Rhaglen a chofnodion
Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad: Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol CaiffAelodau eu hatgoffa fod rhaid iddynt ddatgan bodolaeth a natur y cysylltiad personol y maent yn ei ddatgan. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: JD ynghylch ei gwaith cyfredol ar ddysgu proffesiynol ar eitem 5 ar yr agenda. Aelodau Etholedig a oedd yn llywodraethwyr ysgol. |
|
Cymeradwyo a chadarnhau bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir ar 7 Hydref 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwydfel cofnod cywir. Dim materion yn codi |
|
Aelodaeth a chylch gorchwyl ar gyfer y Cyngor Cynghorol Sefydlog newydd Derbyndiweddariad llafar yn y cyfarfod. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd KB bod canllaw Llywodraeth Cymru ddim ar gael eto ar y trefniadau cylch gorchwyl ar gyfer y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog newydd. Efallai bydd Aelodau yn dymuno rhoi sylw ar unrhyw newidiadau arfaethedig i’r trefniadau gwaith y pwyllgor megis cyfnodau mewn swydd a threfn cadeirydd. Efallai bydd rhaid ystyried trefniadau ynghylch unrhyw newidiadau i bwyllgor cyfansoddiad y Cyngor ar nifer yr aelodau etholedig.
Cytunwyd: Aelodau i aros tan fydd canllaw ar gael ar aelodaeth newydd cyn ystyried unrhyw newidiadau i drefniadau gwaith. Dywedodd VB yr addawyd y canllaw erbyn diwedd y flwyddyn ond y gallai fod yn ddefnyddiol cael cyflwyniad gan Gydlynydd Dyneiddiwr Cymru sydd wedi bod yn cyfarfod gyda CYSAG eraill.
Cytunwyd: i anfon gwahoddiad am gyfarfod i’r Cydlynydd Dyneiddiwr Cymru. Cynigiodd y Cynghorydd CB bod angen rhoi ystyriaeth i grwpiau/ cymdeithasau eraill. Dywedodd VB ei bod yn edrych ar ddata gan ystadegau cenedlaethol i hysbysu’r math o gynrychioliad sydd yn adlewyrchu orau’r ardal.
|
|
Dysgu Proffesiynol I dderbyn trosolwg ar y Dîm Datblygu Dysgu Proffesiynol mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moesau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd VB bod Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru (CCYSAGC) yn gweithio ar adnoddau datblygu proffesiynol RVE ar ran Llywodraeth Cymru, gan geisio am ddatganiadau o ddiddordeb gan 10 gyfranogwyr i ymuno â’r gweithgor. Adnoddau dwyieithog a ddatblygwyd yn Nhymor y Gwanwyn ac wedi’u dosbarthu drwy HwB.
Mewn ymateb i’r Cynghorydd CB, dywedodd VB bod y cyfranogwyr yn adnodd ychwanegol ar draws Cymru a bydd yn cael eu cefnogi gan gynghorwyr Addysg Grefyddol. Tra bod hyn yn gadarnhaol bod cyllid ychwanegol ar gael, bydd y gweithgor yn cael ei fonitro gan CCCYSAGC a fydd eisiau gwneud cais am ragor o gyllid yn ôl yr angen.
Cadarnhaodd JD bod y dull yn ychwanegol i gyfranogwyr yr Eglwys yng Nghymru sydd hefyd yn datblygu adnoddau o’r fframwaith ac yn cydnabod yr adnoddau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Roedd yn annog cyfranogwyr i ymuno â’r gr?p fel cyfle datblygu proffesiynol dda.
|
|
Cynhadledd Maes Llafur y Cytunwyd Arno 2022 Derbyn cyflwyniad gan Vicky Barlow, Uwch Reolwr Gwella Ysgolion, Portffolio Addysg ac Ieuenctid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhaodd mai cyngor CCYSAGC oedd mabwysiadu’r maes llafur erbyn mis Medi 2022 gyda’r Panel Ymgynghori Cenedlaethol i Addysg Grefyddol yn chwilio am ganllaw ar gyfer CYSAG at sut i roi’r maes llafur gyda’i gilydd. Cynigiodd VB ein bod yn dechrau gyda gweithgor i baratoi drafft, ar ôl y cyfarfod ar 9 Chwefror gyda dyddiad pellach i’w gymeradwyo,
Cytunwyd i agor y gynhadledd yn dilyn y cyfarfod ar 9 Chwefror 2022.
|
|
Autumn term WASACRE meeting (23 Tachwedd 2021) Derbyndiweddariad llafar yn y cyfarfod gan Vicky Barlow, Uwch Reolwr Gwella Ysgolion, Portffolio Addysg ac Ieuenctid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nododd VB er bod y rhan fwyaf o waith rheolaidd y Pwyllgor megis derbyn adroddiadau Estyn a data perfformiad ysgol heb fod yn bosibl yn ddiweddar, diolchodd i’r aelodau oedd wedi cynrychioli’r awdurdod yng nghynhadledd CCYSAGC, Cynghorwyr DM; MP a CM.
Ar nodyn penodol yn y Gynhadledd oedd myfyrdod y Cadeirydd a roddodd ddechrau cadarnhaol i’r cyfarfod. Cafwyd gyflwyniadau gan Gonsortia rhanbarthol, er eu bod wedi dangos gwahanol ffyrdd o wneud pethau, roeddynt yn falch o adrodd o ranbarth y Gogledd bod CYSAG lleol yn parhau yn weithredol.
|
|
Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG 2020 - 2021 Derbyn yr Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer CYSAG 2020 – 2021 yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhaodd VB ei fod dal yn ofyniad i gynhyrchu adroddiad blynyddol i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd y flwyddyn.
Cam Gweithredu: VB i baratoi drafft terfynol ar aelodaeth a gwaith CYSAG eleni a’i anfon i aelodau i gael unrhyw sylwadau drwy’r Cadeirydd.
Cam Gweithredu: Cadeirydd i ysgrifennu’r Rhagair i’r Adroddiad.
|
|
Gohebiaeth Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Llythyr gan CCYSAGC yn cynghori ar gyfleoedd datblygu proffesiynol. Dim mater arall. |
|
Cyfarfodydd yn y dyfodol Yn y dyfodol bydd cyfarfodydd CYSAG SIR Y FLINT yn cael eu cynnal am 4.00 pm am
Dydd Mercher 9th Chwefror 2022 Dydd Mercher 8th Mehefin 2022
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynhelir cyfarfodydd CYSAG Sir y Fflint yn y dyfodol am 4.00pm:
Dydd Mercher 9 Chwefror 2022 Dydd Mercher 8 Mehefin 2022
Daeth y cyfarfod i ben am 16.33
|