Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Nicola Gittins / 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

51.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cynghorydd Ian Papworth ei fod yn datgan cysylltiad yn eitem 4 ar y rhaglen, gan ei fod wedi gwneud cais am oddefeb. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at eitem 7 a chadarnhaodd ei fod yn mynychu cyfarfodydd Cyngor Cymuned Nannerch yn rheolaidd, yn ei rôl fel aelod etholedig. 

 

52.

Cofnodion pdf icon PDF 101 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 9 Ionawr 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2023 i’w cymeradwyo.

Materion yn codi

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at Adran 20, Safon Sir y Fflint, gan ofyn pryd y byddai’n cael ei adolygu ac os nad oedd wedi’i restru ar gyfer adolygiad, a fyddai modd ei gynnwys yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.    Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y gellid ei gynnwys ar yr amserlen.  

            Cyfeiriodd Gill Murgatroyd at eitem 48, y trosolwg o gwynion moesegol, gan holi a oedd yna ddiweddariad ar hyn. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai diweddariad yn cael ei ddarparu pan fyddai’r adroddiad nesaf yn cael ei gyflwyno. 

Cafodd y cofnodion eu cymeradwyo fel cofnod cywir, fel y’u cynigiwyd gan Gill Murgatroyd a’u heilio gan y Cynghorydd Ian Papworth. 

PENDERFYNWYD:

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.  

 

 

53.

Goddefebau pdf icon PDF 270 KB

To receive any requests for dispensations.

 

Members of the press/public will be able to remain at the meeting whilst an application for dispensation is presented to the Committee and will be able to return to hear the Committee’s decision.  However, under Paragraph 18C Schedule 12A Local Government Act 1972 the Committee will exclude the press and public from the meeting whilst it deliberates on any application for a dispensation.

 

 

Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.

 

Bydd aelodau'r wasg / y cyhoedd yn gallu aros yn y cyfarfod tra bydd cais am ryddhad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor a bydd yn gallu dychwelyd i glywed penderfyniad y Pwyllgor. Fodd bynnag, o dan Baragraff 18C Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 bydd y Pwyllgor yn gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod tra bydd yn ystyried unrhyw gais am ryddhad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd bod un cais am oddefeb wedi’i dderbyn gan y Cynghorydd Ian Papworth, a’i fod yn cael ei glywed o dan 18C, Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. Byddai aelodau o’r wasg a’r cyhoedd yn cael aros yn y cyfarfod wrth i’r cais gael ei gyflwyno, ond byddent yn cael eu symud i’r cyntedd tra byddai’r pwyllgor yn ymgynghori ac yna’n dychwelyd i glywed y penderfyniad.  

Eglurodd y Swyddog Monitro bod hyn yn ymwneud â Neuadd Goffa Trelawnyd.  Roedd hyn yn destun newidiadau llywodraethu gyda’r Cyngor Cymuned, gan fod y landlord, sy’n dymuno rhoi prydles newydd i Gymdeithas Gymunedol Trelawnyd, sef gwraig y Cynghorydd Papworth, yn aelod o’r pwyllgor. Roedd yn sefydliad elusennol a oedd yn cymryd prydles ased cyhoeddus i’w gynnal fel gwasanaeth cyhoeddus. Gan fod gwraig y Cynghorydd Papworth yn ymwneud â pharagraff 10(2)(c) o’r Cod, sy’n datgan bod unrhyw fater sy’n effeithio ar les neu sefyllfa ariannol aelod o’r teulu yn creu cysylltiad personol iddo. Roedd hyn yn gysylltiedig â phrydles sefydliad yr oedd ei wraig yn ei reoli, ac a fyddai’n arwain at gysylltiad personol sy’n rhagfarnu i’r Cynghorydd Papworth, fel ei g?r. 

 

Eglurodd y Cynghorydd Ian Papworth fod hyn yn achosi problemau o fewn y Cyngor Cymuned, gan fod 9 aelod arno ond dwy sedd wag ar hyn o bryd. Eglurodd fod pedwar aelod o’r Cyngor yn aelodau o’r Gymdeithas Gymunedol, gan olygu pryd bynnag y bydd angen cynnal pleidlais ar y Gymdeithas Gymunedol neu’r neuadd bentref, a bod cysylltiad yn cael ei ddatgan, ni fyddai cworwm gan y Cyngor. Roedd y Gymdeithas Gymunedol wedi arwyddo prydles 27 mlynedd i gynnal y neuadd bentref a chodwyd materion ynghylch rheoli ac yswiriant adeilad. Fel priod ysgrifennydd yr elusen, roedd ganddo gysylltiad sy’n rhagfarnu, ond nid oedd yn elwa dim o’r elusen ac nid oedd ganddo unrhyw rôl o wneud penderfyniadau o fewn yr elusen. Roedd hyn yn broblemus oherwydd, pe bai aelodau Cymdeithas Gymunedol Trelawnyd yn cael eu heithrio o’r cyfarfod, ni fyddai modd i’r Cyngor gynnal ei fusnes gan fod angen 4 aelod ar gyfer pleidleisio a rhoddodd amlinelliad o gydbwysedd gwleidyddol y pedwar aelod a oedd yn weddill.  

 

Cododd y Swyddog Monitro dri chwestiwn manwl o sylwadau’r Cynghorydd Papworth:-

·         A allai deall pryd y gallai’r ddwy sedd wag gael eu llenwi, gynorthwyo’r mater o ran cworwm?

·         A gafodd y cynghorwyr ar Gymdeithas Gymunedol Trelawnyd eu henwebu gan y Cyngor Cymuned?

·         A oedd Cymdeithas Gymunedol Trelawnyd yn chwilio am gymorth ariannol gan y Cyngor, ac os felly, a oedd hynny’n werth £500 neu lai?

 

Mewn ymateb, eglurodd y Cynghorydd Papworth fod dau unigolyn wedi rhoi eu henwau ymlaen, ond y byddai’n ddau neu dri mis cyn iddynt ddechrau yn eu swyddi. Gan gyfeirio at yr ail bwynt, dywedodd y Cynghorydd Papworth nad oedd tri aelod, gan gynnwys ef ei hun, yn cynrychioli’r Cyngor ar Gymdeithas Gymunedol Trelawnyd. Roedd un aelod, y Cadeirydd, yn aelod o Gymdeithas Gymunedol Trelawnyd, ond roedd hefyd yn cynrychioli’r Cyngor. Dywedodd y Swyddog Monitro fod gan  ...  view the full Cofnodion text for item 53.

54.

Arolwg Cynhyrchu Newyddlenni Cynghorwyr pdf icon PDF 79 KB

Cynhelir arolwg bob tymor y Cyngor, i weld a yw Aelodau angen/ eisiau defnyddio adnoddau’r Cyngor i gyhoeddi Newyddlenni ar gyfer eu Ward. Diben yr adroddiad hwn yw ceisio cymeradwyaeth i wneud hynny’r tymor hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd yr adroddiad hwn ac eglurodd bod arolwg o gynghorwyr yn cael ei gynnal bob tymor cyngor, er mwyn sefydlu a ydynt yn dymuno defnyddio adnoddau’r Cyngor i gyhoeddi eu newyddlenni ward. Diben yr adroddiad hwn oedd ceisio cymeradwyaeth i gynnal yr arolwg y tymor hwn.

            Eglurodd y Swyddog Monitro bod hyn yn cael ei adolygu bob tymor a bod y Cynghorwyr wedi penderfynu yn ystod y ddau dymor diwethaf i beidio â chaniatáu defnyddio adnoddau’r Cyngor. Yna darllenodd baragraff 7 y Cod, gan ddweud bod rôl gyhoeddus gan Gynghorwyr i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’w preswylwyr ynghylch beth sy’n digwydd yn y Cyngor, yn ogystal â rhoi amlinelliad o’r hyn maent wedi bod yn ei wneud yn eu wardiau. Roedd rhaid i Gynghorwyr fod yn ofalus eu bod yn rhannu gwybodaeth, yn hytrach na mynegi eu barn bersonol neu wleidyddol eu hunain. Dyma un o’r rhesymau pam na chafodd adnoddau’r Cyngor erioed eu defnyddio i lunio newyddlenni, gan fod y Cynghorwyr a oedd yn eu darparu eisiau rheolaeth dros yr hyn a oedd yn cael ei gynnwys ynddynt. Byddai angen fetio newyddlenni pe bai adnoddau’r Cyngor yn cael eu defnyddio. Dywedodd y Swyddog Monitro efallai y byddai’r Cynghorwyr newydd â barn wahanol am hyn. Byddai angen i’r Pwyllgor ystyried pa gyfyngiadau y dylid eu gosod ar y cyhoeddiadau ac ai mater syml o egwyddor fyddai a ydym ni’n dymuno newid polisi’r Cyngor ar hyn ai peidio.   Dywedodd bod arolwg blaenorol wedi’i gynnal gyda’r cwestiynau sydd wedi’u hatodi yn Atodiad 2, ac y byddai’r rhain yn cael eu cynnwys yn yr arolwg a’u dosbarthu i’r Cynghorwyr. Unwaith y byddai pob ymateb wedi dod i lawn, gallai’r Pwyllgor benderfynu ar y camau nesaf.

            Mewn ymateb i gwestiwn er eglurder gan David Davies, dywedodd y Swyddog Monitro y gallai’r cwestiwn ofyn “ydych chi’n llunio newyddlen yn eich rôl fel cynghorydd sir neu gyda chynghorwr neu gynghorwyr eraill”. Gellid cynnwys hyn yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pe bai’r pwyllgor yn penderfynu anfon yr arolwg.

            Roedd y Cynghorydd Antony Wren o’r farn, gan ei fod yn gyngor newydd, y dylid ei anfon er mwyn sicrhau bod yr holl Gynghorwyr newydd yn cytuno â’r sefyllfa bresennol. Cytunodd y Cynghorydd Teresa Carberry mai’r Cyngor newydd ddylai wneud y penderfyniad. 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at gwestiwn 1, gan holi a ddylid cynnwys y geiriau “ydych chi’n bwriadu llunio newyddlen”, gan nad oedd nifer o Gynghorwyr newydd o bosib wedi ystyried anfon newyddlen.

Yna gofynnodd y Cadeirydd am gynigydd bod yr arolwg yn cael ei anfon a chafodd ei gynnig gan y Cynghorydd Antony Wren a’i eilio gan y Cynghorydd Teresa Carberry.

 

Dywedodd y Cadeirydd, gan fod cytundeb i anfon y rhain, a fyddai modd cynnwys y canlyniadau yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, er mwyn i’r pwyllgor ystyried unrhyw farn a newidiadau a wnaed yn yr arolwg.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro, unwaith y byddai canlyniadau’r arolwg yn dod i law, y byddai’n galluogi gwell dealltwriaeth o’r hyn sydd ei angen gan y Cynghorwyr. Pe bai’r Cyngor  ...  view the full Cofnodion text for item 54.

55.

Adolygiad Treigl o God Ymddygiad Gweithwyr pdf icon PDF 84 KB

Fel rhan o’r adolygiad treigl o’r Cyfansoddiad, mae angen i ni ystyried a oes angen unrhyw ddiwygiadau i’r Cod Ymddygiad i’w ddiweddaru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Ymddiheurodd y Swyddog Monitro, gan ddweud bod yr adroddiad sydd wedi’i atodi i’r papurau yn anghywir, gan mai dyma’r fersiwn a gyflwynwyd yn y cyfarfod diwethaf.  

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Ian Papworth bod hyn yn cael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst ac roedd y Pwyllgor yn cytuno.

 

PENDERFYNWYD:                                       

Gohirio’r adroddiad hwn tan y cyfarfod nesaf. 

56.

Adroddiadau o Ymweliadau Aelodau Annibynnol  Chynghorau Tref/Cymuned

Derbyn adroddiadau ar lafar gan Aelodau Annibynnol y Pwyllgor am eu hymweliadau i’r cynghorau canlynol:

 

·         CyngorCymuned Penyffordd (Mark Morgan – 14.12.22)

·         CyngorCymuned Llanfynydd (Julia Hughes – 16.01.23)

·         CyngorCymuned Ysceifiog (David Davies – 16.01.23)

·         CyngorCymuned Nannerch (David Davies – 01.02.23)

·         CyngorCymuned Gwernymynydd (David Davies – 16.02.23)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd y Cadeirydd aelodau o’r pwyllgor i gyflwyno eu hadroddiadau ar ymweliadau â Chynghorau Tref a Chymuned. 

Rhoddodd Mark Morgan ddiweddariad ar ei ymweliad â Chyngor Cymuned Penyffordd ar 14 Rhagfyr 2022.

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad ar ei hymweliad â Chyngor Cymuned Llanfynydd ar 16 Ionawr 2023.

Rhoddodd David Davies ddiweddariad ar ei ymweliad â Chyngor Cymuned Ysceifiog ar 16 Ionawr 2023. 

Rhoddodd David Davies ddiweddariad ar ei ymweliad â Chyngor Cymuned Nannerch ar 1 Ionawr 2023. 

Rhoddodd David Davies ddiweddariad ar ei ymweliad â Chyngor Cymuned Gwernymynydd ar 16 Chwefror 2023.

 

            Yn ystod trafodaeth ynghylch ymddygiad mewn cyfarfodydd, cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod rhaid i bob cyngor lunio cynllun hyfforddiant ar gyfer ei gynghorwyr o dan Ddeddf Etholiadau Llywodraeth Leol Cymru 2021. Yr Awdurdod oedd yn darparu elfen y Cod ar gyfer hynny, ond nid elfen y Cadeirydd. Dywedodd ei fod, fel rhan o’r hyfforddiant, wedi pwysleisio’r pwyntiau allweddol sef trafod neu fynd i’r afael â sylwadau trwy’r Cadeirydd gyda chadeirio da a chyfarfodydd sy’n cael eu cynnal yn dda, gan ddirymu cyfarfodydd cynhyrfiol.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Teresa Carberry bod cynghorau sy’n rhan o Un Llais Cymru yn gallu cael mynediad at fodiwl hyfforddiant ar gyfer sgiliau cadeirio.  

 

Yn dilyn trafodaeth hir ar awgrymiadau i’w hadrodd yn ôl i gefnogi Cynghorau Tref a Chymuned, cytunwyd ar y geiriad canlynol:-

 

            “Trwy drafodaeth drefnus, gall cynghorau leihau’r risg o dorri’r cod. Y ffordd orau o gyflawni hyn oedd siarad trwy’r cadeirydd, gan sicrhau bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal mewn modd trefnus, ac nad oedd pobl yn siarad ar draws ei gilydd, a bod y Cadeirydd yn ymdrin ag unrhyw ymddygiad gwael ar unwaith.

Cytunodd y Pwyllgor ar hyn.

 

            Gofynnodd y Cadeirydd i’r Swyddog Monitro faint o gynghorau oedd angen ymweld â nhw eto.   

 

            Cadarnhaodd y Swyddog Monitro eu bod wedi ymweld ag 20 cyngor a bod 14 yn weddill. Roedd hyn yn cynnwys pedwar cyngor, Yr Hôb, Coed-Llai, Treuddyn a Higher Kinnerton, nad oedd wedi cael eu dyrannu gan yr awgrymwyd rhoi’r rhain i’r Cynghorydd Tref a Chymuned newydd unwaith y caiff ei benodi. Cytunodd i ddosbarthu’r rhestr i aelodau’r Pwyllgor. Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai modd i’r aelodau hynny o’r pwyllgor nad oedd wedi ymweld â phob cyngor eto drefnu hynny yn eu dyddiaduron, fel bod modd iddynt ymweld â hwy cyn gynted â phosibl.   Unwaith y byddai’r rhain wedi’u cwblhau, byddai’n rhoi trosolwg i bob cyngor ac yn eu helpu o ran y modd cadarnhaol maent yn gweithredu. 

57.

Adborth gan y Fforwm Cenedlaethol ar gyfer Pwyllgorau Safonau pdf icon PDF 78 KB

Darparu adborth gan Fforwm Cenedlaethol y Pwyllgorau Safonau a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod hyn yn deillio o Adroddiad Penn ac argymhelliad Richard Penn y dylid sefydlu fforwm ar gyfer Cymru gyfan, gyda’r cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal ar 27 Ionawr 2023.

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod Clive Wolfendale o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi’i benodi fel Cadeirydd a bod y dirprwy swyddog monitro o Gaerdydd yn ei gefnogi. Rhoddodd amlinelliad o sut y byddai cymorth gan y Swyddog Monitro’n cael ei ddarparu yn ei dro ledled Gogledd Cymru er mwyn rhannu’r llwyth gwaith. Rhwydwaith a chorff cefnogi oedd hwn ac nid corff gwneud penderfyniadau. Byddai unrhyw beth sydd angen cael ei drafod a chytuno arno yn cael ei adrodd yn ôl i Bwyllgor Safonau pob awdurdod. Roedd yr Ombwdsmon yn bresennol a chafodd ei sylwadau a’i nodiadau eu hatodi i’r rhaglen a darparodd y Swyddog Monitro wybodaeth am y 9 achos, a oedd i’w cyfeirio ar gyfer gwrandawiad yn fuan. Mewn blwyddyn arferol, byddai 4 achos yn cael eu hanfon i wrandawiad, ond eleni roeddent wedi derbyn dwywaith y nifer o gwynion a darparwyd gwybodaeth am yr achosion hirdymor. Oherwydd materion staffio, roedd hyn wedi arwain at oedi gyda rhoi pwysau ar gwblhau’r broses â chwynion. Cytunodd i siarad gyda CLlLC er mwyn gwirio a oedd modd rhannu’r recordiad o’r cyfarfod yn gyfrinachol gydag aelodau’r Pwyllgor Safonau. 

Roedd y Cadeirydd yn bresennol yn y cyfarfod a dywedodd ei fod yn gychwyn defnyddiol iawn i’r fforwm cenedlaethol. Dymunai’r Fforwm i’r rhaglenni gael eu harwain gan y Pwyllgor Safonau a gofynnodd bod unrhyw syniadau sydd gan aelodau’r pwyllgor ar gyfer eitemau, yn cael eu hanfon at y Swyddog Monitro, fel bod modd eu cyflwyno ar gyfer eu hystyried.

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai’r rhaglen yn cael ei threfnu yng Ngr?p y Swyddogion Monitro, cyn cyfarfod nesaf y Fforwm. Byddai pob Swyddog Monitro, yn dilyn trafodaethau yn eu Pwyllgor Safonau, yn cyflwyno eitemau.   Byddai hyn yn nodi unrhyw eitemau cyffredin i’w cyflwyno ac unrhyw eitemau unigol, a fyddai o ddiddordeb i’r Fforwm. Roedd hi’n bwysig bod y Pwyllgorau Safonau yn rheoli hyn, yn hytrach na’r swyddogion. Mae cyfarfod nesaf y pwyllgor wedi’i drefnu ar gyfer mis Mai, gyda’r Fforwm yn cyfarfod ym mis Mehefin. Byddai hyn yn rhoi cyfle i Aelodau ystyried unrhyw eitemau y gellid eu cynnwys ar raglen y Fforwm.

Cytunodd y Cadeirydd, gan ddweud ei bod hi’n bwysig bod unrhyw eitemau yr oedd y pwyllgor yn dymuno eu cyflwyno yn cael eu hystyried. Yna, cyfeiriodd y Cadeirydd at yr ymgynghoriad 12 wythnos, a oedd yn ceisio barn ar argymhelliad Adolygiad Penn gan Lywodraeth Cymru a dywedodd y gellid edrych ar yr adborth ar hyn.

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan Mark Morgan a’u heilio gan Gill Murgatroyd.

PENDERFYNWYD:

(a)          Bod y Pwyllgor yn nodi’r adborth o gyfarfod cyntaf y Fforwm.

(b)          Bod y Pwyllgor yn awgrymu eitemau ar gyfer cyfarfodydd y Fforwm yn y dyfodol.

 

58.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cyfarfodydd a drefnwyd ar 15 Mai a 3 Gorffennaf, a dywedodd y byddai angen cynnwys yr eitem a gariwyd drosodd o’r cyfarfod hwn, sef yr adolygiad o God Ymddygiad Gweithwyr, yn y cyfarfod ar 15 Mai.  

            Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai’r cyfarfod nesaf ar 15 Mai yn cynnwys y Cod Ymddygiad Gweithwyr, eitemau ar gyfer y Fforwm, ac y byddai hefyd angen cynnwys canlyniadau’r arolwg ar newyddlenni a chanlyniadau’r ymgynghoriad 12 wythnos ar farn ynghylch yr Adolygiad Penn gan Lywodraeth Cymru, os oeddent ar gael.

            Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst a fyddai modd ystyried Safon Sir y Fflint ym mis Gorffennaf neu’n hwyrach ymlaen. Roedd y Swyddog Monitro o’r farn y byddai’n eitem dda i’w chyflwyno yng nghyfarfod mis Tachwedd, a oedd yn gyfarfod ar y cyd â Chynghorau Tref a Chymuned.

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan David Davies a’u heilio gan Gill Murgatroyd.

 

PENDERFYNWYD:

Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd.

 

59.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 6:30pm a daeth i ben am 19:52pm).

 

 

…………………………

Y Cadeirydd