Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

30.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ar gofnod rhif 41 a oedd yn eitem frys a chyfrinachol i’w drafod ar ddiwedd y cyfarfod, yn ôl cytundeb y Cadeirydd.  Gadawodd y Cynghorydd Parkhurst y cyfarfod cyn dechrau’r eitem.  Datganodd y Cynghorydd Antony Wren gysylltiad personol ar yr un eitem.

31.

Cofnodion pdf icon PDF 89 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 4 Medi 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Medi 2023, fel y cynigiwyd ac eiliwyd gan Jacqueline Guest a David Davies, yn destun y diwygiadau canlynol:

 

Cofnod 25, paragraff olaf: tynnu’r gair ‘Cynghorydd’ o’r cyfeiriad at Jacqueline Guest.

 

Cofnod 26, y paragraff olaf ond un: ail-eirio’r ail frawddeg er mwyn eglurder.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiadau, fod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

32.

Goddefebau

Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.

 

Bydd aelodau'r wasg / y cyhoedd yn gallu aros yn y cyfarfod tra bydd cais am ryddhad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor a bydd yn gallu dychwelyd i glywed penderfyniad y Pwyllgor. Fodd bynnag, o dan Baragraff 18C Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 bydd y Pwyllgor yn gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod tra bydd yn ystyried unrhyw gais am ryddhad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

33.

Eitemau a godwyd gan y Cynghorau Tref a Chymuned pdf icon PDF 48 KB

I drafod unrhyw faterion moesol neu waith y Pwyllgor Safonau a godwyd gan y Cynghorau Tref a Chymuned.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd cyfle i Gynghorau Tref a Chymuned godi unrhyw eitemau cyn y cyfarfod.

 

Ar ran Cyngor Cymuned Brychdyn a Bretton, rhannodd Sharron Jones ddogfen a oedd yn annog holl gynghorau lleol i arwyddo’r Addewid Cwrteisi a Pharch a gefnogir gan Gymdeithas Clercod y Cynghorau lleol, Cymdeithas Genedlaethol Cynghorau Lleol ac Un Llais Cymru.  Cyflwynwyd yr Addewid i alluogi cynghorau lleol i ddangos eu hymrwymiad i sefyll i fyny yn erbyn ymddygiad gwael ar draws y sector ac i orfodi newidiadau cadarnhaol i gefnogi ymddygiad cwrtais a pharchus.

 

Yn ôl cais gan y Cadeirydd, cytunodd y Swyddog Monitro i gysylltu â’r Clercod i ganfod nifer y Cynghorau Tref a Chymuned yn Sir y Fflint sydd wedi arwyddo’r Addewid.

34.

Adborth o Ymweliadau Aelodau Annibynnol i Gynghorau Tref A Chymuned pdf icon PDF 92 KB

Darparuadborth trosfwaol mewn perthynas â’r holl ymweliadau i Gynghorau Tref a Chymuned.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad a oedd yn crynhoi’r themâu cyffredin oedd yn codi gan Aelodau Annibynnol y Pwyllgor a oedd yn arsylwi cyfarfodydd y Cynghorau Tref a Chymuned dros y 12 mis diwethaf.  Roedd yr adroddiad yn pwysleisio’r pwrpas ar gyfer yr ymweliadau ac yn cynnwys adborth ysgrifenedig a rannwyd gyda chynghorau yn ystod y cyfnod.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, darparodd y Swyddog Monitro eglurder ar y datganiadau o gysylltiad.  Eglurwyd y byddai goddefebau yn gallu para am uchafswm o 12 mis.  Gan mai dim ond y cynghorydd a wnaeth gais am yr oddefeb a fyddai’n gwybod os yw’r cysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn parhau, mae’r cyfrifoldeb arnyn nhw i geisio adnewyddu unrhyw oddefeb.

 

Diolchwyd i’r Cynghorau Tref a Chymuned am groesawu’r Aelodau Annibynnol i’r cyfarfodydd.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y gallai enghreifftiau o arferion cadarnhaol yn y cyfarfodydd gael eu hadlewyrchu yn yr adroddiad.  Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan Mark Morgan a’r Cynghorydd Teresa Carberry.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod yr adroddiad yn cynnwys enghreifftiau o arferion da a arsylwyd yn y cyfarfodydd; a

 

(b)       Bod yr adroddiad yn cael ei rannu â holl Gynghorau Tref a Chymuned yn Sir y Fflint a bod yr awgrymiadau a themâu cyffredin ym mharagraff 1.04 yr adroddiad yn cael eu cefnogi fel argymhellion o arferion da i’r cynghorau hynny.

35.

Presenoldeb Aelodau Annibynnol Ymweliadau  Chyfarfodydd y Cyngor

Derbyn adroddiadau llafar gan Aelodau Annibynnol y Pwyllgor am eu hymweliadau i’r cyfarfodydd canlynol:

 

·         10.10.23 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi (David Davies)

·         17.10.23 - Cabinet (Gill Murgatroyd)

·         19.10.23 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (David Davies)

·         24.10.23 - Cyngor Sir y Fflint (Mark Morgan)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd y Cadeirydd fod yr Aelodau Annibynnol wedi cytuno ar rota ar gyfer mynychu ac arsylwi cyfarfodydd ffurfiol y Cyngor Sir ar gyfer 2023/24, yn debyg i’r trefniant a gyflawnwyd ar gyfer y cyfarfodydd Cyngor Tref a Chymuned.  Gwahoddodd yr Aelodau Annibynnol i gyflwyno eu hadroddiadau ar yr ymweliadau cyntaf a gyflawnwyd, fel a ganlyn:

 

·         David Davies - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi ar 10 Hydref

·         Gill Murgatroyd - Y Cabinet ar 17 Hydref

·         David Davies - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ar 19 Hydref

·         Mark Morgan - Cyngor Sir y Fflint ar 24 Hydref

 

Codwyd y pwyntiau allweddol canlynol o’r ymweliadau hynny:

 

·         Yn gyffredinol roedd y cyfarfodydd wedi’u cadeirio’n dda.

·         Roedd rhaglenni wedi eu paratoi’n dda ac yn cynnwys eitem ar ddatgan cysylltiad. 

·         Dylai swyddogion sy’n mynychu’r cyfarfodydd gael eu cyflwyno yn ôl eu rolau a dylai teitlau swydd gael eu harddangos mewn cyfarfodydd o bell er mwyn cynorthwyo’r arsylwyr.

·         Mewn ymateb i’r materion a arsylwyd mewn un cyfarfod, dylid atgoffa Cynghorwyr y dylent ddewis eu geiriau yn ofalus, oherwydd er bod gwahaniaethau barn, mae’n bwysig parhau i fod yn barchus a chwrtais fel bod cyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu cynnal mewn modd proffesiynol heb danseilio hyder yn y Cyngor.

 

Yn ystod trafodaeth ar y pwynt olaf, cyfeiriwyd at yr eitem flaenorol ar yr Addewid Cwrteisi a Pharch gan Gynghorau Lleol.  Awgrymodd Gill Murgatroyd y gall Aelodau Annibynnol sy’n arsylwi cyfarfodydd y Cyngor Sir yn y dyfodol, ganfod themâu parhaus er mwyn ystyried camau posibl megis codi pryderon gyda’r Arweinydd Gr?p perthnasol.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai adborth o’r ymweliadau yn cael eu rhannu mewn cyfatebiaeth gyda’r holl Aelodau.  Cafodd hyn ei gynnig a’i eilio gan Gill Murgatroyd a David Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r adborth llafar i’w rannu gyda’r holl Aelodau.

36.

Adolygiad Treigl o God Ymddygiad yr Aelodau pdf icon PDF 86 KB

Rydym yn adolygu pob Cod a Phrotocol o leiaf unwaith ymhob tymor o’r Cyngor er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn gyfoes. Hwn yw’r adolygiad ar gyfer Cod Ymddygiad yr Aelodau.

 

                                                                 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad ar God Ymddygiad Aelodau a oedd i’w adolygu fel rhan o’r rhaglen dreigl.

 

Ers yr adolygiad diwethaf ym mis Tachwedd 2022, roedd holl awdurdodau yng Nghymru wedi cytuno i fabwysiadu gwerth cyffredin o £25 fel y trothwy ar gyfer cofrestru anrhegion a lletygarwch, fel yr argymhellwyd gan yr Adolygiad Penn.  Dyma’r unig newid a argymhellwyd i’r Cod Ymddygiad.

 

Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Antony Wren ac Andrew Parkhurst.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn diwygio’r gwerth y mae angen cofrestru anrhegion a lletygarwch o £10 i £25.

37.

Eitemau a awgrymir ar gyfer Fforwm Cenedlaethol Cadeiryddion Pwyllgorau Safonau

Oesgan Aelodau unrhyw awgrymiadau ar gyfer eitemau i’w trafod yn y Fforwm Cenedlaethol ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau Safonau ym mis Ionawr?

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ceisiodd y Cadeirydd eitemau ar gyfer y rhaglen Fforwm Cenedlaethol ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau Safonau a oedd wedi’i drefnu ar gyfer Ionawr 2024.  Cytunwyd ar yr argymhellion canlynol:

 

·         Gofyn pryd fydd y Cynhadledd Cymru Gyfan ar gyfer Pwyllgor Safonau yn digwydd.

·         Ceisio diweddariad ar y cynnydd o ran mabwysiadu trothwy cyson ar gyfer datgan anrhegion a lletygarwch yng Nghymru.

·         Ceisio barn os yw Arweinwyr Gr?p yn cael caniatâd i eistedd ar Bwyllgorau Safonau ar draws Cymru, o ystyried y ddyletswydd newydd ar hyrwyddo ymddygiad moesegol.

·         Hyrwyddo’r Addewid Cwrteisi a Pharch.

·         Rhannu dysgeidiaeth o’r ymweliadau arsylwi yn y cyfarfodydd  all gynorthwyo cynghorau eraill.

·         Canfod unrhyw ganllawiau ar ddefnydd cyfryngau cymdeithasol sy’n wahanol i’r hyn a gynhyrchwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

 

Cynigiwyd yr eitemau uchod gan y Cynghorydd Teresa Carberry ac fe’u heiliwyd gan Mark Morgan.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr eitemau uchod yn cael eu cyflwyno fel rhai i’w cynnwys ar raglen cyfarfod nesaf y Fforwm Cenedlaethol ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgor Safonau.

38.

Adborth o'r Cyfarfod Cyswllt Moesegol pdf icon PDF 80 KB

Darparu adborth o’r Cyfarfod Cyswllt Moesegol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro'r adroddiad a oedd yn crynhoi adborth o’r cyfarfod Cyswllt Moesegol a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2023 a fynychwyd gan Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, Arweinydd y Cyngor ac Arweinwyr Gr?p.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan Gill Murgatroyd a’r Cynghorydd Ian Papworth.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn goruchwylio datblygiad y rhaglen hyfforddi ar gyfer Cynghorwyr Sir ac Arweinwyr Gr?p.

39.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 61 KB

Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd yr awgrymiadau canlynol:

 

·         Adborth o gyfarfodydd y Fforwm Safonau Cenedlaethol i’w symud i gyfarfod mis Mawrth.

·         Adborth o bresenoldeb Aelod Annibynnol mewn cyfarfodydd y Cyngor Sir i’w cynnwys ar gyfer Mawrth a Mehefin 2024.

·         Adborth o’r Gynhadledd Safonau Cymru Gyfan i’w drefnu unwaith fydd dyddiad yn hysbys.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan Gill Murgatroyd, bydd y Swyddog Monitro yn rhannu’r broses gytunedig ar gyfer paratoi adroddiad blynyddol ar gyfer Mehefin 2024.

 

Cafodd y newidiadau eu cynnig a’u heilio gan Mark Morgan a’r Cynghorydd Ian Papworth.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd.

40.

EITEM FRYS - DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 - YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiwyd ac eiliwyd gwahardd y wasg a’r cyhoedd gan y Cynghorwyr Antony Wren ac Ian Papworth.  Ar y pwynt hwn, gadawodd holl gynrychiolwyr Cynghorau Tref a Chymuned y cyfarfod ynghyd â’r Cynghorydd Andrew Parkhurst a ddatganodd gysylltiad personol sy’n rhagfarnu.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at ddogfen gyfrinachol a rannwyd gyda’r Pwyllgor, yn crynhoi rhesymau dros wrthod cwyn gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.  Roedd yr Ombwdsmon wedi caniatáu i’r ddogfen gael ei rhannu gydag Aelodau’r Pwyllgor er mwyn gofyn iddynt ystyried os oedd angen unrhyw gyfathrebiad o ran dysgu o’r mater.

 

Yn ystod y drafodaeth, roedd consensws, er bod y Pwyllgor Safonau yn parchu trafodaeth wleidyddol a rhyddid i lefaru, rhaid cael cydbwysedd priodol o gydymffurfiad gyda’r Cod Ymddygiad.  Roedd y Pwyllgor yn teimlo ei bod yn bwysig annog holl Gynghorwyr i drin ei gilydd gyda pharch a chwrteisi, gan gynnwys swyddogion sy’n cyflawni eu dyletswyddau o fewn y Siambr, ac i adlewyrchu ar y ffordd y gall eu geiriau a gweithredoedd gael eu derbyn, er mwyn sicrhau nad yw hyder yn y Cyngor yn cael ei danseilio.  Er mwyn cefnogi Aelodau yn eu rôl, byddai gwybodaeth ar y rhaglen hyfforddi a datblygu yn cael ei rhannu.

 

Cytunwyd y dylai cyfatebiaeth i holl Aelodau adlewyrchu barn y Pwyllgor ar yr achos, ynghyd â phryderon am adborth o’r cyfarfod Cyngor Sir diweddar, fel y cyfeiriwyd atynt yn gynharach yn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Swyddog Monitro yn ysgrifennu at holl Gynghorwyr Sir (copïwyd i’r Pwyllgor Safonau) i gyfleu pryderon y Pwyllgor yn dilyn ystyriaeth o adborth o ymweliad diweddar i gyfarfod Cyngor Sir a chanfyddiadau achos Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; ac

 

(b)       Unwaith i ymweliadau cyfarfodydd Cyngor Sir eu cwblhau ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2023/24, byddai’r Pwyllgor yn adolygu’r sefyllfa i asesu os oes angen ymweliadau pellach.

41.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.