Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn
Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Penodi Caderydd ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Cofnodion: Penodi Chris Bithell fel Cadeirydd
|
|
Penodi Is-Gadeirydd Penodi Is-gadeirydd ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Cofnodion: Penodi Catherine McCormack fel Is-Gadeirydd
|
|
CROESO A CHYFLWYNIADAU Cafwyd diweddariad gan VP ar aelodaeth: Cyflwynwyd AM fel aelod cyfetholedig, CM fel Prif Gynrychiolydd Uwchradd a JM fel cynrychiolydd o’r Eglwys Gatholig.
Gofynnwyd am enwebiadau gan Ffederasiwn Penaethiaid Cynradd ac mae’r Parch Simon Percy o Ysgol Gynradd Golftyn wedi cael ei enwebu fel cynrychiolydd ysgolion cynradd.
Mae gwahoddiad wedi cael ei ymestyn hefyd i Wendy White yn ei chymhwysedd fel Cyfarwyddwr Addysg ar gyfer Esgobaeth Gatholig Wrecsam yn dilyn ymddeoliad cyn ddeiliad y swydd.
Cynghorodd RW fod Sue Jones yn rhoi’r gorau iddi 18 mis yn ôl ac ni ddylai fod ar y rhestr erbyn hyn.Yna gwahoddwyd RW i chwilio am enwebiad newydd ar ran CYSAG.
|
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Y Cynghorwyr Janet Axworthy, Paul Cunningham a Gareth Wyn Jones |
|
Datgan Cysylltiad: Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol Caiff Aelodau eu hatgoffa fod rhaid iddynt ddatgan bodolaeth a natur y cysylltiad personol y maent yn ei ddatgan. Cofnodion: Dim |
|
Cymeradwyo a chadarnhau bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir. Cofnodion: Cytunwyd ar y cofnodion o gyfarfod 12 Mehefin 2019 fel cofnod cywir o’r cyfarfod blaenorol.
Materion sy'n codi:
Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.
|
|
Diweddariad Adroddiadau Arolygu Estyn PDF 71 KB Cofnodion: Cafwyd crynodeb gan VB ar yr adroddiadau archwiliad o dymor hydref 2019. Bydd yn parhau i roi adborth i Estyn yngl?n â’r diffyg enghreifftiau da wedi’u nodi mewn adroddiadau yngl?n ag Addysg Grefyddol.
Gwahoddiad i Ysgol y Foel i’r cyfarfod nesaf ynghylch yr adborth cadarnhaol a gafodd yr ysgol yn ei archwiliad Estyn diweddaraf ar gyfer Addysg Grefyddol.
Ysgrifennir at yr ysgolion yn eu llongyfarch ar y sylwadau cadarnhaol yn eu hadroddiadau archwilio mewn perthynas ag Addysg Grefyddol ac Addoli Ar Y Cyd. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Addysg Grefyddol I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar gan yr Uwch-Reolwr, Systemau Gwella Ysgolion. Cofnodion: Cafwyd diweddariad ar lafar gan VB. Mae’r teitl newydd ar gyfer Addysg Grefyddol (Crefydd, Gwerthoedd a Moesau) yn achosi problemau ac mae dal posibilrwydd i drafod hynny. Rydym ar hyn o bryd yn disgwyl am fframwaith ddrafft ar gyfer Addysg Grefyddol.
Mae Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru wedi gofyn am Gyfarfod Arbennig i gael ei gynnal ym mhob awdurdod i roi adborth i Lywodraeth Cymru. Mae CYSAG Wrecsam yn cynnal eu cyfarfod ar 26/03/20 ac wedi ymestyn cynnig agored i bobl ymuno ar gyfer trafodaeth ar y cyd.VB i ddosbarthu manylion i weld os gall rhywun fynychu.VB i ysgrifennu at CYSAG Wrecsam yn diolch iddyn nhw am y gwahoddiad. |
|
CYMDEITHAS CYNGHORAU YMGYNGHOROL SEFYDLOG ADDYSG GREFYDDOL CYMRU · I dderbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas ar 26 Mawrth 2019. http://www.wasacre.org.uk/meetings.html
· Cytuno ar bresenoldeb yng nghyfarfod nesaf CCYSAGC ar 17 Mawrth 2020 ym Merthyr Tudful Cofnodion: Cafwyd diweddariad ar lafar gan VB ar y prif bwyntiau o Gyfarfod Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru diwethaf:
· Adnoddau ar gael i’r holl CYSAGau · Y gobaith yw bydd y CYSAGau yn mabwysiadu’r Fframwaith AG ar y cyd â’r cwricwlwm newydd er nad oes raid iddyn nhw a gallan nhw ysgrifennu cwricwlwm/maes llafur eu hunain.Byddai hyn fodd bynnag yn golygu cyfanswm sylweddol o amser ac adnoddau i’w gyflawni. · Mae Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru wedi ysgrifennu at Brif Swyddogion Addysg yngl?n â diffyg cydymffurfiad â gofynion Addysg Grefyddol.Mae hyn wedi cael ei godi gyda phenaethiaid uwchradd mewn cyfarfod diweddar o’r Fforwm Penaethiaid.VB i ddod a gwybodaeth bellach i’r cyfarfod nesaf yngl?n â’r sefyllfa yn Ysgolion Sir y Fflint ynghylch cydymffurfiad â’r gofynion hyn.
VB i fynychu’r cyfarfod Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru nesaf ar 17 Mawrth 2020 ym Merthyr Tudful gan roi gwybod i’r gr?p o ddyddiad a lleoliad ar gyfer cyfarfod tymor yr haf yn syth wedyn fel bod cyn cymaint o gynrychiolwyr ag sy’n bosib yn gallu mynychu.
Mae Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru wedi gofyn am wirfoddolwyr i’w Pwyllgor Gwaith ac am Is-Gadeirydd.Cynigodd VB ei henw ymlaen ac fe gymeradwywyd hynny gan y cyfarfod.
|
|
Adroddiad Blynyddol ar gyfer CYSAG 2019-2020 I dderbyn adroddiad yn y cyfarfod gan Vicky Barlow, Uwch Reolwr Gwella Ysgolion, Addysg a Phortffolio Ieuenctid
Cofnodion: Cynghorodd VB y cyfarfod ei bod wedi drafftio cymaint ag y gallai hyd yma (dosbarthwyd copi).Gofynnir am adborth erbyn dydd Gwener, 6 Mawrth 2020 ac mi fydd yna’n e-bostio’r fersiwn terfynol. VB i lunio drafft o’r llythyr gan y Cadeirydd i gael ei gynnwys. Bydd yn ei anfon at y Cadeirydd yfory i’w gadarnhau.
|
|
Gohebiaeth: Syniadau AG:Derbyniwyd gan Rheinallt Thomas, anfonwyd ar ran REMW. Ffeiliau PDF ar Syniadau AG ar gyfer 3 tymor y flwyddyn academaidd hon yn Saesneg a Chymraeg. Copïau wedi cael eu hanfon i ysgolion.
Cofnodion: Syniadau AG adderbyniwyd gan Rheinallt Thomas ar ran REMW. Ffeiliau PDF o Syniadau AG ar gyfer 3 tymor y flwyddyn academaidd hon yn Gymraeg a Saesneg. Copïau wedi’u hanfon at ysgolion.Copïau yw darparu i CYSAG trwy e-bost.
|
|
Cyfarfodydd y dyfodol Dyddiad y cyfarfod nesaf:
10th Mehefin 2020- 4.00 pm Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug
Cofnodion: Dydd Mercher 10 Mehefin 2020 4pm |