Cofnodion
Lleoliad bwriedig: Cyfarfod o Bell
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD:
Bod y wasg a’r cyhoedd yn cael eu heithrio o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Dogfennau ychwanegol: |
|
Adolygiad Rhwydwaith Ysgolion Saltney/Brychdyn Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mared Eastwood yr adroddiad, a oedd yn rhoi manylion yr opsiynau rhwydweithiau ysgol ar gyfer ardal Saltney/Brychdyn a chanlyniadau'r broses ymgysylltu cynnar.
Dywedodd yr Uwch Reolwr, Cynllunio a Darpariaeth Lleoedd mewn Ysgolion, fod y cynigion wedi cael cefnogaeth eang gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a bod trafodaethau helaeth wedi'u cynnal hefyd gydag Aelodau Lleol ynghylch yr adolygiad penodol hwn.
Wrth siarad am y cynigion, amlinellodd y Cynghorydd Dave Healey ei gefnogaeth a siaradodd am y cyfleoedd yn ymwneud â lleihau'r ôl troed carbon a’r datblygiad tuag at sero net.
PENDERFYNWYD:
a) Bod y Cabinet yn adolygu'r opsiynau sydd ar gael ar gyfer moderneiddio ysgolion yn ardal Saltney a Brychdyn;
b) Bod y Cabinet yn cefnogi ac yn cymeradwyo'r opsiwn a ffefrir, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad; a
c) Bod y Cabinet yn cymeradwyo rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) gynnal ymgynghoriad ar gynigion statudol mewn perthynas â’r ddwy ysgol gynradd. Yn ogystal, yn rhoi awdurdod dirprwyedig i lunio amserlen ar gyfer y cynigion statudol hynny ar y cyd â’r Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg a Diwylliant. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |