Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Remote attendance meeting
Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd ar Gyfer 2023-2024 Penodi Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2023 – 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnodd y Clerc i’r Aelodau ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor. Enwebwyd a derbyniwyd y Cyng. Dave Mackie (DM) fel Cadeirydd am y flwyddyn.
|
|
Penodi Is-Gadeirydd ar Gyfer 2023 -2024 Penodi Is-gadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn 2023 – 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelodau am yr enwebiad a gofynnodd iddynt enwebu Is-gadeirydd i’r Pwyllgor. Enwebwyd a derbyniwyd Marina Parsons (MP) fel Is-gadeirydd am y flwyddyn.
|
|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cllr Paul Cunningham; Cllr Debbie Owen; Cllr Roz Mansell; Catherine McCormack; Wendy White; Robert Hughes; Julian Lewis |
|
Datgan Cysylltiad: Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol Caiffaelodau eu hatgoffa fod rhaid iddynt ddatgan bodolaeth a natur y cysylltiad personol y maent yn ei ddatgan. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cyng. Paul Cunningham; y Cyng. Debbie Owen; y Cyng. Roz Mansell; Catherine McCormack; Wendy White; Robert Hughes; Julian Lewis. |
|
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2023 Cymeradwyo a chadarnhau bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd: derbyn y cofnodion fel cofnod cywir. |
|
Cyfarfod Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru a Gynhaliwyd ar 25 Hydref 2023. Derbyndiweddariad llafar yn y cyfarfod gan Vicky Barlow, Uwch Reolwr ar gyfer Gwella Ysgolion, y Portffolio Addysg ac Ieuenctid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffodd VB yr aelodau fod modd darparu pedwar o fynychwyr i bob cyfarfod tymhorol Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru. Mae’r cyfarfodydd ar-lein er mwyn cael cynrychiolaeth dda. Mae adnoddau dysgu proffesiynol cenedlaethol ar gael ar Hwb, a mwy o adnoddau ar themâu trawsgwricwlaidd yn dod ar-lein erbyn diwedd y tymor; Rhestr chwarae ddefnyddiol ar gael i lywodraethwyr er mwyn sicrhau bod Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac addoli ar y cyd yn cael eu cwmpasu.
Atgoffodd VB yr aelodau o'r cais sefydlog am syniadau ac adnoddau ar gyfer y dyfodol a fyddai'n ddefnyddiol, a gofynnwyd i'r Penaethiaid am syniadau hefyd.
Dywedodd JD fod Cynhadledd Flynyddol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg i'w chynnal yn Wrecsam ar 13 Mehefin 2024, a bydd yn gymysgedd o seminarau ar-lein ac wyneb yn wyneb. Gwahoddwyd y Gweinidog Addysg i fod yn bresennol.
Nododd y Cadeirydd y gwaith deinamig y mae Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru yn ei ddarparu.
Cam Gweithredu: VB i rannu manylion y Gynhadledd Flynyddol a’r trefniadau archebu.
|
|
Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG 2022-2023 Derbynadroddiad blynyddol drafft gan Vicky Barlow, Uwch Reolwr ar gyfer Gwella Ysgolion, y Portffolio Addysg ac Ieuenctid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffodd VB aelodau o ddyletswydd y Pwyllgor hwn i gynhyrchu adroddiad blynyddol yn seiliedig ar ganllawiau a thempled cenedlaethol. Mae angen canllawiau diweddar ond yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor, mae angen cyflwyno'r drafft terfynol i'w gyfieithu.
Mewn ymateb i’r Cyng. AP, dywedodd VB ei bod yn rhaid i ysgolion roi prosesau ar waith mewn ymateb i geisiadau i dynnu’n ôl o Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Ni chafwyd unrhyw gwynion gan y CYSAG. Mae Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru wedi rhoi cyngor i awdurdodau ar fynd i’r afael â cheisiadau o’r fath gan rieni.
Diolchodd HP i VB am gynhyrchu’r |
|
Dadansoddiad o Adroddiadau Arolygu Estyn Derbynadroddiad gan Vicky Barlow, Uwch Reolwr ar gyfer Gwella Ysgolion, y Portffolio Addysg ac Ieuenctid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd VB yn falch o nodi'r sylwadau cadarnhaol y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad manwl atodedig. Nid oedd yr un ysgol wedi cael unrhyw argymhellion o ran Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg nac addoli ar y cyd yn ystod y cylch arolygu hwn gan Estyn. Roedd y Cyng. ME yn falch o nodi’r adroddiad a diolchodd i VB. Gofynnodd VB i’r Pwyllgor gydnabod y gefnogaeth a ddarparwyd i ysgolion gan Jane Borthwick, Uwch Ymgynghorydd Dysgu Cynradd.
|
|
Ymgynghoriad CBAC ar Gynigion TGAU Astudiaethau Crefyddol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Tynnodd VB sylw’r Pwyllgor at ymgynghoriad cyfredol CBAC ar y cynigion TGAU yn
Cadarnhaodd LO fod ysgolion uwchradd yn cyfrannu.
|
|
Gohebiaeth Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd VB wrth yr aelodau fod cais wedi dod i law gan aelod o staff yr ysgol yn gofyn am gael ymuno â’r Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol.
Dywedodd y Clerc fod y cylch gorchwyl presennol yn darparu ar gyfer ‘aelodau cyfetholedig’ i gynorthwyo CYSAG i gyflawni ei swyddogaethau, gyda’r Pwyllgor yn pennu’r cylch gorchwyl ar gyfer unrhyw benodiadau o’r fath. Dywedodd y Clerc y dylid ystyried eitem ar raglen cyfarfod Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol yn y dyfodol, sef penodi aelodau cyfetholedig, faint, at ba ‘ddiben’, am ba hyd y cânt eu cyfethol ac a oes ganddynt hawliau pleidleisio. Unwaith y bydd y Pwyllgor wedi cymeradwyo'r meini prawf, gallent wedyn gael pleidlais ar geisiadau.
Cam gweithredu: ystyried aelodau pwyllgor cyfetholedig ar y rhaglen.
|
|
Cyfarfodydd yn y Dyfodol Cynhelir cyfarfodydd yn y dyfodol yn 4.00 pm ar y dyddiadau canlynol.
Dydd Mercher 7 Chwefror 2024 Dydd Mercher 5 Mehefin 2024
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynhelir cyfarfodydd y dyfodol am 4pm ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Mercher 7 Chwefror 2024 Dydd Mercher 5 Mehefin 2024
|