Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Remote Meeting
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwpras: Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 15 Mawrth 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gofnodion cywir.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Blynyddol Monitro'r Gymraeg 2021/22 PDF 105 KB Pwrpas: Derbyn Adroddiad Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2021/22 a darparu trosolwg o’r broses o gydymffurfio â’r Safonau Iaith Gymraeg. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod angen i Gyngor Sir y Fflint lynu at Safonau’r Gymraeg, fel y nodir yn yr Hysbysiad Cydymffurfio a gyflwynwyd i’r Cyngor yn 2015.
Eglurodd y Prif Weithredwr fod Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn galluogi Gweinidogion Cymru i benodi safonau ar gyfer y Gymraeg. Nod y Safonau yw: · Gwella'r gwasanaethau y gall siaradwyr Cymraeg ddisgwyl eu derbyn gan sefydliadau yn y Gymraeg; · Cynyddu'r defnydd y mae pobl yn ei wneud o wasanaethau Cymraeg; · Ei gwneud yn glir i sefydliadau beth sydd angen iddynt ei wneud o ran yr iaith Gymraeg; a · Sicrhau bod lefel priodol o gysondeb o ran y dyletswyddau a osodir ar gyrff yn yr un sectorau.
Crybwyllodd y buddsoddiad o dros £1miliwn i Ysgol Croes Atti yng Nglannau Dyfrdwy, i wella’r ddarpariaeth o addysg Cymraeg yn ardal Shotton a’r ysgol cyfrwng Cymraeg arfaethedig newydd a fyddai’n disodli Ysgol Croes Atti presennol yn y Fflint. Hon fydd yr ysgol cyfrwng Cymraeg newydd gyntaf i gael ei hadeiladu gan y Cyngor, ers iddo gael ei sefydlu ym 1996. Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) yn gwneud cyllid ar gael i hwyluso twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg a defnydd o’r Gymraeg ac roedd y Cyngor wedi mynegi diddordeb mewn ymgeisio am gyllid ar gyfer ardal Bwcle/Mynydd Isa.
Gwnaeth y Swyddog Datblygu Polisi sylwadau ar lwyddiant y fenter Cymraeg Bob Cynllun a Dydd Mercher Cymraeg. Eglurodd fod gweithwyr yn cael eu hannog i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg drwy hyfforddiant a ddarperir gan y coleg lleol. Roedd adnoddau i gefnogi dysgwyr Cymraeg a siaradwyr Cymraeg ar gael ar y fewnrwyd ar dudalen ddynodedig ar gyfer dysgwyr Cymraeg.
Yn 2021/22 derbyniwyd un gwyn yn uniongyrchol i Gomisiynydd y Gymraeg, o’i gymharu â thair cwyn yn y blynyddoedd blaenorol. Roedd manylion y g?yn wedi’i amlinellu yn yr adroddiad. Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bwysigrwydd y gwaith a gyflawnwyd gan y Gwasanaeth Ieuenctid ar y wybodaeth yr oeddent yn ei ddarparu ar y cyfleoedd ar gael i bobl ifanc os oeddent yn ddwyieithog.
Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Swyddog Datblygu Polisi a’i thîm am eu gwaith i hyrwyddo’r Gymraeg a’u gwaith ar yr adroddiad blynyddol. Anogodd yr aelodau a swyddogion i ddefnyddio’r Gymraeg lle bynnag bosibl.
Gwnaeth y Cynghorydd Bithell sylwadau ar weithrediad Ysgol Glanrafon yn yr Wyddgrug o ran gwaith ailfodelu ac estyniad, a fyddai’n cynnwys datblygu darpariaeth cyn ysgol pwrpasol ar y safle. Bydd estyniad ar y safle yn galluogi i gapasiti’r ysgol gynyddu.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Johnson, dywedodd y Swyddog Datblygu Polisi y byddai rhestr o frawddegau a ddefnyddir yn aml mewn cyfarfodydd yn gallu cael ei llunio a’i anfon i Aelodau.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2021/22, gan nodi meysydd ar gyfer cynnydd a gwelliant; a
(b) Bod adroddiad arall yn cael ei dderbyn ym Medi 2022 yn amlinellu’r cynnydd a wneir. |
|
YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG PDF 122 KB Pwrpas: Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:
Addysg ac Ieuenctid
Penodi cynrychiolwyr Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion yn unol â Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.
Refeniw
Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion drwg a rhai na ellir eu hadennill sydd werth dros £5,000 yn cael eu dileu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol. Gwnaed penderfyniad i ddileu dyled Rhent Tai ar gyfer un tenant oedd yn destun Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled (DRO). Mae ôl-ddyledion rhent o £9,267.30 wedi’u cynnwys yn y DRO.
Mae’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau wedi eu hawdurdodi i ddiddymu dyledion rhwng £5,000 a £25,000. Credir na ellir adfer dyledion Trethi Corfforaethol gwerth £24,357.25 ac y byddan nhw’n cael eu diddymu:
Arlwyo a Glanhau NEWydd
Cynyddu prisiau ysgol er mwyn parhau i ddarparu gwasanaeth o ansawdd yn unol â chostau cynyddol, wrth geisio dod â nhw yn unol â darparwyr prydau ysgol eraill ar draws Cymru.
Tai ac Asedau
Mae’r adroddiad yn ymwneud â Throsglwyddo Ased Cymunedol Pafiliwn Treffynnon, Fron Park Road, Treffynnon. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Dogfennau ychwanegol: |
|
Ymestyn Contract Asiantaeth a Reolir Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth Cabinet i ymestyn y contract asiantaeth a reolir presennol o 12 mis o 28/08/2022 tan 31/08/2023 i ganiatáu i Gyngor Sir y Fflint gydweithio â Chyngor Sir Ddinbych i gaffael contract fydd yn mynd â ni y tu hwnt i 2023. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor wedi defnyddio contract fframwaith, wedi’i gaffael ar y cyd â Chyngor Sir Ddinbych, i ddarparu staff asiantaeth.
Ychwanegodd y Rheolwr Corfforaethol, Pobl a Datblygu Sefydliadol fod y contract presennol yn dod i ben ym mis Awst 2022 ac roedd y cytundeb presennol yn cynnwys dewis i ymestyn y contract am flwyddyn arall.
PENDERFYNWYD:
(a) Cytuno ar estyniad o’r contract asiantaeth a reolir o 12 mis o 28/08/22 i 31/08/23; a
(b) Ail-dendro’r gwasanaeth yn 2023 i ganiatáu digon o amser i Gyngor Sir y Fflint, mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Ddinbych, gaffael contract newydd. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |