Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad: Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol

Caiff Aelodau eu hatgoffa fod rhaid iddynt ddatgan bodolaeth a natur y cysylltiad personol y maent yn ei ddatgan.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

    

2.

Cofnodion pdf icon PDF 62 KB

Cymeradwyo a chadarnhau bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir.

Cofnodion:

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf (5 Gorffennaf 2017)

 

RW   Gofynnwyd am ddiwygiad i newid sut caiff presenoldeb ei adrodd.   Mae RW yn enwebai i’r pwyllgor yn lle Sue Jones a dylid ei nodi dan y rhestr Enwadau Crefyddol.

 

Penderfyniadau

(a)       Bod diwygiad RW yn cael ei gytuno;

(b)       Gyda’r diwygiad yn (a), bod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

3.

Drafft o Adroddiad Blynyddol CYSAG 2016-17 pdf icon PDF 257 KB

Ystyried adroddiad i gymeradwyo drafft o Adroddiad Blynyddol CYSAG.

 

Cofnodion:

DM   Hapus iawn gyda’r ddogfen a diolchodd i PL am y gwaith a wnaed i ddrafftio’r adroddiad.

 

PL     Mae angen dau gywiriad:

·      Dylai’r ail baragraff ar dudalen 4 yr adroddiad orffen gyda “2016/17” ac nid “2015/16”;

·      Dylai’r chweched paragraff hefyd ar dudalen 4 gynnwys y gair “cynradd” rhwng “ysgolion” ac “wedi”, fel bod y frawddeg yn dechrau “Mae gr?p bach o ysgolion cynradd wedi cyfarfod...”

CB    Yn falch bod canlyniadau TGAU yn well na’r cyfartaledd cenedlaethol a dylid ceisio adeiladu ar y llwyddiant hwn.

 

Penderfyniadau

(a)  Adroddiad drafft wedi’i dderbyn.

 

4.

Dadansoddi adroddiadau arolygu pdf icon PDF 65 KB

I dderbyn a dadansoddi Adroddiadau Arolygon diweddar Estyn.

Cofnodion:

DM   Unwaith eto, diolchodd i PL am ei waith wrth ddadansoddi’r adroddiadau.

 

PL     Mae angen un cywiriad:

·      Tudalen gyntaf, uwchben y tabl, mae’n nodi “4 ysgol” ond dim ond tair sydd wedi’u rhestru yn y tabl.

PL     Crynhoi’r dadansoddiad.

          Holodd PL a ddylid gofyn i Estyn egluro pam nad oes sôn am ddatblygiad Ysbrydol, Moesol, Cymdeithasol a Diwylliannol yn Ysgol Pen Coch, y Fflint.

 

PC    Holodd pam nad oedd sylwadau negyddol, a dywedodd PL fod Estyn yn cynnwys sylwadau lle bo angen yn unig, felly mae hepgor sylwadau negyddol yn dda.

 

PC    Dylid llongyfarch Ysgol Pen Coch am eu hadroddiad

 

CB    Mae’n dda gweld bod ysgol gynradd yr Hybarch Edward Morgan yn defnyddio’r llyfrgell sydd wedi’i hadleoli.

 

Penderfyniadau

(a)  Derbyn yr adroddiad;

(b)  Bod PL yn holi Estyn o ran y sylw am "Ysbrydol, Moesol, Cymdeithasol a Diwylliannol" ar gyfer Ysgol Pen Coch

 

5.

Ymateb i lythyr CYSAG i ysgolion pdf icon PDF 57 KB

Derbyn adroddiad ynghylch ymateb ysgolion i’r llythyr monitro a anfonwyd i bob ysgol yn Sir Ddinbych

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PL     Mae’n egluro’r penderfyniad yng nghyfarfod diwethaf CYSAG i anfon llythyr i ysgolion i hyrwyddo dyletswyddau statudol ysgolion yng ngoleuni cwricwlwm newydd o 2021. Ymddiheurwyd am anfon y llythyr at ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir.

RW   Roedd ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir yn ansicr pam roeddent wedi cael y llythyr.  Gofynnwyd am ddiwygiad hefyd gan fod y llythyr yn cyfeirio at “Conwy” yn hytrach na “Sir y Fflint”.

PL     Roedd y llythyr gwreiddiol a anfonwyd i ysgolion Sir y Fflint yn cyfeirio at Sir y Fflint.  Cafodd yr un llythyr ei anfon i ysgolion Conwy, a chafodd ei atodi mewn camgymeriad.  Ymddiheurwyd am hyn.

PL     Ymddiheurwyd hefyd nad oedd yr ail lythyr i ysgolion uwchradd wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg oherwydd ymrwymiadau gwyliau blynyddol.  Roedd ymatebion i’r llythyr yn dangos y bydd nifer y disgyblion sy’n cael eu cofrestru ar gyfer y cwrs llawn yn haneru. Gofynnwyd am wybodaeth Addysg Grefyddol Cyfnod Allweddol 4 benodol.  Ymatebodd pedair ysgol:

·      Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug – (Yn darparu Addysg Grefyddol fel y bwriadwyd ac o fewn y terfyn amser gofynnol);

·      Ysgol Uwchradd Argoed, Mynydd Isa – Yn cael Addysg Grefyddol drwy Fagloriaeth Cymru (gwnaeth 100 o ddisgyblion ddilyn y cwrs byr yn haf 2017);

·      Ysgol Uwchradd Alun, yr Wyddgrug – nid yw’n darparu cyrsiau llawn na chyrsiau byr;

·      Ysgol Uwchradd Penarlâg, Penarlâg - roedd 30 o ddisgyblion yn cael addysg cwrs llawn mewn 2 awr yr wythnos, roedd blwyddyn 10 i gyd yn cael gwersi bob pythefnos i gynnwys deunydd TGAU gyda’r posibilrwydd o ddisgyblion yn cael eu cofrestru ar gyfer arholiad.  Nid oedd disgyblion Blwyddyn 11 band A yn cael gwers Addysg Grefyddol bellach ond maen nhw’n cael diwrnodau penodol.

PL     Roedd Kirsty Williams AC, Aelod Cabinet Addysg, yn gofyn am dystiolaeth benodol o ran yr effaith negyddol mae mesurau adrodd wedi’i chael ar Addysg Grefyddol statudol CA4.

LO    Mae rhai astudiaethau crefyddol yn mabwysiadu elfennau o Fagloriaeth Cymru ond nid yw’n cael ei werthfawrogi.

VB    Dylid croesawu’r mesurau newydd.  Roedd lefel 2 a sgôr pwyntiau wedi’i chapio yn bwysig a gall Addysg Grefyddol gyfrannu ato.

PL     Nid oes terfyn amser wedi’i osod ar gyfer ymatebion i’r llythyr a anfonwyd at ysgolion uwchradd.  Roedd Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru (CCYSAGC) yn pryderu am y duedd yn genedlaethol nid dim ond yn lleol.   Gellir anfon enghreifftiau penodol at gyfarfodydd CCYSAGC a PYCAG ym mis Tachwedd.

PL     Nid oedd gan Estyn bryderon am Addysg Grefyddol yn cael ei haddysgu gan rai nad ydynt yn arbenigwyr.  Mae cyfleoedd i ymgysylltu Addysg Grefyddol mewn fformat arall ond mae pryderon am golli arholiadau TGAU.

LO    Bydd disgyblion yn cael uchafswm o wyth awr eleni.  Mae wedi cynnal un sesiwn hwy eleni sy’n gysylltiedig â Saesneg, a oedd yn llwyddiannus a bydd yn ceisio ailadrodd hyn ar Etheg a Moeseg.

PL     Mae cyfleoedd drwy Fagloriaeth Cymru, fodd bynnag bydd yn lleihau nifer sy’n dilyn TGAU.

VB    Posibilrwydd o ymgysylltu byrddau arholi i greu arholiad hyfyw yn unol ag adroddiad Donaldson.

PL     Cynhaliwyd trafodaethau gyda CCYSAGC a CBAC.

 

Penderfyniadau  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

EITEM YCHWANEGOL AR AGENDA - HOLIADUR ESTYN

Cofnodion:

 

PL     Mae Estyn wedi gofyn i’r Cadeirydd lenwi holiadur o ran Addysg Grefyddol mewn ysgolion.

 

Gr?p yn trafod cwestiynau ac ymatebion posibl.

Q1.     Pa gyswllt rheolaidd mae eich CYSAG yn ei gael gydag ysgolion cynradd ac uwchradd yn eich ardal?

A.        Ysgolion yn cael eu cynrychioli ar CYSAG.  Mae Rhaglen Ymarferwyr Arweiniol wedi cael cyflwyniadau.  Cyfarfodydd yn cael eu cynnal mewn ysgolion.  Adroddiad Blynyddol yn cael ei ddosbarthu.  Holiaduron wedi’u hanfon i ysgolion.

Q2.     Pa gefnogaeth a chanllawiau rydych yn eu darparu i staff ysgolion?

A.        Ychydig iawn o gefnogaeth uniongyrchol, tueddu i ddilyn i fyny ar gais.  Presenoldeb mewn cyfarfodydd fforwm, gweithgor cydweithredu ac mae cynrychiolaeth Awdurdod Lleol yn y Rhaglen Ymarferwyr Arweiniol.

Q3.     Ydych chi’n teimlo bod gan athrawon ddigon o fynediad i hyfforddiant a chefnogaeth i’w galluogi i addysgu Addysg Grefyddol yn effeithiol?

A.        Gall ysgolion gael mynediad allanol ond ni chânt eu hyrwyddo gan CYSAG.

Q4.     Ydych chi’n teimlo bod unrhyw faterion o ran addysgu Addysg Grefyddol gan bobl nad ydynt yn arbenigwyr mewn ysgolion uwchradd?  Sut mae hyn yn effeithio ar safonau disgyblion?

A.        Na.  Roedd adroddiad Estyn yn 2012 yn nodi nad yw pobl nad ydynt yn arbenigwyr yn cael effaith andwyol ar Gyfnod Allweddol 4.

Q5.     Ydych chi’n monitro safonau a darpariaeth ar gyfer Addysg Grefyddol mewn ysgolion lleol?  Os felly, ym mha ffyrdd a pha mor aml?  Beth yw eich canfyddiadau?

A.        Caiff adroddiadau Estyn eu harchwilio; dadansoddiad o ganlyniadau arholiadau tymor yr haf; holiaduron yn cael eu hanfon i ysgolion.

Q6.     Ydych chi wedi rhoi ystyriaeth i effaith Dyfodol Llwyddiannus o ran addysgu Addysg Grefyddol mewn ysgolion?  Ydych chi’n rhagweld unrhyw faterion os caiff Addysg Grefyddol ei addysgu fel rhan o gwricwlwm Dyniaethau ehangach yn CA3?

A.        Cafwyd cyflwyniad gan GwE ac mae CCYSAGC wedi darparu diweddariadau i Rwydweithiau Arloesi.

Q7.     Yn gyffredinol, pa mor dda ydych chi’n teimlo mae Addysg Grefyddol yn cael ei addysgu mewn ysgolion ar hyn o bryd?  Ydych chi’n teimlo bod unrhyw agwedd benodol ar Addysg Grefyddol yn cael ei haddysgu’n dda neu’n wael yn amlach?   Ar ba dystiolaeth rydych chi’n seilio’r farn hon?

A.        Mae gwybodaeth gyffredinol yn cael ei hyrwyddo’n dda, gellid gwella ymgysylltu ar gynnwys allweddol.  Gellir defnyddio canlyniadau arholiadau a niferoedd disgyblion sy’n eu sefyll fel tystiolaeth.

Q8.     Ydych chi’n teimlo bod safonau Addysg Grefyddol mewn ysgolion wedi gwella neu waethygu dros y 5 mlynedd diwethaf yn gyffredinol?  Ym mha ffyrdd a pham?

A.        (trafodaeth gyffredinol)

Q9.     Yn eich barn chi, beth yw’r prif faterion sy’n wynebu ysgolion?

A.        Sôn am rai ymatebion gan ysgolion a llythyr at Kirsty Williams AC.

Q10.  Oes yna unrhyw wybodaeth arall yr hoffech ei rhannu gyda ni?

A.        Na.

 

Penderfyniadau

(a)  PL i gysylltu â DM i gadarnhau ymatebion;

(b)  PL i gyflwyno ymateb i Estyn.

 

7.

Materion Llywodraethu pdf icon PDF 58 KB

Derbyn yr ymateb ynghylch llythyr a anfonwyd gan CYSAG ynghylch Addoli ar y Cyd.

Trafod y pryderon ynghylch manyleb TGAU newydd. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PL     Diolch i RW am ysgrifennu llythyr at Kirsty Williams AC ar ran CYSAG Sir y Fflint o ran addoli ar y cyd.  Nid yw’r ymateb gan Miss Williams yn dweud llawer.  Y safbwynt presennol yw cadw’r status quo gyda Kirsty Williams yn amharod i adolygu tan y bydd newidiadau statudol yn 2021.

 

PL     Ni chafwyd ymateb gan Kirsty Williams AC i’r ail lythyr a mynegwyd pryderon yng nghyfarfod yr Ymarferwyr Arweiniol.  Roedd gan CCYSAGC ddiddordeb yn yr ymateb gan fod newid o ran manyleb yn troi disgyblion i ffwrdd, gyda llawer mwy ohono yn ddiwinyddol yn hytrach na bod yn berthnasol i’r byd presennol.

 

RW   Ailadrodd bod Kirsty Williams yn bwriadu cadw’r status quo.

 

8.

CYSAG a chydweithio rhwng ysgolion

Monitro a chynllunio deunyddiau sydd ar gael i ysgolion cynradd. 

Cofnodion:

PL     Darparwyd crynodeb o’r cyflwyniad.

          Gwnaeth nifer o ysgolion gyfarfod gyda chanolbwynt ar gynllunio, datblygu cynllun tymor canolig un dudalen.  Cafwyd adborth a chynhyrchwyd taflenni monitro hefyd.  Mae ardal wedi’i chreu ar wefan HWB, lle bydd papurau ar gael pan fyddant wedi’u cyfieithu.

 

Penderfyniadau

(a)  PL i gyflwyno ardal HWB yn y cyfarfod nesaf.

 

9.

WASACRE (Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru) pdf icon PDF 354 KB

(i)            I dderbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas 

(ii)          I dderbyn diweddariad gan Lywodraeth Cymru ynghylch y cwricwlwm newydd.

(iii)         Cytuno ar bresenoldeb yn y CCYSAGC nesaf, ar 18 Tachwedd 2017 yn Sir Gaerfyrddin.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

DM   Cofnodion yn awgrymu cyfarfod CCYSAGC cadarnhaol iawn.

PL     Mae Gill Vaisey wedi cynhyrchu adroddiad gyda’r teitl “Guidance on managing the Right of Withdrawal from religious Education” a fydd yn ddogfen CCYSAGC.

          Mae rhai o’r eitemau a drafodwyd heddiw eisoes wedi’u hadrodd wrth Estyn.

      Nid oes llawer o gynnwys ar y cwricwlwm o ran dyluniad yn y llythyr gan Manon Jones.  Bydd CCYSAGC a’r Panel Ymgynghorol Cenedlaethol Addysg Grefyddol (PYCAG) yn cyflwyno canllawiau i’r Rhwydwaith Arloesi.

 

10.

Cyfarfodydd yn y dyfodol

Bydd cyfarfodydd yn y dyfodol yn cael eu cynnal am 2pm ar y dyddiadau canlynol:

 

Dydd Mercher, 21 Chwefror 2018

Dydd Mercher, 13 Mehefin 2018

Cofnodion:

·         2:00pm, dydd Mercher 21 Chwefror 2018 yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Nannerch;

·         2:00pm, dydd Mercher 13 Mehefin 2018 yn Ysgol Eglwysig Pentref Penarlâg.

 

DM   Rhoddwyd ymddiheuriadau am beidio dechrau’r cyfarfod gyda Myfyrdod Tawel.  Diolchir i bawb am eu presenoldeb.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 3:30pm