Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

20.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Antony Wren gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn eitem 4 ar y rhaglen: Goddefebau

 

Roedd y Cynghorydd Bernie Attridge yn datgan cysylltiad personol yn eitem 9 ar y Rhaglen: Trosolwg ar Gwynion Moesegol. Diweddarodd ei gysylltiad yn ddiweddarach i bersonol ac sy’n rhagfarnu.   Gadawodd y cyfarfod yn ystod Eitem 9.

 

Datganodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn eitem 9 ar y rhaglen: Trosolwg ar Gwynion Moesegol

 

21.

Cofnodion pdf icon PDF 78 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod arGorffennaf 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2023 i’w cymeradwyo.

 

Cymeradwywyd y cofnodion, fel y cynigiwyd ac a eiliwyd gan Jacqueline Guest a Mark Morgan

 

Materion yn Codi

 

Cofnod rhif 15 - mewn perthynas ag ymweliadau i arsylwi cyfarfodydd y cyngor sir gan aelodau o’r pwyllgor safonau, gofynnodd David Davies a fyddai modd rhannu datganiad gydag aelodau’r Pwyllgor ar ddechrau cyfarfodydd. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro ei fod wedi gofyn i Nicola Gittins baratoi drafft a’i gyfathrebu i aelodau.

 

Cofnod rhif 26 - adroddodd y Cadeirydd y byddai adroddiad pellach yn yr eitem hon wedi’i gynnwys ar y Rhaglen yn eitem 9.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir

22.

Goddefebau pdf icon PDF 97 KB

Derbyniwyd un gan y Cynghorydd Debbie Owen ac mae ynghlwm wrth yr agenda.

 

Bydd aelodau'r wasg / y cyhoedd yn gallu aros yn y cyfarfod tra bydd cais am ryddhad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor a bydd yn gallu dychwelyd i glywed penderfyniad y Pwyllgor. Fodd bynnag, o dan Baragraff 18C Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 bydd y Pwyllgor yn gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod tra bydd yn ystyried unrhyw gais am ryddhad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyflwyno’r eitem hon, esboniodd y Swyddog Monitro fod y cais am oddefebau wedi cael ei dderbyn gan y Cynghorydd Debbie Owen, a oedd yn ceisio datrys problem mewn perthynas â ffiniau ei heiddo, a oedd wedi bod yn barhaus ers sawl blwyddyn. Yn dilyn negeseuon e-bost gyda’r Cynghorydd Owen, cynghorodd y Swyddog Monitro ei bod yn cyflwyno cais am oddefeb. Esboniwyd bod y Cynghorydd Owen yn dymuno siarad â swyddogion i’w galluogi i brynu tir ger ei heiddo gan y Cyngor. Oherwydd ei rôl fel cynghorydd, roedd risg yn bodoli y byddai cynghorwyr yn teimlo fel nad ydynt yn gallu trafod materion gyda hi, a byddai dilysrwydd pryniant y tir, yn ei dro, yn gallu bod yn agored i gwestiynau. Dymunodd y Cynghorydd Owen ysgrifennu at, a siarad yn uniongyrchol gyda’r swyddogion i ganfod datrysiad. I gynorthwyo’r Pwyllgor, darparodd y Swyddog Monitro wybodaeth ar oddefebau blaenorol a oedd wedi cael eu hystyried gan y Pwyllgor, a’r datrysiadau a wnaed. Roedd yr oddefeb hon yn effeithio’r Cynghorydd Owen yn uniongyrchol, a darparodd y Swyddog Monitro ganllawiau ar sut i fynd i’r afael â hyn.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst ar oblygiadau hawliau dynol, esboniodd y Swyddog Monitro nad oedd Erthygl 1, Protocol 1 yn gymwys. Efallai bod goblygiadau dan Erthygl 8, a esboniwyd.

 

Cafwyd cynnig i fynd i sesiwn gaeedig, cymeradwywyd y cynnig gan Mark Morgan, ac fe’i eiliwyd gan David Davies.


PENDERFYNWYD

 

Bod y Pwyllgor yn penderfynu caniatáu goddefeb i ganiatáu i’r Cynghorydd Owen siarad â, ac ysgrifennu at swyddogion. Wrth siarad â swyddogion, mae’n rhaid i dyst annibynnol a swyddog arall fod yn bresennol, ac mae’n rhaid cymryd cofnodion. Hyd yr oddefeb fyddai 12 mis.

 

23.

Adroddiadau aro Ymweliadau Aelodau Annibynnol â Chynghorau Tref a Cymuned

Derbyn adroddiadau ar lafar gan Aelodau Annibynnol y Pwyllgor am eu hymweliadau i’r cynghorau canlynol:

 

·         Cyngor Tref y Fflint (Jacqueline Guest 20.03.23)

·         Cyngor Tref Shotton (Jacqueline Guest – 03.04.23)

·         Cyngor Tref Queensferry (Jacqueline Guest 09.05.23)

·         Cyngor Tref Penarlâg (Jacqueline Guest 10.07.23)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd y Cadeirydd aelodau o’r pwyllgor i gyflwyno eu hadroddiadau ar yr ymweliadau canlynol:

 

·         Jacqueline Guest - Cyngor Tref y Fflint ar 20 Mawrth

 

·         Jacqueline Guest - Cyngor Tref Shotton ar 3 Ebrill

 

            Gofynnodd David Davies a oedd yn hysbys pa eitem ar y rhaglen oedd gan y cyhoedd ddiddordeb ynddi. Cadarnhawyd fod wyth aelod yn bresennol a oedd yn mynychu i arsylwi’r cyfarfod.

 

·         Jacqueline Guest – Cyngor Cymunedol Queensferry ar 9 Mai

           

            Gofynnodd David Davies a oedd aelod o’r cyhoedd yn cael y cyfle i siarad. Cadarnhawyd fod y Cadeirydd wedi symud yr eitem i fyny’r rhaglen, fel eu bod yn gallu siarad gyntaf ac yna gadael y cyfarfod. Cafwyd trafodaeth dda i ddilyn gyda’r aelod o’r cyhoedd yn codi pryderon. Yna, gadawodd y cyfarfod, yn teimlo fel bod ei bryderon wedi cael eu clywed.

 

            Adroddodd o Swyddog Monitro, ers y cyfarfod hwn, roedd wedi cael ei hysbysu bod newid i Glerc y Cyngor Cymuned hwn.

 

·         Jacqueline Guest – Cyngor Cymuned Penarlâg ar 10 Gorffennaf

 

Awgrymwyd y pwyntiau canlynol a oedd i’w bwydo’n ôl i gefnogi Cynghorau Tref a Chymuned yn eu gweithdrefnau:

 

·         Er y gellir datgan cysylltiad ar unrhyw adeg, roedd hi’n arfer da cyflwyno datganiadau cysylltiad ymlaen llaw ar y rhaglen, cyn trafod eitemau.

·         Arweiniodd waith tîm da rhwng y Cadeirydd a’r Clerc mewn cyfarfodydd llyfn.

·         Roedd yn well nad oedd trafodaethau ymysg ei gilydd fel bod pawb yn gallu clywed yr holl bwyntiau a godwyd yn ystod y cyfarfod.

·         Ni ddylid ymgymryd â gweinyddiaeth y Cyngor mewn cyfarfodydd cyhoeddus.

 

            Gofynnodd Jaqueline Guest a oedd posib iddi drefnu ail ymweliad â Chyngor Cymuned Queensferry. Teimlodd y Cadeirydd y dylid gadael hyn am dipyn, i alluogi’r clerc newydd feithrin perthynas gwaith gyda’r Cyngor. Roedd David Davies yn teimlo ei fod yn bwysig gadael yr ymweliad am rhai misoedd i ganiatáu i’r clerc ymsefydlu.

 

            Dywedodd y Cadeirydd y gellir edrych ar hyn eto ymhen rhai misoedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiadau llafar a rhoi adborth i’r Cynghorau Tref a Chymuned.

 

24.

Canlyniadau'r Arolwg ar Gynhyrchu Cylchlythyron Cynghorwyr pdf icon PDF 103 KB

Cynhelir arolwg bob tymor y Cyngor, i weld a yw Aelodau angen/ eisiau defnyddio adnoddau’r Cyngor i gyhoeddi Newyddlenni ar gyfer eu Ward. Bwriad yr adroddiad hwn yw darparu canlyniadau'r arolwg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, amlinellodd y Swyddog Monitro fod gwaith yn mynd rhagddo i edrych ar adolygiad parhaus o ddogfen y Cyfansoddiad, sy’n cynnwys Codau a Phrotocolau. Mae’r Protocol ar gyfer Newyddlenni Cynghorau’n nodi nad yw adnoddau’r cyngor yn cael eu defnyddio i lunio’r rhain, gyda chynghorwyr yn llunio un eu hunain, gan fod hyn yn caniatáu rhagor o ryddid i fynegi eu barn a phwyntiau gwleidyddol. Esboniodd y datblygwyd y protocol yn dilyn arolwg o gynghorwyr, a bod hwn yn arolwg a ailadroddwyd i sefydlu a oedd hyn yn farn gyfredol. Dim ond tair ymateb ar ddeg a gafwyd, gyda’r mwyafrif yn cytuno i beidio defnyddio adnoddau’r cyngor. Amlinellodd y Swyddog Monitro’r dewisiadau er ystyriaeth y pwyllgor, a oedd i ail gadarnhau’r protocolau ar y sail honno, gellir gofyn i gynghorwyr eto i weld a fyddai rhagor o ymatebion i’r arolwg neu ddiwygio’r arolwg.

            Cynigodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst y dylid ail gadarnhau’r protocol cyfredol. Eiliodd y Cynghorydd Anthony Wren.

PENDERFYNWYD

 

(a)         Bod y protocol cyfredol sy’n gwahardd defnyddio TG y Cyngor i lunio

            newyddlenni’r cynghorwyr yn parhau i fod ar waith.

(b)         Tynnwyd sylw’r cynghorwyr o’r ddarpariaeth sy’n eu caniatáu i lunio adroddiad blynyddol a fyddai’n cael ei gyhoeddi ar wefan y cyngor.

 

25.

Eitemau ar agenda’r Cyfarfod Cyswllt Moesegol nesaf pdf icon PDF 75 KB

Gofyn i Aelodau awgrymu pynciau i’w trafod yn y cyfarfod nesaf rhwng y Cadeirydd/Is-gadeirydd o’r Pwyllgor a’r Uwch Gynghorwyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd yr adroddiad, a oedd yn ceisio awgrymiadau ar gyfer eitemau ar y rhaglen i’w trafod yn y Cyfarfod Cyswllt Moesegol nesaf, rhwng y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd ac Uwch Gynghorwyr. Cyfeiriodd y Cadeirydd ar y canllawiau statudol ac anstatudol ar gyfer prif Gynghorau Cymru, a oedd wedi cael ei diwygio’n ddiweddar gan y Gweinidog Cyllid a’r Llywodraeth Leol. Amlygwyd yr adrannau sy’n berthnasol i’r Pwyllgorau Safonau, a’r canllawiau sy’n berthnasol i Arweinwyr Gr?p a dyletswyddau’r Pwyllgor Safonau yn benodol. Cyfeiriodd pwynt 6.4 at gyfarfod y Pwyllgor Safonau gyda’r Arweinwyr Gr?p ar ddechrau bob blwyddyn y Cyngor i gytuno ar nifer o faterion, a chadarnhau amlder y cyfarfodydd gydag Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol drwy gydol y flwyddyn. Amlinellodd y Cadeirydd y dyletswyddau sy’n cael eu nodi yn y canllawiau, a dywedodd, er bod y Pwyllgor wedi cwrdd ag arweinwyr y grwpiau unigol wrth edrych ar eu hadroddiadau blynyddol, nid oedd hyn yn cael ei wneud ar ddechrau bob blwyddyn y cyngor, a bod angen cofio hyn.

 

            Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad, ac awgrymodd y dylid trafod y canlynol yn y cyfarfod:

1.    Adborth ar broses yr adroddiad blynyddol cyntaf

2.    Cais am hyfforddiant gan un o’r arweinwyr gr?p ar gyfathrebu parchus ar y cyfryngau cymdeithasol, ond roedd y Swyddog Monitro’n teimlo y dylai fod yn ehangach i gynnwys bob gohebiaeth. Bod angen cwmpasu rhyddid mynegiant gwleidyddol, a oedd yn tanategu beth oedd yn dderbyniol dan y Cod, a dealltwriaeth fanylach o rolau’r Cynghorwyr a’r Swyddogion. Mae CLlLC yn cynnig hyfforddiant, ac efallai y byddai’r Cyngor yn dymuno efelychu gwaith a oedd yn cael ei wneud gan awdurdod cyfagos.

3.    Yna, cyfeiriodd y Swyddog Monitro at brawf dau gam yr Ombwdsmon ar gyfer camau gweithredu gorfodi, a oedd yn cyd-fynd â’r trafodaethau ynghylch beth oedd neu nad oedd yn achos o dorri’r Cod. Weithiau, efallai byddai’r Ombwdsmon yn penderfynu bod achos o dorri’r Cod, ond nad oedd angen camau gweithredu er budd y cyhoedd. Ni ddylai canfyddiad i’r fath gael ei ystyried fel cadarnhad o’r ymddygiad sy’n destun i’r cwyn.

 

            Gofynnodd y Cadeirydd am eglurhad pan roedd cyfarfod ar y cyd gydag Arweinwyr Gr?p yn debygol o gael ei gynnal. Yr arfer ar hyn o bryd oedd y byddai cyfarfod yn cael ei drefnu ym mis Mawrth / Ebrill i ystyried blwyddyn flaenorol y Cyngor er mwyn paratoi ar gyfer adroddiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn honno. Gofynnodd y Cadeirydd am gadarnhad y dylai’r pwyllgor cyfan gwrdd ag Arweinwyr Gr?p cyn dechrau blwyddyn y Cyngor. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod hynny’n gywir.

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan Jacqueline Guest a'r Cynghorydd Antony Wren.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Cymeradwyo’r rhaglen ddrafft ar gyfer y Cyfarfod Cyswllt Moesegol nesaf.

(b)      Y dylid cael cymeradwyaeth ar gyfer y rhaglen derfynol gan y Prif Swyddog Llywodraethu mewn ymgynghoriad ag aelodau’r cyfarfod.

 

26.

Cyhoeddiad ‘Ein Canfyddiadau’ Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf icon PDF 81 KB

Ystyried crynodeb o achosion oedd a wnelont â honiadau o dorri Cod Ymddygiad yr Aelodau (‘y Cod’), fel y cyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC)yn ei gyhoeddiad “Ein Canfyddiadau” (“Ein Canfyddiadau”).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad, cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod yr adroddiad yn cynnwys y cyfnod hyd at 10 Awst, a byddai canfyddiadau y cyhoeddwyd ers hynny’n cael eu cynnwys yn yr adroddiad nesaf. Erbyn hyn, mae gan yr Ombwdsmon gronfa ddata o benderfyniadau y gellir ei phori ar ei wefan yn hytrach na chyhoeddi adroddiad cyson. Roedd y wefan yn ddefnyddiol at ddibenion gwaith ymchwil, ond roedd yn llai darllenadwy wrth baratoi’r achosion ar gyfer Aelodau. Roedd y Swyddog Monitro wedi echdynnu ac atodi’r holl faterion yn ymwneud â’r Cod, gydag wyth achos wedi’u hatodi gyda chrynodeb o ganfyddiadau. Roedd ystod eang o achosion, ac yn sensitif i, neu’n cael eu llywio gan ffeithiau bob achos. Nid oedd modd dod o hyd i themâu. Serch hynny, cynghorodd y Swyddog Monitro, er gwaethaf absenoldeb themâu'r achosion, efallai y byddai’n bosibl i’r Pwyllgor nodi negeseuon a deimlwyd oedd yn bwysig i’r Cynghorwyr.

 

            Cyfeiriodd David Davies at dudalen 33 yr achos yng Nghyngor Tref Llanymddyfri, ac roedd eisiau gwybod sut y daethant i benderfyniad am hyd gwaharddiad. Gofynnodd a oedd yr Ombwdsmon wedi darparu canllawiau ar hyd, neu a oedd hyn yn benderfyniad i’r Pwyllgor Safonau. Mewn ymateb, esboniodd y Swyddog Monitro nad oedd tariff na chanllawiau am ddedfrydu, yn wahanol i’r system cyfiawnder troseddol. Roedd cryn dipyn o ddisgresiwn yn perthyn i’r Pwyllgor Safonau, a byddai’n anodd canfod cynseiliau ar gyfer achosion. Roedd yr achosion yn amrywiol ac yn wahanol iawn i’w gilydd, ac nid oedd corff na sefydliad i geisio cyflawni mesuriad o gytgord neu undod o ran y dull o weithio ar draws Pwyllgorau Safonau. Nid oedd ffordd o gymedroli’r penderfyniadau a wnaethant.

 

            Roedd y Cadeirydd yn deall nad oedd thema glir yn perthyn i’r achosion hyn, ond gofynnodd a oedd unrhyw beth a allai’r Swyddog Monitro ystyried fel pwnc da ar gyfer hyfforddiant, neu newidiadau wrth adolygu protocolau. Mewn ymateb, nid oedd y Swyddog Monitro’n sicr, gan ddweud fod yr achos hirach yn trafod perthynas rhwng swyddog ac aelod a drafodwyd yn y 5 mlynedd diwethaf gyda rheolau clir yn gymwys. Roedd nifer o achosion yn trafod cyn aelodau, a dyna’r rheswm pam roedd cyfyngiad mewn perthynas â lefel y gosb a roddwyd. Roedd yn teimlo fod achosion yn eithaf cyffredin; nid oeddent yn anarferol neu’n syndod, ac yn ystyried y byddai aelod a oedd wedi cael ei gosbi’n deall pam nad oedd hyn yn dderbyniol dan y Cod.

 

Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Mark Morgan ac Andrew Parkhurst.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn adolygu’r achosion a oedd wedi’u crynhoi yn atodiad yr

adroddiad, a nodi unrhyw broblemau neu themâu a oedd angen eu codi

gyda phob cynghorydd.

 

 

27.

Trosolwg o Gwynion Moesegol pdf icon PDF 87 KB

Bod y Pwyllgor yn nodi'r nifer a'r mathau o gwynion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn rhagor o benderfyniadau ers paratoi’r adroddiad, ond y byddant yn cael eu hadrodd mewn cyfarfod arall. Er mwyn cynorthwyo Aelodau, roedd wedi lliwio’r achosion a oedd eisoes wedi cael eu hystyried yn llwyd.

 

  Rhoddwyd trosolwg o’r cwynion a dderbyniwyd, ac amlygwyd gwybodaeth y rhai oedd yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd, a’r nifer o gwynion a wrthodwyd o’r cychwyn cyntaf gan yr Ombwdsmon ar sail diffyg tystiolaeth. Roedd hyn yn rhan o brawf dau gam yr Ombwdsmon, gyda gwybodaeth o’r dystiolaeth a’r broses eu hangen ynghyd â’r manylion a oedd wedi’u cynnwys yn y llythyrau gwrthod. Roedd yn anodd nodi themâu penodol, ond roedd elfennau o fwlio, sef yr unig thema amlwg.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a oedd yn amlygu cynnydd yn y nifer o gwynion a gafwyd mewn perthynas â chydraddoldeb a pharch. Gofynnodd a oedd y Swyddog Monitro’n teimlo fod hy yn cael ei adlewyrchu yng nghwynion Sir y Fflint. Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog Monitro fod dwy neu dair cwyn wedi cynnwys bwlio, a oedd yn cyd-fynd â chydraddoldeb a pharch, ac fe’i adroddwyd fel achos o dorri’r Cod.

 

Yna, cyfeiriodd y Swyddog Monitro at yr Adroddiad Cryno, a oedd yn ymwneud â chwyn yn dilyn Etholiad llynedd. Darparwyd trosolwg o’r gwyn, ynghyd â chyfeiriad at ei effaith ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd yr achwynydd, yn dilyn blwyddyn yn y swydd, wedi gofyn i’r Ombwdsmon dynnu’r gwyn yn ôl. Roedd yr Ombwdsmon wedi ystyried hyn, ond dywedodd fod y term “prynwyd’ a oedd wedi cael ei ddefnyddio mewn negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, yn amharchus ac wedi dwyn anfri ar yr awdurdod.  Byddai’r achos hwn wedi mynd i wrandawiad oherwydd y derminoleg a ddefnyddiwyd. Roedd y gwyn yn cynnwys elfen o fwlio, ond nid oedd yr Ombwdsmon yn cefnogi hyn, ond daeth i’r casgliad ei fod yn amharchus ac yn awgrymu anweddustra. Oherwydd yr ymddiheuriad cyhoeddus ar y cyfryngau cymdeithasol, a’r achwynydd yn dymuno peidio parhau â hyn, ni chafodd yr achos wrandawiad. Yn ôl canfyddiadau’r Ombwdsmon, bu achos o dorri’r Cod. Byddai’r crynodeb yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr Ombwdsmon, ac yn cael ei gyfeirio i’r adroddiadau “fy nghanfyddiadau” nesaf. Roedd y Swyddog Monitro wedi gofyn i’r Ombwdsmon am adroddiad manylach er mwyn ei rannu gyda’r Pwyllgor mewn sesiwn breifat, ond roedd yn dal i ddisgwyl ymateb.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr adroddiad a fyddai’n cael ei gyhoeddi ar wefan yr Ombwdsmon, a gofynnodd a oedd gofyn i’r Pwyllgor Safonau a’r Cyngor Sir gyhoeddi unrhyw beth ar ei wefan ei hun. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro nad oedd, gan mai’r unig ofyniad oedd cyhoeddi canlyniad gwrandawiad gan Banel Dyfarnu Cymru.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd yn ôl i’r adborth yn yr adroddiad cryno, ac wrth aros am yr adroddiad manylach, gofynnodd a ddylid ystyried unrhyw hyfforddiant penodol. Roedd y Swyddog Monitro yn teimlo y gellir ymdrin â hyn gyda’r hyfforddiant a ddarperir.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y  ...  view the full Cofnodion text for item 27.

28.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 61 KB

Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffodd y Swyddog Monitro’r Aelodau bod cyfarfod ar y cyd gyda’r Cynghorau Tref a Chymuned wedi’i drefnu ar gyfer 6 Tachwedd, 2023. Byddai’n ysgrifennu at y Clercod i ganfod a gawsant unrhyw broblemau yr oeddent yn dymuno eu trafod yn y cyfarfod.

 

Awgrymodd y Cadeirydd yr eitemau canlynol :-

 

·         bod yr adborth o’r cyfarfod ar y cyd gyda’r Arweinwyr Gr?p ar gyfarfod 6 Hydref yn cael ei gynnwys.

·         bod cofnodion y Fforwm Cenedlaethol yn cael eu rhannu gydag aelodau’r Pwyllgor Safonau.

·         bod y penderfyniad o’r ymgynghoriad ar weithredu Adolygiad Penn yn cael ei gynnwys.

·         bod yr adborth o’r cyfarfod Cyswllt Moesegol yn cael ei gynnwys ar gyfer cyfarfod mis Tachwedd.

 

Gofynnodd Jaqueline Guest a oedd modd i’r adborth o’i hail ymweliad i Gyngor Cymuned Bagillt gael ei gynnwys ar raglen cyfarfod 6 Tachwedd. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai, a gellir ei ymgorffori o fewn y crynodeb, a chipolwg o’r holl gyfarfodydd a’r cyngor a ddarparwyd.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan Mark Morgan ac fe’i eiliwyd gan Jacqueline Guest.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd.

 

29.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 6.30pm a daeth i ben am 8.24 pm).

 

 

 

…………………………

Cadeirydd