Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny. Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Shotton ddatgan cysylltiad personol o ran eitem 7 ar yr agenda – Adolygu’r Polisi Cludiant rhwng y Cartref a'r Ysgol.
Bu i’r Cynghorwyr Bithell a Butler ddatgan cysylltiadau personol o ran eitem 10 ar yr agenda – Prosiect Cyfalaf Theatr Clwyd. Bu i’r Prif Weithredwr hefyd ddatgan cysylltiad personol ynghylch yr eitem hon, ac yntau’n aelod o’r Bwrdd.
Dywedodd y Cynghorydd Shotton y câi eitemau rhif chwech (Moderneiddio Ysgolion – Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 – Adolygu Ysgol Ardal Brynffordd a Licswm) a rhif saith (Cludiant rhwng y Cartref a’r Ysgol – Adolygu’r Polisi) eu trafod yn gyntaf. |
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarodydd ar 22 Mai 2018 fel cofnod cywir. Cofnodion: Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mai 2018 wedi eu dosbarthu gyda’r agenda a’u cymeradwyo fel cofnod cywir.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
Pwrpas: Hysbysu am yr ymatebion yn dilyn y cyfnod ymgynghori statudol ar gyfer adolygiad Ysgol Ardal Brynffordd a Licswm. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ynghylch Moderneiddio Ysgolion – Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 – Adolygu Ysgol Ardal Brynffordd a Licswm, a oedd yn gofyn i’r Cabinet benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â chynnig statudol i newid trefniadaeth yr ysgol.
Dechreuodd yr adolygiad fis Mehefin 2015 pan roddwyd ystyriaeth i ad-drefnu’r ddarpariaeth mewn tair ysgol, sef Rhos Helyg, Brynffordd a Licswm, gan fod pwyntiau sbardun wedi’u cyrraedd yn ôl polisi Moderneiddio Ysgolion y Cyngor. Fis Rhagfyr 2016 penderfynodd y Cabinet fwrw ymlaen ag ymgynghoriad statudol yngl?n ag uno ysgolion Licswm a Brynffordd ar un safle, a gadael Rhos Helyg fel yr oedd hi.
Cyfarfu’r Cynghorydd Roberts â llywodraethwyr o Frynffordd a Licswm i glywed eu barn, yn ogystal â llywodraethwyr o Gilcain.Roedd llywodraethwyr Brynffordd o blaid uno, gan y gallai hynny ddenu buddsoddiad cyfalaf drwy raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain. Dymunai llywodraethwyr Licswm, fodd bynnag, greu ffederasiwn er mwyn sicrhau y byddai Ysgol Licswm yn aros yn ei chymuned. Ni lwyddodd yr ymdrechion i sefydlu ffederasiwn, ac felly fis Ionawr 2018, penderfynodd y Cabinet y byddai’n rhaid bwrw ymlaen â’r drefn ymgynghori statudol.
Pwysleisiodd na chafodd y canlyniad ei ragderfynu ar unrhyw adeg o’r broses, a bod y Cyngor wedi bod yn deg ac yn agored wrth ymgynghori. Roedd pob ysgol dan adolygiad yn unigryw, ac roedd unrhyw benderfyniadau’n seiliedig ar rinweddau’r achos dan sylw. Gwelwyd tystiolaeth o hynny yn y gorffennol o ran y penderfyniadau a wnaethpwyd yngl?n â darparu addysg ôl-16 yn Sir y Fflint a chreu ffederasiwn rhwng Ysgol Maes Garmon ac Ysgol Mornant. Cyrhaeddwyd sawl un o’r pwyntiau sbardun ym Mholisi Moderneiddio Ysgolion y Cyngor, ac fe gydymffurfiodd y Cyngor â’r Cod yn llwyr wrth gynnal y drefn ymgynghori.
Roedd yno bryderon gwirioneddol yngl?n â chynaladwyedd ysgolion bach yn y tymor hir yn yr hinsawdd economaidd bresennol, ac roedd y Cyngor am sicrhau y gallai llywodraethwyr ddal i fforddio penodi athrawon a staff cefnogi i weithio gyda’r dysgwyr yn y dosbarthiadau. Ar sail hynny, dywedodd y Cynghorydd Roberts na fedrai pethau aros fel yr oeddent. Gan ystyried fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg o’r farn y dylid diogelu ysgolion bach ac ysgolion gwledig, galwodd ar Lywodraeth Cymru i roi gwell eglurder yngl?n â’r polisi ar gyfer ysgolion bach a rhai gwledig, gan gynnwys diffinio ‘gwledig' ac esbonio’r sail resymegol ar gyfer dosbarthu ysgolion Sir y Fflint yn unol â’r polisi hwnnw. Gofynnodd hefyd i Lywodraeth Cymru gadarnhau ei fwriad o ran cyllido ysgolion bach a rhai gwledig, gan ystyried pwysigrwydd y polisi i’r Llywodraeth, fel y gallai Cynghorau fel Sir y Fflint fod yn ffyddiog y byddai’r adnoddau angenrheidiol ar gael i sicrhau cynaladwyedd yn y dyfodol.
Esboniodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod nifer y disgyblion yn y naill ysgol a’r llall yn llai na’r isafswm a bennwyd yn angenrheidiol ar gyfer ysgol fach gynaliadwy. Yn y ddwy ysgol roedd bron hanner y plant yn dod o’r tu allan i’r ardal, gan olygu bod lleoedd ... view the full Cofnodion text for item 188. |
|
Cludiant o’r Cartref i'r Ysgol - Adolygiad o'r Polisi PDF 96 KB
Pwrpas: Ystyried opsiynau ar gyfer darpariaeth cludiant dewisol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ynghylch Cludiant rhwng y Cartref a’r Ysgol – Adolygu’r Polisi. Nid oedd y polisi dan sylw wedi’i adolygu ers tro.
Nid oedd unrhyw farn wedi'i llunio o flaen llaw yngl?n â’r polisi, a oedd angen bod yn deg ac yn gynaliadwy i'r dyfodol. Byddai unrhyw adolygiad yn gwbl niwtral, a’r nod fyddai ymchwilio i anghenion dysgwyr, eu hawliau a’u disgwyliadau, ac nid y costau a fforddiadwyedd yn unig. Nid oedd yr adroddiad yn cynnwys unrhyw gynigion i ddechrau codi tâl.
Roedd y Cyngor yn bendant ei ymroddiad at dwf addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a byddai’n rhaid i unrhyw bolisi ategu’r amcan hwnnw, yn hytrach na mynd yn groes iddo. Roedd y Cyngor yn ymfalchïo yn y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo ei Gynllun Strategol ar gyfer y Gymraeg mewn Addysg. Roedd y Cyngor hefyd yn bendant o’r farn bod yn rhaid hwyluso mynediad at addysg ffydd drwy ddarparu cludiant hygyrch a fforddiadwy.
Roedd angen i Goleg Cambria a’r Cyngor, fel partneriaid, drafod polisi oedd yn deg, yn gyson, yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy ar gyfer mynediad at gludiant mewn addysg ôl-16 yn y dyfodol. Roedd llawer o awdurdodau lleol eraill eisoes wedi diwygio eu polisïau yn y maes hwn.
Nid oedd yn argymell adolygu’r hawl i gludiant ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, na’r hawl i gludiant ar gyfer ysgolion enwadol. Cynigiodd y dylid cynnal adolygiad o’r hawl i gludiant ar gyfer addysg ôl-16, ynghyd â’r polisïau ar hawliau i Fudd-daliadau. Nid oedd unrhyw ganlyniadau wedi’u rhagderfynu ynghylch yr adolygiadau hynny, a thrwy'r drefn ymgynghori byddai’r Cyngor yn ystyried barn yr holl randdeiliaid a’r risgiau. Byddai’r Cabinet yn derbyn adroddiad llawn ar y drefn ymgynghori maes o law.
Lefel cymharol isel o gyllid oedd Cyngor Sir y Fflint yn ei dderbyn, ac roedd arno angen sicrhau digon o gyllid i gynnal y cymorthdaliadau’r oedd yn ei ddarparu ar gyfer cludiant. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i fuddsoddi mewn addysg yn y Gyllideb a’r Setliad i Lywodraeth Leol ar gyfer 2019/20, yn enwedig felly i hybu'r cynnydd y mae pawb yn dyheu amdano yn nifer y dysgwyr drwy gyfrwng y Gymraeg yng ngogledd ddwyrain Cymru. Ategwyd hynny gan y Cynghorydd Bithell.
Soniodd y Cynghorydd Thomas am adroddiadau ar y newyddion nad oeddent yn wir nac yn fuddiol i’r cyhoedd. Cynigiodd y dylid gofyn i Lywodraeth Cymru gynnwys addysg feithrin hefyd yn y Mesur Teithio gan Ddysgwyr, ac ariannu hynny, a chefnogwyd y cynnig hwnnw.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dadlau y dylai unrhyw gyfrifoldebau newydd, fel cynyddu nifer y dysgwyr drwy gyfrwng y Gymraeg, gael eu hariannu’n ddigonol gan Lywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD:
(a) Nad oedd y Cabinet yn cytuno y dylid adolygu’r hawl i gludiant ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, na’r hawl i gludiant ar gyfer ysgolion enwadol ar hyn o bryd.
(b) Bod y Cabinet yn cynnal adolygiad o’r hawl i gludiant ar gyfer addysg ôl-16 a’r polisïau ar hawliau i ... view the full Cofnodion text for item 189. |
|
Cynllun y Cyngor 2018-23 PDF 90 KB Pwrpas: Argymell Cynllun y Cyngor i'w fabwysiadu gan y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ynghylch Cynllun y Cyngor 2018/19 a oedd yn amlygu’r amcanion a’r camau gweithredu yng nghyswllt pob un o’r blaenoriaethau, ac yn cyfeirio at faterion cenedlaethol a allai effeithio ar flaenoriaethau’r Cyngor neu atal eu cyflawni.
Roedd Gweithdy Aelodau a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi herio a chael trosolwg ar y cynnwys, gan gynnwys manylion y targedau a’r cerrig milltir.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo Cynllun y Cyngor 2018/19 gan argymell bod y Cyngor yn ei fabwysiadu; ac
(b) Awdurdodi’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, i benderfynu ynghylch ffurf ac arddull y cyhoeddiad gorffenedig. |
|
Gweledigaeth a Strategaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru: Cytundeb Llywodraethu PDF 119 KB Pwrpas: Argymell y Cytundeb Llywodraethu i'r Cyngor i'w fabwysiadu'n ffurfiol fel partner i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ynghylch y Cytundeb Llywodraethu ar gyfer Gweledigaeth a Strategaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru, a oedd a wnelo â cham cyntaf y Cytundeb Llywodraethu.
Roedd yn ofynnol cael Cytundeb Llywodraethu er mwyn ffurfioli’r trefniadau cyfansoddiadol a rhoi’r grym i'r Bwrdd benderfynu o fewn cyfyngiadau penodol. Y cam cyntaf wrth wneud cais fyddai cyfnod o baratoi a datblygu a fyddai’n para hyd ganol 2019. Yr ail gam, wedi cymeradwyo’r cais, fyddai gweithredu a chyflawni’r hyn a gynigiwyd, a byddai hynny’n dechrau ganol 2019.
Nid diben yr adroddiad oedd cyflwyno cynnwys y cais am Fargen Twf yn fanwl, ond yn hytrach i gyflwyno’r Cytundeb Llywodraethu ar gyfer ei fabwysiadu. Byddai’r Bwrdd Uchelgais Economaidd yn pennu Cynnig Strategol ar gyfer y cais yn ei gyfarfod ar 15 Gorffennaf, ac wedi cadarnhau hynny byddai aelodau'r cyrff sy’n bartneriaid yn ei dderbyn.
Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cytundeb Llywodraethu’n anarferol am fod arno angen sêl bendith y Cabinet a’r Cyngor, ac y byddai’r un mater yn ymddangos ar agenda cyfarfod y Cyngor Sir y prynhawn hwnnw.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, esboniodd y prif Weithredwr bod y materion a gadwyd yn ôl yn diogelu democratiaeth leol, ac y byddai llawer iawn o ymgysylltu anffurfiol yn digwydd.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r cynnydd a wnaethpwyd wrth ddatblygu Cais am Fargen Twf, a'i groesawu;
(b) Cymeradwyo cam cyntaf y Cytundeb Llywodraethu, ar yr amod bod y Cyngor yn cymeradwyo’r trefniadau anweithredol;
(c) Cyflwyno’r drafft terfynol o’r Cais am Fargen Twf i’r Cyngor ei adolygu a’i gymeradwyo fis Medi/Hydref cyn mynd ymlaen i gytuno ar Benawdau’r Telerau gyda’r ddwy Lywodraeth;
(ch) Dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr a'r Prif Swyddog (Llywodraethu), mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, i bennu telerau terfynol y Cytundeb Llywodraethu yn unol â’r drafft oedd ynghlwm wrth yr adroddiad; a
(d) Cynnwys y trefniadau gweithredol yn y Cytundeb Llywodraethu yn y Cyfansoddiad, a gofyn i’r Cyngor gynnwys y trefniadau anweithredol yn y Cyfansoddiad yn yr un modd. |
|
Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol Mewn Cadwyni Cyflenwi PDF 91 KB Pwrpas: Mabwysiadu Côd Ymarfer ar Gyflogaeth Moesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ynghylch y Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesol mewn Cadwyni Cyflenwi, a luniwyd wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi dogfen gyda’r nod o wella arferion caffael yng Nghymru a sicrhau gwell budd cymdeithasol wrth wario arian cyhoeddus.
Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y Cod yn adlewyrchu arferion a safbwyntiau’r Cyngor fel sefydliad oedd yn gymdeithasol gyfrifol ac yn foesol. Roedd rhannau ohono’n heriol, ac roedd y Cyngor wedi gwneud asesiad o effaith y cod; roedd 32 o 34 o’r gweithdrefnau yr oedd yn ofynnol eu sefydlu naill ai eisoes ar waith neu’n medru cael eu gweithredu. Roedd y Cod yn pennu rhai ymrwymiadau a allai fod yn amhosib eu cyflawni, ac roedd manylion yngl?n â hynny yn yr atodiad i’r adroddiad.
Holodd y Cynghorydd Thomas pwy oedd y cefnogwr Gwrth-gaethwasiaeth, a gwirfoddolodd y Cynghorydd Mullin. Mewn ymateb i gwestiwn arall, esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y Cyngor eisoes wedi sefydlu trefniadau yn ei Reolau Gweithdrefnau Contractau a’i arferion caffael er mwyn atal ei gyflenwyr rhag gwneud llawer o’r pethau a fyddai’n groes i’r Cod.
PENDERFYNWYD:
(a) Mabwysiadu’r Cod mewn partneriaeth â’r Undebau Llafur cydnabyddedig. Mae Sir y Fflint yn gorff cyhoeddus moesol a chyfrifol ac yn ymrwymo i’r egwyddorion sy'n sail i'r Cod;
(b) Gweithredu’r Cod cyn belled ag y bo hynny’n ymarferol ac yn fforddiadwy, gan ddatblygu cynllun gweithredu mewn partneriaeth â’r Undebau Llafur cydnabyddedig lleol; ac
(c) Penodi’r Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ac Asedau yn gefnogwr gwrth-gaethwasiaeth. |
|
Pwrpas: Cytuno ar ymateb y Cyngor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar newidiadau arfaethedig i Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 1 – Tai. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ynghylch Ymateb i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Gynigion i Beidio Gweithredu Paragraff 6.2 Nodyn Cyngor Technegol 1 (TAN1) dros dro.
Drwy beidio â gweithredu’r paragraff dan sylw, rhoddid llai o bwysau ar ddiffyg cyflenwad tir am bum mlynedd wrth ystyried ceisiadau am ddatblygiadau tai tybiannol. Mesur dros dro fyddai hyn wrth i Lywodraeth Cymru gynnal adolygiad sylfaenol o’r modd y darparwyd tai yng Nghymru.
Byddai hyn yn cyfrannu at liniaru rhai o'r gwasgfeydd eithafol y mae’r Cyngor a'i gymunedau yn eu hwynebu ar hyn o bryd, wrth orfod derbyn datblygiadau tybiannol. Roedd y cynnig wedi’i gefnogi’n llwyr, ac wrth ymateb i Lywodraeth Cymru cytunwyd y dylid rhoi pwyslais ar sicrhau y cynhelid adolygiad eang a chynhwysfawr cyn gynted â phosib.
Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod y Gr?p Strategaeth Cynllunio wedi llwyr gefnogi’r cynnig. Mynegodd rwystredigaeth hefyd am nad oedd Ysgrifennydd y Cabinet wedi defnyddio ei phwerau i beidio â gweithredu paragraff 6.2 ar unwaith, fel y gellid rhoi blaenoriaeth i’r cais am dystiolaeth. Serch hynny, croesawodd y cyfle i ymateb o blaid y cynnig. Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau oedd 21 Mehefin a gofynnodd i'r Aelodau ymateb yn uniongyrchol eu hunain hefyd. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r ymateb arfaethedig ac fe’i cymeradwywyd.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r sail ar gyfer ymateb i Lywodraeth Cymru fel y’i cyflwynwyd yn yr adroddiad. |
|
Adroddiad Prosiect Cyfalaf Theatr Clwyd PDF 86 KB
Pwrpas: Nodi cynnydd ar y prosiect ailddatblygu cyfalaf ar gyfer Theatr Clwyd ac i gytuno i ryddhau cyfran y Cyngor o'r costau ar gyfer cam nesaf yr astudiaeth ddichonoldeb o fewn Rhaglen Gyfalaf a gymeradwywyd 2018/19. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ynghylch Prosiect Cyfalaf Theatr Clwyd, a oedd yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â'r cynnydd a wnaethpwyd gyda Llywodraeth Cymru, ac yn argymell y dylid rhyddhau’r arian a neilltuwyd yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer y gwaith dylunio a datblygu manwl. Yna croesawodd Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol y Theatr, i’r cyfarfod.
Er mwyn gweithredu’r cynllun a ffafriwyd, amcangyfrifwyd y byddai'n ofynnol cael £22 miliwn gan Lywodraeth Cymru, £5 miliwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru a £3 miliwn yn lleol, gyda £1 miliwn yn dod gan y Cyngor. Roedd Cyngor Celfyddydau Cymru wedi neilltuo cyllid ar gyfer y gwaith dylunio a datblygu manwl, ac yn fwy diweddar wedi neilltuo £5 miliwn arall ar gyfer y prosiect cyfalaf cyfan. Roedd y Cyngor wedi dyrannu arian cyfatebol yn y rhaglen gyfalaf i gynnal y gwaith dylunio a datblygu manwl, ar yr amod y byddai Llywodraeth Cymru yn cadarnhau’r swm y byddai’n ei gyfrannu.
Dywedodd Liam Evans-Ford mai hwn oedd y pecyn cyllid mwyaf erioed i Gyngor Celfyddydau Cymru ei ddyrannu, a oedd yn dangos ei ymroddiad at Theatr Clwyd fel canolfan ddiwylliannol. Y sbardun pennaf ar gyfer y cynllun oedd gwneud y Theatr yn fwy agored i’r cymunedau lleol, ac roedd hynny eisoes yn digwydd. Croesawodd y Cynghorydd Butler yr adroddiad, gan ddweud bod y Theatr yn ganolbwynt ar gyfer cymunedau, gan gynnwys grwpiau dan anfantais.
PENDERFYNWYD:
Ar sail anogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, bod y Cyngor yn cytuno i fwrw ymlaen â’r gwaith dylunio a datblygu manwl ar gyfer prosiect cyfalaf Theatr Clwyd ac yn rhyddhau’r cyllid sydd wedi’i neilltuo yn y rhaglen gyfalaf i gyflawni hynny. |
|
Trosolwg Perfformiad 2017/18 PDF 82 KB Pwrpas: I adolygu meysydd tanberfformiad yn ystod 2017/18 a chytuno ar gamau gweithredu i wella perfformiad. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ynghylch Trosolwg ar Berfformiad 2017/18 a oedd yn cynnwys manylion yngl?n â pherfformiad y Cyngor yn 2017/18, gan ystyried nodau ac amcanion Cynllun y Cyngor, ei fesuryddion â'r mesuryddion wedi'u meincnodi'n genedlaethol, sef y Mesuryddion Atebolrwydd Cyhoeddus.
Ar y cyfan bu’r perfformiad yn dda, gyda'r rhan fwyaf o'r mesuryddion yn dangos y cyflawnwyd y targedau, a bod pethau wedi gwella wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlygu’r mesuryddion perfformiad hynny lle cafwyd dirywiad, lle na chyflawnwyd y targed o bell, neu lle’r oedd y perfformiad yn y ddau chwartel isaf yn ôl y meincnodi cenedlaethol. Cedwid golwg ar y mesuryddion a gytunwyd yn y categorïau hynny er mwyn eu hadolygu a chael trosolwg arnynt yn y dyfodol.
Roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi derbyn yr adroddiad ar 14 Mehefin a rhannodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y canlyniadau o'r cyfarfod hwnnw:
· Bod y Pwyllgor yn nodi a chefnogi’r perfformiad cadarnhaol cyffredinol; · Nodi meysydd o danberfformiad corfforaethol a gwasanaeth yn erbyn Cynllun y Cyngor a’r mesuryddion perfformiad a osodwyd ar gyfer 2017; · Bod y Pwyllgor yn aros i’r cynllun gweithredu gael ei gyhoeddi gan y Cabinet i fynd i’r afael ag unrhyw feysydd o danberfformiad sydd â statws Coch neu Felyn, gyda dirywiad mewn tueddiadau perfformiad; a · Rhoi gwybod i’r Cabinet y dylid israddio perfformiad o ran ôl-ddyledion rhent ac arfarniadau i risgiau Coch.
PENDERFYNWYD:
Nodi meysydd o danberfformiad corfforaethol a gwasanaeth yn erbyn Cynllun y Cyngor a’r mesuryddion perfformiad a osodwyd ar gyfer 2017, ynghyd â’r cynlluniau gweithredu bras sydd i’w derbyn fis Gorffennaf; |
|
Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2018/19 PDF 105 KB Pwrpas: Cael cytundeb ar gyfer y ffioedd gwresogi arfaethedig mewn eiddo’r cyngor gyda systemau gwresogi ardaloedd cymunedol ar gyfer 2018/19 a 2019/20. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad ynghylch Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2018/19, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r ffioedd y cynigiwyd eu codi yn 2018/19 a 2019/20 am wresogi yn adeiladau’r Cyngor oedd â systemau gwresogi cymunedol.
Cyflwynwyd ffioedd newydd ar gyfer gwresogi ardaloedd cymunedol yn yr haf bob blwyddyn fel y gellid cael gwybodaeth fanwl gywir yngl?n â chostau’r flwyddyn o’r blaen, ac unrhyw arian dros ben neu ddiffyg yn y gronfa wrth gefn ar gyfer gwresogi.
Roedd y tabl yn yr adroddiad yn argymell ffioedd gwresogi yn seiliedig ar faint o wres a ddefnyddiwyd go iawn yn 2017/18, gan dybio y byddai’r costau'n cynyddu 8% yn 2019/20 ac y byddai pobl yn defnyddio’r un faint o wres am y ddwy flynedd nesaf. Byddai’r ffioedd newydd yn dod i rym ym mis Awst fel bod y cynnydd yng nghostau’r tenantiaid yn digwydd dros gyfnod hwy o amser.
Dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bod llawer o gynlluniau tai cymunedol wedi cael systemau gwresogi newydd ar hyn y blynyddoedd, a bod y rheiny’n effeithlon iawn, yn darparu gwres yn dda heb ddefnyddio gormod o ynni. Roedd angen gwneud mwy o waith, fodd bynnag, ac roedd hynny'n parhau drwy weithredu Safon Ansawdd Tai Cymru. Cyfeiriwyd at ddau gynllun lle’r oedd gwaith ar y gweill, sef y systemau cymunedol yn Panton Place, Treffynnon a Glan y Morfa, Cei Connah. Y bwriad oedd dechrau’r gwaith o wella’r systemau hynny yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r newidiadau yn y ffioedd a godwyd ar gyfer gwresogi yn adeiladau'r Cyngor oedd â systemau gwresogi cymunedol. Byddai’r holl newidiadau yn dod i rym ar 1 Awst 2018. |
|
Cynllun Adfywio Blaendraeth y Fflint PDF 84 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad hwn yn rhoi manylion ynghylch datblygiad cynlluniau ar gyfer adfywio Blaendraeth y Fflint ac yn cynnig y dylid symud ymlaen at gam nesaf y gwaith heb unrhyw oblygiadau ariannol i Gyngor Sir y Fflint. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ynghylch Adfywio Blaendraeth y Fflint, a oedd yn argymell mynd ymlaen i’r cam nesaf o ddatblygu Astudiaeth Ddichonoldeb Blaendraeth y Fflint a’r gwaith Ymchwil a Datblygu ar gyfer Celf Castell y Fflint. Roedd hynny’n cynnwys gwaith dylunio a datblygu manwl ar gyfer y cyfleuster ar y cyd, a gosod darn mawr o gelf gyhoeddus yng Nghastell y Fflint. Byddai unrhyw gynnydd yn amodol ar gydsyniad y partneriaid eraill yn y gwaith.
Diolchodd i’r Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) am y gwaith a wnaethpwyd ar gyfer y prosiect hwn, a fu’n heriol ar brydiau. Talodd y Cynghorydd Butler deyrnged hefyd i’r gwaith a wnaeth y Cynghorydd Roberts ar y prosiect.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn y canfyddiadau yn yr adroddiad o ddichonolrwydd adfywio Blaendraeth y Fflint a bwrw ymlaen â’r gwaith manylach, gan gynnwys: dylunio a datblygu manwl, datblygu’r pecyn cyllid cyfalaf, a chynllunio busnes manwl; ac
(b) Derbyn y canfyddiadau yn adroddiad Ymchwil a Datblygu Celf Castell y Fflint, a bwrw ymlaen i ddatblygu darn mawr o gelf gyhoeddus yng Nghastell y Fflint, neu o’i gwmpas. |
|
Trwsio tyllau ffordd a pharato i’r Rhaglen Blynyddol o Ail-wynebu Ffyrdd PDF 82 KB Pwrpas: I roi gwybod i'r Cabinet am y rhaglenni cynnal a chadw arfaethedig wedi'u cynllunio. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ynghylch Trwsio Tyllau yn y Ffordd a Pharatoi’r Rhaglen Flynyddol o Ail-wynebu Ffyrdd, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r rhaglenni a gynigiwyd ar gyfer ail-wynebu ffyrdd yn 2018/19.
Penderfynid yn ôl cyflwr y ffordd a’r tywydd a oedd hi'n gost effeithiol trwsio tyllau’n barhaol ynteu’u llenwi am y tro er diogelwch y ffordd. Rhoddwyd ystyriaeth i ragolygon y tywydd, swm yr adnoddau ar gael a chyflwr y rhwydwaith wrth gynllunio’r ymateb priodol o ran trwsio ffyrdd bob wythnos yn ystod y gaeaf.
Yn ddelfrydol dymunai’r Cyngor barhau â’r sefyllfa bresennol, “Cyflwr Sefydlog”. Roedd yn ofynnol buddsoddi cyfalaf o £2,745,680 y flwyddyn i gynnal y sefyllfa honno. Ni fyddai buddsoddiad o’r fath ond yn cadw cyflwr y ffyrdd fel yr oeddent, a phrin oedd y Cynghorau yng Nghymru a fuddsoddodd i’r graddau hynny. Gwneid pob ymdrech i wneud y gorau o’r cyllid oedd ar gael ac i sicrhau y câi ei ddefnyddio i drwsio’r ffyrdd hynny'r oedd angen y sylw mwyaf arnynt.
Roedd y Cyngor felly’n mynd ati’n ofalus i sicrhau’r buddion mwyaf posib wrth ddosrannu cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau cynnal a chadw ffyrdd, ynghyd â dosrannu cyfalaf y Cyngor. Archwiliwyd pob ffordd wrth ddatblygu’r rhaglenni ail-wynebu, ac roedd y manylion ynghlwm wrth yr adroddiad.
Soniodd y Cynghorydd Roberts am y gwaith ail-wynebu oedd ar fin digwydd ar yr A548, gan ofyn am osod arwyddion i draffig oedd yn dynesu at yr A458 yn rhybuddio yngl?n ag oedi hir. Fel hynny gallai gyrwyr fynd ffordd arall a gellid cwtogi ar dagfeydd.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r rhaglenni ail-wynebu ffyrdd. |
|
Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 87 KB Pwrpas: Ystyried a yw’r adroddiad yn adlewyrchiad cywir o ofal cymdeithasol yn Sir y Fflint. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn nodi’r daith tuag at welliant ac yn gwerthuso perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o ran darparu gwasanaethau i bobl oedd yn hyrwyddo eu lles ac yn eu helpu i gyflawni eu canlyniadau personol.
Byddai’r adroddiad yn rhan bwysig o werthusiad Arolygiaeth Gofal Cymru o berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, a byddai hefyd yn sail ar gyfer asesiad Swyddfa Archwilio Cymru o Gyngor Sir y Fflint fel rhan o’r adroddiad gwella blynyddol.
Cafodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd gyfle ymlaen llaw i ymateb i'r adroddiad drafft a chynnig sylwadau, ac roedd hynny wedi dylanwadu ar y negeseuon allweddol a'r blaenoriaethau yn y drafft terfynol.
Amlinellodd yr Adroddiad Blynyddol drafft y blaenoriaethau gwella a bennwyd ar gyfer 2018/19, y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y bu’r gwaith a wnaethpwyd gyda’r sector gofal a’r rhanddeiliaid yn hanfodol, a bod gwybodaeth wedi’i ddarparu ar wefan ar y cyd, Gofal@Sir y Fflint, i helpu darparwyr gyda recriwtio a chadw staff, hyfforddiant, hysbysebu digwyddiadau, rhannu arferion da a rhwydweithio gyda’i gilydd.
Diolchodd y Cynghorydd Jones i holl staff y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r arweinyddiaeth am gefnogi eu cynlluniau cyfalaf.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr Adroddiad Blynyddol. |
|
Pwrpas: I uno’r broses o gael gwared ar asbestos drwy’r tair Sir a lleihau costau drwy weithredu arbedion maint. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad ynghylch Rheoli Asedau Tai, Gwaith Cyfalaf – Caffael ar y Cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir Ddinbych ar gyfer Gwaith Trwyddedig i Waredu Asbestos a Gwaith Adfer.
Roedd yr adroddiad yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo trefniant ar y cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir Ddinbych i gaffael gwasanaethau gan gontractwyr Gwaith Trwyddedig i Waredu Asbestos, a hynny drwy drefn gaffael Proactis.
Arfarnir pob cais ar sail y Tendr Mwyaf Manteisiol Yn Economaidd, gan ystyried y materion canlynol, yn nhrefn blaenoriaeth:Pris 70% ac Ansawdd 30%.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r trefniant ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir Ddinbych i gaffael fframwaith o gontractwyr i gyflawni unrhyw waith oedd a wnelo ag asbestos. |
|
Cymeradwyaeth Costau Maes Gwern, yr Wyddgrug, Cynllun Rhaglen Dai ac Adfywio (SHARP) PDF 119 KB Pwrpas: Gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer Costau Maes Gwern, yr Wyddgrug, Cynllun Rhaglen Dai ac Adfywio (SHARP). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad ynghylch Cymeradwyo Costau Maes Gwern, yr Wyddgrug, Cynllun Strategol Tai ac Adfywio (SHARP), a oedd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo camau allweddol nesaf y cynllun, a oedd yn cynnwys cynigion i ddatblygu 48 o gartrefi cymdeithasol newydd ym Maes Gwern, yr Wyddgrug, i’w gosod ar rent fforddiadwy ac ar delerau rhannu ecwiti.
Dyluniwyd y cynllun arfaethedig wedi’i ar thema “pentref gardd”, gyda phwyslais ar y cysylltiadau rhwng y mannau cyhoeddus a phreifat, a chysylltiadau rhagorol i gerddwyr a beicwyr â chanol tref yr Wyddgrug.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys dadansoddiad manwl o’r gymysgedd o dai a gynigiwyd yn y cynllun.
Soniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yngl?n â graddfa'r rhaglen SHARP, gan esbonio fod y Cyngor bellach wedi cwblhau 49 o dai newydd ar bum safle yng Nghei Connah, yr Wyddgrug a Choed-llai a’u bod wedi gosod i denantiaid.
Croesawodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad, ond gan grybwyll fod y cynllun a elwid yn Ysgol Delyn, yr Wyddgrug bellach wedi’i alw’n Llys Alexandra, ac fe nodwyd hynny.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo datblygu 48 o gartrefi cymdeithasol newydd ym Maes Gwern, yr Wyddgrug, i’w gosod ar rent fforddiadwy ac ar delerau rhannu ecwiti;
(b) Cymeradwyo Benthyca Darbodus hyd at £0.431 miliwn (yn dibynnu ar gymeradwyaeth a dilysu terfynol) i ariannu’r datblygiad arfaethedig o gartrefi’r Cyngor; ac
(c) Cymeradwyo defnyddio £0.270 miliwn o’r cronfeydd wrth gefn rhannu ecwiti ar gyfer elfen fforddiadwy’r cynllun. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). |
|
Approval of Costs for Maes Gwern, Mold, Strategic Housing and Regeneration (SHARP) Scheme (Confidential Appendix to Agenda Item Number 17) |
|
Gwasanaeth Caffael Ar y Cyd Pwrpas: Bod y Cabinet yn cytuno mynd i gytundeb lefel gwasanaeth am 3 blynedd pellach gyda Chyngor Sir Ddinbych ar gyfer darparu gwasanaethau caffael. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ynghylch Gwasanaeth Caffael ar y Cyd, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo Cytundeb Lefel Gwasanaeth arall gyda Chyngor Sir Ddinbych ar gyfer darparu gwasanaethau caffael.
Roedd cyfnod tair blynedd y Cytundeb Lefel Gwasanaeth blaenorol wedi dod i ben.
PENDERFYNWYD:
(a) Yn amodol ar wneud y newidiadau a ddisgrifir isod, bod y Cabinet yn cymeradwyo sefydlu cytundeb lefel gwasanaeth am dair blynedd arall gyda Chyngor Sir Ddinbych ar gyfer darparu gwasanaethau caffael; ac
(b) Gwneud y newidiadau canlynol yn y dull darparu gwasanaeth: 1. Mae angen hyrwyddo caffael cydweithredol lle mae’n briodol a ble bydd yn cyflawni arbedion; 2. Mae angen i bartneriaid busnes, timau uwch reolwyr a Phrif Swyddogion fynd ati’n frwd i ymgysylltu â’i gilydd er mwyn amlygu prosiectau sydd ar y gweill a chontractau mawr fel y gellir cynllunio’r llwybr caffael ac ystyried cydweithredu; 3. Annog darparu buddion cymunedol; 4. Rhaid gosod targedau clir a phendant ar gyfer cyflawni’r arbedion effeithlonrwydd trwy’r broses gaffael; 5. Ymddengys bod y systemau a’r gwaith papur yn feichus ac mae angen eu hadolygu i sicrhau eu bod yn briodol at ddibenion mewnol ac nad ydynt yn dod yn rhwystr diangen i gwmnïau bach sydd am gyflwyno cynigion; 6. Mae angen adolygu profiadau pawb ar ôl caffael contractau mawr; 7. Mae angen i brif swyddogion gymryd mwy o ran yn y gwaith o gytuno ble i gael cydbwysedd rhwng y manteision posibl a risgiau’r broses gaffael; a 8. Mae angen cyflwyno adroddiadau perfformiad i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Cabinet ac Adnoddau Corfforaethol. |
|
Caffael Contract Asiantaeth Newydd Pwrpas: Penodi’r Cyflenwr a Ffafrir. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ynghylch Caffael Contract Asiantaeth Newydd, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo cyflenwr oedd wedi’i argymell ar gyfer darparu gweithwyr dros dro a gweithwyr asiantaeth i’r Cyngor.
Fel rhan o’r gystadleuaeth gryno a gynhaliwyd, gwahoddwyd saith o gyflenwyr i gyflwyno tendrau, ac wedi hynny derbyniwyd tri thendr. Y cyflenwr argymelledig a gyflwynodd y tendr mwyaf manteisiol yn economaidd.
PENDERFYNWYD:
(a) Penodi Matrix SCM yn gyflenwr staff asiantaeth dros dro gan ddefnyddio’r fframwaith MSTAR2; ac
(b) Dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog (Llywodraethu) gadarnhau'r trefniadau a sefydlu contract priodol â Matrix SCM. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd tri aelod o’r wasg a dau ar hugain o aelodau o’r cyhoedd yn bresennol. |