Rhaglen a penderfyniadau
Lleoliad: Cyfarfod o Bell
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I derbyn datganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Datganodd y Cynghorydd Thomas fuddiant personol yn eitem agenda rhif 20. Datganodd Craig Macleod, Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol), wrthdaro buddiannau yn eitemau agenda rhif 20 a 21. |
|
Pwrpas: I gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2025 a 24 Chwefror 2025 fel cofnod cywir.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd fel cofnod cywir. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Pwrpas: Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dim. |
|
Asesiad o Anghenion y Farchnad Dai Leol Pwrpas: Cyflwyno’r Asesiad o Anghenion y Farchnad Dai Leol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (a) Nodi canfyddiadau'r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol; a
(b) Cymeradwyo'r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol. |
|
Strategaeth Newid Hinsawdd Diwygiedig 2025-30 Pwrpas: Cyflwyno’r Strategaeth Newid Hinsawdd ddrafft. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (a) Cydnabod y cynnydd a wnaed hyd yma o ran cyflwyno mesurau lleihau carbon; a
(b) Cymeradwyo'r Strategaeth Newid Hinsawdd ar gyfer 2025 – 2030 a'i nodau ynddi. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2024/25 (Mis 10) Pwrpas: Mae'r adroddiad misol rheolaidd hwn yn rhoi'r sefyllfa monitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2024/25 ar gyfer Cronfa'r Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai. Mae'r sefyllfa'n seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 10, a phrosiectau ymlaen hyd at ddiwedd y flwyddyn. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (a) Nodi a chymeradwyo'r adroddiad a'r effaith ariannol amcangyfrifedig ar gyllideb 2024/25;
(b) Cymeradwyo cyllid o'r Gronfa Wrth Gefn ar gyfer costau tipio anghyfreithlon pellach; a
(c) Cefnogi'r mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i wella'r sefyllfa ariannol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. |
|
Ail-dendro’r Contract Tymor Mesur (MTC) i gefnogi Rhaglen Gyfalaf y Cyngor Pwrpas: Ail-dendro’r Contract Tymor Mesur (MTC) i gefnogi Rhaglen Gyfalaf y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo ail-dendro a gosod Contract Tymor Mesuredig newydd. |
|
Safonau’r Gwasanaethau Stryd: Dull Gweithredu Diwygiedig Pwrpas: Amlinellu’r dull diwygiedig a’r strwythur gweithredu ar gyfer rheoli perfformiad ar draws y portffolio a manylu sut y caiff y safonau gwasanaeth a osodwyd mewn polisi eu mesur a’u hadrodd drwy’r prosesau llywodraethu sydd eisoes ar waith, gan sicrhau bod perfformiad yn cael ei gysylltu’n agosach â chynllun y cyngor a’r cynllun busnes portffolio. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cefnogi'r strwythur gweithredu diwygiedig ar gyfer rheoli perfformiad ac adrodd o fewn y portffolio Strydwedd a Chludiant, a nodi nad yw'r Safonau Strydlun blaenorol yn cael eu cefnogi mwyach. |
|
Gwasanaethau Bws yn Sir y Fflint Pwrpas: Rhoi diweddariad ar Wasanaethau Bws Lleol yn Sir y Fflint.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (a) Nodi'r adroddiad y gofynnwyd amdano gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a'r Economi, a chydnabod yr heriau a wynebir gan weithredwyr bysiau wrth ddarparu gwasanaethau dibynadwy a phrydlon; a
(b) Cefnogi'r cyfleoedd a'r cynlluniau strategol sy'n cael eu datblygu gan y Cyd-bwyllgor Corfforaethol, Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru. |
|
Pwrpas: Hysbysu’r Cabinet o gynnydd datblygiad cyfalaf Coed y Ddraig. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cefnogi a nodi'r cynnydd a wnaed ar gyfer datblygiad Coed y Ddraig. |
|
Trosglwyddo’r Fargen Dwf Ranbarthol i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig Pwrpas: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Cludiant Rhanbarthol a ddatblygwyd trwy Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (a) Bod y Cabinet yn cytuno i ymrwymo i Gytundeb Partneru a Chyllido (Atodiad 2) lle bydd rôl y Corff Atebol, cyfrifoldeb am gyflawni Bargen Twf Gogledd Cymru a threfniadau ariannu’r Cynllun Twf yn cael eu trosglwyddo i Gydbwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru ar neu cyn 31 Mawrth 2025;
(b) Bod y Cabinet yn cytuno i drosglwyddo ac aseinio yn ôl yr angen y ddarpariaeth o Fargen Twf Gogledd Cymru a hawliau a rhwymedigaethau yn yr holl gytundebau ariannu sy’n dod i mewn a ddelir gan Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (“NWWEAB”) i drosglwyddo i Gydbwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru (“NWCJC”);
(c) Bod y Cabinet yn cytuno i drosglwyddo neu aseinio'r holl fuddiannau yn y portffolio o brosiectau a ariennir gan Fargen Twf Gogledd Cymru ynghyd ag unrhyw gytundebau, taliadau a phrydlesau ategol oddi wrth Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran NWEAB i NWCJC;
(d) Bod y Cabinet yn cytuno i drosglwyddo a/neu aseinio'r holl falansau ariannol, arian sy'n ddyledus ac asedau a ddelir ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru gan Gyngor Gwynedd i'r NWCJC;
(e) Bod y Cabinet yn dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro, Swyddog Adran 151 ac Arweinydd y Cyngor, i gytuno a gweithredu’r ffurf derfynol cytundebau, gweithredoedd a’r holl ddogfennau cyfreithiol eraill sy’n angenrheidiol i weithredu’r trosglwyddiadau y cyfeirir atynt ym mhenderfyniad (a), (b) ac (c) uchod;
(f) Ar ôl cwblhau'r Cytundeb Partneriaeth a Chyllido, bod y Cabinet yn cytuno i derfynu'r cytundeb GA2 a dirwyn Cyd-bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i ben; a
(g) Bod y Cabinet yn cytuno i drosglwyddo atebolrwydd i’r CJC a bod y CJC yn derbyn cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau ar gyfer gweithredu Cynllun Twf Gogledd Cymru yn amodol ar drosglwyddo’r Cynllun Twf a chymeradwyo Rheolau Sefydlog ychwanegol yn ymgorffori telerau allweddol y Cytundeb Cydweithio (“GA2”) rhwng y chwe Chyngor Cyfansoddol a’r pedwar parti Addysg. |
|
Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer Treffynnon a Shotton Pwrpas: Ystyried a chymeradwyo’r Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer Treffynnon a Shotton. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (a) Nodi'r cynnydd a wnaed wrth ddatblygu'r Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer Treffynnon a Shotton;
(b) Cymeradwyo'r Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer Treffynnon a Shotton; a
(c) Cymeradwyo cydgysylltu, datblygu a gweithredu cynlluniau gweithredu ar gyfer Treffynnon a Shotton. |
|
Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2026-2027 Pwrpas: Rhoi gwybod am ganlyniad yr ymarfer ymgynghori statudol ar drefniadau derbyn ar gyfer 2026/27 ac argymell eu cymeradwyo. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2026/27. |
|
Siarter i Deuluoedd mewn Profedigaeth trwy Drasiedi Cyhoeddus Pwrpas: Datblygwyd y Siarter hon yn dilyn trychineb Hillsborough ac mae’n ymdrechu i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn ymateb i drychinebau cyhoeddus gyda natur agored, tryloywder ac atebolrwydd. Mae’r Siarter yn cynnwys chwe ymrwymiad sydd â'r nod o feithrin diwylliant o onestrwydd a pharch mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r mesurau a gynigir i gyflawni'r ymrwymiadau hyn ac yn argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo cadarnhau'r Siarter. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi a'r Cabinet yn cadarnhau eu bwriad i gefnogi'r Siarter ar ôl ystyried y materion a nodwyd. |
|
Trefniadau Llywodraethu Cwmnïau Masnachu Awdurdod Lleol Pwrpas: Darparu gwybodaeth am drefniadau llywodraethu arfaethedig Cwmnïau Masnachu Awdurdod Lleol a throsolwg o’r modelau gwahanol o Fodelau Cyflawni Amgen gweithredol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (a) Bod Erthyglau Cymdeithasu Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint Cyfyngedig a FCC HOLDCO Cyfyngedig i'w gymeradwyo;
(b) Cefnogi penodi Aelod Etholedig yn Gyfarwyddwr Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint Cyfyngedig, i eistedd ar Fwrdd Cyfarwyddwyr y cwmni; a
(c) Cadarnhau'r trefniadau llywodraethu cyffredinol, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad. |
|
YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r Gwaith sy’n mynd rhagddo i’w lliniaru. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd That the press and public be excluded for the remainder of the meeting for the following items by virtue of exempt information under paragraph(s) 14 of Part 4 of Schedule 12A of the Local Government Act 1972 (as amended). Dogfennau ychwanegol: |
|
Gofal yn Nes at y Cartref – Cefnogi plant i gamu i lawr o Leoliadau y Tu Allan i’r Sir Pwrpas: Ceisio cefnogaeth i gomisiynu prosiect i leihau’r ddibyniaeth ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir ar gyfer 21 o blant sy’n derbyn gofal. Penderfyniad: (a) Bod y Cabinet yn cymeradwyo comisiynu'r cwmni y manylwyd arno yn yr adroddiad, trwy Matrix, i leihau'r ddibyniaeth ar Leoliadau All-Sirol cost uchel trwy waith dwys i gefnogi plant sy'n derbyn gofal yn ddiogel ac yn briodol i symud i drefniadau sy'n cyd-fynd â'u hanghenion a nodwyd.
(b) Bod y Cabinet yn croesawu'r ymagwedd a fabwysiadwyd gan y portffolio i nodi atebion sydd â'r budd deuol o wella canlyniadau i blant a phobl ifanc a chyflawni arbedion cost. |
|
Caffael Cerbydau Fflyd Ailgylchu ar Ymyl y Ffordd Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gaffael cerbydau fflyd yn unol â’r trothwyon awdurdodi a nodir yn Rheolau’r Weithdrefn Gontractau. Penderfyniad: Bod y Cabinet yn cefnogi caffael 22 o gerbydau ailgylchu drwy ddyfarniad uniongyrchol drwy TPPL am gost amcangyfrifedig fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, gan sicrhau bod y fflyd ailgylchu yn cael ei hadnewyddu a’i hehangu’n amserol er mwyn cynnal gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu dibynadwy, effeithlon a chynaliadwy ledled Sir y Fflint. |
|
Trefniadau gydag Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ar gyfer contract newydd gyda NEWydd a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer estyniad arall i’r contract presennol er mwyn cwblhau gwaith ar y contract newydd. Penderfyniad: (a) Nodi'r wybodaeth a ddarparwyd ar y trefniant newydd gyda NEWydd Catering and Cleaning Limited a'r rheswm pam yr oedd oedi gyda'r gwaith ar hyn; a
(b) Cymeradwyo estyniad pellach i'r trefniant presennol rhwng y Cyngor a NEWydd Catering & Cleaning Limited, er mwyn caniatáu amser i'r trefniant newydd, ac unrhyw faterion cysylltiedig, gael eu cwblhau. |
|
Trefniadau gyda Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint Pwrpas: Cyflwyno trefniant cytundebol ar gyfer Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint a cheisio cymeradwyaeth ar ei gyfer. Penderfyniad: Cymeradwyo'r trefniant cytundebol gyda Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint Cyfyngedig, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: |