Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn
Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem | |
---|---|---|
Croesco a chyflwyniadau Cofnodion: Yn dilyn cyfnod o fyfyrio ar y dechrau, croesawodd DM y cydweithwyr i’r cyfarfod. Cytunwyd parhau i gynnal y cyfarfod er gwybodaeth gan nad oedd nifer yr aelodau yn gwneud cworwm. Oherwydd bod cylch gorchwyl y pwyllgor wedi dyddio, cynigodd CH y dylid creu drafft diwygiedig yn y cyfarfod nesaf. Dylid rhoi ystyriaeth hefyd i amseriad y cyfarfodydd yn y dyfodol er mwyn cynorthwyo ysgolion â’u costau athrawon llanw a gofyn i Ffederasiynau Penaethiaid enwebu cynrychiolwyr athrawon.
Cam Gweithredu: Cynnig diwygio’r cylch gorchwyl yn y cyfarfod nesaf. Nodi bod y cyfarfod nesaf i ddechrau am 4.00pm yn Ysgol Maes Garmon a rota lleoliadau rhwng y Cyngor ac ysgolion.
|
||
Datgan Cysylltiad: Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol
Cofnodion: Dim i’w hadrodd. |
||
Cymeradwyo a chadarnhau bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2018.
Materion yn codi:
Oherwydd bod Phil Lord yn dychwelyd i’w rôl gyda GWE, dywedodd CH mai hi fyddai’n ymgymryd â rôl Ymgynghorydd Statudol y Pwyllgor yn y cyfamser. Yr Ymgynghorydd Gwella Ysgolion fyddai’n cyflawni’r rôl ar ôl i’r Awdurdod benodi un.
Tudalen 3 – CH i fynd ar drywydd unrhyw adroddiadau Estyn sy'n amlygu cydymffurfedd â gofynion statudol ar gyfer addoli ar y cyd. Dywedodd RW ei bod yn ceisio eglurhad gan Estyn yngl?n â’u meini prawf ar gyfer dyfarniadau.
Tudalen 4 – nodwyd bod yr adnoddau lefel A ar gael yn Saesneg a Chymraeg.
Tudalen 5 – CH i weithredu ar ddatrysiadau yn a) a b).
Cam Gweithredu:
Tudalen 6 – dywedodd RW y byddai unrhyw gynrychiolaeth cred ehangach ar y pwyllgor o fewn y canllawiau statudol crefyddol.
|
||
Drafft o Adroddiad Blynyddol CYSAG 2017-18 PDF 320 KB Ystyried adroddiad i gymeradwyo drafft o Adroddiad Blynyddol CYSAG.
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad hwn er nad oedd nifer o’r aelodau wedi derbyn copïau cyflawn gyda’r hysbysiad cyfarfod.
Cam Gweithredu: CH: adroddiad llawn i’w ddwyn ymlaen yn y cyfarfod nesaf.
|
||
Dadansoddi adroddiadau arolygu Cofnodion: Cadarnhaodd AB bod adolygiad o adroddiadau archwilio diweddar yn dangos bod ysgolion yn cyfeirio at gredoau ysbrydol, moesegol a moesol disgyblion ac felly byddai CYSAG yn hyderus bod ysgolion yn cyflawni eu gofynion statudol.
Cam Gweithredu. Adroddiad i'w ddwyn ymlaen yn y cyfarfod nesaf.
|
||
Y newyddion diweddaraf am Gwricwlwm Cymru - Dan arweiniad Alison Butler ar ran Claire Homard Cael y newyddion diweddaraf am gynnydd dysgu Addysg Grefyddol yn y cwricwlwm newydd a chael adborth. Cofnodion: Yn dilyn cyflwyniad gan AC, ceisiwyd adborth gan unigolion yngl?n â’r meysydd dysgu Dyniaethau arfaethedig. Anogodd RW y gr?p i drafod a rhoi adborth am themâu allweddol yn ymgynghoriad presennol Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am ymateb terfynol erbyn 16 Tachwedd. Trafodaeth gr?p am hyfforddi llywodraethwyr ar y cwricwlwm newydd; monitro cydymffurfedd mewn ysgolion.
|
||
Cais gan Lywodraeth Cymru am Gwestiynau ac Adborth ar Weithdy CYSAG I’w drafod gan y Pwyllgor
Cofnodion: Wedi’i ohirio
|
||
WASACRE (a) Dderbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y gymdeithas yn Llangefni 6th Gorffennaf 2018 (b) Cytuno ar bresenoldeb yng nghyfarfod nesaf Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru ar 20 Tachwedd, Ysgol Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg
Cofnodion: Nodwyd nad oedd cofnodion CCYSAGC wedi cael eu cynnwys gyda’r hysbysiad cyfarfod chwaith.
Cam Gweithredu:
CH i godi’r mater gyda’r Adran Gwasanaethau Pwyllgorau. Anfonir ymddiheuriadau gan y gr?p ar gyfer cyfarfod 20 Tachwedd
|
||
Cyfarfodydd y dyfodol Cynhelir cyfarfodydd yn y dyfodol am 2.00 pm ddydd
Dydd Mercher, 20 Chwefror 2019 Dydd Mercher, 12 Mehefin 2019 Cofnodion: Dydd Mercher 20 Chwefror 2019 – 4.00pm yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, i’w gadarnhau
Dydd Mercher 12 Mehefin 2019
Daeth y cyfarfod i ben am 4.20pm |