Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny. Cofnodion: Y Cynghorydd Bithell yn datgan cysylltiad personol a chysylltiad sy'n rhagfarnu eitem rhif 13 ar yr agenda, Bryn y Beili - Cytundeb Rheoli Tair Rhan a'r Wybodaeth Ddiweddaraf am y Prosiect. |
|||||||||||||||||||||||||
Pwrpas: Cadarnhau cofnodion y cyfarodydd ar 17 Gorffennaf 2018 fel cofnod cywir.
Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod ar 17 Gorffennaf 2018 fel cofnod cywir.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir. |
|||||||||||||||||||||||||
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) a Chyllideb 2019/20 PDF 94 KB Pwrpas: I roi’r diweddaraf am waith parhaus MTFS ac i’ch hysbysu o’r rhagolwg ariannol o sefyllfa gyllideb ar gyfer 2019/20. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad o’r Rhagolwg Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) - 2019/20 sef yr adroddiad cyntaf yn amlinellu’r darlun ariannol ar gyfer 2019/20.
Cynhaliwyd dau Weithdy Cyllideb i Aelodau ym mis Gorffennaf ac un ym mis Medi lle derbyniodd yr Aelodau wybodaeth diweddar ar y rhagolwg ariannol lleol diweddaraf yn nghyd-destun y darlun cenedlaethol.
Byddai’r Cyngor angen adnabod arbedion effeithlonrwydd o £13.7m i fantoli’r gyllideb ar gyfer 2019/20, ac angen £13.1m ar sail reolaidd. Mae’r atebion cyllideb strategol wedi eu datblygu yn y tri maes o atebion corfforaethol, gwasanaeth a chenedlaethol ac wedi’u crynhoi yn Nhabl 3 o’r adroddiad.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLLLC) yn gweithio gyda’r holl 22 Cynghorau yng Nghymru i wneud achos i Lywodraeth Cymru (LlC) am ymgodiad mewn Grant Cynnal Refeniw (GCR) i gwrdd ag anghenion cyllido critigol. Ar ôl cymryd yr arbedion effeithlonrwydd sydd wedi’u hadnabod hyd yma i ystyriaeth, a gyda amcangyfrif o gynnydd Treth y Cyngor hapfasnachol yn 4.5%, bydd y Cyngor angen o leiaf cynnydd o 3% yn ei GCR. Gall hynny godi i amcangyfrif o 4% er mwyn gallu cwrdd â’r diffyg disgwyliedig mewn cyllid ar gyfer dyfarniad cyflog ychwanegol i athrawon a chostau pensiwn.
Pwysleisiodd y risgiau yn gysylltiedig â dyfarniad cyflog i athrawon a fyddai’n golygu £1.9m ychwanegol i’r rhagolwg, sydd heb ei gynnwys ar hyn o bryd gan y dylai fod yn bwysau cost sy'n cael ei ariannu'n genedlaethol. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi yn ddiweddar y dylai fod cyllid ar gael i Gymru i gwrdd â chostau’r dyfarniad cyflog yn 2018/2019, fodd bynnag amcangyfrifir mai dim ond hanner yr amcan gostau y byddai hynny'n ei dalu amdano. Roedd trafodaeth barhaus gyda LlC ar ariannu'r costau yn weddill.
Yn ogystal roedd tebygrwydd y gallai cyfraniadau cyflogwr i bensiwn athrawon godi yn sylweddol yn 2019/20 a fyddai'n cael effaith sylweddol pellach ar gostau. Gall y cynnydd fod hyd at 7% a fyddai’n golygu pwysau sylweddol. Mae'r Gymdeithas Llywodraeth Leol yn edrych am ateb i ariannu’r pwysau o 2020/21 fodd bynnag byddai hynny’n golygu bwlch posib o 7 mis ar ôl lle byddai angen cyllid.
Byddai Setliad Llywodraeth Leol Cymru dros dro yn cael ei dderbyn ar 9 Hydref gyda’r Setliad terfynol ar 19 Rhagfyr. Mae dyddiad Datganiad Yr Hydref y Canghellor ar fin cael ei gyhoeddi ond i’w ddisgwyl ym mis Rhagfyr.
Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion llawn am y wybodaeth wedi’i gynnwys yn y tablau yn yr adroddiad ar fwlch rhagamcanol, pwysau wedi'i gynnwys yn y rhagolwg ac atebion cyllideb strategol.
Mynegodd aelodau eu pryderon ar y risgiau yn ymwneud â dyfarniad cyflog athrawon a chyfraniadau cyflogwr i bensiwn athrawon, gan wneud sylwadau y dylai achosion o’r fath gael eu hariannu yn genedlaethol ac nid yn lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Shotton am gyfanswm y gwaith a wnaed i adnabod yr arbedion effeithlonrwydd sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, doedd yr atebion lleol hynny ddim yn ddigon ac roedd angen atebion cenedlaethol. Meddai y byddai’n fethiant gan Lywodraeth y DU os na fyddai’n ... view the full Cofnodion text for item 226. |
|||||||||||||||||||||||||
Hunanarfarnu’r Gwasanaethau Addysg PDF 109 KB Pwrpas: Darparu diweddariad ar berfformiad cyffredinol y gwasanaeth a fframwaith newydd Estyn ar gyfer arolygu Llywodraeth Leol a’r Gwasanaethau Addysg. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts hunanwerthusiad ar adroddiad Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol oedd gyda tri diben allweddol. Y cyntaf oedd adolygu’r broses a diben yr hunanwerthusiad a sut yr oedd wrth graidd gwella gwasanaethau.
Yr ail oedd i gynghori ar fframwaith newydd wedi’i gyflwyno gan Estyn i arolygu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol a’r trydydd oedd i gyflwyno’r adroddiad hunanwerthuso presennol yn seiliedig ar y fframwaith newydd.
Mae’r meysydd archwilio yn y fframwaith newydd yn canolbwyntio ar ganlyniadau, safon y gwasanaethau addysg; ac arweinyddiaeth a rheolaeth. Byddai barn yn cael ei wneud ar raddfa pedwar pwynt: rhagorol, da, boddhaol ac angen gwella; ac anfoddhaol ac angen gwella ar unwaith.
Dywedodd y Prif Weithredwr (Addysg ac Ieuenctid) fod Estyn yn diffinio hunanwerthuso fel proses ac nid fel un digwyddiad, yn seiliedig ar y tri chwestiwn canlynol:
· Pa mor dda ydym ni’n ei wneud a pha effaith y mae ein gwasanaeth yn ei gael? · Sut ydym yn gwybod hynny? · Sut allwn ni wella pethau ymhellach?
Dylai hunanwerthuso fod yn barhaus ac yn rhan sefydledig o waith y Cyngor. Byddai’n gylch a fyddai’n cynnwys cynllunio ar gyfer gwella, ymgymryd â gweithgaredd gwella, monitro'r gweithredoedd a gymerwyd a gwerthuso'r effaith y mae'n nhw wedi'i gael.
O Fedi 2017 bydd yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael eu harchwilio dros y pum mlynedd ganlynol gydag un awdurdod lleol ar gyfer pob rhanbarth ymhob cylch, gan dderbyn wyth wythnos o rybudd ar gyfer yr archwiliad. Pythefnos i dair wythnos cyn yr archwiliad bydd y tîm yn gwneud ymweliad rhagarweiniol i’r awdurdod lleol i gwrdd â nifer o randdeilliaid ac i gasglu tystiolaeth i gefnogi datblygiad eu hymholiadau.
Mae Cyngor Sir Y Fflint yn elwa o arweinyddiaeth hynod o effeithiol ar bob lefel o’r sefydliad, gyda chymorth corfforaethol cadarn i’r portffolio Addysg a Ieuenctid. Roedd tystiolaeth o hynny i’w gael yng Nghynllun Gwella y Cyngor a dogfennau strategol eraill.
Dyma’r Prif Weithredwr yn diolch i’r Prif Swyddog a’i thîm am y gwaith a wnaed ar hyn, a oedd yn asesiad gwrthrychol a theg.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod fframwaith newydd Estyn ar gyfer arolygu gwasanaethau addysg o fewn Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn cael ei nodi; a
(b) Chymeradwyo'r Adroddiad Hunanwerthuso ar gyfer Gwasanaethau Addysg Sir Y Fflint. |
|||||||||||||||||||||||||
Cynllun Drafft Gwella Hawliau Tramwy 2018-2028 PDF 98 KB Pwrpas: Ymgynghori gydag aelodau ar y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy 2018-2028 newydd cyn ei ryddhau ar gyfer ymgynghoriad statudol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bod y polisi presennol yn cael ei archwilio, ardaloedd blaenoriaeth yn cael eu hadnabod a Datganiad Gweithredu o arddull newydd yn cael ei gyflwyno.
Allan o’r 22 o dasgau wedi’u hadnabod, saith wedi eu cwblhau neu wedi gwneud cynnydd sylweddol. Saith wedi gwneud ychydig iawn o gynnydd neu ddim o gwbl ac wyth wedi gwneud cynnydd yn rhannol.
Mae’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus yn 2018 yn cynnwys oddeutu 1800 o lwybrau cyhoeddus unigol. Trosolwg strategol o’r rhwydwaith wedi’i gyflawni mewn perthynas i ddeddfwriaeth, strategaeth a dogfennau perthnasol ar lefel cenedlaethol a sirol. Mae’r darganfyddiadau o'r adolygiad ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad, yr adolygiad desg o strategaethau a chynlluniau perthnasol, a gwerthusiad o gyflwr presennol y rhwydwaith wedi’u hamlinellu’n llawn yn yr adroddiad.
Cyfleoedd wedi'u hadnabod yn y Datganiad Gweithredu wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad hefyd. Mae llyfryn Polisi a Gweithdrefn wedi’i ddatblygu ac y byddai ar gael i ddefnyddwyr y rhwydwaith ac i berchnogion tir. Byddai hyn yn sicrhau fod dealltwriaeth a thryloywder dros ardal eang ar yr hyn y mae’r awdurdod wedi’i wneud a sut y mae wedi gwneud hynny.
Byddai ymgynghoriad tri mis statudol yn cael ei gynnal ar y drafft.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cynllun Drafft Gwella Hawliau Tramwy a’r llyfryn Polisi a Gweithdrefnau yn cael eu nodi; a
(b) Bod y Cynllun a’r llyfryn Polisi yn cael eu rhyddhau ar gyfer y cyfnod tri mis statudol o ymgynghori â'r cyhoedd. |
|||||||||||||||||||||||||
Rhaglen Tai ac Adfywiad Strategol (SHARP) – Diweddariad Canol Rhaglen PDF 169 KB Pwrpas: I roi diweddariad ar y cynnydd a wnaed hyd yma gyda Rhaglen Tai ac Adfywiad Strategol y Cyngor (SHARP). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) oedd yn rhoi’r manylion ar nifer y cynlluniau eiddo Rhent Cymdeithasol a Fforddiadwy wedi’u cwblhau a’u cynnig, ynghyd â diweddariad cyffredinol ar gynnydd a pherfformiad yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol.
Roedd yr adroddiad hefyd yn darparu manylion o newidiadau mewn angen o ran tai ers gweithredu SHARP am y tro cyntaf a’r sail resymegol ar gyfer arolygu ac adolygu'r rhaniad deiliadaeth ar gyfer yr eiddo i gael eu darparu ar gyfer gweddill y rhaglen. Adnabuwyd ffrydiau ariannu ar wahân sydd ar gael yn y dyfodol i SHARP ar gyfer datblygu eiddo Rhent Cymdeithasol a Rhent Fforddiadwy gan y Cyngor a North East Wales (NEW) Homes.
Mae Camau 1 a 2 o SHARP i gyd wedi’u cwblhau ac mae disgwyl i waith adeiladu ar gyn Ganolfan Melrose, Shotton, gael ei gwblhau ym mis Tachwedd 2018. Mae gwaith adeiladu ar safleoedd Cam 3 yn dechrau ym mis Medi a Maes Gwern, yr Wyddgrug; Llys Dewi, Penyffordd, Treffynnon; a chyn Depo’r Cyngor, Dobshill.
O ganlyniad i newidiadau polisi ynghylch Diwygio'r Gyfundrefn Les sydd wedi digwydd ers cynllunio cychwynnol o ddarparu adeiladau newydd SHARP, roedd y Cyngor yn gweld symudiad yn y math o alw am faint eiddo o’i gymharu â'r hyn â ddarparwyd yn flaenorol trwy dai cymdeithasol. O ganlyniad roedd galw sylweddol am eiddo nad oedd ar gael yn y stoc tai cymdeithasol neu'r sector rhentu preifat, gan gynyddu’r amseroedd aros a'r niferoedd ar y gofrestr tai, yn ogystal â chael effaith ar nifer y bobl sy'n datgan eu bod yn ddigartref i’r Cyngor.
Mae’r trefniadau ar gyfer y cynlluniau o fewn y cam nesaf o’r rhaglen ar gyfer Eiddo Rhent Cymdeithasol ac Eiddo Rhent Fforddiadwy wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad. Os bydd yr holl gynlluniau hynny’n profi’n ymarferol i symud ymlaen i'r cam adeiladu, byddent yn darparu 135 o unedau ychwanegol. O ystyried y galw cynyddol am Dai Rhent Cymdeithasol ar gofrestr Un Llwybr Mynediad at Dai (ULlMaD), cynigwyd bod y rhannu deiliadaeth gwreiddiol o 200 eiddo Rhent Cymdeithasol y Cyngor a 300 o eiddo Rhent Fforddiadwy yn cael eu hadolygu i adlewyrchu’r data angen o ran tai fel a ganlyn:
Fel arfer da mae’r Cyngor wedi ymgymryd ag adolygiad o’r trefniadau yn eu lle i sicrhau fod pobl yn cadw at y prosesau a’r cytundeb, a hefyd yn parhau i adlewyrchu Gwerth am Arian, ynghyd ag unrhyw argymhellion ar gyfer gwersi wedi’u dysgu neu feysydd i’w hadolygu ymhellach a gwelliannau i’w gwneud.Mae’r Cyngor wedi gweithredu’n barod ar yr argymhellion allweddol oedd wedi dod i’r amlwg yn yr adroddiad terfynol a dderbyniwyd ac mae manylion i’w cael yn adroddiad y Cabinet. ... view the full Cofnodion text for item 229. |
|||||||||||||||||||||||||
Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH) PDF 122 KB Pwrpas: Darparu diweddariad am reolaeth y polisi Un Llwybr Mynediad at Dai yn Sir y Fflint a’r cydweithrediad rhanbarthol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad Un Llwybr Mynediad at Dai (ULlMaD) ac eglurodd fod ULlMaD yn brosiect partneriaeth rhwng yr holl brif landlordiaid cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru sy’n gwasanaethu ardaloedd awdurdodau lleol Bwrdeistref Sirol Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
Mae’r Cyngor yn rheoli’r gofrestr tai ar ran Cyngor Sir Ddinbych sy’n cynnwys y brysbennu atebion tai yn ogystal â rheoli’r gofrestr tai cymdeithasol. Mae galw am y gofrestr tai cymdeithasol wedi cynyddu dros y tair blynedd ac yn rhoi pwysau cynyddol ar reoli'r cofrestru ac yn arwain at amseroedd aros hirach am eiddo.
Cynhaliwyd adolygiad o'r polisi i adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol yn 2017. Roedd hefyd yn caniatáu i fynd i’r afael ag unrhyw achosion a godwyd ac i ddatblygu’r polisi fel ei fod yn ddogfen sy’n haws i’w defnyddio. Mewn adolygiad o achosion a godwyd mewn panel gweithredol a gr?p llywio ni sefydlwyd bod angen gwneud newidiadau sylweddol i unrhyw egwyddorion allweddol o’r polisi.Fodd bynnag, cymerwyd y cyfle i ddatblygu dogfen oedd yn haws i’w darllen a’i deall. Y tri phrif adran o fewn y polisi oedd: datganiad polisi; y cynllun bandio; a dyrannu eiddo.
Maes allweddol o waith oedd yr angen i ddatblygu dogfennau canllaw a gweithdrefnau gweithredu mwy cynhwysfawr a diweddar oedd yn dod o dan y polisi i staff ynghlwm â rheoli'r gofrestr a dyrannu tai. Mae proses gweithredu cadarn yn cael ei gyflwyno trwy sesiynau hyfforddiant i grwpiau bychain ar gyfer yr holl staff sydd wedi bod yn rhan o reoli’r gofrestr neu ddyrannu eiddo. Dyma hyfforddiant gorfodol a fyddai’n gwella cysondeb, perchnogaeth ac ymrwymiad ar draws y timau.
Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a’r hyfforddiant oedd am gael ei gyflwyno i staff i sicrhau fod cysondeb yn y dull gweithredu.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod rheoli’r polisi Un Llwybr Mynediad at Dai (ULlMaD) yn Sir Y Fflint yn parhau i gael ei gefnogi; a
(b) Bod y ddogfen polisi diweddaraf yn cael ei chefnogi. |
|||||||||||||||||||||||||
Diweddariad ar Adolygiad Terfyn Cyflymder Cam 2 PDF 100 KB Pwrpas: Darparu diweddariad i'r cabinet ar yr adolygiad o’r terfyn cyflymder ar draws y sir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad gyda diweddariad ar Gam 2 o’r Adolygiad Terfyn Cyflymder a’r cynnydd a wnaed hyd yma yn ogystal â darparu manylion ar nifer o heriau cyfreithiol yn erbyn y broses arfaethedig a oedd erbyn hyn wedi eu goresgyn.
Darparodd yr adroddiad wybodaeth ar yr amserlenni diwygiedig yn ymwneud â chynnydd y Gorchymyn Sengl Wedi'i Gydgrynhoi yn ymwneud â’r rhwydwaith priffyrdd cyfan, tra hefyd yn egluro cynigion i hwyluso ceisiadau’r Aelodau hynny oedd yn cael eu cefnogi gan feini prawf yr Adran Drafnidiaeth.
Mae system o dempledi wedi’u cymeradwyo wedi cael eu datblygu a fyddai’n galluogi cwblhau 'Gorchymyn Sengl' lle y byddai'r holl gyfyngiadau cyflymder yn cael eu hysbysebu. Mae hynny wedi symleiddio'r weithdrefn flaenorol a oedd yn or-gymhleth gan safoni’r broses ysgrifennu archeb ar gyfer unrhyw achos posib.
Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) natur gymhleth y pryderon yngl?n â’r gwrthwynebiadau i’r gorchymyn cyfyngiad cyflymder wedi'i gydgrynhoi a oedd yn disgyn i ddau gategori (1) y rheiny oedd yn 30mya yn ddiofyn mewn system o Oleuadau Stryd lle na fyddai angen Gorchymyn neu’r cyfyngiadau cyflymder 30mya hynny nad oedd yn meddu ar system o oleuadau stryd lle byddai angen Gorchymyn; a (2) ffyrdd cyfyngiad cyflymder Cenedlaethol gyda goleuadau sydd angen gorchymyn i gael gwared ar y 30mya diofyn.
Mae manylion ar yr heriau cyfreithiol a wnaed ac a fu’n dileu’r broses i'w cael yn yr adroddiad. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at nifer o sylwadau wedi’u gwneud yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd diweddar ar aelodau’r cyhoedd oedd wedi gwrthwynebu nifer o’r cyfyngiadau cyflymder yn y Sir er nad oedden nhw’n byw yn ymyl y ffyrdd hynny. Dywedodd bod y gwrthwynebwyr yn poeni’n fawr am gyfyngiadau cyflymder yn y Sir ac yn rhannu’r cymhellion i sicrhau fod cyfyngiadau cyflymder priodol yn eu lle ar bob ffordd, a ddim i danseilio dilysrwydd y cyfyngiadau cyflymder ym mhobman. Eu rôl oedd amddiffyn hynny a’r meini prawf y mae’r cyfyngiadau cyflymder yn seiliedig arnynt, a diolchwyd iddynt am eu hymrwymiad gan nodi fod y Cyngor wir yn lwcus i gael pobl o'r fath sy'n fodlon rhoi eu hamser i sicrhau fod y cynigion yn gywir.
Wedi'i atodi i’r adroddiad y mae matrics gyda manylion o geisiadau cyfyngiadau cyflymder Aelod lleol. Ar gyfer y rhai wedi eu cefnogi gan feini prawf yr Adran Cludiant, cynigwyd hyrwyddo'r hysbyseb ar gyfer 15 cyfyngiadau cyflymder arfaethedig ym mis Tachwedd 2018 ar wahân i Ffordd Llaneurgain, Bryn-Y-Garreg a oedd wedi cael ei blaenoriaethu i’w hysbysebu ym mis Medi 2018 oherwydd nifer cynyddol o ddamweiniau.
Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad gan ddiolch i’r Prif Swyddog a’i dîm am y gwaith a wnaed er diogelwch pobl ar y ffyrdd yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y cynnydd a wnaed hyd yma yn cael ei nodi a bod yr heriau cyfreithiol a’r newidiadau mewn ymdriniaeth wedi hynny sydd wedi arwain at oedi yn y broses yn cael eu cydnabod; a
(b) Chefnogi’r broses gyfreithiol ddiwygiedig er mwyn symud ymlaen â'r Un Gorchymyn wedi'i ... view the full Cofnodion text for item 231. |
|||||||||||||||||||||||||
Corff Cymeradwyo (SAB) Draenio Cynaliadwy (SuDS) PDF 121 KB Pwrpas: Y dylid cymeradwyo sefydlu Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (SAB) a fydd yn caniatau i Gyngor Sir y Fflint ymgymryd â’r swyddogaeth statudol newydd hon o’r dyddiad cychwyn cytunedig, sef 7 Ionawr 2019. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy a oedd yn tynnu sylw at weithredu Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a D?r 2010 gyda dyddiad cychwyn o 7 Ionawr 2019. O’r dyddiad hwn byddai disgwyl i Gyngor Sir Y Fflint ymgymryd â’r rôl ‘Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy’.
O dan y swyddogaeth statudol mae disgwyl i Gorff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ymgymryd ag adolygiad technegol a chymeradwyo systemau rheoli d?r wyneb sydd yn gwasanaethu datblygiadau newydd i sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau Cenedlaethol gorfodol newydd. Mae’r rheiny sy’n cael eu heffeithio gan y newid yn cynnwys datblygwyr a'u dylunwyr, peirianwyr ymgynghori, cynllunwyr awdurdodau lleol, peirianwyr priffyrdd a systemau draenio, ymgyngoreion statudol a’r rheiny yn gyfrifol am reoli mannau gwyrdd.
Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y byddai’r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy yn gorff annibynnol o fewn yr awdurdod lleol. Er bod y broses yn un ar wahân i’r swyddogaeth cais cynllunio mae diffyg integreiddio digonol rhwng y ddau yn gallu arwain at wrthdrawiad o sefyllfaoedd lle mae caniatâd wedi’i wrthod i’r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ond bod y caniatâd cynllunio wedi ei dderbyn, neu fel arall.
Mae ehangder y risg o beidio â chael Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy yn gweithredu ar 7 Ionawr 2019 yn aros yn bennaf yn anhysbys ac yn debygol o adael yr Awdurdod yn agored i heriau ac apeliadau cyfreithiol gan ddatblygwyr gyda goblygiadau cost gysylltiol. Felly argymhellwyd bod llythyr yn cael ei anfon at Ysgrifennydd Y Cabinet i ofyn am estyniad ar y dyddiad gweithredu.
Mynegodd yr aelodau eu pryderon ar y risgiau a amlinellwyd yn yr adroddiad a chefnogwyd y cais am estyniad i'r dyddiad gweithredu. Meddai’r Prif Swyddog nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i egwyddor y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ond bod angen mwy o fanylion. Ymatebodd i sylwad ar gymhwysedd a dywedodd bod ffi yn cael ei gynhyrchu ar gyfer pob cynllun.Byddai’n rhannu’r llythyr ag Ysgrifennydd Y Cabinet gydag awdurdodau lleol eraill i annog cefnogaeth cyffredinol.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod cymeradwyaeth yn cael ei roi i sefydlu bod y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy yn ymgymryd â’r swyddogaeth statudol newydd ar ôl dechrau Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a D?r ar 7 Ionawr 2019, gyda’r awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) i gyflwyno penderfyniadau o ran ceisiadau i’w cymeradwyo wedi’u gwneud gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy;
(b) Bod llythyr yn cael ei anfon at Ysgrifennydd Y Cabinet i ofyn am estyniad ar y dyddiad gweithredu ac i sicrhau adnoddau i Awdurdodau Lleol i’w galluogi nhw i gynllunio Cyrff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy yn llwyddiannus ac sy’n gweithredu’n effeithiol.
(c) Bod y llythyr yn cael ei ddosbarthu yn eang ymysg Awdurdodau Lleol eraill i annog cefnogaeth cyffredinol ar gyfer estyniad o amser; ac
(d) Bod seminar/gweithdy Aelodau a Swyddogion yn cael ei gynnal yn ogystal â’r Fforwm Datblygwr i godi ymwybyddiaeth ar y newidiadau gerllaw. |
|||||||||||||||||||||||||
Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (mis 4) PDF 131 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2018/19 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 4 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad yngl?n â Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (Mis 4) a oedd yn cyflwyno’r sefyllfa o ran monitro canlyniadau cyllideb refeniw 2018/19 ar gyfer Cronfa'r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.Dyma’r adroddiad monitro llawn manylion cyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd sy’n cyflwyno’r sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol, o Fis 4 y flwyddyn ariannol. Mae’n mynegi sut y byddai’r gyllideb yn edrych fel ar ddiwedd y flwyddyn ariannol os byddai pob dim yn aros yr un fath.
Y sefyllfa arfaethedig ar ddiwedd y flwyddyn, heb weithredoedd newydd i leihau pwysau cost ac/neu wella ymateb ariannol ar gynllunio effeithlonrwydd a rheoli cost, oedd:
Cronfa’r Cyngor:
· Diffyg gweithredol o £0.660m (rhagolwg gwariant net gwirioneddol yn y flwyddyn yn dangos £2.680m dros ben unwaith y bydd effaith positif o gyfraniad o £1.400m yn ddyledus i’r newid y cytunwyd arno i’r polisi cyfrifo ar gyfer Isafswm Darpariaeth Refeniw a derbynneb o ad-daliad TAW o £1.940m wedi’i gynnwys, gan nodi fod y ddau swm yn cael eu hargymell i’w dyrannu i’r Gronfa Arian at Raid i gefnogi’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig); ac · Balans cronfa arian at raid arfaethedig o £8.145 miliwn ar 31 Mawrth 2019.
Y Cyfrif Refeniw Tai
· Rhagolwg gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn yn £0.007 miliwn yn uwch na’r gyllideb; a · Balans terfynol arfaethedig o £1.165 miliwn ar 31 Mawrth 2019.
Mae’r adroddiad yn cynnwys sefyllfa arfaethedig Cronfa'r Cyngor; sefyllfa arfaethedig yn ôl portffolio, olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn a materion sy'n dod i'r amlwg; dyfarniad cyflog Cyd-gyngor Cenedlaethol; lleoliadau allan o’r sir, cyflawni arbedion effeithlonrwydd wedi’u cynllunio yn ystod y flwyddyn; risgiau eraill wedi’u holrhain; incwm, ailddefnyddio incwm; pwysau ysgolion, achosion eraill yn ystod y flwyddyn; cronfeydd wrth gefn a balansau, cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi; ac ymrwymiad lleihau carbon.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr bod y risgiau ar ddyfarniad cyflog i athrawon a chyfraniadau pensiwn, fel yr adroddir yn eitem rhif 4 o'r agenda, yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad monitro cyllideb nesaf.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn oedd yng Nghronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2019;
(b) Nodi'r lefel derfynol arfaethedig o falansau ar y Cyfrif Refeniw Tai;
(c) Bod dyraniad o £1.084m o’r Gronfa Arian at Raid yn cael ei gymeradwyo i gwrdd â’r pwysau cyllideb ychwanegol yn 2018/19 ar gyfer y dyfarniad cyflog y cytunwyd arno yn ogystal â’r 1% wedi’i gynnwys yng nghyllideb Cronfa'r Cyngor ar gyfer 2018/19;
(d) I gymeradwyo dyraniad o £0.100m o’r Gronfa Arian At Raid ar gyfer ariannu parhaus o’r Tîm Cyswllt Dioddefwyr o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol;
(e) Cymeradwyo trosglwyddiad o’r Gronfa Arian At Raid hyd at gyfanswm o £1.400m yn cael ei adennill o’r polisi cyfrifo ar gyfer y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw;
(f) Cymeradwyo trosglwyddiad o’r Gronfa Arian At Raid hyd at gyfanswm o £1.940m yn ddyledus o’r cyfanswm wedi’i dderbyn o’r ad-daliad TAW;
(g) Cymeradwyo clustnodi £0.296m o’r gyllideb Ymrwymiad Lleihau Carbon i’w ystyried ar gyfer cyfrannu at gostau yn ymwneud â phrosiect fferm solar ... view the full Cofnodion text for item 233. |
|||||||||||||||||||||||||
Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Mis 4) PDF 125 KB Pwrpas: Darparu gwybodaeth rhaglen gyfalaf Mis 4 (diwedd mis Gorffennaf) ar gyfer 2018/19. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar Raglen Gyfalaf 2018/19 (Mis 4) oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i Raglen Gyfalaf 2018/19 ers ei sefydlu yn Chwefror 2018 hyd at ddiwedd Mis 4 (Gorffennaf 2018), ynghyd â gwariant hyd yma ac alldro arfaethedig.
Roedd y Rhaglen Gyfalaf wedi gweld cynnydd net o £16.125m yn ystod y cyfnod oedd yn cynnwys:
· Cynnydd net yn y rhaglen o £8.420m (CC £9.676m, CRT (£1.256m)); a · Cyflwyniad i Arian a Ddygwyd Ymlaen o 2017/18 o £7.705m.
Gwariant gwirioneddol yn £13.728m.
Yr alldro terfynol ar gyfer 2017/18 oedd diffyg mewn cyllid bychan o £0.068. Roedd nifer fechan o dderbyniadau cyfalaf yn ystod y flwyddyn, ynghyd â diffyg arfaethedig o £8.216m yn Rhaglen Gyfalaf 2018/19 i 2020/21 a chais am ddyraniad ychwanegol o £0.500 tuag at adleoli gwasanaethau i Unity House wedi rhoi'r diffyg mewn cyllid presennol, am gyfnod o 3 blynedd yn £8.719. Roedd hyn o flaen unrhyw dderbyniadau cyfalaf neu unrhyw gyllid arall yn cael ei ryddhau.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr bod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol a hynny heb unrhyw heriau.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo'r adroddiad cyffredinol; a
(b) Chymeradwyo’r addasiadau o ran cario cyllid ymlaen wedi’u nodi yn yr adroddiad; a
(c) Bod y dyraniad ychwanegol o £0.500m ar gyfer adleoli gwasanaethau i Unity House yn cael ei gymeradwyo. |
|||||||||||||||||||||||||
Bryn y Beili - Cytundeb Rheoli Tair Rhan a'r Wybodaeth Ddiweddaraf am y Prosiect PDF 99 KB
Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd cais Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer gwelliannau i Bryn y Beili yn yr Wyddgrug a cheisio cytundeb i ddechrau’r prosiect yn ffurfiol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gadawodd y Cynghorydd Bithell yr ystafell ar ôl datgan cysylltiad sy'n rhagfarnu a chysylltiad personol i’r eitem nesaf i gael ei thrafod.
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad Bryn Y Beili - Cytundeb Rheoli Tair Rhan a'r Wybodaeth Ddiweddaraf am y Prosiect oedd yn rhoi cefndir i’r cytundeb, cyflawni’r prosiect dros y dair blynedd nesaf a safle a rhwymedigaethau’r Cyngor.
Mae’r elfennau cymeradwy o brosiect Bryn Y Beili wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad ynghyd â manylion cyllido’r prosiect. Fe dalodd deyrnged i’r Prif Swyddog, Ian Bancroft am ei waith ar y prosiect hwn. Cytunodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) gyda sylwadau'r Aelod Cabinet a dywedodd fod y gwaith wedi'i wneud yn golygu cais llwyddiannus a grant o £963,700.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo awdurdod dirprwyedig i fynd i gytundeb grant gyda Chronfa Dreftadaeth Y Loteri am £963,700m;
(b) Yr awdurdod dirprwyedig i symud ymlaen gyda phrosiect Bryn Y Beili gydag awdurdod i wario (cyllid gan Gronfa Dreftadaeth Y Loteri) a Chymorth Buddsoddi Amwynder Twristiaeth (TAIS) i gael ei gymeradwyo, ac awdurdod i gaffael ymgynghorydd arweiniol a chontractwyr yn dilyn hynny.
(c) Bod cytundeb cyfreithiol yn cael ei sefydlu ar gyfer datblygu a rheoli Bryn Y Beili gyda Chyngor Tref yr Wyddgrug a Chyfeillion Bryn Y Beili ac i fod ag awdurdod dirprwyedig i wneud newidiadau bychain i’r ddogfen. |
|||||||||||||||||||||||||
Gwaith Cyfalaf Rheoli Asedau Tai – Rhaglen ‘Diweddaru’ Safon Ansawdd Tai Cymru PDF 82 KB Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth i gaffael contractwr i barhau i ddarparu Rhaglen Diweddaru Ystafelloedd Ymolchi a Cheginau Safon Ansawdd Tai Cymru drwy fframwaith Caffael Ychwanegol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad ar Waith Cyfalaf – Caffael Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer Rhaglen o Waith Mewnol ar Geginau ac Ystafelloedd Ymolchi oedd yn chwilio am gymeradwyaeth i gaffael contractwr i barhau i gyflawni’r rhaglen trwy’r fframwaith Caffael a Mwy.
Roedd eiddo â oedd yn cwrdd â’r meini prawf Methiant Derbyniol ac roedd y tîm yn bwriadu eu hymweld a’u huwchraddio i Safon Ansawdd Tai Cymru.
PENDERFYNWYD:
(a) I gymeradwyo caffael contractwr newydd i gwblhau’r rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru i wella ystafelloedd ymolchi a cheginau trwy’r fframwaith Caffael a Mwy; a
(b) Dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog (Tai ac Asedau), mewn ymgynghoriad â Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Dai, i drafod a derbyn y cytundeb ar ôl ei gwblhau. |
|||||||||||||||||||||||||
YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG PDF 47 KB Pwrpas: Darpau manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Cofnodion: Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-
Strydwedd a Chludiant
Newid 6,500 o lusernau ychwanegol o dan y rhaglen Salix er mwyn arbed egni a lleihau allbwn carbon.
Hysbyswyd yr Aelodau o'r gwrthwynebiad a dderbyniwyd yn sgil hysbysebu’r cyfyngiadau Dim Aros ar Unrhyw Adeg arfaethedig ar Brif Ffordd, Llys Derwen, Meadow Croft a Springfield Court, Higher Kinnerton.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. |
|||||||||||||||||||||||||
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol ac nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |