyir i geisio ffurfio ffederasiwn rhwng y ddwy ysgol. Fodd bynnag, nid yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 yn caniatáu i ysgolion ffydd na rhai sy’n seiliedig ar ymddiriedolaeth i ffedereiddio ag ysgolion cymunedol. Felly roedd angen i’r Cyngor ymgynghori ar newid arfaethedig i ddynodiad o Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm i Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2018.

 

                        Diolchodd y Prif Swyddog i’r Awdurdod Esgobaethol am eu rhan weithgar yn y trafodaethau gyda’r Cyngor a’r Ysgolion ac am gefnogi’r strategaeth arfaethedig. 

 

                        Mae’r amserlen a ragwelir ar gyfer y broses ymgynghori arfaethedig wedi’i hatodi i’r adroddiad.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cabinet yn fodlon fod Corff Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm wedi ystyried modelau addas a chanlyniadau i ddarparu addysg yn ardal Licswm; a

 

(b)       Bod y Cabinet yn cymeradwyo ymgynghoriad o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2018 ar gynnig i newid i ddynodiad o Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm i Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir i hwyluso ffederaleiddio yn y dyfodol.

6.

Cael gwared ar Anghysonderau o Ran Cludiant i’r Ysgol pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:        Ceisio cyngor y Cabinet ynghylch dod ag anghysonderau cludiant i’r ysgol a nodwyd yn adolygiad gwasanaeth 2019 i ben yn fuan.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yCynghorydd Thomas adroddiad cael gwared ar anghysonderau o ran cludiant i’r ysgol sydd, o ystyried yr heriau ariannol sylweddol sy’n wynebu’r Cyngor, yn opsiwn ar gyfer cael gwared ar yr anghysonderau hanesyddol o ran cludiant ym mis Gorffennaf 2019, yn lle Gorffennaf 2020 fel y cytunwyd yn flaenorol, i sicrhau arbedion yn y gyllideb.

 

            Cwblhawyd ymarferiad optimeiddio llwybrau cludiant ac ail-gaffael ym Medi 2017, gyda’r ymarferiad yn sicrhau’r budd gorau i’r gwasanaeth drwy sicrhau bod cerbydau’n cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithlon ynghyd â llwybrau a chapasiti cerbydau mwyaf cost effeithlon ar gyfer y nifer gofynnol o deithwyr cymwys. O ganlyniad i’r adolygiad, nodwyd nifer o drefniadau cludiant anstatudol hanesyddol oedd yn ychwanegol at y Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol presennol gyda chyfleoedd am wasanaeth arall ac arbedion effeithlonrwydd posibl.  

 

            Cyflwynwyd adroddiadau i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd yng Ngorffennaf a Thachwedd 2018 lle cytunwyd ar opsiwn i gefnogi parhad anghysonderau tan fis Gorffennaf 2020 gyda chefnogaeth y Cabinet ar 20 Tachwedd 2018. Fodd bynnag, o ystyried yr heriau ariannol sylweddol sy’n wynebu’r awdurdod, cyflwynwyd opsiwn o gael gwared ar yr anghysonderau hanesyddol o ran cludiant o fis Gorffennaf 2019.

 

            Opsiwn 1 oedd cael gwared ar yr anghysonderau ym mis Gorffennaf 2020. Byddai hyn yn cael effaith ar y gyllideb cludiant ysgolion ond byddai’n caniatáu i’r Uned Drafnidiaeth Integredig gynnal cyfnod ymgynghori ehangach gyda disgyblion i ystyried trefniadau cludiant eraill.

 

            Opsiwn 2 oedd cael gwared ar yr anghysonderau ym mis Gorffennaf 2019. Byddai hyn yn sicrhau arbediad ariannol i’r awdurdod ond byddai’n cael effaith sylweddol ar y disgyblion hynny sy’n defnyddio’r gwasanaethau gan nad oes unrhyw opsiynau cludiant cyhoeddus eraill ar hyn o bryd ar hyd y llwybrau hynny.

 

            Argymhellodd y Cynghorydd Thomas fod opsiwn 1 yn cael ei gefnogi yn unol â’r penderfyniad blaenorol gan y Cabinet a gefnogwyd.

 

            Eglurodd Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y byddai’r garfan o blant oedd wedi mynychu Ysgol Uwchradd John Summers yn flaenorol yn parhau i gael cludiant am ddim i’r ysgol i Ysgol Uwchradd Cei Conna nes bod eu cyfnod yn yr ysgol wedi dod i ben. Croesawyd hyn gan y Cynghorydd Jones.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn, eglurodd y Prif Weithredwr pe byddai cael gwared ar yr anghysonderau cludiant i’r ysgol wedi cael ei ddwyn ymlaen flwyddyn y byddai wedi cael effaith gadarnhaol ar y gyllideb, £229,000.  Deallwyd a derbyniwyd nad oedd arbediad pellach am gael ei sicrhau fel penderfyniad yn seiliedig ar werthoedd ar sail risg i ddysgwyr a theuluoedd.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod y Cyngor yn gweithredu polisi o ddewis i rieni a phwysleisiodd yr angen i rieni ddewis yn ofalus. Eglurodd Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod y ffurflen derbyniadau ysgolion yn egluro’r polisi cludiant i’r ysgol a bod angen ticio blwch i ddweud eu bod yn deall. Roedd cydweithwyr o Strydwedd hefyd yn bresennol mewn nosweithiau agored ysgolion uwchradd i ailadrodd manylion y polisi er mwyn i rieni a gofalwyr fod yn ymwybodol ohonynt. Os oeddent yn dewis peidio ag anfon eu  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Yr wybodaeth ddiweddaraf am Barc Adfer pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y cynnydd yn y gwaith o adeiladu cyfleuster Parc Adfer, ac ar baratoadau’r Bartneriaeth ar gyfer ei Gomisiynu.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad Parc Adfer ac eglurodd fod Cydbwyllgor Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru wedi cyfarfod yn ddiweddar i drafod newidiadau i ofynion trwyddedau amgylcheddol ar gyfer cyfleusterau Ynni a Gwastraff mewn perthynas â Deunydd Gronynnol (PM) ac argymhellodd adrodd ynghylch PM2.5, yn ychwanegol at ofynion y drwydded.

 

            O ganlyniad i bryderon a godwyd yn ystod y broses gaffael mewn perthynas ag allyriadau i’r aer o Barc Adfer, yn benodol deunydd gronynnol PM2.5, cafodd opsiwn cytundebol ei gynnwys yn y contract gyda Wheelabrator Technologies Inc (WTI) i fonitro ac adrodd ynghyd deunydd gronynnol PM2.5 yn ychwanegol at y drefn fonitro arferol y byddai’n rhaid i WTI ei chynnal o dan eu trwydded fel y cyflwynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a groesawyd gan y Cynghorydd Jones. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Banks, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai technoleg adrodd yn fodd i roi diweddariadau’n syth ar lefelau allyriadau.

 

            Eglurodd y Prif Weithredwr fod y safle’n cyflogi tua 400 o bobl oedd yn unol â disgwyliadau wrth i’r gwaith adeiladu ddod i ben a’r cyfnod comisiynu ddod yn nes. Dechreuodd y gwaith o adeiladu cyfleusterau Parc Adfer yn Ionawr 2017, a byddai’r gwaith o gomisiynu’r cyfleusterau a derbyn gwastraff gweddilliol y Bartneriaeth yn dechrau ym Mehefin 2019, gan gyrraedd capasiti gweithredol llawn erbyn diwedd 2019. Amcangyfrifwyd y byddai’r safle’n creu digon o ynni adnewyddadwy i bweru mwy na 30,000 o gartrefi. Hefyd, byddai cyfanswm o 34 o swyddi newydd yn cael eu creu yn amrywio o reoli’r safle i swyddi gweithredol, technegol a gweinyddol.

 

            Roedd gwaith hefyd wedi’i wneud gyda phob parti dan sylw i sicrhau na fyddai lorïau’n tarfu ar drigolion trwy deithio ar isffyrdd – roedd sicrwydd wedi’i roi y byddai llwybrau lorïau’n cael eu pennu drwy brif ffyrdd A.

 

            Roedd y gwaith o adeiladu Parc Adfer wedi’i reoli’n dda – yn ddiweddar bu Cyngor Diogelwch Prydain yn archwilio’r safle a dyfarnwyd 5 seren i’r prosiect. Byddai Aelodau’n cael eu gwahodd i’r safle i gyfarfod y tîm gweithredol. Hefyd byddai rhan addysgol ar y safle lle byddai plant ysgol yn cael eu gwahodd fel rhan o ymweliadau ysgolion a drefnir.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad; a

 

(b)       Bod Aelodau’n cael sicrwydd o gynnydd a’i fod yn barod ar gyfer dechrau Comisiynu Parc Adfer.

8.

Adroddiad Cynghorol – Adnewyddu Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Cabinet ac yn cadarnhau trefniadau newydd ar gyfer y Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru newydd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad Adnewyddu Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru oedd yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf ac yn cadarnhau’r trefniadau newydd ar gyfer y Fframwaith.

 

Sefydlwyd Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru yn 2014 ac roedd yn weithredol tan 2018. Fe’i sefydlwyd ar y dechrau i godi adeiladau ysgol newydd, neu ailfodelu ac adnewyddu adeiladau ysgol presennol o dan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Fodd bynnag, datblygodd y Fframwaith a gellid hefyd ei ddefnyddio gan gyrff sector cyhoeddus eraill yn y rhanbarth i ddarparu eu prosiectau ar wahân i ysgolion.

 

Roedd y Fframwaith yn darparu dull syml, cost effeithlon a chydweithredol i sicrhau contractwyr ar gyfer prosiectau adeiladu mewn ysgolion ac adeiladau cyhoeddus eraill drwy Ogledd Cymru. Roedd ugain o brosiectau rhanbarthol wedi sicrhau nifer o fuddion cymunedol a amlinellwyd yn yr adroddiad – byddai’r nifer hwnnw’n debygol o gynyddu wrth i brosiectau terfynol Band A gael eu cwblhau.

 

Amlinellwyd manylion y Fframwaith newydd a’r broses yn yr adroddiad. Byddai’r Fframwaith yn cael effaith gadarnhaol yn rhanbarth Gogledd Cymru gan greu cyfleusterau newydd ar gyfer defnydd cyhoeddus yn cynnwys ysgolion newydd, creu swyddi yn y sector adeiladu, gwella cyrhaeddiad addysgol, gan ddarparu’r cyfleoedd i gynnwys ac ymgysylltu â’r gymuned a helpu i hybu diwylliant bywiog a’r iaith Gymraeg. Y Fframwaith fyddai’r cerbyd caffael ar gyfer rhaglen fuddsoddi band B Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

PENDERFYNWYD:

           

Nodi’r adroddiad.

9.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 50 KB

Pwrpas:        Darpau manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirpwyedig.

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem gwybodaeth ar y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Mae’r camau i’w gweld isod:-

 

Strydwedd a Chludiant

  • Cyngor Sir y Fflint – Linderick Avenue, Southfields Close, Muirfield Road a Selsdon Close, Buckley. Gorchymyn (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Lleoedd Parcio) (Gorfodaeth Sifil a Chydgrynhoi) (Diwygiad Rhif. 12) 201.

Hysbysu Aelodau ynghylch y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn hysbysebu Gorchymyn Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Lleoedd Parcio) (Gorfodaeth Sifil a Chydgrynhoi) (Diwygiad Rhif. 12) arfaethedig ar Linderick Avenue, Southfields Close, Muirfield Road a Selsdon Close, Bwcle.

 

  • Cyngor Sir y Fflint – Carlines Avenue, Grant Drive a Lincoln Road, Ewlo Gorchymyn (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Lleoedd Parcio) (Gorfodaeth Sifil a Chydgrynhoi ) (Diwygiad Rhif. 12) 201.

Hysbysu Aelodau ynghylch y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn hysbysebu Gorchymyn Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Lleoedd Parcio) (Gorfodaeth Sifil a Chydgrynhoi) (Diwygiad Rhif. 12) arfaethedig ar Carlines Avenue, Grant Drive a Lincoln Road, Ewlo.

 

  • Gwaredu Dau Hen Caterpillar Genset trwy Ran Gyfnewid ar gyfer Llogi Uned Lai mewn Safle Tirlenwi Safonol.

            Gwaredu dau hen Genset 1MW CAT â Pheiriant Nwy a         ddatgomisiynwyd (nad oes mo’u hangen mwyach) yn safleoedd      Tirlenwi Brookhill a rhai Safonol, fel darnau sbâr/sgrap.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

10.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

            Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol ond nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.