Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd ar gyfer 2022-2023

Pwrpas:        Penodi Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer 2022-2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd KB gydweithwyr i’r cyfarfod. Cadarnhawyd bod y nifer oedd yn bresennol yn golygu bod y cyfarfod â chworwm a gwahoddwyd enwebiadau ar gyfer penodi Cadeirydd. Enwebwyd y Cyng. MB ac fe’i derbyniwyd fel Cadeirydd.

2.

Penodi Is-Gadeirydd ar Gyfer 2022-2023

Penodi Is-gadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn 2022 – 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd KB y dylid ystyried ethol Is-Gadeirydd mewn patrwm cylchdro o’r gr?p cynrychiolwyr a galwodd am enwebiadau yn eu tro gan Gynrychiolwyr yr Eglwys. Yn dilyn trafodaeth, cytunodd y cyfarfod â’r cynnig y dylai Mr Julian Lewis fod yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor.

3.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

John Morgan, St. Anthony RC School; Councillors Adele Davies-Cooke and Roz Mansell; Amira Mattar Westwood CP School, Buckley; Claire Homard Chief Officer; and Robert Hughes, Coleg Cambria

 

4.

Datgan Cysylltiad: Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol

Pwrpas:        Atgoffir aelodau bod yn rhaid iddynt ddatgan bodolaeth a natur eu cysylltiadau personol. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim wedi eu datgan.

5.

Cofnodion pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2022 a 24 Tachwedd 2022 fel cofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrthymateb i’r Cyng AP, dywedodd VB fod y cyfarfod yn derbyn cofnodion cyfarfodydd 9 Chwefror a 24 Tachwedd 2022 gan fod cyfarfod mis Mai wedi’i ganslo wrth aros am gadarnhad o’r Aelodau Etholedig ac nid oedd cworwm yng nghyfarfod mis Tachwedd. Ni allai’r cofnodion gael eu cyflwyno i’w cymeradwyo cyn y cyfarfod hwn. 

 

Cytunwyd: derbyn y cofnodion fel cofnod cywir.

6.

Adroddiad Blynyddol 2021-2022 pdf icon PDF 163 KB

Pwrpas:        Derbyn adroddiad blynyddol drafft gan Vicky Barlow, Uwch Reolwr ar gyfer Gwella Ysgolion, y Portffolio Addysg ac Ieuenctid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd VB yr Adroddiad Blynyddol drafft ar waith y CYSAG yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Derbyniodd y cyfarfod yr adroddiad a’i gymeradwyo’n unfrydol.  Diolchodd y Cadeirydd i VB ar ran y cyfarfod am y gwaith a wnaed i gynhyrchu’r adroddiad.   

7.

Dadansoddi adroddiadau arolygu pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        Derbyn adroddiad gan Vicky Barlow, Uwch Reolwr ar gyfer Gwella Ysgolion, y Portffolio Addysg ac Ieuenctid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyfeiriodd VB at yr adroddiad manwl a ddosbarthwyd gyda’r rhaglen. Rhoddodd VB wybod i aelodau newydd y Pwyllgor am ein harfer o edrych ar adroddiadau Estyn o’r tymor blaenorol ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac Addoli ar y Cyd.

 

            Roedd VB yn falch o sylwi nad oedd unrhyw argymhellion ar arferion statudol ar gyfer yr ysgolion a arolygwyd a bod Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg mewn sefyllfa dda i alluogi disgyblion i ddeall eu cymuned leol a’r gymuned ehangach.

 

Cam Gweithredu: VB i rannu enghreifftiau yn adroddiadau’r dyfodol.

 

            Roedd y Cyng. PC yn falch o weld enghreifftiau o amrywiaeth wedi’i fynegi mewn ysgolion ac roedd yn galonogol gweld dathliadau ysgolion drwy addoli ar y cyd. Cadarnhaodd VB y safbwynt mai un o gryfderau mawr ein hysgolion yw’r ffordd maent yn croesawu addoli ar y cyd.

 

            Cydnabu’r pwyllgor yr adroddiad gan ddiolch i ysgolion am eu gwaith caled ar ran CYSAG.

 

Cam Gweithredu: VB i gydnabod.

8.

Y Cylch Gorchwyl ar gyfer y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog

Pwrpas:        Derbyn diweddariad o’r Cylch Gorchwyl gan Kim Brookes, Uwch Reolwr, Cymorth Busnes a Llywodraethu Ysgolion, Portffolio Addysg ac Ieuenctid

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Dywedodd KB wrth y cyfarfod, gan nad yw’r cwricwlwm newydd ar waith yn llawn eto, bod Llywodraeth Cymru wedi cynghori Awdurdodau, oherwydd bod gan y CYSAG presennol a’r Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg newydd gyfansoddiad gwahanol, y bydd angen i’r ddau bwyllgor fodoli gyda’i gilydd yn ystod y blynyddoedd sydd ar ôl o’r hen gwricwlwm hyd at 2025.    Awdurdodau fydd yn penderfynu ar eu trefniadau eu hunain, sy’n golygu y gall aelodaeth y ddau bwyllgor fod yr un fath. Rhwng r?an a 2025, bydd arnom angen penderfynu ar aelodaeth y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg i sicrhau bod cynrychiolwyr o draddodiadau perthnasol ein hardal yn cael eu hadlewyrchu’n briodol. Gofynnwyd i’r Pwyllgor nodi fod yn rhaid i’r awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod aelodaeth y gr?p yn cyfateb yn gyffredinol â chryfder pob crefydd, enwad neu argyhoeddiad yn ei ardal leol.

 

Cytunwyd: Cytunodd y Pwyllgor â’r argymhelliad bod aelodaeth y CYSAG/Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn parhau yr un fath hyd at 2025.

 

Cam Gweithredu: Cylch gorchwyl drafft i gael ei ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.

9.

Gohebiaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Dywedodd VB wrth y cyfarfod fod llythyr wedi dod gan Gymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru yn gofyn am gefnogaeth gan awdurdodau ar gyfer eu gweithgor ar ddatblygu a gweithredu maes llafur y cytunwyd arno. Roedd y Pwyllgor yn croesawu’r dull.

 

Cam Gweithredu: VB i ddosbarthu’r llythyr ac argymell bod Sir y Fflint yn cymryd rhan.

 

            Cyfarfod y Gwanwyn o Gymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru: cafodd y cyfarfod wybod y gall 4 cynrychiolydd o bob awdurdod fynychu Cynhadledd y Gwanwyn ar lein, manylion i ddilyn.

 

            Roedd VB hefyd yn falch o ddweud bod enwebiad wedi dod gan yr Eglwys Bresbyteraidd am ail enwebai.

10.

Dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol

Yn y dyfodol bydd cyfarfodydd CYSAG SIR Y FLINT yncael eu cynnal am 4.00 pm.

 

DyddMercher 7 Mehefin 2023

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cytunodd y cyfarfod â’r cynnig gan VB i dderbyn dau gyflwyniad yng nghyfarfodydd y dyfodol: Amira Mattar ar ei gwaith i weithredu’r Cwricwlwm newydd yn ysgolion Westwood a Lyn Oakes ar sut mae penaethiaid AG yn y sector uwchradd yn paratoi ar gyfer y Cwricwlwm newydd.

 

            Wrth ymateb i’r Cyng. DO fel aelod newydd y Pwyllgor, cytunwyd y byddai VB yn trefnu gweithdy i aelodau newydd / pob aelod.  

 

Cam Gweithredu: VB i anfon copi o arweiniad WASCRE i’r Cyng. DO. 

11.

Cyfarfodydd y Dyfodol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dyddiad y cyfarfod nesaf, 4pm ddydd Mercher 7 Mehefin 2023

 

Cam Gweithredu: JD i ystyried cynnal cyfarfod mewn ysgol yr Eglwys yng Nghymru yn y dyfodol.                                    

 

Daeth y cyfarfod i ben am 16.58pm