Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Remote attendance meeting
Cyswllt: Nicola Gittins/ 01352 702345 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cyng. Paul Cunningham; y Cyng. Roz Mansell; Catherine McCormack; Lyn Oakes; Y Cyng. Dave Mackie; Jennie Downes |
|
Datgan Cysylltiad: Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol Caiff aelodau eu hatgoffa fod rhaid iddynt ddatgan bodolaeth a natur y cysylltiad personol y maent yn ei ddatgan. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw beth ei ddatgan ond fe nodwyd yr Aelodau Etholedig a oedd yn llywodraethwyr ysgolion. |
|
Cofnodion y Cyfarfod a Gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2023 Cymeradwyo a chadarnhau bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd: derbyn y cofnodion fel cofnod cywir. Materion yn codi: Cadarnhaodd VB fanylion y Gynhadledd CCYSAGC a ddosbarthwyd i’r gr?p a’r Adroddiad Blynyddol a gyhoeddwyd |
|
Dadansoddiad o Adroddiadau Arolygu Derbyn adroddiad gan Vicky Barlow, Uwch Reolwr ar gyfer Gwella Ysgolion, y Portffolio Addysg ac Ieuenctid.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd VB at yr adroddiad a ddosbarthwyd gyda’r rhaglen a chanfyddiadau Estyn yn yr adroddiadau a gyhoeddwyd ar gyfer 4 ysgol y tymor hwn, ac roedd yn falch o nodi nad oedd unrhyw ysgol wedi derbyn argymhellion o ran Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.
Tynnodd VB sylw penodol at adran 3.4 yn yr adroddiad, er mwyn dangos ffocws yr arolwg ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, yn unol â’r Cwricwlwm i Gymru, ond roedd angen cryfhau addysg disgyblion drwy brofiadau go iawn yn eu hardal leol.
Yn adran 5.5. yn yr adroddiad, roedd VB yn falch o nodi y rhoddir cydnabyddiaeth i’r ysgol am ddatblygu’r Cwricwlwm.
Diolchodd y Cyng. ME i’r Swyddogion am eu gwaith yn cefnogi ysgolion a derbyniwyd yr adroddiad gan y Pwyllgor. |
|
Meini prawf ar gyfer cyfethol aelodau Derbyndiweddariad llafar gan Kim Brookes, Clerc y Pwyllgor (Uwch Reolwr Cymorth Busnes a Llywodraethu Ysgolion, Portffolio Addysg ac Ieuenctid) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyn adroddiad ar lafar gan Kim Brookes, Clerc y Pwyllgor (Uwch Reolwr Cefnogaeth Busnes a Llywodraethu Ysgolion, Portffolio Addysg ac Ieuenctid).
Dywedodd y Clerc wrth y Pwyllgor, er bod y cylch gorchwyl presennol ar gyfer y CYSAG yn cynnwys aelodau cyfetholedig, nad yw’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Felly, gofynnir i’r Pwyllgor ystyried, wrth symud ymlaen, meini prawf ar gyfer enwebu Aelodau Cyfetholedig, sef: • faint ohonynt, • at ba ‘ddiben’, • am ba mor hir y cânt eu cyfethol • a oes ganddynt hawliau pleidleisio
Byddai ystyried unrhyw enwebiadau yn unol â’r meini prawf cytunedig yn eitem gyfrinachol ar y rhaglen (gwahardd y cyhoedd). Dylid hefyd cynnwys y meini prawf ar gyfer aelodau cyfetholedig wrth adolygu’r cylch gorchwyl yn y dyfodol. Gofynnodd y Cyng. AP i’r Pwyllgor ystyried beth fyddai ystadegau’r Cyfrifiad Cenedlaethol o ran cred grefyddol yn ei olygu a sut y gallem ymgysylltu â chymunedau gwahanol.
Gofynnodd HD a fyddai modd ystyried adolygu cynrychiolaeth ehangach gan eglwysi a chyfethol mwy o gynrychiolwyr. Eglurodd y Clerc, er y byddai modd eu hystyried fel aelodau cyfetholedig, y gellid cynnwys cynrychiolaeth ehangach o ran crefydd ar gyfer aelodau Pwyllgor A., o dan y telerau newydd arfaethedig.
Cynigiodd y Cyng. ME y gellid ystyried cyfethol er mwyn cefnogi buddiannau/ prosiectau penodol gan bwyllgorau, ac y gellid eu penodi am ddwy flynedd heb hawliau pleidleisio.
Cytunwyd: ystyried aelodau cyfetholedig ar y telerau hyn. |
|
Cylch Gorchwyl ar gyfer Cyngor Ymgynghorol Sefydlog Derbyndiweddariad ar lafar ar yr amserlenni arfaethedig gan Kim Brookes, Clerc y Pwyllgor (Uwch Reolwr Cymorth Busnes a Llywodraethu Ysgolion, Portffolio Addysg ac Ieuenctid). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyn adroddiad ar lafar ynghylch yr amserlen arfaethedig gan Kim Brookes, Clerc y Pwyllgor (Uwch Reolwr Cefnogaeth Busnes a Llywodraethu Ysgolion, Portffolio Addysg ac Ieuenctid).
Dywedodd y Clerc, o dan y rheoliadau, y byddai’n ofynnol i bob Cyngor Ymgynghorol Sefydlog newydd gytuno ar Gyfansoddiad a Chylch Gorchwyl a’u gweithredu o fis Medi 2026. Mae CCYSAGC wedi rhoi gwybod i Awdurdodau y gall dau Gyngor Ymgynghorol Sefydlog gyda’r un cyfansoddiad a chylch gorchwyl â’r CYSAG presennol fodoli gyda’i gilydd, a bod angen i’r ddau gorff fod ar waith nes diwedd blwyddyn academaidd 2025/26, ac yn dilyn hynny, bydd y CYSAG yn cael ei ddiddymu a’r Cyngor Ymgynghorol Sefydlog yn parhau.
Dywedodd y Clerc, gan fod y CYSAG presennol yn bwyllgor statudol, a bod ei delerau yn cynnwys Cyfansoddiad y Cyngor, y byddai angen i newidiadau i’r cylch gorchwyl gael eu cymeradwyo drwy broses Pwyllgor priodol y Cyngor. Cynigiwyd yr amserlen ddrafft ganlynol.
1/ Y cylch gorchwyl a’r cyfansoddiad drafft ar gyfer y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog, sy’n berthnasol o fis Medi 2026, i fod ar ffurf drafft erbyn cyfarfod tymor yr haf 2024, a’i gyflwyno i’r cyfarfod er mwyn ymgynghori. 2/ Cytuno ar ddrafft terfynol yn dilyn unrhyw newidiadau o’r ymgynghoriad yng nghyfarfod tymor yr hydref 2024. 3/ wedi’i drefnu drwy broses y Pwyllgor – Tîm y Prif Swyddogion – Pwyllgor y Cyfansoddiad – y Cabinet yn ystod tymor y gwanwyn 2025.
Cytunwyd: cyflwyno drafft i’w ystyried yng nghyfarfod mis Mehefin 2024.
|
|
Gohebiaeth Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd VB at yr ohebiaeth, a ddosbarthwyd i’r Pwyllgor, gan yr Ysgrifennydd i CCYSAGC, yn gwahodd y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog / CYSAGau i enwebu aelodau newydd ar gyfer Pwyllgor Gwaith CCYSAGC. Nodwyd, yn unol â thelerau ac amodau’r enwebiad, oherwydd bod gan CYSAG Sir y Fflint eisoes gynrychiolydd ar y Pwyllgor Gwaith (VB), nad oedd modd i ni wneud enwebiad pellach ar hyn o bryd, ond bod modd i ni fel Pwyllgor enwebu unigolyn o Gyngor Ymgynghorol Sefydlog/ CYSAG arall.
Cam Gweithredu: Y clerc i geisio eglurhad gan Ysgrifennydd CCYSAGC ynghylch sut y dylid gwneud hyn, o gofio nad oes cyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer y Pwyllgor cyn y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau.
|
|
Cynhadledd Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol Cymru 13 Mehefin 2024 Nodyn yn y dyddiadur wedi’i ddosbarthu’n flaenorol i aelodau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y nodyn i’r dyddiadur eisoes wedi’i ddosbarthu i’r Aelodau. |
|
Cyfarfodydd yn y Dyfodol Cynhelir cyfarfodydd yn y dyfodol yn 4.00 pm ar y dyddiadau canlynol.
Dydd Mercher 5 Mehefin 2024
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynhelir cyfarfodydd y dyfodol am 4pm ar y dyddiadau canlynol: Dydd Mercher 5 Mehefin 2024
|