Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar gyfer cofnod 39, dywedodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst, er ei fod wedi mynychu cyfarfodydd Cyngor Cymuned Cilcain yn rhinwedd ei swydd fel Aelod Etholedig lleol, nid oedd yn aelod o’r Cyngor Cymuned ac nid oedd ganddo gysylltiadau agos â’r aelodaeth. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 7 Tachwedd 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2022, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan Jacqueline Guest a’r Cynghorydd Ian Papworth.
Materion yn Codi
Cofnod 30 - cadarnhawyd bod adborth ysgrifenedig o’r ymweliadau wedi’u rhannu gyda’r Cynghorau Tref a Chymuned.
Cofnod 31 - dywedodd y Cadeirydd bod cyfarfod cyntaf y Fforwm Cenedlaethol wedi symud i 27 Ionawr 2023 am 2pm. Bu iddi roi trosolwg o eitemau’r rhaglen ar gyfer y cyfarfod hwnnw y byddai Cadeiryddion Pwyllgorau Safonau ar draws Cymru yn cael gwahoddiad iddo, ynghyd â Chadeiryddion Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub.
Cofnod 33 - Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst am amseriad adolygiad nesaf Safon Sir y Fflint y byddai’r Dirprwy Swyddog Monitro yn ceisio cael eglurhad arno. Nodwyd bod hwn yn ffurfio rhan o adolygiad parhaus y Cod Ymddygiad Aelodau a fyddai’n cael ei ohirio o fis Gorffennaf 2023 i ddyddiad yn y dyfodol, yn dilyn yr eitem a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod nesaf.
Cofnod 34 - bydd angen cadarnhad yn y cyfarfod nesaf ynghylch a yw’r wybodaeth am gyhoeddiad ‘Ein Canfyddiadau’ Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus wedi’i rannu â’r Aelodau.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
Goddefebau Derbynunrhyw geisiadau am oddefebau.
Byddaelodau'r wasg / y cyhoedd yn gallu aros yn y cyfarfod tra bydd cais am ryddhad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor a bydd yn gallu dychwelyd i glywed penderfyniad y Pwyllgor. Fodd bynnag, o dan Baragraff 18C Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 bydd y Pwyllgor yn gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod tra bydd yn ystyried unrhyw gais am ryddhad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhaodd y Dirprwy Swyddog Monitro na dderbyniwyd unrhyw geisiadau am oddefebau. |
|
Adroddiadau o Ymweliadau Aelodau Annibynnol  Chynghorau Tref/Cymuned Derbyn adroddiadau ar lafar gan Aelodau Annibynnol y Pwyllgor am eu hymweliadau i’r cynghorau canlynol:
· CyngorCymuned Argoed (Mark Morgan - 01.11.2022) · CyngorCymuned Brynfford (Gill Murgatroyd - 08.11.2022) · Cyngor Tref Caerwys (Gill Murgatroyd - 18.10.2022) · Cyngor Cymuned Cilcain (Julia Hughes - 17.10.2022) · Cyngor Tref Saltney (Mark Morgan - 09.11.2022) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Eglurodd y Cadeirydd beth oedd pwrpas yr eitem a gofynnodd am adborth ar lafar ar yr ymweliadau canlynol:
Cyngor Cymuned Argoed ar 1 Tachwedd 2022 a Chyngor Tref Saltney ar 9 Tachwedd 2022 (Mark Morgan).
Cyngor Tref Caerwys ar 18 Hydref 2022 a Chyngor Cymuned Brynford ar 8 Tachwedd 2022 (Gill Murgatroyd).
Cyngor Cymuned Cilcain ar 17 Hydref 2022 (Cadeirydd).
Codwyd y pwyntiau canlynol a oedd i’w bwydo’n ôl i gefnogi Cynghorau Tref a Chymuned yn eu gweithdrefnau:
· Meysydd o arfer da - roedd yr Aelodau Annibynnol yn falch o weld bod ‘datgan cysylltiadau’ yn eitem sefydlog ar bob rhaglen a bod yr holl gyfarfodydd wedi’u cadeirio’n dda gyda chefnogaeth dda gan Glercod a digon o gyfleoedd i bawb gymryd rhan. · Y byddai’r canlynol yn cael eu gweld fel arfer da: o Cadeiryddion/Clercod i wahodd datganiadau o gysylltiad ar lafar o dan yr eitem benodol honno gan nodi y gall cyfranogwyr ddatgan cysylltiad fel bo angen drwy gydol y cyfarfod. o I egluro’r symiau o arian i’w roi i grwpiau cymunedol (fel y soniwyd mewn cyfarfod penodol) i ddangos tryloywder ac i gynorthwyo aelodau, os bydd mater yn codi ynghylch cysylltiadau posibl. o I sicrhau bod eitemau amhenodol a godwyd gan aelodau yn cael eu rhestru ar raglenni lle bo’n bosibl ac yn cael eu trafod gyda’r Cadeirydd a’r Clerc o flaen llaw i helpu i baratoi yn unol â hynny, i gynorthwyo aelodau gyda chysylltiadau posibl ac osgoi unrhyw oedi o ran trafod y busnes.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan Gill Murgatroyd a Mark Morgan.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiadau llafar a rhoi adborth i Gynghorau Tref a Chymuned. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol. |