Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd ar gyfer 2022-2023 PenodiCadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2022 – 2023.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd KB gydweithwyr i’r cyfarfod. Cadarnhawyd bod y niferoedd a oedd yn bresennol yn golygu nad oedd y cyfarfod yn gworwm ac felly ni ellid gwneud unrhyw benderfyniadau. Cytunwyd i fwrw ymlaen â’r cyfarfod er gwybodaeth.
Eglurodd KB fod cylch gorchwyl y Pwyllgor yn darparu ar gyfer penodi’r Is-Gadeirydd oedd yn gadael yn Gadeirydd, ond oherwydd bod y Cyng. MB wedi ymddiheuro na allai fod yn bresennol, gofynnodd KB i’r cyfarfod ethol Cadeirydd Dros Dro. Nodwyd: Cynigiodd John Morgan fod yn Gadeirydd Dros Dro ar gyfer y cyfarfod.
|
|
Penodi Is-gadeirydd ar gyfer 2022-2023 Penodi Is-gadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn 2022– 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd KB y byddai penodi Is-Gadeirydd yn cael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf oherwydd nad oedd y cyfarfod yn gworwm.
|
|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Jennie Downes; Debbie Owen; y Cyng. Marion Bateman; Julian Lewis; y Cyng. Adele Davies-Cooke; y Cyng. Paul Cunningham.
|
|
Datgan Cysylltiad: Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol Caiff aelodau eu hatgoffa fod rhaid iddynt ddatgan bodolaeth a natur y cysylltiad personol y maent yn ei ddatgan. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw beth ei ddatgan ond fe nodwyd yr aelodau etholedig a oedd yn llywodraethwyr ysgolion.
|
|
Cymeradwyo a chadarnhau bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir ar 9 Chwefror 2022.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth Aelodau a oedd yn bresennol nodi’r cofnodion a chadarnhau nad oedd unrhyw faterion yn codi ond oherwydd bod newid wedi bod o ran Aelodaeth Aelodau Etholedig ers y cyfarfod diwethaf, ni ellir eu llofnodi fel cofnod cywir oherwydd nad yw’r cyfarfod yn gworwm.
|
|
Cael Diweddariad ar lafar o Gyfarfodydd Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru (Ccysagc) Tymor yr haf a'r Hydref a'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol - 29.06.2022 A 16.11.22 Gan Vicky Barlow, Uwch Reolwr Derbyn diweddariad llafar yn y cyfarfod gan Vicky Barlow, Uwch Reolwr Gwella Ysgolion, Portffolio Addysg ac Ieuenctid. (bydd y papurau ar gael i aelodau ar wefan CCYSAGC maes o law)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd VB ddiweddariadau ar lafar am gynadleddau’r haf a’r hydref oherwydd na chawsom gyfarfod ar ôl cynhadledd yr haf.
Cynhaliwyd cynhadledd mis Mehefin ar-lein gan Sir y Fflint, gyda chroeso a myfyrdod gan Claire Homard. Croesawodd CH waith CYSAG ar draws Cymru a chyflwynodd uchafbwyntiau amgylchedd naturiol Sir y Fflint; ein mannau crefyddol a hanesyddol o ddiddordeb; ein cryfderau o ran celfyddyd a diwylliant trwy Theatr Clwyd a’n cefnogaeth i’r Gymraeg. Cafwyd myfyrdod ar y 4 pwrpas hefyd a’r cyfleoedd ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y cwricwlwm newydd.
Mae deunyddiau datblygiad proffesiynol yn aros am gymeradwyaeth derfynol gan Lywodraeth Cymru cyn cael eu rhannu ar HwB.
Cam Gweithredu: VB i anfon dolen Hwb at bodlediad am pam fod Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn bwysig; arbennig o ddefnyddiol i aelodau newydd CYSAG.
Mynychodd JB CCYSAGC tymor yr hydref. Etholwyd VB fel cynrychiolydd ar Dîm Gweithredol CCYSAGC. Cadarnhawyd bod Cylchlythyr 10/94 yn hen bellach ar gyfer Addysg Grefyddol gan fod y ddeddfwriaeth wedi newid, ond mae’n dal i fod yn berthnasol ar gyfer Addoli ar y Cyd. Mae VB wedi egluro hyn gydag ysgolion.
Cyfansoddiad y CYSAG: Dywedodd VB fod CCYSAGC yn trafod strwythurau a gofynion adrodd gyda LlC, yn enwedig trwy’r adroddiad blynyddol, gan fod deddfwriaeth wedi newid.
Dywedodd VB mai’r ddeddfwriaeth newydd yw gan fod gennym Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg bellach, nid Addysg Grefyddol, na fyddwn yn defnyddio’r term CYSAG bellach, ond y byddwn yn troi’n Bwyllgor Ymgynghorol Sefydlog. Gan nad yw’r Cwricwlwm i Gymru wedi’i weithredu’n llawn eto, y cyngor gan Lywodraeth Cymru yw er y bydd gan CYSAG a’r Pwyllgor Ymgynghorol Sefydlog wahanol gyfansoddiadau, mae’n bosibl y bydd yr aelodaeth yr un fath yn ystod y blynyddoedd tan 2025. Felly, yr argymhelliad fydd mai ein cynnig fel AALl fydd cyfarfodydd ar y cyd.
Cam Gweithredu: KB/VB i edrych ar y Cylch Gorchwyl newydd ar gyfer y Pwyllgor Ymgynghorol Sefydlog a’i roi ar y rhaglen ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.
Dywedodd VB hefyd y bydd gan y cylch gorchwyl newydd hyd at ddau le ar gyfer cynrychiolwyr credoau nad ydynt yn athronyddol a chaiff y cynnig ei ychwanegu at y rhaglen gwaith i’r dyfodol.
Dywedodd KB fod y Llawlyfr CCYSAGC ar gyfer Aelodau yn darparu awgrymiadau defnyddiol o ran y Cyfansoddiad ar gyfer Cyngor Ymgynghorol Sefydlog a chynigiodd fod cyfansoddiad drafft yn cael ei gyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol ynghyd â’r argymhelliad bod y cylch gorchwyl presennol ar gyfer CYSAG yn aros fel y mae tan 2025.
Soniodd VB am broses ymgynghori ar gymwysterau CA4 sy’n cael ei gynnal gan gynnwys cydbwyso asesiadau athrawon ac arholiadau. Mae Ymgynghorwyr Addysg Grefyddol ar draws Cymru yn rhan o’r trafodaethau hyn.
Dyddiad y cyfarfod CCYSAGC nesaf yw 21 Mawrth 2023 ac fe’i cynhelir gan Sir Benfro. Gall Sir y Fflint anfon hyd at bedwar cynrychiolydd. Nid oes manylion eto o ran a fydd hyn wyneb i wyneb neu’n gyfarfod hybrid.
Cam Gweithredu: VB i ddosbarthu papurau pan fyddant ar gael.
|
|
Dadansoddiad o Adroddiadau Arolygu Estyn o dymor yr haf 2022 PDF 77 KB Derbyn diweddariad llafar yn y cyfarfod gan Vicky Barlow, Uwch Reolwr Gwella Ysgolion, Portffolio Addysg ac Ieuenctid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd VB at yr adroddiad manwl a ddosbarthwyd gyda’r rhaglen. Dywedodd VB mai ein harfer fu edrych ar adroddiadau Estyn y tymor diwethaf ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac Addoli ar y Cyd.
Cam Gweithredu: VB i ysgrifennu at yr ysgolion hynny ar ran CYSAG gan nodi’r canlyniadau cadarnhaol ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg/Addoli ar y Cyd. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth datblygiad proffesiynol ar gyfer ysgolion Cynradd ac adnoddau ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg An derbyn cyflwyniad gan Jane Borthwick, Uwch Gynghorydd Dysgu Cynradd, Portffolio Addysg ac Ieuenctid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Soniodd JB am waith y rhwydwaith o arweinwyr Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg gan gynnwys dull rhyngddisgyblaethol; defnyddio llais y disgybl; canolbwyntio ar argyhoeddiadau a chredoau anghrefyddol; defnyddio gwyliau;
Soniodd MP am wefan yr Eglwys yng Nghymru – edrych trwy’r lensys ac adnoddau Canolfan San Silyn Wrecsam a Hwb;
Dywedodd JM fod Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig yn datblygu dimensiwn y cwricwlwm ar gyfer Catholigiaeth; gofynnodd i’r cyfarfod nodi’r Ardd Weddi yn St Anthony er cof am Gadeirydd blaenorol y Llywodraethwyr.
Wrth grynhoi, rhoddodd VB sicrwydd i Aelodau fod llawer o waith yn cael ei wneud y tu allan i ysgolion, er enghraifft, roedd AM yn gweithio ar weithgor cenedlaethol ar waith datblygu’r cwricwlwm. Roedd gwaith gyda B gyda’r rhwydwaith yn annog brwdfrydedd.
Cam Gweithredu: VB i rannu llythyr gyda’r gr?p gan CH i ysgolion i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau a fabwysiadwyd, y rhwydwaith ac adnoddau ategol.
Cam Gweithredu: VB i ychwanegu eitem at y rhaglen gwaith i’r dyfodol, sef y wybodaeth ddiweddaraf gan LO am waith y sector uwchradd. Gan ymateb i’r Cyng. AP, dywedodd VB y byddai Penaethiaid yn ceisio canllawiau gan CYSAG i ymateb i gwynion gan rieni ond nid oedd unrhyw rai wedi dod i law hyd yma. |
|
Cyfarfodydd yn y Dyfodol Yn y dyfodol bydd cyfarfodydd CYSAG SIR Y FLINT yn cael eu cynnal am 4.00 pm am. Dydd Mercher 8 Chwefror 2023 Dydd Mercher 7 Mehefin 2023
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynhelir cyfarfodydd y dyfodol am 4pm ar y dyddiadau canlynol: Dydd Mercher 8 Chwefror 2023 Dydd Mercher 7 Mehefin 2023
Daeth y cyfarfod i ben am 16.55pm
|