Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Remote Meeting
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd dim. |
|
Pwrpas: Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 14 Rhagfyr 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2021 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir. |
|
Cyllideb 2022/23 a Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru PDF 130 KB Pwrpas: I roi’r wybodaeth ddiweddaraf ac amcangyfrif o’r gyllideb ar gyfer 2022/23 a goblygiadau Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a gafwyd ar 21 Rhagfyr. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac esboniodd bod y Cabinet wedi cael diweddariad ar 14 Rhagfyr yn dweud bod angen £20.696 miliwn yn ychwanegol yn y gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23. Cafwyd y diweddariad hwnnw cyn derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru ar 21 Rhagfyr.
Rhoddodd adroddiad y Cabinet ddiweddariad am brif benawdau ac effeithiau ariannol y Setliad cyn cam olaf y broses o osod cyllideb ffurfiol ym mis Chwefror.
Byddai angen i’r gofyniad ychwanegol gynyddu’n sylweddol i gymryd i ystyriaeth yr angen i ddiwallu effeithiau’r holl faterion a nodwyd yn yr adroddiad, gan gynnwys Dyfarniadau Cyflog / Cyflog Byw Cenedlaethol a pharhad mewn costau ychwanegol a cholli incwm o ganlyniad i’r pandemig ar ôl i Gronfa Caledi Llywodraeth Cymru ddod i ben ar ddiwedd mis Mawrth 2022.
Byddai angen i gyllideb gyfreithiol a chytbwys gael ei hargymell i’r Cyngor gan y Cabinet ar gyfer 2022/23 unwaith y byddai’r holl waith ar y materion a amlinellwyd yn yr adroddiad wedi’u cwblhau.
Roedd y dyraniad Cyllid Allanol Cyfun (AEF) yn darparu swm o £1,476 y pen o’i gymharu â £1,611 y pen ar gyfartaledd yng Nghymru, sy’n gosod y Sir yn safle 20 allan o 22 o gynghorau Cymru.
Am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn, roedd setliad dros dro 2022/23 yn darparu dyraniadau dangosol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Er bod hynny’n cael ei groesawu, roedd yr ymgodiadau dangosol yn yr AEF o 3.5% a 2.4% ar gyfer 2023/24 a 2024/25 yn y drefn honno, yn llawer is na 2022/23 a byddai’n her sylweddol ceisio goresgyn effeithiau anochel yn gysylltiedig â chwyddiant a chynnydd yn y galw am Wasanaethau’r Cyngor. Gan hynny byddai’n hanfodol bod penderfyniadau a wneir fel rhan o gyllideb 2022/23 yn cael eu hystyried yng nghyd-destun y sefyllfa tymor canolig, er mwyn datblygu gwytnwch i ateb yr heriau sy’n gysylltiedig â phwysau anochel costau a fyddai’n codi yn y blynyddoedd dilynol.
Er mai Sir y Fflint oedd y chweched Cyngor mwyaf yng Nghymru yn ôl nifer y boblogaeth, roedd yn cyrraedd safle 20 allan o 22 yn seiliedig ar gyllid y pen. Pe bai Sir y Fflint yn derbyn yr un swm o gyllid y pen â’r cyfartaledd yng ngogledd Cymru, byddai’n derbyn £21 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol.
Barn Aelodau’r Cabinet oedd, os yw pethau fel Dyfarniadau Cyflog yn cael eu cyhoeddi’n genedlaethol, yna dylent gael eu hariannu yn genedlaethol.
Esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol eu bod yn gweithio drwy effeithiau’r dyfarniadau cyflog, yn ogystal â’r cyllid grant unigol. Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Chwefror cyn cyfarfod y Cyngor Sir yn y prynhawn.
Holodd y Cynghorydd Roberts a fyddai modd i lythyr gael ei anfon at Aelodau’r Senedd o ogledd Cymru i ofyn iddynt lobïo dros adfer y Grant Cynnal a Chadw Priffyrdd o £950,000, ar ôl cael cadarnhad ei fod wedi dod i ben.
PENDERFYNWYD:
Nodi goblygiadau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a’r gwaith sydd ar ôl i’w gwblhau cyn cytuno ar gyfres o ... view the full Cofnodion text for item 94. |
|
Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru PDF 115 KB Pwrpas: Darparu trosolwg o Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022 sydd wedi’i gynhyrchu fel gofyniad y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a ddarparodd drosolwg o Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022 a oedd wedi’i gynnal yn unol â gofyniad y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Roedd yr adroddiad yn asesiad o anghenion gofal a chymorth y boblogaeth ac anghenion cymorth gofalwyr, a oedd yn cwmpasu ôl-troed gogledd Cymru. Datblygwyd y ddogfen dan arweiniad Cydweithredfa Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru, gyda gwybodaeth gan chwe chyngor gogledd Cymru a’r bwrdd iechyd, gyda chefnogaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ym mis Mehefin 2022, mae’n rhaid i Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad gael ei gyhoeddi hefyd. Gyda’i gilydd, dylai’r ddwy ddogfen ddarparu darlun cynhwysfawr o’r galw a’r cyflenwad presennol a rhagamcanol i’r rheiny sy’n comisiynu gofal a chymorth ar lefel ranbarthol a lleol.
Pwysleisiodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) pa mor bwysig yw’r ddogfen a fyddai’n helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol. O’r ymatebion i’r arolwg, roedd 39% yn dod gan bobl o Sir y Fflint felly roedd lleisiau lleol yn cael eu clywed. Byddai ymgysylltu â’r cyhoedd yn parhau yn ystod y gwaith o ddatblygu’r Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad.
Rhoddodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu enghraifft o ble fyddai’r data yn helpu i gynllunio a pharatoi ar gyfer y dyfodol, sef atal dementia.
Ychwanegodd y Cynghorydd Jones yr ystod eang o feysydd a fyddai’n cael eu cwmpasu yn yr asesiad, gan gynnwys anghydraddoldeb a digartrefedd. Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru yn cael ei gefnogi cyn ei gyflwyno i’r Cyngor ym mis Chwefror 2022; a
(b) Bod y broses ar gyfer cymeradwyo’r Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad Ranbarthol yn cael ei chytuno. |
|
Meini Prawf Pás Cerbyd i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Ty PDF 109 KB Pwrpas: I dderbyn cymeradwyaeth y Cabinet i adolygu’r meini prawf i wneud cais am bás cerbyd i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff T?. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad ac esboniodd fod nifer o argymhellion wedi cael eu cyflwyno i’r Cabinet, yn dilyn dau seminar i’r holl Aelodau ym mis Medi 2021, ar newidiadau i’w gwneud i’r strategaeth wastraff bresennol fel bod y Cyngor yn gallu cyflawni cyfradd ailgylchu o 70% erbyn 2025.
Un argymhelliad oedd adolygu’r meini prawf ar gyfer cael pàs cerbyd i ganolfannau ailgylchu gwastraff t?, er mwyn egluro’n well i ddefnyddwyr pa fathau a meintiau o gerbydau a ganiateir a sicrhau nad yw masnachwyr yn cymryd mantais o’r system. Ail argymhelliad oedd y dylid cyflwyno system archebu ar gyfer ffrydiau gwastraff peryglus neu anodd er mwyn medru eu rheoli’n well wrth iddyn nhw gyrraedd y safle.
Cafodd y ddau argymhelliad eu cymeradwyo gan y Cabinet ym mis Medi 2021, ond gofynnwyd am adroddiad arall er mwyn cael eglurhad pellach yngl?n â sut y byddai’r newidiadau yn cael eu gweithredu. Roedd yr adroddiad hwn yn gosod allan y Polisi Pàs Cerbydau diwygiedig ac yn cynnig meini prawf archebu ar gyfer gwaredu asbestos a matresi.
Esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) bod y pwyntiau allweddol yn y Polisi arfaethedig ar gyfer Meini Prawf Pàs Cerbydau wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad. Ychwanegodd hi fod y system ganiatâd bresennol yn caniatáu, yn anfwriadol, i fasnachwyr a busnesau masnachol gamddefnyddio’r system a dod â ffrydiau gwastraff masnachol i mewn. Wrth i staff eu cwestiynu neu eu herio, roedd rhai o’r cwsmeriaid hynny yn troi’n ymosodol gan arwain at amgylcheddau gwaith amhleserus.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Polisi Pàs Cerbydau diwygiedig ar gyfer Canolfannau Ailgylchu Gwastraff T?; a
(b) Chymeradwyo’r meini prawf system archebu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff T?. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 8) PDF 171 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2021/22 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 8 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl ddiweddaraf am sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw yn 2021/22 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol. Cyflwynodd y sefyllfa o ran incwm a gwariant gwirioneddol, fel ag yr oedd ym Mis 8.
Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio effeithlonrwydd a rheoli costau, sef:
Cronfa’r Cyngor
Y Cyfrif Refeniw Tai · Rhagwelid y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.548 miliwn yn uwch na’r gyllideb. · Rhagwelid y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2022 yn £3.924 miliwn.
Amlinellwyd manylion effaith Storm Christoph ar y gyllideb yn yr adroddiad a oedd yn gyfanswm o ryw £0.200 miliwn.
Esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr adroddiad hefyd yn rhoi manylion am sefyllfa pob portffolio; amrywiadau arwyddocaol y mis hwnnw; faint o’r arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn a gafodd eu cyflawni; cyllid mewn argyfwng; cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi a chronfeydd wrth gefn wedi eu clustnodi.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2021/22. |
|
Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2021/22 PDF 350 KB Pwrpas: Cyflwyno drafft Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2021/22 i'r Aelodau i'w argymell i'r Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn cyflwyno’r Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys drafft ar gyfer 2021/22 i’w gymeradwyo a’i argymell i’r Cyngor.
Fel sy’n ofynnol gan Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor, roedd yr adolygiad hwn wedi cael ei adrodd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 17 Tachwedd a byddai’n cael ei adrodd i’r Cyngor ar 25 Ionawr 2022.
PENDERFYNWYD:
Bod Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2021/22 yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor. |
|
Ail Rownd Cronfa Codi’r Gwastad PDF 131 KB Pwrpas: Derbyn cymeradwyaeth gan y Cabinet i gyflwyno cynigion ar gyfer Ail Rownd o Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth Y DU. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Butler yr adroddiad. Esboniodd fod y Gronfa Codi’r Gwastad yn cyfrannu at agenda codi’r gwastad Llywodraeth y DU trwy fuddsoddi mewn seilwaith a fyddai’n gwella bywyd bob dydd ledled y DU, gan gynnwys adfywio canol trefi a strydoedd mawr, uwchraddio cludiant lleol, a buddsoddi mewn asedau diwylliannol a threftadaeth. Bwriad y gronfa gwerth £4.8 biliwn oedd creu effaith weledol a diriaethol ar bobl a lleoedd a chefnogi adferiad economaidd.
Roedd yr adroddiad yn cynnig datblygu dau gynnig i’w cyflwyno i Lywodraeth y DU fel rhan o ail rownd y rhaglen a ddisgwylir ar ddechrau 2022. Cynigiwyd bod y cynigion yn canolbwyntio ar gymunedau arfordirol Sir y Fflint er mwyn: gwella amodau i fusnesau, lleihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol; dod ag asedau treftadaeth yn ôl i ddefnydd; ac annog pobl leol ac ymwelwyr i ddefnyddio’r ardal arfordirol.
Er bod modd i bob awdurdod lleol wneud cais am gyllid Codi’r Gwastad, diben penodol y gronfa yw cefnogi buddsoddiad mewn lleoedd a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau pob dydd, gan gynnwys hen ardaloedd diwydiannol, trefi difreintiedig a chymunedau arfordirol. Roedd Llywodraeth y DU wedi gosod awdurdodau lleol mewn categorïau 1, 2 neu 3 yn dibynnu ar lefel yr angen a nodwyd, gyda chategori 1 yn cynrychioli lleoedd yn yr angen mwyaf am fuddsoddiad. Roedd Cyngor Sir y Fflint wedi cael ei nodi fel awdurdod lleol ‘categori 2’.
Roedd y Gronfa Codi’r Gwastad yn galluogi awdurdodau lleol i wneud cais am hyd at £20 miliwn i bob etholaeth seneddol. Byddai cynigion uwch na £20 miliwn ac is na £50 miliwn yn cael eu derbyn ar gyfer prosiectau trafnidiaeth yn unig. Roedd disgwyl i’r ail rownd ddechrau yng ngwanwyn 2022. Roedd disgwyl i’r rhaglen ddod i ben ym mis Mawrth 2024 a oedd yn golygu fod y cyfnod i ddarparu prosiectau cyfalaf yn gyfyngedig iawn.
Esboniodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) mai’r bwriad oedd cyflwyno dau gynnig, un ar gyfer pob etholaeth seneddol. Byddai’r cynigion yn canolbwyntio ar gynnwys adfywio, diwylliant a threftadaeth. Roedd y Cyngor wedi penodi ‘Mutual Ventures’ i weithredu fel rheolwr prosiect y broses a chyfrannu at baratoi cynigion.
Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad ac roeddent yn dymuno pob llwyddiant i’r cynigion.
PENDERFYNWYD:
(a) bod y bwriad i ddatblygu a chyflwyno cynigion ar gyfer Ail Rownd Cronfa Codi'r Gwastad yn cael ei gymeradwyo yn unol â’r cynigion a osodwyd yn yr adroddiad a
(b) Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) ac Aelod Cabinet Datblygu Economaidd i newid a chyflwyno’r cynigion terfynol yn unol â’r cyfeiriad strategol a osodir yn yr adroddiad, datblygu ymyraethau penodol i adlewyrchu’r angen i gyflwyno cynigion cystadleuol a chyraeddadwy. |
|
Parc Arfordir Sir y Fflint PDF 118 KB Pwrpas: Ceisio barn y Cabinet am sefydlu a dynodi Parc Rhanbarthol ar hyd blaendraeth Aber Afon Dyfrdwy. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Butler yr adroddiad ac esboniodd fod fframwaith strategol o gyfleoedd ar hyd blaendraeth aber Afon Dyfrdwy wedi’i gynhyrchu yn 2014. Roedd y cynnig ar gyfer parc arfordir yn ceisio nodi blaendraeth yr aber fel endid unigol tebyg i Barc Rhanbarthol.
Dylai’r cysyniad o Barc Arfordir Sir y Fflint gael ei archwilio eto yng ngoleuni’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig ag argaeledd Cronfa Codi’r Gwastad.
Byddai gwaith i ddatblygu Parc Arfordir Rhanbarthol i Sir y Fflint yn rhoi ysgogiad a ffocws newydd i’r arfordir, gan godi proffil y blaendraeth a galluogi cymunedau a busnesau i weithio’n gynaliadwy ac yn arloesol i helpu i ddarparu ffyniant amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol.
Croesawodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a dywedodd mai un mater allweddol yr oedd angen mynd i’r afael ag ef oedd y cyswllt coll yn llwybr yr arfordir rhwng Cei Connah a’r Fflint. Ar hyd ochr yr A548 roedd y rhannau mwyaf cul. Roedd cynigion wedi bod yn y gorffennol i ddatrys y broblem ond cawsant eu gwrthod ar y pryd gan RSPB a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, a oedd yn poeni y byddai’n tarfu ar y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Teimlai ef y dylai gwella’r llwybr rhwng Cei Connah a’r Fflint ffurfio rhan allweddol o’r cynigion. Roedd angen canfod datrysiad gydag RSPB a Chyfoeth Naturiol Cymru oherwydd bod gan yr ardal botensial i gael ei defnyddio ar gyfer cerdded, beicio a gweithgareddau hamdden. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’n trefnu cyfarfod gyda’r cyrff cyhoeddus perthnasol i drafod y mater.
Roedd holl Aelodau eraill y Cabinet yn croesawu’r adroddiad, gan dynnu sylw at y dreftadaeth, gan gynnwys treftadaeth ddiwydiannol a chefn gwlad brydferth. Holodd y Cynghorydd Jones a fyddai “Porth y Gogledd” yn gallu cael ei newid i ddarllen “Porth y Gogledd Sealand”. Teimlai’r Cynghorydd Hughes nad oedd Castell y Fflint yn cael ei hysbysebu’n ddigon da ac y dylai llwybr yr arfordir gysylltu â Dyffryn Maes Glas. Mewn ymateb i’r sylw hwn am y Castell, esboniodd Y Cynghorydd Roberts mai nod Llywodraeth Cymru oedd cael canolfan ymwelwyr a chaffi yn y Castell.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r cyfeiriad strategol a osodwyd ym Mhrosbectws Parc yr Arfordir a chefnogi’r gwaith i ddatblygu Parc Arfordir Rhanbarthol Sir y Fflint, a
(b) Bod y Cabinet yn croesawu barn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi ac yn rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), (mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Datblygu Economaidd) i wneud newidiadau bach i’r cynigion er mwyn adlewyrchu’r farn honno. |
|
Newyddion diweddaraf ar Economi Sir y Fflint PDF 148 KB Pwrpas: Darparu aelodau gyda’r newyddion diweddaraf ar economi Sir y Fflint, ac ar raglenni gwaith i helpu gydag adferiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Butler yr adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb o amodau economaidd presennol y rhanbarth a’r Sir, gan ddefnyddio gwybodaeth o nifer o ffynonellau. Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion y strwythurau llywodraethu a oedd mewn lle i ymateb i adferiad economaidd a’r rhaglenni gwaith a oedd ar y gweill ar hyn o bryd.
Nid oedd effeithiau pandemig Covid-19 ac ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd yn amlwg eto, ac roeddent yn dal i esblygu.
Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth fanwl am Brexit; Covid-19; diweddariad economaidd; ystadau masnachol; ardrethi busnes; canol trefi ac ymatebion rhanbarthol a lleol.
Esboniodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod hwn yn adroddiad yn seiliedig ar dystiolaeth yr oedd y Pwyllgor Adfer wedi gofyn amdano ac wedi’i groesawu. Ychwanegodd nad oedd cymaint o swyddi wedi’u dileu ar raddfa fawr ag y disgwylid yn dilyn Covid. Roedd lefel uchel o swyddi gwag ym meysydd nyrsio, gofal personol, gweithwyr gofal, cynorthwywyr cegin ac arlwyo, glanhawyr a gyrwyr faniau a oedd yn anodd eu llenwi.
Roedd y Prif Weithredwr yn croesawu’r adroddiad a oedd yn darparu asesiad cryf o’r economi. Diolchodd i’r swyddogion am yr adroddiad.
Croesawodd y Cynghorwyr Bithell a Johnson yr adroddiad gan ddweud fod Sir y Fflint wedi cael ei chrybwyll ym mhapur y Sunday Times. Dywedodd yr adroddiad fod Sir y Fflint yn mynd yn groes i’r duedd o ran adferiad a bod y ffigyrau wedi gwella ar y Mynegai Cystadleurwydd. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, dywedodd y Prif Weithredwr fod trafodaeth wedi’i chynnal yn y Pwyllgor Adfer yngl?n â sgiliau a chreu cyswllt gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC). Gofynnodd y Pwyllgor i gynrychiolydd o BUEGC fynychu cyfarfod yn y dyfodol i esbonio sut yr oeddent yn creu cyswllt â Sir y Fflint i yrru’r economi leol ymlaen.
PENDERFYNWYD:
Bod cynnwys a chasgliadau’r adroddiad yn cael eu nodi a’u cefnogi. |
|
Cronfa Mantais Gymunedol Parc Adfer PDF 109 KB Pwrpas: Rhannu manylion y Gronfa Mantais Gymunedol, gan gynnwys meini prawf cymhwyso a’r broses. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad ac esboniodd, fel rhan o gaffaeliad y contract Parc Adfer a Phartneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru, cytunwyd ariannu a rheoli Cronfa Mantais Gymunedol a fyddai’n cael ei rhedeg am hyd y contract.
Roedd y Gronfa Mantais Gymunedol yn ymrwymiad trwy gontract rhwng yr Awdurdod ac Enfinium (Wheelabrator Technologies Inc gynt), ac roedd hefyd yn ymrwymiad trwy gontract i bob awdurdod partner unigol o fewn yr Ail Gytundeb Rhwng Awdurdodau.
Hyd yma roedd y Gronfa Mantais Gymunedol wedi cael ei defnyddio i ariannu Cronfa Adferiad Cymunedol Parc Adfer i ddechrau, a oedd bellach ar gau i geisiadau. Mae wedi dyfarnu grantiau i dros 10 o brosiectau sydd wedi bod yn werth cyfanswm o dros £60,000. Amlinellwyd manylion y brif Gronfa Mantais Gymunedol, gan gynnwys prosiectau a meini prawf cymhwyso, yn yr adroddiad gan geisio cymeradwyaeth i lansio ar ddechrau 2022.
Byddai’r panel a’r trefniadau llywodraethu presennol, a sefydlwyd ar gyfer y Gronfa Adferiad Cymunedol, yn aros yr un fath yn bennaf ar gyfer y brif Gronfa Mantais Gymunedol pan fyddai’n cael ei lansio, yn ogystal â nifer o’r meini prawf cymhwyso cyffredinol. Fodd bynnag, byddai’r math o brosiectau a ariennir yn wahanol er mwyn adlewyrchu bwriad gwreiddiol y gronfa, sef ariannu prosiectau cymunedol a fyddai o fudd amgylcheddol i’r ardal leol.
Diolchodd y Cynghorydd i’r Rheolwr Prosiect, Steffan Owen, am ei holl waith ar y prosiect hwn.
Ar feini prawf y prosiect, esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod 5 maen prawf, nid 6 fel y nodwyd yn yr adroddiad. Ar ôl cael cymeradwyaeth y Cabinet, byddai Cyd-bwyllgor Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru yn cael briffiad yngl?n â’r canlyniad a’r meini prawf cymhwyso diwygiedig ar gyfer y Gronfa Mantais Gymunedol. Unwaith y byddai’r briffiad hwnnw wedi digwydd, byddai modd lansio’r Gronfa Mantais Gymunedol yn gyhoeddus trwy ddosbarthu datganiad i’r wasg, rhoi diweddariad ar wefan y Cyngor a anfon llythyr at randdeiliaid i’w hysbysu. Roedd disgwyl i hyn ddigwydd ar ddiwedd mis Chwefror / dechrau mis Mawrth 2022.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y prif feini prawf cymhwyso arfaethedig ar gyfer Cronfa Mantais Gymunedol y Parc Adfer yn cael eu cymeradwyo a bod lansiad arfaethedig y gronfa ar ddechrau 2022 yn cael ei gefnogi; a
(b) Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd, i wneud newidiadau i’r dogfennau angenrheidiol (e.e. nodiadau cyfarwyddyd) sy’n gynwysedig o fewn bwriadau a chanlyniadau dymunol y gronfa, a gwneud newidiadau bach i’r trefniadau llywodraethu (e.e. aelodaeth panel, cymorth swyddogion ac ati). |
|
Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2021-22 ar gyfer Cyngor Sir Y Fflint PDF 95 KB Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2021-22. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ac esboniodd fod y Cynllun Gwasanaeth Bwyd yn darparu trosolwg o’r Gwasanaeth Bwyd yn unol â’r Cytundeb Fframwaith ar Reolau Bwyd a Phorthiant Swyddogol gan Awdurdodau Lleol Ebrill 2010. Roedd y cynllun yn nodi nodau ac amcanion y Gwasanaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod, a sut y byddai’r rhain yn cael eu cyflawni.
Roedd Cynllun 2021-22 wedi cael ei oedi oherwydd y pwysau ar y gwasanaeth o ganlyniad i’r pandemig byd-eang, a hefyd oherwydd bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi bod yn hwyr yn cyhoeddi’r Cynllun Adfer.
Amlinellodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y prif gyflawniadau ar gyfer 2020-21, a’r targedau ar gyfer 2021-22.
Diolchodd yr Aelodau i’r tîm am y gwaith yr oeddent wedi’i wneud.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Cynllun y Gwasanaeth Bwyd ar gyfer 2021-22. |
|
YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG PDF 236 KB Pwrpas: Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:
Addysg ac Ieuenctid
Penodi cynrychiolwyr Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion yn unol â Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.
Tai ac Asedau
Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion drwg a rhai na ellir eu hadfer sydd werth dros £5,000 yn cael eu hystyried i gael eu dileu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol. Roedd y penderfyniad hwn yn ymwneud â dau achos ar wahân o ddileu ôl-ddyledion tenantiaid sy’n destun Gorchmynion Rhyddhau o Ddyled. Yn yr achos cyntaf, mae ôl-ddyledion rhent o £6,356.86 yn gynwysedig yn y Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled. Yn yr ail achos, mae ôl-ddyledion rhent o £9,361.53 yn gynwysedig yn y Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled. Nid yw’r ôl-ddyledion bellach yn adferadwy yn y naill achos na’r llall.
Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion unigol drwg a rhai na ellir eu hadfer sydd werth dros £5,000 yn cael eu hystyried i gael eu dileu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol. Mae’r penderfyniad hwn yn ymwneud â dileu ôl-ddyledion un cwsmer sy’n destun Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled. Mae’r Gordaliad Budd-dal Tai o £6,397.83 wedi’i gynnwys yn y Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled na fyddai modd eu hadennill bellach o ganlyniad i roi'r Gorchymyn.
Mae gennym ordaliad o £14,713.92 am y cyfnod rhwng 06.04.15 a 29.09.19. Mae’r gordaliad wedi’i gyfeirio at y gwasanaeth twyll ond maen nhw wedi’i anfon i’r gwasanaeth cydymffurfiaeth felly ni ellir ei drin fel twyll. Mae’r Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled bellach wedi’i dderbyn ac mae’n cynnwys ein dyled felly ni allwn adfer y gordaliad.
Swyddog Gweithredol
Mae Grant Cist Gymunedol y Cyngor yn darparu grantiau hyd at £1,000 i sefydliadau cymunedol lleol sy’n bodloni meini prawf y grant. Ni all sefydliadau llwyddiannus ail-ymgeisio am grant newydd o fewn cyfnod o dair blynedd ariannol ar ôl derbyn grant o £1,000 gan y gronfa hon. Mae hyn wedi golygu bod rhai ceisiadau, a fyddai fel arall wedi bod yn llwyddiannus, yn cael eu gwrthod ar y sail hon er bod arian dros ben ar gael sydd heb ei ddyfarnu bob blwyddyn ariannol. Trwy leihau’r cyfyngiad amser i ddwy flynedd (dreigl) lle gall sefydliadau ail-ymgeisio am gyllid, bydd modd sicrhau bod cymorth ariannol amserol ar gael i sefydliadau a bod y gronfa yn cael ei dyrannu’n llawn bob blwyddyn ariannol.
Refeniw
Mae’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau wedi eu hawdurdodi i ddileu dyledion rhwng £5,000 a £25,000. Mae’r ddyled Ardrethi Busnes sy’n gyfanswm o £17.428 ar gyfer Nite Stop Ltd, sy’n masnachu fel A55 Holiday Inn, yn anadferadwy ac mae wedi’i dileu gan fod ... view the full Cofnodion text for item 104. |
|
Seibiannau Preswyl, Byr a Gwasanaethau Therapiwtig i Blant a Phobl Ifanc yn Sir y Fflint Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth i dendro ar gyfer y gwasanaethau a enwir yn yr adroddiad. Cofnodion: DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD
PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
105. GWASANAETHAU PRESWYL, SEIBIANT BYR A THERAPIWTIG I BLANT A PHOBL IFANC YN SIR Y FFLINT
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac esboniodd bod disgwyl i’r contractau presennol ddod i ben ym mis Mawrth 2022 ac fel y cyfryw, byddai gofyn i’r gwasanaethau fynd allan i dendr cystadleuol er mwyn cydymffurfio â’r Rheolau Gweithdrefn Contractau a’r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r cynnig i ailgomisiynu’r Gwasanaethau Preswyl, Seibiant Byr a Therapiwtig i Blant a Phobl Ifanc yn Sir y Fflint yn unol â Rheolau'r Weithdrefn Gontractau; a
(b) Bod pwerau dirprwyedig yn cael eu rhoi i’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i arwyddo contract gyda’r darparwr llwyddiannus yn dilyn y broses gaffael. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |