Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny. Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 19eg Chwefror 2019. Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2019 fel rhai cywir.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir. |
|
Strategaeth Hyrwyddo'r Iaith Gymraeg PDF 99 KB Pwrpas: Cyflwyno drafft terfynol y Strategaeth Hyrwyddo'r Iaith Gymraeg i’w gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg a oedd yn manylu Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg derfynol bum mlynedd o hyd ar gyfer Sir y Fflint.
Nododd y strategaeth sut y gallai’r Cyngor weithio gydag asiantaethau partner ac eraill yn y gymuned fel Cynghorau Tref a Chymuned a busnesau i hyrwyddo’r Gymraeg.
Eglurodd y Prif Weithredwr y gellid archwilio’r posibilrwydd o gael dull partneriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i adeiladu ar waith y Fforwm Iaith Gymraeg bresennol a hwylusir gan y Fenter Iaith, gyda’r nod o ail-ganolbwyntio ei weithgareddau ar gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ar draws Sir y Fflint a Wrecsam. Cafodd y strategaeth groeso brwd yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg, cyn ei chyhoeddi a’i rhoi ar waith;
(b) Dylid cefnogi adolygiad o gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Menter Iaith Fflint a Wrecsam a budd-ddeiliaid allweddol eraill i ddatblygu fforwm isranbarthol i fonitro cynnydd Strategaethau Hyrwyddo’r Gymraeg y ddwy sir; a
(c) Dylid llunio adroddiad blynyddol ar gynnydd gyda’r Strategaeth i gynnwys adolygu ac adfywio’r cynllun gweithredu. |
|
Strategaeth Gwerth Cymdeithasol PDF 92 KB Pwrpas: I ystyried y diwygiadau arfaethedig i’r hen Strategaeth Budd-Daliadau Cymunedol a'r dull diwygiedig wedi’i awgrymu i ddatblygu gwerth cymdeithasol yn Sir y Fflint. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad Strategaeth Gwerth Cymdeithasol a oedd yn arddangos sut roedd gwerth cymdeithasol yn edrych tu hwnt i gost ariannol gwasanaeth a oedd yn ystyried pa fendithion ychwanegol ehangach y gellid eu sicrhau i'r gymuned.
Byddai gweithredu’r Strategaeth Gwerth Cymdeithasol yn elfen allweddol ar gyfer gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a galluogi'r Cyngor a phartneriaid i greu adnoddau newydd ar gyfer ffrydiau gwaith blaenoriaeth.
Eglurodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod adolygiad wedi’i gynnal ar y Strategaeth Gwerth Cymdeithasol ac roedd dull ehangach, a amlinellir yn yr adroddiad, yn cael ei gynnig i greu gwerth cymdeithasol o weithgareddau'r Cyngor a phartneriaid.
Roedd y strategaeth ddiwygiedig yn herio partneriaid, gwasanaethau a chyflenwyr i ystyried sut y gallent gynhyrchu gwerth ychwanegol i gymunedau Sir y Fflint a sut y gellid mesur hynny. Byddai’r dull yn arf allweddol wrth helpu’r Cyngor a’i bartneriaid i ddangos sut oedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cael ei darparu. Roedd y broses o ystyried sut y gellid gwireddu bendithion ehangach wrth lunio’r gwasanaeth a chynhyrchu gwerth cymdeithasol mesuradwy, yn cynnig sail tystiolaeth cadarn.
Byddai’n canolbwyntio i ddechrau ar gynhyrchu gwerth cymdeithasol drwy'r broses gaffael gan mai dyna oedd yn cynnig y cyfleoedd mwyaf a’r rhai mwyaf uniongyrchol i ddarparu gwerth cymdeithasol sylweddol. Byddai angen adnoddau newydd i ddatblygu dull effeithiol, ac amlinellwyd manylion amdanynt yn yr adroddiad.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at enghreifftiau lle’r oedd Sir y Fflint eisoes wedi elwa o werth cymdeithasol, gan nodi Ysgolion yr 21ain Ganrif, Gofal Cymdeithasol a’r rhaglen adeiladu tai cyngor. Roedd y Cyngor hefyd yn dymuno datgloi buddion cymunedol pellach y byddai’r strategaeth hon yn helpu eu darparu.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas at y cyfle posibl i gynnal bysiau cludiant cymunedol drwy’r strategaeth hon.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at sylw mewn cyfarfod diweddar o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Trefniadol gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Mackie, o ran y posibilrwydd o herio gwerth cymdeithasol – byddai hyn yn cael ei drafod gyda’r Prif Swyddog (Llywodraethu) a’r Tîm Caffael.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Butler at gyfleoedd am fentrau cymdeithasol ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, fel bwytai’n cael eu darparu i gwrdd â’r galw lle mae nifer fawr o weithwyr.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwywyd y Strategaeth Gwerth Cymdeithasol ddrafft; a
(b) Cymeradwyo’r penderfyniad i ryddhau cyllid wrth gefn ar gyfer y Strategaeth Gwerth Cymdeithasol gan cynnwys recriwtio swyddog arweiniol. |
|
Cyngor sy'n Gyfeillgar i Ddementia PDF 118 KB Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth i Sir y Fflint ddod yn Gyngor achrededig sy'n ystyriol o ddementia. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad Bod yn Gyngor Cyfeillgar i Ddementia ac eglurodd fod rhaglen Cymunedau/ Sefydliadau Cyfeillgar i Ddementia y Gymdeithas Alzheimer's yn ceisio annog pawb i rannu cyfrifoldeb i sicrhau bod pobl gyda dementia yn teimlo eu bod yn cael eu deall, eu gwerthfawrogi ac yn gallu cyfrannu at eu cymunedau.
Roedd yn canolbwyntio ar wella cynhwysiant ac ansawdd bywyd drwy hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth mewn cymunedau a sefydliadau fel eu bod yn gallu ymateb yn well i anghenion y rhai hynny sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.
Dywedodd yr Uwch Reolwr – Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion bod dementia yn flaenoriaeth mewn cynlluniau corfforaethol nifer o Gynghorau eraill ond er mwyn selio ymrwymiad y Cyngor, roedd y Cyngor yn dymuno symud ymlaen i fod yn Gyngor Cyfeillgar i Ddementia a fyddai ymhlith y rhai cyntaf yng Ngogledd Cymru.
Roedd ymwybyddiaeth wedi bod yn cael ei godi dros nifer o flynyddoedd am ddementia a sut roedd yn effeithio ar bobl mewn cymunedau gyda’r nodi o gynyddu sgiliau staff i wella ymarfer y Cyngor, gyda nifer o ganlyniadau positif yn cael eu cyflawni. Hyd yma mae gan Sir y Fflint saith cymuned Cyfeillgar i Ddementia a thri sefydliad sy’n Gyfeillgar i Ddementia.
Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, dywedodd yr Uwch Reolwr yn byddai’n canfod manylion am y broses a llwybrau mewn perthynas â’r gronfa ddata a gedwir gan yr Heddlu, a sut yr ychwanegwyd pobl gyda dementia at y gronfa ddata hono, ac ymateb yn uniongyrchol i’r Cynghorydd Thomas. Byddai hefyd yn anfon at Aelodau Cabinet am y ‘Protocol Herbert’ a oedd yn rhan o’r hyfforddiant ar ddementia.
PENDERFYNWYD:
Cytuno fod Cyngor Sir y Fflint yn symud tuag at fod yn Sefydliad Cyfeillgar i Ddementia. |
|
Ymateb Cyngor Sir y Fflint i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru 'Gwella Cludiant Cyhoeddus' PDF 74 KB Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i'r ymateb i Lywodraeth Cymru ar eu Papur Gwyn Cludiant. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad Ymateb Cyngor Sir y Fflint i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ‘Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus’ a oedd yn cynnwys ymateb ffurfiol y Cyngor i’r Papur Gwyn.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas bod angen adolygiad i arbed cludiant bysiau ac roedd Llywodraeth Cymru yn ystyried defnyddio grymoedd datganoledig i ddiwygio deddfwriaeth a rheoleiddio darpariaeth bysiau, gan roi’r grymoedd i awdurdodau lleol i gynnal eu gwasanaethau bysiau eu hunain, ac roedd hi’n croesawu hyn.
Roedd gweithredwyr masnachol yn gwneud penderfyniadau busnes i gynnal y gwasanaethau mwyaf effeithlon a masnachol hyfyw yn unig a oedd yn golygu bod ardaloedd yn cael eu gadael heb wasanaeth - roedd hyn yn effeithio ar bobl ddiamddiffyn, yr henoed, pobl anabl ac unigolion nad oedd yn berchen ar gar. Roedd yn teimlo ei bod yn bwysig i bobl aros yn annibynnol, symudol ac yn egnïol, a oedd yn her i’r Cyngor ac hefyd i Lywodraeth Cymru.
Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) fod y Pwyllgor Trwyddedu wedi derbyn ymateb drafft yn y cyfarfod ym mis Ionawr lle y derbyniodd gefnogaeth lawn. Ychwanegodd, mewn perthynas â thrwyddedu, fod safonau cenedlaethol wedi eu cefnogi’n llawn, ond ar hyn o bryd, nid oedd manylion wedi eu cynnwys yn y Papur Gwyn o ran sut y byddai’r Cyd Gytundeb Cludiant yn cyflawni’r swyddogaeth drwyddedu – teimlwyd felly y dylai gorfodi a gweithrediad ddigwydd ar lefel lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Shotton ei bod yn hen bryd am yr adolygiad a phwysleisiodd bwysigrwydd y ddogfen ymgynghori.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r ymateb i ddogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru ‘Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus’. |
|
Adolygiad Llety Gwarchod PDF 113 KB Pwrpas: Cymeradwyo cymhwysedd holl grwpiau bychain a chynlluniau gwarchod i ddod â hwy yn unol â Chymdeithasau Tai a Phartneriaid SARTH Awdurdod Lleol.
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge adroddiad Adolygiad Llety Gwarchod ac eglurodd fod Llety Gwarchod y Cyngor ar hyn o bryd ar gyfer pobl dros 60 oed ac roedd y llety gr?p bychan ar gyfer pobl dros 50 oed.
Fodd bynnag, roedd meini prawf oedran y Cyngor yn fater gweithredol, gan fod meini prawf oedran y Cymdeithasau Tai dros 55 oed, gan arwain at dri gwahanol fanyleb oedran wrth ddyrannu eiddo.
Cynigiwyd cynnal adolygiad o lety gwarchod o fewn cyd-destun galw cynyddol am dai cymdeithasol ar draws Sir y Fflint; cynnydd yn nifer y bobl gydag anableddau corfforol; a’r egwyddor strategol yn y Strategaeth Dai ddrafft o wneud y mwyaf o'r stoc bresennol.
Mae adolygiad desg cychwynnol wedi ei gynnal ac yn darparu gwell dealltwriaeth o ddefnydd y Cyngor o stoc tai, ac amlinellir manylion llawn yn eu cylch yn yr adroddiad.
Cyngor Sir y Fflint oedd yr unig bartner ar y Gofrestr Tai oedd a dau lefel o feini prawf oedran ar gyfer llety gwarchod, ac nid oedd y naill na’r llall wedi’i alinio â meini prawf partneriaid y Cyngor. Roedd gan bob partner Un Llwybr Mynediad at Dai arall faen prawf o 55 oed a drosodd, a’r cynnig oedd bod Cyngor Sir y Fflint yn alinio’r meini prawf oedran gyda’r partneriaid hynny.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, eglurodd Rheolwr y Tîm Digartrefedd a Chyngor pe bai treth y cyngor yn effeithio ar breswylydd a’i fod eisiau mynd i eiddo llai o faint, byddent yn mynd i Fand 1, ond ar gyfer eiddo oedd ar gael o stoc anghenion cyffredinol, nid llety gwarchod.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo meini prawf cymhwysedd pob gr?p bychan a chynllun gwarchod hyd at 55 oed i ddod â hwy yn unol â’n Partneriaid Un Llwybr Mynediad at Dai fel Cymdeithasau Tai ac Awdurdodau Lleol; a
(b) Dylid cymeradwyo cwmpas yr adolygiad gydag adroddiadau diweddaru yn cael eu cyflwyno yn ôl i’r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu fel rhan o'r broses adolygu. |
|
Rhwydwaith Ffeibr Llawn Lleol (RFLL) PDF 94 KB Pwrpas: Cymeradwyo’r Strategaeth Cysylltedd Digidol ar gyfer y rhanbarth a nodi’r cais am gyllid ar gyfer y Rhwydwaith. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin y Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith digidol a wnaed hyd yma gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.
Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraeth) fanylion ynghylch datblygu’r Strategaeth Cysylltedd Digidol ar gyfer y rhanbarth, gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar y prosiect LFFN, sy’n cael ei ddatblygu i sicrhau cyllid gan Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU.
Yng nghyfarfod y Bwrdd Uchelgais ym mis Mawrth, cymeradwywyd Strategaeth Cysylltedd Digidol ar gyfer y rhanbarth. Cytunwyd hefyd yn y cyfarfod y byddai Cyngor Sir Ddinbych yn awdurdod arweiniol o ran y cais am gyllid.
Eglurodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod y Rhwydwaith Ffeibr Llawn yn canolbwyntio ar uwchraddio cysylltedd sector cyhoeddus drwy osod cysylltiadau ‘ffibr llawn’, sy’n gyflymach ac yn cynnig gwell gwerth am arian, yn lle’r cysylltiadau copr presennol mewn oddeutu 400 o safleoedd ar draws y rhanbarth. Byddai Awdurdodau Lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Meddygfeydd ymhlith y sefydliadau sector cyhoeddus a fyddai’n elwa’n uniongyrchol. Byddai eiddo preswyl a busnesau cyfagos hefyd yn elwa o’r buddsoddiad yn y rhwydwaith ffeibr. Canlyniad y buddsoddiad o £13m fydd cysylltedd ffeibr llawn bron yn llwyr ar draws sector cyhoeddus gogledd Cymru, gan wneud yr ardal yn un o’r ardaloedd gorau o ran cysylltedd yn y DU.
Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a dywedodd ei fod yn fuddiol drwyddi draw i ogledd Cymru fel rhanbarth a byddai’n helpu ymestyn sectorau cyflogaeth.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod hon yn brif flaenoriaeth yng ngwaith y Fargen Dwf a byddai pob sefydliad partner yn cyflwyno adroddiadau tebyg i’w cymeradwyo mewn cyfarfodydd Cabinet. Diolchodd i Gynghorau Sir Ddinbych a Wrecsam, oedd wedi arwain y prosiect, am y gwaith roeddent wedi ei wneud hyd yma.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Attridge, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai £33,000 o’r cyllid yn cael ei dalu o elfen wrth gefn y Rhaglen Gyfalaf a byddai’r gost refeniw o £9,500 yn cael ei dalu o gronfeydd wrth gefn y Gyllideb Refeniw; roedd y costau wedi dod i’r amlwg ar ôl cwblhau proses y gyllideb.
PENDERFYNWYD:
(a) Mabwysiadu Strategaeth Gysylltedd Gogledd Cymru.
(b) Dylid cymeradwyo fod y Cyngor yn sefydlu Cytundeb Rhyng-Awdurdod addas gyda chyrff partner eraill mewn perthynas â’r prosiect Rhwydwaith Ffeibr Llawn Lleol; a
(c) Dylid Awdurdodi’r Swyddog A151 a’r Swyddog Monitro, mewn ymgynghoriad â'r Aelodau Cabinet Rheoli Corfforaethol ac Asedau a Datblygu Economaidd, ac Arweinydd y Cyngor, i gytuno ar delerau terfynol y Cytundeb Rhyng Awdurdod. |
|
Ardrethi Busnes – Cynllun Grant Cyfraddau Is Busnesau’r Stryd Fawr a Manwerthu PDF 90 KB Pwrpas: Mabwysiadu cynllun grant 2019/20 sy’n gallu rhoi cyfraddau hyd at £2,500 yn is i fusnesau manwerthu. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad Ardrethi Busnes – Cynllun Rhyddhad Ardrethi Stryd Fawr a Manwerthu
Yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn gwerth £23.6 miliwn o gyllid ychwanegol ar draws Cymru er mwyn parhau ac ehangu Cynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr i dalwyr ardrethi cymwys ar gyfer 2019-20.
Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai’r cynllun gwell, a ariannwyd yn llawn gan LlC, yn darparu cefnogaeth o hyd at £2,500 tuag at filiau Ardrethi Busnes ar gyfer eiddo manwerthu gyda gwerth ardrethol o hyd at £50,000. Byddai’r cynllun gwell yn cynyddu lefel y gefnogaeth i fanwerthwyr mewn canol trefi, a hefyd yn cefnogi manwerthwyr mewn lleoliadau eraill. Cynlluniwyd y cynllun i wneud defnydd llawn o'r cyllid canlyniadol roedd Llywodraeth Cymru wedi ei dderbyn yng Nghyllideb yr Hydref y DU.
PENDERFYNWYD:
Dylid mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau Ardrethi Manwerthu ar gyfer 2019/20 a darparu rhyddhad ardrethi o hyd at £2,500 i fusnesau manwerthu cymwys. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (mis 10) PDF 146 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2018/19 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 10 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (mis 10), a oedd yn nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw yn 2018/19 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 10 y flwyddyn ariannol.
Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros heb ei newid. Gan ystyried fod y Cyngor yn nesáu at ddiwedd y flwyddyn ariannol, roedd amrywiadau sylweddol ar y sefyllfa derfynol yn annhebygol.
Y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ar gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:
Cronfa’r Cyngor
Roedd y symudiad cadarnhaol o £0.510 miliwn yn sgil amrywiadau diweddar iawn gan gynnwys lleoliadau tu allan i’r sir yn dod i ben a’r hysbysiad ynghylch incwm Trethi Annomestig. Ni fyddai modd rhagweld yr amrywiadau hynny pan osodwyd cyllideb flynyddol 2019/20. Byddai’r gwelliannau i’r canlyniad yn cael effaith gadarnhaol ar argaeledd cronfeydd wrth gefn a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn a fyddai’n helpu diogelu’r Cyngor yn erbyn y risgiau hysbys yn 2019/20. Ni fyddai defnydd pellach o gronfeydd wrth gefn i helpu cydbwyso’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf yn gynaliadwy. A byddai cyngor ar faint y cronfeydd wrth gefn y gellid eu tynnu i lawr wedi parhau heb newid ar adeg gosod y gyllideb flynyddol, hyd yn oed gyda'r sefyllfa well.
Cyfrif Refeniw Tai
Roedd yr adroddiad yn cynnwys sefyllfa ragamcanol Cronfa'r Cyngor; sefyllfa ragamcanol yn ôl portffolio; lleoliadau y tu allan i’r sir; cyllid canolog a chorfforaethol; olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn a materion sy'n dod i'r amlwg; cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn; risgiau eraill a gaiff eu holrhain; ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol; incwm; incwm o ailgylchu; ysgolion - risgiau ac effeithiau; materion eraill yn ystod y flwyddyn; cronfeydd wrth gefn a balansau; cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi a chais i ddwyn cyllid yn ei flaen.
Eglurodd y Prif Weithredwr, gan fod cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi ei ganslo, anfonwyd yr adroddiad Cabinet at Aelodau o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu cyn y dosbarthwyd rhaglen y Cabinet i gael unrhyw sylwadau. Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau. Ychwanegodd fod gwybodaeth wedi ei chynnwys yn yr adroddiad ar hysbysiadau grant hwyr, yn manylu ar y grant, a oedd yn ychwanegol neu’n newydd, y swm a’r effaith ar gyllideb 2018/19.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ... view the full Cofnodion text for item 331. |
|
Trefniadau Derbyniadau Ysgol 2020/21 PDF 85 KB Pwrpas: Rhoi gwybod am ganlyniad yr ymarfer ymgynghori statudol ynghylch trefniadau derbyn Medi 2020 ac i argymell eu cymeradwyo. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Reolwr – Cynllunio a Darpariaeth Ysgolion yr adroddiad Trefniadau Derbyn i Ysgolion ar gyfer 2020/21 a oedd yn rhoi gwybodaeth ynghylch canlyniad yr ymarferiad ymgynghori statudol ar y Trefniadau Derbyn ar gyfer mis Medi 2020.
Yn unol â’r Cod Derbyn i Ysgolion, roedd gofyn i’r awdurdod lleol gynnal ymarfer ymgynghori statudol ar ei drefniadau derbyn ar gyfer y flwyddyn i ddod. Rhaid i’r ymgynghoriad gynnwys y trefniadau derbyn llawn, gan gynnwys y polisi derbyn, y meini prawf gordanysgrifio, yr amserlen ar gyfer derbyn a niferoedd derbyn, a rhoddwyd manylion ar gyfer pob un ohonynt yn yr adroddiad.
Cafwyd sylwadau yn ystod y cyfnod ymgynghori gan Ffederasiwn y Penaethiaid Uwchradd ar y broses ar gyfer newid ysgolion yn ystod y flwyddyn ysgol. Roeddent yn pryderu, yn arbennig, am nifer y ceisiadau i drosglwyddo o un ysgol i’r llall a wnaed yn ystod blwyddyn ysgol a’r amhariad y gallai’r rheini eu hachosi i addysg y dysgwr. Yn 2017/18 proseswyd 1228 o drosglwyddiadau a oedd yn nifer tebyg i rai awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Roedd nifer o drosglwyddiadau yn sgil symud i fyw ond nid oedd hynny bob amser yn wir. Er mwyn sicrhau bod rhieni wedi rhoi ystyriaeth ofalus i bob opsiwn cyn gofyn am drosglwyddiad, awgrymwyd y dylid cynnwys y geiriad canlynol, a gytunwyd gyda’r penaethiaid Uwchradd, yn y polisi:
“Nid yw’r Awdurdod Lleol yn annog trosglwyddo plant rhwng ysgolion, a gall newid ysgol yn ystod y tymor amharu’n ddifrifol ar ddilyniant mewn addysg plentyn. Os yw rhieni o’r farn bod problem yn yr ysgol mor ddifrifol fel bod yn rhaid symud, fe gânt eu hannog i gymryd pob cam rhesymol i ddatrys y mater gyda’r ysgol yn gyntaf, ac yna i geisio cyngor y Tîm Derbyniadau os oes angen, cyn gwneud cais i drosglwyddo. O ran ceisiadau i drosglwyddo ysgol lle nad yw’r disgybl yn symud i fyw, mae’r Awdurdod Lleol yn cadw’r hawl i drefnu bod y plentyn yn dechrau yn yr ysgol newydd ar ddechrau’r hanner tymor nesaf er mwyn osgoi tarfu ar addysg y plentyn dan sylw a’r plant eraill. Mae gan bob ysgol uwchradd raglenni pontio ganol y flwyddyn i gynorthwyo disgyblion sy’n trosglwyddo yn ystod y tymor. Mae’r rhaglenni hyn yn cynnwys ymweliadau estynedig ag ysgolion gan rieni/ gofalwyr a disgyblion.”
Cefnogwyd y geiriad gan Aelodau ar yr amod fod y geiriad "nid yw'r Awdurdod Lleol yn annog” yn cael ei newid i “mae’r Awdurdod Lleol yn annog peidio”.
Gofynnodd y Cynghorydd Attridge am ragor o wybodaeth ar nifer y trosglwyddiadau canol blwyddyn a gwblhawyd. Eglurodd yr Uwch Reolwr – Cynllunio a Darpariaeth Ysgolion fod y ffigwr yn debyg i flynyddoedd blaenorol ac nid oedd modd osgoi rhai trosglwyddiadau. Y nod oedd lleihau’r amhariad ar addysg dysgwyr.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, eglurodd yr Uwch Reolwr fod dewis cyntaf o ysgol 96% o ddisgyblion yn cael ei dderbyn, a oedd yn ganran uwch na rhai awdurdodau lleol eraill. Esboniwyd y polisi cludiant yn glir i rieni, sef y ... view the full Cofnodion text for item 332. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am roi’r Cod Cyflogaeth Foesegol ar waith PDF 82 KB Pwrpas: Hysbysu Aelodau ar gynnydd gyda’r camau gweithredu i roi’r Cod ar waith, a chymeradwyo ein datganiad Caethwasiaeth Fodern blynyddol cyntaf. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin y Diweddariad ar y adroddiad Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a oedd yn dilyn cymeradwyo mabwysiadu Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi yn y Cabinet ar 19 Mehefin 2018.
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu), wrth fabwysiadu’r cod, bod y Cyngor yn ymrwymo i gwblhau 32 o weithredoedd er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw ymarfer cyflogaeth anfoesegol ymhlith ei gyflenwyr a’i gontractwyr. Roedd yr ymrwymiadau’n cynnwys rhwymedigaethau i:
· Cymryd camau ymarferol, fel cynhyrchu datganiad caethwasiaeth fodern; · Cyflwyno systemau a fyddai’n dadorchuddio ac yn atal ymarfer anfoesegol megis asesu risg, boed unrhyw un o gyflenwyr y Cyngor yn annog ymarferion cyflogaeth anfoesegol; ac · Ymateb os codwyd unrhyw bryderon gyda hynny e.e. honiad nad oedd cyflenwr yn talu cyflog teg i oruchwylio cyflenwyr.
Cymerwyd pob cam ymarferol i weithredu ymrwymiadau - roedd angen rhagor o waith i sicrhau fod systemau’n cael eu rhoi ar waith a bod gweithwyr yn cael eu hyfforddi ynghylch eu bodolaeth a'u defnydd. At ei gilydd, roedd 21 o weithredoedd wedi eu cwblhau.
Un cam ymarferol oedd cymeradwyo datganiad blynyddol ar gaethwasiaeth fodern. Roedd y datganiad yn disgrifio camau’r Cyngor wrth geisio dileu ymarfer anfoesegol o’r fath ac atodwyd drafft o’r datganiad at yr adroddiad.
Mewn ymateb i sylw, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai’r Tîm Caffael yn cynnig cyngor i reolwyr pan fyddai ymarferiadau tendro yn cael eu cwblhau.
PENDERFYNWYD:
(a) Dylid nodi cynnydd wrth weithredu ymrwymiadau dan y Cod Ymarfer Moesegol mewn Caffael; a
(b) Cymeradwyo’r datganiad ar gaethwasiaeth fodern. |
|
YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG PDF 66 KB Pwrpas: Darpau manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Cofnodion: Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:
Gwasanaeth Refeniw
Mae Adran 49 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn rhoi’r disgresiwn i’r Cyngor i leihau neu ddileu taliadau ardrethi pan ei fod yn fodlon y byddai'r trethdalwr yn wynebu caledi pe na bai'n gwneud hynny a'i bod yn rhesymol iddo wneud hynny gan ystyried buddiannau ei dalwyr treth y cyngor Mae cais a dderbyniwyd gan drethdalwr yn gweithredu fel cwmni cyfyngedig ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy wedi ei wrthod ar y sail nad yw’n cael ei ystyried ei fod er budd ehangach y cyhoedd i gefnogi dyfarnu Gostyngiad Caledi ar Dreth.
Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi y dylid ystyried diddymu dyledion drwg a rhai na ellir eu hadennill sydd werth dros £5,000 ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol. Roedd y cais hwn yn ymwneud â dileu ôl-ddyledion tenant oedd yn destun Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled. Roedd y Gorchymyn yn cynnwys ôl-ddyledion rhent o £5,992.96 na fyddai modd eu hadennill bellach.
Strydwedd a Chludiant
Hysbyswyd yr Aelodau am y gwrthwynebiad a dderbyniwyd yn sgil hysbysebu’r gorchymyn arfaethedig, Gwaharddiad a Chyfyngiad Aros a Mannau Llwytho a Pharcio, Diwygiad Rhif 12, ar Linderick Avenue, Southfields Close, Muirfield Road a Selsdon Close, Bwcle.
Hysbyswyd yr Aelodau am y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn sgil hysbysebu’r gorchymyn arfaethedig, Gwaharddiad a Chyfyngiad Aros a Mannau Llwytho a Pharcio, Diwygiad Rhif 12, ar Linderick Avenue, Southfields Close, Muirfield Road a Selsdon Close, Bwcle.
Rhoi gwybod i Aelodau am wrthwynebiadau a dderbyniwyd ar ôl hysbysebu'r Parth Terfyn Cyflymder 20mya ar Broughton Hall Road, Ffordd yr Eglwys, Llys Cadnant a Ffordd Cledwen, Brychdyn.
Rhoi gwybod i Aelodau am y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ar ôl hysbysebu am y bwriad i adeiladu twmpathau sinwsoidaidd a twmpathau gyda phen gwastad ar Broughton Hall Road a Ffordd yr Eglwys, Brychdyn.
Nid oes bellach angen am saith o hen fysiau gwennol Glannau Dyfrdwy a dau fws a arferai gael eu gweithredu gan GHA Coaches, ar ôl derbyn cyllid cyfalaf gan LlC i ddisodli’r bysiau gyda cherbydau mwy effeithlon o ran ynni.
|
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol a dim un aelod o’r cyhoedd. |