Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

103.

Datgan Cysylltiad

I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny,

Cofnodion:

Ni ddatganwyd cysylltiad.

104.

Cofnodion pdf icon PDF 107 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir godnodion y cyfarfod diwethaf.

Cofnodion:

Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2017 wedi eu cylchredeg gyda’r agenda a’u cymeradwyo fel cofnod cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

 

            Cymerodd Cynghorydd Jones y cyfle i fynegi ei diolch i’r holl staff yn yr adran Gwasanaethau Stryd, Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r gwasanaethau brys a oedd wedi mynychu’r tân yng Ngwesty Gateway to Wales y diwrnod blaenorol a oedd yn ei ward.  Yn ffodus ni chafodd neb ei anafu yn y tân ac roedd pawb wedi’u rhoi mewn llety bellach.

 

             Ailadroddodd Cynghorydd Attridge sylwadau’r Cynghorydd Jones a dywedodd fod hyn yn enghraifft dda o’r holl wasanaethau yn cydweithio ar ddigwyddiad mawr.  Gofynnodd i’r Prif Weithredwr drosglwyddo ei ddiolch i’r holl staff a fu’n rhan o hyn.  Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Aelodau am eu sylwadau a dywedodd y byddai’n trosglwyddo eu negeseuon.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Shotton y byddai eitem rhif 9 ar y rhaglen, Cyflwyno'r Ffioedd Gwastraff Gardd yn Sir y Fflint, yn cael ei hystyried i ddechrau.

105.

Cyflwyno’r Ffioedd Gwastraff Gardd yn Sir y Fflint pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        I gael cymeradwyaeth y Cabinet i’r trefniant ffioedd gwastraff gardd o fewn y gwasanaeth gwastraff.

Cofnodion:

Cyflwynodd Cynghorydd Thomas adroddiad Cyflwyno’r Ffioedd Gwastraff Gardd yn Sir y Fflint a oedd yn nodi sut byddai’r cynnig yn cael ei weithredu a darparu amcangyfrif ar gyfer y budd ariannol cysylltiedig i’r Cyngor o’r cynnig. 

 

            Nid oedd dyletswydd statudol ar y Cyngor i gasglu gwastraff gardd a gan ystyried y cyfnod presennol o gyni a’r heriau ariannol parhaus a wynebir gan y Cyngor, roedd yn angenrheidiol bellach i gyflwyno ffi o £30 ar gyfer casglu gwastraff gardd a fyddai’n debyg i’r ffi a gyflwynwyd gan nifer o Gynghorau yng Ngogledd Cymru a nifer gynyddol o Gynghorau ar draws Cymru a Lloegr.  Y ffi am ail neu drydydd bin fyddai £30 hefyd.

 

            Byddai preswylwyr yn cael gwybod am y ffi drwy lythyr a thrwy sticeri a fyddai’n cael eu rhoi ar y biniau gwastraff gardd ym mis Ionawr 2018.  Byddai rhagor o ohebiaeth yn cael ei hanfon gyda’r wybodaeth am Dreth y Cyngor ym mis Mawrth 2018, a byddai gan breswylwyr tan 1 Ebrill 2018 i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth.  Byddai’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim i bob preswyliwr ym mis Mawrth 2018. Roedd Rheolwr Prosiect ar waith i sicrhau bod y trefniadau’n cael eu cyflwyno’n llyfn, ac ni fyddai cost ychwanegol i’r Cyngor.

 

            Cyfeiriodd Cynghorydd Thomas at sylw gan Cynghorydd Peers yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd ar 20 Tachwedd 2017 ar y gorwariant yn y gwasanaeth.  Eglurodd fod hyn yn ymwneud ag amgylchiadau na ragwelwyd fel y cynnydd o ran taliadau trydan.  O ran a allai’r gwasanaeth ganfod arbedion effeithlonrwydd pellach yn hytrach na chyflwyno’r tâl hwn, eglurodd fod y gwasanaeth eisoes wedi cael lleihad yn y gyllideb o 40% ac ni ellid dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd pellach.

 

            Ailadroddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) mai gwasanaeth dewisol oedd hwn nad oedd gofyn i’r Cyngor ei ddarparu.  Yn 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru (LlC) ei Glasbrint Casgliadau Gwastraff a oedd yn nodi’r dull darparu dewisol ar gyfer casgliadau gwastraff yng Nghymru, er mwyn darparu lefelau uchel a chynaliadwy o ran ailgylchu.  Roedd gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu presennol Sir y Fflint yn alinio â’r Glasbrint gan mwyaf.  Fodd bynnag, roedd y Glasbrint yn argymell y dylid cynnig y gwasanaeth hwn ar sail taladwy.

 

            Soniodd am safon uchel a nifer y Canolfannau Ailgylchu Cartref yn y Sir a fyddai â digon o gapasiti i gael gwastraff gardd ar gyfer y preswylwyr hynny nad oeddent yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth. 

 

            Yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd, roedd consesiynau wedi’u trafod.  Eglurodd byddai hyn yn gymhleth i’w gyflwyno i sicrhau ei bod yn broses deg; byddai’n heriol i’w weithredu ac roedd yn mynd yn groes i Bolisi Ffioedd a Thaliadau newydd y Cyngor.  Fodd bynnag, byddai blwyddyn gyntaf gweithredu ar gyfer gwrando a dysgu.

 

            Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y cofnodion drafft o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a oedd yn amlinellu’r sylwadau gan Aelodau am y cynnig hwn.  Y penderfyniad oedd “Nodi sylwadau'r Pwyllgor ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno  ...  view the full Cofnodion text for item 105.

106.

Rhagolygon ariannol a sefyllfa'r gyllideb

Pwrpas:        I ddarparu diweddariad llafr ar y rhagolwg ariannol a'r sefyllfa cyllideb ar gyfer 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr eitem ar lafar am y Rhagolwg Ariannol a Sefyllfa’r Gyllideb.  Roedd Cam Un y gyllideb wedi’i gwblhau ac roedd Cam Dau wedi cael ei drafod yn y Cyngor Sir yr wythnos flaenorol gyda’r canlyniadau a ganlyn:

 

·         Byddai amrediad Treth y Cyngor rhwng 3% a 5%;

·         Byddai argymhellion gan y Cabinet yn cael eu cyflwyno, sef;

 

(a)       Bod opsiynau’r Gyllideb Cam Dau yn yr adroddiad Craffu ac argymhellion y Cabinet a nodir isod yn cael eu cyflwyno;

 

(i)         Bod adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cael ei gyflwyno gydag argymhelliad i’r Cyngor ar Gam 2 strategaeth y gyllideb;

 

(ii)        Bod camau sy’n weddill o broses y gyllideb a’r terfynau amser yn cael eu nodi; a

 

(iii)       Bod y Cabinet yn cael a derbyn yn llawn y 6 argymhelliad drafft gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (rhestrir isod).  Gwnaeth y Cabinet nodi ac argymell Cam 2 y gyllideb i'r Cyngor Sir gyda’r amod y byddai’r cynigion penodol ar gyllidebau ysgol a thaliadau parcio ceir yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol ym mis Ionawr ar gyfer adolygiad llawn, er mwyn iddynt adrodd yn ôl cyn unrhyw gytundeb terfynol ar y ddau faes hyn.

 

Argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol:

1.            Ar ôl ystyried opsiynau’r gyllideb Cam 2, nodi’r adroddiad a’r cynigion;

2.            Bod camau sy’n weddill o broses y gyllideb a’r terfynau amser yn cael eu nodi; a

3.            Bod y llythyr i Ysgrifenyddion y Cabinet dros Gyllid a thros Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a’r Datganiadau Cydnerthedd yn cael eu dosbarthu i bob Aelod;

4.            Bod manylion llawn yr asesiadau o’r risgiau, effeithiau a chanlyniadau o’r holl gynigion y gyllideb ar gael i’w hadolygu ym mis Ionawr;

5.            Bod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid yn cael eu cynnull ym mis Ionawr i adolygu’r taliadau parcio ceir a chynigion y gyllideb ar gyfer ysgolion fel ei gilydd yn fanwl gan gynnwys risgiau a chanlyniadau’r cynigion, cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud; a

6.            Bod adroddiad yn adolygu’r broses ar gyfer proses gosod y gyllideb flynyddol yn cael ei baratoi ar gyfer y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2018.

 

(2)       Bod camau sy’n weddill o broses y gyllideb a’r terfynau amser yn cael eu nodi; a

 

(b)       Bod camau sy’n weddill o broses y gyllideb a’r terfynau amser yn cael eu nodi.

 

            Byddai trafodaeth yn cael ei chynnal gyda swyddogion Llywodraeth Cymru (LlC) am y sefyllfa hon.  Rhoddodd sylwadau ar £20m posibl ychwanegol i Awdurdodau Lleol ar gyfer 2018/19, gyda £40m posibl yn 2019/20, ar sail y fformiwla, byddai hyn yn £950,000 ac £1.7m ar gyfer 2018/19 a 2019/20 fel ei gilydd ar gyfer Sir y Fflint.  Rhoddodd sylwadau hefyd ar dri chais penodol LlC, sef: (1) Cap Ffioedd Gofal Cartref; (2) Cronfa Gofal Canolraddol; a (3) Ardoll Treth Prentisiaid.  Dywedodd y Cynghorydd Shotton fod lobïo yn parhau ar y tri  ...  view the full Cofnodion text for item 106.

107.

Adroddiad Cynnydd yFargen Twf Economaidd Gogledd Cymru pdf icon PDF 123 KB

Pwrpas:         Rhannu’r sefyllfa gyfredol ar ddatblygu bargen twf gan alw am benderfyniadau ac amserlenni allweddol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cynghorydd Shotton Adroddiad Cynnydd Cais Twf Economaidd Gogledd Cymru.

           

            Ym mis Medi 2016, mabwysiadodd y Cabinet y Weledigaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru a chefnogodd gynnydd datblygiad Cais Bargen Twf cystadleuol a oedd i gael ei gyflwyno i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru (LlC) erbyn diwedd mis Tachwedd 2017. Roedd manylion y Cais wedi’u cynnwys yn yr atodiad.

 

            Roedd cyfarfod cyntaf y Cydbwyllgor Cysgodol wedi cyfarfod yr wythnos flaenorol lle gwnaeth cynrychiolwyr o’r sector preifat, Addysg Uwch (AU) ac Addysg Bellach (AB) ymuno ag Arweinwyr y Cyngor.  Roedd y Cais Bargen Twf yn ategol at, a byddai’n cefnogi’r canlynol:

 

·         Polisi economaidd a chymdeithasol y DU a LlC;

·         Polisi Llywodraeth y DU i ddatblygu cystadleurwydd economi’r Undeb ar ôl trafodaethau Brexit;

·         Polisi LlC ar gyfer llywodraethu rhanbarthol a datganoli;

·         Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU;

·         Cynlluniau Sector Llywodraeth y DU a LlC yn benodol ar gyfer niwclear, ynni, gweithgynhyrchu (Modurol ac Awyrofod) a digidol;

·         Cynllun Seilwaith Cymru;

·         Cynllunio a chysylltedd trawsffiniol; a

·         Strategaeth Economaidd LlC sydd ar fin digwydd.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr mai’r Cydbwyllgor Cysgodol fyddai’r canolbwynt ar gyfer trafodaethau gyda’r Cynghorydd Shotton yn Gadeirydd y Cydbwyllgor hwnnw, gyda chefnogaeth Arweinydd Cyngor Sir Gwynedd fel Is-Gadeirydd.  Roedd cefnogaeth swyddogion gan ef ei hun ac Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr, Cyngor Gwynedd. Roedd amcan i gyrraedd cam cyntaf y cytundeb, a elwir yn ‘Penawdau’r Telerau’ erbyn diwedd gwanwyn 2018.

 

O ran manteision posibl i Sir y Fflint o’r Fargen Twf, roedd nifer o gynigion i gefnogi twf busnesau a fyddai o fantais i fusnesau presennol Sir y Fflint a soniodd y Prif Weithredwr am Waren Hall ym Mrychdyn a safleoedd cyflogaeth fel Parc Diwydiannol ac Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Butler sylwadau ar y gweithio trawsffiniol llwyddiannus a oedd wedi galluogi cynnydd cyflym ar y Fargen Twf ar gyfer Gogledd Cymru a chroesawodd bolisi LlC ar gyfer llywodraethu rhanbarthol a datganoli.

 

Dywedodd y Cynghorydd Shotton fod cludiant wrth wraidd y Cais i ddarparu mynediad i bobl i gyfleoedd, gan roi sylwadau yn benodol ar fynd i’r afael â bod heb waith a diweithdra.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cais Bargen Twf a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cael ei gefnogi a bod y terfynau amser ar gyfer pob un o gamau nesaf datblygu’r cais yn cael eu nodi; a

 

(b)       Bod y cynlluniau blaenoriaeth a allai ddarparu budd lleol yn Sir y Fflint yn cael eu nodi a’u cefnogi.

108.

Strategaeth Ymgysylltu pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        Cael cymeradwyaeth ar gyfer strategaeth ddiwygiedig i ymgysylltu â chwsmeriaid HRA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cynghorydd Attridge yr adroddiad Strategaeth Ymgysylltu â Chwsmeriaid a oedd yn cyflwyno Strategaeth ddiwygiedig a chynllun gweithredu ar gyfer tenantiaid a phreswylwyr Cyngor Sir y Fflint.  Roedd yr adolygiad wedi rhoi ystyriaeth i farn tenantiaid, deddfwriaeth ac arfer gorau.

 

            Roedd yn bwysig bod dulliau o ymgysylltu â thenantiaid a phreswylwyr yn gost-effeithiol ac yn rhwydd i gael mynediad iddynt gan bob rhan o’r gymuned.  Byddai’r Strategaeth a’r cynllun gweithredu yn sicrhau bod y gwasanaeth ymgysylltu â’r cwsmer yn rhoi cyfle i bob cwsmer ddylanwadu ar a herio datblygiad a darpariaeth gwasanaeth mewn ffordd sy’n fwyaf addas i’w hanghenion a sicrhau’r canlyniadau uchaf o fuddsoddiad adnoddau.

           

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo gweithredu’r Strategaeth Ymgysylltu â Chwsmeriaid diwygiedig a Chynllun Gweithredu 2018-2021.

109.

MONITRO CYLLIDEB REFENIW 2017/18 (MIS 7) pdf icon PDF 143 KB

Pwrpas:        Darparu’r sefyllfa fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar fis 7 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 7) a oedd yn cynnig y sefyllfa bresennol o ran monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa, ar sail incwm a gwariant gwirioneddol, a rhoi amcanestyniad o beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiweddglo'r flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yn gyfartal.

 

            Y sefyllfa a amcanestynwyd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb liniaru i leihau pwysau o ran cost a gwella’r arenillion ar gynllunio arbedion effeithlonrwydd, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor:

 

·         Rhagwelid y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn £1.262 miliwn yn uwch na’r gyllideb; a

·         Y balans cronfa hapddigwyddiad a amcanestynnir ar 31 Mawrth 2018 yw £3.820 miliwn.

 

Cyfrif Refeniw Tai:

 

·         Rhagwelid y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn £0.03 miliwn yn uwch na’r gyllideb; a

·         Y balans cloi a amcanestynnir ar 31 Mawrth 2018 yw £1.081 miliwn.

 

Roedd yr adroddiad yn cwmpasu’r rhagolwg yn ystod y flwyddyn diweddaraf yn ôl portffolio; gan olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn a materion sy’n dod i’r amlwg; chwyddiant; a chronfeydd wrth gefn a balansau.

 

O ran balansau ysgolion, eglurodd Cynghorydd Roberts fod nifer o Ysgolion Uwchradd â diffyg, gyda chynlluniau gweithredu cadarn i’w lleihau, a oedd wedi’u gwrthbwyso gan yr Ysgolion Cynradd.

 

Eglurodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod dau sylw penodol wedi’u gwneud yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol diweddar: (1) bod y tri maes tanwariant yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol; a (2) a ellid trin balansau penodol ar refeniw yn yr un ffordd â chronfeydd wrth gefn cyfalaf.  Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar yr ail gais i egluro’r goblygiadau.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad cyffredinol a nodi’r swm hapddigwyddiad a amcanestynnwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2018; a

 

(b)       Dylid nodi'r lefel terfynol o falensau a amcanestynnwyd ar y Cyfrif Refeniw Tai.

110.

Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2017/18 pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Cyflwyno i’r Aelodau yr Adolygiad Hanner Blwyddyn Rheoli Trysorlys drafft ar gyfer 2017/18 i'w argymell i'r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli Trysorlys a oedd i gael ei gymeradwyo i’r Cyngor.

 

            Roedd newidiadau rheoleiddio yn dod i rym yn y dyfodol agos a’r prif newid fyddai MiFID II (yr ail Markets in Financial Instruments Directive) a fyddai’n dod i rym ar 3 Ionawr 2018.  Roedd MiFID II yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gael eu categoreiddio gan gwmnïau gwasanaethau ariannol a reoleiddir fel cleientiaid cadw yn ddiofyn, a allai “optio i fyny” i fod yn gleientiaid proffesiynol, os oeddent yn bodloni meini prawf penodol.

 

Roedd y Cyngor wedi’i ddosbarthu fel cleient proffesiynol.  I “optio i fyny” a pharhau â’r statws, rhaid i’r Cyngor fod â balans buddsoddi o £10m o leiaf, gyda’r unigolyn a awdurdodwyd i wneud penderfyniadau buddsoddi ag o leiaf blwyddyn o brofiad perthnasol.  Roedd swyddogion wedi rhoi ystyriaeth i effeithiau gwahanol aros fel cleient proffesiynol neu newid i fod yn gleient manwerthu, ac argymhellwyd bod y Cyngor yn cadw ei statws MiFID presennol proffesiynol er mwyn parhau i reoli gweithgareddau rheoli trysorlys dyddiol y Cyngor fel maent ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli Trysorlys 2017/18 yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor; a

 

(b)       Bod argymhelliad yn cael ei roi i’r Cyngor i gymeradwyo’r penderfyniad i “optio i fyny” i statws cleient proffesiynol gan gwmnïau gwasanaethau ariannol a reoleiddir o ganlyniad i’r ail Markets in Financial Instruments Directive (MiFID II).

111.

Gwaharddiad posib o ryddhau “Llusernau Tsieineaidd” o dir Cyngor Sir y Fflint pdf icon PDF 74 KB

Pwrpas:        Ystyried safle’r Cyngor mewn perthynas ag atal rhyddhau llusernau o dir sy'n eiddo iddynt.

Cofnodion:

Cyflwynodd Cynghorydd Bithell adroddiad Rhyddhau Llusernau Papur o Dir y Cyngor.

 

            Bu pryder cynyddol gan amrywiaeth eang o fudd-ddeiliaid, fel y Gymdeithas Cadwraeth Forol, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Undeb Amaethwyr Cymru, y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid ac amryw Wasanaethau Tân ac Achub, am effaith bosibl lanterni awyr ar dda byw a’r amgylchedd.  Roedd pryderon penodol yn cynnwys y risgiau i les anifeiliaid drwy lyncu darnau, sbwriel yng nghefn gwlad, y môr ac ar y morlin, risgiau i hedfan ac effeithiau ar wasanaethau achub arfordirol.  Gan fod lanterni awyr yn cynnwys fflam noeth, roedd pryder ychwanegol am y risg tân i adeiladau eiddo a chnydau o lanio afreolus.

 

            Gallai ceisio erlyn parti dan y Deddfau hyn fod yn heriol gan fod trafodaeth ar ba adeg y cafodd y sbwriel ei ollwng mewn gwirionedd a sut gellid ei fonitro a’i orfodi wedi hynny.  Yn ogystal, roedd yr adnoddau gofynnol yn debygol o fod yn sylweddol ac, ar adeg o gyfyngiadau cyllidebol, gallent fod yn waharddol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn cyflwyno gwaharddiad gwirfoddol ar ryddhau llusernau awyr o dir sy’n berchen i’r Cyngor neu a reolir gan y Cyngor; a bod ymarfer cyfathrebu yn cael ei gynnal i sicrhau bod defnyddwyr a sefydliadau elusennol yn ymwybodol o’r risgiau sy’n gysylltiedig â llusernau awyr a’r ffaith na ddylent gael eu rhyddhau o dir sy’n berchen i’r Cyngor neu a reolir gan y Cyngor.

112.

YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 53 KB

Pwrpas:        Darpau manylion y carriaua gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem gwybodaeth am y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.  Roedd y camau gweithredu fel a nodir isod:-

 

Gwasanaethau Stryd a Chludiant

  • Gorchymyn Englefield Crescent, Wats Dyke Avenue ac Ellesmere Road, Mynydd Isa (Gwaharddiad a Chyfyngiad Aros a Mannau Llwytho a Pharcio) (Gorfodi Sifil a Chyfuno) (Diwygiad Rhif 10) 201.

Rhoi gwybod i Aelodau am y gwrthwynebiadau a ddaeth i law yn dilyn hysbysebu’rGorchymyn Gwaharddiad a Chyfyngiad Aros a Mannau Llwytho a Pharcio, Diwygiad Rhif 10, sy’n cyflwyno Dim Aros ar Unrhyw Adeg ac Aros Cyfyngedig a Pharcio Cyfyngedig ar Englefield Crescent, Wats Dyke Avenue ac Ellesmere Road, Mynydd Isa.

 

  • Cynnydd o ran Cyfradd Taliadau ar gyfer Cytundebau De-Minimis – Gwasanaethau Bws Masnachol

Rhoi gwybod i Aelodau am y cynigion i gynyddu cyfradd taliadau ar gyfer Cytundebau De-Minimis ar wasanaethau bws masnachol o fis Medi 2017.

 

  • Cynnydd o ran Ffioedd Gwasanaethau Profedigaeth

Cafodd Ffioedd Gwasanaethau Profedigaeth eu cynyddu ddiwethaf ym mis Ebrill 2015. Cynigir cynyddu pob ffi 5% ar wahân i’r ffioedd sy’n gysylltiedig â Beddau Brics, y cynigir eu cynyddu 10%.  Mae adroddiad Archwilio diweddar wedi amlygu bod angen i ni adolygu’r ffioedd hyn yn flynyddol wrth symud ymlaen, a gweithredu unrhyw gynnydd fel bo angen wrth sicrhau bod gwerth am arian yn dal i gael ei gyflawni yn y gwasanaeth sensitif iawn.

 

Newid Sefydliadol

  • Gwerthu Depo Helygain, Fulbrooke, Helygain CH8 8BY

Mae’r hen ddepo i gael ei werthu i Gyngor Gwynedd yn dilyn arfer Opsiwn i Brynu dan eu Cytundeb Prydles.

 

  • Tir Cyfagos i Plas Yn Dre Ucha, Stryd Fawr, Trelawnyd

Bydd gwerthu’r tir hwn i’r perchennog cyfagos yn rhyddhau dau le parcio ychwanegol ym maes parcio cyhoeddus y Stryd Fawr.

 

  • Hen Gaeau Chwarae Ysgol Gynradd Llanfynydd, Llanfynydd

Mae’r cae chwarae hwn yn un nad oes ei angen bellach yn dilyn cau Ysgol Gynradd Llanfynydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

113.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol a dim ond un aelod o’r wasg oedd yn bresennol.