Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd ar gyfer 2021-2022 Penodi Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2021 – 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Thanking Cllrs JA and MB for their proposed nomination, the Clerk advised the terms of reference for the Committee provide for the automatic election of Vice Chair to Chair. Catherine McCormack as current vice Chair was therefore nominated to Chair for 2021/22. Nomination accepted by Cllr CB and seconded by Cllr JA.
Agreed: Appointment of CM to Chair for 2021/22
|
|
Penodi Is-gadeirydd ar gyfer 2021-2022 Penodi Is-gadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn 2021 – 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hysbysodd y Clerc y cyfarfod am y patrwm cylchdroi ar gyfer enwebu swyddogion drwy naill ai Aelodau; cynrychiolwyr ysgol neu eglwys. Felly, gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer is-gadeirydd gan gynrychiolwyr yr eglwys. Ni dderbyniwyd unrhyw enwebiadau felly roedd y Cyng CB yn cynnig y Cyng MB ac eiliwyd gan y Cyng ADC.
Cytunwyd:Penodi’r Cyng. MB yn Is-Gadeirydd ar gyfer 2021/22 |
|
Datgan Cysylltiad: Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol CaiffAelodau eu hatgoffa fod rhaid iddynt ddatgan bodolaeth a natur y cysylltiad personol y maent yn ei ddatgan.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatgelwyd dim heblaw Cynghorwyr sy’n llywodraethwyr ysgol. |
|
Cymeradwyo a chadarnhau bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir ar 16 Mehefin 2021.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd fel cofnod cywir.
Materion yn codi:
VB i anfon dolen gwefan Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru Rhagwelir y bydd y fframwaith newydd ar gael erbyn diwedd y tymor. Cynllunio ar gynhadledd Maes Llafur y Gwanwyn a rhannu adnoddau ar draws Cymru ar y gweill; cynllunio ar gyfer cefnogaeth gyda datblygiad proffesiynol ar y cwricwlwm newydd ar gyfer Tymor yr Haf a gweithredu ar y CYSAG i ddatblygu ein Cyngor Ymgynghorol Sefydlog newydd fel y bydd angen o dan y fframwaith newydd.
Cam gweithredu: cynigion ar y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog newydd i gael eu cyflwyno yng nghyfarfod mis Tachwedd ar gyfer trafodaeth. |
|
Cwricwlwm i Gymru 2022 Derbyn diweddariad llafar yn y cyfarfod gan Jane Borthwick, Ymgynghorydd Dysgu Cynradd, Portffolio Addysg ac Ieuenctid.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dosbarthodd Jane Borthwick, Ymgynghorydd Dysgu Cynradd (JB) enghreifftiau o rai o’r gweithgareddau mae ysgolion wedi bod yn rhan ohonynt yn ystod y tymor hwn ble maent yn dod â 4 diben bywyd drwy weithgareddau yn seiliedig ar grefydd, gwerthoedd a moeseg:
Mae Ysgol y Llan, Chwitffordd wedi bod yn gweithio gyda’u pwyllgor ethos i wella gwerthoedd ac ethos yn eu hysgol, roedd hyn yn golygu eu bod yn gyfranogwyr creadigol i’r ffordd mae pethau yn digwydd yn eu hysgol eu hunain. Maent wedi rhannu eu gwaith drwy restrau chwarae ar yr adran arferion da yn HwB – adnodd dysgu Cymru gyfan. Mae Ysgol Nannerch ac Ysgol Nercwys wedi bod yn gweithio ar lawer o feysydd gwahanol sy’n bodloni 4 diben y cwricwlwm newydd: Arlunydd Preswyl; Crefyddau’r Byd, testun a fabwysiadwyd gan y disgyblion gan fod ganddynt ddiddordeb mewn Cristnogaeth a ffydd arall.Roedd disgyblion yn archwilio ac yn ymchwilio ffydd gwahanol bob wythnos ac yn creu arteffactau; dathlu gwerthoedd ysgol drwy Seren yr Wythnos a VIP. Ysgol Sant Ethelwold yn Shotton: Plant blwyddyn 3/4 yn darllen y llyfr ‘Rydym i gyd yn cael ein geni’n rhydd - Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol mewn lluniau’.
Ysgol Y Foel, Cilcain: wedi derbyn Gwobr Tirwedd yr AHNE i gydnabod eu prosiect ynni adnewyddadwy sy’n torri tir newydd. Mae disgyblion yn rhannu llwyddiannau’r ysgol a fydd o fudd i’r ysgol a’r amgylchedd a derbyn cydnabyddiaeth drwy Wobr Tirwedd yr AHNE. Diolchodd y Cadeirydd i JB am ei chyflwyniad a chytunwyd i rannu gyda chydweithwyr ysgolion uwchradd. Roedd y Cynghorwyr CB a JA yn croesawu’r wybodaeth a chyfle i ddathlu gydag ysgolion, gyda’r straeon yn codi calon ac yn ysbrydoli. Cadarnhaodd JD y gellir rhannu mwy o enghreifftiau o weithgareddau a gynhelir yn ysgolion yr Eglwys yng Nghymru. Cam Gweithredu:Bydd VB yn diolch i’r ysgolion ac yn ystyried rhannu straeon newyddion yn fwy eang drwy’r Tîm Cyfathrebu Corfforaethol. |
|
Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar waith Estyn ar Gyfer 2021-22 Derbyn diweddariad llafar yn y cyfarfod gan Vicky Barlow, Uwch Reolwr Gwella Ysgolion, Portffolio Addysg ac Ieuenctid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hysbysodd VB y cyfarfod fod Estyn wedi gohirio archwiliadau’r hydref i ganiatáu i ysgolion ganolbwyntio ar iechyd a lles a gofynion y cwricwlwm newydd a’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Trefniadau archwilio newydd i gael eu treialu:
Estyn yn parhau i fonitro ysgolion mewn categorïau gydag ymweliadau ymgysylltu, edrych ar ddysgu cyfunol ac adolygiadau thematig. |
|
Cyfarfodydd yn y dyfodol Yn y dyfodol bydd cyfarfodydd CYSAG SIR Y FLINT yn cael eu cynnal am 4.00 pm am
Dydd Iau 25th Tachwedd 2021 Dydd Mercher 9th Chwefror 2022 Dydd Mercher 8th Mehefin 2022
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd VB y cynhelir cyfarfod nesaf Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru ar 23 Tachwedd 2021; manylion i’w dosbarthu i’r aelodau a gofynnwyd am gynrychiolaeth rithiol. Cynhelir cyfarfodydd CYSAG Sir y Fflint yn y dyfodol am 4.00pm:
Dydd Iau 25 Tachwedd 2021; Dydd Mercher 9 Chwefror 2022 a Dydd Mercher 8 Mehefin 2022
UNRHYW FATER ARALL
Dywedodd y Cyng CB am ymholiad a dderbyniodd gan y Parch Huw Powell Davies ar gynigion ar gyfer cynrychiolaeth o’r eglwys yn y dyfodol ar CYSAG.
Cytunwyd: trafodaeth ar aelodaeth a chylch gorchwyl ar gyfer y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog newydd mewn cyfarfod yn y dyfodol.
|