Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny, Cofnodion: Ni ddatganwyd cysylltiad. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir godnodion y cyfarfod diwethaf. Cofnodion: Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2017 wedi eu cylchredeg gyda’r agenda a’u cymeradwyo fel cofnod cywir.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.
Cymerodd Cynghorydd Jones y cyfle i fynegi ei diolch i’r holl staff yn yr adran Gwasanaethau Stryd, Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r gwasanaethau brys a oedd wedi mynychu’r tân yng Ngwesty Gateway to Wales y diwrnod blaenorol a oedd yn ei ward. Yn ffodus ni chafodd neb ei anafu yn y tân ac roedd pawb wedi’u rhoi mewn llety bellach.
Ailadroddodd Cynghorydd Attridge sylwadau’r Cynghorydd Jones a dywedodd fod hyn yn enghraifft dda o’r holl wasanaethau yn cydweithio ar ddigwyddiad mawr. Gofynnodd i’r Prif Weithredwr drosglwyddo ei ddiolch i’r holl staff a fu’n rhan o hyn. Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Aelodau am eu sylwadau a dywedodd y byddai’n trosglwyddo eu negeseuon.
Dywedodd y Cynghorydd Shotton y byddai eitem rhif 9 ar y rhaglen, Cyflwyno'r Ffioedd Gwastraff Gardd yn Sir y Fflint, yn cael ei hystyried i ddechrau. |
|
Cyflwyno’r Ffioedd Gwastraff Gardd yn Sir y Fflint PDF 114 KB Pwrpas: I gael cymeradwyaeth y Cabinet i’r trefniant ffioedd gwastraff gardd o fewn y gwasanaeth gwastraff. Cofnodion: Cyflwynodd Cynghorydd Thomas adroddiad Cyflwyno’r Ffioedd Gwastraff Gardd yn Sir y Fflint a oedd yn nodi sut byddai’r cynnig yn cael ei weithredu a darparu amcangyfrif ar gyfer y budd ariannol cysylltiedig i’r Cyngor o’r cynnig.
Nid oedd dyletswydd statudol ar y Cyngor i gasglu gwastraff gardd a gan ystyried y cyfnod presennol o gyni a’r heriau ariannol parhaus a wynebir gan y Cyngor, roedd yn angenrheidiol bellach i gyflwyno ffi o £30 ar gyfer casglu gwastraff gardd a fyddai’n debyg i’r ffi a gyflwynwyd gan nifer o Gynghorau yng Ngogledd Cymru a nifer gynyddol o Gynghorau ar draws Cymru a Lloegr. Y ffi am ail neu drydydd bin fyddai £30 hefyd.
Byddai preswylwyr yn cael gwybod am y ffi drwy lythyr a thrwy sticeri a fyddai’n cael eu rhoi ar y biniau gwastraff gardd ym mis Ionawr 2018. Byddai rhagor o ohebiaeth yn cael ei hanfon gyda’r wybodaeth am Dreth y Cyngor ym mis Mawrth 2018, a byddai gan breswylwyr tan 1 Ebrill 2018 i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth. Byddai’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim i bob preswyliwr ym mis Mawrth 2018. Roedd Rheolwr Prosiect ar waith i sicrhau bod y trefniadau’n cael eu cyflwyno’n llyfn, ac ni fyddai cost ychwanegol i’r Cyngor.
Cyfeiriodd Cynghorydd Thomas at sylw gan Cynghorydd Peers yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd ar 20 Tachwedd 2017 ar y gorwariant yn y gwasanaeth. Eglurodd fod hyn yn ymwneud ag amgylchiadau na ragwelwyd fel y cynnydd o ran taliadau trydan. O ran a allai’r gwasanaeth ganfod arbedion effeithlonrwydd pellach yn hytrach na chyflwyno’r tâl hwn, eglurodd fod y gwasanaeth eisoes wedi cael lleihad yn y gyllideb o 40% ac ni ellid dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd pellach.
Ailadroddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) mai gwasanaeth dewisol oedd hwn nad oedd gofyn i’r Cyngor ei ddarparu. Yn 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru (LlC) ei Glasbrint Casgliadau Gwastraff a oedd yn nodi’r dull darparu dewisol ar gyfer casgliadau gwastraff yng Nghymru, er mwyn darparu lefelau uchel a chynaliadwy o ran ailgylchu. Roedd gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu presennol Sir y Fflint yn alinio â’r Glasbrint gan mwyaf. Fodd bynnag, roedd y Glasbrint yn argymell y dylid cynnig y gwasanaeth hwn ar sail taladwy.
Soniodd am safon uchel a nifer y Canolfannau Ailgylchu Cartref yn y Sir a fyddai â digon o gapasiti i gael gwastraff gardd ar gyfer y preswylwyr hynny nad oeddent yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth.
Yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd, roedd consesiynau wedi’u trafod. Eglurodd byddai hyn yn gymhleth i’w gyflwyno i sicrhau ei bod yn broses deg; byddai’n heriol i’w weithredu ac roedd yn mynd yn groes i Bolisi Ffioedd a Thaliadau newydd y Cyngor. Fodd bynnag, byddai blwyddyn gyntaf gweithredu ar gyfer gwrando a dysgu.
Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y cofnodion drafft o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a oedd yn amlinellu’r sylwadau gan Aelodau am y cynnig hwn. Y penderfyniad oedd “Nodi sylwadau'r Pwyllgor ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno ... view the full Cofnodion text for item 105. |
|
Rhagolygon ariannol a sefyllfa'r gyllideb Pwrpas: I ddarparu diweddariad llafr ar y rhagolwg ariannol a'r sefyllfa cyllideb ar gyfer 2018/19. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr eitem ar lafar am y Rhagolwg Ariannol a Sefyllfa’r Gyllideb. Roedd Cam Un y gyllideb wedi’i gwblhau ac roedd Cam Dau wedi cael ei drafod yn y Cyngor Sir yr wythnos flaenorol gyda’r canlyniadau a ganlyn:
· Byddai amrediad Treth y Cyngor rhwng 3% a 5%; · Byddai argymhellion gan y Cabinet yn cael eu cyflwyno, sef;
(a) Bod opsiynau’r Gyllideb Cam Dau yn yr adroddiad Craffu ac argymhellion y Cabinet a nodir isod yn cael eu cyflwyno;
(i) Bod adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cael ei gyflwyno gydag argymhelliad i’r Cyngor ar Gam 2 strategaeth y gyllideb;
(ii) Bod camau sy’n weddill o broses y gyllideb a’r terfynau amser yn cael eu nodi; a
(iii) Bod y Cabinet yn cael a derbyn yn llawn y 6 argymhelliad drafft gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (rhestrir isod). Gwnaeth y Cabinet nodi ac argymell Cam 2 y gyllideb i'r Cyngor Sir gyda’r amod y byddai’r cynigion penodol ar gyllidebau ysgol a thaliadau parcio ceir yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol ym mis Ionawr ar gyfer adolygiad llawn, er mwyn iddynt adrodd yn ôl cyn unrhyw gytundeb terfynol ar y ddau faes hyn.
Argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol: 1. Ar ôl ystyried opsiynau’r gyllideb Cam 2, nodi’r adroddiad a’r cynigion; 2. Bod camau sy’n weddill o broses y gyllideb a’r terfynau amser yn cael eu nodi; a 3. Bod y llythyr i Ysgrifenyddion y Cabinet dros Gyllid a thros Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a’r Datganiadau Cydnerthedd yn cael eu dosbarthu i bob Aelod; 4. Bod manylion llawn yr asesiadau o’r risgiau, effeithiau a chanlyniadau o’r holl gynigion y gyllideb ar gael i’w hadolygu ym mis Ionawr; 5. Bod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid yn cael eu cynnull ym mis Ionawr i adolygu’r taliadau parcio ceir a chynigion y gyllideb ar gyfer ysgolion fel ei gilydd yn fanwl gan gynnwys risgiau a chanlyniadau’r cynigion, cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud; a 6. Bod adroddiad yn adolygu’r broses ar gyfer proses gosod y gyllideb flynyddol yn cael ei baratoi ar gyfer y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2018.
(2) Bod camau sy’n weddill o broses y gyllideb a’r terfynau amser yn cael eu nodi; a
(b) Bod camau sy’n weddill o broses y gyllideb a’r terfynau amser yn cael eu nodi.
Byddai trafodaeth yn cael ei chynnal gyda swyddogion Llywodraeth Cymru (LlC) am y sefyllfa hon. Rhoddodd sylwadau ar £20m posibl ychwanegol i Awdurdodau Lleol ar gyfer 2018/19, gyda £40m posibl yn 2019/20, ar sail y fformiwla, byddai hyn yn £950,000 ac £1.7m ar gyfer 2018/19 a 2019/20 fel ei gilydd ar gyfer Sir y Fflint. Rhoddodd sylwadau hefyd ar dri chais penodol LlC, sef: (1) Cap Ffioedd Gofal Cartref; (2) Cronfa Gofal Canolraddol; a (3) Ardoll Treth Prentisiaid. Dywedodd y Cynghorydd Shotton fod lobïo yn parhau ar y tri ... view the full Cofnodion text for item 106. |
|
Adroddiad Cynnydd yFargen Twf Economaidd Gogledd Cymru PDF 123 KB Pwrpas: Rhannu’r sefyllfa gyfredol ar ddatblygu bargen twf gan alw am benderfyniadau ac amserlenni allweddol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cynghorydd Shotton Adroddiad Cynnydd Cais Twf Economaidd Gogledd Cymru.
Ym mis Medi 2016, mabwysiadodd y Cabinet y Weledigaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru a chefnogodd gynnydd datblygiad Cais Bargen Twf cystadleuol a oedd i gael ei gyflwyno i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru (LlC) erbyn diwedd mis Tachwedd 2017. Roedd manylion y Cais wedi’u cynnwys yn yr atodiad.
Roedd cyfarfod cyntaf y Cydbwyllgor Cysgodol wedi cyfarfod yr wythnos flaenorol lle gwnaeth cynrychiolwyr o’r sector preifat, Addysg Uwch (AU) ac Addysg Bellach (AB) ymuno ag Arweinwyr y Cyngor. Roedd y Cais Bargen Twf yn ategol at, a byddai’n cefnogi’r canlynol:
· Polisi economaidd a chymdeithasol y DU a LlC; · Polisi Llywodraeth y DU i ddatblygu cystadleurwydd economi’r Undeb ar ôl trafodaethau Brexit; · Polisi LlC ar gyfer llywodraethu rhanbarthol a datganoli; · Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU; · Cynlluniau Sector Llywodraeth y DU a LlC yn benodol ar gyfer niwclear, ynni, gweithgynhyrchu (Modurol ac Awyrofod) a digidol; · Cynllun Seilwaith Cymru; · Cynllunio a chysylltedd trawsffiniol; a · Strategaeth Economaidd LlC sydd ar fin digwydd.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr mai’r Cydbwyllgor Cysgodol fyddai’r canolbwynt ar gyfer trafodaethau gyda’r Cynghorydd Shotton yn Gadeirydd y Cydbwyllgor hwnnw, gyda chefnogaeth Arweinydd Cyngor Sir Gwynedd fel Is-Gadeirydd. Roedd cefnogaeth swyddogion gan ef ei hun ac Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr, Cyngor Gwynedd. Roedd amcan i gyrraedd cam cyntaf y cytundeb, a elwir yn ‘Penawdau’r Telerau’ erbyn diwedd gwanwyn 2018.
O ran manteision posibl i Sir y Fflint o’r Fargen Twf, roedd nifer o gynigion i gefnogi twf busnesau a fyddai o fantais i fusnesau presennol Sir y Fflint a soniodd y Prif Weithredwr am Waren Hall ym Mrychdyn a safleoedd cyflogaeth fel Parc Diwydiannol ac Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy.
Rhoddodd y Cynghorydd Butler sylwadau ar y gweithio trawsffiniol llwyddiannus a oedd wedi galluogi cynnydd cyflym ar y Fargen Twf ar gyfer Gogledd Cymru a chroesawodd bolisi LlC ar gyfer llywodraethu rhanbarthol a datganoli.
Dywedodd y Cynghorydd Shotton fod cludiant wrth wraidd y Cais i ddarparu mynediad i bobl i gyfleoedd, gan roi sylwadau yn benodol ar fynd i’r afael â bod heb waith a diweithdra.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cais Bargen Twf a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cael ei gefnogi a bod y terfynau amser ar gyfer pob un o gamau nesaf datblygu’r cais yn cael eu nodi; a
(b) Bod y cynlluniau blaenoriaeth a allai ddarparu budd lleol yn Sir y Fflint yn cael eu nodi a’u cefnogi. |
|
Strategaeth Ymgysylltu PDF 91 KB Pwrpas: Cael cymeradwyaeth ar gyfer strategaeth ddiwygiedig i ymgysylltu â chwsmeriaid HRA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cynghorydd Attridge yr adroddiad Strategaeth Ymgysylltu â Chwsmeriaid a oedd yn cyflwyno Strategaeth ddiwygiedig a chynllun gweithredu ar gyfer tenantiaid a phreswylwyr Cyngor Sir y Fflint. Roedd yr adolygiad wedi rhoi ystyriaeth i farn tenantiaid, deddfwriaeth ac arfer gorau.
Roedd yn bwysig bod dulliau o ymgysylltu â thenantiaid a phreswylwyr yn gost-effeithiol ac yn rhwydd i gael mynediad iddynt gan bob rhan o’r gymuned. Byddai’r Strategaeth a’r cynllun gweithredu yn sicrhau bod y gwasanaeth ymgysylltu â’r cwsmer yn rhoi cyfle i bob cwsmer ddylanwadu ar a herio datblygiad a darpariaeth gwasanaeth mewn ffordd sy’n fwyaf addas i’w hanghenion a sicrhau’r canlyniadau uchaf o fuddsoddiad adnoddau.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo gweithredu’r Strategaeth Ymgysylltu â Chwsmeriaid diwygiedig a Chynllun Gweithredu 2018-2021. |
|
MONITRO CYLLIDEB REFENIW 2017/18 (MIS 7) PDF 143 KB Pwrpas: Darparu’r sefyllfa fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar fis 7 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 7) a oedd yn cynnig y sefyllfa bresennol o ran monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa, ar sail incwm a gwariant gwirioneddol, a rhoi amcanestyniad o beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiweddglo'r flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yn gyfartal.
Y sefyllfa a amcanestynwyd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb liniaru i leihau pwysau o ran cost a gwella’r arenillion ar gynllunio arbedion effeithlonrwydd, oedd:
Cronfa’r Cyngor:
· Rhagwelid y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn £1.262 miliwn yn uwch na’r gyllideb; a · Y balans cronfa hapddigwyddiad a amcanestynnir ar 31 Mawrth 2018 yw £3.820 miliwn.
Cyfrif Refeniw Tai:
· Rhagwelid y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn £0.03 miliwn yn uwch na’r gyllideb; a · Y balans cloi a amcanestynnir ar 31 Mawrth 2018 yw £1.081 miliwn.
Roedd yr adroddiad yn cwmpasu’r rhagolwg yn ystod y flwyddyn diweddaraf yn ôl portffolio; gan olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn a materion sy’n dod i’r amlwg; chwyddiant; a chronfeydd wrth gefn a balansau.
O ran balansau ysgolion, eglurodd Cynghorydd Roberts fod nifer o Ysgolion Uwchradd â diffyg, gyda chynlluniau gweithredu cadarn i’w lleihau, a oedd wedi’u gwrthbwyso gan yr Ysgolion Cynradd.
Eglurodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod dau sylw penodol wedi’u gwneud yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol diweddar: (1) bod y tri maes tanwariant yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol; a (2) a ellid trin balansau penodol ar refeniw yn yr un ffordd â chronfeydd wrth gefn cyfalaf. Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar yr ail gais i egluro’r goblygiadau.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a nodi’r swm hapddigwyddiad a amcanestynnwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2018; a
(b) Dylid nodi'r lefel terfynol o falensau a amcanestynnwyd ar y Cyfrif Refeniw Tai. |
|
Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2017/18 PDF 114 KB Pwrpas: Cyflwyno i’r Aelodau yr Adolygiad Hanner Blwyddyn Rheoli Trysorlys drafft ar gyfer 2017/18 i'w argymell i'r Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli Trysorlys a oedd i gael ei gymeradwyo i’r Cyngor.
Roedd newidiadau rheoleiddio yn dod i rym yn y dyfodol agos a’r prif newid fyddai MiFID II (yr ail Markets in Financial Instruments Directive) a fyddai’n dod i rym ar 3 Ionawr 2018. Roedd MiFID II yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gael eu categoreiddio gan gwmnïau gwasanaethau ariannol a reoleiddir fel cleientiaid cadw yn ddiofyn, a allai “optio i fyny” i fod yn gleientiaid proffesiynol, os oeddent yn bodloni meini prawf penodol.
Roedd y Cyngor wedi’i ddosbarthu fel cleient proffesiynol. I “optio i fyny” a pharhau â’r statws, rhaid i’r Cyngor fod â balans buddsoddi o £10m o leiaf, gyda’r unigolyn a awdurdodwyd i wneud penderfyniadau buddsoddi ag o leiaf blwyddyn o brofiad perthnasol. Roedd swyddogion wedi rhoi ystyriaeth i effeithiau gwahanol aros fel cleient proffesiynol neu newid i fod yn gleient manwerthu, ac argymhellwyd bod y Cyngor yn cadw ei statws MiFID presennol proffesiynol er mwyn parhau i reoli gweithgareddau rheoli trysorlys dyddiol y Cyngor fel maent ar hyn o bryd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli Trysorlys 2017/18 yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor; a
(b) Bod argymhelliad yn cael ei roi i’r Cyngor i gymeradwyo’r penderfyniad i “optio i fyny” i statws cleient proffesiynol gan gwmnïau gwasanaethau ariannol a reoleiddir o ganlyniad i’r ail Markets in Financial Instruments Directive (MiFID II). |
|
Gwaharddiad posib o ryddhau “Llusernau Tsieineaidd” o dir Cyngor Sir y Fflint PDF 74 KB Pwrpas: Ystyried safle’r Cyngor mewn perthynas ag atal rhyddhau llusernau o dir sy'n eiddo iddynt. Cofnodion: Cyflwynodd Cynghorydd Bithell adroddiad Rhyddhau Llusernau Papur o Dir y Cyngor.
Bu pryder cynyddol gan amrywiaeth eang o fudd-ddeiliaid, fel y Gymdeithas Cadwraeth Forol, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Undeb Amaethwyr Cymru, y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid ac amryw Wasanaethau Tân ac Achub, am effaith bosibl lanterni awyr ar dda byw a’r amgylchedd. Roedd pryderon penodol yn cynnwys y risgiau i les anifeiliaid drwy lyncu darnau, sbwriel yng nghefn gwlad, y môr ac ar y morlin, risgiau i hedfan ac effeithiau ar wasanaethau achub arfordirol. Gan fod lanterni awyr yn cynnwys fflam noeth, roedd pryder ychwanegol am y risg tân i adeiladau eiddo a chnydau o lanio afreolus.
Gallai ceisio erlyn parti dan y Deddfau hyn fod yn heriol gan fod trafodaeth ar ba adeg y cafodd y sbwriel ei ollwng mewn gwirionedd a sut gellid ei fonitro a’i orfodi wedi hynny. Yn ogystal, roedd yr adnoddau gofynnol yn debygol o fod yn sylweddol ac, ar adeg o gyfyngiadau cyllidebol, gallent fod yn waharddol.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cyngor yn cyflwyno gwaharddiad gwirfoddol ar ryddhau llusernau awyr o dir sy’n berchen i’r Cyngor neu a reolir gan y Cyngor; a bod ymarfer cyfathrebu yn cael ei gynnal i sicrhau bod defnyddwyr a sefydliadau elusennol yn ymwybodol o’r risgiau sy’n gysylltiedig â llusernau awyr a’r ffaith na ddylent gael eu rhyddhau o dir sy’n berchen i’r Cyngor neu a reolir gan y Cyngor. |
|
YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG PDF 53 KB Pwrpas: Darpau manylion y carriaua gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Cofnodion: Cyflwynwyd eitem gwybodaeth am y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Roedd y camau gweithredu fel a nodir isod:-
Gwasanaethau Stryd a Chludiant
Rhoi gwybod i Aelodau am y gwrthwynebiadau a ddaeth i law yn dilyn hysbysebu’rGorchymyn Gwaharddiad a Chyfyngiad Aros a Mannau Llwytho a Pharcio, Diwygiad Rhif 10, sy’n cyflwyno Dim Aros ar Unrhyw Adeg ac Aros Cyfyngedig a Pharcio Cyfyngedig ar Englefield Crescent, Wats Dyke Avenue ac Ellesmere Road, Mynydd Isa.
Rhoi gwybod i Aelodau am y cynigion i gynyddu cyfradd taliadau ar gyfer Cytundebau De-Minimis ar wasanaethau bws masnachol o fis Medi 2017.
Cafodd Ffioedd Gwasanaethau Profedigaeth eu cynyddu ddiwethaf ym mis Ebrill 2015. Cynigir cynyddu pob ffi 5% ar wahân i’r ffioedd sy’n gysylltiedig â Beddau Brics, y cynigir eu cynyddu 10%. Mae adroddiad Archwilio diweddar wedi amlygu bod angen i ni adolygu’r ffioedd hyn yn flynyddol wrth symud ymlaen, a gweithredu unrhyw gynnydd fel bo angen wrth sicrhau bod gwerth am arian yn dal i gael ei gyflawni yn y gwasanaeth sensitif iawn.
Newid Sefydliadol
Mae’r hen ddepo i gael ei werthu i Gyngor Gwynedd yn dilyn arfer Opsiwn i Brynu dan eu Cytundeb Prydles.
Bydd gwerthu’r tir hwn i’r perchennog cyfagos yn rhyddhau dau le parcio ychwanegol ym maes parcio cyhoeddus y Stryd Fawr.
Mae’r cae chwarae hwn yn un nad oes ei angen bellach yn dilyn cau Ysgol Gynradd Llanfynydd.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol a dim ond un aelod o’r wasg oedd yn bresennol. |