Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@siryfflint.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I derbyn datganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitemau canlynol wedi’u heithrio yn rhinwedd paragraff(au) 14 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Dogfennau ychwanegol:

2.

Dewisiadau ar gyfer y dyfodol: gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd

Pwrpas:        I ystyried y sefyllfa bresennol, yr opsiynau ar gyfer y dyfodol, yr adborth a gafwyd a phenderfynu ar yr opsiwn a ffefrir.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad brys a oedd yn rhoi crynodeb a’r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau hamdden, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd a gafodd ei adrodd yn flaenorol i’r Cabinet ym mis Ebrill ac i ddau Bwyllgor Trosolwg a Chraffu ym mis Mai.

 

            Cafodd rhagor o wybodaeth ynghylch y sefyllfa ar y diwrnod hwnnw hefyd ei ddarparu.  

 

            Bu i’r Swyddog Gweithredol Strategol egluro’r senarios a amlinellwyd i’r Aelodau gan nodi manteision ac anfanteision pob un.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod yr ohebiaeth gan Aura yn cael ei nodi;

 

(b)       Bod yr adborth a barn Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn cael ei nodi gyda’r argymhelliad bod y Cabinet yn ceisio parhau gyda’i drefniant gydag Aura;

 

(c)        Yng ngoleuni’r wybodaeth a dderbyniwyd gan Aura heddiw yn dilyn cais gan swyddogion, bod swyddogion yn parhau i archwilio’r dewis grant yn seiliedig ar ddarparu asesiad rheoli cymhorthdal sy’n cydymffurfio.   Mae hyn yn ddibynnol ar Aura yn derbyn grant tymor byr newydd er mwyn cwblhau’r gwaith angenrheidiol ar reoli cymhorthdal;

 

(d)       Os na wneir cynnydd boddhaol mewn perthynas ag argymhelliad (c), bod model yn seiliedig ar Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol yn cael ei ddatblygu; a

 

(e)       Oherwydd mai amser cyfyngedig sydd ar gael ac ymhellach i gytundeb Cadeirydd y Cyngor, bod y penderfyniadau hyn yn rhai brys ac felly yn cael eu heithrio rhag cael eu galw i mewn.

3.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.