Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol

a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion pdf icon PDF 167 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 25 Ebrill.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2023 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir.

 

PENDERFYNWYD:

                                          

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

3.

Mabwysiadu Is-ddeddfau Tyllu’r Croen pdf icon PDF 116 KB

Pwrpas:        Argymell mabwysiadu is-ddeddfau mewn perthynas â thyllu'r croen. Mae’r rhain yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, Rhan VIII, adrannau 14 a 17.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ac eglurodd yr argymhellir mabwysiadu is-ddeddfau mewn perthynas â thyllu’r croen, yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, Rhan VIII, adrannau 14 i 17.

 

Byddai mabwysiadu’r is-ddeddfau yn sicrhau bod mwy o reoleiddio o ran gweithgareddau megis tyllu clustiau, tat?io, aciwbigo ac electrolysis.  Roedd yr is-ddeddfau’n gymorth i ddiogelu’r cyhoedd a gwella cydymffurfiaeth.

 

Ychwanegodd Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnes y cynhaliwyd ymarfer ymgynghori trylwyr yn ddiweddar gyda’r budd-ddeiliaid yngl?n â gofynion yr is-ddeddfau ac ni dderbyniwyd unrhyw ymatebion negyddol.   Yn ogystal â hyn, roedd cynnwys yr is-ddeddfau arfaethedig wedi’u hadolygu gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a’r Cyfansoddiad ar 12 Ionawr 2023, ac roedd y newidiadau a geisiwyd wedi’u hymgorffori.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod yr is-ddeddfau sy’n ymwneud â thyllu’r croen yn cael eu mabwysiadu’n ffurfiol; a

 

(b)       Cymeradwyo mabwysiadu Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, Rhan VIII, adrannau 14 i 17, a fydd yn berthnasol i Sir y Fflint yn ei chyfanrwydd mewn perthynas â’r is-ddeddfau tyllu’r croen, yn ffurfiol.

4.

Benthyciadau Adfywio Canol Trefi pdf icon PDF 167 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cyllid Benthyciad Canol Tref gan Lywodraeth Cymru sydd ar gael i’r Cyngor ei weinyddu fel rhan o raglen adfywio canol tref Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad ac eglurodd dros yr wyth i ddeng mlynedd diwethaf, ochr yn ochr â chyfleoedd cyllid grant adfywio canol trefi nad oeddent yn ad-daladwy, roedd Llywodraeth Cymru (LlC) wedi cyflwyno cyllid benthyciad cyfalaf ad-daladwy i awdurdodau lleol ledled Cymru.   

 

Drwy ddarparu cyllid benthyciad sydd angen ei dalu’n ôl, nod Llywodraeth Cymru oedd hwyluso cyflawniad ei fframweithiau polisi adfywio strategol sydd yn ceisio cynyddu nifer yr ymwelwyr a bywiogrwydd, cefnogi twf economi leol, arallgyfeirio defnydd yr eiddo o fewn canol y dref, a helpu rhoi bywyd newydd i dir ac eiddo mewn lleoliadau canol dref ledled Cymru.

 

            Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth, Menter ac Adfywio bod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi lle cafodd ei gefnogi.        

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r dyfarniad cyllid benthyciad ad-daladwy ar gyfer adfywio canol trefi yn Sir y Fflint; a

 

(b)       Cymeradwyo’r meini prawf a’r ymagwedd arfaethedig ar gyfer gweinyddu a rheoli cyllid benthyciad ad-daladwy canol trefi ar draws Sir y Fflint.

5.

Cymunedau am Waith pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gau’r rhaglen Cymunedau am Waith ledled Cymru, wedi i raglenni Cronfa Strwythurol Ewrop ddod i ben.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad ac egluro bod y Rhaglen Cymunedau am Waith wedi’i chreu gan Lywodraeth Cymru (LlC) yn 2016.   Wedi’i hariannu gyda chymysgedd o adnoddau Ewropeaidd a LlC, roedd yn darparu adnoddau i lywodraeth leol yng Nghymru i gefnogi’r unigolion a oedd bellaf o’r farchnad lafur i oresgyn rhwystrau cyflogaeth a dysgu drwy gefnogaeth mentora hirdymor.   Gan fod y rhaglen yn cael ei hariannu gan gyllid Ewropeaidd, daeth i ben ar 31 Mawrth 2023.

 

Ym mis Rhagfyr 2022 cyhoeddwyd y byddai Sir y Fflint yn derbyn cyllid digonol gan LlC i barhau i ddarparu cefnogaeth Cymunedau am Waith a galluogi’r Cyngor i gadw’r tîm llawn o staff i wneud hynny.

 

Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen a’r newidiadau a gyflawnwyd a’r blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth, Menter ac Adfywio bod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi’r wythnos flaenorol lle cafodd ei gefnogi.  Croesawodd y gefnogaeth gan LlC i barhau â’r ddarpariaeth am y 12 mis nesaf. 

 

Croesawodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac awgrymu y dylid ychwanegu argymhelliad ychwanegol sef “bod y manylion, gan gynnwys crynodeb o’r Rhaglen, yn cael eu rhannu gyda’r holl Aelodau”, ac fe gefnogwyd hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod diwedd y rhaglen Cymunedau am Waith a’r trefniadau newydd i gefnogi pobl sy’n ddi-waith yn hirdymor yn cael ei ystyried a’i gefnogi; a

 

(b)       Bod y manylion, gan gynnwys crynodeb o’r rhaglen, yn cael eu rhannu gyda’r holl Aelodau.

6.

Datganiad Drafft o Adolygiad Polisi Trwyddedu pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        Gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer y Datganiad Drafft o Bolisi Hapchwarae 2023 – 2026.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell y Datganiad Drafft o’r Polisi Gamblo i’w ystyried cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ar 20 Mehefin 2023.

 

Roedd gofyn i’r Cyngor adolygu eu Datganiad o Bolisi Gamblo yn unol â gofynion y Ddeddf Gamblo 2005.   Pwrpas y Polisi oedd gosod yr egwyddorion y byddai’r awdurdod lleol yn eu cymhwyso wrth gyflawni ei rôl o dan y Ddeddf.

 

Mae’n rhaid i’r Polisi gynnwys amcanion yngl?n â’r canlynol:

·         Atal gamblo rhag bod yn ffynhonnell o drosedd ac anhrefn, bod yn gysylltiedig â throsedd ac anhrefn, na chael ei ddefnyddio i gefnogi trosedd;

·         Sicrhau bod gamblo’n cael ei wneud yn deg ac yn agored; ac

·         Amddiffyn plant neu bobl ddiamddiffyn eraill rhag niwed neu gamfanteisio drwy gamblo.

 

Ymgynghorwyd â’r cyrff perthnasol a’r partïon â diddordeb ac ni dderbyniwyd unrhyw ymateb.

 

Roedd y Polisi wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Trwyddedu ar 1 Mawrth 2023 ac fe dderbyniwyd cefnogaeth a’i argymell i’r Cyngor Llawn ei gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Datganiad o Bolisi Gamblo yn cael ei gefnogi cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn.

7.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 93 KB

Pwpras:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r

gwaith sy’n mynd rhagddo i’w lliniaru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.   Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-

 

Arlwyo a Glanhau NEWydd

 

  • Penodi Cadeirydd Bwrdd NEWydd

Fel LATC sy’n eiddo i’r Cyngor ac fel y cadarnhawyd ym Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu’r cwmni (paragraff 14 y Materion a Gadwyd yn ôl), mae’n rhaid i’r Cyngor awdurdodi penodiad unrhyw un i Fwrdd Cyfarwyddwyr NEWydd drwy bwerau dirprwyol.

 

Yn dilyn y broses recriwtio mae Cadeirydd newydd wedi’i nodi ac mae NEWydd am benodi yn awr.

 

  • Penodiad i Fwrdd NEWydd - Penodi 2 Gyfarwyddwr Anweithredol 

Fel LATC sy’n eiddo i’r Cyngor ac fel y cadarnhawyd ym Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu’r cwmni (paragraff 14 y Materion a Gadwyd yn ôl), mae’n rhaid i’r Cyngor awdurdodi penodiad unrhyw un i Fwrdd Cyfarwyddwyr NEWydd drwy bwerau dirprwyol.

 

Yn dilyn y broses recriwtio mae dau Gyfarwyddwr Anweithredol wedi’u nodi ac mae NEWydd am benodi yn awr.

8.

Y Diweddaraf am Foderneiddio Ysgolion

Pwrpas:        Darparu manylion newidiadau i’r rhaglen adeiladu gweithredol ar gyfer Band B - rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu a nodwyd yng Nghynllun Amlinelliad Strategol y Cyngor ac i gymeradwyo bod yn rhan o gontract adeiladu.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad a oedd yn cyflwyno manylion newidiadau i’r rhaglen adeiladu weithredol ar gyfer Band B - Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu a amlinellwyd yng Nghynllun Strategol Amlinellol y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

           

(a)       Nodi cynnwys yr adroddiad a’r cynnydd mewn perthynas â moderneiddio ysgolion;

 

(b)       Y rhoddir cymeradwyaeth i lunio contract adeiladu ar gyfer y prosiect arfaethedig yn Ysgol Croes Atti, y Fflint, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru o’r achos busnes llawn; ac

 

(c)        Y rhoddir cymeradwyaeth i lunio contract adeiladu ar gyfer y prosiect arfaethedig yn Ysgol Penyffordd.

9.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.