Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim.
|
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 8 Iomawr a 5 Chwefror 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 8 Ionawr 2024
Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Ionawr 2024 i’w cymeradwyo.
Cafodd y cofnodion eu cymeradwyo fel cofnod cywir, fel y’u cynigiwyd gan Mark Morgan a’u heilio gan Gill Murgatroyd.
Materion yn codi Tudalen 5 Gofynnodd y Cadeirydd i’r Swyddog Monitro ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar nifer y Cynghorau Tref a Chymuned a oedd wedi cofrestru ar gyfer yr Addewid Cwrteisi a Pharch. Mewn ymateb i’r Swyddog Monitro, cadarnhaodd 18 allan o 34 o Gynghorau eu bod wedi derbyn yr addewid. Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai modd darparu diweddariad yn y cyfarfod nesaf i weld p’un a oedd y lefel wedi cynyddu. Tudalen 6 Gofynnodd y Cadeirydd am y wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â’r sedd wag ar gyfer cynrychiolydd Cynghorau Tref a Chymuned.
Mewn ymateb i hynny, cadarnhaodd y Swyddog Monitro eu bod wedi gofyn i’r Cynghorau Tref a Chymuned enwebu ymgeiswyr ac wedi darparu amlinelliad o’r broses bleidleisio gyda’r dyddiad cau ar 1 Mawrth 2024. Cadarnhawyd bod 6 ymgeisydd wedi cael eu henwebu gyda 20 o Gynghorau Tref a Chymuned yn ymateb gyda’u dewis cyntaf a’u hail ddewis. Unwaith y byddai’r canlyniadau wedi cael eu dadansoddi, byddai’r penodiad yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 16 Ebrill. Os caiff y penodiad ei gymeradwyo, byddai’r hyfforddiant yn cael ei drefnu ar gyfer yr unigolyn hwnnw. Cadarnhawyd y byddai’r cyfle hwn yn cael ei ddefnyddio i ddarparu hyfforddiant dal i fyny i aelodau presennol y pwyllgor a oedd wedi methu’r sesiwn hyfforddiant diwethaf.
Tudalen 8 Cyfeiriodd y Cadeirydd at y penderfyniadau ar dudalen 8 a gofynnodd am y wybodaeth ddiweddaraf.
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ei Raglen Waith ei hun ac roedd disgwyl iddynt ystyried y Weithdrefn Rhannu Pryderon yn Gyfrinachol yn eu cyfarfod ym mis Mawrth. Gan gyfeirio at yr adroddiad adborth i Gyngor Cymuned Higher Kinnerton, cadarnhaodd y Swyddog Monitro ei fod wedi siarad â’r Clerc.
Tudalen 9 Cyfeiriodd y Cadeirydd at y pwyntiau allweddol a gofynnodd a oedd yr adborth o’r ymweliadau hyn wedi cael ei rannu â Chadeiryddion ac Aelodau. Ymddiheurodd y Swyddog Monitro gan egluro fod yr e-bost wedi cael ei baratoi ac y byddai’n cael ei anfon allan yn fuan. Tudalen 10 Cyfeiriodd y Cadeirydd at y penderfyniad ar gyfer eitem 56 a gofynnodd am y wybodaeth ddiweddaraf.
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai’r wybodaeth hon yn cael ei rhannu dros e-bost gyda Chadeiryddion ac Aelodau. Eglurwyd bod dwy agwedd i’r rhaglen hyfforddiant, sef parch a chydraddoldeb, a bod trafodaethau’n mynd rhagddynt â’r hyfforddwr i drefnu 5 sesiwn hyfforddiant a fyddai’n galluogi pob Cynghorydd i fynychu. Roedd y Swyddog Monitro hefyd wedi siarad ag Archwilio Cymru i weld a oedd modd iddynt ddarparu rhywfaint o gyngor mewn perthynas â’u hymweliad diweddar â chyngor cyfagos. Gallai’r rhain fod yn enghreifftiau o wersi a ddysgwyd ar ddulliau ymddygiad anghynhyrchiol a chynhyrchiol a allai fod yn ddefnyddiol.
Eglurwyd mai Arweinydd Gr?p oedd wedi cyflwyno’r cais am hyfforddiant ac yn dilyn cyfarfod o’r Pwyllgor Cyfansoddiad a ... view the full Cofnodion text for item 64. |
|
Goddefebau Pwrpas: Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.
Bydd aelodau'r wasg / y cyhoedd yn gallu aros yn y cyfarfod tra bydd cais am ryddhad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor a bydd yn gallu dychwelyd i glywed penderfyniad y Pwyllgor. Fodd bynnag, o dan Baragraff 18C Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 bydd y Pwyllgor yn gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod tra bydd yn ystyried unrhyw gais am ryddhad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw geisiadau am oddefebau.
|
|
Adolygiad o’r Protocol ar gyfer Cwrdd â Chontractwyr Pwrpas: Ymgymryd ag adolygiad parhaus o’r Protocol i sicrhau ei fod yn ddiweddar ac yn berthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Monitro a eglurodd fod y Cyngor wedi gwario dros £200 miliwn y flwyddyn drwy ei gontractau amrywiol. Roedd nifer fawr o reolau ar waith yn ymwneud â chontractau er mwyn sicrhau fod y contractwyr yn gallu cyflawni’r tasgau, yn cynnig gwerth am arian, yn dryloyw ac yn defnyddio llwybrau archwilio clir ac nad oedd unrhyw beth yn cael ei ddweud neu ei wneud i danseilio’r egwyddorion pwysig hynny. Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at y newidiadau diweddar yn y Cod Ymddygiad Gweithwyr a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr ddilyn Rheolau'r Weithdrefn Gontractau. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw ofyniad ar Aelodau mewn perthynas â hyn. Mae’r Protocol yn ategu at y Cod Ymddygiad Aelodau i ddisgrifio sut dylai Aelodau ymddwyn er mwyn sicrhau nad ydynt yn tanseilio’r prosesau hyn. Darparodd y Swyddog Monitro enghreifftiau o’r cwestiynau a godwyd mewn perthynas â’r contractau a gafodd eu dyrannu gan San Steffan yn ystod y Pandemig ac roedd y Protocol hwn yn allweddol er mwyn osgoi cwestiynau ac achosion o’r fath rhag codi yn Sir y Fflint. Roedd y Protocol wedi cael ei adolygu flynyddoedd yn ôl ac roedd bellach yn cael ei adolygu dan y rhaglen adolygu dreigl, ond roedd y Swyddog Monitro’n teimlo bod y Protocol yn parhau i fod yn berthnasol ac yn gyfredol.
Cyfeiriodd Gill Murgatroyd at baragraff 2.2 ac awgrymodd efallai y byddai angen diweddaru’r nodweddion gwarchodedig gan fod 9 ohonynt bellach, ond dim ond 6 oedd yn y paragraff hwn. Cytunodd y Pwyllgor ar hyn.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Jacqueline Guest ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Antony Wren.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cytuno, ar ôl adolygu’r Protocol i Aelodau ar gyfer Delio â Chontractwyr a Thrydydd Partïon Eraill, yn amodol ar y diwygiad bychan, ei fod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn gyfredol.
|
|
Adolygiad Treigl o God Ymddygiad yr Aelodau Pwrpas: Rydym yn adolygu pob Cod a Phrotocol o leiaf unwaith ymhob tymor o’r Cyngor er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn gyfoes. Hwn yw’r adolygiad ar gyfer Cod Ymddygiad yr Aelodau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad gan ddweud bod y Cod Ymddygiad i Aelodau’n cael ei adolygu bob blwyddyn a’i fod wedi cael ei adolygu’n ddiweddar yn dilyn argymhellion o fewn yr Adroddiad Penn. Darparwyd trosolwg o’r newidiadau ynghyd â’r wybodaeth ar y gofyniad i Aelodau wrthod unrhyw anrhegion neu letygarwch a oedd hefyd yn cynnwys gofyniad i gofrestru unrhyw beth a dderbyniwyd dros werth penodol. Roedd y gwerth yn £10 ar hyn o bryd ac roedd Richard Penn yn ceisio cymeradwyaeth gan awdurdodau lleol i gysoni’r gwerth i £25 ar draws Cymru. Eglurwyd bod Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd wedi trafod yr argymhelliad hwn ym mis Ionawr. Yn y cyfarfod hwnnw, gwrthododd Aelodau gymeradwyo’r cynnig i gynyddu’r gwerth o £10 i £25 yn bennaf oherwydd canfyddiad y cyhoedd. Ar hyn o bryd, roedd dwy farn wrthgyferbyniol, ac eglurodd y Swyddog Monitro ei fod yn codi hyn eto er mwyn ceisio barn y Pwyllgor cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ym mis Ebrill.
Teimlai Wren y dylid safoni hyn ar draws Cymru a’i gyflwyno i’r Cyngor Sir i wneud penderfyniad yn ei gylch.
Nododd David Davies yr hoffai i’r Awdurdod fod yn gyson ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Ceisiodd eglurhad ar gyfanswm yr enillion, sef £100. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod hyn yn berthnasol ar gyfer aelod a oedd wedi derbyn nifer o anrhegion bychain gan yr un ffynhonnell, cytunwyd felly y dylid cynnwys trothwy o £100.
Roedd y Pwyllgor yn cytuno y dylid sicrhau cysondeb ar draws Cymru a chyflwyno hyn i’r Cyngor Sir i gael eu cymeradwyaeth. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y gellid trafod hyn yn y cyfarfod ar 16 Ebrill.
Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at y Cod a oedd wedi cael ei ddiweddaru’n ddiweddar yn dilyn yr Adolygiad Penn gan ddweud bod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi ymgynghori ag Awdurdodau Lleol i benderfynu p’un a oedd angen deddfwriaeth i weithredu’r newidiadau a gynigwyd gan Richard Penn. Roedd LlC wedi dod i’r casgliad bod angen deddfwriaeth ond na fyddai hyn yn digwydd yn ystod tymor presennol y Senedd, a oedd yn golygu na fyddai modd gwneud newidiadau i’r Cod tan y tymor nesaf yn 2026. Byddai hefyd yn dibynnu ar bryd y gellid dod o hyd i amser deddfwriaethol, roedd y drefn gyflwyno deddfwriaeth yn seiliedig ar y broses ddrafftio yn ogystal â blaenoriaethau gwleidyddol.
Nododd y Cadeirydd, ar wahân i’r newidiadau gwirfoddol, y byddai gweddill y newidiadau’n cymryd peth amser i’w cwblhau.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan David Davies a’i eilio gan Mark Morgan
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor, ar ôl adolygu’r Cod Ymddygiad, yn gofyn i’r Cyngor ystyried y gwahaniaeth ym marn y Pwyllgor hwn o ran lefel yr anrhegion a lletygarwch ac er gwaethaf barn Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, y dylid ei safoni ag awdurdodau eraill yng Nghymru. |
|
Adroddiad o Ymweliadau Aelodau Annibynnol i Gyfarfodydd y Cyngor Sir Pwrpas: Derbyn adroddiadau llafar gan Aelodau Annibynnol y Pwyllgor am eu hymweliadau i’r cyfarfodydd canlynol:
· Cyngor Sir – 23.01.24 (Julia Hughes) · Cyngor Sir – 20.02.24 (Gill Murgatroyd) · Pwllgor Trwyddedu – 21.02.24 (Gill Murgatroyd)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd yr adroddiad ac eglurodd fod yr Aelodau Annibynnol wedi cytuno ar rota ar gyfer mynychu ac arsylwi cyfarfodydd ffurfiol y Cyngor Sir ar gyfer 2023/24, a oedd yn debyg i’r trefniant a ddefnyddiwyd ar gyfer cyfarfodydd Cynghorau Tref a Chymuned. Gwahoddodd yr Aelodau Annibynnol i gyflwyno eu hadroddiadau ar yr ymweliadau a gyflawnwyd, fel a ganlyn:
· Y Cyngor Sir (Cyfarfod Hybrid) - 23.01.24 (Julia Hughes)
· Y Cyngor Sir (Cyfarfod Hybrid) - 20.02.24 (Gill Murgatroyd)
· Y Pwyllgor Trwyddedu - 21.02.24 (Gill Murgatroyd)
Mewn ymateb i gwestiynau a godwyd gan Gill Murgatroyd, nododd y Swyddog Monitro bod Cadeiryddion fel arfer yn cyfarch Cynghorwyr a Swyddogion gan ddefnyddio eu henwau. Yng nghyfarfodydd y Cyngor Llawn, roedd hyn yn anoddach yn sgil cynllun y Siambr, ond eglurwyd bod y Cadeirydd yn derbyn cefnogaeth gan Swyddogion i sicrhau fod y cyfarfodydd yn gadarnhaol ac yn gweithio’n dda. O ran y Datganiadau Cysylltiad, eglurwyd bod y rhain yn cael eu datgan cyn dechrau’r cyfarfod a rhoddwyd amlinelliad o’r broses ar gyfer ymdrin â hwy.
Siaradodd Teresa Carberry fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a nododd y gefnogaeth amhrisiadwy a dderbyniodd gan yr Hwylusydd. Codwyd y pwyntiau allweddol canlynol o’r ymweliadau:
· Bod Aelodau’n cadw eu camerâu ymlaen yn arbennig yn ystod pleidleisiau ac atgyfnerthu’r neges hon. · Y dylid cadarnhau enwau a rolau’r swyddogion wrth eu gwahodd i siarad, ond gwerthfawrogwyd bod y Cyngor Llawn yn gyfarfod anodd i’r Cadeirydd. · Bod Aelodau’n nodi’r eitem y mae eu datganiad o gysylltiad yn ymwneud â hi a natur y cysylltiad.
Cytunodd y Swyddog Monitro i gynnwys yr adborth hwn yn yr e-bost i bob Aelod.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorwyr Teresa Carberry ac Antony Wren
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r adborth llafar i’w rannu gyda’r holl Aelodau.
|
|
Adroddiadau o Ymweliadau Aelodau Annibynnol â Chynghorau Tref/Cymuned Pwrpas: Derbyn adroddiadau llafar gan Aelodau Annibynnol y Pwyllgor am eu hymweliadau i’r cyfarfodydd canlynol:
Cyngor Tref Bwcle (ail-ymweld) – 23.01.24 (Mark Morgan)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyn adroddiadau ar lafar gan Aelodau Annibynnol y Pwyllgor am eu hymweliadau i’r cynghorau canlynol:
· Cyngor Tref Bwcle (ail-ymweliad) – 23.01.24 (Mark Morgan)
Cytunodd y Pwyllgor nad oedd angen adborth gan fod y cyfarfod wedi cael ei reoli’n broffesiynol iawn heb unrhyw bryderon yn codi.
PENDERFYNWYD:
Darparu adborth cadarnhaol i Gyngor Tref Bwcle.
|
|
Adborth gan Fforwm Cenedlaethol y Pwyllgorau Safonau Darparu adborth gan Fforwm Cenedlaethol y Pwyllgorau Safonau a gynhaliwyd ar Ionawr 29ain.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Wrth gyflwyno’r adroddiad, darparodd y Cadeirydd wybodaeth gefndirol am sefydliad Fforwm Cymru Gyfan. Cyfeiriodd at y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ionawr yn dilyn argymhelliad o’r Adolygiad Penn. Roedd Cadeiryddion Pwyllgorau Safonau ar draws Cymru’n bresennol gyda Swyddogion Monitro’n mynychu ar sail rota. Cadarnhaodd y byddai cofnodion y cyfarfod hwn yn cael eu rhannu â phob aelod o’r Pwyllgor.
Tynnodd y Cadeirydd sylw at y pwyntiau canlynol yr oedd hi’n teimlo fyddai o ddiddordeb i’r pwyllgor. · Croesawodd y Fforwm Ymgynghorydd Panel newydd, Justine Cass, y Dirprwy Swyddog Monitro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen · Ymgynghoriad yn dilyn yr Adolygiad Penn gan wneud unrhyw newidiadau yn dilyn tymor nesaf y Senedd. · Cyflwyniad a thrafodaeth gyda Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru · Cyflwyniad ar y Cyd-bwyllgorau Corfforedig gan Iwan G.D. Evans, Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd a Chydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru. · Adnoddau ar gyfer Pwyllgorau Safonau · Protocolau Lleol · Arweinwyr Gr?p ar Bwyllgorau Safonau · Anrhegion a Lletygarwch · Canllawiau ar y defnydd o’r Cyfryngau Cymdeithasol - canllawiau gan CLlLC. Roedd y Parc Cenedlaethol wedi defnyddio cyfres o 24 Modiwl Hyfforddiant Seiberddiogelwch. · Addewid Cwrteisi a Pharch · Darparwyd hyfforddiant i Gadeiryddion gan y Fforwm ar 12 Chwefror 2024 · Gwiriadau GDG Pwyllgorau Safonau
Eglurwyd y byddai unrhyw sylwadau gan y Fforwm yn cael eu rhannu â’r Pwyllgorau Safonau i’w cadarnhau.
Gofynnodd David Davies a oedd y cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb neu ar-lein, a nododd fod cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn galluogi Cadeiryddion i rwydweithio â Chadeiryddion eraill. Cadarnhaodd y Cadeirydd eu bod yn cael eu cynnal ar-lein a chytunodd â’r sylwadau a wnaed. Byddai’n anodd newid i gyfarfodydd wyneb yn wyneb yn sgil y raddfa a’r gwaith trefnu a chostau a fyddai ynghlwm â chael pawb mewn un lleoliad.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Gynhadledd Safonau Cenedlaethol a oedd yn debygol o gael ei chynnal ar-lein a gofynnodd a fyddai modd i’r Prif Weithredwr (Llywodraethu) geisio’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adborth gan Fforwm Cenedlaethol y Pwyllgorau Safonau.
|
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Pwrpas: Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor a oedd ganddynt unrhyw bynciau yr hoffent eu cynnwys yn y Rhaglen Waith.
Gofynnodd Jacqueline Guest os gellid cynnwys ei hail-ymweliad â Chyngor Cymuned Bagillt a’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a’r Pwyllgor Cynllunio yn y cyfarfod nesaf.
Gofynnodd Mark Morgan a ddylid ystyried y sylwadau a wnaed mewn perthynas ag Arweinwyr Grwpiau ar y Pwyllgor Safonau gan fod y Cynghorydd Andrew Parkhurst yn Arweinydd Gr?p. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai’r cyfarfodydd anffurfiol rhwng Arweinwyr Gr?p a’r Pwyllgor yn cael eu cynnal yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill a fyddai’n gyfle i drafod hyn. Gellid ei gynnwys ar y Rhaglen Waith yn dilyn hyn lle bo angen ar gyfer cyfarfod mis Mai, gan drafod gyda’r Cynghorydd Parkhust yn y cyfamser.
Eglurodd y Cadeirydd fod y cyfarfod un i un a gynhaliwyd ag Arweinwyr Grwpiau’n gyfle i drafod trosolwg o’r camau a gymerwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol. Roedd hyn hefyd yn cadarnhau eu bod yn cyflawni eu dyletswydd fel Arweinydd Gr?p i sicrhau bod eu haelodau’n cydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ac yn ymddwyn mewn modd proffesiynol.
Nododd y Cadeirydd bod yr Adroddiad Blynyddol drafft ar y rhaglen ar gyfer cyfarfod mis Mehefin. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro, pe bai hyn yn cael ei gytuno, y gellid ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ym mis Gorffennaf neu fis Medi.
Eglurodd y Cadeirydd y rhesymau pam bod yr Adolygiad o’r Protocol Aelodau/Swyddogion wedi symud i fis Mehefin.
Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan Gill Murgatroyd a’i eilio gan Mark Morgan.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r Rhaglen Waith yn amodol ar y newidiadau uchod.
|
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol. |