Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: to be confirmed
Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyng. Dave Mackie; Cyng. Colin Legg; |
|
Datgan Cysylltiad: Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol Caiff Aelodau eu hatgoffa fod rhaid iddynt ddatgan bodolaeth a natur y cysylltiad personol y maent yn ei ddatgan. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw beth ei ddatgan ond fe nodwyd yr aelodau etholedig a oedd yn llywodraethwyr ysgolion. |
|
Cymeradwyo a chadarnhau bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir ar 25 Tachwedd 2021
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd fel cofnod cywir. Dim materion yn codi. |
|
Canllawiau a deddfwriaeth Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (dolenni isod) Derbyndiweddariad llafar yn y cyfarfod gan Vicky Barlow, Uwch Reolwr GwellaYsgolion, Portffolio Addysg ac Ieuenctid.
Dolenni Deddfwriaeth https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/crynodeb-o-r-ddeddfwriaeth/#religion,-values-and-ethics
https://hwb.gov.wales/curriculum-for-wales/summary-of-legislation/#religion,-values-and-ethics
Dolenni Canllawiau
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd VB at y ddogfen ar y we, cafodd dolenni eu dosbarthu gyda’r rhaglen gan nodi mai dim ond ar-lein y mae’r adnoddau sy’n gysylltiedig â’r ddeddfwriaeth a chanllaw ar gael, ac nid ydynt bellach yn cael eu cyhoeddi fel copïau papur.
Roedd VB yn croesawu cynnwys Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y cwricwlwm newydd, gan nodi fod y canllaw wedi cael ei ddylanwadu gan gyfraniadau o’r gr?p yma a grwpiau CYSAG eraill, a dywedodd fod y dogfennu felly yn ddogfennau cyfeirio pwysig. Dywedodd y dylid cytuno bod y dogfennau yn addas i’w pwrpas ac y dylid eu defnyddio er mwyn bodloni ein hamcanion statudol ar gyfer Maes Llafur Cytunedig. Fe nodwyd yn y cyfarfod y bydd y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig yn cael ei hagor yn ffurfiol ar ddiwedd y cyfarfod hwn a bod gwahoddiad i bob aelod fynychu. Ymunodd JA â’r cyfarfod am 16.05pm.
Gofynnwyd i’r aelodau nodi’r argymhelliad i’r Gynhadledd, bod gweithgor yn cael ei sefydlu i gynghori ar gynnwys y Maes Llafur Cytunedig a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Gynhadledd lawn i’w fabwysiadu ym mis Mai. Roedd VB yn gobeithio y byddai cynifer o aelodau â phosibl yn cymryd rhan yn y ddau gyfarfod gweithdy sydd wedi’u cynllunio.
Rhannodd JD gyflwyniad PowerPoint o enghreifftiau o ysgolion cynradd Santes Fair, Pentref Penarlâg a Westwood, o’u gwaith yn defnyddio Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn pedwar pwrpas y Cwricwlwm newydd, er enghraifft sut y byddent yn croesawu ffoaduriaid.
Diolchodd CB i JD am rannu gwaith ysbrydoledig gan ddisgyblion. Dywedodd VB fod gan y Cyngor becyn craidd o gefnogaeth, yn cynnwys i ysgolion. Roedd yr ysgolion hynny a groesawodd ffoaduriaid wedi rhoi croeso cynnes iddynt. Mae cynllun peilot ar waith i ysgolion fod yn Ysgolion Noddfa a bydd y cynllun peilot yn cael ei lansio yn nhymor yr haf.
Cam Gweithredu; VB i roi diweddariad i’r cyfarfod yn y dyfodol am waith y cynllun peilot.
Diolchodd VB i JD am gasglu’r gwaith gan y disgyblion. Yn y gorffennol byddai aelodau wedi derbyn sylwadau yn uniongyrchol gan ddisgyblion. Roedd y cyfarfod yn croesawu’r cyfle i ymweld ag ysgolion mor fuan â phosibl.
|
|
Cyflwyniad - Prosiectau ysgol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg am loches/ymfudo a digartrefedd Derbyncyflwyniad gan Jennie Downes, Swyddog Addysg Esgobaeth Llanelwy. Dogfennau ychwanegol: |
|
Gohebiaeth Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe soniodd VB wrth y cyfarfod am e-bost a gafodd heddiw gan Gymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru yn hysbysu Cyfarfodydd CYSAG lleol am bedair swydd wag ar y Pwyllgor, a bod angen enwebiadau erbyn 8 Ebrill 2022.
Cam Gweithredu: VB i ddosbarthu llythyr i aelodau, a dylid rhoi gwybod i VB am unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. Fe soniodd y Cyng. CB am y cyfnod etholiadau oedd i ddod a’r posibilrwydd y byddai yna aelodau etholedig newydd.
Fe soniodd VB hefyd am ymgynghoriad am gyfansoddiad Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru. Cam Gweithredu: Rhoi sylwadau i VB a fydd yn adrodd yn ôl yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol CCYSAGC.
Ni chodwyd unrhyw fater arall.
|
|
Cyfarfodydd yn y dyfodol Yn y dyfodol bydd cyfarfodydd CYSAG SIR Y FLINT yn cael eu cynnal am 4.00 pm am Dydd Mercher 8th Mehefin 2022.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bydd cyfarfod nesaf CYSAG yn cael ei gynnal am 4.00pm dydd Mercher 8 Mehefin 2022.
|
|
Presenoldeb aelodau o'r wasg Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim
|