Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiada chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 15th Medi 2020 a 22nd Medi 2020. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 15 Medi a 22 Medi. Gofynnodd y Cynghorydd Banks a oedd posib’ cynnwys, yn ystod y cyfarfod ar 22 Medi, ei fod wedi mynd i’r lobi ar-lein ar gyfer eitem 5 ar y rhaglen; Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint – Ystyried Sylwadau’r Ymgynghoriad ynghylch y Ddogfen i'w Harchwilio gan y Cyhoedd a Chyflwyno’r Cynllun ar gyfer Archwiliad Cyhoeddus, gan ei fod wedi datgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn yr eitem. Yn amodol ar y diwygiad hwnnw, cymeradwywyd cofnodion y ddau gyfarfod fel cofnod cywir.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y diwygiad uchod, gymeradwyo cofnodion y ddau gyfarfod fel cofnod cywir. |
|
BRIFFIO YNGHYLCH SEFYLLFA FRYS (LLAFAR) Pwrpas: Rhoidiweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risfiau a’r goblygiadau I Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar y sefyllfa bresennol, gan gynnwys beth y bu ef a’r Arweinydd yn rhan ohono gyda Phrif Weinidog Cymru cyn cyhoeddi’r Cyfnod Atal Byr.
Eglurodd resymeg y penderfyniadau a wnaeth Prif Weinidog Cymru ar bethau fel cau Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn ystod y Cyfnod Atal a gadael ardaloedd chwarae plant yn agored.
Roedd trafodaethau’n cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru (LlC) ar ddod allan o’r Cyfnod Atal Byr ac nid oedd unrhyw benderfyniadau wedi cael eu gwneud hyd yma.
Roedd llawer o waith cyfathrebu wedi’i wneud gyda dolen at gwestiynau cyffredin LlC yn cael ei chysylltu â datganiad cyhoeddus y Cyngor. Roedd gwybodaeth hefyd wedi cael ei hanfon at weithwyr ac Aelodau.
Os oedd gan Aelodau ymholiadau penodol, gallent eu hanfon yn uniongyrchol at y Prif Weithredwr. Roedd canllawiau yn cael eu cyflwyno i Gynghorau Tref a Chymuned yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw ar y sefyllfa gyda chanolfannau cymunedol.
O ran cyfraddau achosion, roedd Sir y Fflint wedi lefelu ac mewn gwell sefyllfa na’r wythnos gynt, ond roedd y niferoedd yn amrywio’n ddyddiol.
Dywedodd y Cynghorydd Roberts ei fod wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Arweinwyr Grwpiau a’r Cabinet ar ddiwedd yr wythnos flaenorol a diolchodd i LlC am fod ar gael i gael gafael arnynt yn ystod y cyfnod anodd.
Mewn ymateb i gwestiwn a ofynnwyd, eglurodd y Prif Weithredwr bod Canolfannau Cyswllt y Fflint a Threffynnon wedi gallu aros ar agor gan nad oedd ganddynt lyfrgell yn yr adeiladau. Roedd y Canolfannau Cyswllt oedd yn cynnwys llyfrgell wedi cau. Roedd yn bwysig bod y ddwy ganolfan ar agor gan eu bod yn dal i allu cymryd taliadau uniongyrchol gan drigolion.
Gofynnodd y Cynghorydd Bithell am eglurder ar wasanaethau eglwys. Eglurodd y Prif Weithredwr na fyddai gwasanaethau addoli yn digwydd ond byddai angladdau a phriodasau yn dal i gael eu cynnal, dan gyfyngiadau penodol.
Canmolodd y Cynghorydd Butler Brif Weinidog Cymru am ei ymdriniaeth gyson a phwyllog wrth ddelio â’r pandemig.
Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Prif Weithredwr a Thîm y Prif Swyddogion a’r holl swyddogion am y gwaith oedd yn cael ei gyflawni, a staff mewn ysgolion am gyflawni’r heriau a sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r wybodaeth.
|
|
Ymateb i’r Strategaeth Adfer gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu PDF 82 KB Pwrpas: Galluogi’r Cabinet i dderbyn ymateb y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i’r Strategaeth Adfer. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad gan egluro bod dilyniant o gyfarfodydd arbennig y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedi cael eu cynnal rhwng 21 a 28 Medi. Ym mhob cyfarfod, rhoddwyd cyflwyniad llawn ar y Strategaeth Adfer gan y Prif Weithredwr, gyda chefnogaeth cydweithwyr.
Roedd y Cabinet wedi gwahodd pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i gefnogi adfer yn eu meysydd portffolio nhw, ac yn benodol i oruchwylio:
Ym mhob Pwyllgor, cafodd y Strategaeth a’r pedwar pwynt uchod eu cefnogi’n llawn. Cydnabuwyd bod y Pwyllgorau, wrth gyflawni’r rôl oruchwylio bwysig yma, yn rhan o’r strategaeth adfer ynddo’i hun i ailddechrau llywodraethu democrataidd llawn.
Cytunodd pob Pwyllgor i ail-lunio eu Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor, gyda Chynllunio i Adfer a Rheoli Risg yn ganolog iddynt. Yn ystod y pum cyfarfod, gofynnodd y Aelodau nifer o gwestiynau a gofynnwyd am eglurder ar rai materion. Ni nodwyd unrhyw risgiau penodol gan y Pwyllgorau a oedd angen sylw penodol.
Y diwrnod blaenorol roedd dogfen ryngweithiol wedi ei rhoi ar wefan y Cyngor ar y Strategaeth Adfer.
PENDERFYNWYD:
(a) Croesawu cefnogaeth y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar gyfer y Strategaeth Adfer;
(b) Cydnabod bod Rhaglenni Gwaith i’r Dyfodol y pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cael eu hail-lunio ar y sail bod Cynllunio i Adfer a Rheoli Risg yn rhan ganolog ohonynt, gyda materion eraill yn cael eu cyfyngu i faterion statudol a chylchol; a
(c) Chyhoeddi’r Strategaeth Adfer fel yr amlinellwyd hi yn y cyflwyniad i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar wefan y Cyngor ar gyfer sylw a sicrwydd y cyhoedd ehangach. |
|
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2021/22 PDF 138 KB Pwrpas: I roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2021/22. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhagolwg ariannol ar gyfer 2021/22 a’r ddwy flynedd ariannol ganlynol.
Roedd adolygiad llawn o’r rhagolwg wedi cael ei gyflawni i adeiladu gwaelodlin cywir a chadarn o bwysau ariannol a fydd angen ei gyllido. Roedd yr adolygiad wedi ystyried effeithiau parhaus y sefyllfa o argyfwng gan gynnwys cyflymder y broses adfer ar gyfer targedau incwm allweddol.
Prif bwrpas yr adroddiad oedd nodi yn fanwl y rhagolwg o ran costau ar gyfer 2021/22 cyn ei gyfeirio at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i’w adolygu a’i herio. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi datrysiadau oedd ar gael i ariannu’r costau hynny. Roedd y strategaeth gyllido yn dibynnu’n fawr ar gyllid cenedlaethol digonol ar gyfer llywodraeth leol ac nid oedd newidiadau ers gosod y gyllideb ar gyfer 2020/21.
Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad PowerPoint a oedd yn cynnwys y meysydd canlynol:
· Rhagolygon Ariannol 2021/22; · Y Dyfodol – Yr hyn a hysbyswyd ym mis Chwefror; · Pwysau Costau 2021/22; · Crynodeb o Gyfanswm y Pwysau Costau · Datrysiadau Strategol; · Datrysiadau Pedair Rhan; · Cenedlaethol a Chyllid; · Senarios Ariannu Posib’; · Amserlen y Gyllideb; a’r · Camau Nesaf.
Croesawodd y Cynghorydd Banks y berthynas weithio rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru a chefnogodd y wybodaeth a gyflwynwyd i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ym mis Tachwedd.
Gofynnodd y Cynghorydd Thomas os oedd disgwyliad i’r Cydbwyllgorau Corfforaethol gael eu hariannu gan gyllidebau cyfredol y Cyngor. Dywedodd y byddai cludiant strategol yn ffurfio rhan o hynny a gwnaeth sylw ar y nifer o gynlluniau cludiant a ddarparwyd gan y Cyngor. Dywedodd y Prif Weithredwr y gallai llawer o’r gwaith gofynnol gael ei gyflawni gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac mewn gweithdai. O ran cludiant, bwriad y Cyngor oedd cadw capasiti i ddarparu gwasanaethau cludiant lleol. Bydd angen cynnal trafodaethau gyda Trafnidiaeth Cymru ar eu bwriadau.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod Treth y Cyngor yn ariannu rhwng 27 a 29% o’r gwasanaethau. Eglurodd y Prif Weithredwr y gallai hyn gael ei ddangos fel graddfa symudol yn erbyn y Grant Cynnal Refeniw.
Gofynnodd y Cynghorydd Bithell os cafwyd unrhyw ymateb gan LlC ar golli incwm meysydd parcio. Eglurodd y Prif Weithredwr yn dilyn cyflwyno llythyr i LlC, eu bod wedi cadarnhau eu safle fel yr adroddwyd yn flaenorol – na fyddai’r awdurdod yn gallu hawlio am golli incwm ac eithrio’r chwarter cyntaf. Fodd bynnag, pe byddai’r Cyngor yn gallu dangos bod defnydd o feysydd parcio yn is na chyn y pandemig, gellid hawlio elfennau o chwarter 2 a 3. Amcangyfrifwyd y gellid hawlio 75% ar gyfer chwarter 2 a 50% ar gyfer chwarter 3.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r rhagolygon cyffredinol ar gyfer y cyfnod 2021/22 – 2023/24, a chyfeirio’r rhestr o bwysau costau ar gyfer 2021/22 i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ym mis Tachwedd i’w hadolygu a’i herio; a
(b) Nodi’r datrysiadau sydd ar gael i gwrdd â’r pwysau costau ac ailosod y strategaeth gyllido ar gyfer 2021/22. |
|
Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019/20 PDF 99 KB Pwrpas: Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019/20 cyn i’r Cyngor Sir ei ardystio a’i gyhoeddi. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad a oedd yn adolygu cynnydd y Cyngor yn erbyn Blaenoriaethau’r Cyngor fel yr oeddent yng Nghynllun y Cyngor 2019/20.
Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu’r cynnydd cyffredinol a wnaed yn erbyn y blaenoriaethau a lefel yr hyder o ran cyflawni’r canlyniadau dymunol. Roedd hefyd yn dangos y sefyllfa o ran 53 risg y Cyngor, gyda phedair risg wedi cynyddu o ran arwyddocâd yn ystod y flwyddyn, a 16 risg wedi gostwng o ran arwyddocâd erbyn diwedd y flwyddyn.
Eglurodd y Prif Weithredwr bod y perfformiad yn erbyn mesurau Cynllun y Cyngor yn gadarnhaol, gydag 88% o’r gweithgareddau allweddol y cytunwyd arnynt yn gwneud cynnydd da a 91% yn debygol o gyflawni’r canlyniad dymunol. Yn ogystal â hyn, mae 78% o'r dangosyddion perfformiad wedi'u diwallu neu wedi rhagori ar y targed ar gyfer y flwyddyn, ac mae 59% wedi dangos gwelliant neu wedi aros yn sefydlog.
Mae'r risgiau’n cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif wedi'u hasesu fel cymedrol (68%) neu fach/ansylweddol (17%); roedd 15% o’r risgiau yn dangos statws risg uchel ar ddiwedd y flwyddyn, yn sgil diffyg adnoddau ariannol yn bennaf.
Roedd yn rhaid i’r Cynllun gael ei fabwysiadu erbyn 31 Hydref ac roedd yn cael ei ystyried yng nghyfarfod y Cyngor Sir yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019/20 i’w argymell i’r Cyngor ei fabwysiadu. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 5) PDF 177 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2020/21 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 5 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad oedd yn rhoi manylion y risgiau a’r materion hysbys ar gyfer 2020/21 ar gyfer Cronfa'r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros heb ei newid. Roedd hefyd yn ystyried y safle ddiweddaraf ar gyhoeddiadau Cyllido Grant Brys Llywodraeth Cymru.
Y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw wrth gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:
Cronfa’r Cyngor
Y Cyfrif Refeniw Tai
Er mwyn cynorthwyo i liniaru’r gorwariant cyffredinol a ragwelir roedd adolygiad o wariant dianghenraid a phroses rheoli unedau gwag wedi cael ei rhoi ar waith. Roedd hyn wedi arwain at ostyngiad dros dro mewn gwariant o -£0.316 miliwn ym Mis 5, oedd wedi helpu i leihau’r gorwariant cyffredinol. Roedd hyn ychwanegol at y £0.319 miliwn a ganfuwyd ym Mis 4 gyda chyfanswm arbedion hyd yn hyn o £0.635 miliwn.
Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion llawn ar y sefyllfa a ragwelir ym mhob portffolio; amrywiadau sylweddol; risgiau agored; risgiau newydd; cyllid at argyfwng; cyflawni arbedion effeithlonrwydd sydd wedi’u cynllunio yn ystod y flwyddyn; a chronfeydd wrth gefn a balansau.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth; a
(b) Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragamcanwyd ar y Cyfrif Refeniw Tai. |
|
Dileu Ardrethi Busnes PDF 95 KB Pwrpas: Cabinet i gymeradwyo dileu drwgddyledion unigol ar gyfer Ardrethi Busnes dros £25,000. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad i geisio cymeradwyaeth i ddileu drwgddyledion unigol dros £25,000.
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod dwy ddyled Ardrethi Busnes yn cael eu hystyried yn amhosib’ eu hadennill ar gyfer Cwmnïau Atebolrwydd Cyfyngedig gan nad oeddent bellach yn masnachu. O ganlyniad, nid oedd unrhyw asedau ac nid oedd bellach yn bosib’ adennill y dyledion ardrethi busnes yn llwyddiannus ac roedd angen diddymu’r dyledion – cyfanswm o £55,321.
Dywedodd y Cynghorydd Butler, er gwaethaf dileu dwy ddyled, roedd yn bwysig nodi bod Sir y Fflint yn un o’r prif awdurdodau yng Nghymru ar gyfer adennill dyledion.
Esboniodd y Cynghorydd Mullin na fyddai dileu’r dyledion hyn yn cael unrhyw effaith ariannol uniongyrchol ar y Cyngor na’r trethdalwyr lleol, gan fod Ardrethi Busnes yn mynd i’r Gronfa Genedlaethol yng Nghymru.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo dileu’r dyledion ardrethi busnes gyda chyfanswm o £55,321. |
|
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru PDF 101 KB Pwrpas: Rhannu Llythyr Blynyddol yr Ombwdsman a darparu trosolwg o lwyth achosion a pherfformiad Cyngor Sir y Fflint ar gyfer 2019-20. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad i rannu Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2019/20 ar gyfer Cyngor Sir y Fflint.
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y Llythyr Blynyddol yn rhoi manylion am berfformiad blynyddol y Cyngor mewn perthynas â chwynion am wasanaethau a gafodd eu derbyn a’u harchwilio gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod 2019/20.
Byddai adroddiad tebyg yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Safonau. Roedd nifer y cwynion yn eithaf uchel yn seiliedig ar faint y boblogaeth, ond roedd hyn yn sgil nifer o gwynion yn mynd yn uniongyrchol i’r Ombwdsman yn hytrach nac i Sir y Fflint yn gyntaf.
Mewn adroddiad a gafodd ei ystyried gan y Cabinet y llynedd, roedd yr Ombwdsmon wedi cynnig gweithio gyda’r awdurdodau lleol ym Mawrth 2020 i wella ansawdd delio â chwynion. Yn sgil y pandemig, nid oedd wedi gallu digwydd ond roedd sesiynau ar-lein wedi cael eu trefnu ar gyfer Ionawr 2021 i ddelio â materion atgyfeirio cwynion yn gynnar at yr Ombwdsmon.
Croesawai’r aelodau yr ymrwymiad i adolygu gweithdrefn gwyno fewnol y Cyngor a’r hyfforddiant. Cafwyd trafodaeth ar ddefnyddio dulliau amhriodol i wneud cwynion fel y cyfryngau cymdeithasol. Roedd cwyno trwy’r dulliau hyn yn ei gwneud yn anoddach delio ag achosion oherwydd y gwaith i bennu pwy oedd wedyn yn delio â’r g?yn.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Banks, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y nifer o gwynion a nodwyd yn yr adroddiad wedi’u rhannu rhwng cwynion gwasanaeth a chwynion moesegol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi perfformiad blynyddol y Cyngor, gan gynnwys canran y cwynion cynamserol, y tu hwnt i awdurdodaeth y Cyngor neu rai wedi’u cau ar ôl ystyriaeth gychwynnol gan yr Ombwdsmon;
(b) Cefnogi’r camau i wella’r broses o ddelio â chwynion ar draws y Cyngor; a
(c) Cefnogi’r camau i adolygu polisi cwynion y Cyngor erbyn 31 Mawrth 2021. |
|
Adroddiad Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus PDF 96 KB Pwrpas: Mae Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn defnyddio ymweliadau sicrwydd fel ffordd o oruchwylio dirprwyon awdurdod cyhoeddus. Mae’r Cabinet yn nodi canlyniad yr Ymweliad Sicrwydd gan y Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus ynghylch rheolaeth a darpariaeth o wasanaethau Dirprwyaeth. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad oedd yn rhoi manylion o gynnwys yr Ymweliad Sicrwydd Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus a gyflawnwyd ym mis Ionawr 2020.
Roedd Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn defnyddio Ymweliadau Sicrwydd fel ffordd o oruchwylio a chefnogi dirprwyon Awdurdodau Cyhoeddus a Phroffesiynol. Mae Ymweliadau Sicrwydd yn edrych ar reoli a gweinyddu llwyth achosion dirprwyaeth cleientiaid penodol.
Eleni, fe wnaeth ymweliad sicrwydd Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus adolygu saith o gleientiaid dirprwyaeth y Cyngor a chafodd perfformiad ei fesur yn erbyn:
Daeth yr ymweliad i’r casgliad bod y Cyngor wedi bodloni’r holl safonau a nodwyd bod y swyddogion dirprwyaeth yn gweithio’n agos gyda Gweithwyr Cymdeithasol er mwyn sicrhau bod yr unigolyn yn cael eu cefnogi i wneud eu penderfyniadau eu hunain gymaint â phosib’. Nodwyd hefyd o’r achosion a adolygwyd fod gan y swyddogion dirprwyaeth ddealltwriaeth dda o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 a’i phum egwyddor statudol.
Talodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) deyrnged i’r tîm bychan o dri a dderbyniodd adolygiad cadarnhaol iawn o waith y Swyddogion Dirprwyaeth o fewn Tîm Asesiadau Ariannol a Chodi Tâl y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ychwanegodd, mewn ymateb i asesiad a sylwadau’r Ymwelydd ar ddiffyg adnoddau, fod y gwasanaeth yn y broses o benodi Swyddog Dirprwyaeth ychwanegol.
Canmolodd y Cynghorydd Banks y tîm am y gwaith ardderchog a gyflawnwyd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn nodi ac yn derbyn sicrwydd o gynnwys llythyr adborth yr Ymweliad Sicrwydd ac asesiad o berfformiad yr awdurdod; a
(b) Nodi’r Crynodeb Cyffredinol o’r Ymweliad Sicrwydd ac ymateb y Cyngor. |
|
Adnewyddu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus PDF 112 KB Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus wedi’u hadnewyddu, yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ac eglurodd bod y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn ymyrraeth i atal unigolion, neu grwpiau, rhag ymddwyn yn wrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus.
Byddai’r Gorchymyn yn dod i ben ar 19 Hydref 2020. Roedd y Cabinet wedi dechrau ymgynghoriad ar 14 Mehefin 2020 ac roedd yr adroddiad hwn yn rhoi manylion am broses a chanlyniad yr ymgynghoriad.
Gallai cynghorau wneud Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ar ôl ymgynghori â’r Heddlu, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a chynrychiolwyr Cymuned priodol. Gallent gael eu gorfodi gan swyddogion y Cyngor, Swyddogion yr Heddlu neu Swyddogion Cefnogaeth Gymunedol yr Heddlu.
O dan ddarpariaethau’r Ddeddf, roedd Gorchymyn Man Cyhoeddus Dynodedig Sir y Fflint ar gyfer Alcohol yn newid yn awtomatig i Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus. Roedd y gorchymyn hwn yn rhoi p?er i Swyddogion yr Heddlu ofyn i aelodau o’r cyhoedd ildio alcohol os oeddent yn credu bod aelod o’r cyhoedd yn achosi niwsans mewn man cyhoeddus. Nid oedd hyn yn waharddiad alcohol llwyr mewn ardal gyhoeddus, ac nid oedd hyn yn berthnasol i eiddo trwyddedig, ond yn annog yfed yn gall.
Ers gweithredu’r Gorchymyn rheoli c?n, roedd dros 1,100 o gerddwyr c?n wedi derbyn gwybodaeth a chyngor am waharddiadau’r Gorchymyn. Roedd cyfanswm o 3 Rhybudd Cosb Benodedig wedi’u rhoi am faw c?n a 45 am i g?n fynd ar gaeau chwaraeon wedi’u marcio. Roedd y Cyngor wedi defnyddio dull cyhoeddus ac amlwg iawn er mwyn atal y problemau ac roedd swyddogion gorfodi wedi siarad â cherddwyr c?n yn ystod eu patrôl er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus. Gan fod swyddogion mewn iwnifform, roedd yn llai tebygol i gerddwyr c?n beidio â chydymffurfio â’r rheolau lleol, a dylid nodi nad nifer uchel o Rybuddion Cosb Benodedig oedd yr unig fesur o’r Gorchmynion a dylid hefyd ystyried glanweithdra cyffredinol y sir ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o broses Rhybudd Cosb Benodedig.
Derbyniwyd pedwar o sylwadau yn dilyn cau’r ymgynghoriad. Roedd dau sylw yn ymwneud â gwahardd c?n ar dir ysgol mewn perthynas ag Ysgol Uwchradd Elfed Bwcle, gyda chais i gerdded c?n ar hyd y llwybrau sy’n croesi tir yr ysgol. Yn dilyn trafodaeth gyda’r Pennaeth, argymhellwyd na ddylid ystyried y sylw ymhellach.
Roedd y trydydd sylw yn ymwneud â Gerddi Ornamental yn yr Wyddgrug, gyda chais bod yr ardal yn cael ei chynnwys yn y categori ‘gwahardd c?n’. Ar hyn o bryd nid oedd y gerddi wedi’u cynnwys yn y Gorchymyn, felly ni argymhellwyd y dylid cynnwys yr ardal hon ar hyn o bryd. Fodd bynnag, byddai adolygiad o’r holl erddi er mwyn asesu dull rheoli c?n priodol i weddu i anghenion y trigolion.
Roedd y pedwerydd sylw yn ymwneud â Gorchymyn rheoli alcohol gan gwestiynu gorfodi’r Gorchymyn. Eglurodd y Cynghorydd Thomas bod hyn yngl?n â chael Gorchymyn yn ei le, fel y gallai gael ei orfodi oes oedd angen.
Gwnaed sylwadau pellach gan Glwb Pysgota Cei Connah, yn amlinellu’r problemau roedd y clwb ... view the full Cofnodion text for item 30. |
|
YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG Ni dderbyniwyd yr un. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 ac 15 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Dogfennau ychwanegol: |
|
Adroddiad Cynnig Trosglwyddo Theatr Clwyd i Fodel Cyflenwi Amgen Ymddiriedolaeth Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ar y cynnydd hyd yma ar y rhaglen i drosglwyddo Theatr Clwyd a Gwasanaethau Cerdd o reolaeth y cyngor i fodel ymddiriedolaeth elusennol a chynnig amserlen a thelerau trosglwyddo. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad oedd yn crynhoi’r sefyllfa ddiweddaraf ar Gynnig Trosglwyddo Theatr Clwyd, ac yn cynnig telerau ac amserlen y trosglwyddiad i ymddiriedaeth elusennol annibynnol ar gyfer gweithrediadau’r theatr a gwasanaethau cerddoriaeth.
Eglurodd y Prif Weithredwr bod y gwaith ar y trywydd iawn ar gyfer trosglwyddo i’r model llywodraethu a argymhellwyd ar amser.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo trosglwyddo Theatr Clwyd a’r Gwasanaeth Cerddoriaeth i gorff elusennol newydd ar 31 Mawrth 2021, a bod Bwrdd Cysgodol yn cael gwahoddiad i lofnodi cytundeb ffurfiol ar gyfer trosglwyddo;
(b) Cymeradwyo egwyddorion y trosglwyddiad fel y nodir yn yr adroddiad;
(c) Cymeradwyo cynigion penodol ar gyfer trosglwyddo fel fframwaith ar gyfer cytundeb contract gwasanaeth fel y nodir yn yr adroddiad;
(d) Derbyn adroddiad llawn a therfynol ar ddiwydrwydd dyladwy, a bod penderfyniad unrhyw fanylion cytundeb contract gwasanaeth gweddillol, unwaith y ceir adborth, yn cael ei dderbyn gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, ynghyd â chynnig ffurfiol gan y Bwrdd Cysgodol. |
|
Ailddatblygu Theatr Clwyd a Champws Yr Wyddgrug yn ehangach Pwrpas: I roi diweddariad i Aelodau am ailddatblygu’r Theatr ac adfywio safle campws yr Wyddgrug yn ehangach. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd mewn perthynas â cham 4, fod Cyngor Celfyddydau Cymru, trwy Lywodraeth Cymru, wedi dynodi cyllid o £3 miliwn er mwyn symud y prosiect yn ei flaen at ddiwedd cam 4, ac roedd angen cyfraniad o £110,000 o adnoddau cyfalaf y Cyngor Sir.
Darparodd Neal Cockerton fanylion llawn am gefndir y gofynion cyllido a’r sefyllfa gyllido, gan egluro bod yr amcangyfrifon hyn yn gadarn ac wedi eu dilysu. Nid oedd unrhyw benderfyniad terfynol ar gyllid cyfalaf ar gyfer y Theatr wedi’i wneud hyd yn hyn. Bydd angen penderfyniad hwyrach unwaith i becyn cyllido digonol gael ei gytuno ar lefel genedlaethol.
Eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd unrhyw rwymedigaeth ar y Cyngor ar y pwynt hwn yn y broses. Byddai angen penderfyniad pan fyddai manylion y cyllido yn hysbys.
Dywedodd y Cynghorydd Roberts, pan fyddai angen penderfyniad, byddai’n cael ei wneud gan y Cyngor Sir ac nid y Cabinet.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn cefnogi symud i gam 4 (Dyluniad Technegol) prosiect adnewyddu’r Theatr; ac
(b) Na fydd y prosiect yn cael ei symud ymlaen tu hwnt i gam 4 tan i’r pecyn cyllido gael ei gadarnhau gan yr holl fudd-ddeiliaid. |
|
Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug - Prosiect Buddsoddi Cyfalaf Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth i gysylltu ar gyfer cam adeiladu'r prosiect. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ffurfio contract ar gyfer cam adeiladu’r prosiect buddsoddi cyfalaf yn Ysgol Glanrafon, yr Wyddgrug.
Mewn ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Thomas ar faes parcio, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod gwaith yn mynd rhagddo ar faterion maes parcio.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo mynd i gytundeb ar gyfer y cam adeiladu o’r prosiect buddsoddi cyfalaf yn Ysgol Glanrafon, yr Wyddgrug. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol. |