Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn
Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso a Chyflwyniadau |
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Y Cynghorydd Paul Cunningham Y Cynghorydd Ian Roberts Y Cynghorydd Colin Legg
|
|
Datgan Cysylltiad: Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol Pwrpas: Caiff Aelodau eu hatgoffa fod rhaid iddynt ddatgan bodolaeth a natur y cysylltiad personol y maent yn ei ddatgan.
Cofnodion: Dim
|
|
Pwrpas: Cymeradwyo a llofnodi fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd blaenorol ar 10 Hydref 2019 a 20 Chwefror 2019. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Materion yn codi - Gwnaed cais i gynnwys cofrestr presenoldeb am y flwyddyn wrth anfon y rhaglen. Gofynnwyd hefyd am gael taflen gofrestru yn y cyfarfod nesaf. Gwnaed cais i anfon llythyr at aelodau a oedd wedi methu dau gyfarfod, ac anfon e-bost at bob aelod i roi gwybod am amser newydd y cyfarfodydd (VB i ymgymryd â hyn).
|
|
Penodi Cadeirydd Pwrpas: I benodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn Cofnodion: Yn unol â’r trefniadau a bennwyd ym mhwyntiau 4-4.5 yng Nghylch Gorchwyl CYSAG, cytunwyd i benodi cadeirydd ac is-gadeirydd yn y flwyddyn academaidd newydd. |
|
Dadansoddi adroddiadau Arolygu Cofnodion: Rhoes VB grynodeb o’r adroddiadau arolygu.
|
|
Cwricwlwm Newydd i Gymru - Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau PDF 2 MB Pwrpas: Derbyn trosolwg o Faes Dysgu a Phrofiad Dyniaethau ar gyfer y cwricwlwm newydd sy’n agored i ymgynghoriad o 20 Ebrill – 19 Gorffennaf 2019. Cofnodion: Rhoes VB fraslun o Faes Dysgu a Phrofiad Dyniaethau ar gyfer y cwricwlwm newydd, a fyddai’n destun ymgynghoriad rhwng 30 Ebrill a 19 Gorffennaf 2019. Byddai VB yn llunio ymateb drafft i’r ymgynghoriad ar ran CYSAG.
|
|
CCYSAGC
Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2019.
Daethpwyd i gytundeb yngl?n â’r cynrychiolwyr yng nghyfarfod nesaf y Gymdeithas yng Nghonwy ar 28 Mehefin 2019. Byddai VB yn mynd i’r cyfarfod, a byddai DM yn cadarnhau y gallai yntau fynd hefyd.
Byddai VB yn holi pa bryd y deuai tro CYSAG Sir y Fflint i gynnal y cyfarfod (cynhelid y cyfarfod yng ngogledd Cymru yn nhymor yr haf).
Dywedodd DM fod y Gymdeithas wedi gwneud cais am wybodaeth gan Gyngor Sir y Fflint a bod y Cyngor heb ymateb. Byddai VB yn ymchwilio i hynny. |
|
Gohebiaeth Pwrpas: Derbyn adroddiad ar lafar gan Vicky Barlow yn ystod y cyfarfod, gyda manylion yr enwebiadau ar gyfer Is-Gadeirydd CCYSAGC.
Cofnodion: Rhoes VB adroddiad ar lafar gan gynnwys manylion yr enwebiadau ar gyfer swydd Is-gadeirydd Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru.
Cynigiodd RW y dylai VB benderfynu ar y mater ar ran y Pwyllgor. Eiliodd DM y cynnig hwnnw.
|
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Byddai VB yn delio â’r unigolyn a oedd wedi mynegi diddordeb mewn ymuno â CYSAG.
|
|
Cyfarfodydd y dyfodol
Dyddiad y cyfarfod nesaf: 9th Hydref 2019 - 4.00 pm Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug
Cyfarfodydd y dyfodol:
26th Chwefror 2020- 4.00 pm Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug
10th Mehefin 2020 - 4.00 pm Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug
Cofnodion: Dydd Mercher 26 Chwefror 2020 4pm Ystafell Delyn, Neuadd y Sir, yr Wyddgrug Dydd Mercher 10 Mehefin 2020 4pm Ystafell Delyn, Neuadd y Sir, yr Wyddgrug
Byddai angen pwysleisio i gynrychiolwyr athrawon y byddai cyfarfodydd y pwyllgor yn dechrau am 4pm o hyn ymlaen.
Daeth y cyfarfod i ben am 5:45pm.
|