Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Remote Meeting
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I dderbyn ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a 18 Gorffennaf 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2023 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir. |
|
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25 PDF 149 KB Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r amcangyfrifon ar gyfer y gyllideb a’r strategaeth ar gyfer pennu cyllideb 2024/25 a chyfeirio at y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa cyllideb refeniw’r Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25.
Yn dilyn cyfarfodydd y Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym mis Gorffennaf, cynhaliwyd gweithdai cyllideb ar gyfer Aelodau ar 31 Gorffennaf er mwyn i Aelodau gael cyfle i holi am unrhyw fanylion pellach yngl?n â sefyllfa’r gyllideb yn gyffredinol a’r amserlen ar gyfer gosod cyllideb ffurfiol.
Roedd y sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb ar gyfer 2024/25 wedi’i hadlewyrchu yn yr adroddiad yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith a gynhaliwyd gan y Portffolios dros yr Haf. Roedd y Cyngor yn dal i wynebu her fawr wrth geisio canfod datrysiadau a fyddai’n galluogi iddo gytuno ar gyllideb gyfreithiol a chytbwys erbyn mis Mawrth flwyddyn nesaf ac roedd angen iddo fynd i’r afael â hyn ar frys.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod dau weithdy i Aelodau wedi cael eu trefnu ac y byddent yn cael eu cynnal ar 5 a 10 Hydref a byddai manylion am y sefyllfa ddiweddaraf yn cael eu rhannu. Byddai Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, hefyd yn bresennol.
Roedd manylion y Setliad yn debygol o gael eu derbyn tuag at ddiwedd Rhagfyr.
Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol lle cynhaliwyd trafodaeth fanwl. Roedd yr Aelodau’n cydnabod y byddai angen gwneud penderfyniadau anodd a gofynnwyd cwestiynau yngl?n â pha gynigion radical fyddai’n cael eu cyflwyno.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn a nodi’r gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 a’i gyfeirio at y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol;
(b) Nodi'r gwaith parhaus ar ddatrysiadau cyllideb y byddai angen eu hystyried ar fyrder er mwyn galluogi'r Cyngor i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ym mis Chwefror 2024. |
|
Blaenoriaethau'r Cynllun Cyfalaf Strategol PDF 109 KB Pwrpas: Sicrhau bod y Cabinet yn cefnogi’r cynlluniau a flaenoriaethwyd a fydd yn cael eu datblygu gydag Achosion Busnes a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru i’w hystyried ar gyfer cyllid Cyfalaf. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Fwrdd Rhaglen Rhanbarthol Gogledd Cymru, a phob rhanbarth yng Nghymru, i ddatblygu a gweithredu Cynllun Cyfalaf Strategol. Dylai’r cynllun adlewyrchu’r olwg 10 mlynedd o anghenion buddsoddi cyfalaf arfaethedig yr isadeiledd cymunedol i ddarparu gofal cymdeithasol a gofal iechyd cynradd a chymunedol. Y cynllun oedd yr unig fecanwaith i ryddhau cyllid cyfalaf allanol i’r Cyngor.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar ddatblygiad Cynllun Cyfalaf Strategol 10 mlynedd gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, mewn cydweithrediad â phob awdurdod lleol, timau iechyd a phartneriaid darparu gwasanaeth eraill.
Roedd yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cyfranogiad Cyngor Sir y Fflint yn y cynllun a’i fwriad strategol, gan nodi y byddai angen ailgyflwyno prosiectau unigol i’r Cabinet er mwyn eu cymeradwyo a’u hystyried yn unol â’r Rhaglen Gyfalaf a Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor.
Croesawodd y Cynghorydd Johnson y wybodaeth ar yr asesiad effaith a lliniaru’r risgiau.
Dywedodd y Cynghorydd Jones fod yr adroddiad wedi cael ei drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yr wythnos flaenorol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r gofyniad am Gynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd ar gyfer Gogledd Cymru a’r prosesau blaenoriaethu ac achos busnes cysylltiedig sydd eu hangen i sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru;
(b) Cymeradwyo cyfranogiad yn y rhaglen ranbarthol, y prosiectau arfaethedig a bwriad strategol y cynllun. |
|
Adroddiad Diwedd Blwyddyn ynghylch Perfformiad Cynllun y Cyngor 2022/23 PDF 171 KB Pwrpas: Adolygu canlyniadau blynyddol Cynllun y Cyngor yn ôl y cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r blaenoriaethau a bennwyd ynddo ar gyfer 2022/23. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod Cynllun y Cyngor 2022/23 wedi’i fabwysiadu gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2022. Roedd yr adroddiad hwn yn cyflwyno crynodeb o berfformiad cynnydd yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2022-23 ar ddiwedd y flwyddyn (Ch4).
Roedd yr adroddiad sefyllfa derfynol ar gyfer Cynllun y Cyngor 2022/23 yn dangos bod 77% o weithgareddau’n gwneud cynnydd da. Roedd 62% o’r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori eu targedau ar gyfer y flwyddyn.
Roedd hwn yn adroddiad yn seiliedig ar eithriadau oedd yn canolbwyntio ar feysydd perfformiad nad oedd yn cyflawni eu targedau ar hyn o bryd.
Croesawodd y Cynghorydd Hughes y ddogfen a oedd wedi cael ymateb da yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol. Soniodd am gwblhau “Gwneud y prosesau i hawlio prydau ysgol am ddim mor hawdd â phosibl er mwyn cynyddu’r canran sy’n cofrestru yn erbyn hawliad” ac fe holodd am y ffigyrau ar gyfer haf 2023. Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod y wybodaeth wrthi’n cael ei chasglu gan y 14 o ysgolion a ddarparodd y rhaglen “bwyd a hwyl” ac y byddai’r wybodaeth yn cael ei rhannu gydag Aelodau pan fyddai ar gael.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni’r blaenoriaethau fel y manylir yng Nghynllun y Cyngor 2022/23 yn cael eu cymeradwyo a’u cefnogi;
(b) Bod y perfformiad cyffredinol yn ôl mesurau / dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor 2022/23 yn cael ei gymeradwyo a’i gefnogi;
(c) Bod y Cabinet yn cael sicrwydd drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 4) PDF 136 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2023/24 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 4 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi’r trosolwg manwl cyntaf i Aelodau o sefyllfa fonitro’r gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.
Y sefyllfa a ragwelwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn oedd:
Cronfa’r Cyngor · Diffyg gweithredu o £2.644 miliwn (ac eithrio effaith y dyfarniad cyflog y byddai angen ei dalu o gronfeydd wrth gefn - ar y pryd wedi’u hamcangyfrif yn £2.727 miliwn) · Balans wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2024 o £4.043 miliwn (ar ôl amcangyfrif effaith dyfarniadau cyflog)
Y Cyfrif Refeniw Tai · Rhagwelwyd y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.065 miliwn yn is na’r gyllideb. · Rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2024 yn £3.262 miliwn.
Roedd y rhagolygon economaidd yn dal i fod yn heriol o ganlyniad i lefelau chwyddiant uchel. Roedd effeithiau hynny, ynghyd â chynnydd parhaus mewn galw am wasanaeth yn dod yn fwyfwy anodd i ddelio â nhw gan nad oedd cyllid y Cyngor yn gallu delio â graddfa’r pwysau hynny. Er mwyn cynorthwyo gyda rheoli’r risgiau hynny a lliniaru’r gorwariant cyffredinol a ragwelid, roedd moratoriwm drwy adolygu a herio gwariant nad yw’n hanfodol ynghyd â phroses o reoli swyddi gweigion yn parhau.
Roedd galw sylweddol a chynyddol o fewn y Gwasanaeth Digartrefedd. Roedd dyletswydd statudol ar y Cyngor i ddarparu llety dros dro addas ar gyfer unigolion a theuluoedd digartref sy’n bodloni meini prawf cymhwyso Llywodraeth Cymru a oedd yn llai caeth na Lloegr. Dechreuodd y cynnydd mewn galw yn ail hanner 2022/23 ac roedd wedi cyflymu’n sylweddol ers dechrau 2023. Cynhaliwyd trafodaeth fanwl yng nghyfarfod diweddar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai ar y pwysau a wynebir o ran digartrefedd. Byddai cyfarfod yn cael ei gynnal ar 4 Hydref gydag Aelodau Cabinet i drafod sut y gellir wynebu’r risgiau a byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet. |
|
Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 4) PDF 184 KB Pwrpas: Darparu gwybodaeth am Raglen Gyfalaf Mis 4 ar gyfer 2023/24. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf 2023/24 ers ei gosod ym mis Ionawr 2023 hyd at ddiwedd Mis 4 (Gorffennaf 2023), ynghyd â’r gwariant gwirioneddol hyd yma a’r sefyllfa derfynol a ragwelir a hithau’n gynnar yn y flwyddyn.
Bu cynnydd net o £36.586 miliwn i’r Rhaglen Gyfalaf yn ystod y cyfnod, a oedd yn cynnwys:
Y gwariant gwirioneddol oedd £16.215 miliwn.
Roedd derbyniadau cyfalaf a gafwyd yn chwarter cyntaf 2023/24 yn gyfanswm o £0.651m.
Roedd hynny’n rhoi gwarged diwygiedig a ragwelir yn y Rhaglen Gyfalaf ym Mis 4 o £1.953 miliwn (o warged cyllido agoriadol o £1.302 miliwn) ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2023/24 - 2025/26, cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffynonellau cyllid eraill.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r adroddiad cyffredinol;
(b) Cymeradwyo'r addasiadau i gael eu cario ymlaen; a
(c) Chymeradwyo’r dyraniadau ychwanegol. |
|
Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2022/23 PDF 183 KB Pwrpas: Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2022/23 drafft i'r Aelodau i'w argymell i'r Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys drafft 2022/23 a oedd ynghlwm â’r adroddiad.
Fel sy’n ofynnol gan Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor, roedd yr Adroddiad Blynyddol wedi’i adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 26 Gorffennaf ble roedd swyddogion yn ymateb i gwestiynau i foddhad y Pwyllgor ac nid oedd unrhyw faterion penodol i’w dwyn i sylw’r Cabinet.
Argymhellwyd bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ar 24 Hydref ar gyfer cymeradwyaeth derfynol.
PENDERFYNWYD:
Bod fersiwn ddrafft yr Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2022/23 yn cael ei hargymell i’r Cyngor Sir ar 24 Hydref ar gyfer cymeradwyaeth derfynol. |
|
Cyflwyno adroddiad hunanwerthuso blynyddol Gwasanaethau Addysg Sir y Fflint PDF 100 KB Pwrpas: Mae’r Portffolio Addysg ac Ieuenctid yn hunanwerthuso’i wasanaethau addysg bob blwyddyn er mwyn rhoi sicrwydd i’r aelodau bod safonau addysg yn Sir yn Fflint yn dda a bod anghenion plant a phobl ifanc yn cael eu diwallu. Cynhyrchir yr adroddiad yn unol â Fframwaith Arolygu Estyn ar gyfer Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad ac eglurodd fod y Portffolio Addysg ac Ieuenctid yn cynnal hunanwerthusiad blynyddol trwyadl o'i berfformiad a'i wasanaethau i roi sicrwydd i'r Cyngor ar ansawdd gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint.
Nododd yr adroddiad gryfderau a meysydd i’w gwella ymhellach ac adlewyrchwyd y meysydd hynny i’w gwella wedyn yng Nghynllun Gwella’r Cyngor a Chynllun Busnes y Portffolio ei hun.
Yn dilyn ailgyflwyno’r holl weithgarwch arolygu gan Estyn o fis Ebrill 2022 ymlaen, roedd adroddiad gwerthuso’r Portffolio eleni yn adrodd yn erbyn fframwaith Estyn ar gyfer Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol. Roedd yr adroddiad wedi'i strwythuro i roi sicrwydd i'r Cyngor ar draws y tri maes arolygu, sef:
Cafodd yr holl feysydd arolygu eu gwerthuso’n fanwl ar gyfer y cyfnod 2022-2023 ac roedd pob un yn dod i ben gyda chasgliad o feysydd pellach a nodwyd ar gyfer gwelliant i sicrhau darpariaeth barhaus o wasanaethau addysg o safon i drigolion Sir y Fflint. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys crynodeb o gynnydd yn erbyn y pedwar argymhelliad o arolwg Estyn o Wasanaethau Addysg Sir y Fflint yn 2019.
Casgliad cyffredinol yr adroddiad hunanwerthuso oedd bod gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint yn gadarn, yn cefnogi plant a phobl ifanc yn effeithiol ac yn cynnig gwerth da am arian.
Roedd yr adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yr wythnos flaenorol lle cafodd ei groesawu a’i gefnogi.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn canlyniad adroddiad hunanwerthuso blynyddol y Portffolio Addysg ar ansawdd gwasanaethau addysg ar gyfer cyfnod 2022-23;
(b) Cyflwyno unrhyw sylwadau i'r Tîm Portffolio. |
|
Dileu Ardrethi Busnes PDF 94 KB Pwrpas: Cabinet i gymeradwyo dileu drwgddyledion unigol ar gyfer Ardrethi Busnes dros £25,000. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd ar gyfer drwgddyledion unigol o fwy na £25,000, gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo’r argymhellion i ddiddymu dyledion yn unol â Rheolau Gweithdrefn Ariannol (adran 5.2).
Ystyriwyd bod dyled Ardrethi Busnes o £36,798.60 ar gyfer Outsourced Fulfilment Services Limited yn anadferadwy oherwydd bod y talwr ardrethi wedi cofrestru fel cwmni tramor.
Nid oedd y cwmni yn gwmni wedi’i restru yn y DU ar D?’r Cwmnïau ac roedd wedi’i gofrestru yn Hong Kong. Daeth atebolrwydd y busnes i ben o 23 Ebrill 2023.
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd gan y cynigion, fel y nodir yn yr ymgynghoriad, unrhyw oblygiadau uniongyrchol o ran adnoddau ar gyfer y Cyngor.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo diddymu Ardrethi Busnes o £36,798.60 ar gyfer Outsourced Fulfilment Services Limited. |
|
System Tribiwnlys Newydd i Gymru PDF 78 KB Pwrpas: Ystyried a chymeradwyo ymateb Cyngor Sir y Fflint i Bapur Gwyn: System Tribiwnlys Newydd i Gymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi papur gwyn ar ddiwygiadau arfaethedig i’r tribiwnlysoedd datganoledig i greu system dribiwnlysoedd unedig yn cynnwys Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru.
Roedd y tribiwnlysoedd datganoledig wedi datblygu bob yn dipyn dros y blynyddoedd dros y cyfnodau cyn ac ar ôl datganoli. Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar ddiwygiadau i dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru i greu system unedig.
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y cynnig i greu apeliadau derbyniadau i ysgolion yn gosod risg ar y sefydliad mewn cyfnod lle’r oedd yna eisoes bwysau sylweddol ar y gyllideb a’r ymateb i hynny fyddai bod yn gryf a datgan, oni bai bod Llywodraeth Cymru’n ariannu’r gwaith o ymdrin ag apeliadau mewn perthynas ag addysgu, na ddylid symud ymlaen â’r rhan honno o’r cynnig.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r ymateb drafft i’r ymgynghoriad. |
|
Adolygu’r Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf PDF 126 KB Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar y Polisi Gwasanaeth Cynnal a Chadw yn y Gaeaf a Thywydd Garw a rhoi adolygiad o weithgareddau’r flwyddyn flaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o wasanaeth cynnal a chadw’r gaeaf dros y tymor diwethaf a chyfrifoldebau’r Cyngor, yn ogystal â cheisio cymeradwyaeth ar gyfer adolygu’r polisi cynnal a chadw yn y gaeaf.
Roedd gweithrediadau gwasanaeth yn y gaeaf yn chwarae rhan allweddol o safbwynt sicrhau bod rhwydweithiau priffyrdd yn ddiogel ac ar gael yn ystod tywydd gwael o fis Hydref i fis Ebrill bob blwyddyn. Roedd y gwasanaeth cynnal a chadw yn y gaeaf yn cael ei adnabod fel un o’r swyddogaethau pwysicaf yr oedd yr awdurdod priffyrdd yn eu darparu. Roedd cynnal mynediad at y rhwydwaith yn hanfodol ar gyfer gwasanaethau brys, busnesau, gwasanaethau cymdeithasol, addysg a’r cyhoedd.
Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf cyfredol, y gofynion deddfwriaethol wrth ddarparu gwasanaeth o’r fath, a’r camau a gymerir gan y portffolio Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth i gefnogi gwaith cynnal a chadw yn y gaeaf. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn amlinellu ymateb y sir i achosion eraill o dywydd gwael megis glaw trwm a gwyntoedd cryfion.
Rhoddwyd ymrwymiad i adolygu’r polisi cynnal a chadw yn y gaeaf bob dwy flynedd ac roedd yr adroddiad yn egluro’r gweithrediadau cynnal a chadw yn y gaeaf ac yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y cynllun gwasanaeth arfaethedig a’r polisi cynnal a chadw yn y gaeaf ar gyfer y ddwy flynedd nesaf 2023-2025.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) bod yr adolygiad wedi tynnu sylw at gyfle i ailystyried y strwythur ar gyfer gwneud penderfyniadau ar gynnal a chadw yn y gaeaf, yn ogystal â’r fformat ar gyfer y rhagolygon tywydd, sydd ar hyn o bryd yn seiliedig ar ddwy orsaf dywydd yn Hendre a Brynffordd. Roedd Swyddogion wedi bod yn archwilio llunio rhagolygon yn seiliedig ar lwybrau neu yn seiliedig ar feysydd yn lle’r dull presennol. Byddai gwaith yn cael ei gynnal yn ystod 2023-2024 gyda MetDesk i ddadansoddi’r canlyniadau a gesglir dros y gaeaf sydd i ddod, i benderfynu a yw’r model rhagweld y tywydd yn cynnig unrhyw arbedion ac os y gallai Sir y Fflint ei fabwysiadu yn y dyfodol. Cynigiwyd y byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn yr haf 2024 ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau.
Yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Yr Amgylchedd a’r Economi a gynhaliwyd ar 12 Medi 2023, ystyriwyd y Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf 2023-25. Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor gwestiynau yngl?n â blaenoriaethu llwybrau bysiau yn adran 3.2. Roedd llwybrau blaenoriaeth 1 yn cyfeirio at lwybrau gydag wyth neu fwy o wasanaethau bws yr awr ac roedd llwybrau blaenoriaeth 2 yn cyfeirio at bedwar neu fwy o wasanaethau yr awr. Roedd y Pwyllgor o’r farn y byddai gormod o wasanaethau hanfodol na fyddai’n bodloni’r naill gategori. Awgrymwyd y dylid newid Blaenoriaeth 1 a 2 i feini prawf llai penodol i gyfeirio at y ‘Rhwydwaith Bysiau Craidd’ a’r ‘llwybrau sy’n weddill’ yn y drefn honno. Roedd y newidiadau hynny wedi’u hadlewyrchu yn y ... view the full Cofnodion text for item 51. |
|
YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG PDF 100 KB Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r Gwaith sy’n mynd rhagddo i’w lliniaru.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-
Refeniw
Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol, i ddiddymu dyledion rhwng £10,000 a £25,000.
Mae dyled Ardrethi Busnes o £12,591.20 wedi cael ei diddymu ar gyfer Cytori Ltd, cwmni a oedd yn arfer masnachu o Uned 68, Ystâd Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy. Penodwyd diddymwyr i’r cwmni ym mis Chwefror 2021 ac ni fydd difidend yn cael ei ddatgan i gredydwyr ansicredig na ffefrir gan na wireddwyd unrhyw asedau. Mae pob opsiwn adfer wedi methu ac yn dilyn diddymu’r cwmni, mae bellach wedi cael ei dynnu oddi ar Gofrestr T?’r Cwmnïau.
Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth
Hysbysu’r Aelodau o’r materion heb eu datrys a gafwyd yn dilyn hysbysebu’r cynnig i Wahardd Aros ar Unrhyw Adeg ar y ffyrdd a restrir uchod.
DEDDF LLYWODRAETH LEOL (HAWL I WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD
PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitemau canlynol wedi’u heithrio yn rhinwedd paragraffau 14, 15 ac 16 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). |
|
Dull ar gyfer Tâl Gwyliau Pwrpas: Trafod a chytuno ar ddull ar gyfer Tâl Gwyliau yng ngoleuni Dyfarniad y Goruchaf Lys yn achos Harpur Trust a Brazel. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd mewn ymateb i’r achos Harpur Trust v Brazel ac yn dilyn cyngor cyfreithiol a roddwyd i’r Cyngor a’r opsiynau ar gael.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr ar y cyd â’r Rheolwr Corfforaethol, Pobl a Datblygu Sefydliadol i drafod setliad yn lle ôl-daliadau o dâl gwyliau ar gyfer y rheiny yng nghwmpas i sicrhau tegwch a chydraddoldeb, datrys yr anghydfod a gyflwynwyd gan UNSAIN ac osgoi’r effaith negyddol anochel ar berthnasau hirdymor rhwng y Cyngor a’i weithwyr, a’r Undebau Llafur cydnabyddedig. |
|
Datblygiad Cyfalaf Cartref Preswyl Croes Atti Pwrpas: Gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i Gyngor Sir y Fflint ymrwymo i gytundeb â Willmott Dixon i adeiladu cartref gofal preswyl newydd â 56 o welyau yn y Fflint. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a oedd yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a oedd yn mynd rhagddo yng Nghroes Atti a manylion am gyflwyniad y contract terfynol.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn rhoi awdurdod i’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a’r Prif Swyddog (Llywodraethu) i fynd i gontract gyda’r cyflenwr a nodir yn yr adroddiad i ddechrau adeiladu’r datblygiad newydd, yn amodol ar gymeradwyo’r swm llawn o gyllid a geisiwyd gan Lywodraeth Cymru. |
|
Procurement of Fleet Contract Extension Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd bod angen cyfnod estyniad llawn ar gyfer cyfnod o 6 mis, a fyddai’n caniatáu ar gyfer cwblhau’r broses gaffael lawn.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo dyfarniad estyniad 6 mis dros dro i’r Contract Fflyd presennol o 2 Hydref 2023;
(b) Nodi y byddai adroddiad arall yn cael ei gyflwyno er mwyn cymeradwyo’r telerau ymestyn llawn ar ôl i’r broses gaffael ddod i ben. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |