Agenda and minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

272.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny.

Cofnodion:

            Dim.

273.

Cofnodion pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarodydd ar 20fed Tachwedd, 2018, fel cofnod cywir.

Cofnodion:

            Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2018 fel cofnod cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

 

274.

Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20 - Rhagolwg Wedi'i Ddiweddaru A Phroses Ar Gyfer Cam 3 Gosod Y Gyllideb

Pwrpas:        (1)       darparu rhagolwg cyllideb manwl ar gyfer 2019/20 yn dilyn

cyhoeddiadau diweddar gan Lywodraeth Cymru a’r

adroddiad a waned i’r Cyngor Sir ar 11 Rhagfyr 2018; a

 

                        (2)       gosod proses a awgrymir ar gyfer Cam 3 sy’n arwain at

osod cyllideb gytbwys ar ddechrau 2019 (gan nodi y caiff

Setliad Terfynol Llywodraeth Leo lei gyhoeddi ar 19 Rhagfyr).

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr eitem ar lafar a darparodd gopïau o sleidiau'r cyflwyniad a oedd wedi'i roi yng nghyfarfod y Cyngor Sir yr wythnos gynt.

 

            Ni dderbyniwyd unrhyw wybodaeth arall ers y manylion a ddarparwyd yng nghyfarfod y Cyngor gan y disgwylid y Setliad Terfynol y diwrnod canlynol.  Fodd bynnag, roedd rhywfaint o wybodaeth wedi’i derbyn am y sefyllfa o ran rhai grantiau llai.

 

            Byddai papur briffio ar gael erbyn diwedd yr wythnos ac adroddiad i’r Cabinet ar 22 Ionawr ac yna i’r Cyngor Sir ar 29 Ionawr lle byddai cyllideb yn cael ei hargymell i gael ei chymeradwyo.  Byddai gwybodaeth hefyd ar gael ynghylch cronfeydd wrth gefn a balansau, a benthyca drwy'r Cyfrif Benthyciadau a Buddsoddi Corfforaethol.

 

            Bu trafodaeth yngl?n â’r gyllideb yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos gynt, a gofynnwyd i'r Aelodau a oeddent yn dymuno comisiynu'r Cabinet i wneud rhywfaint mwy o waith cyn mis Ionawr.  Bu iddynt ofyn am wybodaeth yngl?n â Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a Strydwedd fel dau faes o orwariant parhaus flwyddyn ar ôl blwyddyn; byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor fis Ionawr.  Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod wedi ymateb i'r sylwadau i geisio egluro ei bod yn afresymol gofyn am unrhyw waith manwl ar unrhyw ddewisiadau newydd mor hwyr yn y broses o osod y gyllideb.  Derbyniodd aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol na ellid gwneud dim mwy i ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd eraill oni bai fod arbedion sylweddol i’w cael yn y ddau faes hynny, a chytunodd Aelodau’r Cabinet â hynny.  Yr unig ddewisiadau a oedd ar gael i lunio cyllideb gytbwys – ar wahân i well Setliad gan Lywodraeth Cymru – oedd cynyddu Treth y Cyngor, a chyfyngu ar ddefnyddio cronfeydd wrth gefn a balansau.

 

            Roedd y gyllideb ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi’i chymeradwyo y diwrnod cynt, a oedd wedi arwain at gynnydd i'r ardoll o 5.14%.

 

            Eglurodd y Cynghorydd Shotton fod llythyrau wedi cael eu hanfon i Ysgrifenyddion y Cabinet yn Llywodraeth Cymru gan Gadeiryddion Pwyllgorau Craffu Sir y Fflint a diolchodd iddynt am hynny.

 

            Mewn perthynas â sylw ar fenthyca i awdurdodau lleol eraill gan y Cynghorydd Attridge, eglurodd y Prif Weithredwr fod hyn yn digwydd a'i fod yn creu llog ychwanegol ar gyfer y Cyngor.  Byddai manylion hyn a meysydd eraill o ddiddordeb yn cael eu rhoi ar wefan y Cyngor ar yr adran oedd â gwybodaeth am y gyllideb.

 

            Mynegodd y Cynghorydd Bithell ei bryder yngl?n ag effaith ehangach cynnydd yn Nhreth y Cyngor oherwydd y Setliadau annerbyniol i gyllidebau awdurdodau lleol.

 

            O ran Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, eglurodd y Cynghorydd Jones fod gan Sir y Fflint rai lleoliadau drud, fel roedd gan awdurdodau lleol eraill, ac roedd ffyrdd eraill o weithio yn y dyfodol yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.  Ni fyddai’r gwaith hwn yn effeithio ar y gyllideb a oedd dan sylw.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas  ...  view the full Cofnodion text for item 274.

275.

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint: Cynllun Lles ar gyfer Sir y Fflint 2017 – 2023 – Adolygiad Canol Blwyddyn pdf icon PDF 111 KB

Pwrpas:        I ddarparu trosolwg o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a gwaith y Bwrdd yn dilyn mabwysiadu’r Cynllun Lles (y Cynllun).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Adolygiad Canol Blwyddyn Cynllun Lles Sir y Fflint 2017-2023 gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a oedd yn rhoi trosolwg o waith y Bwrdd ar ôl mabwysiadu'r Cynllun Lles ym mis Ebrill 2018.

 

                        Roedd yr adroddiad yn dangos bod cynnydd da wedi’i wneud o ran cyflawni blaenoriaethau’r Cynllun Lles a bod gwaith partneriaeth ar draws y sefydliadau’n parhau’n gryf.

 

                        Pan gyhoeddwyd y Cynllun ym mis Mai 2018, roedd pum maes blaenoriaeth iddo, sef:

 

·         Diogelwch Cymunedol;

·         Yr Economi a Sgiliau;

·         Yr Amgylchedd;

·         Byw yn Iach ac Annibynnol; a

·         Cymunedau Gwydn.

 

Ar gyfer eleni, mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) wedi penderfynu canolbwyntio ar bedair o'r pum blaenoriaeth y cytunwyd arnynt gan roi blaenoriaeth yr Economi a Sgiliau o'r neilltu wrth ddisgwyl am gyfeiriad rhanbarthol mwy eglur ynghylch y Fargen Dwf a Chynllunio Economaidd Rhanbarthol gan Lywodraeth Cymru.  Byddai’r thema’n cael ei hadnewyddu yng nghyfnod cynllunio blynyddol nesaf y BGC.

 

Croesawai’r Cynghorydd Shotton yr adroddiad cadarnhaol a oedd yn canolbwyntio ar werthoedd cymdeithasol a chydweithio.  Soniodd fod y Cynghorydd Paul Johnson, yn un o gyfarfodydd diweddar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, wedi talu teyrnged i'r gwaith a wnaed yn Holway ynghlwm â datblygu cymunedol.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Sicrhau’r Cabinet yngl?n â lefel y cynnydd y mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint wedi'i wneud hyd yn hyn.

276.

Strategaeth Digartrefedd Rhanbarthol a Chynllun Gweithredu Lleol pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i Strategaeth Digartrefedd Rhanbarthol Gogledd Cymru a Chynllun Gweithredu Lleol Sir y Fflint 2019-22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge Strategaeth Ranbarthol Digartrefedd ac adroddiad y Cynllun Gweithredu Lleol a oedd yn rhoi manylion yngl?n â’r strategaeth ranbarthol y cytunwyd arni gan Gynghorau Gogledd Cymru ynghyd â chynllun gweithredu lefel uchel a oedd yn seiliedig ar adolygiadau annibynnol ym mhob sir.  Byddai’r dull rhanbarthol yn galluogi rhannu arferion gorau trwy ddatblygu gwell dealltwriaeth o'r problemau, a hybu gwaith partneriaeth lle bo modd.

 

            Amcanion y strategaeth ddigartrefedd oedd atal digartrefedd a sicrhau bod llety addas a chefnogaeth foddhaol ar gael i bobl ddigartref.  Roedd themâu cyffredin wedi’u pennu ar gyfer y rhanbarth – Pobl, Cartrefi a Gwasanaethau.  O fewn y themâu hynny, mae'r adolygiad a'r cynllun gweithredu lleol yn Sir y Fflint wedi nodi camau blaenoriaeth er mwyn mynd i’r afael â digartrefedd a’i atal yn y sir.  Roedd y meysydd allweddol a nodwyd yn cynnwys pobl ifanc ddigartref; rhai sy'n gadael y carchar; datblygu dulliau tai yn gyntaf; gwella mynediad at lety; lliniaru trefniadau diwygio’r gyfundrefn les; a gwell partneriaethau gyda'r maes iechyd a gofal cymdeithasol.

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Bithell sylwadau ar bosibiliadau i eiddo gwag ddechrau cael ei ddefnyddio eto, yn enwedig llety uwch ben siopau.  Croesawai unrhyw waith gyda landlordiaid yn y dyfodol er mwyn i eiddo o'r fath gael ei ddefnyddio eto.  Eglurodd y Cynghorydd Attridge bod y Cyngor yn gweithio gyda landlordiaid a bod cynrychiolaeth yng nghyfarfodydd Fforwm y Landlordiaid.  Roedd cynlluniau gweithredu i ganol y dref ar waith i ymdrin â'r broblem hon ac roedd y gwaith hwnnw'n parhau. Soniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) am y gwaith cadarnhaol a oedd eisoes wedi’i wneud gan swyddogion a landlordiaid mewn maes heriol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Mabwysiadu Strategaeth Ranbarthol Digartrefedd Gogledd Cymru a’r cynllun gweithredu lefel uchel; a

 

 (b)      Cefnogi’r camau blaenoriaeth a nodir yng Nghynllun Gweithredu Lleol Digartrefedd Sir y Fflint.

277.

Cludiant Ysgol - Tocynnau Consesiynol pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Cytuno ar gyfradd tâl ar gyfer tocynnau teithio rhatach cludiant i'r ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad Cludiant i'r Ysgol – Seddi Gwag Rhatach a oedd yn ystyried costau'r tocynnau teithio rhatach ar gyfer blwyddyn ysgol 2019/20.

 

            Cyflwynwyd adroddiadau i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a'r Cabinet fis Gorffennaf 2018 ac yn dilyn hynny fe gymeradwyodd y Cabinet fabwysiadu Dewis 2 – £300 y flwyddyn neu £100 y tymor, fel y strwythur prisiau ar gyfer tocyn bysiau rhatach ar gyfer 2018/19, a chynnal adolygiad.  Roedd y gyfradd hon yn dal yn llai na 50% o gost lawn darparu seddi rhatach a oedd yn creu pwysau ariannol ar yr Awdurdod.  Nod y Cyngor oedd creu cymaint â phosib' o refeniw ac adennill costau'n llawn lle bo modd.  Nid oedd effaith y cynnydd ar gost seddi rhatach wedi cael effaith niweidiol ar y niferoedd a oedd yn gofyn am seddi rhatach, fodd bynnag, roedd nifer y disgyblion a oedd yn prynu'r seddi hynny'n is nag erioed.  Byddai’r effaith fwyaf ar y rhai a fyddai’n symud i’r bysiau ysgol o’r gwasanaeth bysiau cyhoeddus, pan fyddai'r cymorthdaliadau ar gyfer y llwybrau hynny’n dod i ben.  Byddai’r disgyblion hynny’n wynebu cost uwch o docynnau teithio rhatach; roedd yn bwysig nodi eu bod yn talu ar y gwasanaeth cyhoeddus a bod y pris a argymhellir ar gyfer tocynnau rhatach yn cynrychioli gwerth rhesymol, wrth ei ystyried ochr yn ochr â phrisiau cyfredol ar gyfer teithiau i'r ysgol ar wasanaethau bysiau cyhoeddus.  Roedd y dewisiadau ar gyfer tocynnau rhatach yn y dyfodol i’w gweld yn atodiad yr adroddiad.    Er mai’r nod hirdymor fyddai adennill costau’r gwasanaeth yn llawn, teimlid y byddai’n annheg codi’r prisiau i’r lefel honno dros gyfnod mor fyr ac felly ni argymhellid dewisiadau 1 a 3 ar yr adeg hon.  Roedd Dewis 2 – £450 y flwyddyn neu £150 y tymor yn cynnig cydbwysedd rhwng adennill costau'n llawn a fforddiadwyedd y cynllun i rieni, yn enwedig rhai a oedd â nifer o blant yn teithio i'r ysgol ar y gwasanaethau hynny ac felly fe gafodd ei argymell ar gyfer blwyddyn ysgol 2019/20.  Byddai'r tâl yn cael ei gyflwyno o fis Medi 2019 ymlaen a byddai pris seddi rhatach, yn y dyfodol, yn rhan o'r adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau ar draws holl wasanaethau’r Cyngor.

 

            Ychwanegodd y Cynghorydd Roberts fod y ffurflen derbyniadau i ysgolion wedi'i newid i gynnwys 'blwch ticio' i rieni ddangos eu bod yn deall y polisi trafnidiaeth a’r trefniadau.  Dywedodd fod y polisi wedi bod yn hael yn y blynyddoedd diwethaf a nod yr adran addysg oedd i'r holl ysgolion berfformio i'r safon orau bosib' a dylai rhieni ddewis yr ysgol agosaf.  Pe baent yn bodloni’r meini prawf gofynnol, byddai cludiant yn cael ei ddarparu.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r wybodaeth a ddarparwyd ar ragdybiaethau refeniw o’r amryw ddewisiadau ar gyfer prisiau tocynnau rhatach;

 

 (b)      Cymeradwyo Dewis 2 – £450 y flwyddyn (£150 y tymor) fel y pris a ffefrir ar gyfer seddi rhatach yn 2019/20.

 

278.

Adolygiad Polisi Cludiant yn ôl Disgresiwn: Cludiant i Ysgolion a Cholegau Ôl-16 a Hawl i fudd-daliadau pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Ystyried yr opsiynau ar gyfer ymgynghori ar feysydd polisi cludiant i'r ysgol yn ôl disgresiwn ar gyfer darpariaeth ôl-16 a hawl i fudd-daliadau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad yr Adolygiad Polisi Cludiant yn ôl Disgresiwn: Cludiant i’r Ysgol a’r Coleg Ôl-16 a Hawl i Fudd-daliadau a oedd yn amlinellu’r ddau faes disgresiwn ac ystod lawn o ddewisiadau i'w hystyried i sicrhau proses ymgynghori agored a thryloyw.

 

            Pwysleisiodd nad oedd angen unrhyw benderfyniad heddiw ac roedd ystod o ddewisiadau’n cael eu cynnig er mwyn cychwyn proses ymgynghori ffurfiol.  Rhoddodd sicrwydd na phenderfynwyd ar unrhyw un o'r dewisiadau ymlaen llaw.

 

            Byddai ymgynghoriad â’r holl fudd-ddeiliaid, gan gynnwys y rhai hynny y bydd y newid arfaethedig yn debygol o effeithio arnynt.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y byddai’r holl fudd-ddeiliaid yn cael eu hannog i ymateb ac roedd partneriaid allweddol wedi cael gwybod bod ymgynghoriad yn cael ei argymell i’r Cabinet.  Ychwanegodd y Prif Weithredwr ei bod yn bwysig i fudd-ddeiliaid gymryd rhan adeiladol yn yr ymarfer ymgynghori.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd yr Awdurdod mewn perygl o her drwy adolygiad barnwrol gan nad oedd unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r ystod o ddewisiadau ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol yng ngwanwyn 2019 ar feysydd y polisi cludiant i'r ysgol yn ôl disgresiwn ar gyfer darpariaeth ôl-16 a hawl i fudd-daliadau.

279.

Gorfodi Amgylcheddol pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        Ceisio am argymhelliad y Cabinet am ddyfodol y dull o ddarparu gwasanaeth ar gyfer gorfodi amgylcheddol a maes parcio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ar Orfodi Amgylcheddol a oedd yn dilyn penderfyniad y Cabinet ym mis Gorffennaf 2018 na ddylid ymestyn y cytundeb dan gontract ar gyfer gorfodi amgylcheddol y tu hwnt i fis Rhagfyr 2018.

 

Fodd bynnag, ers mis Awst 2018, roedd Kingdom wedi tynnu eu gwasanaethau o Sir y Fflint ac roedd y tîm gweddilliol y Swyddogion Gorfodi mewnol wedi ymgymryd â’r holl weithgareddau gorfodi yn y Sir.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi pedwar dewis posib’ i wneud gwaith gorfodi ar draws y Sir, yn unol â pholisïau gorfodi amgylcheddol cymeradwy’r Cyngor. 

 

Roedd adroddiad wedi cael ei ystyried yn ddiweddar ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd lle roedd y dewis a ffefrir wedi’i nodi fel Dewis 2 – ‘darpariaeth orfodi fewnol uwch’ – fodd bynnag, roedd y Pwyllgor wedi argymell y dylid oedi trafodaethau gydag awdurdodau cyfagos er mwyn caniatáu i'r trefniant presennol sefydlogi ar ôl i Kingdom adael.  Roedd trafodaethau anffurfiol wedi’u cynnal gydag awdurdodau cyfagos a oedd yn canolbwyntio ar rannu cyfleusterau cefn swyddfa a Swyddogion Gorfodi’n patrolio mewn ardaloedd dynodedig.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Thomas y dylid newid y ‘goddef dim’ y cyfeirir ato yn Newid 2 i ‘ollwng sbwriel yn fwriadol’ ac y dylid rhoi disgresiwn i Swyddogion Gorfodi i benderfynu a oedd sbwriel wedi'i ollwng yn fwriadol.  Os nad oedd bwriad, ni fyddai dirwy'n cael ei rhoi.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod y ddwy swydd wag ar gyfer Swyddogion Gorfodi wedi’u llenwi, sy’n creu tîm o saith ac un goruchwylydd.  Roedd disgwyl i ran o’r costau ar gyfer unrhyw swyddi ychwanegol gael eu talu drwy’r refeniw ychwanegol a fyddai’n dod o gyflwyno Rhybuddion Cosb Benodedig. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Attridge bryder yngl?n â newid y geiriad o ‘oddef dim’ i ‘ollwng sbwriel yn fwriadol’, gan sôn am enghreifftiau lle roedd ffurfiau eraill ar oddef dim yn berthnasol, fel parcio ar linellau y tu allan i ysgolion a baw c?n.  Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod peidio â rhoi disgresiwn i Swyddogion Gorfodi’n eu gwarchod gan na ellid herio yn y fan a’r lle.  Awgrymodd y Cynghorydd Shotton y dylid trafod mwy ar y polisi a dod ag adroddiad yn ôl ger bron y Cabinet yn y dyfodol.  Cytunwyd ar hyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bithell nad oedd dull llai llym yn gweithio ac nad oedd y strydoedd heddiw mor lân ag yr oeddent yn y gorffennol.  Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod elfen 'goddef dim' y polisi'n dal ar waith ac y byddai Swyddogion yn gweithredu ar unrhyw enghreifftiau o barcio y tu allan i ysgolion ac o faw c?n.

 

Awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) eiriad ar gyfer trydydd argymhelliad, yn seiliedig ar y drafodaeth a gafwyd, sef “Bod Polisi Gorfodi'n cael ei baratoi i'r Cabinet ei gymeradwyo a bod y Polisi'n ystyried posibiliadau a goblygiadau rhoi disgresiwn i Swyddogion Gorfodi benderfynu pryd y dylid ac a ddylid rhoi Rhybudd Cosb Benodedig”.  Cefnogwyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

                       

 (a)      Cymeradwyo Dewis 2 (darpariaeth orfodi fewnol uwch) ar  ...  view the full Cofnodion text for item 279.

280.

Polisi Gorfodi Cynllunio pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi'r Polisi diwygiedig, sydd ei angen er mwyn adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol ac arferion gwaith newydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad y Polisi Gorfodi Cynllunio a oedd yn nodi sut roedd y Cyngor yn bwriadu darparu'r gwasanaeth.  Roedd y polisi’n rhoi eglurder am y meini prawf y byddai’r Cyngor yn eu cymryd i ystyriaeth pan fyddai’n ystyried dan ba amgylchiadau y byddai’n cymryd camau gorfodi.

 

            Roedd hefyd yn rhoi eglurder a thryloywder i'r rhai y gellid gweithredu yn eu herbyn ac roedd yn allweddol i gyflwyno newid gweithredol a diwylliannol ynghlwm â Gorfodi Cynllunio.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod yr angen am bolisi diwygiedig wedi dod i'r amlwg yn 2016 a hefyd ar ôl archwiliad ar Orfodi Cynllunio.  Byddai hyfforddiant ar Orfodi Cynllunio’n cael ei ddarparu i'r holl Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cyhoeddi’r Polisi Gorfodi Cynllunio.

281.

Cynllun y Cyngor 2018/19 – Monitro Canol Blwyddyn pdf icon PDF 142 KB

Pwrpas:        Cytuno ar y lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgarwch, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 18/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad monitro canol blwyddyn Cynllun y Cyngor 2018/19, a oedd yn adroddiad a oedd yn seiliedig ar eithriadau a ganolbwyntiai ar danberfformio.  Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am geisiadau a wnaed yn y cyfarfod diwethaf am ddarlun o'r cylch cynllunio ar gyfer cynllunio ariannol, busnes a pherfformiad, a gwybodaeth am yr amrywiaeth o wybodaeth perfformio sydd ar gael y gall Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ei defnyddio er mwyn adrodd am berfformiad.

 

            Roedd Sir y Fflint yn Gyngor sy'n perfformio'n dda fel y nodwyd yn adroddiadau monitro Cynllun y Cyngor yn y gorffennol a’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol diweddar. Roedd adroddiad monitro canol blwyddyn Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19 yn dangos bod 88% o weithgareddau'n gwneud cynnydd da a bod 81% yn debygol o gyflawni'r canlyniadau bwriadedig.  Roedd 79% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu fynd y tu hwnt i’w targed.  Roedd risgiau’n cael eu rheoli gyda chyfran fechan o 18% wedi’u hasesu fel rhai mawr.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo a nodi'r canlynol:

 

·         Lefelau cynnydd a hyder cyffredinol o ran cyflawni gweithgareddau o fewn Cynllun y Cyngor;

·         Y perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor;

·         Y lefelau risg presennol o fewn Cynllun y Cyngor;

 

 (b)      Bod y Cabinet wedi eu sicrhau gan gynlluniau a chamau gweithredu i reoli'r broses o gyflawni Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19; a

 

 (c)       Bod adroddiad pellach yn cael ei dderbyn fis Ionawr gyda darlun o'r cylch cynllunio ar gyfer cynllunio ariannol, busnes a pherfformiad, a gwybodaeth am yr amrywiaeth o wybodaeth ar berfformio sydd ar gael lle gall Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ei defnyddio er mwyn adrodd am berfformiad.

282.

Cyfamod y Lluoedd Arfog - Adroddiad Blynyddol pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog ar gyfer ei gymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog, sef yr ail adroddiad blynyddol i Sir y Fflint. 

 

Roedd Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl i sicrhau bod y rhai sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a'u teuluoedd yn cael eu trin yn deg, yn ogystal â’r rhai sy’n gwasanaethu heddiw.  Roedd y Cyfamod yn gyfrifoldeb cenedlaethol a oedd yn cynnwys y llywodraeth, busnesau, awdurdodau lleol, elusennau a'r cyhoedd, gan annog cymunedau lleol i gefnogi'r lluoedd arfog yn eu hardal a hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth.

 

            Roedd y Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi cymuned y lluoedd arfog drwy weithio gyda nifer o bartneriaid a oedd wedi llofnodi’r Cyfamod, gan gynnwys Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint a’r Lleng Brydeinig.  Pwrpas Cyfamod Sir y Fflint oedd annog cefnogaeth ar gyfer cymuned y lluoedd arfog a oedd wedi gweithio ac/neu a oedd yn byw yn Sir y Fflint a chydnabod a chofio eu haberth.

 

            Byddai’r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir ar 29 Ionawr.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad a diolchodd i Arweinydd y Cyngor am y cyfle a roddwyd i’r Cynghorydd Dunbobbin i fod yn Gefnogwr Cyfamod y Lluoedd Arfog, a oedd n cael ei gydnabod yn gadarnhaol yn lleol ac yn genedlaethol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r cynnydd cadarnhaol a wnaed i weithredu Cyfamod y Lluoedd Arfog a chefnogi’r ymrwymiadau ar gyfer gwelliannau eraill; a

 

 (b)      Bod Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei gymeradwyo cyn ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.

283.

Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (mis 7) pdf icon PDF 145 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2018/19 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 7 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (mis 7), a oedd yn nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw yn 2018/19 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno sefyllfa’r flwyddyn ariannol, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 7, os nad oedd unrhyw newidiadau.

           

            Y sefyllfa a ragwelid ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

 

·         Diffyg gweithredol o £0.325 miliwn (£0.222 miliwn ym Mis 6); a

·         Balans disgwyliedig yn y gronfa at raid ar 31 Mawrth 2019 o £7.347 miliwn a ostyngodd i £5.447 miliwn wrth ystyried y cyfraniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer cyllideb 2019/20.

 

Cyfrif Refeniw Tai

 

·         Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £67,000 yn is na’r gyllideb; a

·         Balans terfynol disgwyliedig ar 31 Mawrth 2019 yn £1.165 miliwn.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys sefyllfa ragamcanol Cronfa'r Cyngor; sefyllfa ragamcanol yn ôl portffolio; lleoliadau y tu allan i’r sir; gwasanaethau anableddau – cyfraniadau iechyd; cyfraniadau cyflogwr i'r Gronfa Bensiynau; olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn a materion sy'n dod i'r amlwg; cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn; risgiau eraill a gaiff eu holrhain; ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol; incwm; incwm o ailgylchu; ysgolion – risgiau ac effeithiau; materion eraill yn ystod y flwyddyn; cronfeydd wrth gefn a balansau; a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi.

 

Ar wahân i’r wybodaeth a nodir yng nghofnod rhif 274 (gwybodaeth am Leoliadau y Tu Allan i'r Sir a Strydwedd fel dau faes o orwariant parhaus flwyddyn ar ôl blwyddyn), nid oedd unrhyw sylwadau eraill gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol i’w hadrodd.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2019; a

 

 (b)      Nodi lefel derfynol ddisgwyliedig y balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai.

284.

Tendr ar gyfer Casglu a Gwerthu Nwyddau Cartref drwy Fenter Gymdeithasol pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        Cytuno ar yr opsiwn caffael ar gyfer y gwasanaeth gwastraff swmpus a datgymalu.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ac eglurodd bod Rheoliadau Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor dendro’r gwaith i sicrhau y gwerth gorau, hyd yn oed pe bai'r darparwr a ddewisid ar ddiwedd y broses dendro'n sefydliad elusennol neu drydydd sector.

 

            Dywedodd gweithwyr mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref bod eitemau y gellid eu hadfer a'u hailddefnyddio’n cael eu taflu.  Cynigiwyd felly y dylai cwmni llwyddiannus y broses dendro weithio'n agosach gydag elusennau lleol unigol ym mhob canolfan ailgylchu i annog ailddefnyddio a darparu budd ar y cyd i sefydliadau elusennol.       

 

            Cynnig ydoedd i elusennau penodol fod ynghlwm â’r canolfannau ailgylchu penodol a nodir isod, a byddai pob safle'n cael ei frandio i gyd-fynd â'r elusen a oedd yn cael ei chefnogi ar y safle:

 

·         Maes-glas;

·         Rockcliffe, Oakenholt;

·         Yr Wyddgrug;

·         Bwcle; a

·         Sandycroft.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo un tendr cystadleuol i hysbysebu’r gwasanaeth casglu gwastraff swmpus a’r gwasanaeth dadadeiladu.  Dylid neilltuo'r broses gaffael ar gyfer yr holl fentrau cymdeithasol addas a’r rhai â’r gallu, i sicrhau gwerth cymdeithasol yn ogystal â gwerth am arian.

285.

YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 46 KB

Pwrpas:        Darpau manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Cofnodion:

                        Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.  Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-

 

Tai ac Asedau

  • Rhenti Cyfrif Refeniw Tai’r Cyngor – Diddymu ôl-ddyledion hen denantiaethau

Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion drwg a rhai na ellir eu hadennill sydd werth dros £5,000 yn cael eu hystyried i gael eu diddymu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol.

 

Mae diddymu rhenti heb eu talu mewn perthynas â thair tenantiaeth/tri achos ar wahân wedi arwain at orfod diddymu cyfanswm o £19,691.78 yn erbyn y Cyfrif Refeniw Tai.

286.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

            Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol ac nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.