Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod o Bell
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I derbyn datganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a 21 Tachwedd 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir. |
|
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25 PDF 138 KB Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ddiweddaraf Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25 cyn cael Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa cyllideb refeniw’r Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 cyn derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru ar 20 Rhagfyr.
Cyfeiriwyd y pwysau o ran costau diwygiedig a'r dewisiadau o ran lleihau costau hyd yma at y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol drwy gydol mis Hydref, ac ar yr adeg honno yr oedd bwlch cyllido o tua £14.042 miliwn. Cyflwynwyd yr adborth o'r cyfarfodydd hynny i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 16 Tachwedd. Yn ogystal â hyn, cynhaliwyd dau weithdy i Aelodau ar 5 a 10 Hydref.
Roedd yr adroddiad yn nodi’r newidiadau i ofyniad cyllidebol ychwanegol 2024/25 ers y sefyllfa ddiwethaf yr adroddwyd arni ym mis Medi. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed i nodi atebion i bontio'r bwlch sy'n weddill yn y gyllideb. Ar ôl derbyn y setliad dros dro byddai briff yn cael ei roi i'r Aelodau i roi gwybod iddyn nhw am yr effaith ar sefyllfa gyffredinol cyllideb 2024/25.
Er bod cynnydd wedi'i wneud, dylid nodi bod y Cyngor yn dal i wynebu her fawr i nodi'r atebion sy'n weddill a fyddai'n ei alluogi i gytuno ar gyllideb gyfreithiol a chytbwys erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf y mae'n parhau i fynd i'r afael â hi ar fyrder.
Ategodd y Prif Weithredwr y sefyllfa lom ledled Cymru yn 2024/25. Gwnaeth sylwadau ar y gwaith cynllunio a oedd wedi dechrau ar gyflawni rhaglen strategol o drawsnewid gwasanaethau i sicrhau bod y Cyngor yn datblygu gostyngiadau o ran costau dros y pum mlynedd nesaf er mwyn diogelu ei sefyllfa ariannol barhaus yn y dyfodol a sicrhau ei fod yn cael ei baratoi ymhellach ar gyfer heriau cyllidebol anochel yn y dyfodol. Er bod y ffrydiau gwaith hynny i ddarparu cymorth ariannol o 2025/26 ymlaen, ni wnaethant gynorthwyo â'r heriau cyllidebol uniongyrchol ar gyfer 2024/25.
Nodwyd meysydd a allai ddod o fewn cwmpas y gwaith trawsnewid yn yr adroddiad. Nid oedd y rhestr yn hollgynhwysfawr a byddai ymgysylltu ag Aelodau yn y dyfodol yn bwysig er mwyn sicrhau bod cyfle i gyfrannu a dylanwadu'n gadarnhaol ar y rhaglen weithgarwch a sicrhau ei bod yn cael ei datblygu'n amserol.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai'r pwysau newydd mwyaf oedd y cynnydd yng nghostau Prydau Ysgol am Ddim (yn ystod y tymor) yn ogystal â chynnydd yn y galw yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
Mae bwlch o £11 miliwn yn weddill, ac ategodd sylwadau'r Prif Weithredwr a'r meysydd yr oedd angen edrych arnynt yn rhan o'r Rhaglen Trawsnewid Strategol. Roedd pob portffolio hefyd yn edrych ar sut y gallen nhw gyflawni 5% o arbedion effeithlonrwydd.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn a nodi gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25; a
(b) Nodi'r cynnydd a wnaed a'r gwaith parhaus ar atebion cyllidebol sy'n parhau i gael sylw brys er mwyn galluogi'r Cyngor i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys erbyn mis Mawrth 2024. |
|
Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) PDF 186 KB Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw cyflwyno Cynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd drafft y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) a Chyllideb y CRT arfaethedig ar gyfer 2024/25 i'w hystyried. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad oedd yn cyflwyno’r Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) drafft a’r Gyllideb CRT arfaethedig ar gyfer 2024/25.
Roedd y cyd-destun strategol ar gyfer gosod cyllideb CRT eleni yn cynnwys y canlynol:
· Sicrhau bod fforddiadwyedd i’n tenantiaid yn greiddiol i’n hystyriaethau · Ymdrech barhaus i sicrhau bod holl gostau gwasanaeth yn effeithlon ac y gellir cyflawni gwerth am arian. · Sicrhau bod strategaeth rheoli'r trysorlys yn parhau i fodloni gofynion benthyca newydd a pharhaus y Cyfrif Refeniw Tai · Pennu cyllideb gytbwys gydag o leiaf 3% o refeniw dros ben dros wariant · Gwneud y mwyaf o arbedion effeithlonrwydd refeniw er mwyn lleihau’r benthyca sydd ei angen er mwyn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru · Darparu tai Cyngor newydd · Ymdrech barhaus i sicrhau bod cartrefi yn effeithlon o ran ynni ac yn archwilio datgarboneiddio · Darpariaeth o gyfalaf parhaus digonol i gynnal lefelau Safon Ansawdd Tai Cymru.
Eglurodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) fod yr adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedol a Thai a'r adborth a gafwyd oedd y dylid rhewi'r ffi gwasanaeth ar gyfer erialau a adlewyrchwyd yn adroddiad y Cabinet ac argymhelliad (d), ac y dylai cronfa galedi gael ei sefydlu a adlewyrchwyd yn argymhelliad (e) yn yr adroddiad. Ychwanegodd mai cap rhent Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer tai cymdeithasol oedd 6.7%, ac yr oedd cynnydd arfaethedig Sir y Fflint yn 6.5%. Roedd y cynnydd yn rhent garejis hefyd yn is na chap LlC.
Mynegodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr angen i ganolbwyntio ar fforddiadwyedd. Roedd Safon Ansawdd Tai Cymru 2 newydd gael ei chyhoeddi a oedd yn cynnig lleihau allyriadau carbon o dai cymdeithasol ac wrth wneud hynny, cyfrannu at darged Cymru o Garbon Sero Net. Nid oedd cyllid gan LlC i gefnogi hynny felly yr oedd angen i'r Cyngor sicrhau y gallai'r CRT dalu am y gwaith hwnnw.
PENDERFYNWYD:
(a) Ystyried cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2024/25;
(b) Cymeradwyo'r isafswm cynnydd rhent arfaethedig o 6.5%;
(c) Cymeradwyo'r cynnydd o 6.5% yn rhent garejis;
(d) Cymeradwyo'r cynnydd o ran taliadau gwasanaeth i adennill costau llawn ac eithrio ffioedd ar gyfer erialau a fydd yn cael eu rhewi hyd nes y bydd contract newydd yn cael ei drafod;
(e) Y dylid ychwanegu at y gronfa caledi i denantiaid hyd at gap o £0.350 miliwn o unrhyw arian dros ben sydd wrth gefn a gynhyrchir yn ystod y flwyddyn, os oes angen; a
(f) Cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf arfaethedig y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2024/25. |
|
Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft 2024-28 PDF 98 KB Pwrpas: Cyflwyno Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft 2024-28 er cymeradwyaeth cyn cynnal ymgynghoriad ffurfiol yn ei gylch. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol, Rhaglen Gyfalaf ac Asedau, yr adroddiad a oedd yn cyflwyno amcanion cydraddoldeb drafft y Cyngor a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 i’w cymeradwyo cyn ymgynghoriad ffurfiol.
Dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, yr oedd yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus datganoledig yng Nghymru gyhoeddi amcanion cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol bob pedair blynedd.
Rhaid ymgysylltu â phobl â nodweddion gwarchodedig wrth osod amcanion cydraddoldeb a pharatoi ac adolygu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Nod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol oedd lleihau anghydraddoldebau a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl â nodweddion gwarchodedig.
Rhaid cwblhau’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer y cyfnod 2024-28 a’i gyhoeddi erbyn 1 Ebrill 2024.
Yr amcanion cydraddoldeb arfaethedig ar gyfer 2024-28 oedd:
· Gwella canlyniadau iechyd, lles a gofal cymdeithasol gan gynnwys canlyniadau i bobl h?n a phobl anabl · Lleihau bylchau mewn cyrhaeddiad addysgol rhwng grwpiau gwarchodedig a gweithredu strategaethau i wella lles · Sicrhau cyflog cyfartal yn y gweithle drwy gael strategaethau cyflog a graddio teg, agored a thryloyw ar waith · Gwella diogelwch personol ar gyfer pob gr?p gwarchodedig · Gwella mynediad at wasanaethau a gwneud penderfyniadau ar gyfer pob gr?p gwarchodedig · Gwella safonau byw pobl â gwahanol nodweddion gwarchodedig · Lleihau effaith tlodi a chynnwys dyletswydd economaidd-gymdeithasol yn y sefydliad
Byddai ymgynghoriad yn dechrau ym mis Ionawr am gyfnod o chwe wythnos ac ar ôl hynny byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a'r Cabinet.
Pan gafodd ei ystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, nodwyd bod y cyfeiriad e-bost yn y ddogfen yn anghywir. Byddai hynny’n cael ei gywiro cyn i’r ymgynghoriad ddechrau.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft 2024-28 yn cael ei gymeradwyo cyn ymgynghori’n ehangach â budd-ddeiliaid, aelodau’r cyhoedd, a gweithwyr; a
(b) Bod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft 2024-28 yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol i'w ystyried a'i adolygu. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 7) PDF 139 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2023/24 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 7 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi’r trosolwg manwl cyntaf i Aelodau am sefyllfa monitro cyllideb Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, a chyflwynodd y sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 7.
Roedd y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn fel a ganlyn:
Cronfa’r Cyngor · Diffyg gweithredol o £3.671 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog y byddai angen ei dalu o’r cronfeydd wrth gefn - amcangyfrif o £2.727 miliwn ar hyn o bryd) a oedd yn newid anffafriol o £0.112 miliwn o’r ffigur diffyg a adroddwyd ym Mis 6, ond sydd bellach yn cynnwys amcangyfrif o effaith net Storm Babet. · Balans wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2024 o £3.664 miliwn (ar ôl amcangyfrif effaith dyfarniadau cyflog a chan ystyried dyraniadau a gymeradwywyd yn flaenorol)
Y Cyfrif Refeniw Tai · Rhagwelwyd y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn (£0.100 miliwn) yn is na'r gyllideb a oedd yn symudiad ffafriol o (£0.031 miliwn) o'r ffigur a adroddwyd ym Mis 6. · Rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2024 yn £3.297 miliwn.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y rhagolygon economaidd yn parhau'n heriol gan fod lefelau chwyddiant yn parhau i fod yn uchel. Roedd effeithiau hynny, ynghyd â'r cynnydd parhaus yn y galw am wasanaethau, yn dod yn fwyfwy anodd ymdrin â nhw wrth i gyllid y Cyngor fethu â chadw i fyny â maint y pwysau hynny.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2023/24; a
(b) Cymeradwyo trosglwyddo £0.500 miliwn o falans cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn ymwneud ag Incwm Treth y Cyngor i'r Gronfa Wrth Gefn at Raid. |
|
Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2023/24 PDF 182 KB Pwrpas: Cyflwyno drafft Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2023/24 i'r Aelodau i'w argymell i'r Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn cyflwyno Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2023/24.
Fel sy’n ofynnol gan Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor, yr oedd yr adroddiad wedi’i adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 22 Tachwedd 2023 pryd yr ymatebodd swyddogion i gwestiynau gan fodloni’r Pwyllgor ac nid oedd unrhyw faterion penodol i’w dwyn i sylw’r Cabinet.
Argymhellwyd bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir ar 23 Ionawr 2024 i’w gymeradwyo’n derfynol.
PENDERFYNWYD:
Bod fersiwn drafft Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2023/24 yn cael ei argymell i'r Cyngor Sir ar 23 Ionawr i'w gymeradwyo'n derfynol. |
|
Dileu Ardrethi Busnes PDF 98 KB Pwrpas: Cabinet i gymeradwyo dileu drwgddyledion unigol ar gyfer Ardrethi Busnes dros £25,000. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod drwgddyledion dros £25,000 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cabinet gymeradwyo argymhellion i ddiddymu'r dyledion hynny.
Ystyriwyd bod dwy ddyled Trethi Busnes, sy’n gyfanswm o £118,266.44, yn rhai na ellir eu hadennill ac yr oedd diddymu’r dyledion yn awr yn gam angenrheidiol. Mae’r dyledion yn ymwneud â:
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo diddymu dyledion ardrethi busnes, sy’n golygu £92,489 ar gyfer PPA Engineering Group Ltd a £25,776 ar gyfer Gibbs (Steel Fabricators) Ltd. |
|
ADOLYGIAD O DAI GWARCHOD PDF 132 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad tai gwarchod y Cyngor, y fethodoleg a’r matrics sgorio arfaethedig a’r cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu.
Roedd stoc tai Cyfrif Refeniw Tai y Cyngor yn cynnwys tua 7,300 o eiddo ac yr oedd tua 2,500 o’r rheini’n cael eu hystyried yn stoc tai gwarchod. Gan fod safonau yn y dyfodol yn cynyddu o ran Safonau Ansawdd Tai Cymru, uchelgais Llywodraeth Cymru o ran datgarboneiddio, yr angen i sicrhau bod eiddo gwarchod yn parhau i ddiwallu anghenion deiliaid contract a'r costau sy'n gysylltiedig â buddsoddi a chynnal a chadw yn y dyfodol, yr oedd angen i’r Cyngor sicrhau yn awr bod unrhyw wariant yn y dyfodol yn cael ei ddyrannu'n briodol. Y dewisiadau ar gyfer yr asedau gwarchod hynny yr ystyriwyd bod angen buddsoddiad sylweddol arnynt i gydymffurfio â safonau presennol ac yn y dyfodol neu nad oeddent bellach yn bodloni anghenion deiliaid contract, oedd ailddynodi i anghenion cyffredinol, adnewyddu neu ddymchwel.
Byddai’r adolygiad yn mabwysiadu ymagwedd gyfannol at gynaliadwyedd y stoc tai gwarchod ac yn adolygu pob cynllun o safbwynt rheoli asedau i nodi anghenion buddsoddi presennol ac yn y dyfodol pob cynllun, gwaith Safon Ansawdd Tai Cymru ac ystyriaethau datgarboneiddio a chydymffurfio.
Byddai'r wybodaeth honno'n cyd-fynd â gwybodaeth rheoli tai a fyddai'n adolygu ac yn asesu galw / trosiant a dymunoldeb i bennu cynaliadwyedd pob cynllun. Byddai pob cynllun yn cael ei asesu yn erbyn matrics cynaliadwyedd ynghyd â phedwar argymhelliad posib, ac yr oedd pob un wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.
Roedd yn bwysig i'r Cyngor sicrhau bod ei gynnig i ddeiliaid contract tai gwarchod presennol, a darpar ddeiliaid contract tai gwarchod, yn ddeniadol, yn gystadleuol ac yn bodloni disgwyliadau a dyheadau cyfredol. Roedd sawl blwyddyn ers i'r Cyngor adolygu ei gynnig i ddeiliaid contract tai gwarchod ddiwethaf ac yr oedd yn amserol bod y cynnig yn cael ei ddiweddaru.
Dywedodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau), yn dilyn adroddiad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai ym mis Mawrth 2023, y gofynnwyd am sefydlu Gr?p Tasg a Gorffen Adolygu Tai Gwarchod. Roedd y gr?p hwnnw wedi cyfarfod deirgwaith i ystyried y Cylch Gorchwyl, y Matrics Sgorio a'r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu. Roedd y Matrics Sgorio a'r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu wedi'u nodi yn yr adroddiad a oedd hefyd wedi'u hystyried a'u cefnogi yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai yr wythnos flaenorol.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi’r fethodoleg a gynigir i asesu asedau tai gwarchod y Cyngor;
(b) Cefnogi’r cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu a gynigir i asesu asedau tai gwarchod y Cyngor; a
(c) Cefnogi'r gwaith asesu yn y dyfodol ar asedau tai gwarchod a symud ymlaen i'r cam gwerthuso dewisiadau pe bai pryderon buddsoddi yn cael eu hamlygu trwy ei adolygiad manwl. |
|
Pwrpas: Rhannu Llythyr Blynyddol 2022-23 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o’r cwynion a dderbyniwyd gan bob portffolio o’r Cyngor yn hanner cyntaf 2023-24. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad a’r diben oedd rhannu Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2022-23 ar gyfer Cyngor Sir y Fflint.
Roedd Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon yn rhoi trosolwg o berfformiad blynyddol y Cyngor mewn cysylltiad â chwynion a gafwyd rhwng 1 Ebrill 2022 - 31 Mawrth 2023. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o’r cwynion a gafwyd gan bob portffolio’r Cyngor rhwng 1 Ebrill – 30 Medi 2023.
Eglurodd y Rheolwr Cyswllt Cwsmeriaid bod nifer y cwynion yn erbyn awdurdodau lleol ledled Cymru wedi gostwng 11% yn 2022-23 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol a gwnaeth yr Ombwdsmon ymyrryd â 13% o gwynion, gostyngiad o 18% o’r flwyddyn flaenorol.
Roedd dolen i’r Llythyr Blynyddol yn manylu ar berfformiad a data cymharol Sir y Fflint ynghlwm wrth yr adroddiad. Roedd y paragraffau yn yr adroddiad yn rhoi crynodeb o berfformiad a chyd-destun ychwanegol mewn ymateb i'r canfyddiadau.
Nid oedd gan Matthew Harris, Pennaeth yr Awdurdod Safonau Cwynion yn swyddfa’r Ombwdsmon unrhyw sylwadau penodol i’w gwneud a chyfeiriodd at y Cyngor yn cael ei ddewis i fod yn rhan o ail ymchwiliad ‘ar eu menter eu hunain’ ehangach yr Ombwdsmon sy’n ymchwilio i weinyddu asesiadau o anghenion gofalwyr. Cafodd manylion yr hyn y byddai'r ymchwiliad yn ei ystyried eu hamlinellu yn yr adroddiad.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, dywedodd y Rheolwr Cyswllt Cwsmeriaid y byddai'n egluro'r manylion yn yr atodiad y tu allan i'r cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi perfformiad blynyddol y Cyngor mewn cysylltiad â’r cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod 2022-23;
(b) Nodi perfformiad hanner blwyddyn (2023-24) y Cyngor o ran cwynion a wnaed yn erbyn gwasanaethau yn unol â’r weithdrefn bryderon a chwynion; a
(c) Cefnogi'r blaenoriaethau a amlinellwyd ym mharagraff 1.24. |
|
Cyflwyno Tudalen Gorfforaethol ar Facebook PDF 93 KB Pwrpas: Cytuno ar yr angen am dudalen Gorfforaethol ar Facebook a fydd yn cefnogi cyfathrebu digidol, yn cynnwys straeon o newyddion da a gwybodaeth bwysig i’n cymunedau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd y byddai cael presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gyfrif Facebook corfforaethol yn cefnogi Strategaeth Ddigidol uchelgeisiol Sir y Fflint a chyflawni cynlluniau strategol allweddol eraill drwy gyfathrebu ac ymgysylltu â chwsmeriaid ledled Sir y Fflint.
Byddai’r Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid a Chyfathrebu yn lansio ac yn rheoli cyfrifon Facebook corfforaethol Cymraeg a Saesneg ar wahân, gan roi negeseuon ar y ddau, ac yn eu defnyddio ar gyfer cyfathrebiadau brys, rhannu negeseuon allweddol, straeon o newyddion da, yn ogystal â gweithgareddau ymgynghori ac ymgysylltu ar draws y sefydliad.
Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog y byddai’r Cyngor yn gallu dileu unrhyw negeseuon nad oedd yn berthnasol, neu, er enghraifft, yn sarhaus.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi cyflwyno cyfrif Facebook corfforaethol i helpu i gyflawni'r blaenoriaethau a amlinellwyd yng Nghynllun y Cyngor a'r Strategaeth Ddigidol;
(b) Bod y Cabinet yn cefnogi cyflwyno cyfrif Facebook corfforaethol a defnyddio'r platfform i rannu negeseuon gyda chwsmeriaid. |
|
YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG Dim. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |