Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@siryfflint.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

129.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I derbyn datganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a

hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

130.

Cofnodion pdf icon PDF 141 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a 20 Chwefror 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Chwefror eu cyflwyno a’u cadarnhau fel cofnod cywir, yn amodol ar wall teipograffyddol yng nghofnod rhif 106.

 

PENDERFYNWYD:

                                          

Yn amodol ar y diwygiad, bod cofnodion y cyfarfod yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

131.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Mae'r Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn nodi dadansoddiad o ba mor dda y mae'r Cyngor wedi perfformio yn erbyn ein Hamcanion Llesiant, Blaenoriaethau ac Is-flaenoriaethau ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2023/24 ein Cynllun Cyngor (2023-28). Mae’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol hefyd yn rhoi crynodeb o berfformiad mewn perthynas â meysydd ffocws allweddol eraill o fewn y Cyngor, h.y. Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ac egluro bod yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn nodi dadansoddiad a chrynodeb o sut mae’r Cyngor yn perfformio yn erbyn ei Amcanion, Blaenoriaethau ac Is-flaenoriaethau Lles ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2023/24 o Gynllun y Cyngor (2023-28).

 

Roedd yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol hefyd yn darparu crynodeb o berfformiad yngl?n â meysydd canolbwynt allweddol eraill o fewn y Cyngor h.y. Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus,Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

 

Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gydweithio i greu Cymru gynaliadwy. Mae’n nodi saith nod lles rhyng-ddibynnol i Gymru ac mae’n gofyn bod cyrff cyhoeddus yn gweithio tuag at bob un o’r rhain.  Fe’i nodwyd yng Nghynllun y Cyngor (2023-28), a oedd yn diffinio’r blaenoriaethau a’r canlyniadau sefydliadol y gellir eu cyflawni.

 

Nododd y Prif Weithredwr rai o’r newidiadau allweddol i’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol a oedd yn cynnwys:

 

Adran 3  - yn flaenorol roedd yn alinio Blaenoriaethau’r Portffolio / Amcanion Lles gyda Chynllun y Cyngor.  Mae hyn wedi’i dynnu’n awr ac yn nodi Blaenoriaethau / Amcanion Lles Cynllun y Cyngor.

 

Adran 3.1  - byddai’n darparu trosolwg lefel uchel o sut mae pob blaenoriaeth / is-flaenoriaeth yn ystyried y pum ffordd o weithio a’r saith nod lles (gwnaed ymarfer mapio yn ddiweddar gan y Portffolios i nodi hyn).

 

Adran 4  - meysydd o Berfformiad Uchel, yn cael ei dynnu.

 

Adran 5 - byddai’n awr yn darparu gwybodaeth o’r hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn ar gyfer pob un o Flaenoriaethau / Is-flaenoriaethau Cynllun y Cyngor 2023-28 yn hytrach na’r hyn a gyflawnwyd ar gyfer pob Portffolio.  Byddai hefyd yn cynnwys crynodeb lefel uchel o adroddiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor ar gyfer pob Blaenoriaeth / Is-flaenoriaeth.  Lle bo modd byddai’n cynnwys dolenni cyswllt i wybodaeth / straeon ar wefan neu dudalen Facebook y Cyngor sy’n berthnasol i’r Blaenoriaethau / Is-flaenoriaethau.

 

Byddai manylion llawn adroddiad Perfformiad Diwedd Blwyddyn, Cynllun y Cyngor mewn dogfen ategol i’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol.

 

Adran 7 - Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015- Bydd angen tynnu’r Pum Ffordd o Weithio gan fod cysylltiadau gyda’r Ddeddf yn cael eu hystyried yn Adran 3.1 ac Adran 5.

 

Adran 13  - Bydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol yn cael ei dynnu.

 

Croesawodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad diwygiedig a’r cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r Newid yn yr Hinsawdd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r newidiadau i’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2023/24, sy’n cynnwys ymgorffori Adroddiad Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2023-28 yn yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol.

132.

Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2022/23 pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        Cyflwyno adroddiad blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor wedi cyhoeddi ei amcanion cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol pedair blynedd ym mis Ebrill 2020, gan gyflawni gofynion Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

 

Ychwanegodd y Swyddog Gweithredol Strategol mai nod yr amcanion cydraddoldeb oedd mynd i’r afael â’r materion mwyaf sylweddol a meysydd o anghydraddoldeb y mae pobl gyda nodweddion gwarchodedig (oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a thueddfryd rhywiol) yn eu hwynebu.

 

Roedd y Ddeddf Cydraddoldeb yn cyflwyno dyletswyddau penodol i sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru.  Roeddent yn cynnwys gofyniad i gyhoeddi adroddiad blynyddol erbyn 31 Mawrth bob blwyddyn, ac mae’n rhaid i’r adroddiad amlinellu’r cynnydd o ran diwallu Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a chyflawni’r amcanion cydraddoldeb.   Roedd yr adroddiad blynyddol ynghlwm â’r adroddiad ac yn amlygu cynnydd y Cyngor i roi’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar waith a diwallu’r amcanion cydraddoldeb yn ystod 2022/2023.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn i gyflawni’r dyletswyddau statudol mewn perthynas â chydraddoldeb; a

 

(b)       Chefnogi’r cynnydd a wnaed yn erbyn Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2022/23, cyn cyhoeddi’r adroddiad blynyddol ar wefan y Cyngor.

 

133.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024/28 i'w gymeradwyo cyn ei gyhoeddi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn cyflwyno amcanion cydraddoldeb drafft a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 y Cyngor cyn eu cyhoeddi.

 

Ychwanegodd y Swyddog Gweithredol Strategol  bod gofyn i’r holl awdurdodau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru gyhoeddi amcanion cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol bob pedair blynedd yn unol â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol (Cymru) 2011.

 

Mae’n rhaid ymgysylltu â phobl gyda nodweddion gwarchodedig wrth osod amcanion cydraddoldeb ac wrth baratoi ac adolygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

Nod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol oedd lleihau anghydraddoldebau a sicrhau darpariaeth canlyniadau cadarnhaol ar gyfer pobl gyda nodweddion gwarchodedig.

 

Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer y cyfnod 2024-28 ynghlwm i’r adroddiad ac mae’n rhaid ei gyhoeddi erbyn 1 Ebrill 2024.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo amcanion cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 y Cyngor, cyn ei gyhoeddi.

134.

Adroddiad Diweddaru ar Ddigartrefedd a Phobl sy’n Cysgu Allan a’r Polisi Digartrefedd pdf icon PDF 153 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad blynyddol am y gwaith sy’n cael ei wneud i leihau digartrefedd a’r gefnogaeth sy’n cael ei darparu i bobl sy’n cysgu allan.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad ac eglurodd bod Digartrefedd yn wasanaeth statudol sy’n parhau i wynebu pwysau sylweddol.   Roedd ffactorau allanol fel yr argyfwng costau byw a chyflwr y farchnad dai yn cynyddu lefelau digartrefedd a’r risgiau sy’n gysylltiedig â digartrefedd ar gyfer pobl Sir y Fflint.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) bod y gofyniad i gynnig llety a chymorth i bawb sy’n ddigartref ac mewn perygl o orfod cysgu allan yn parhau i fod yn her o ran capasiti ac o safbwynt ariannol.  Mae heriau sylweddol yn y farchnad dai sector preifat yn lleol gyda llai o eiddo ar gael bob blwyddyn a sawl landlord yn gadael y farchnad, sydd yn ei dro yn creu digartrefedd wrth i eiddo gael eu rhoi ar werth a bod gofyn i denantiaid adael, ac ar yr un pryd roedd yn golygu bod llai o eiddo ar gael i gefnogi i atal digartrefedd.

 

Yn sgil newidiadau i ddeddfwriaeth digartrefedd (Deddf Tai Cymru 2014) a chyflwyno unfed categori ar ddeg o Angen Blaenoriaethol ar gyfer Cysgu Allan a’r rheiny sydd mewn perygl o gysgu allan, llwyddwyd i gynnal y dull “peidio â gadael neb allan” a fabwysiadwyd yn ystod y pandemig ac sydd bellach wedi sefydlu’r egwyddor yn gadarn ar sail gyfreithiol fel arfer safonol.

 

O ganlyniad, mae dyletswyddau llety wedi bod yn ddyledus i fwy o bobl ac mae hynny wedi creu cynnydd sylweddol yn y galw ar letyau digartref sydd eisoes dan bwysau ac am gost sylweddol i’r Cyngor. Roedd yr adroddiad yn cynnig cipolwg ar ddigartrefedd a phobl sy’n cysgu allan ar gyfer 2023 ac roedd yn cynnwys fersiwn ddrafft o’r Polisi Llety Digartrefedd i’w adolygu a’i gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad a chefnogi’r gwaith sy’n cael ei gyflawni gan y Gwasanaeth Tai ac Atal; a

 

(b)       Chymeradwyo fersiwn ddrafft y Polisi Llety Digartrefedd.

135.

Strategaeth Adnoddau a Gwastraff pdf icon PDF 510 KB

Pwrpas:        Adolygu strategaeth wastraff bresennol y Cyngor gyda’r amcan o gyflawni targedau ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru o 70%.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoleiddio’r adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor yn cefnogi’r datganiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i’r Sector Cyhoeddus ddod yn sero net erbyn 2030 ac ym mis Rhagfyr 2019, fe gymeradwyodd y Cabinet y cynnig i ddatblygu Strategaeth Newid Hinsawdd, a fyddai’n gosod y prif nodau a gweithredoedd ar gyfer creu sefydliad carbon niwtral. Roedd lleihau’r defnydd o bethau na ellir eu hailddefnyddio a’u hailgylchu a chynyddu’r defnydd o’r hyn y gellir ei ailddefnyddio a’i ailgylchu i arbed adnoddau gwerthfawr yn rhan allweddol o gyrraedd sero net.

 

Roedd y Strategaeth Adnoddau a Gwastraff ddrafft yn nodi’r cyfeiriad strategol i leihau gwastraff ac i ragori ar dargedau ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru. Heb weithredu roedd yr Awdurdod mewn perygl o gael dirwyon gwerth oddeutu £1miliwn am beidio â chyflawni’r targedau hyn yn 2021/2022 a 2022/2023, ynghyd â pherygl o ddirwyon tebyg yn 2023/2024 a thu hwnt.

 

Roedd y  Strategaeth newydd yn arddangos i’r Gweinidog ymrwymiad y Cyngor i wneud y newid.  Roedd yr adroddiad hwn yn darparu adborth ar yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd ar ddrafft y Strategaeth Adnoddau a Gwastraff ac yn cyflwyno’r strategaeth derfynol i’w hystyried.

 

Roedd yr adroddiad wedi’i gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi lle cafodd ei gefnogi. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn, eglurodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoleiddio fod monitro yn cael ei weithredu os oedd unrhyw gasgliadau’n cael eu methu dro ar ôl tro mewn un ardal.  Darparwyd manylion hefyd am yr addysg a ddarperir a’r lefelau gorfodi.

 

O ran ehangu’r lleoliadau lle gellir derbyn cynwysyddion, eglurodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoleiddio yr ymrwymir i hyn yn y strategaeth.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cydnabod y cynnydd a wnaed ar gyflawni Strategaeth Adnoddau a Gwastraff cadarn ac effeithiol i gwrdd â thargedau sero net, i gyflawni targedau ailgylchu statudol a lleihau’r perygl o dderbyn dirwyon;

 

(b)       Cymeradwyo’r Strategaeth Adnoddau a Gwastraff i gwrdd â thargedau sero net, i gyflawni targedau ailgylchu statudol a lleihau’r perygl o dderbyn dirwyon; a

 

(c)        Bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno ym mis Mehefin yn amlinellu cyfnod pontio’r Cyngor i fodel casglu gwastraff gweddilliol â chapasiti cyfyngedig.

136.

Canlyniad Mabwysiadu Strategaeth Toiledau Lleol pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ôl i’r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben a chyflwyno fersiwn drafft terfynol o’r strategaeth i’w mabwysiadu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd yr adroddiad ac egluro y derbyniodd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 Gydsyniad Brenhinol ym mis Gorffennaf 2017, gan dynnu ynghyd nifer o weithredoedd ymarferol ar gyfer gwella a diogelu iechyd.  Roedd Rhan 8 y Ddeddf yn cynnwys Darparu Toiledau ac yn cyflwyno cyfrifoldebau newydd i Awdurdodau Lleol ddarparu Strategaethau Toiledau Lleol.

 

Er mwyn gweithio mewn ffordd strategol wrth ddarparu toiledau ar draws Cymru, mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn gorchymyn fod Awdurdodau Lleol yn asesu anghenion a chyfleusterau lleol, a chyhoeddi Strategaeth Toiledau Lleol ar gyfer eu hardaloedd.

 

Cafodd Strategaeth Toiledau Lleol bresennol Sir y Fflint ei chymeradwyo a’i chyhoeddi ym mis Mai 2019.  Roedd y canllawiau cenedlaethol yn nodi y dylid adolygu’r polisi bob dwy flynedd o ddyddiad cyhoeddi neu adolygu’r Strategaeth, ac o fewn blwyddyn i etholiad Llywodraeth Leol cyffredinol.

 

Mewn cyfarfod diweddar bu i Aelodau Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi gefnogi’r adolygiad arfaethedig i’r Strategaeth Toiledau Lleol a chymeradwyo’r dull bwriedig a nodwyd yn yr adroddiad.  Diben yr adroddiad oedd cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cabinet yn dilyn ymgynghoriad ffurfiol am 12 wythnos ar y Strategaeth Toiledau Lleol diwygiedig.

 

Roedd y strategaeth newydd yn ceisio adlewyrchu uchelgais Arweinyddiaeth y Cyngor i ddarparu cyfleusterau gwell ar gyfer y preswylwyr ac ymwelwyr Sir y Fflint o fewn cyfnod y strategaeth newydd.

 

Croesawodd y Cynghorydd Bithell y strategaeth ddiwygiedig a chyflwyno sylwadau ar y toiledau ar draws y sir y mae pobl yn talu i’w defnyddio a fyddai’n cynhyrchu incwm. 

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cydnabod y gwaith a wnaed hyd yn hyn ar y canlyniadau o’r holiadur Strategaeth Toiledau Cyhoeddus a’r ymgynghoriad 12 wythnos; a

 

(b)        Bod Strategaeth Toiledau Lleol 2024 Cyngor Sir y Fflint a’r cynllun gweithredu newydd yn y strategaeth yn cael eu cymeradwyo.

137.

Adroddiad Sicrwydd ac Asesiad Risg Archwilio Cymru – Cynllun Lleihau Carbon pdf icon PDF 171 KB

Pwrpas:        Cydnabod canlyniad adroddiad Archwilio Cymru a chefnogi’r camau a gymerir i fynd i’r afael â’u hargymhelliad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad ac eglurodd yn 2019 bod Llywodraeth Cymru wedi galw ar y Sector Cyhoeddus i fod yn garbon sero net erbyn 2030.  Yn dilyn y datganiad hwnnw, roedd y Cabinet wedi penderfynu ym mis Rhagfyr 2019 i gyflwyno Strategaeth Newid Hinsawdd a fyddai’n gosod amcanion allweddol a chamau i greu Cyngor carbon sero net erbyn 2030. 

 

Cafodd y Strategaeth Newid Hinsawdd a’r cynllun gweithredu eu mabwysiadu gan y Cyngor ym mis Chwefror 2022. Roedd y strategaeth yn nodi ymrwymiad, uchelgais, camau gweithredu a thargedau cerrig milltir i gyflawni ein nod carbon sero net.

 

Ym mis Gorffennaf 2022, cyflwynodd Archwilio Cymru adroddiad a oedd yn ceisio arweinyddiaeth gref yn y sector cyhoeddus i leihau allyriadau carbon yng Nghymru.  Yn dilyn hyn, cynhaliwyd archwiliadau unigol o bob ymrwymiad a cham gweithredu carbon y Cyngor yn erbyn canfyddiadau’r adroddiad ar gyfer y sector cyhoeddus cyfan.

 

Diben yr adroddiad oedd darparu trosolwg o adolygiad yr Asesiad Sicrwydd a Risg a’r camau gweithredu a gyflawnwyd hyd yma i fynd i’r afael â’r argymhelliad.

 

            Byddai’r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ac i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd. 

           

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi canlyniad adroddiad Archwilio Cymru, ymateb y Cyngor iddo ac yn cefnogi’r camau a gymerir i fynd i’r afael â’r argymhelliad.

138.

Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 10) pdf icon PDF 138 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2023/24 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 10 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac egluro bod yr adroddiad misol yn rhoi trosolwg manwl i Aelodau o sefyllfa monitro cyllideb Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, a chyflwynodd y sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 10. 

 

Mae’r sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn fel a ganlyn:

 

Cronfa’r Cyngor

  • Roedd y diffyg gweithredol yn £2.445m sy’n symudiad ffafriol o (£0.057m) o’r ffigwr diffyg o £2.502m a adroddwyd ym Mis 9.
  • Rhagwelir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid sydd ar gael ar 31 Mawrth 2024 yn £1.993m (ar ôl ystyried y dyraniadau a gymeradwywyd yn flaenorol gan gynnwys y rhai a gymeradwywyd fel rhan o Gyllideb 2024/25).

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

  • Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn yn £0.458 miliwn yn uwch na’r gyllideb sy’n symudiad anffafriol o £0.408 miliwn o’r ffigwr a adroddwyd ym Mis 9.
  • Rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2024 yn £2.739 miliwn.

Mae’r rhagolygon economaidd yn parhau i fod yn heriol o ganlyniad i lefelau chwyddiant eithaf uchel.

 

Er mwyn cynorthwyo gyda rheoli’r risgiau hynny a lliniaru’r gorwariant cyffredinol a ragwelir, roedd moratoriwm drwy adolygu gwariant diangen ynghyd â phroses o reoli swyddi gweigion ar waith.

 

Ym Mis 10, nodwyd £1.714m o wariant gohiriedig ac fe’i dadansoddwyd fesul gwasanaeth a’i nodi yn Atodiad 2 yr adroddiad.  Byddai her gadarn ar gyfer y llinellau a’r ymrwymiadau cyllidebol yn parhau am weddill y flwyddyn ariannol, gyda’r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei chyflwyno mewn adroddiadau dilynol.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2023/24; a

 

(b)       Chefnogi’r ceisiadau i ddwyn arian ymlaen.

139.

Cymeradwyo’r Strategaeth Gaffael 2024-2027 pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        Ar gyfer cymeradwyaeth y Strategaeth Gaffael 2024-2027 gan y Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor yn parhau i weithredu gwasanaeth caffael ar y cyd gyda Chyngor Sir Ddinbych, a Sir Ddinbych yw’r awdurdod arweiniol.

 

Cydnabuwyd er mwyn gweithredu arferion caffael effeithiol ac effeithlon ar bob lefel o fewn y Cyngor, mae’n rhaid cael strategaeth gaffael drosfwaol i danategu’r prosesau.  Roedd datblygu strategaeth ddiwygiedig yn hanfodol er mwyn nodi’r themâu allweddol sy’n dod i’r amlwg ar gyfer darparu gweithgareddau caffael, ynghyd ag uchelgeisiau gwleidyddol y Cabinet.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai mabwysiadu’r strategaeth gaffael ddiweddaraf yn gymorth i wella darpariaeth gwasanaeth a chefnogaeth ar gyfer budd-ddeiliaid mewnol o ran sut y byddai caffael yn cefnogi blaenoriaethau’r Cyngor.  Roedd y ddogfen hefyd yn cynnwys deddfwriaeth a mentrau caffael diweddaraf y Llywodraeth.

 

Paratowyd y strategaeth gaffael i sicrhau bod cynllun 3 blynedd wedi’i ddiweddaru, sy’n nodi amcanion a dyheadau gwleidyddol y Cabinet ac sy’n alinio â Chynllun y Cyngor a’r blaenoriaethau allweddol.

           

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Strategaeth Gaffael 2024- 2027.

140.

Adolygu Cynllun Premiwm Treth y Cyngor pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        Ystyried adolygiad o Gynllun Premiwm Treth y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd fod gan awdurdodau lleol yng Nghymru bwerau disgresiwn i godi premiwm Treth y Cyngor o hyd at 300% yn uwch na chyfradd safonol ar gyfer eiddo sy’n wag yn hirdymor ac ail gartrefi.

 

Cyflwynodd y Cyngor gynllun premiwm lleol o fis Ebrill 2017 a gosododd gyfradd premiwm o 50% ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi.

 

Yn 2021 cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ac ym mis Ebrill 2023 cynyddodd y Cyngor gyfradd y premiwm i 75% ar gyfer eiddo gwag hirdymor a 100% ar ail gartrefi.

 

Yn unol ag argymhellion y Cyngor yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2024, ymrwymodd y Cabinet i gyflwyno adolygiad o gyfraddau premiwm drwy gomisiynu ymgynghoriad cyhoeddus arall.

 

Felly roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r ystyriaethau allweddol a’r terfynau amser pe byddai’r Cabinet yn dymuno cynnal ymgynghoriad pellach gyda’r nod o amrywio cyfraddau’r premiwm o fis Ebrill 2025.

           

Ychwanegodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael wrth ystyried unrhyw newidiadau i gynllun premiwm treth y Cyngor neu’r lefelau a godir, mae’n rhaid i’r Cyngor roi ystyriaeth ddyledus i ganllawiau Llywodraeth Cymru a oedd yn nodi:

 

Rhaid cadarnhau unrhyw fwriad i amrywio neu ddirymu penderfyniad i gymhwyso premiwm cyn dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'n berthnasol iddi. Hefyd, anogir awdurdodau lleol yn gryf i ymgynghori cyn penderfynu cynyddu premiwm uwchlaw 100% gan wneud hynny o leiaf chwe mis cyn dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'r cynnydd arfaethedig i'r premiwm yn berthnasol iddi. Bydd hyn yn golygu y bydd modd ystyried y premiwm wrth bennu lefelau'r dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf a bydd yn rhoi digon o amser i drethdalwyr ystyried effaith premiwm uwch ar eu hamgylchiadau ariannol personol a gwneud dewisiadau ynghylch eu heiddo.

           

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, amlinellwyd terfynau amser a cherrig milltir allweddol ar gyfer adolygiad premiwm treth y Cyngor yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi comisiynu ymgynghoriad cyhoeddus i benderfynu a ddylid amrywio lefelau premiwm ar gyfer eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi o fis Ebrill 2025.

141.

Adroddiad Archwilio Cymru: Gwasanaethau Digartrefedd – Cyngor Sir y Fflint pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        Rhannu canfyddiadau adolygiad Archwilio Cymru ar Atal Digartrefedd yng Nghyngor Sir y Fflint gyda’r Cabinet a cheisio cymeradwyaeth i ddarparu ymateb sefydliadol ffurfiol i Archwilio Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad ac egluro fel rhan o raglen waith Archwilio Cymru ar gyfer 2023, nodwyd digartrefedd fel maes o ddiddordeb.  Roedd y Cyngor wedi nodi digartrefedd ac anghenion tai fel materion risg uchel drwy fframweithiau rheoli risg lleol ac yn croesawu’r adolygiad.

 

Cynhaliwyd yr adolygiad dros sawl mis o fis Ebrill 2023 i fis Medi 2023.  Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol ar 11 Ionawr 2024.  

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu proses yr adolygiad gan Archwilio Cymru ac yn rhannu’r canfyddiadau yn eu hargymhellion ar gyfer y Cyngor yngl?n â’r dull lleol ar gyfer digartrefedd. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu ymateb y Cyngor i’r argymhellion hynny.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi adroddiad Archwilio Cymru ar Wasanaethau Digartrefedd Cyngor Sir y Fflint;

 

(b)       Cefnogi’r ymatebion awgrymedig i argymhellion Archwilio Cymru; ac

 

(c)        Y rhoddir diolch swyddogol i’r Tîm Digartrefedd ac Atal am eu gwaith a wnaed ar gyfer yr heriau a wynebir yn ddyddiol

142.

Cytundeb Cyllideb Gyfun ar gyfer Llety Cartrefi Gofal i Bobl Hyn pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am waith Gr?p Cyllideb Gyfun Gogledd Cymru i fodloni gofynion cyfreithiol a pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllidebau cyfun rhwng llywodraeth leol a’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd ei fod yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i gynghori ar y dull rhanbarthol arfaethedig o gyflawni gofynion cyfreithiol y Cyngor mewn perthynas â sefydlu a chynnal cronfa gyfun ranbarthol ar gyfer llety cartrefi gofal yn unol â'r dyletswyddau a osodwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) a Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015 (“rheoliadau 2015”), a cheisio estyniad i ad infinitum y trefniant.

 

Ym mlwyddyn ariannol 2019-2020, sefydlwyd cyllideb gyfun ranbarthol heb rannu risg ar gyfer Gogledd Cymru a derbyniwyd cymeradwyaeth gychwynnol y Cabinet yn Sir y Fflint ar 16 Gorffennaf 2019.  Roedd y trefniant ar waith o 1 Ebrill 2019 ac fe gytunwyd y byddai Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal y trefniadau, felly’n gweithredu’r gronfa gyfun ar ran y partneriaid i gyd.

 

Eglurodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu bod angen penderfyniad yn awr i barhau â’r trefniadau ar gyfer cronfa gyfun heb rannu risg (a gynhelir gan Gyngor Sir Ddinbych ar ran chwe Chyngor Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) o ran y gwariant rhanbarthol ar swyddogaethau llety cartrefi gofal ar gyfer pobl h?n.

 

O ystyried gwerth y gronfa gyfun, roedd angen awdurdod y Cabinet i’r Cyngor ymrwymo i’r cytundeb a ddiweddarwyd i reoleiddio ein perthynas barhaus â’n partneriaid o ran sefydlu a gweithredu'r gronfa gyfun.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cefnogi’r cynnydd a wnaed yn rhanbarthol i fodloni gofynion Rhan 9 yn Neddf 2014 sy’n ei gwneud yn gyfreithiol ofynnol i sefydlu cronfa gyfun ranbarthol ar gyfer llety cartref gofal i bobl h?n; ac

 

(b)       Y rhoddir cymeradwyaeth i'r Cyngor ymrwymo i gytundeb cyfreithiol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r chwe awdurdod lleol ar draws Gogledd Cymru, yn rheoleiddio gweithrediad a threfniadau llywodraethu mewn perthynas â’r gronfa gyfun nes y bydd angen terfynu’r cytundeb.

143.

Diogelu Cyd-destunol pdf icon PDF 347 KB

Pwrpas:        Cynghori ar ddull Sir y Fflint o ddiogelu plant a phobl ifanc drwy Ddiogelu Cyd-destunol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a oedd yn cydnabod wrth i bobl ifanc dyfu a datblygu roedd ystod eang o amgylcheddau a phobl y tu allan i’w teulu yn dylanwadu arnynt.  Er enghraifft mewn ysgol neu goleg, yn y gymuned leol, yn eu grwpiau cyfoedion neu ar-lein. 

 

Gall plant a phobl ifanc wynebu risg mewn unrhyw un o’r amgylcheddau hyn.  Roedd diogelu cyd-destunol yn ystyried sut y gellir deall y risgiau hynny, ac i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a chynorthwyo i’w cadw’n ddiogel.

 

Datblygwyd fforwm gweithredol sy’n uno sefydliadau proffesiynol i drafod pryderon mewn perthynas â niwed y tu allan i’r teulu ac i gynllunio ymatebion sy’n lleihau’r risg.  Nid yw Hwb Diogelu Cyd-destunol yn disodli prosesau diogelu pobl ifanc unigol, ond mae’n nodi’r rôl bwysig sydd gan gymunedau ac asiantaethau partner wrth greu mannau diogel i blant a phobl ifanc.

 

Ychwanegodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu bod cyfleoedd, fodd bynnag, i symleiddio ac alinio ymagweddau i brosesau diogelu unigol a chyd-destunol a byddai hyn yn hysbysu ail gam y gwaith i ddatblygu ymagwedd y Cyngor ar gyfer diogelu effeithiol.

           

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi datblygiad parhaus a dull cydlynol ar gyfer diogelu cyd-destunol sy’n gwneud y mwyaf o adnoddau er mwyn galluogi ymagwedd syml ac effeithiol ar gyfer diogelu unigol a chyd-destunol.

144.

Adroddiad Diweddaru ar Werth Cymdeithasol pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Cyflwyno adroddiad diweddaru ar werth cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd bod cynhyrchu gwerth cymdeithasol o weithgareddau comisiynu a chaffael y Cyngor yn cyfrannu’n sylweddol at gynyddu gwerth cymdeithasol a darparu gwerth ychwanegol, felly roedd yn parhau i fod yn faes ffocws allweddol ar gyfer y Cyngor.

 

Mae’r adroddiad yn amlinellu data perfformiad chwe mis olaf blwyddyn ariannol 2022/23, ynghyd â chwe mis cyntaf blwyddyn ariannol 2023/24.   Roedd yr adroddiad hefyd yn crynhoi’r meysydd canolbwynt nesaf ar gyfer y rhaglen gwerth cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod 2024/25.

 

Roedd y terfynau amser presennol ar gyfer adrodd yn golygu ei bod yn anodd adrodd ar flwyddyn ariannol gyfan.   Argymhellir er mwyn alinio adroddiadau perfformiad gyda’r flwyddyn ariannol y bydd angen newid mewn amseroedd adrodd ar gyfer y dyfodol.   Argymhellwyd y dylid cyflwyno adroddiad ar gyfer chwarter 3 a 4 2023/24 ym mis Medi 2024 ac yna symud i adroddiad blynyddol ym mis Mai neu fis Mehefin bob blwyddyn.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r perfformiad cadarnhaol a gyflawnwyd mewn perthynas â chreu gwerth cymdeithasol ar gyfer chwarter tri a phedwar yn y flwyddyn ariannol 2022/23, yn ogystal â dau chwarter cyntaf 2023/24;

 

(b)       Cefnogi’r camau nesaf ar gyfer y rhaglen gwerth cymdeithasol, fel yr amlinellir yn yr adroddiad; ac

 

(c)        Er mwyn alinio adroddiadau perfformiad gyda’r flwyddyn ariannol, cymeradwyo adroddiad perfformiad gwerth cymdeithasol blynyddol sy’n cael ei gyflwyno ym mis Mehefin bob blwyddyn.

145.

Siarter Rhianta Corfforaethol - Addewid Cymru pdf icon PDF 110 KB

Pwrpas:        Ceisio cytundeb bod Cyngor Sir y Fflint y mabwysiadu’r Siarter Rhianta Corfforaethol: ‘Addewid Cymru’.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd bod Llywodraeth Cymru wedi lansio Siarter Rhianta Corfforaethol:  ‘Addewid Cymru’. Mae’r Siarter, yn nodi 11 o egwyddorion ar gydraddoldeb, diddymu stigma, gweithio gyda’n gilydd, cefnogaeth gynhwysol, cyflawni uchelgeisiau, meithrin, iechyd da, cartref sefydlog, addysg, ffynnu yn y dyfodol a chefnogaeth ôl-ofal.

 

Mae’r Siarter hefyd yn nodi 9 addewid o ran sut y dylid trin, gwrando a chynnwys plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

Cyhoeddwyd y Siarter ar sail wirfoddol i ddechrau.  Anogwyd sefydliadau’r sector cyhoeddus i lofnodi addewid i gefnogi’r egwyddorion yn y Siarter.  Roedd yr addewid yn ymrwymo sefydliadau i sicrhau bod popeth y maent yn ei wneud ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi derbyn gofal yn cael ei danategu gan rymuso, cydraddoldeb, atal gwahaniaethu, cyfranogi ac atebolrwydd a diogelu. 

 

Y dull a ddisgwylir yw parchu, diogelu a hyrwyddo eu hawliau dynol o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Roedd yr addewid yn cynnwys ymrwymiad i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc i fesur llwyddiant sefydliadol ac ymrwymiad i’r Siarter.

 

            Fel Aelod o’r Fforwm Gwasanaethau Plant, croesawodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad a’r adborth i blant sy’n derbyn gofal.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Bod Cyngor Sir y Fflint yn llofnodi’r ‘addewid’ a mabwysiadu Siarter Rhianta Corfforaethol: ‘Addewid Cymru’; a

 

(b)       Bod y Fforwm Gwasanaethau Plant yn arwain y gwaith o fesur llwyddiant ac ymrwymiad sefydliadol i’r Siarter Rhianta Corfforaethol.

146.

Adroddiad Blynyddol ar Unigolion Cyfrifol pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        I ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ar berfformiad y gwasanaethau darparwyr mewnol mewn perthynas â Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd ei fod yn disgrifio rôl yr Unigolyn Cyfrifol, gofynion y rôl a sut yr oedd gwasanaethau rheoledig mewnol wedi perfformio dros y 12 mis diwethaf.

 

Roedd yr Unigolyn Cyfrifol yn ofyniad statudol ar gyfer yr holl sefydliadau yng Nghymru sy’n darparu gwasanaethau gofal.  Ynghyd ag Unigolyn Cyfrifol yn ymweld â’r holl wasanaethau o leiaf 4 gwaith y flwyddyn, mae’n rhaid iddynt gasglu tystiolaeth i fesur gwasanaethau yn erbyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (2016). Roedd y gwasanaethau dan sylw wedi’u nodi yn yr adroddiad.  

 

Roedd y dull o gasglu tystiolaeth yn cynnwys archwilio ffeiliau, ymweliadau iechyd a diogelwch, cadw cofnodion, diogelu, cyfarfodydd tîm ac ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth a theuluoedd.  Roedd hefyd yn defnyddio arolygon gan Arolygiaeth Gofal Cymru.I grynhoi roedd yr Unigolyn Cyfrifol yn adrodd lefel uchel o hyder ym mhob maes o’r gwasanaeth.  Roedd safon y gofal yn uchel ym mhob man ac roedd y staff wedi’u hyfforddi i safon uchel.  Roedd nifer o feysydd sydd angen eu hystyried mewn perthynas â risgiau ar gyfer gwasanaethau darparwyr fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.  

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd lle y gofynnodd yr Aelodau am gael ailddechrau ymweliadau rota.  

           

PENDERFYNWYD:

 

Nodi a chymeradwyo’r adroddiad.

147.

Rheoliadau Ailgylchu’r Gweithle pdf icon PDF 121 KB

Pwrpas:        Rhoi trosolwg o’r drefn ddiwygiedig a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ailgylchu yn y gweithle.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd o 6 Ebrill 2024, byddai deddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Cymru yn dod i rym gan ei gwneud yn ofynnol i bob eiddo annomestig wahanu deunyddiau y gellir eu hailgylchu o’r gwastraff arall.  Byddai hyn yn golygu bod yn rhaid i bob gweithle, fel busnesau, y sector cyhoeddus ac elusennau ddidoli eu deunydd y gellir ei ailgylchu yn yr un modd ag aelwydydd. 

 

Nod y newid oedd gwella ansawdd a chyfanswm yr eitemau ailgylchu masnachol a gesglir ac a ddidolir ledled Cymru.

 

Byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am sicrhau bod y deunyddiau’n cael eu gwahanu a’u casglu’n briodol, ac roedd gwaharddiad ar anfon deunyddiau y gellir eu hailgylchu i’w llosgi ac i’w tirlenwi i ddilyn.  Byddai Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am sicrhau y dilynir y gwaharddiad ar waredu bwyd trwy garthffos.

Roedd yr adroddiad yn darparu trosolwg o’r gofynion deddfwriaethol newydd ac yn amlinellu’r effaith bosibl ar y Cyngor a’r camau gweithredu sy’n ofynnol i sicrhau cydymffurfiaeth.

 

Ychwanegodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio  drwy gyflwyno’r ddeddfwriaeth newydd, efallai y bydd cyfle i adolygu darpariaeth gwasanaethau ailgylchu ar gyfer busnesau, megis ehangu gwasanaeth casglu gwastraff masnachol y Cyngor ar sail y gellir codi tâl amdano.

 

Gallai un dewis arall sy’n cael ei ystyried gynnwys dynodi cyfleuster gwaredu gwastraff sengl (h.y. Safle Ailgylchu Gwastraff y Cartref) er mwyn derbyn deunyddiau eraill y gellir eu hailgylchu a chodi tâl amdanynt (pren, pridd, rwbel, gwastraff gwyrdd ac ati) gan y busnesau.   Byddai hyn yn golygu y byddai angen cefnogaeth swyddfa gefn ychwanegol i sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r ddyletswydd o ofal o safbwynt gwastraff ar gyfer cynhyrchu, cludo, cadw, gwaredu, trin, mewnforio neu reoli gwastraff yng Nghymru neu Loegr.  Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un sy’n ymdrin â gwastraff i’w gadw’n ddiogel, gan sicrhau yr ymdrinnir ag ef yn gyfrifol ac mai dim ond i fusnesau sydd wedi eu hawdurdodi i’w gymryd y caiff ei roi. Roedd hyn yn golygu y byddai’n rhaid newid y drwydded amgylcheddol ar gyfer safle Ailgylchu Gwastraff y Cartref, proses a allai gymryd oddeutu 6 - 12 mis.  Y bwriad oedd cynnwys y dewis yn y Strategaeth Adnoddau a Gwastraff yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r ddeddfwriaeth sy’n newid a’r effaith bosibl ar wasanaethau’r Cyngor; a

 

(b)        Chefnogi’r dewis i archwilio cyfleoedd i ddatblygu gwasanaethau gwaredu a chasgliadau ailgylchu annomestig.

148.

Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2025/2026 pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod am ganlyniad yr ymarfer ymgynghori statudol ar drefniadau derbyn ar gyfer 2025/26 ac argymell eu cymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad ac eglurodd yn unol â Chod Derbyniadau Ysgol, roedd gofyn i’r Cyngor gyflawni ymarfer ymgynghori statudol ar ei drefniadau derbyn ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

 

Mae’n rhaid cwblhau’r ymgynghoriad erbyn 1 Mawrth a rhaid i drefniadau derbyn gael eu pennu erbyn 15 Ebrill bob blwyddyn.  Roedd ymgynghorai statudol yn cynnwys pob ysgol yn yr ardal, yr awdurdodau esgobaethol a’r awdurdodau cyfagos.

 

Mae’n rhaid i’r ymgynghoriad ymdrin â threfniadau derbyn llawn yn cynnwys y polisi derbyn, meini prawf ar gyfer mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael (h.y. y nifer mwyaf o ddisgyblion a gaiff eu derbyn gan yr awdurdod derbyniadau i bob gr?p blwyddyn).  Roedd y wybodaeth wedi’i atodi i’r adroddiad.

 

Nododd y Cynghorydd Roberts bod gostyngiad yn nifer yr apeliadau.   Roedd y trefniadau derbyn cyfredol wedi bod mewn lle ers 2003 ac roedd y mwyafrif o ddewisiadau rhieni yn parhau i gael eu bodloni. Roedd y nifer o apeliadau derbyn yn y blynyddoedd diweddar wedi’u manylu yn y tabl yn yr adroddiad.

           

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2025/26.

149.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 104 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r

Gwaith sy’n mynd rhagddo i’w lliniaru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-

 

Llywodraethu

 

  • Ffioedd a Thaliadau Gwaith Stryd ar gyfer 2024/25

Mae ffioedd a thaliadau a godir ar gyfer trwyddedau a cheisiadau amrywiol o fewn Gwaith Stryd wedi eu hadolygu ac mae’r taliadau arfaethedig ar gyfer 2024/25 wedi’u nodi yn y tabl. Cyfradd dreigl 12 mis CPIH ym mis Hydref 2023 oedd 8.9%.  Mae hyn wedi’i ddefnyddio fel mynegai chwyddiant normadol a’i gymhwyso i’r ffioedd a’r taliadau cymwys i gynhyrchu swm taladwy ffioedd a thaliadau 2023.  Er mwyn caniatáu i ymgeiswyr osod cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, bydd ffioedd Gwaith Stryd yn dod i rym o 1 Ebrill 2024.   Mae'r ffioedd sy'n ymwneud â gwasanaethau statudol wedi'u pennu gan statud ac ni allant fod yn fwy na chost darparu'r gwasanaeth. Fodd bynnag, mae gan y Cyngor gwmpas i osod ffioedd ar gyfer gwasanaethau anstatudol.

 

  • Cynnig i Adeiladu Croesfan Sebra ar Ffordd Coed Onn, Y Fflint

Rhoi gwybod i'r Aelodau am y gwrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu'r Cynnig i adeiladu Croesfan Sebra arfaethedig ar Ffordd Coed Onn, Y Fflint.

 

Tai a Chymunedau

 

  • Budd-dal Tai

Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (adran 9.6) - Incwm a Gwariant), yn amodi y dylid rhoi gwybod i’r Pennaeth Cyllid am unrhyw ddyled unigol sydd werth rhwng £10,000 a £25,000, er mwyn ystyried ei dileu, ar y cyd â'r Aelod Cabinet Cyllid.

 

Mae’r atodlen yn nodi Gordaliad Budd-dal Tai lle bo’r ddyled gyffredinol yn fwy na £10,000.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (HAWL I WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

                       

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Dogfennau ychwanegol:

150.

Cynllun Busnes NEWydd 2024/25

Pwrpas:        Cyflwyno Cynllun Busnes 2024/25 Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf i’w gymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad sy’n cyd-fynd â Chynllun Busnes NEWydd ar gyfer 2024/25, a oedd ynghlwm i’r adroddiad, ac yn darparu crynodeb o elfennau allweddol o’r Cynllun Busnes.

 

PENDERFYNWYD:

           

            (a)        Nodi cynnwys Cynllun Busnes NEWydd 2024/25, sy’n cynnwys rhagamcanion ariannol, cyfleoedd busnes posibl, amcanion strategol a blaenoriaethau busnes, ynghyd â risgiau a mesurau lliniaru; a

           

            (b)        Chefnogi Cynllun Busnes NEWydd 2024/25.

151.

REFNIADAU GYDAG ARLWYO A GLANHAU NEWYDD CYF

Pwrpas:        Cyflwyno a cheisio ardystiad i gynnig mewn perthynas â threfniadau’r dyfodol rhwng y Cyngor a NEWydd Catering & Cleaning Limited.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn cyflwyno argymhellion i lunio cytundeb newydd.  Nodwyd y prif delerau a’r egwyddorion arfaethedig ar gyfer y cytundeb newydd yn yr adroddiad i’w hystyried a’u cymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

           

            (a)       Cefnogi llunio cytundeb newydd gyda Chwmni Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf; 

 

            (b)       Cymeradwyo telerau arfaethedig y cytundeb, gan gynnwys y model ariannol arfaethedig; a

 

            (c)        Chaniatáu estyniad byr pellach i’r cytundeb presennol rhwng y Cyngor a Chwmni Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf, os bydd angen, er mwyn gallu cadarnhau’r cytundeb newydd ac unrhyw faterion cysylltiol.

152.

Cambrian Aquatics

Pwrpas:        Cyflwyno adroddiad gyda’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Trosglwyddo Asedau Cymunedol, Cambrian Aquatics.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad a oedd yn nodi’r sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â Cambrian Aquatics.

                                                                                     

Cafodd yr adroddiad ei drafod yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ac fe gyflwynwyd yr adborth i’r Cabinet.

 

Amlinellwyd y manylion yngl?n â’r bwlch ariannol ochr yn ochr â’r gofyniad am fuddsoddiad cyfalaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod hyd at uchafswm o £150,000 yn cael ei neilltuo ar gyfer y diffyg a ragwelir yn 2024/25 yn amodol ar barodrwydd Cambrian Aquatics i redeg y pyllau a bod adroddiad yn cael ei gyflwyno ddim hwyrach na mis Rhagfyr 2024 cyn gosod y gyllideb ar gyfer 2025/26.

153.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.