Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwpras: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 20 Ebrill 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2021 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.
Dywedodd y Cynghorydd Roberts y bydd newid i drefn y rhaglen, gan roi ystyriaeth i adroddiadau Ffioedd Meysydd Parcio a Chynllun Rheoli Asedau Priffyrdd cyn eitemau eraill o fusnes. |
|
Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ail-gyflwyno ffioedd parcio yn Nhalacre a chyflwyno strwythur codi tâl yng nghyfleuster Parcio a Theithio newydd Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ac eglurodd bod yr atal dros dro cyfredol o ffioedd maes parcio yng nghanol y dref wedi ei weithredu gyda’r bwriad o helpu busnesau canol tref ffynnu ar ôl pandemig Covid-19.
Mae’r maes parcio yn Nhalacre yn cael ei ystyried fel maes parcio ‘cyrchfan terfyn’ a roedd yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i adfer y ffioedd yn y maes parcio hwn.
Roedd yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i gyflwyno trefn codi tâl yn y maes parcio a theithio newydd sydd wedi’i adeiladu ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.
Roedd y Cynghorydd Banks yn cefnogi’r adroddiad, yn ogystal â’r Cynghorydd Jones a ddywedodd y bydd hyn yn helpu â phroblemau traffig ym Mharthau 1, 2 a 3 ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.
PENDERFYNWYD:
(a) I gymeradwyo ailgyflwyno ffioedd maes parcio ym maes parcio Talacre: a
(b) Cymeradwyo cyflwyno’r trefn codi tal maes parcio a theithio ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. |
|
Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd PDF 102 KB Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd sydd wedi’i adnewyddu. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ac eglurodd mai’r rhwydwaith priffyrdd yw isadeiledd asedau mwyaf gwerthfawr y Cyngor, gydag asedau lonydd cerbydau a throedffyrdd werth dros £1 biliwn. Roedd cyflwr diogel a defnyddiadwy y rhwydwaith yn hanfodol i gynnal cysylltedd economaidd a chymdeithasol, y ddau o fewn Sir y Fflint a gyda’r rhanbarth ehangach, a roedd y fframwaith Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn darparu egwyddorion i reoli’r rhwydwaith, adnabod pwysigrwydd isadeiledd priffordd i gefnogi nifer o amcanion allweddol y Cyngor.
Rhoddodd yr adroddiad ddiweddariad ar ddatblygiad y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd y Cyngor, a roedd yn egluro sut mae’r Cyngor yn defnyddio’r egwyddorion y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd i arwain y strategaeth i reoli a chynnal isadeiledd priffyrdd.
Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod dyraniad cyllid yn cael ei wneud ar sail y meysydd sydd ei angen fwyaf, a roedd blaenoriaethau wedi newid oherwydd y risgiau i’r rhwydwaith a oedd wedi cael eu nodi yn ystod asesiadau gan gydlynwyr ardaloedd.
Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd ac Economi yr wythnos flaenorol, lle chafwyd drafodaeth ar gynllun peilot a gyflawnwyd yn defnyddio plastig wedi’i ailgylchu i gymryd lle yr ardaloedd bach o asffalt. Roedd y Pwyllgor yn gefnogol o’r treial a gwnaethpwyd gais i gael treial ehangach. Bydd gwaith yn cael ei gyflawni i adnabod unrhyw safleoedd posibl ar gyfer treialon o’r fath.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod cynnwys yr adroddiad, ac adolygiad y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn cael ei nodi;
(b) Bod y trefniadau cyfredol a chamau gweithredu’r portffolio i gynnal y rhwydwaith priffordd yn cael ei nodi; a
(c) Bod y polisi diwygiedig ar gyfer arolygon Diogelwch Priffyrdd a Meysydd Parcio, Meini Prawf Ymyrraeth ac Amseroedd Ymateb i gynnwys ymagwedd ddiwygiedig i arolygon strwythurau’r priffyrdd yn cael ei gymeradwyo. |
|
Cynllun y Cyngor 2021/22 PDF 105 KB Pwrpas: Cymeradwyo Cynllun y Cyngor 2021/22 Rhan 1 a Rhan 2 yn barod i’w fabwysiadu gan y Cyngor Sir ym mis Mehefin. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017/23 yn cael ei fabwysiadu gyda’r pwrpas o osod y prif flaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer y tymor etholiadol cyfredol. Roedd y cynllun yn amodol i adolygiad blynyddol.
Roedd strwythur a chynnwys y Cynllun ar gyfer 2021/22 wedi cael ei adolygu a’i adfywio, ac yn ystyried adferiad parhaus yn ychwanegol i’r amcanion strategol hirdymor.
Cyhoeddwyd Cynllun y Cyngor mewn dwy ddogfen. Byddai Rhan 1 yn gosod y bwriad, a Rhan 2 yn gosod y risgiau, y mesuryddion perfformiad, y targedau a’r cerrig milltir y byddai cyflawniadau yn cael eu mesur a’u gwerthuso'n eu herbyn.
Cafodd y fframwaith ei greu o amgylch chwe thema:
· Yr Economi; · Addysg a Sgiliau; · Cymdeithas Werdd a’r Amgylchedd; · Tai Fforddiadwy a Hygyrch; · Lles Personol a Chymunedol; a · Tlodi
Eglurodd y Prif Weithredwr bod datganiad strategol yn mynd gyda phob un o’r chwe thema a oedd yn arwain at amcanion llesiant. Cafodd y themâu eu mapio yn erbyn y Pwyllgorau Craffu a Throsolwg i adrodd ac atebolrwydd. Y Cabinet fydd yn gyfrifol am gyflawni’r Cynllun. Roedd Rhan 1 wedi’i rannu gyda’r Pwyllgorau Craffu a Throsolwg i’w adolygu ac i gael sylwadau; nid oedd angen newid sylweddol i Rhan 1 gan fod y Pwyllgorau yn gefnogol, Roedd Rhan 2 wedi’i gymeradwyo i’r argymell gyda hyder bod yr Aelodau yn cefnogi Rhan 1 fel uwch-strwythur y Cynllun.
Bydd Cynllun terfynol y Cyngor ar gael ar y wefan cyn diwedd mis Gorffennaf.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Rhan 1 Cynllun y Cyngor 2021/22 yn ei ffurf terfynol yn cael ei gymeradwyo i’w argymell i’r Cyngor; a
(b) Bod cynnwys Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2021/22 yn cael ei gymeradwyo yn ychwanegol i Rhan 1 i’w argymell i’r Cyngor. |
|
Adfywio Canol Trefi PDF 114 KB Pwrpas: Bydd yr adroddiad yn darparu adolygiad o’r prif heriau economaidd sy’n wynebu trefi bach a’r wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith a wnaed hyd yma i ddarparu gweithio mewn ffordd strategol i adfywio canol trefi a gytunwyd yng nghyfarfod y Cabinet ar 17 Mawrth 2020. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor yn cael cyllid cynnal a chadw ac atgyweirio ychwanegol i ysgolion gan Lywodraeth Cymru.
Roedd y grant, sydd ar sail fformiwla, yn £2.526,501 ac ar gyfer prosiectau cynnal a chadw cyfalaf o fewn ysgolion yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22.
Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i adolygu a chytuno ar raglen drafft fel y gellir symud prosiectau unigol gydag hwylustod. Roedd y rhaglen ddrafft wedi’i atodi i’r adroddiad hwn.
Mae dau brosiect wedi’i enwebu yn Ysgol Castell Alun. Roedd y cyntaf i gymryd lle y Llain Pob Tywydd gan nad oes modd ei ddefnyddio ar hyn o bryd.Roedd ailosod Llain Pob Tywydd yn hanfodol i ddarparu cwricwlwm Addysg Gorfforol, yn arbennig yn ystod misoedd y Gaeaf. Yr ail oedd ailwampio yr ardal gerddoriaeth a oedd yn etifeddiaeth i’r prosiect buddsoddi cyfalaf presennol yn yr ysgol. Roedd rhaid cyflawni gwaith helaeth na ragwelyd i do yr ardal gerddoriaeth i’w wneud yn ddiogel ac i sicrhau ei fod yn dal d?r. Wrth wneud hyn, nid oedd cyllideb y prosiect yn ddigonol i gwblhau’r cynnig i ailwampio’r ardal gerddoriaeth oddi tanodd. Roedd darpariaeth wedi’i wneud i gytundeb adeiladu i ychwanegu’r eitemau o bydd cyllid a chymeradwyaeth yn cael ei ganiatáu. Wrth wneud hynny roedd arbedion effeithlonrwydd a chostau tendro a rhagarweiniol.
Rhoddodd y Prif Swyddog ddiweddariad ar y sefyllfa yng Nghanolfan Enfys lle roedd gwall ar y to, a llifogydd wedi effeithio ar Ysgol Gynradd Queensferry.
PENDERFYNWYD:
Bod y rhaglen atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion yn cael ei chymeradwyo. |
|
Grant Cyllido Atgyweiriadau a Chynnal a Chadw Ysgolion Ychwanegol Llywodraeth Cymru PDF 86 KB Pwrpas: Bod y Cabinet yn ystyried y Rhaglen Atgyweiriadau a Chynnal a Chadw arfaethedig ychwanegol ar gyfer Ysgolion (blwyddyn ariannol 2021/22 wedi ei galluogi gan gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor yn cael cyllid cynnal a chadw ac atgyweirio ychwanegol i ysgolion gan Lywodraeth Cymru.
Roedd y grant, sydd ar sail fformiwla, yn £2.526,501 ac ar gyfer prosiectau cynnal a chadw cyfalaf o fewn ysgolion yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22.
Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i adolygu a chytuno ar raglen drafft fel y gellir symud prosiectau unigol gydag hwylustod. Roedd y rhaglen ddrafft wedi’i atodi i’r adroddiad hwn.
Mae dau brosiect wedi’i enwebu yn Ysgol Castell Alun. Roedd y cyntaf i gymryd lle y Llain Pob Tywydd gan nad oes modd ei ddefnyddio ar hyn o bryd.Roedd ailosod Llain Pob Tywydd yn hanfodol i ddarparu cwricwlwm Addysg Gorfforol, yn arbennig yn ystod misoedd y Gaeaf. Yr ail oedd ailwampio yr ardal gerddoriaeth a oedd yn etifeddiaeth i’r prosiect buddsoddi cyfalaf presennol yn yr ysgol. Roedd rhaid cyflawni gwaith helaeth na ragwelyd i do yr ardal gerddoriaeth i’w wneud yn ddiogel ac i sicrhau ei fod yn dal d?r. Wrth wneud hyn, nid oedd cyllideb y prosiect yn ddigonol i gwblhau’r cynnig i ailwampio’r ardal gerddoriaeth oddi tanodd. Roedd darpariaeth wedi’i wneud i gytundeb adeiladu i ychwanegu’r eitemau o bydd cyllid a chymeradwyaeth yn cael ei ganiatáu. Wrth wneud hynny roedd arbedion effeithlonrwydd a chostau tendro a rhagarweiniol.
Rhoddodd y Prif Swyddog ddiweddariad ar y sefyllfa yng Nghanolfan Enfys lle roedd gwall ar y to, a llifogydd wedi effeithio ar Ysgol Gynradd Queensferry.
PENDERFYNWYD:
Bod y rhaglen atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion yn cael ei chymeradwyo. |
|
Pwrpas: I ddarparu manylion y model gwasanaeth newydd a'r gwahaniaeth y bydd yn ei wneud i blant a phobl ifanc. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd bod Arosfa yn wasanaeth sefydledig sy’n darparu gwyliau byr dymor a seibiant ar gyfer plant gydag anableddau. Cafodd adain chwith nad oedd yn cael ei ddefnyddio yn Arosfa ei ailwampio i ddarparu dau le ychwanegol yn y cyfleuster, a roedd y llefydd hyn yn rhoi lle i hyd at bedwar o blant gan ddefnyddio modelau gofal hyblyg a gofal a rennir.
Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y gwasanaeth ychwanegol yn ychwanegiad i’r darpariaeth seibiant byr cyfredol ar gyfer hyd at dri o blant ar unrhyw adeg. Gyda’i gilydd, bydd y cynlluniau yn galluogi’r Cyngor i gefnogi uchafswm o bedwar o blant ar un tro.
Bydd y ddarpariaeth o ddau le ychwanegol ar gyfer seibiant gofal a rennir yn rhan o fwriad strategol y Cyngor i leihau dibyniaeth ar Leoliadau drud y Tu Allan i’r Sir, a byddai’n galluogi Sir y Fflint i gefnogi plant a phobl ifanc o fewn y sir. Byddai’n cynyddu’r cynhwysedd cyfredol sydd gan Sir y Fflint a mwy o ddarpariaeth gofal seibiant o fewn gweledigaeth yr uchelgais strategol.
PENDERFYNWYD:
I gydnabod y cynnydd a wnaethpwyd yn Arosfa, a’r cyfle i ddarparu cefnogaeth hyblyg ychwanegol ar gyfer hyd at bedwar o blant a’u teuluoedd, gyda'r bwriad o gadw teuluoedd gyda’i gilydd ac yn agosach i’w cartrefi, ac i gael cefnogaeth. |
|
Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth i'r fersiwn ddiwygiedig o Ddatganiad Cydweithrediad Isranbarthol Gogledd Ddwyrain Cymru ar gyfer Cynllunio Dogfen Cydran Mwynau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ac eglurodd bod yr Ail Adolygiad y Datganiad Technegol Rhanbarthol (DTRh2) yn datgan, lle nad yw awdurdodau lleol yn gallu bodloni eu cyfran ddangosol unigol i ddarparu mwynau agregau, fod angen i’r holl awdurdodau lleol o fewn yr is-ranbarth hwnnw gydweithio a chydweithredu er mwyn sicrhau bod cyfran gyffredinol yr is-ranbarth yn parhau i gael ei bodloni, i ddarparu cyflenwad cyson o fwynau agregau ar draws yr is-ranbarth.
Dylid cytuno ar gydweithio rhwng awdurdodau drwy Datganiad Cydweithio Is-ranbarth a gytunwyd gan bob awdurdod lleol o fewn yr ardal Is-ranbarth, a fyddai’n cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth ar gyfer gwneud polisi Cynllun Datblygu Lleol ac ystyriaeth cynllunio deunydd mewn penderfyniadau rheoli datblygiadau gan barchu’r angen Is-Ranbarthol i gydgasglu mwynau yn yr Is-Ranbarthol Gogledd Ddwyrain Cymru.
Byddai cymeradwyo’r ddogfen gan y tri awdurdod lleol yn yr is-ranbarth Gogledd Ddwyrain Cymru yn dangos bod yr awdurdodau wedi ymrwymo i gydweithio rhwng awdurdodau gan ymwneud â chyflenwad o fwynau agregau yn unol â’r ffigyrau dosrannu is-ranbarth ar gyfer tywod a cherrig mân, a cherrig wedi eu malu fel y nodir yn RTS2.
Cafodd ei ystyried yn y cyfarfod o’r Gr?p Strategaeth Cynllunio ar 8 Ebrill 2021 lle cafodd y SSRC drafft diwygiedig ei ardystio. Roedd ymgynghoriad wedi’i gynnal gydag awdurdodau partner sef Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam er mwyn cymeradwyo’r SSRC drafft.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Datganiad o Gydweithio Is-Ranbarthol (Fersiwn3, Ebrill 2021 - Atodiad 2) yn cael ei gymeradwyo, a'i anfon ymlaen i Lywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gynllunio i'w ystyried fel rhan o’r Archwiliad Cyhoeddus i Gynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint; a
(b) Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) mewn perthynas a diwygiadau ansylweddol, i’r Datganiad o Gydweithio Is-Ranbarthol drafft os bydd yr angen yn codi o ganlyniad i argymhellion gan Gyngor Sir Ddinbych neu Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn dilyn cymeradwyaeth o’r adroddiad. |
|
YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG PDF 207 KB Pwrpas: Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:
Tai ac Asedau
Trosglwyddo’r hen Faes Chwarae YsgolLlanfynydd, Llanfynydd.
I ddatgan yn ffurfiol gwarged i ofynion i’r eiddo a adnabyddir fel Lawnt Fowlio Bagillt, Highfield Road, Bagillt.
I ddatgan yn ffurfiol nad oes angen yr eiddo a adnabyddir fel yr Hen Bafiliwn, Fron Park Road, Treffynnon.
I ddatgan yn ffurfiol nad oes angen yr eiddo a adnabyddir fel Canolfan Gymunedol New Brighton, Moel Fammau Road, New Brighton er mwyn trosglwyddo’r ased fel Trosglwyddiad Ased Cymunedol.
Cais i ddiddymu Gor-daliad Budd-Dal Tai o £10,901.96.
Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion drwg a rhai na ellir eu hadennill sydd werth dros £5,000 yn cael eu hystyried i gael eu dileu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol.
Roedd y penderfyniad hwn yn ymwneud â dileu ôl-ddyledion tenant oedd yn destun Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled. Mae ôl-ddyledion rhent o £6,210.08 wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled na fyddai modd eu hadennill bellach o ganlyniad i roi'r Gorchymyn.
Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (adran 9.6 - Incwm a Gwariant) yn amodi y dylid rhoi gwybod i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol/Swyddog Adran 151 am unrhyw ddyled unigol sydd werth rhwng £5,000 a £25,000, er mwyn ystyried ei dileu, ar y cyd â'r Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ac Asedau.
Mae’r atodlen sydd wedi’i amgáu i’r adroddiad, a oedd yn crynhoi yn ôl categori diddymu, yn cynnwys dau gyfrif Cyfradd Busnes sy’n dod i £33,931.02 lle mae dyled gyffredinol y cwmni yn fwy na £5,000. Argymhellir diddymu’r dyledion hyn gan nad yw’r cwmnïau yn masnachu neu’n amodol i gael eu diddymu.
Addysg ac Ieuenctid
Penodi cynrychiolwyr Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion yn unol â Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD
PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Dogfennau ychwanegol: |
|
Cymeradwyo costau ar gyfer cynllun tai newydd yn Park Lane, Treffynnon Pwrpas: Cymeradwyo datblygu pedwar o dai Rhent Cymdeithasol yn Park Lane, Treffynnon. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ddatblygu pedwar cartref Rhent Cymdeithasol newydd yn Park Lane, Treffynnon.
Roedd yr adroddiad a’r atodiadau yn nodi gwybodaeth am brynu’r eiddo, gan gynnwys y lleoliad, mathau arfaethedig o eiddo, dyluniad a chynllun a’r costau adeiladu disgwyliedig.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo datblygu pedwar o dai Rhent Cymdeithasol yn Park Lane, Treffynnon; a
(b) Bod y defnydd o fenthyca darbodus hyd at y gwerth a nodir yn yr adroddiad (yn dibynnu ar gymeradwyaeth a dilysu terfynol) i ariannu’r datblygiad arfaethedig yn y lleoliad yn cael ei gefnogi; |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol. |