Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn

Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Croeso a Chyflwyniadau

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Y Cynghorydd Paul Cunningham

Y Cynghorydd Ian Roberts

Y Cynghorydd Colin Legg

 

3.

Datgan Cysylltiad: Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol

Pwrpas:  Caiff Aelodau eu hatgoffa fod rhaid iddynt ddatgan bodolaeth a natur y cysylltiad personol y maent yn ei ddatgan.

 

 

Cofnodion:

Dim

 

4.

Cofnodion pdf icon PDF 71 KB

Pwrpas:  Cymeradwyo a llofnodi fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd blaenorol ar 10 Hydref 2019 a 20 Chwefror 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Materion yn codi -

Gwnaed cais i gynnwys cofrestr presenoldeb am y flwyddyn wrth anfon y rhaglen.

Gofynnwyd hefyd am gael taflen gofrestru yn y cyfarfod nesaf.

Gwnaed cais i anfon llythyr at aelodau a oedd wedi methu dau gyfarfod, ac anfon e-bost at bob aelod i roi gwybod am amser newydd y cyfarfodydd (VB i ymgymryd â hyn).

 

5.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas:  I benodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn

Cofnodion:

Yn unol â’r trefniadau a bennwyd ym mhwyntiau 4-4.5 yng Nghylch Gorchwyl CYSAG, cytunwyd i benodi cadeirydd ac is-gadeirydd yn y flwyddyn academaidd newydd.

6.

Dadansoddi adroddiadau Arolygu

Pwrpas:  Derbyn adroddiad yn y cyfarfod gan Vicky Barlow, Uwch Reolwr Gwella Ysgolion, Addysg ac leuenctid

 

 

Cofnodion:

Rhoes VB grynodeb o’r adroddiadau arolygu.

 

7.

Cwricwlwm Newydd i Gymru - Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau pdf icon PDF 2 MB

Pwrpas:  Derbyn trosolwg o Faes Dysgu a Phrofiad Dyniaethau ar gyfer y cwricwlwm newydd syn agored i ymgynghoriad o 20 Ebrill 19 Gorffennaf 2019.

Cofnodion:

Rhoes VB fraslun o Faes Dysgu a Phrofiad Dyniaethau ar gyfer y cwricwlwm newydd, a fyddai’n destun ymgynghoriad rhwng 30 Ebrill a 19 Gorffennaf 2019. Byddai VB yn llunio ymateb drafft i’r ymgynghoriad ar ran CYSAG.

 

 

8.

CCYSAGC

 

 

  • Cytuno ar bresenoldeb ar gyfer cyfarfod nesaf CCYSAG, Mehefin 28 2019 - Conwy

 

 

Cofnodion:

Derbyniwyd  cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2019.

 

Daethpwyd i gytundeb yngl?n â’r cynrychiolwyr yng nghyfarfod nesaf y Gymdeithas yng Nghonwy ar 28 Mehefin 2019. Byddai VB yn mynd i’r cyfarfod, a byddai DM yn cadarnhau y gallai yntau fynd hefyd.

 

Byddai VB yn holi pa bryd y deuai tro CYSAG Sir y Fflint i gynnal y cyfarfod (cynhelid y cyfarfod yng ngogledd Cymru yn nhymor yr haf).

 

Dywedodd DM fod y Gymdeithas wedi gwneud cais am wybodaeth gan Gyngor Sir y Fflint a bod y Cyngor heb ymateb. Byddai VB yn ymchwilio i hynny.

9.

Gohebiaeth

Pwrpas:    Derbyn adroddiad ar lafar gan Vicky Barlow yn ystod y cyfarfod, gyda manylion yr enwebiadau ar gyfer Is-Gadeirydd CCYSAGC.

 

Cofnodion:

Rhoes VB adroddiad ar lafar gan gynnwys manylion yr enwebiadau ar gyfer swydd Is-gadeirydd Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru.

 

Cynigiodd RW y dylai VB benderfynu ar y mater ar ran y Pwyllgor. Eiliodd DM y cynnig hwnnw.

 

10.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Byddai VB yn delio â’r unigolyn a oedd wedi mynegi diddordeb mewn ymuno â CYSAG.

 

11.

Cyfarfodydd y dyfodol

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf:   

9th Hydref 2019  - 4.00 pm Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug

 

Cyfarfodydd y dyfodol:       

 

26th Chwefror 2020- 4.00 pm Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug

 

10th Mehefin 2020 - 4.00 pm Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug

 

 

Cofnodion:

Dydd Mercher 26 Chwefror 2020  4pm    Ystafell Delyn, Neuadd y Sir, yr Wyddgrug

Dydd Mercher 10 Mehefin 2020   4pm    Ystafell Delyn, Neuadd y Sir, yr Wyddgrug

 

Byddai angen pwysleisio i gynrychiolwyr athrawon y byddai cyfarfodydd y pwyllgor yn dechrau am 4pm o hyn ymlaen.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5:45pm.